Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!! Unwaith eto mae gennym straeon gwych i w hadrodd wrthych a gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau. Mae pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth yn parhau yn flaenoriaeth i ni yng Nghonwy a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr. Diolch yn fawr i Nicky o Dîm Partneriaeth Pobl Conwy am baratoi r cylchlythyr, gwaith gwych unwaith eto! Ymarfer sy n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Cyfarfod ar y cyd rhwng PPC/Cyngor Leuenctid/ Rhwydwaith Ymwneud Cyngor leuenctid Conwy Cyfeillion Dementia Gwybodaeth I r Cylchlythyr Cofion, Geraint Davies Cadeirydd Partneriaeth Pobl Conwy Grŵp Canlyniad 7 Conwy Diwrnod Chwarae Manylion Cyswllt
Ymarfer sy n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Yn gyntaf, beth mae Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn YCU yn ei olygu? Mae YCU yn broses barhaus o wrando a dysgu ynghylch beth sy n bwysig i (y pethau sy n bwysig iddynt hwy a dod ag ansawdd i fywyd) ac ar gyfer yr unigolyn (y pethau sydd arnynt ei angen i fod yn iach, diogel ac i ddysgu), nawr ac yn y dyfodol gyda r teulu, ffrindiau gyda phobl broffesiynol yn gweithio gyda i gilydd i wneud i hyn ddigwydd. Mae cynllunio n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gweithio orau pan fo n cael ei ddefnyddio o fewn sefydliadau sydd wedi u gwreiddio yn niwylliant YCU. Nid yw n ymwneud â chreu cynlluniau n unig. Pam fod strategaeth wedi i datblygu? Mae gan Ofal Cymdeithasol ac Addysg Conwy eisiau gweithio gyda i gilydd i ddatblygu Cynllunio n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy. Mae r Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADA) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru yn pwysleisio y dylai gwasanaethau gydweithio a bod yn hyblyg er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc, oedolion a u teuluoedd a gofalwyr yn cael cefnogaeth gydlynedig sy n eu helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Bydd gweithio ynghyd mewn modd sy n canolbwyntio ar yr unigolyn yn: gwella mynediad at ddysgu, gofal a chefnogaeth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o reolaeth gwella canlyniadau i bobl rydym yn gweithio gyda hwy darparu dysgu sy n canolbwyntio ar yr unigolyn, gofal a chefnogaeth gydlynedig gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd gwella bod yn agored a chlir mewn systemau. Nod/Gweledigaeth Sefydlwyd grŵp llywio i oruchwylio a chyfarwyddo datblygu Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy. Mae r grŵp yn bresennol yn cynnwys cynrychiolaeth o: Ofal Cymdeithasol, Seicoleg Addysg, Therapi Galwedigaethol, Conwy Connect, staff a disgyblion Ysgol y Gogarth, Partneriaeth Pobl Conwy a defnyddwyr gwasanaeth eraill: Ein gweledigaeth fel grŵp yw: cael Ymarferion yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn wedi i wreiddio mewn ymarfer sefydliadol bydd cydweithio yn cryfhau: bydd Cynllunio n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn dod â r holl bobl sy n ymwneud â bywyd unigolyn i un lle, i weithio gyda i gilydd i wneud newid cadarnhaol i r unigolyn hwnnw
bydd pobl yn dod ynghyd i greu cynllun ystyrlon ar gyfer yr unigolyn. Un cynllun fydd hwn a fydd yn lleihau dyblygu ac ail adrodd gan gyflawni canlyniadau ystyrlon i r unigolyn bydd dull yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn yng Nghonwy yn helpu pobl i helpu eu hunain, bydd yn canolbwyntio ar alluoedd a chryfderau pobl gan weithio gyda hwy i gyflawni eu canlyniadau unigol ystyrlon bydd Dulliau n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn rhoi r grym i bobl gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau fel eu bod yn gyfrifoldebau sy n cael eu rhannu rhwng dinasyddion, awdurdodau lleol a u partneriaid. Rydym wedi cyflwyno rhaglen hyfforddiant o ansawdd uchel ar draws timau Anabledd Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion a Gwasanaethau Addysg. Mae hyfforddiant gloywi ar y cyd a datblygu cynllun gweithredu wedi i gefnogi yn cael ei ddatblygu nawr, a bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf. Rydym wedi trefnu rhwydwaith o bencampwyr YCU ym mhob clwstwr o ysgolion yn y sir ac mae gwaith tebyg yn cael ei wneud gan Wasanaethau Cymdeithasol. Y cynllun yw y bydd diwrnodau rhwydweithio ar y cyd yn dilyn. Bydd hyn yn hwyluso lledaenu ymarfer da a hyfforddiant, rheoli ansawdd Ymarfer yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn, cefnogaeth a rhannu problemau ar y cyd. Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth trwy wahanol haenau o dimau rheoli, sicrhau bod y brwdfrydedd a gwaith caled rydym yn ei weld trwy ein gwaith gyda darparwyr gwasanaeth yn gallu cael ei gynnal a i gefnogi.
Cyfarfod ar y cyd rhwng PPC/Cyngor Ieuenctid/Rhwydwaith Ymwneud Mae penaethiaid gwasanaeth, aelodau etholedig ac aelodau Partneriaeth Pobl Conwy yn cyfarfod y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad bob blwyddyn i wrando ar adborth ar waith y flwyddyn flaenorol, ymgynghori gyda i gilydd ar bwnc dethol a phleidleisio ar eu blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod. Cychwynnodd y cyfarfod gyda chyflwyniad gan Geraint Davies, cadeirydd Partneriaeth Pobl Conwy. Cafodd ei ddilyn gan gyflwyniad gan aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy a r Rhwydwaith Ymglymiad ynghylch y gwaith a r gweithgareddau maent wedi u gorffen yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd Jane Trowman (Pennaeth Cynllunio, BIPBC) gyflwyniad ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Gofal yn nes at y Cartref.
Defnyddiwyd ail ran y noson fel gweithdy a chynhaliodd y grwpiau drafodaeth ar Gymunedau ; roeddent yn ystyried cwestiynau ar Beth oeddent yn ei ystyried oedd yn gwneud cymuned dda, Beth yw r heriau / rhwystrau i gymuned dda a Beth fyddai n gwneud gwahaniaeth. Cynhyrchodd y drafodaeth gan y grwpiau amrywiaeth eang o wahanol syniadau ar y pwnc a fydd yn cael eu defnyddio i gyfarwyddo gwaith y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad ynghylch Cymunedau Tosturiol. Ar ddiwedd y digwyddiad cafodd pawb gyfle i bleidleisio ar ba bedwar blaenoriaeth roedd ganddynt eisiau i r Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymglymiad weithio arno dros y flwyddyn i ddod. Y flaenoriaeth a ddewiswyd ar gyfer y ddau grŵp oedd Cyffuriau ag Alcohol.
Cyngor Ieuenctid Conwy Ers dechrau r tymor mae aelodaeth y Cyngor Ieuenctid wedi cynyddu, gydag aelodau newydd o Ysgol Aberconwy, Ysgol Eirias, Coleg Llandrillo ac o r Gwasanaethau Ieuenctid. Mae r Cyngor Ieuenctid wedi bod yn gweithio yn galed ar eu prosiectau, Iechyd Meddwl a Stigma ac Anghenion Dysgu Ychwanegol. Daeth cynrychiolydd o r Samariaid i siarad am bynciau roedd y Cyngor Ieuenctid yn teimlo oedd yn bwysig iddynt o ran Iechyd Meddwl. Y pynciau oedd Iechyd Emosiynol, Hunan-niweidio, Bwlio a Straen Arholiadau. Bu iddynt benderfynu creu cyflwyniad yn egluro beth yw r pynciau a hefyd beth allant wneud i geisio gwella r sefyllfa. Mae r aelodau wedi bod i ysgolion i gyflwyno i r uwch staff ac wedi cael ymateb cadarnhaol iawn. Gofynnwyd i r Cyngor Ieuenctid gymryd rhan mewn rhai ymgynghoriadau megis Gwneud newidiadau i r etholiad a sut rydym yn pleidleisio i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddynt hefyd wneud newidiadau i r cerdyn pen-blwydd 18 y mae r cyngor yn ei anfon yn bresennol ac maent hefyd wedi rhoi eu barn ar wefan newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gofynnodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru os allant ddod i ymgynghori gyda r Cyngor Ieuenctid am y posibilrwydd o ffurfio Senedd Ieuenctid Cymru. Buont yn siarad am gefndir a hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yna buont yn ymgynghori a rhoi eu barn ar sut y byddai r Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio.
Cyn gwyliau r haf aeth y Cyngor Ieuenctid i Glan-llyn, y Bala am ddiwrnod llawn gweithgareddau awyr agored. Yn y bore buont yn gwneud ymarferion adeiladu tîm, yna ymlaen i r cwrs rhaffau uchel. Yn y prynhawn aethant i ganŵio ar lyn Tegid ble cawsant hefyd gyfle i nofio. Ar ôl iddynt sychu aeth yr aelodau yn ôl i mewn i orffen y cyflwyniad iechyd meddwl. Cafodd y Cyngor Ieuenctid gyfle gwych i fynd i wylio Little Mix ym Mharc Eirias. Roeddent yn ffodus iawn o gael ticedi am ddim gan y Cyngor ac fe u gwahoddwyd i r babell VIP i gymysgu gyda phobl ifanc eraill cyn i r cyngerdd gychwyn. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Tuag at ddiwedd gwyliau r haf cafodd y Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymwneud gyfarfod ar y cyd yn TAPE, Hen Golwyn i drafod Cymunedau Gwydn. Roedd yn ddiwrnod ardderchog gyda syniadau gwych ar gyfer prosiect newydd. Bu i r Cyngor Ieuenctid a r Rhwydwaith Ymwneud wir fwynhau cydweithio a gobeithiant wneud llawer mwy yn y dyfodol.
Gwybodaeth i r Cylchlythyr Mae r Rhwydwaith Ymwneud yn datblygu r gwaith i helpu Bae Colwyn i ddod yn le mwy addas i bobl â Dementia. Cynhaliwyd cyfarfod yn llyfrgell Bae Colwyn pan ddaeth Jo Lane o Gymdeithas Alzheimer i helpu pobl ddysgu mwy am y profiad o fyw gyda dementia a throi r ddealltwriaeth honno yn weithredu. Cawsom 21 o Ffrindiau Dementia newydd a nifer o bobl a fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o r gwaith wrth symud ymlaen. Mae dau aelod o r Rhwydwaith Ymwneud wedi dod yn Bencampwyr Dementia a byddant yn gallu cynnal sesiynau Ffrind Dementia yn yr ardal. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am leoliad mwy parhaol i gynnal cyfarfodydd a sesiynau Ffrind Dementia.
Mae r grŵp yn parhau i ymgynghori gydag ac ar gyfer y COG s, yn y chwe mis diwethaf rydym wedi cael cynrychiolwyr o COG 4 a 5 i ddod i siarad gyda r grŵp. Daeth Megan Vickery, swyddog ymgysylltu r ardal ganolog o BCUHB i siarad gyda r Rhwydwaith Ymwneud am yr ymgysylltu a r ymgynghori a wneir gan BCUHB. Bu i r grŵp fwynhau cymryd rhan mewn ymgynghoriadau am y Canllawiau Statudol, yr Asesiad Anghenion Poblogaeth a Bysiau yng Nghonwy. Bu i r Rhwydwaith Ymwneud fwynhau r diwrnod a dreuliwyd gyda Chyngor Ieuenctid Conwy, yn edrych ar sut y gallwn gydweithio ar gymunedau gwydn. Maent yn edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf. Rhwydwaith Ymglymiad Conwy Mae Rhwydwaith Ymglymiad Conwy yn grŵp o aelodau o r cyhoedd sy n cyfarfod i gymryd rhan yng ngwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy trwy Bartneriaeth Pobl Conwy; mae pob aelod fel arfer yn cynrychioli grŵp cymunedol sy n cyfarfod yng Nghonwy. Cysylltwch â Pauline Roberts, Swyddog Cyfranogiad Oedolion ffôn 01492 574039 neu pauline.roberts@conwy.gov.uk os oes gan rywun ddiddordeb mewn ymuno â r rhwydwaith.
Grŵp Canlyniad 7 Conwy Gofal diwedd bywyd, mwy o bobl sydd ar ddiwedd eu hoes yn cael gofal yn y lle o u dewis Bu i COG 7 ganfod bod bwlch o ran cefnogaeth gyda marwolaeth sydyn. Ymgynghorwyd â grwpiau profedigaeth i sicrhau mai dyma r achos ac fe u cynghorwyd, er bod llawer o sefydliadau sy n darparu cefnogaeth i rai sydd wedi cael profedigaeth, nid oedd ganddynt unrhyw ffordd o hyrwyddo eu gwasanaethau i weithwyr proffesiynol na r cyhoedd. Mae r daflen yn rhoi gwybodaeth ymarferol a ffynonellau o gefnogaeth i deulu a ffrindiau gan gynnwys y pethau sydd angen i chi eu gwneud yn y diwrnodau cyntaf ar ôl i rywun farw, cysylltiadau i wefannau a rhifau ffôn amrywiol sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth a chwnsela. Os hoffech gael taflen cysylltwch â Thîm Partneriaeth Pobl Conwy ar 01492 574077 neu e- bost: CPP@Conwy.gov.uk
Diwrnod Chwarae Yn ystod diwrnodau oer y gaeaf, mae n braf cael edrych yn ôl ar Ddiwrnod Chwarae 2017 ac edrych ymlaen at ddigwyddiad llwyddiannus arall yr haf hwn. Dydd Mercher, 2 Awst oedd Diwrnod Cenedlaethol Chwarae a dathlodd Conwy mewn steil gyda 3,000 o bobl yn chwarae ar y traeth ym Mae Colwyn. Symudodd y Diwrnod Chwarae i r traeth eleni a phrofodd unwaith yn rhagor i fod yn llwyddiant mawr gyda r plant a r oedolion fel ei gilydd Cawsom yr amser gorau. Roedd wedi i drefnu n dda iawn ac roedd y staff yn hyfryd, diolch yn fawr am ddiwrnod ardderchog. Mwynhaodd y plant a r oedolion baentio, gwneud cerddoriaeth, adeiladu ffau, llunio pastai dywod, arbrofion glŵp, celf graffiti a llawer mwy.
Mae r Diwrnod Chwarae yn dathlu pwysigrwydd chwarae ym mywyd plant gan ddwyn sylw bod angen i ni fel oedolion wneud mwy i leihau r rhwystrau mae plant yn eu hwynebu pan fo ganddynt eisiau chwarae. Fe wnaeth asesiad digonolrwydd chwarae Conwy ddarganfod fod trafnidiaeth, pryderon rhieni, oedolion sarrug yn y gymdeithas a diffyg lle i gyd yn cyfrannu at blant yn teimlo nad ydynt yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae. Mae digwyddiadau fel y rhain yn dangos manteision niferus chwarae nid yn unig i blant unigol ond i r gymdeithas fel cyfanrwydd hefyd.
Dywedodd y Cyng. Brian Cossey, Cadeirydd Cyngor Conwy a Phencampwr Chwarae Conwy; Mae Conwy n credu n gryf ei bod yn hanfodol i bob plentyn gael cyfleoedd i chwarae bob dydd ac mae Diwrnod Chwarae heddiw yn dathlu hawl plant i chwarae. Roedd yn ddigwyddiad hynod lwyddiannus ac roedd yr haul yn tywynnu. Pleser unwaith yn rhagor oedd cael dwyn sylw at bwysigrwydd hawl plant i chwarae (Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant). Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Cynhaliwyd Diwrnod Chwarae am ddim Conwy gan Gefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy a i ariannu gan Gyngor Tref Bae Colwyn. Roedd diwrnod chwarae gwledig poblogaidd iawn ar 4 Awst yn Nhrefriw, yn cael ei gynnal gan y fro a r Ganolfan Teuluoedd Gwledig.
Manylion Cyswllt Os hoffech fod ar y rhestr bostio electronig i gael cylchlythyr/bwletin ar gyfer y bartneriaeth newydd llenwch y ffurflen hon a i dychwleyd i: cpp@conwy.gov.uk Enw Enw r Sefydliad.... Cyfeiriad....... Cyfeiriad E-bost...