PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Size: px
Start display at page:

Download "PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES"

Transcription

1 Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!! Unwaith eto mae gennym straeon gwych i w hadrodd wrthych a gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau. Mae pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth yn parhau yn flaenoriaeth i ni yng Nghonwy a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr. Diolch yn fawr i Nicky o Dîm Partneriaeth Pobl Conwy am baratoi r cylchlythyr, gwaith gwych unwaith eto! Ymarfer sy n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Cyfarfod ar y cyd rhwng PPC/Cyngor Leuenctid/ Rhwydwaith Ymwneud Cyngor leuenctid Conwy Cyfeillion Dementia Gwybodaeth I r Cylchlythyr Cofion, Geraint Davies Cadeirydd Partneriaeth Pobl Conwy Grŵp Canlyniad 7 Conwy Diwrnod Chwarae Manylion Cyswllt

2 Ymarfer sy n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Yn gyntaf, beth mae Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn YCU yn ei olygu? Mae YCU yn broses barhaus o wrando a dysgu ynghylch beth sy n bwysig i (y pethau sy n bwysig iddynt hwy a dod ag ansawdd i fywyd) ac ar gyfer yr unigolyn (y pethau sydd arnynt ei angen i fod yn iach, diogel ac i ddysgu), nawr ac yn y dyfodol gyda r teulu, ffrindiau gyda phobl broffesiynol yn gweithio gyda i gilydd i wneud i hyn ddigwydd. Mae cynllunio n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio orau pan fo n cael ei ddefnyddio o fewn sefydliadau sydd wedi u gwreiddio yn niwylliant YCU. Nid yw n ymwneud â chreu cynlluniau n unig. Pam fod strategaeth wedi i datblygu? Mae gan Ofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy eisiau gweithio gyda i gilydd i ddatblygu Cynllunio n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy. Mae r Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADA) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru yn pwysleisio y dylai gwasanaethau gydweithio a bod yn hyblyg er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc, oedolion a u teuluoedd a gofalwyr yn cael cefnogaeth gydlynedig sy n eu helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Bydd gweithio ynghyd mewn modd sy n canolbwyntio ar yr unigolyn yn: gwella mynediad at ddysgu, gofal a chefnogaeth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o reolaeth gwella canlyniadau i bobl rydym yn gweithio gyda hwy darparu dysgu sy n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal a chefnogaeth gydlynedig gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd gwella bod yn agored a chlir mewn systemau. Nod/Gweledigaeth Sefydlwyd grŵp llywio i oruchwylio a chyfarwyddo datblygu Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy. Mae r grŵp yn bresennol yn cynnwys cynrychiolaeth o: Ofal Cymdeithasol, Seicoleg Addysg, Therapi Galwedigaethol, Conwy Connect, staff a disgyblion Ysgol y Gogarth, Partneriaeth Pobl Conwy a defnyddwyr gwasanaeth eraill: Ein gweledigaeth fel grŵp yw: cael Ymarferion yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn wedi i wreiddio mewn ymarfer sefydliadol bydd cydweithio yn cryfhau: bydd Cynllunio n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn dod â r holl bobl sy n ymwneud â bywyd unigolyn i un lle, i weithio gyda i gilydd i wneud newid cadarnhaol i r unigolyn hwnnw

3 bydd pobl yn dod ynghyd i greu cynllun ystyrlon ar gyfer yr unigolyn. Un cynllun fydd hwn a fydd yn lleihau dyblygu ac ail adrodd gan gyflawni canlyniadau ystyrlon i r unigolyn bydd dull yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy yn helpu pobl i helpu eu hunain, bydd yn canolbwyntio ar alluoedd a chryfderau pobl gan weithio gyda hwy i gyflawni eu canlyniadau unigol ystyrlon bydd Dulliau n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn rhoi r grym i bobl gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau fel eu bod yn gyfrifoldebau sy n cael eu rhannu rhwng dinasyddion, awdurdodau lleol a u partneriaid. Rydym wedi cyflwyno rhaglen hyfforddiant o ansawdd uchel ar draws timau Anabledd Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion a Gwasanaethau Addysg. Mae hyfforddiant gloywi ar y cyd a datblygu cynllun gweithredu wedi i gefnogi yn cael ei ddatblygu nawr, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf. Rydym wedi trefnu rhwydwaith o bencampwyr YCU ym mhob clwstwr o ysgolion yn y sir ac mae gwaith tebyg yn cael ei wneud gan Wasanaethau Cymdeithasol. Y cynllun yw y bydd diwrnodau rhwydweithio ar y cyd yn dilyn. Bydd hyn yn hwyluso lledaenu ymarfer da a hyfforddiant, rheoli ansawdd Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn, cefnogaeth a rhannu problemau ar y cyd. Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth trwy wahanol haenau o dimau rheoli, sicrhau bod y brwdfrydedd a gwaith caled rydym yn ei weld trwy ein gwaith gyda darparwyr gwasanaeth yn gallu cael ei gynnal a i gefnogi.

4 Cyfarfod ar y cyd rhwng PPC/Cyngor Ieuenctid/Rhwydwaith Ymwneud Mae penaethiaid gwasanaeth, aelodau etholedig ac aelodau Partneriaeth Pobl Conwy yn cyfarfod y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad bob blwyddyn i wrando ar adborth ar waith y flwyddyn flaenorol, ymgynghori gyda i gilydd ar bwnc dethol a phleidleisio ar eu blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod. Cychwynnodd y cyfarfod gyda chyflwyniad gan Geraint Davies, cadeirydd Partneriaeth Pobl Conwy. Cafodd ei ddilyn gan gyflwyniad gan aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy a r Rhwydwaith Ymglymiad ynghylch y gwaith a r gweithgareddau maent wedi u gorffen yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd Jane Trowman (Pennaeth Cynllunio, BIPBC) gyflwyniad ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gofal yn nes at y Cartref.

5 Defnyddiwyd ail ran y noson fel gweithdy a chynhaliodd y grwpiau drafodaeth ar Gymunedau ; roeddent yn ystyried cwestiynau ar Beth oeddent yn ei ystyried oedd yn gwneud cymuned dda, Beth yw r heriau / rhwystrau i gymuned dda a Beth fyddai n gwneud gwahaniaeth. Cynhyrchodd y drafodaeth gan y grwpiau amrywiaeth eang o wahanol syniadau ar y pwnc a fydd yn cael eu defnyddio i gyfarwyddo gwaith y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad ynghylch Cymunedau Tosturiol. Ar ddiwedd y digwyddiad cafodd pawb gyfle i bleidleisio ar ba bedwar blaenoriaeth roedd ganddynt eisiau i r Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad weithio arno dros y flwyddyn i ddod. Y flaenoriaeth a ddewiswyd ar gyfer y ddau grŵp oedd Cyffuriau ag Alcohol.

6 Cyngor Ieuenctid Conwy Ers dechrau r tymor mae aelodaeth y Cyngor Ieuenctid wedi cynyddu, gydag aelodau newydd o Ysgol Aberconwy, Ysgol Eirias, Coleg Llandrillo ac o r Gwasanaethau Ieuenctid. Mae r Cyngor Ieuenctid wedi bod yn gweithio yn galed ar eu prosiectau, Iechyd Meddwl a Stigma ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Daeth cynrychiolydd o r Samariaid i siarad am bynciau roedd y Cyngor Ieuenctid yn teimlo oedd yn bwysig iddynt o ran Iechyd Meddwl. Y pynciau oedd Iechyd Emosiynol, Hunan-niweidio, Bwlio a Straen Arholiadau. Bu iddynt benderfynu creu cyflwyniad yn egluro beth yw r pynciau a hefyd beth allant wneud i geisio gwella r sefyllfa. Mae r aelodau wedi bod i ysgolion i gyflwyno i r uwch staff ac wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Gofynnwyd i r Cyngor Ieuenctid gymryd rhan mewn rhai ymgynghoriadau megis Gwneud newidiadau i r etholiad a sut rydym yn pleidleisio i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddynt hefyd wneud newidiadau i r cerdyn pen-blwydd 18 y mae r cyngor yn ei anfon yn bresennol ac maent hefyd wedi rhoi eu barn ar wefan newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gofynnodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru os allant ddod i ymgynghori gyda r Cyngor Ieuenctid am y posibilrwydd o ffurfio Senedd Ieuenctid Cymru. Buont yn siarad am gefndir a hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yna buont yn ymgynghori a rhoi eu barn ar sut y byddai r Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio.

7 Cyn gwyliau r haf aeth y Cyngor Ieuenctid i Glan-llyn, y Bala am ddiwrnod llawn gweithgareddau awyr agored. Yn y bore buont yn gwneud ymarferion adeiladu tîm, yna ymlaen i r cwrs rhaffau uchel. Yn y prynhawn aethant i ganŵio ar lyn Tegid ble cawsant hefyd gyfle i nofio. Ar ôl iddynt sychu aeth yr aelodau yn ôl i mewn i orffen y cyflwyniad iechyd meddwl. Cafodd y Cyngor Ieuenctid gyfle gwych i fynd i wylio Little Mix ym Mharc Eirias. Roeddent yn ffodus iawn o gael ticedi am ddim gan y Cyngor ac fe u gwahoddwyd i r babell VIP i gymysgu gyda phobl ifanc eraill cyn i r cyngerdd gychwyn. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Tuag at ddiwedd gwyliau r haf cafodd y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymwneud gyfarfod ar y cyd yn TAPE, Hen Golwyn i drafod Cymunedau Gwydn. Roedd yn ddiwrnod ardderchog gyda syniadau gwych ar gyfer prosiect newydd. Bu i r Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymwneud wir fwynhau cydweithio a gobeithiant wneud llawer mwy yn y dyfodol.

8 Gwybodaeth i r Cylchlythyr Mae r Rhwydwaith Ymwneud yn datblygu r gwaith i helpu Bae Colwyn i ddod yn le mwy addas i bobl â Dementia. Cynhaliwyd cyfarfod yn llyfrgell Bae Colwyn pan ddaeth Jo Lane o Gymdeithas Alzheimer i helpu pobl ddysgu mwy am y profiad o fyw gyda dementia a throi r ddealltwriaeth honno yn weithredu. Cawsom 21 o Ffrindiau Dementia newydd a nifer o bobl a fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o r gwaith wrth symud ymlaen. Mae dau aelod o r Rhwydwaith Ymwneud wedi dod yn Bencampwyr Dementia a byddant yn gallu cynnal sesiynau Ffrind Dementia yn yr ardal. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am leoliad mwy parhaol i gynnal cyfarfodydd a sesiynau Ffrind Dementia.

9 Mae r grŵp yn parhau i ymgynghori gydag ac ar gyfer y COG s, yn y chwe mis diwethaf rydym wedi cael cynrychiolwyr o COG 4 a 5 i ddod i siarad gyda r grŵp. Daeth Megan Vickery, swyddog ymgysylltu r ardal ganolog o BCUHB i siarad gyda r Rhwydwaith Ymwneud am yr ymgysylltu a r ymgynghori a wneir gan BCUHB. Bu i r grŵp fwynhau cymryd rhan mewn ymgynghoriadau am y Canllawiau Statudol, yr Asesiad Anghenion Poblogaeth a Bysiau yng Nghonwy. Bu i r Rhwydwaith Ymwneud fwynhau r diwrnod a dreuliwyd gyda Chyngor Ieuenctid Conwy, yn edrych ar sut y gallwn gydweithio ar gymunedau gwydn. Maent yn edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf. Rhwydwaith Ymglymiad Conwy Mae Rhwydwaith Ymglymiad Conwy yn grŵp o aelodau o r cyhoedd sy n cyfarfod i gymryd rhan yng ngwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy trwy Bartneriaeth Pobl Conwy; mae pob aelod fel arfer yn cynrychioli grŵp cymunedol sy n cyfarfod yng Nghonwy. Cysylltwch â Pauline Roberts, Swyddog Cyfranogiad Oedolion ffôn neu pauline.roberts@conwy.gov.uk os oes gan rywun ddiddordeb mewn ymuno â r rhwydwaith.

10 Grŵp Canlyniad 7 Conwy Gofal diwedd bywyd, mwy o bobl sydd ar ddiwedd eu hoes yn cael gofal yn y lle o u dewis Bu i COG 7 ganfod bod bwlch o ran cefnogaeth gyda marwolaeth sydyn. Ymgynghorwyd â grwpiau profedigaeth i sicrhau mai dyma r achos ac fe u cynghorwyd, er bod llawer o sefydliadau sy n darparu cefnogaeth i rai sydd wedi cael profedigaeth, nid oedd ganddynt unrhyw ffordd o hyrwyddo eu gwasanaethau i weithwyr proffesiynol na r cyhoedd. Mae r daflen yn rhoi gwybodaeth ymarferol a ffynonellau o gefnogaeth i deulu a ffrindiau gan gynnwys y pethau sydd angen i chi eu gwneud yn y diwrnodau cyntaf ar ôl i rywun farw, cysylltiadau i wefannau a rhifau ffôn amrywiol sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth a chwnsela. Os hoffech gael taflen cysylltwch â Thîm Partneriaeth Pobl Conwy ar neu e- bost: CPP@Conwy.gov.uk

11 Diwrnod Chwarae Yn ystod diwrnodau oer y gaeaf, mae n braf cael edrych yn ôl ar Ddiwrnod Chwarae 2017 ac edrych ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall yr haf hwn. Dydd Mercher, 2 Awst oedd Diwrnod Cenedlaethol Chwarae a dathlodd Conwy mewn steil gyda 3,000 o bobl yn chwarae ar y traeth ym Mae Colwyn. Symudodd y Diwrnod Chwarae i r traeth eleni a phrofodd unwaith yn rhagor i fod yn llwyddiant mawr gyda r plant a r oedolion fel ei gilydd Cawsom yr amser gorau. Roedd wedi i drefnu n dda iawn ac roedd y staff yn hyfryd, diolch yn fawr am ddiwrnod ardderchog. Mwynhaodd y plant a r oedolion baentio, gwneud cerddoriaeth, adeiladu ffau, llunio pastai dywod, arbrofion glŵp, celf graffiti a llawer mwy.

12 Mae r Diwrnod Chwarae yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywyd plant gan ddwyn sylw bod angen i ni fel oedolion wneud mwy i leihau r rhwystrau mae plant yn eu hwynebu pan fo ganddynt eisiau chwarae. Fe wnaeth asesiad digonolrwydd chwarae Conwy ddarganfod fod trafnidiaeth, pryderon rhieni, oedolion sarrug yn y gymdeithas a diffyg lle i gyd yn cyfrannu at blant yn teimlo nad ydynt yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae. Mae digwyddiadau fel y rhain yn dangos manteision niferus chwarae nid yn unig i blant unigol ond i r gymdeithas fel cyfanrwydd hefyd.

13 Dywedodd y Cyng. Brian Cossey, Cadeirydd Cyngor Conwy a Phencampwr Chwarae Conwy; Mae Conwy n credu n gryf ei bod yn hanfodol i bob plentyn gael cyfleoedd i chwarae bob dydd ac mae Diwrnod Chwarae heddiw yn dathlu hawl plant i chwarae. Roedd yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus ac roedd yr haul yn tywynnu. Pleser unwaith yn rhagor oedd cael dwyn sylw at bwysigrwydd hawl plant i chwarae (Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant). Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Cynhaliwyd Diwrnod Chwarae am ddim Conwy gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a i ariannu gan Gyngor Tref Bae Colwyn. Roedd diwrnod chwarae gwledig poblogaidd iawn ar 4 Awst yn Nhrefriw, yn cael ei gynnal gan y fro a r Ganolfan Teuluoedd Gwledig.

14 Manylion Cyswllt Os hoffech fod ar y rhestr bostio electronig i gael cylchlythyr/bwletin ar gyfer y bartneriaeth newydd llenwch y ffurflen hon a i dychwleyd i: cpp@conwy.gov.uk Enw Enw r Sefydliad.... Cyfeiriad Cyfeiriad E-bost...

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,

More information

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant

More information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid

More information

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi. Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn

More information

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad

More information

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Gwybodaeth am Hafan Cymru PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled

More information

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with: Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR

More information

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster

More information

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015

More information

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau

More information

SESIWN HYFFORDDI STAFF

SESIWN HYFFORDDI STAFF SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

E-fwletin, Mawrth 2016

E-fwletin, Mawrth 2016 Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

ARWEINLYFR I FYFYRWYR ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i

More information

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017 Annual Report PERIOD: 1 st March 2016 28 th February 2017 Principal address of the charity: DASH (Disabilities and Self Help) Min y Mor Bungalow Wellington Gardens ABERAERON Ceredigion SA46 0BQ Tel. (01545)

More information

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon

More information

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn

More information

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas

More information

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport #amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau

More information

Addewid Duw i Abraham

Addewid Duw i Abraham Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

Talu costau tai yng Nghymru

Talu costau tai yng Nghymru Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl

More information

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42 Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth

More information

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities

More information

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1 Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg

More information

Dachrau n Deg Flying Start

Dachrau n Deg Flying Start Language and Play and Number and Play courses can be delivered in the home on a one to one basis, or can be delivered in groups. One to one courses in the home are offered to families with children at

More information

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl! Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual

More information

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Hawliau Plant yng Nghymru

Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i

More information

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr

More information

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism

More information

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the

More information

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i

More information

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015 Safonau Iechyd a Gofal Ebrill 2015 Rhagair Rhagair gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ar 9 Gorffennaf 2013 fe roddon ni ymrwymiad i adolygu a diweddaru r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd

More information

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across

More information

The Life of Freshwater Mussels

The Life of Freshwater Mussels The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell

More information

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged

More information

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter

More information

Sir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG)

Sir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG) Cyfarfod Cymdeithas CYSAG au Cymru, yn Sir Fynwy Swyddfeydd y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga. 3 Mawrth 2017 (10.30am 3pm) Wales Association of SACREs meeting, at the Monmouthshire County Council

More information

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Products and Services

Products and Services Products and Services The Widdershins Centre Widdershins is an exciting Ageing Well Resource Centre, ideally located in the centre of Torfaen, offering a wide range of services and facilities. The centre

More information

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS

More information

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth

More information

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Adroddiad Blynyddol 2009 2010 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Grŵp cydweithredol o holl lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru yw WHELF

More information

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn

More information

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N! ... o t e m o c l e W e g n a h C f o s n o i Champ CROESO I... NEWID R Y W P M A C N E B BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions of Change

More information

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4

More information

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Ionawr 2018 Hawlfraint y Goron 2018 WG33909 ISBN digidol 978-1-78903-394-6 Cynnwys Rhif

More information

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau

More information

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean

More information

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 HYDREF 2015 RHIFYN 14 - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

More information

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Adroddiad Blynyddol 2016-2017 www.awmsg.org Sicrhau r canlyniadau gorau o feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

More information

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.

More information

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions

More information

Asesiad Lles Wrecsam

Asesiad Lles Wrecsam Wrecsam Iachach Ffordd o Fyw Gordewdra Chwaraeon Iechyd Meddwl Unigedd Dementia Gofalwyr Talu Cyflogaeth Iechyd Addysg Diogelwch Personol Cynrychiolaeth Wrecsam Mwy Cyfartal Balchder Gwirfoddoli Ysbryd

More information

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol

More information

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation

More information

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno

More information

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005 ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys

More information

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd

More information

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion

More information

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI

More information

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18

More information

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 n Croeso Croeso Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 yn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer sicrhau

More information

Addysg Oxfam

Addysg Oxfam Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd

More information

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew

More information

Adolygiad Blynyddol Ebrill 2016 Mawrth 2017

Adolygiad Blynyddol Ebrill 2016 Mawrth 2017 Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin Adolygiad Blynyddol Ebrill 2016 Mawrth 2017 Dewch i ni barhau i gefnogi pobl FERSIWN DERFYNOL Tudalen 1 o 39 Mynegai Tud. 1 Crynodeb Gweithredol 3 2 Cyflwyniad

More information

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg Calon Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Rhagfyr/December 2015 Grw p Cynefin Mwy na thai / More than housing Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg

More information

Cronfa Buddsoddi Cymunedol

Cronfa Buddsoddi Cymunedol Cronfa Buddsoddi Cymunedol Adolygiad Blynyddol 2012/13 Gwnaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd ymrwymiad yn 2010 pan sefydlwyd y gymdeithas i chwarae rhan yn natblygiad cymunedau cynaliadwy yng Ngwynedd. Sefydlwyd

More information

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017 Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill 2016 31 Mawrth 2017 Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn ei gyfarfod cyntaf ar 24 Mehefin 2016. O r chwith i r

More information

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting

More information

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP) RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP) 2014-15 ADRODDIAD ALLBYNNAU DIWEDD Y FLWYDDYN. Mae r adroddiad hwn yn cynnwys yr adrannau canlynol: Adran Tudalen 1. Cefndir 3 2. Cyflawniadau Allweddol

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru 2018-2023 1 CYNNWYS 1. Rhagymadrodd gan Gefnogwr Rhanbarthol Atal Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais

More information

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion

More information