Bwletin Gorffennaf 2016
|
|
- Marion Cain
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Bwletin Gorffennaf 2016 Hau i Fedi
2 Boded a Bale Gydag ymgyrch llwyddiannus tîm pêl droed Cymru wedi bod yn un mor gyffrous, mae r ysgol fel gweddill Cymru wedi dilyn y twrnament yn ofalus iawn. Ar ddechrau'r gystadleuaeth, roedd cyfle i r disgyblion wylio'r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Theatr Bro Alaw. Roedd yr awyrgylch yn y theatr yn wych. Fel y gwelwch isod, roedd y disgyblion a r staff yn cefnogi drwy wisgo coch. Defnyddiwyd llwyddiant tîm Cymru fel thema ar gyfer un o weithgareddau'r wythnos sgiliau. Diolch i drefniadau Mr Arwyn Roberts, cynhyrchwyd y murlun isod gan ddisgyblion blwyddyn 9 a r arlunydd graffiti Andy Birch. Cafwyd ymateb rhagorol i r lluniau ar gyfrif trydar yr ysgol, gyda degau o filoedd o bobl ar draws Cymru yn dweud eu bod yn hoffi r Ond ni ddaw r stori i ben yn y fan yna. Roedd disgyblion Bodedern hefyd yn Ffrainc yn ystod y twrnament yn ymweld â meysydd y gad y rhyfel mawr a diwylliant Paris. Deallwyd fod y criw wedi gwneud sioe dda iawn o u hunain wrth wylio'r gem yn y gwesty, gan sicrhau fod pawb yn gwybod mai Cymry oeddynt!
3 F24 - Pŵer Gwyrdd Mae hanes cystadleuaeth y ceir yn hen gyfarwydd i ddarllenwyr y bwletin erbyn hyn. Diolch i r holl rieni, disgyblion a Mr Llion Francis a Mr Eurwyn Hughes am eu oriau o waith a diolch arbennig i Mr a Mrs Philips o Anglesey Commercial Spares Ltd am noddi'r gwaith. Daeth y diwrnod mawr i rasio yn erbyn sefydliadau addysgol eraill yn Nhrac Môn ac roedd tîm cynhyrchu'r rhaglen Heno gyda Gerallt Pennant yn cofnodi'r digwyddiadau yn fyw. Mi wnaeth tîm Boded yn Bwled Boded 1 a Bwled Boded 2 sioe dda iawn o u hunain, yn arbennig o ystyried bod yr ail gar wedi i adeiladu mewn wythnos! Dyma r hogia gyda Mr Hughes yn paratoi o flaen y camerâu ac wedyn yn y pit stop ar y Trac! Mae hi n fwriad i barhau gyda r cynllun y flwyddyn nesaf mae r cyffro wedi cydio!
4 Pysgota Wrth i ddiwedd y tymor agosáu, mae r ysgol wedi ail lansio'r Clwb Pysgota, a'r flwyddyn hon aeth criw o flynyddoedd 7 a 8 i bysgota yn Eisteddfa, Criccieth. Diolch i Mr Huw Edwards, Mr Gwyn Jones, Mr Llion Pritchard a Mr Stan Jones am y gwaith trefnu. Mae hi n amlwg bod pawb wedi mwynhau. Dyma Harvey a Moi yn mentro!
5 Mae r cwrs Phoenix yn gyfle blynyddol erbyn hyn i ddisgyblion flwyddyn 9 gael profi bywyd yn y Frigâd Tan. Nod yr wythnos yw datblygu sgiliau cyfathrebu, dyfalbarhau a pharch. Roedd y criw wedi ymateb yn wych gan ennyn cryn ganmoliaeth am eu hymdrechion. Cafwyd arddangosfa o r hyn a ddysgwyd ganddynt ar ddiwedd yr wythnos i rieni a ffrindiau yng ngorsaf dân Amlwch. Dyma r criw ar ddiwedd yr arddangosfa wedi derbyn eu tystysgrifau haeddiannol.
6 Fel man cychwyn, daeth Manon i weithio gyda disgyblion blwyddyn 9 yn ystod yr wythnos sgiliau ar y prosiect Gwreiddiau. Bydd y gwaith a gynhyrchwyd yn ystod yr wythnos yn gychwyn ar y cywaith. Bwriad Manon yw dychwelyd ac adeiladu ar yr hyn a grëwyd yn ystod yr wythnos. Eisteddfod Genedlaethol 2017 Mae r ysgol wedi dechrau ei pharatoadau ar gyfer yr eisteddfod, ac wrth i r testunau gael eu cyhoeddi a r safle yn cael ei baratoi, mae'r disgyblion hefyd yn dechrau gwneud eu marc. Croesawyd un o gyn ddisgyblion yr ysgol, Manon Awst yn ôl i r adran gelf yn ystod yr wythnos sgiliau. Mae Manon wedi cyrraedd brig y byd celf rhyngwladol wrth gyd arddangos a i phartner Benjamin Walther. Mae llwyddiant Manon wedi cael ei gydnabod gan yr Eisteddfod, wrth iddi gael ei gwadd i greu arddangosfa arbennig yn y Safle Celf yn ystod yr ŵyl.
7 Haelioni Disgyblion Un o gymeriadau blwyddyn 11 yw Jac Lynes, ac wrth ffarwelio gyda r ysgol mae Jac a i deulu wedi penderfynu trefnu naid rith yng nghamp yr awyrlu'r Fali. Diolch i Mrs Hughes mam Jac a Mr Griffiths am gymryd yr her o r naid. Hoffai r ysgol ddiolch am groeso gwresog yr awyrlu ac amynedd ein hyfforddwr Andy o Borthmadog. Yn dilyn haelioni'r gymuned a gwaith trefnu Jac, mae r teulu eisoes wedi codi 230 ar gyfer yr adran dysgu ychwanegol yn yr ysgol ac mae mwy ar ei ffordd. Dyma Mrs Hughes yn paratoi ar gyfer y naid rith a Mrs Hughes, Jac, Andy, Tom a Mr Griffiths yn yr ystafell baratoi.
8 Zoe Adamkiewicz Un arall sydd wedi dangos ei haelioni, yw Zoe o flwyddyn 10. Yn dilyn damwain ddychrynllyd bu raid i Zoe gael triniaeth fawr yn Ysbyty Alder Hey. Erbyn hyn mae Zoe yn gwella, ac er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad o r gofal arbennig a gafodd yn Alder Hey rhedodd y ras 500m yn athletau Môn. Mae r gefnogaeth i Zoe gan yr ysgol a r gymuned ehangach wedi bod yn enfawr, a thrwy gyfranogiadau hael, mae Zoe wedi codi 760 hyd yma ac mae n dal i gasglu arian. Llongyfarchiadau!
9 Haydn Dean Fel ysgol rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein disgyblion, ac yn ddiweddar roedd yr ysgol yn hynod falch o glywed am lwyddiannau Haydn a adawodd yr ysgol I ddilyn gyrfa gyda r llynges. Mae Haydn newydd orffen ei rhan gyntaf o r hyfforddiant ac yn amlwg mae wedi creu argraff. Dyma ddatganiad y llynges am waith Haydn. A 16-year-old from Holyhead has completed his transformation from a civilian into a Royal Navy sailor and is now one step closer to a career at sea. Trainee Chef Haydn Dean arrived at HMS Raleigh, the Royal Navy s training base in Cornwall, in April. During a 10-week course he has been given a thorough induction into the Royal Navy, learning skills that he will rely upon throughout his time in the Service. The course culminates with the passing-out-parade attended by families and friends. The former pupil of Ysgol Uwchradd Bodedern said: I joined the Royal Navy to travel the world and get a good career. I ve met a great bunch of lads while I ve been at Raleigh. Overall training is really tough, but with the right attitude, achievable. Rydym yn falch iawn ohono, dyma lun o Haydn o r archif ac un ohono yn ystod ei hyfforddiant!
10 Wythnos Sgiliau 28/06/16 01/07/16 Diolch yn fawr i ddisgyblion, staff -yn arbennig Mr Arwyn Roberts- hyfforddwyr a darparwyr am wythnos sgiliau llwyddiannus unwaith eto eleni. Nod y 4 diwrnod oedd i r disgyblion gael profi diwylliant a dod i adnabod eu cynefin yn well gyda ffrindiau yn y Gymraeg. Roedd rhai o r gweithgareddau yn cynnwys ymweld â Nant y Pandy, Llangefni, gweithdy graffiti, sesiwn saethyddiaeth yn yr ysgol, beicio a gweithgareddau awyr agored, gwersi Mandarin, datrys problemau i flwyddyn 7. Bu blwyddyn 8 yn ymweld â Betws-y-Coed, cerdded rhan o arfordir Môn, dawnsio gwerin, gweithdai addysg alcohol a chyffuriau, Gweithdy Masnach Deg, gweithdy gwyddonol. I baratoi ar gyfer blwyddyn 10, bu blwyddyn 9 yng ngweithdai gwyddoniaeth (STEM) yn Llanberis, gweithdy creadigol dan arweiniad yr adran Gymraeg yn yr ysgol, gwaith menter y BAC, Ymweliad â choedwig Llwyn-Onn, Brynsiencyn a gweithdy celf a graffiti. Dyma rhai o ddelweddau r wythnos.
11
12 Cyngerdd dathlu llwyddiannau plant Môn yn Eisteddfod yr Urdd Gwych oedd cael cyfle i fwynhau doniau perfformio ieuenctid Môn, wrth i r Urdd drefnu noson i bawb a gafodd lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr urdd 2016, Sir Fflint. Roedd dau nod i r noson sef dathlu a chodi arian ar gyfer eisteddfod yr Urdd a r Eisteddfod Genedlaethol. Diolch i holl ddisgyblion yr ysgol a gymrodd ran yn y noson. Diolch i Glesni, Elain, Erin, Annest a Thea yn arbennig. Rydym yn falch iawn mai Ysgol Uwchradd Bodedern a gafodd yr ail uchaf o farciau drwy r sir.
13 Noson Gwobrwyo Chwaraeon Ieuenctid Môn a Gwynedd Ymhlith y degau ar ddegau o ddisgyblion sy n cynrychioli eu hysgolion drwy Wynedd a Môn, daeth tri enw o Ysgol Uwchradd Bodedern i r brig yn Noson Gwobrwyo Chwaraeon nos Iau 7fed o Orffennaf yng nghanolfan tenis Caernarfon. Daeth Gemma Thomas a Becky Hartshon yn ail am eu llwyddiannau ym myd pêl-fasged a karate. Seren y noson oedd Kieran, a enillodd y wobr gyntaf. Dawn Kieran yw chwarae pêl fasged cadair olwyn. Mae n gapten tîm ieuenctid pêl-fasged cadair olwyn a bydd hefyd yn mynychu sesiwn hyfforddi dros yr haf. Cawn fwy o i hanes ym mwletin mis Medi.
14 Diolch yn fawr!! Mae r ysgol yn ymfalchïo yn ein cysylltiad gyda r gymuned. Un o gwmnïau'r fro sydd wedi bod yn hynod o garedig yw garej Bryn Eira, Bodedern sef busnes A. W Roberts a i Fab. Diolch i r cwmni am noddi crysau rygbi bechgyn o dan 16 a 14. Dyma Catrin Roberts o A.W.Roberts a'i fab gyda'i brawd William o flwyddyn 8 yn cyflwyno'r crysau i r bechgyn.
15 Eleni buom yn lwcus iawn o gael cwmni merch 20 oed o r enw Perle Magaly o ynys Guadeloupe fel cynorthwyydd iaith fodern yn y gwersi Ffrangeg. Myfyrwraig Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yw Perle a i hoff fodiwlau yw Shakespeare a Dickens. Fel rhan o i gradd roedd yn dod i Ysgol Uwchradd Bodedern unwaith yr wythnos am ddau dymor. Mwynhaodd ei hamser yma n fawr drwy helpu r disgyblion iau a hŷn hefo u gwaith ysgrifenedig a llafar. Rhoddodd gyflwyniad inni ar ei hynys sydd dros 5,000 o filltiroedd o Gymru yn Ne Môr y Caribî lle nad ydi r tymheredd prin yn mynd o dan 20 C. Roedd hi n teimlo braidd yn oer yma ar adegau a dweud y lleiaf! Gwelsom hefyd luniau o garnifal sy n cael ei gynnal yno bob blwyddyn a rhai o r anifeiliaid, coed a blodau sydd i w gweld yno. Mae Perle yn siarad Ffrangeg a Saesneg ac mae hi n hoff iawn o ganu traddodiadol ei hynys. Ei gobaith y flwyddyn nesaf yw parhau i astudio ar gyfer bod yn athrawes iaith. Pwy a ŵyr, efallai y byddwn yn ei gweld eto ar lawr dosbarth! A la prochaine, Perle! Ymwelydd egsotig â Bodedern
16 Flash Mob Mae cyffro'r Eisteddfod yn ymestyn i r gymuned hefyd, wrth i gyn ddisgybl arall Llio Angharad (Taylor) drefnu flash mob gyda chymorth yr adran Gerdd. Mae Llio bellach yn gweithio yn adain Yr iaith Gymraeg o dan y gweinidog Alun Davies yn y senedd. Cynhaliwyd y flashmob fel rhan o ymgyrch #Pethau Bychain y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth y fro o ymweliad yr Eisteddfod genedlaethol yn Tesco Caergybi. Daeth y perfformiwr a r cyfansoddwr Mei Gwynedd i gyd arwain y trefniadau gyda Ms Awel Glyn. Roedd dros 150 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Dyma'r criw yn ymarfer gyda Mei Gwynedd yn yr ysgol.
17 Roedd y trip i Ffrainc yn brofiad bythgofiadwy! Roedden ni yng nghanol ffrindiau a chwmni da a dyma wnaeth y daith yn werth chweil. Roedd ein dreifar bws, Chris Davies, yn ofnadwy o glên ac yn ddrefiar da a llwyddodd i gylchu r Arc de Triomphe ddwywaith. Cawsom gyfle i ymweld â rhai mynwentydd y Somme, Y Louvre, Tŵr Montparnasse, Tŵr Eiffel, Arc de Triomphe, La Défense i wario, y Champs Elysées, Notre Dame, cwch ar yr Afon Seine, Disneyland, hyd yn oed mwy o wario! Roedd yno llawer o hwyl i w gael hefo r athrawon hefyd. Roedd y siwrne yno braidd yn hir ac yn ddiflas ond ar y ffordd adref roedd pawb wedi cynhyrfu yn dilyn gêm Cymru y noson cynt yn erbyn Gwlad Belg. Roedden ni n falch o fod yn Gymry. Roedd yr awyrgylch yn grêt, roedd pawb wedi cyffroi, yn enwedig ein athro hanes! Ond roedd hi hefyd yn braf cael dod adref i n gwelyau ni n hunain. Buasem yn hoffi diolch i r athrawon am eu hamynedd hefo ni i gyd ac am drefnu r trip. Cafodd bawb amser grêt. Diolch! Milly McCarrick, Sophie Begley a Megan Thomas
18 Y criw o flaen y gofeb i r Milwyr Cymreig yng Nghoed Mametz Mynwent Almeinig Bedd Hedd Wyn
19 O flaen pyramid y Louvre Yr hogiau n trio dynwared un o gerfluniau r Arc de Triomphe Yn dilyn y gêm
20 Mae n dymor profiad gwaith a bydd blwyddyn 10 a 12 yn ennill y profiad o sut mae r byd mawr yn gweithio. Bydd nifer ohonynt yn profi lleoliadau cyffrous a diddorol o ysgolion y fro i wersyllfa Llangrannog, eraill yn ennill profiad gwerthfawr o gael gweithio mewn diwydiant, gan gynnwys Wylfa. Pob lwc i 4 o flwyddyn 12 a fu ar gwrs Codi ymwybyddiaeth o r sector niwcliar, sef Sïon Emlyn, Jack Lander, Emyr Owen a Louie Williams. Llongyfarchiadau i Elain Rhys o flwyddyn 12 a enillodd y nifer fwyaf o bwyntiau gan fyfyriwr Ysgol Gerdd William Mathias. Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn hynod brysur i Elain a Bodedern wrth iddi gael ei dewis yn un o gyfeilyddion telyn yr ŵyl. I gyd fynd â r Eisteddfod Genedlaethol, pleser mawr oedd cael cymaint o ddisgyblion yr ysgol yn ein cynrychioli yn seremoni Cyhoeddi r eisteddfod yng Nghaergybi ar y 25ain o Fehefin. Er siom y tywydd, roedd awyrgylch y dydd yn wresog. Ymhlith y nifer fawr o ddisgyblion a fu n dangos eu doniau ar lwyfan Menter iaith ar y stryd fawr, roedd yr ysgol yn falch iawn o ddwy ferch yn arbennig sef Eurgain Lloyd Blwyddyn 12 fel Merch y Fro a Mared Williams cyn-ddisgybl o Lannerch-y-medd fel Mam y Fro.
21 Ffarwel Hoffai cymuned yr ysgol ddymuno'r gorau i r canlynol wrth iddynt symud ymlaen i gyfnodau newydd: Annwen Morgan ei dyrchafu n Brif Weithredwr Cynorthwyol i Gyngor Môn (ers Tachwedd 15) Mrs Brenda Bull ymddeol Pasg 2016 Carwyn Edwards sefydlu ei fusnes ei hun fel saer Iona Thomas Ysgol y Gader Grug Jones Ysgol Aberconwy Awen Mair Ysgol Dyffryn Ogwen Dewi Prys Davies ymuno â heddlu cymunedol Owain Glyn Jones cychwyn cwrs TAR Lois Owen cychwyn cwrs MA mewn gwaith cymdeithasol Heulwen Jones - ymddeol Carol Rees ymddeol Eilir Evans ymddeol Dymuniadau gorau iddynt gyd, a diolch am eu holl wasanaeth ac ymroddiad i Ysgol Uwchradd Bodedern. Bydd y Pennaeth yn cynnal gwasanaeth ffarwelio fore Mawrth 19eg o Orffennaf.
22 Dyddiadau Pwysig! Ysgol yn ail ddechrau i staff Ysgol yn ail ddechrau i r holl ddisgyblion Tynnu llun ysgol gyfan Noson agored i flynyddoedd 4,5,6 a 7
Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationApril 2016 Bulletin. Hau i Fedi.
April 2016 Bulletin Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded The April Bulletin focuses on health -physical and cultural. We'll start by congratulating Elis Owen Yr. 13, who appears on the TV
More informationPenglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD
Penglais Cylchlythyr Newsletter Mawrth / March 2009 www.penglaisschool.org.uk Rhif/No. 46 YR URDD Bydd gan yr ysgol nifer o bartion ac unigolion yn cystadlu yn yr Eisteddfod eleni. Byddant yn cystadlu
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationBwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday
Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday Gwyliau Calan Mai / May Day Bank Holiday 02.05.2016 Dydd Gwener / Friday Arholiadau
More informationGair o r Garth Garth Grapevine
Côr yr ysgol yn The Gate School Choir performs in The Gate Gair o r Garth Garth Grapevine Rhagfyr December 2017 COFIWCH: REMEMBER: Tymor y Pasg yn cychwyn 8/1/18 Easter term begins 8/1/18 Côr Ysgol Gwaelod
More informationBlagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN
Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationYSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15
YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15 HYDREF 2015 RHIFYN 14 - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
More informationChwefror / February 2015
Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Chwefror / February 2015 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Mawrth / Tuesday 10.03.2015 3.45-5.45 Dydd Mawrth / Tuesday 24.03.2015 3.45-5.45 Dydd Llun /
More informationPOBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.
POBL PENWEDDIG POBL PENWEDDIG www.penweddig.ceredigion.sch.uk Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru Haf 2013 Cafodd Nia Jones Bl. 11 y cyfle i hyfforddi gyda Thîm Pêl-droed Merched Cymru Dan-17
More informationNewyddion yr ysgol gan y disgyblion.. / School news from the pupils.. RHYBUDD!!!! Mae wedi bod yn 3 wythnos brysur!!!
CYLCHLYTHYR MISOL ygyffin.ik.org Newyddion yr ysgol gan y disgyblion.. / School news from the pupils.. Rhifyn 5 Gorffennaf 2017 RHYBUDD!!!! Mae wedi bod yn 3 wythnos brysur!!! NODYN GAN Y PENNAETH Here
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationApril 2017 Bulletin. Hau i Fedi.
April 2017 Bulletin Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded Once again this year, as year 13 students start deciding on the next step in their academic career, many have been successful in receiving
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationCanlyniadau Arholiad / Examination Results
Mis Hydref 2015 October 2015 Rhifyn: 15 Issue: 15 Canlyniadau Arholiad / Examination Results Safon Uwch A Level Cafodd ein myfyrwyr Blwyddyn 13 cryn lwyddiant gydag 28% yn ennill y graddau uchaf A*-A (11%
More informationSTAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).
09.09.16 Annwyl Rieni, Croeso cynnes iawn yn ôl i bawb wedi r gwyliau haf. Gan obeithio cawsoch chi seibiant a chyfle i ymlacio efo ch teuluoedd. Edrychwn ymlaen at groesawu r plant yn ôl i r ysgol. Croeso
More informationCAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR
CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN 7 2018/19 A WARM WELCOME TO YEAR 7 2018/19 Fy Llyfryn Trosglwyddo Personol My Personal Transition Booklet Enw/Name Ysgol Gynradd/Primary School
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationPwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!
Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Erbyn hyn, mae pwyllgor newydd yn gyfrifol am y cylchgrawn, sef Bethan, Rhian, Steffan a Betsan. Gwnaethon nhw gyflwyniad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref er mwyn
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationGWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa
GWERS 95 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa pen-blwydd - birthday cyngerdd - concert cwrs - course arholiadau - examinations pennod f - chapter adnod f -
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationCERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.
DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED
More informationTo Create. To Dream. To Excel
Canolfan Mileniwm Cymru Wales Millennium Centre 2016 has been a tremendous year for Wales Millennium Centre and the continued generosity of our Supporters has made amazing things happen. Our ambition is
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationYMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS
YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn
More informationTuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer
Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer Order of Ceremony - Trefn y Seremoni 6:15 Arrival 6:30 Welcome by Ben Hammond Kelly Davies Speech Young Volunteer of the Year award presented
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informationSeremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008
www.dinesydd.com Mehefin 2007 Papur Bro Dinas Caerdydd a r Cylch Rhif 319 Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008 CÔR CANNA N CIPIO R AUR YN VERONA A CHELTENHAM! Cynhelir Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod
More informationPenblwydd Hapus Winnie
tafod e l ái GORFFENNAF 2009 Rhif 239 Pris 60c Penblwydd Hapus Winnie Llongyfarchiadau i Winnie Davies, Heol Goch, Pentyrch ar ddathlu ei phen blwydd yn 100 oed ar 27 Mehefin. Ganwyd Winnie yn Nhongwynlais.
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationClecs. Rhifyn 6. Defnyddiwch eich Cymraeg
Clecs Rhifyn 6 Defnyddiwch eich Cymraeg 2 Cynnwys Contents 2 Croesair Crossword 3 Cadw mewn cysylltiad dros yr haf Keep in touch over the summer 3 Ble i gael gwybodaeth Where to get information 4 Cyfleoedd
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationW45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe
More informationCylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion. Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion
Cylchgrawn C.Ff.I. Ceredigion Yn y rhifyn yma.. Adnabod eich swyddogion newydd Cipolwg ar arwyddion y rali Dathliadau Cystadlaethau Joio Newyddion Cwrdd â Swyddogion 2017-2018 FFARMWR IFANC BRENHINES Enw:
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More informationClybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs
Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs www.ynysmon.gov.uk/hamdden www.anglesey.gov.uk/leisure Cyflwyniad / Introduction Mae cyfeiriadur Cyngor Sir Ynys Môn yn cynnwys
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationNewyddion Capel Y Waen
Newyddion Capel Y Waen Rhif 23 Hydref 2015 Capel Annibynwyr Waengoleugoed Waen, Llanelwy LL17 0DY Eglwys fechan bywiog a gweithgar sydd yn gwrando ar lais Duw ac yn ceisio bod yn ganolbwynt daoini a gweithredu
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informatione-bost/ Rhif testun yr ysgol/school s text no:
Ysgol Eifionydd, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9HS Pennaeth/ Headteacher: Mr. Dewi Bowen B.Sc Pennaethiaid Cynorthwyol / Assistant Headteachers: Mrs. Gwyneth E Owen B.Add & Mrs. Lyn Parry Hughes B.A Tachwedd
More informationW49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm
W49 05/12/15-11/12/15 Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Aberfan 5 Bancyfelin
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationW6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:
W6 04/02/17-10/02/17 Pages/Tudalennau: 2 Scrum V Six Nations Special 3 X-Ray 4 Gareth Wyn Jones - Milk Man 5 Cardiff: Living on the Streets 6 Wales Women: Inside the Scrum 7 Weatherman Walking 8 Pobol
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationOs byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!
Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationYSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 12 March/Mawrth 17-23, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Six Nations: Wales v France 3 Upstairs Downstairs 4 The Story of Wales 5 Swansea: Living on the Streets 6 BBC National Orchestra of Wales 7
More informationCyffredinol Lliwiau Rhifau Anifeiliaid Y Dref Hamdden Y Nadolig Ffrindiau Yr Ysgol
Eiry Wyn Bellis Cyffredinol Lliwiau Rhifau Anifeiliaid Y Dref Hamdden Y Nadolig Ffrindiau Yr Ysgol Cyffredinol - General 1. Pwy wyt ti? (...ydw i) Who are you? 2. Faint ydy dy oed di? (Rwy n..oed) How
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationEisteddfod y Cymoedd
Papur Sir Caerffili: Cwm Aber, Ebwy, Rhymni a Sirhywi Rhifyn 196 Pris 80c Mis Hydref 2017 Eisteddfod y Cymoedd 20fed o Hydref 2017 Dechrau am 4:00 Campws y Gwyndy, Caerffili Dyddiad Cau Cofrestru i Gystadlu
More informationW44 27/10/18-02/11/18
W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd
More informationPecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack
Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a
More informationINC Noddir gan/sponsored by Ceir Cymru. Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ
04.06.15 07.06.15 Noddir gan/sponsored by Ceir Cymru Galeri Caernarfon galericaernarfon.com #PenwythnosINC Galeri yn cyflwyno/present INC 2015 Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ 01286 685 222 2
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationWALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA
FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v BOSNIA & HERZEGOVINA 07.06.2018 Liberty Stadium Swansea Kick Off 7pm FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH WALES v RUSSIA 12.06.2018 Newport Stadium Newport
More informationDachrau n Deg Flying Start
Language and Play and Number and Play courses can be delivered in the home on a one to one basis, or can be delivered in groups. One to one courses in the home are offered to families with children at
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationPAPUR DRE BE SY YN Y PAPUR? Pwy sy efo Gareth a Catrin? tud. 4 LLE MAE POBL PEBLIG?
PapurDreLliwMehefin09 11/6/09 01:30 Page 1 PAPUR DRE Rhifyn 69 MEHEFIN 2009 Pris 40c BE SY YN Y PAPUR? Beth mae Gwenno wedi i ennill? tud. 15 Pwy sy efo Gareth a Catrin? tud. 4 Lle mae r hogiau n mynd?
More informationAdroddiad Blynyddol 2017
Adroddiad Blynyddol 2017 Ysgol Gyfun Gŵyr Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3DB. Ffôn: (01792) 872403 Ffacs: (01792) 874197 Gwefan: www.yggwyr.org.uk E-bost: ysgol.gyfun.gwyr@swansea-edunet.gov.uk
More informationFOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD TYMOR 2017
FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD TYMOR 2017 FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU END OF SEASON REVIEW / ADRODDIAD DIWEDD
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationtafod eláie Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Na i doriadau Rh. C.T Ymweld â Swdan Crochendy Nantgarw
tafod eláie RHAGFYR 2013 Rhif 283 Pris 80c Na i doriadau Rh. C.T Mae ymateb chwyrn wedi bod i fwriad Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf gwneud nifer o doriadau yng gwasanaethau r sir. Maent am gwtogi ar ddarpariaeth
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77 Key Language Mor + mutation Ar fin Moyn i /eisiau i New Words Straen Wedi blino n lân Anrhegion Treulio Osgoi Cwpla Cymhleth Argol! Gwneud lles i rywun Cymdeithasu
More informationofficial programme RHAGLEN SWYDDOGOL
official programme RHAGLEN SWYDDOGOL www.raft.cymru Designed by www.highstreet-media.co.uk thanks! diolch! RAFT APP The fact that we have the ability to put on this fantastic event at all is largely down
More informationF U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!
... o t e m o c l e W e g n a h C f o s n o i Champ CROESO I... NEWID R Y W P M A C N E B BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions of Change
More informationSafle Treftadaeth Byd i ardal y Chwareli Llechi?
w w w. e c o r w y d d f a. c o. u k Dilynwch ni ar facebook www.ecorwyddfa.co.uk Rhif: 470 Tachwedd 2018 Pris:70c Safle Treftadaeth Byd i ardal y Chwareli Llechi? Er fod ambell chwarel lechi yn parhau
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCANLYNIADAU: Eisteddfod Rhanbarth Meirionnydd 2018
1 Unawd Bl. 2 ac iau Deio Emlyn Edwards Brychan Edwards Aneira Jones 2 Unawd Bl. 3 a 4 Mared Jeffery Cadi Llywela Raghoobar Lleucu Meleri Owen 3 Unawd Bl. 5 a 6 Erin Llwyd Mared Griffiths 4 Deuawd Bl.
More informationatgofion o dyfu sy n para am oes ein newyddion a straeon o tŷ hafan y tu mewn cylchlythyr hydref/gaeaf 2016 rhieni n dangos eu doniau t.
cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan cylchlythyr hydref/gaeaf 2016 atgofion o dyfu sy n para am oes y tu mewn ein super sibs t.4 rhieni n dangos eu doniau t.11 stori max t.14 cwtsh ein newyddion a
More information