Cynnwys. Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol

Similar documents
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Holiadur Cyn y Diwrnod

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Welsh Language Scheme

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015/16. Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

NatWest Ein Polisi Iaith

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Adolygiad Sefydliadol (model hybrid) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

offered a place at Cardiff Met

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Adolygiad Blynyddol Ebrill 2016 Mawrth 2017

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

DOGFEN HUNAN-WERTHUSO

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Hawliau Plant yng Nghymru

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Swim Wales Long Course Championships 2018

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Addysg Oxfam

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Adroddiad Blynyddol ar Ganser. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM)

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

BWRDD IECHYD ADDYSGU POWYS DATGANIAD ANSAWDD BLYNYDDOL 2016/17

Talu costau tai yng Nghymru

Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru.

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Iechyd a Diogelwch. Adroddiad Blynyddol 2015/16

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r

DIGIDOL I R DYFODOL. Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS

Tour De France a r Cycling Classics

Datganiad Technegol Rhanbarthol

Transcription:

Cynnwys Crynodeb Gweithredol... 4 1. Cyflwyniad... 7 2. Y tîm... 8 3. Cynllun gweithredol... 9 4. Yr hyn y mae r tîm wedi i gyflawni... 10 4.1 Gweithio gyda rhanddeiliaid... 10 4.2 Rheoli perfformiad a llywodraethu o fewn y bwrdd iechyd... 12 4.3 Ymwneud â'r cyhoedd a phobl broffesiynol... 13 4.4 Sgrinio clefydau trosglwyddadwy... 15 4.5 Clefyd y crymangelloedd a thalasemia... 16 4.6 Sgrinio ar gyfer syndrom Down... 17 4.7 Uwchsain... 18 5. Casgliad... 22 Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant... 23 Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 3

Crynodeb Gweithredol Mae'r adroddiad canlynol yn amlinellu gwaith Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017. Mae'r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau r tîm sy'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws Cymru, ac yn esbonio'r amrywiaeth eang o waith a gwblhawyd mewn perthynas â r naw rhaglen sgrinio. Rheoli perfformiad Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yng Nghymru a'r DU i sicrhau addasrwydd y polisïau a r protocolau sgrinio cyn geni a bod safonau yn cael eu cynnal. Yn 2016-2017 datblygwyd holiaduron i ddefnyddwyr gwasanaethau ar gyfer rhaglenni mamau a phlant i danlinellu pwysigrwydd llais y defnyddwyr gwasanaethau. Mae perfformiad safonau penodol yn cael ei fonitro ddwywaith y flwyddyn drwy ddangosyddion perfformiad, a chant eu bwydo yn ôl i'r Byrddau Iechyd, a llunnir cynlluniau gweithredu pan nad yw'r perfformiad yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig. Fe wnaeth Sgrinio Cyn Geni Cymru annog a chefnogi datblygu rolau penodol er mwyn rheoli'r rhaglenni o fewn y Byrddau Iechyd, sef arweinwyr llywodraethu gwasanaethau cyn geni a newydd-anedig ac arweinwyr cardiaidd. Mae gwybodaeth i fenywod yn cael ei hadolygu n flynyddol, a'i diwygio yn ôl y galw. Yn ystod 2016-2017, datblygwyd gwybodaeth hawdd ei deall i fenywod. Er mwyn sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaethau n cael eu diwallu, ailgynlluniwyd gwefan Sgrinio Cyn Geni Cymru i sicrhau ei bod yn hawdd ei defnyddio. Rhaglenni penodol Clefydau trosglwyddadwy Rheolwyd y prosiect i ddirwyn y gwasanaeth sgrinio am dueddiad rwbela yn ystod beichiogrwydd yng Nghymru yn llwyddiannus gan Sgrinio Cyn Geni Cymru. Nododd tîm y prosiect fanteision i iechyd y cyhoedd gan sicrhau r budd mwyaf o r prosiect. Mabwysiadwyd dull Cymru gyfan o reoli canlyniadau adweithiol mewn perthynas â chlefydau trosglwyddadwy yn ystod beichiogrwydd. Cynhyrchodd Sgrinio Cyn Geni Cymru a rhanddeiliaid brotocol i Gymru, a gwybodaeth i fenywod a gweithwyr iechyd proffesiynol. Cafwyd adborth cadarnhaol gan weithwyr iechyd proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth ar y prosiect. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 4

Clefyd y crymangelloedd a thalasemia Sicrhaodd gwaith gyda labordai hemoglobinopathi yng Nghymru bod llawlyfr labordy NSC UK yn cael ei ddefnyddio yn unol â safonau Sgrinio Cyn Geni Cymru. Yn ogystal, bu cydweithio agos rhwng Sgrinio Cyn Geni Cymru a chlinigwyr a labordai i sicrhau bod cerdyn cais am sgrinio ar gyfer celfyd y crymangelloedd a thalasemia yn cael ei lenwi'n gywir, er mwyn gwneud yn siŵr bod menywod yn derbyn y prawf sgrinio mwyaf addas mewn da brad. Syndrom Down Mae prosiect newydd wedi cychwyn, ar gais Llywodraeth Cymru, i gwmpasu sgrinio ar gyfer syndromau Edwards a Patau mewn genedigaeth unigol neu efeilliaid, ynghyd ag ychwanegu prawf sgrinio dilynol sy'n defnyddio prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT) ar gyfer y cyflyrau hyn. Cynhyrchwyd canllawiau ar gyfer rheoli gefell diflannol o fewn y cynnig prawf sgrinio syndrom Down. Adolygwyd y llenyddiaeth i asesu'r defnydd o PAPP-A fel marciwr serwm annibynnol i adnabod babanod sy n fach o gymharu â chyfnod y beichiogrwydd. Uwchsain Mae'r gwaith monitro chwe-misol o'r mesuriadau uwchsain sy'n angenrheidiol ar gyfer pob prawf sgrinio syndrom Down, drwy'r Gwasanaeth Cefnogi Sicrwydd Ansawdd Syndrom Down (DQASS) yn cael ei ddadansoddi, a'i adrodd yn ôl i'r sonograffwyr unigol, drwy Sgrinio Cyn Geni Cymru. Comisiynodd Sgrinio Cyn Geni Cymru yr elusen Tiny Tickers i ddarparu hyfforddiant ymarferol i sonograffwyr yng Nghymru sy'n cymryd sganiau am anomaleddau. Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar alluogi'r sonograffwyr i allu gweld 5 ongl o'r galon, a thrwy hyn gynyddu cyfraddau adnabod anomaleddau cardiaidd y ffetws. Nodwyd bod angen rôl arweinydd cardiaidd y ffetws o fewn adrannau sonograffi Byrddau Iechyd. Byddai'r rôl hon, ynghyd â rôl arweinydd tryloywder y gwegil (NT) o fewn y Bwrdd Iechyd yn asesu cymhwyster y sonograffydd ac yn darparu arweiniad lleol; mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn darparu cymorth ar gyfer y ddwy rôl. Mae'r Rhaglen yn parhau i weithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwybodeg CIG Cymru (NWIS) i gynhyrchu'r System Gwybodaeth Radioleg (RadIS) sef modiwl cofnodi i sganiau, i sicrhau bod y cofnodi yn gyson drwy Gymru, sy'n symleiddio'r broses o gasglu a dadansoddi data at ddibenion archwilio.

Adolygwyd y canllawiau ar gyfer canfyddiadau penodol o arwyddocâd amhenodol a chlustnodwyd bod angen datblygu llwybrau newydd. Mae ymgynghoriad ynglŷn â thaflenni gwybodaeth i fenywod yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, a chant eu lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Casgliad Mae hon wedi bod yn flwyddyn brysur i Sgrinio Cyn Geni Cymru. Gweithiodd y Tîm yn galed i sicrhau bod yr 8 rhaglen sgrinio, yn dilyn dirwyn y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela i ben ym mis Hydref 2016, yn cael eu rheoli mewn dull cydgysylltiedig o fewn y Byrddau Iechyd. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr drwy Gymru i wella llwybrau, darparu deunydd gwybodaeth i fenywod a'u teuluoedd, a gweithwyr iechyd proffesiynol, i wella canlyniadau beichiogrwydd i fenywod sy'n dewis cael profion sgrinio cyn geni. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 6

1. Cyflwyniad Mae gwasanaethau mamolaeth Byrddau Iechyd yng Nghymru yn darparu profion sgrinio cyn geni i fenywod beichiog fel rhan o'i gofal cyn geni. Mae gwahanol resymau dros ddarparu profion sgrinio cyn geni, sy'n golygu bod sgrinio cyn geni yn rhaglen gymhleth, gyda nifer o ddibenion gwahanol ac ystyriaethau a goblygiadau moesegol unigryw. Diben y rhaglen sgrinio cyn geni yng Nghymru yw: canfod cyflwr difrifol diffiniedig nail ai yn y fam neu'r babi, sy'n debygol o gael effaith andwyol ar iechyd y naill neu'r llall, ac y mae ymyrraeth effeithiol ar gael ar ei gyfer y gellir cyfiawnhau ei defnyddio. Ar gyfer rhai cyflyrau, mae triniaeth ataliol ar gael yn ystod y cyfnod cyn geni neu ar ôl rhoi genedigaeth er mwyn gwella iechyd y babi. I eraill, gellir adnabod y cyflwr yn ystod y cyfnod cyn geni, ond nid oes triniaeth ataliol ar gael. O dderbyn gwasanaeth cwnsela o ansawdd uchel, gall menywod wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pharhau â r beichiogrwydd. Mae'n bosibl trefnu cefnogaeth briodol i gyd-fynd â dewis y fenyw". Sgrinio Cyn Geni Cymru 2015 Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi darparu Rhwydwaith Rheolaeth Glinigol Cymru gyfan ar gyfer Sgrinio Cyn Geni ers 2003. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Sgrinio Cyn Geni Cymru sefydlu polisïau, safonau a fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer y profion sgrinio cyn geni sy'n cael eu darparu gan y gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Adran Sgrinio, sydd ag arbenigedd eang o safbwynt rheoli a darparu rhaglenni sgrinio ar sail poblogaeth. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn rhan o Raglenni Sgrinio i Famau a Phlant ers 2014 (gweler atodiad 1) sy'n cynnwys Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru (NBSW) a Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW). Darperir trefniadau llywodraethu ar gyfer y gwaith gan y Grŵp Ansawdd a Llywodraethu Clinigol ag Is-grwpiau. Nid yw Sgrinio Cyn Geni Cymru yn darparu nac yn rheoli unrhyw wasanaethau sgrinio cyn geni yn uniongyrchol. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 7

2. Y Tîm Yn 2016-2017 roedd tîm Cymru gyfan yn cynnwys: Pennaeth Rhaglen (1.0 c.a.ll.) ar gyfer y 3 rhaglen Mamau a Phlant 3 Cydlynydd Rhanbarthol - 2 fydwraig (1.8 c.a.ll), 1 uwchsonograffydd (0.8 c.a.ll.) Rheolwr Cefnogi Rhaglen (1.0 c.a.ll.) i'r 3 rhaglen MAP Cefnogaeth Weinyddol (0.8 c.a.ll.) (gweler atodiad 1, tudalen 19) Pennaeth y Rhaglen sy'n gyfrifol am redeg y tair rhaglen sgrinio mamau a phlant. Mae n gyfrifol am reoli'r ochr weithredol a darpariaeth strategol y rhaglenni, a rheoli perfformiad a chyllid er mwyn cyflawni amcanion y rhaglen sgrinio. Mae hefyd yn gyfrifol am weithio gydag iechyd cyhoeddus a'r Byrddau Iechyd i sicrhau rhaglen sgrinio o'r ansawdd uchaf. Y Cydlynwyr Rhanbarthol sy n arwain y gwaith o weithredu polisïau, safonau, protocol a'r fframwaith rheoli perfformiad Sgrinio Cyn Geni Cymru o fewn rhanbarth diffiniedig. Maent yn rheoli a chydlynu gweithgareddau dirprwyedig, ac yn arwain prosiectau rhaglenni sgrinio cyn geni Cymru gyfan sy'n bodoli neu brosiectau arfaethedig. Maent yn arwain y cydlynwyr sgrinio cyn geni, arweinwyr llywodraethu cyn geni a newydd-anedig, arolygwyr sonograffwyr, arweinwyr tryloywder y gwegil ac arweinwyr cardiaidd y ffetws yn broffesiynol i ddarparu a gweithredu rhaglen sgrinio cyn geni Cymru gyfan o fewn y byrddau iechyd a'r rhanbarthau. Rheolwr Cefnogi r Rhaglen Mamau a Phlant sy'n gweithio gyda Phennaeth y Rhaglen i ddarparu cefnogaeth rheolaeth weithredol i r Rhaglenni Mamau a Phlant i sicrhau bod y tasgau/prosiectau yn cael eu cynllunio, eu rheoli a'u darparu n effeithiol. Maent yn cynorthwyo gyda rheoli cyllidebau, dadansoddi data ariannol a chlustnodi meysydd lle mae potensial i wneud cynnydd ac arbed arian. Maent yn monitro perfformiad y rhaglen yn erbyn targed Sgrinio Cyn Geni Cymru. Cymorth Gweinyddol sy'n darparu'r gefnogaeth ysgrifenyddol, weinyddol a threfniadol i Gydlynwyr Rhanbarthol Sgrinio Cyn Geni Cymru a rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru. Maent yn cefnogi'r ddarpariaeth hyfforddiant a deunydd gwybodaeth a sesiynau ar draws Cymru ac yn cynorthwyo'r broses o gynhyrchu a dosbarthu gwybodaeth i fenywod. Maent yn diweddaru ac yn bwydo gwybodaeth i r cronfeydd data ar gyfer adroddiadau'r Byrddau Iechyd. Daeth y swydd hon yn wag yn ystod y cyfnod hwn, ac fe'i cynyddwyd i 1.0 c.a.ll. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroaddiad Blynyddol 2016 2017 8

3. Cynllun gweithredol Dilynodd y tîm gynllun gweithredu yn ystod 2016-2017 oedd yn cynnwys y meysydd canlynol: Archwiliad - gweithdrefnau mewnwthiol ar draws - Cymru cerdyn cais am sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasemia clefyd y crymangelloedd a thalasemia Comisiynu Tiny Tickers i ddarparu hyfforddiant ymarferol i sonograffwyr Newidiadau i r algorithm nifer fach o achosion ar gyfer clefyd y crymangelledd a thalasemia Datblygu: - taflenni hawdd eu deall - rôl arweinwyr llywodraethu - rôl arweinwyr cardiaidd - llawlyfr uwchsain - gwefan Sgrinio Cyn Geni Cymru Rheoli canlyniadau'r clefydau trosglwyddadwy adweithiol Rheoli perfformiad: - adroddiad chwe-misol ar ddangosyddion perfformiad - adolygu delweddau - archwiliad o sonograffwyr - cymorth parhau i sonograffwyr Adolygu'r canllawiau ar gyfer canfyddiadau penodol o arwyddocâd amhenodol Canllawiau ar heintiau yn ystod beichiogrwydd Chwiliad o lenyddiaeth PAPP-A ac argymhellion Taflenni gwybodaeth i fenywod cyn ac ar ôl prawf Achos busnes RadIS Llawlyfr sgrinio Dirwyn y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela i fenywod beichiog i ben Cwmpasu gwaith ar y newidiadau yn y rhaglen sgrinio syndrom Down, a chyflwyno sgrinio am syndrom Edwards a Patau Adolygu llenyddiaeth gefell diflannol ac argymhellion Gweithio gyda rhanddeiliaid Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroaddiad Blynyddol 2016 2017 9

4. Cyflawniadau'r tîm 4.1 Gweithio gyda rhanddeiliaid Grŵp Cynghori Penaethiaid Bydwreigiaeth (PGCAF) Mynychodd Pennaeth y Rhaglen a Chydlynwyr Rhanbarthol Sgrinio Cyn Geni Cymru gyfarfodydd PGCAF. Llwyddodd Pennaeth y Gwasanaeth i ddylanwadu ar y trafodaethau ynglŷn â Sgrinio Cyn Geni Cymru a'r Byrddau Iechyd yn cydweithio. Labordai O fewn y cyfnod Ebrill 2016 - Mawrth 2017, ymwelodd Sgrinio Cyn Geni Cymru â'r labordai a restrir isod, a chymryd rhan mewn gwaith yn ymwneud yn benodol â'r rhaglenni sgrinio: Labordai Hemoglobinopathi Labordy sgrinio syndrom Down a'r pecyn Gwasanaeth Cefnogi Sicrhau Ansawdd Syndrom Down (DQASS) Labordai firoleg a microfiroleg Rhaglenni sgrinio cenedlaethol y DU Mynychodd cydlynwyr rhanbarthol gyfarfodydd Iechyd Cyhoeddus Lloegr o: Rhaglen sgrinio Clefydau Heintus yn ystod Beichiogrwydd (IDPS) Rhaglen sgrinio Clefyd y crymangelloedd a Thalasemia Grŵp Cynghori Rhaglen Sgrinio Anomaleddau r Ffetws (FASP) Is-grŵp Labordy ac Uwchsain FASP Bwrdd Prosiect Prawf Cyn Geni Anfewnwthiol FASP (NIPT) Is-grŵp Gwybodaeth ac Addysg i Gleifion FASP NIPT Grŵp penaethiaid addysgwyr bydwreigiaeth (HOMed) a phrifysgolion Gwelwyd anghysondeb yn yr addysg a gynigiwyd i fyfyrwyr bydwreigiaeth yn y pedair prifysgol yng Nghymru ac amrywiad yn y nifer a oedd yn manteisioi ar hynny. Roedd MAP yn awyddus i sicrhau bod yr addysg a gynigiwyd i fyfyrwyr bydwreigiaeth yn gyson ar gyfer y tair rhaglen Mamau a Phlant. Roedd HOMed yn awyddus i weld agwedd mwy cyson o ran addysgu myfyrwyr bydwreigiaeth tdwy Gymru. Gofynnodd cynrychiolwyr HOMed a fyddai modd i Sgrinio Serfigol Cymru gymryd rhan yn yr addysg, a thrwy hyn, gynnal Diwrnod Sgrinio Iechyd Cyhoeddus (yma mhob prifysgol) ar gyfer Rhaglenni Sgrinio Mamau a Phlant a Sgrinio Serfigol. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 10

Derbyniwyd ffurflen werthuso gan 63 o fyfyrwyr o'r tair prifysgol. Roedd yr adborth yn cynnwys: *Addaswyd sesiynau 2017 yn unol â'r adborth. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 11

4.2 Rheoli perfformiad a llywodraethu o fewn y Byrddau Iechyd Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn monitro perfformiad safonau penodol, ac yn rhoi adborth am y perfformiad i'r Byrddau Iechyd. Mae arweinwyr arbenigeddau penodol y Byrddau Iechyd yn gyfrifol am gynlluniau gweithredu pan fo'r perfformiad yn is na r safon, er mwyn gwella safonau eu Byrddau Iechyd. Adroddiad dangosydd perfformiad chwe-misol Caiff adroddiad ar ddata perfformiad y Byrddau Iechyd ei gyflwyno i Sgrinio Cyn Geni Cymru bob chwe mis, ym mis Ebrill a mis Hydref. Dadansoddir y data ac anfonir adroddiad ar ddangosyddion perfformiad i'r Byrddau Iechyd. Fe'u cyflwynir i arweinwyr llywodraethu Rhaglenni Mamau a Phlant, cydlynwyr sgrinio cyn geni ac arweinwyr obstetreg a ddylai nodi r meysydd sy'n destun pryder o fewn eu Byrddau Iechyd Adolygiad o'r llawlyfr sgrinio Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi cynhyrchu a dosbarthu llawlyfr sgrinio i fydwragedd ers 2005. Mae'r llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth am egwyddorion sgrinio, dewis gwybodus, llwybrau, gwybodaeth glinigol, epidemioleg a rhifau ffôn defnyddiol. Gofynnodd Sgrinio Cyn Geni Cymru i'r cydlynwyr sgrinio cyn geni beth yr hoffent ei weld yn y fersiwn ddiwygiedig. Cyhoeddodd Sgrinio Cyn Geni Cymru fersiwn ddiwygiedig gyda llwybrau ac epidemioleg ar gyfer pob rhaglen sgrinio cyn geni, gan mai dyma r adborth a dderbyniwyd gan gydweithwyr ar y Bwrdd Iechyd. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 12

Datblygu rôl arweinwyr llywodraethu Mae Byrddau Iechyd Cymru wedi nodi arweinydd llywodraethu ar gyfer Rhaglenni Sgrinio Mamau a Phlant, sy'n rheoli rolau llywodraethu strategol y rhaglenni hyn. Mae Rhaglenni Mamau a Phlant yn ariannu'r rôl am un diwrnod yr wythnos ar gyfer pob un o arweinwyr llywodraethu'r Byrddau Iechyd. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn darparu elfen o addysg i alluogi'r rôl. Yn 2016, rhoddwyd diweddariadau i r arweinwyr llywodraethu gan Sgrinio Cyn Geni Cymru ar: Cynhyrchu siartiau llif a llwybrau a u defnyddio n ymarferol Cynhyrchu a defnyddio cynlluniau gweithredu Cynhyrchu cynllun addysg yn seiliedig ar flaenoriaethau rhaglen sgrinio Trefnu, cadeirio a gwneud y gorau o'r cyfarfodydd Delio â sgyrsiau anodd Ymchwiliad i ddigwyddiadau 4.3 Ymgysylltu â'r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol Taflenni gwybodaeth i fenywod cyn ac ar ôl prawf Cynhaliwyd adolygiad blynyddol o r wybodaeth sydd ar gael i fenywod. Ystyriwyd gwneud diwygiadau pan fydd y canllawiau presennol yn newid. Cydweithiodd Sgrinio Cyn Geni Cymru â rhanddeiliaid i sicrhau bod y taflenni wedi eu diwygio yn unol â'r ymchwil a'r dystiolaeth ddiweddaraf. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 13

Datblygu gwybodaeth hawdd ei deall Cydnabuwyd bod prinder llenyddiaeth hawdd ei deall ar gyfer rhaglenni sgrinio Mamau a Phlant. Mae Public Health England wedi cyhoeddi taflenni hawdd eu deall ac ar ôl cael caniatâd, gwnaeth Sgrinio Cyn Geni Cymru ddefnydd o'r taflenni a'u diwygio i w defnyddio yng Nghymru. Y taflenni diwygiedig yw: Sgrinio am glefyd y crymangelloedd a thalasemia Sgrinio am syndrom Down Sganiau sgrinio sy'n defnyddio uwchsain Sgrinio am hepatitis B, HIV a siffilis. Bydd Sgrinio Cyn Geni Cymru yn cynhyrchu: Sgrinio ar gyfer grŵp gwaed a gwrthgyrff. Profiad defnyddwyr gwasanaethau Datblygwyd holiadur gwerthuso i ddefnyddwyr gwasanaethau mamau a phlant. Gofynnwyd i ddefnyddwyr gwasanaethau lenwi un holiadur ar gyfer y tair rhaglen sgrinio mamau a phlant. Bydd gwerthusiad o ddefnyddwyr gwasanaeth yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, a bydd y canlyniadau n cael eu bwydo yn ôl i'r Byrddau Iechyd. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 14

Datblygiad y wefan Ailgynlluniwyd gwefan broffesiynol Sgrinio Cyn Geni Cymru i gynnwys y rhaglenni allweddol fel penawdau i alluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ganfod gwybodaeth yn haws. Mae gwefan gyhoeddus Sgrinio Cyn Geni Cymru yn cynnwys delweddau o'r taflenni gwybodaeth i fenywod er mwyn i fenywod adnabod y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. 4.4 Sgrinio clefydau trosglwyddadwy Canlyniadau adweithiol rheoli sgrinio clefydau trosglwyddadwy Gweithiodd Sgrinio Cyn Geni Cymru mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol i ddyfeisio protocol Cymru gyfan, taflen ffeithiau a thaflen wybodaeth i fenywod beichiog sydd wedi cael canlyniad adweithiol i HIV, syffilis a hepatitis B. Galluogodd hyn i ganlyniadau gael eu rheoli mewn dull cyson drwy Gymru. Mewn archwiliad a gynhaliwyd gan Sgrinio Cyn Geni Cymru a chydweithwyr yn yr adran firoleg, yn gofyn i weithwyr iechyd proffesiynol a oedd y daflen a'r daflen ffeithiau yn ddefnyddiol, canfuwyd bod y wybodaeth ysgrifenedig a gynhyrchwyd yn ddefnyddiol iawn fel rhan o'r drafodaeth gyda menywod. Cafodd y wybodaeth hon ei chofnodi a'i chyflwyno ar ffurf poster yng Nghynhadledd Genedlaethol BHIVA 2016.

Sgrinio am dueddiad rwbela mewn beichiogrwydd Ni lwyddodd y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela mewn beichiogrwydd i gwrdd â meini prawf Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU am raglen sgrinio, ac ar gais Pwyllgor Sgrinio Cymru, trefnwyd tîm prosiect ym mis Medi 2015 i edrych ar y peryglon a'r manteision i Gymru, ac i ddirwyn y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela cyn geni i ben. Arweiniwyd Tîm y Prosiect gan Sgrinio Cyn Geni Cymru ac roedd yn cynnwys ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, diogelu iechyd, a rhanddeiliaid perthnasol eraill, i gytuno ar broses ddiogel o ddirwyn y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela i mewn beichiogrwydd i ben. Daeth i ben yn llwyddiannus ar 3 Hydref 2016. Canllawiau ar gyfer heintiau a brechau yn ystod beichiogrwydd Fel rhan o r prosiect o ddirwyn y rhaglen sgrinio am rwbela yn ystod beichiogrwydd i ben, adolygodd a diwygiodd Sgrinio Cyn Geni Cymru y Canllawiau ar Heintiau yn Ystod Beichiogrwydd. Ychwanegwyd adran am imiwneiddio yn ystod beichiogrwydd. Roedd yr adolygiad yn tanlinellu pwysigrwydd rheoli dod i gysylltiad â brechau, a salwch sy n gysylltiedig â brechau yn ystod beichiogrwydd. Roedd cydweithio gyda'r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefyd Ataliadwy, Diogelu Iechyd, Firoleg a Microbioleg, Meddyginiaeth y Ffetws a'n cydweithwyr Pediatrig yn sicrhau r budd mwyaf o r prosiect. 4.5 Clefyd y crymangelloedd a thalasemia Newidiadau i algorithm clefyd y crymangelloedd a thalasemia Gweithiodd Sgrinio Cyn Geni Cymru gyda labordai i sicrhau bod llawlyfr labordy NSC UK yn cael ei ddefnyddio yn unol â safonau Sgrinio Cyn Geni Cymru yng Nghymru. Cafwyd rhai problemau yn deillio o labordai n mabwysiadu'r algorithm ar gyfer nifer fach o achosion yng Nghymru, a gwelwyd bod labordai yn ei ddadansoddi yn wahanol. Gweithredwyd algorithm newydd yn Awst 2015 a chafodd ei adolygu a i ddiwygio ym mis Gorffennaf 2016, yng ngoleuni tystiolaeth o Gymru. Ymwelodd Sgrinio Cyn Geni Cymru â labordai'r Bwrdd Iechyd i egluro'r sail resymegol, ac i gynnig cefnogaeth o ran gweithredu'r algorithm y cytunwyd arno. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 16

Archwiliad o gerdyn cais sgrinio cyn geni ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasemia Clustnodwyd bod gwallau mynych wrth gwblhau'r cerdyn cais sgrinio cyn geni ar gyfer hemoglobinopathi. Gwnaed archwiliad ciplun yn labordai'r Byrddau Iechyd ym mis Mawrth 2016 a dadansoddodd Sgrinio Cyn Geni Cymru y wybodaeth ar 676 o ffurflenni cais am sgrinio ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasemia. Rhoddodd Sgrinio Cyn Geni Cymru gyflwyniad PowerPoint i'r cydlynwyr sgrinio a oedd yn cynnwys diweddariad addysg am glefyd y crymangelloedd a thalasemia sy'n tanlinellu'r problemau wrth gwblhau'r cerdyn. Rhoddodd y cydlynwyr sgrinio adborth i'r bydwragedd a'r labordy am ganlyniadau archwiliad eu Byrddau Iechyd penodol. Cynhaliwyd ail archwiliad i gwblhau'r cerdyn ym mis Ebrill-Mai 2017. 4.6 Sgrinio syndrom Down Cwmpasu'r newidiadau i raglen sgrinio syndrom Down Mae NSC UK wedi cymeradwyo sgrinio cyn geni am syndromau Edwards a Patau. Mae NSC UK hefyd wedi cymeradwyo gwerthusiad o'r broses o weithredur prawf DNA y ffetws di-gell (gelwir cfdna hefyd yn brawf cyn geni anfewnwthiol) i'w gynnig fel dewis amgen i brawf diagnostig, yn dilyn canlyniad prawf sgrinio tebygolrwydd uwch. Dechreuwyd prosiect i ddechrau'r gwaith o weithredu'r newidiadau hyn yng Nghymru a threfnwyd dogfen gychwynnol y prosiect a'r grwpiau cysylltiedig. Digwyddodd y newidiadau yn ystod y cyfnod amser hwn, gan gynnwys: mynychu cyfarfodydd yn y DU a rhoi'r canlyniadau ar waith yng Nghymru; gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lywio penderfyniadau polisi; a chyfathrebu â'r byrddau iechyd. Mae'r prosiect wedi trefnu cyfarfodydd Cymru gyfan i gwmpasu'r broses weithredu, ynghyd â gweithio gyda labordai er mwyn gallu darparu'r profion. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 17

Adolygiad o lenyddiaeth gefell diflannol a chymeradwyaethau Ym mis Ebrill 2015, cynhyrchodd Sgrinio Cyn Geni Cymru ganllawiau ar reoli prawf sgrinio cyfunol am syndrom Down i fenywod ble roedd beichiogrwydd gefell aflwyddiannus. Nid oedd hwn yn cynnwys canllaw i sgrinio pedrwbl. Cynhaliwyd chwiliad o lenyddiaeth a fyddai'n sail I gyhoeddi canllawiau wedi'i ddiweddaru gan gynnwys sgrinio pedrwbl yng Nghymru, sydd bellach ar y wefan. Ymchwil i lenyddiaeth PAPP-A ac argymhellion Mae sgrinio cyfun am syndrom Down yn cynnwys mesur o farcwyr serwm mamol. Mae rhai dogfennau wedi clustnodi lefelau isel o PAPP-A fel ffactor risg ar gyfer babi sy n fach o gymharu â chyfnod y beichiogrwydd (SGA). Adolygodd Sgrinio Cyn Geni Cymru y llenyddiaeth am y defnydd posibl o PAPP-A fel prawf sgrinio annibynnol i adnabod beichiogrwydd lle mae risg o SGA. Dangosodd yr ymchwil i lenyddiaeth bod PAPP-A isel yn y tri mis cyntaf yn cynyddu'r risg o enedigaeth SGA. Fodd bynnag, nid yw'r peryglon cymharol yn gryf iawn, ac nid yw lefelau PAPP-A yn gweithio'n dda fel prawf sgrinio am SGA, ac ni ddylid eu defnyddio fel prawf sgrinio annibynnol. Mae adolygiad o'r llenyddiaeth wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, er mwyn dod i gytundeb ar lwybr ar gyfer Cymru. 4.7 Uwchsain Archwiliad o weithdrefnau mewnwthiol yng Nghymru Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru, fel rhan o'r prosiect i weithredu'r profion cyfun yn 2014 a 2015 yng Nghymru, wedi cytuno i gynnal adolygiad o'r gwasanaeth i asesu'r angen am Samplo Filws Corionig (CVS) a darpariaeth amniosentesis ar draws Cymru. Bwriad yr adolygiad oedd monitro a chofnodi nifer y triniaethau mewnwthiol, a'r dewisiadau wnaed gan fenywod. Pan oedd cyfnod y beichiogrwydd yn caniatáu i fenyw ddewis, ceisiodd yr archwiliad ganfod yr hyn a ddylanwadodd ar y penderfyniad i ddewis amniosentesis yn hytrach na CVS. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 18

Adroddiad chwe-misol DQASS Cofnodir bob mesuriad coron i ffolen (CRL) a thryloywder gwegil (NT) a wneir gan sonograffydd ar gerdyn cais am brawf sgrinio ar gyfer syndrom Down. Mae gan bob sonograffydd cod adnabod unigryw, sy'n cael ei gyflwyno ynghyd â'r mesuriadau ar yr un ffurflen. Mae'r labordy'n anfon y data, gan gynnwys cod y sonograffydd, at y DQASS bob chwe mis. Mae DQASS yn cynhyrchu graff ar gyfer pob sonograffydd unigol o'r wybodaeth hon. Cyflwynwyd y graffiau DQASS hyn i'r Byrddau Iechyd yn 2016. Datblygu llawlyfr uwchsain Gwnaeth sonograffwyr yng Nghymru gais i Sgrinio Cyn Geni Cymru gynhyrchu llawlyfr er mwyn cael y dogfennau perthnasol wrth law ac mewn fformat cryno. Wrth gynhyrchu r llawlyfr, ymgynghorodd Sgrinio Cyn Geni Cymru â sonograffwyr, cydlynwyr sgrinio cyn geni, arweinwyr llywodraethu a'r rhanddeiliaid perthnasol yng nghyfarfodydd Cymru gyfan. Cyhoeddwyd y llawlyfr ym mis Ionawr 2017, ac mae'n gyfeirlyfr sy'n hwyluso gwaith sonograffwyr i ddarparu'r rhaglen sgrinio cyn geni yng Nghymru. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 19

Comisiynu Tiny Tickers Comisiynodd Sgrinio Cyn Geni Cymru Tiny Tickers i ddarparu hyfforddiant ymarferol i fwy na 120 o sonograffwyr mewn ysbytai ledled Cymru, i'w cynorthwyo i ddod o hyd i annormaledd strwythurol yng nghalonnau babanod heb eu geni. "Mae Tiny Tickers yma i gynorthwyo sonograffwyr - i roi'r sgiliau a'r hyder iddyn nhw wybod pan nad yw calon y babi yn edrych yn normal. Rydym yn gwybod y gwahaniaeth y mae canfod annormaledd yn gynnar yn ei wneud i'r babanod hyn. Jon Arnold, Prif Weithredwr, Tiny Tickers Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar roi r sgiliau i sonograffwyr edrych ar bum delwedd wahanol o galon y babi yn ystod y sgan 18 i 20 wythnos. Roedd yn cynnwys ychwanegu'r ddelwedd tracea 3 llestr a ddaeth yn orfodol ym mis Tachwedd 2016. Datblygu rôl arweinwyr cardiaidd Gwelwyd bod angen arweinydd cardiaidd ar bob Bwrdd Iechyd i fonitro ac archwilio delweddau cardiaidd y sgan anomaledd. Byddai'r arweinwyr yn cael hyfforddiant cyfredol, wedi'i gefnogi gan Sgrinio Cyn Geni Cymru fel eu bod yn gallu rhaeadru r wybodaeth a chefnogi'r sonograffwyr o fewn eu Byrddau Iechyd. Cynorthwyodd Sgrinio Cyn Geni Cymru gyda datblygu rôl yr arweinydd cardiaidd. Adolygu delweddau Cynhelir adolygiad o ddelweddau uwchsain bob chwe mis. Mae cydlynydd sgrinio uwchsain obstetreg Sgrinio Cyn Geni Cymru yn adolygu ac yn asesu'r tri phâr o ddelweddau o'r CRL ac NT i bob sonograffydd arweiniol y Byrddau Iechyd. Mae'r adolygiad yn dilyn maen prawf caeth sy'n asesu ansawdd y sganiau sy'n cael eu cynnal ar y rhaglen sgrinio. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 20

Achos busnes RadIS System wybodaeth electronig yw modiwl cofnodi obstetreg RadIS ar gyfer cofnodi data radioleg sy'n cael ei ddefnyddio mewn dau brawf sgrinio uwchsain obstetreg: y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar; a'r sgan annormaledd y ffetws. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn cydweithio â Gwasanaeth Gwybodeg CIG Cymru i ddatblygu'n barhaus y modiwl cofnodi, i sicrhau bod cysondeb yn y cofnodi ledled Cymru, ac i hwyluso casglu a dadansoddi data at ddibenion archwiliad. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn sicrhau bod y siartiau a ddefnyddir ar gyfer mesuriadau'r sganiau sgrinio yn gyson o fewn y byrddau iechyd. Archwiliad o sonograffwyr a chefnogaeth barhaus Gwnaed archwiliad gwaelodlin o fesuriadau cylchedd pen (HC) a delweddau yng Nghymru yn 2016. Gofynnwyd i bob sonograffydd a oedd yn cymryd rhan yn y sganiau dyddio beichiogrwydd cynnar i gyflwyno'r ddelwedd o fesuriadau cylchedd pen a ddefnyddiwyd yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar. Aseswyd y delweddau gan yr arweinydd NT ar bob safle yn erbyn mesuriadau cylchedd pen a ddarparwyd gan Sgrinio Cyn Geni Cymru a dychwelwyd y canlyniadau i Sgrinio Cyn Geni Cymru. Asesodd cydlynydd uwchsain obstetreg Sgrinio Cyn Geni Cymru yr arweinwyr NT Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 21

gan ddefnyddio'r un meini prawf. Gwnaed archwiliad yn ogystal i adnabod corioneg / amnioneg yn y sganiau dyddio beichiogrwydd cynnar i efeilliaid. Bwriedir cynnal archwiliad Sgrinio Cyn Geni Cymru blynyddol i gynnwys yr holl fesuriadau a ddefnyddir yn y sganiau sgrinio cyn geni, fel cytunwyd gan y sonograffwyr arweiniol obstetreg. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi cynhyrchu gwybodaeth i asesu'r maen prawf sy'n ofynnol gan yr holl archwiliadau. Adolygiad o'r canllawiau ar gyfer canfyddiadau penodol o bwysigrwydd amhenodol Yn dilyn ymgynghoriad, dyfeisiwyd llwybrau ar gyfer cofnodi arsylwadau uwchsain perthnasol. Adolygwyd y llenyddiaeth a data CARIS i adnabod yr arferion gorau ar gyfer arsylwadau uwchsain perthnasol. Yn dilyn yr ymgynghoriad gwreiddiol, nodwyd gofynion pellach ar gyfer y data. Aseswyd y data, ac adolygwyd y llwybrau yn dilyn ymgynghoriad pellach, a chafwyd cytundeb Cymru gyfan ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wrthi n cynhyrchu gwybodaeth i fenywod, a phrotocolau archwiliad cyn eu rhoi ar waith. 5. Casgliad Mae hon wedi bod yn flwyddyn brysur i Sgrinio Cyn Geni Cymru. Gweithiodd y Tîm yn galed i sicrhau bod yr 8 rhaglen sgrinio, yn dilyn dirwyn y rhaglen sgrinio am dueddiad rwbela i ben ym mis Hydref 2016, yn cael eu rheoli mewn dull cydgysylltiedig o fewn y Byrddau Iechyd. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr drwy Gymru i wella llwybrau, darparu deunydd gwybodaeth i fenywod a'u teuluoedd, a gweithwyr iechyd proffesiynol, i wella canlyniadau beichiogrwydd i fenywod sy'n dewis sgrinio cyn geni. Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 22

Organisational Structure 2016 ASW within Maternal and Child Screening (MAC) Sharon Hiller Acting Deputy Director Screening Division Ruth Lawler Head of Maternal and Child Sceening Newborn Hearing Screening Wales Newborn Bloodspot Screening Wales Antenatal Screening Wales Ann-marie Donaghy Programme Support Manager Maternal and Child Screening Andrea Thomas Regional Coordinator (South East Wales) Maria Chapman Regional Coordinator (North and Mid Wales) Kindry Williams Regional Coordinator (South West Wales) Administrator Support Newborn Bloodspot Screening Wales Administrator Support Antenatal Screening Wales Health Board NT leads, obstetric leads and cardiac leads Health Board Antenatal Screening Coordinators Health Board MAC Governance Leads Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol 2016 2017 23