Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Holiadur Cyn y Diwrnod

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015/16. Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Talu costau tai yng Nghymru

Cynnwys. Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Welsh Language Scheme

offered a place at Cardiff Met

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

NatWest Ein Polisi Iaith

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Snowdonia National Park Authority R HYBUDD O GYFARFOD / NOTICE OF M EETING. Man Cyfarfod:

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

E-fwletin, Mawrth 2016

Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

BWRDD IECHYD ADDYSGU POWYS DATGANIAD ANSAWDD BLYNYDDOL 2016/17

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

W46 14/11/15-20/11/15

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Adolygiad Sefydliadol (model hybrid) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

Hawliau Plant yng Nghymru

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Technoleg Cerddoriaeth

Swim Wales Long Course Championships 2018

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Tueddiadau cyngor yng Nghymru 2015 i 2016

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Transcription:

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Adroddiad Blynyddol 2016-2017 www.awmsg.org Sicrhau r canlyniadau gorau o feddyginiaethau ar gyfer cleifion yng Nghymru

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Cynnwys Tudalen Gair o Groeso gan y Cadeirydd 1 Proffil o AWMSG 2 Y diweddaraf am Strategaeth AWMSG 3 Gweithio mewn partneriaeth 4 Cleifion 5 Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 6 Y diwydiant fferyllol 7 Ein gwaith eleni Optimeiddio meddyginiaethau 11 Canllawiau ac adnoddau 11 Ein gwaith eleni Monitro rhagnodi 14 Monitro Meddyginiaethau wedi eu Harfarnu 14 Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 14 Ein gwaith eleni Asesiad Technoleg Iechyd 16 Cyngor a roddwyd yn 2016-2017 16 Cynllun Mynediad Cleifion Cymru 17 Cronfa Triniaethau Newydd 17 Meddyginiaethau amddifad a meddyginiaethau dra amddifad, a meddyginiaethau ar gyfer clefydau prin 18 Aelodaeth 20 AWMSG 20 NMG 21 AWPAG 22 Cyhoeddwyd gan: Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan Yr Adeilad Academaidd Ysbyty Prifysgol Llandochau Bro Morgannwg CF64 2XX www.awmsg.org Ar ran Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Dylid anfon pob ymholiad at: Mrs Ruth Lang Pennaeth Cyswllt a Gweinyddu E-bost: awttc@wales.nhs.uk Ffôn: 029 2071 6900 Er gwybodaeth, roedd yr wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond mae n bosibl y bydd yn newid. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.awmsg.org

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Gair o Groeso gan y Cadeirydd Adolygiad o Ebrill 2016 - Mawrth 2017 a chipolwg ar y flwyddyn i ddod Bu eleni yn flwyddyn gynhyrchiol iawn i Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Yn ychwanegol at raglen brysur o arfarnu meddyginiaethau, mae r grŵ p wedi parhau i ddatblygu ac ehangu ei strategaethau i ymgysylltu â chlinigwyr a chleifion a sicrhau bod ei raglen optimeiddio meddyginiaethau yn diwallu anghenion penodol clinigwyr yng Nghymru. Mae polisi AWMSG ar gyfer arfarnu meddyginiaethau ar gyfer clefydau prin, ymgorffori gwerth ansoddol ychwanegol drwy r Grŵ p Cynnwys Clinigwyr a Chleifion (CAPIG), bellach wedi i sefydlu n dda ac yn parhau i ddarparu proses gadarn ar gyfer asesu budd ehangach meddyginiaethau ar gyfer clefydau prin, gan sicrhau fframwaith teg a chynhwysfawr ar gyfer arfarnu cynnyrch o r fath mewn hinsawdd economaidd heriol. Un o r uchafbwyntiau eleni oedd cynnull Rheithgor Dinasyddion, wedi i hwyluso gan gydweithwyr o Brifysgol De Cymru, a roddodd gyfle i bedwar ar ddeg o aelodau o r cyhoedd wedi u dethol ar hap i archwilio r dystiolaeth yn ymwneud â Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd. Arweiniodd eu diwydrwydd a u chwilfrydedd at gyfres feddylgar o argymhellion amrywiol sy n sail i drafodaeth ehangach ynghylch y mater hwn yng Nghymru. O safbwynt personol, rwyf hefyd yn croesawu n fawr y cyhoeddiad am sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Nod y fenter hon yw ceisio cefnogi cyflwyno meddyginiaethau sy n amodol ar argymhelliad cadarnhaol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) neu AWMSG yn gynharach yng Nghymru a dylai sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cynharach fyth i feddyginiaethau y profwyd eu bod yn effeithiol. Fel Cadeirydd, rwy n parhau i fod yn falch o r cyfraniad sylweddol y mae r aelodau yn ei wneud i waith heriol AWMSG ac rwy n hyderus o hyd y byddwn yn parhau i adeiladu ar ein seiliau cadarn o weithio n agos gyda chleifion, rhwydweithiau clinigol a r diwydiant fferyllol yn ein hymdrechion i sicrhau ein bod yn parhau i gael y canlyniadau gorau o feddyginiaethau i gleifion yng Nghymru. Dr Stuart Linton MB ChB, BSc, FRCP (UK) Cadeirydd, AWMSG Rhewmatolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Nevill Hall Prif straeon... Ffilm Ymgysylltu â Chleifion (Tudalen 5) Diwrnod Arfer Da (Tudalen 6) Dosbarth Meistr AWMSG (Tudalen 7) Rheithgor Dinasyddion (Tudalen 8) Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Tudalen 10) Triniaeth hepatitis C gynnar i Gymru (Tudalen 19) Cyffur sorafenib ar gyfer canser yr iau ar gael yng Nghymru (Tudalen 19) Y flwyddyn mewn rhifau 39 Meddyginiaethau a arfarnwyd 34 Arfarniadau cadarnhaol 11 Cynllun Mynediad i Gleifion yng Nghymru (WPAS) a broseswyd 19 Papurau optimeiddio meddyginiaethau a gyhoeddwyd 10 Nifer y cyfarfodydd 1

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Proffil o AWMSG Ein gweledigaeth i Gymru Gweleidgaeth sy n canolbwyntio ar gleifion Enw: Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) Sefydlwyd: 2002 Rôl: Cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau strategol wrth ragnodi fel yr amlinellir yn Strategaeth Pum Mlynedd AWMSG 2013 2018 Aelodau: Meddygon, nyrsys, fferyllwyr, academyddion, economyddion iechyd, cynrychiolwr o r diwydiant fferyllol ac aelod lleyg (gweler Aelodaeth ar dudalen 20 am aelodau unigol) Cyfarfodydd: Cynhaliwyd 10 cyfarfod cyhoeddus yn 2016-2017, yng Nghaerdydd neu r Fenni Is-grwpiau: y Grŵp Meddyginiaethau Newydd (NMG) a Grŵp Ymgynghorol Rhagnodi Cymru Gyfan (AWPAG) Sefydliadol: Mae gwaith wedi i gynllunio gan Bwyllgor Llywio AWMSG a darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) Rhagor o wybodaeth: www.awmsg.org/ Golygfa o r oriel gyhoeddus yng nghyfarfod yr AWMSG a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2017. Yn ystod 2016-2017 cynhaliodd AWMSG 10 o gyfarfodydd gan arfarnu 39 o feddyginiaethau a chymeradwyo 19 o ddogfennau optimeiddio meddyginiaethau. 2

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Y diweddaraf am Strategaeth AWMSG Mae AWMSG yn ymrwymedig i sicrhau bod meddyginiaethau diogel ac effeithiol ar gael i gleifion yng Nghymru, a bod canlyniadau gofal iechyd cleifion yn cael eu gwella drwy r defnydd gorau o feddyginiaethau. Mae Strategaeth Pum Mlynedd AWMSG 2013 2018 yn gwneud argymhellion allweddol yn unol â rolau a gofynion AWMSG i gefnogi r ymrwymiad hwn. Cafodd Partneriaeth gyda r cyhoedd ei amlygu fel blaenoriaeth yn Strategaeth 2013-2018, a gwnaeth y ddogfen ddau argymhelliad: datblygu Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd (PAPIG) a Rheithgor Dinasyddion i adrodd ar ymwrthedd gwrthfiotig. Mae PAPIG yn cwrdd yn rheolaidd ac mae bellach yn rhan annatod o brosesau AWMSG (gweler tudalen 5 i gael rhagor o wybodaeth am gynnwys cleifion). Ymgynghorir â PAPIG yn rheolaidd ar ddatblygu canllawiau a newidiadau proses. Cynhaliwyd y Rheithgor Dinasyddion gan yr Athro Marcus Longley a chyfarfu dros gyfnod o wythnos yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ym mis Gorffennaf 2016 (gweler tudalen 8 am y stori lawn). Mae AWMSG yn ymrwymedig i hyrwyddo rhagnodi o r ansawdd uchaf i gleifion yng Nghymru, ac mae n ceisio gwneud hynny drwy ddatblygu a monitro Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol, datblygu canllawiau ac archwiliadau cenedlaethol, a darparu bwletinau addysgol a gweithdai rhagnodi darbodus. Gweler tudalen 11 ar gyfer gwaith AWMSG ar optimeiddio meddyginiaethau. Gwnaeth AWMSG ymrwymiad i adolygu r holl asesiadau technoleg iechyd a gyhoeddwyd o fis Mawrth 2012 ymlaen er mwyn sicrhau eu bod yn parhau n gyfredol. Yn unol â r ymrwymiad hwn, mae 86 o argymhellion AWMSG yn ymwneud ag asesiad technoleg iechyd wedi u hadolygu bellach. Mae hyn yn cynnwys 39 o argymhellion a adolygwyd yn 2016-2017. Gweler tudalen 16 am wybodaeth arfarnu lawn. Cafodd y cynllun Cerdyn Melyn ar gyfer rhoi gwybod am adweithiau anffafriol i gyffuriau ei ddatblygu yn dilyn y drasiedi yn sgil thalidomide ac mae n ceisio tynnu sylw at adweithiau anffafriol i gyffuriau mor gynnar â phosibl. Gwnaeth AWMSG ymrwymiad i wella cyfraddau adrodd ac mae cyflwyno Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol y Cerdyn Melyn yn 2014-2015 wedi cael effaith sylweddol ar nifer y Cardiau Melyn a gyflwynwyd, gyda data cyn ac ar ôl y cyflwyno yn dangos cynnydd o 144% yng Nghymru, o gymharu â chynnydd o 17% yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod. Ers cyflwyno Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol y Cerdyn Melyn, Cymru yw r rhanbarth lle y ceir y nifer fwyaf o adroddiadau yn y DU. Gweler tudalen 15 ar gyfer data Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol y Cerdyn Melyn. 3

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Gweithio mewn partneriaeth Mae AWMSG yn gweithio gyda chleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chynrychiolwyr y diwydiant fferyllol (drwy r Grŵ p Partneriaeth Asesu Datblygiadau Therapiwtig [TDA]) i wneud argymhellion a pharatoi adnoddau sy n gwella gofal cleifion yng Nghymru. Mae ei waith yn cael ei gefnogi gan ddau is-grŵ p: y Grŵ p Meddyginiaethau Newydd (NMG) a Grŵ p Ymgynghorol Rhagnodi Cymru Gyfan (AWPAG). Darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC). Y Cyhoedd a Chleifion Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan Gwasanaethau GIG Cymru (e.e. Rhwydweithiau Clinigol a MTC) Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Grŵp Ymgynghorol Rhagnodi Cymru Gyfan Grŵp Meddyginiaethau Newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Sefydliadau r DU (e.e. NICE, SMC, PASLU ac ABPI) 4

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Cleifion Cleifion, a u teuluoedd a u gofalwyr, sydd yn y sefyllfa orau i esbonio sut mae cyflwr neu feddyginiaeth yn effeithio arnynt, neu r person maent yn gofalu amdano. Rydym yn gofyn am farn cleifion fel rhan o r holl arfarniadau meddyginiaethau newydd, a hefyd yn annog Ffilm Ymgysylltu â Chleifion Mae r claf yn ganolog i n gwaith ac felly mae n mor werthfawr pan fydd claf neu ofalwr yn cyfrannu at un o arfarniadau AWMSG o feddyginiaeth. Mae eu safbwyntiau yn dod â r drafodaeth yn fyw ac yn helpu i bwysleisio r effaith y gall argymhelliad cadarnhaol ei chael ar fywydau cleifion. Fodd bynnag, mae llawer o gleifion nad ydynt erioed wedi clywed am AWMSG ac nid ydynt yn ymwybodol y gallant gymryd rhan yn ei waith. Mae n mor siomedig pan fyddwn yn arfarnu meddyginiaeth ac mae llais y claf ar goll o r drafodaeth. Fel Pennaeth Cyswllt yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, rwy n awyddus iawn i ddod o hyd i ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o r broses arfarnu meddyginiaethau yng Nghymru a rhoi gwybod i gleifion y gallant chwarae rhan allweddol yn y broses honno. Felly, cydweithiais â Keith Cass, claf â chanser y prostad ac un o sylfaenwyr Ymgyrch Red Sock, sy n cefnogi cleifion â chanser y prostad ac yn hysbysu r cyhoedd am y cyflwr. Eisteddom i lawr mewn stiwdio recordio am ychydig oriau gyda hwylusydd, sydd wedi gweithio gyda sefydliadau eraill y GIG i hyrwyddo negeseuon iechyd drwy gyfryngau digidol. cleifion yn gryf i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar gyfer adnoddau optimeiddio meddyginiaethau. Sefydlwyd y Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd (PAPIG) i n helpu i gynnwys cleifion a sefydliadau cleifion yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posibl. Mae aelodau n cyfarfod yn chwarterol ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i n gwaith. Y canlyniad oedd ffilm ymgysylltu â chleifion sydd bellach ar gael ar adran arfarnu gwefan AWMSG. Gwnaethom ei rhannu â Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd AWMSG ac aelodau AWMSG yn eu Diwrnod Hyfforddi. Gwnaethom hefyd ei chwarae i aelodau o r diwydiant fferyllol yn y Dosbarth Meistr AWMSG blynyddol. Cafodd groeso gan bawb ac rwy n gobeithio y gallwn wneud rhywbeth tebyg y flwyddyn nesaf i hyrwyddo ymgysylltu gan y diwydiant. Ruth Lang Pennaeth Cyswllt Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan Cymerwch ran Ymunwch â PAPIG Cynhelir cyfarfodydd PAPIG yn chwarterol ac mae aelodau n cyfrannu at waith AWMSG mewn sawl ffordd, gan gynnwys rhoi adborth ar adnoddau, prosesau arfarnu a chynnwys y wefan. Anfonwch e-bost atom os hoffech gael rhagor o wybodaeth: awttc@wales.nhs.uk Cymerwch ran mewn ymgynghoriad Cofrestwch ddiddordeb neu ewch i r dudalen ymgynghoriadau ar wefan AWMSG i ddarllen y ddogfen/ dogfennau a rhoi adborth. Dewch i gyfarfod Mae cyfarfodydd AWMSG yn agored i r cyhoedd a rhestrir dyddiadau ar wefan AWMSG. Dweud eich dweud am feddyginiaethau newydd Gwahoddir cleifion â chyflwr, eu gofalwyr a sefydliadau cleifion i lenwi holiadur i amlinellu eu profiad o r cyflwr a oedd yn cael ei drin a u profiad o driniaethau presennol. Gellir gweld meddyginiaethau sy n aros am farn cleifion ar wefan AWMSG. Ymunwch fel aelod lleyg Mae gan AWMSG a i is-grwpiau aelodau lleyg i ddarparu llais y claf/ cyhoedd. Anfonwch neges e-bost i awttc@wales.nhs.uk i gael gwybod a oes unrhyw swyddi gwag a chofrestru diddordeb. Gwirfoddolwch i fod yn aelod o grŵp darllen Pan fyddwn yn paratoi gwybodaeth i gleifion, mae angen aelodau o r cyhoedd a chleifion arnom i ddarllen iddynt a rhoi gwybod i ni a ydynt yn glir, yn hawdd eu defnyddio ac yn cyfleu r neges gywir. Os hoffech fod yn rhan o n grŵ p darllen, cysylltwch â ni ar awttc@wales.nhs.uk Ewch i n gwefan I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith a ffyrdd y gallwch gymryd rhan, ewch i www.awmsg.org 5

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Gweithio mewn partneriaeth parhad Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn chwarae rhan sylfaenol yng ngwaith AWMSG ac maent yn cymryd rhan ar bob cam o n prosesau: llunio adnoddau, cyfrannu at bwyllgorau a gweithgorau, darparu barn glinigol arbenigol, cymryd rhan mewn ymgynghoriadau, a gweithredu r cyngor a r adnoddau sy n cael eu paratoi gan AWMSG. Mae n hanfodol bwysig bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cymryd rhan yn ein gwaith, ac rydym yn cael cefnogaeth aruthrol gan gydweithwyr o r fath ledled Cymru, ac ni fyddem yn gallu cyflawni ein nodau heb y gefnogaeth hon. Diwrnod Arfer Da 16 Mehefin 2016 Nododd yr adroddiad Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2015 2016: Dadansoddiad o Ddata Rhagnodi hyd at fis Mawrth 2016 y cynnydd cadarnhaol sylweddol a wnaed mewn perthynas â Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol yng Nghymru dros y flwyddyn. Yn wir, ar gyfer pob Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol a fodolai eisoes, roedd gwelliant cyffredinol mewn rhagnodi, o gymharu â 2014 2015. Yng ngoleuni hyn, gofynnodd AWMSG i Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan archwilio rhywfaint o r arfer da a gyfrannodd at y tueddiadau cadarnhaol hyn. Ymatebodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan drwy gynnal y Diwrnod Arfer Da blynyddol cyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 16 Mehefin 2016 i ddathlu r gwaith optimeiddio meddyginiaethau llwyddiannus sy n mynd rhagddo mewn byrddau iechyd ledled Cymru ac i rannu straeon am arfer da. Rhoddodd y diwrnod gyfle i arweinwyr rhagnodi mewn Ymarfer Cyffredinol, arweinwyr clystyrau, cynghorwyr rhagnodi a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill o bob bwrdd iechyd i rannu eu profiadau â chydweithwyr ledled Cymru a dangos eu gwaith, gyda r nod o rannu a chefnogi ei gilydd i hyrwyddo gofal iechyd darbodus. Canolbwyntiodd y diwrnod ar chwech o feysydd y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol, gyda chyflwyniadau gan chwe bwrdd iechyd: Gwrthfiotigau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a r Fro Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Rhagnodi anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Cyffuriau cwsg ac ancsiolytigau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Atalyddion pwmp proton ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Tramadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Yn ogystal, yn y cyfarfod hwn lansiwyd SPIRA, rhaglen ryngweithiol ar-lein newydd ar gyfer dadansoddiad cymharol o wybodaeth am Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol. Cymerwch ran Ymunwch â phwyllgor Mae gan AWMSG a i is-grwpiau ddiddordeb bob amser mewn clywed gennych os hoffech wirfoddoli i ddod yn aelod. Anfonwch neges e-bost i awttc@wales.nhs.uk er mwyn cofrestru diddordeb. Cymerwch ran mewn ymgynghoriad Cofrestrwch ddiddordeb neu ewch i r dudalen ymgynghoriadau ar wefan AWMSG i ddarllen y ddogfen/ dogfennau a rhoi adborth. Dewch i gyfarfod Mae cyfarfodydd AWMSG yn agored i r cyhoedd a rhestrir dyddiadau ar wefan AWMSG. Byddwch yn arbenigwr clinigol Mae clinigwyr sy n ymddiddori mewn meysydd penodol yn cael eu hannog i roi barn arbenigol ar arfarniadau. Gallwch gael mynediad i r holiadur ar wefan AWMSG. Cynnig prosiect Os hoffech gynnig prosiect optimeiddio meddyginiaethau i w ystyried gan AWMSG, cwblhewch Ffurflen Cynnig Prosiect Newydd, sydd ar gael ar wefan AWMSG. Ewch i n gwefan I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith a ffyrdd y gallwch gymryd rhan, ewch i www.awmsg.org 6

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Y diwydiant fferyllol Mae r diwydiant fferyllol yn bartner hanfodol, yn enwedig ym mhroses yr asesiad technoleg iechyd, lle mae eu cyfranogiad yn galluogi i feddyginiaethau newydd gael eu harfarnu n brydlon. Bydd hyn, yn ei dro, yn caniatáu i feddyginiaethau sy n cael argymhelliad cadarnhaol fod ar gael ledled Cymru, yn aml cyn eu bod ar gael yn Lloegr. Mae r diwydiant fferyllol hefyd yn cyfrannu at waith optimeiddio meddyginiaethau AWMSG, lle y gallant ddarparu safbwynt gwerthfawr. Dosbarth Meistr AWMSG 25 Tachwedd 2016 Cynhaliodd AWMSG ei 5ed Dosbarth Meistr blynyddol i aelodau o r diwydiant fferyllol ar 25 Tachwedd 2016 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Trefnwyd y digwyddiad gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan a chafodd ei gadeirio gan Rob Thomas o Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain. Cafwyd sgyrsiau gan Stuart Linton, Cadeirydd AWMSG, a Saad Al-Ismail, Cadeirydd y Grŵ p Meddyginiaethau Newydd. Rhoddodd siaradwyr o Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan gyngor ar baratoi cyflwyniad asesiad technoleg iechyd a chyflwyno achos da ar gyfer effeithiolrwydd cost. Yn ogystal, canolbwyntiodd y sesiynau ar Gymru n Un, Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol, Cynlluniau Mynediad Cleifion Cymru a r effaith ar y gyllideb. Cafodd y ffilm ymgysylltu â chleifion a baratowyd yn ddiweddar ei dangos i gynrychiolwyr a chyhoeddwyd cynlluniau i gynhyrchu ffilm debyg i hyrwyddo ymgysylltu â r diwydiant. Roedd adborth o r digwyddiad yn gadarnhaol tu hwnt, gyda chynrychiolwyr yn canmol y sesiynau rhyngweithiol. llawn gwybodaeth a difyr. Cymerwch ran Cyflwyno meddyginiaeth i w harfarnu Anogir cwmnïau i gyflwyno eu meddyginiaeth i AWMSG i w harfarnu cyn gynted ag y bydd yr awdurdodiad marchnata yn cael ei roi. Gellir cael gafael ar y broses arfarnu a r holl ddogfennaeth berthnasol ar dudalennau diwydiant gwefan AWMSG. Cymerwch ran mewn ymgynghoriadau Cofrestrwch ddiddordeb neu ewch i r dudalen ymgynghoriadau ar wefan AWMSG i ddarllen y ddogfen/dogfennau a rhoi adborth. Dewch i gyfarfod Mae cyfarfodydd AWMSG yn agored i r cyhoedd a rhestrir dyddiadau ar wefan AWMSG. Ewch i n gwefan I gael rhagor o fanylion am ein gwaith a ffyrdd y gallwch ymgysylltu â r broses arfarnu ac ymgynghoriadau, ewch i www.awmsg.org 7

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Gweithio mewn partneriaeth parhad Rheithgor Dinasyddion 5 8 Gorffennaf 2016 Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn broblem gynyddol yn fyd-eang, a chredir ei bod yn achosi tua 700,000 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae ymdrechion i fynd i r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael eu gwneud gan lawer o wledydd, yn ogystal ag ar raddfa fyd-eang gan Sefydliad Iechyd y Byd. Lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun ar ddiwedd 2015 i fynd i r afael â r bygythiad o ymwrthedd gwrthfiotig. I gefnogi hyn, ac i gynghori Llywodraeth Cymru, comisiynodd AWMSG Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru, i drefnu a chynnal Rheithgor Dinasyddion i archwilio sut y gall cleifion a r cyhoedd helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i leihau rhagnodi gwrthfiotig amhriodol. Ers ei sefydlu yn 2002, dyma fu r prosiect unigol mwyaf a gynhaliwyd gan AWMSG a chyflawnodd un o r argymhellion yn Strategaeth Pum Mlynedd AWMSG 2013-2018, sy n gosod y nod i AWMSG weithio mewn partneriaeth â r cyhoedd i sicrhau bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn cymryd rhan yn ei waith a i benderfyniadau fel partneriaid cyfartal. Er mwyn mynd i r afael â phrosiect mor fawr, sefydlwyd Grŵ p Llywio Rheithgor Dinasyddion yn cynnwys cynrychiolwyr o Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd (PAPIG) AWMSG, cynrychiolwyr o Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan ac unigolion eraill a nodwyd gan yr Athro Marcus Longley, arweinydd y prosiect sydd wedi i leoli ym Mhrifysgol De Cymru. Cyfarfu r Grŵ p Llywio ar dri achlysur i drafod datblygu r prosiect, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau, cyfathrebu, y broses ar gyfer nodi rheithwyr, pynciau i w trafod a siaradwyr posibl. Penodwyd aelodau o r rheithgor gan gwmni annibynnol a chafwyd cynrychiolaeth eang o bob rhan o Gymru. Roedd y rhaglen ar gyfer rheithwyr yn cynnwys sesiynau ar: Straeon cleifion Microbioleg bacteria, feirysau, a r defnydd o wrthfiotigau Beth mae ymwrthedd gwrthfiotig yn ei olygu i chi? Safbwynt cymdeithasegol Rôl cwmnïau fferyllol, ac ymchwil a datblygu Cael mynediad i wrthfiotigau Stiwardiaeth gwrthficrobaidd Mae ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd yn digwydd pan fydd micro-organebau yn newid wrth gael eu hamlygu i gyffuriau gwrthficrobaidd. Weithiau cyfeirir at ficro-organebau sy n datblygu ymwrthedd i gyffuriau fel uwch-fygiau.o ganlyniad, daw r meddyginiaethau yn aneffeithiol a bydd heintiau n parhau yn y corff, gan gynyddu r risg o ledaenu i eraill. Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) 8

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Cynhaliwyd y Rheithgor Dinasyddion yn Neuadd y Ddinas Caerdydd rhwng 5 ac 8 Gorffennaf 2016. Gofynnwyd i r Rheithgor ateb y cwestiwn canlynol: Sut y dylai cleifion a r cyhoedd gyfrannu at stiwardiaeth gwrthficrobaidd, a pha gymorth y dylai r GIG ei gynnig iddynt? Daeth y Rheithgor i r casgliad fod angen i ni i gyd gymryd camau gweithredu sylweddol a brys, ac yn ei adroddiad terfynol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016 gwnaeth y deg argymhelliad canlynol: 1: Dylid cynnal ymgyrch farchnata gymdeithasol sylweddol a chydgysylltiedig er mwyn newid ymddygiad pobl 2: Darparu addysg, gwybodaeth a chyngor penodol i ategu Argymhelliad 1 er mwyn targedu grwpiau penodol 3: Cyn trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu, dylid helpu pobl i asesu a allai fod angen gwrthfiotigau arnynt, ac i ymdopi n well â u symptomau pan na fydd angen gwrthfiotigau arnynt 4: Dylai presgripsiynau wedi u gohirio neu ôl-ddyddiedig gael eu defnyddio yn llawer ehangach 5: Dylai fod yn ofynnol i r holl ragnodwyr gofal sylfaenol ddangos eu cymhwysedd parhaus a rhagnodi gwrthfiotigau yn briodol 6: Dylai Prif Swyddog Meddygol Cymru dynnu sylw rhagnodwyr at eu harfer presennol ar frys 7: Dylai r holl wrthfiotigau fod ar gael fel Meddyginiaethau Presgripsiwn yn unig 8: Dylid gosod ardoll ar wrthfiotigau er mwyn atgoffa rhagnodwyr o u gwerth ac i godi cyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil a marchnata cymdeithasol 9: Mae angen rhoi rhagor o sylw i r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth 10: Dylid cael dadl gyhoeddus ynghylch a ddylai ffioedd presgripsiwn gael eu cyflwyno ar gyfer gwrthfiotigau Cyflwynwyd yr adroddiad i AWMSG ym mis Hydref 2016 a cheir cofnodion o drafodaethau r cyfarfod hwnnw. Mae adroddiad y Rheithgor Dinasyddion ar gael ar wefan AWMSG (www.awmsg.org). Cyflwynwyd yr adroddiad i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2016 ac mae wedi bwydo i mewn i Raglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy n ceisio mynd i r afael â r broblem gynyddol o ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru. Ceir gwaith parhaus y rhaglen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 9

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Gweithio mewn partneriaeth parhad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar reoli meddyginiaethau yng Nghymru Rhagfyr 2016 Cafodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Rheoli meddyginiaethau ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd, ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 ac amlygodd rai o r ffyrdd y mae gwaith AWMSG yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at reoli meddyginiaethau yn GIG Cymru. Roedd canfyddiadau allweddol yr adroddiad a oedd yn gysylltiedig ag AWMSG fel a ganlyn: Arfarnu meddyginiaethau Cydnabu r adroddiad y broses glir ac wedi i diffinio n dda ar gyfer arfarnu meddyginiaethau a r ffordd gydgysylltiedig y mae AWMSG a r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn gwneud penderfyniadau ar feddyginiaethau newydd. Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd Cafodd buddiannau clir yn sgil cynnwys cleifion a staff, a u safbwyntiau hanfodol ar dderbyn gwasanaethau iechyd a r ffordd y maent yn cael eu darparu eu nodi yn yr adroddiad. Yn ogystal, tynnwyd sylw at Grŵ p Buddiannau Cleifion a r Cyhoedd (PAPIG) AWMSG a i rôl o ran ymgysylltu â chleifion a staff wrth ddatblygu strategaethau meddyginiaethau. Nododd yr adroddiad y bydd yn bwysig sicrhau bod yr allbwn o r grŵ p hwn yn helpu i hwyluso r ymgysylltu agosach sydd ei angen. Gweinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Chael Gwared ar Feddyginiaethau Tynnodd yr adroddiad sylw at ddatblygu polisi a gymeradwyir gan AWMSG, sef Polisi Cymru Gyfan ar gyfer Gweinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Chael Gwared ar Feddyginiaethau (MARRS) ym mis Tachwedd 2015 mewn ymateb i r adroddiad Ymddiried mewn Gofal. Argymhellodd yr adroddiad y dylai Prif Swyddog Fferyllol Cymru arwain adolygiadau cenedlaethol i asesu cydymffurfiad pob corff iechyd â r polisi MARRS. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Mae r adroddiad yn cyfeirio at y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol ar wefan AWMSG fel ffynhonnell allweddol o arweiniad ar gyfer cyfeiriad strategol yng Nghymru ac mae n datgan bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i godi proffil y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol. Yn sgil hyn mae detholiad o r Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol wedi u hailgyflwyno yn y fframwaith perfformiad cenedlaethol ar gyfer 2016-2017. Er mwyn ystyried darlun cyflawn o ran a yw rhagnodi meddyginiaethau yn effeithiol, mae r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun, mewn partneriaeth ag AWMSG, cyrff iechyd a meddygon teulu, i ddatblygu r Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol fel eu bod yn dechrau ystyried mesurau o ran a yw r cleifion cywir yn cael y meddyginiaethau cywir ac a yw meddyginiaethau n gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau pobl. Adroddiadau Chwarterol Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Nododd yr adroddiad y bu gwelliant amlwg yn yr adroddiadau perfformiad Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae n cyfeirio at graffiau diddorol sy n cymharu perfformiad rhwng Cymru a Lloegr, data tueddiadau ym mhob ardal bwrdd iechyd a hyd yn oed gwybodaeth ar lefel clystyrau gofal sylfaenol. Mae r adroddiad yn amlygu bod angen i gyrff iechyd fynd ati nawr i sicrhau eu bod yn defnyddio r data a gynhyrchwyd yn genedlaethol yn dda i w helpu i ysgogi cymariaethau a gwelliannau. Gwnaeth hefyd amlinellu rhywfaint o r cynnydd cadarnhaol, a meysydd rhagnodi lle mae lle i welliannau ychwanegol o ran diogelwch ac arbedion cost. SPIRA Mae r adroddiad yn nodi bod gwelliannau pellach i r data cenedlaethol yn cynnwys gwaith gan Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU) i ddatblygu SPIRA fel dull rhyngweithiol, ar-lein ar gyfer dadansoddi data rhagnodi gofal sylfaenol. Mae n disgrifio SPIRA fel dull sy n ennyn diddordeb a hawdd ei ddefnyddio, sy n cyflwyno data yn hyblyg, gan ddefnyddio dangosfyrddau. Fformiwlari Dewis Fferyllfa (Anhwylderau Cyffredin bellach) Mae r adroddiad yn disgrifio r gwerthusiad o r cynllun peilot yn 2015, a ddangosodd er nad oedd y cynllun wedi cael effaith ar raddfa fawr eto, bod gostyngiad bach yn nifer y presgripsiynau a roddwyd gan feddygon teulu, ac roedd llawer o randdeiliaid o r farn bod y cynllun wedi cyflawni canlyniadau cadarnhaol gan gynnwys gostyngiad yn y galw am ymgynghoriadau gan feddygon teulu. Amcangyfrifodd y gwerthusiad fod cyflwyno Dewis Fferyllfa yn genedlaethol yn debygol o sicrhau tua 43 miliwn o arbedion, yn bennaf yn sgil gostyngiad mewn apwyntiadau meddygon teulu. Gofal Cartref Amlygodd yr adroddiad, mewn ymdrech i leihau r risgiau sy n gysylltiedig â llywodraethu a rheoli gwasanaethau gofal cartref, fod AWMSG wedi sefydlu Isgrŵ p Gofal Cartref. Gweithiodd yr Is-grŵ p Gofal Cartref mewn partneriaeth â r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i baratoi llawlyfr Cymru Gyfan i arwain darparu gwasanaethau gofal cartref yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae r adroddiad yn argymell y dylai Pwyllgor Prif Fferyllwyr Cymru Gyfan arwain archwiliad cenedlaethol o gydymffurfiaeth â r mesur a nodwyd yn y llawlyfr Cymru Gyfan ar ddarparu gwasanaethau gofal cartref yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae r adroddiad ar gael o wefan Swyddfa Archwilio Cymru. 10

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Ein gwaith eleni Optimeiddio meddyginiaethau Mae optimeiddio meddyginiaethau yn canolbwyntio ar gleifion a chanlyniadau yn hytrach na phroses a systemau. Mae n ceisio cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd wrth gynghori cleifion ynghylch sut y gallant gael y canlyniadau gorau o u meddyginiaethau. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys atal rhai meddyginiaethau a/neu ddechrau eraill i wella effeithiolrwydd a diogelwch, a rhoi cyngor ynghylch y ffordd orau o ddilyn y driniaeth. Er mwyn helpu cleifion a rhagnodwyr i gyflawni r canlyniadau gorau o feddyginiaethau, mae AWMSG yn cyhoeddi canllawiau ac adnoddau rhagnodi, yn ogystal ag adroddiadau ar berfformiad rhagnodi. Canllawiau ac adnoddau Mae canllawiau ac adnoddau optimeiddio meddyginiaethau eleni wedi canolbwyntio ar y meysydd gofal iechyd canlynol. Clefyd cronig yn yr arennau Mae clefyd cronig yn yr arennau yn gyflwr cyffredin lle nad yw r arennau n gweithredu fel y dylent. Fel arfer nid oes symptomau clefyd cronig yn yr arennau yn y camau cynnar; fodd bynnag, mae adnabod a rheoli clefyd cronig yn yr arennau yn gynnar yn bwysig o ran cyfyngu datblygiad y clefyd a chymhlethdodau. Mae clefyd cronig yn yr arennau yn aml yn bodoli ar y cyd â chyflyrau eraill (e.e. clefyd cardiofasgwlaidd) a gall adnabod y clefyd yn gynnar arwain at fanteision yn y meysydd hyn hefyd. Adnodd Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Clefyd Cronig yn yr Arennau Mae r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth i dimau gofal sylfaenol am faterion clinigol sy n codi gyda chlefyd cronig yn yr arennau ac mae n darparu dolenni i adnoddau defnyddiol. Mae hefyd yn cynnwys set o sleidiau addysgol. (Chwefror 2017) Archwiliad Cenedlaethol CEPP Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Clefyd Cronig yn yr Arennau Mae r archwiliad hwn wedi i ddatblygu i gynorthwyo rheoli cleifion Clefyd Cronig yn yr Arennau yn ddiogel. Y nod yw gwella r diagnosis o glefyd cronig yn yr arennau, a sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau i wella eu canlyniadau. (Chwefror 2017) Meddyginiaethau cwsg ac ancsiolytigau Defnyddir meddyginiaethau cwsg ac ancsiolytigau i helpu gyda phroblemau cwsg a symptomau gorbryder. Fodd bynnag, cydnabyddir na ddylai r meddyginiaethau hyn gael eu defnyddio am amser hir (e.e. mwy na 4 wythnos), oherwydd gallant achosi sgil effeithiau a phroblemau o ran goddefiad a dibyniaeth. Deunydd i Gynorthwyo Rhagnodi Meddyginiaethau Cwsg ac Ancsiolytigau yn Briodol ledled Cymru Mae r deunyddiau hyn yn ceisio helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ragnodi meddyginiaethau cwsg ac ancsiolytigau yn briodol i gleifion yng Nghymru. Maent yn darparu cyngor ymarferol ar gyfer dechrau ac adolygu meddyginiaethau cwsg ac ancsiolytigau. Maent hefyd yn cynnwys deunydd cymorth fel dulliau asesu, gwybodaeth i gleifion, canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chanllawiau a dulliau lleihau/diddyfnu, y gall rhagnodwyr eu defnyddio neu eu haddasu i helpu gyda rhagnodi priodol. (Diweddarwyd: Rhagfyr 2016) 11

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Ein gwaith eleni Optimeiddio meddyginiaethau parhad Syndrom llygaid sych Mae syndrom llygaid sych yn gyflwr cyffredin sy n digwydd pan nad yw r llygaid yn creu digon o ddagrau, neu pan fydd y dagrau n anweddu n rhy gyflym. Mae hyn yn peri i r llygaid sychu a mynd yn goch, yn chwyddedig ac yn llidus. Canllawiau Syndrom Llygaid Sych Mae r canllawiau hyn yn ceisio helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi r cyngor a r wybodaeth orau i gleifion am sut y gallant reoli syndrom llygaid sych, yn enwedig defnyddio hylendid da o ran yr amrannau. Mae hefyd yn cynnwys manylion am feddyginiaethau y gellir eu rhagnodi ar gyfer llygaid sych, a chyngor ar pryd y dylid atgyfeirio r claf at offthalmolegydd. Gellir defnyddio r canllawiau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. (Rhagfyr 2016) Fitaminau i fabanod, plant a menywod sy n feichiog ac yn bwydo ar y fron Nid yw bob amser yn bosibl i fabanod, plant a menywod beichiog a menywod sy n bwydo ar y fron gael digon o fitaminau o ddeiet yn unig. Mae r Adran Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi cyngor ar ba fitaminau atodol y dylai babanod, plant, menywod beichiog a menywod sy n bwydo ar y fron eu cymryd. Fitaminau i Fabanod, Plant, Menywod Beichiog a Menywod sy n Bwydo ar y Fron Mae r canllawiau yn ceisio codi ymwybyddiaeth o r fitaminau y dylai babanod, plant, menywod beichiog a menywod sy n bwydo ar y fron eu cymryd, ac mae n amlinellu r cynllun Cychwyn Iach, sy n helpu teuluoedd ar incwm isel i gael y fitaminau sydd eu hangen arnynt. Ceir cyngor hefyd i bobl nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cychwyn Iach i w helpu i gael y swm cywir o fitaminau yn ddyddiol. (Tachwedd 2016) Poen cyson Mae poen yn gyflwr cyffredin a gofidus. Mae poen cyson, neu gronig, yn dueddol o gael ei ddiffinio fel poen sydd wedi bod yn bresennol am dri mis neu fwy. Mae poen cyson yn aml yn anodd ei drin a gall waethygu ansawdd bywyd a gwneud pobl yn llai tebygol o allu cyflawni eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Adnoddau Poen Cyson Mae r pecyn adnoddau hwn yn rhoi mynediad i weithwyr gofal iechyd proffesiynol anarbenigol i wybodaeth ddefnyddiol am reoli poen cyson anfalaen. Mae n cynnwys: Meddyginiaethau a Ddefnyddir i drin Poen Cyson Cyfeirio at Adnoddau Poen Cyson Deg Neges Allweddol Pecyn Cymorth Gwneud Penderfyniadau a Rennir Cyfres o Sleidiau Addysgol (Hydref 2016) 12

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Patsys opioid Mae fentanyl a bwprenorffin yn opioidau cryf sydd ar gael fel patsys ar gyfer y croen. Defnyddir patsys opioid i drin poen cymedrol i ddifrifol. Fodd bynnag, mae angen i gleifion wybod sut i ddefnyddio, storio a gwaredu eu patsys ddiogel er mwyn cadw eu hunain a r rhai o u hamgylch yn ddiogel rhag gorddos, amlygiad damweiniol a chamddefnydd. Diogelu Defnyddwyr Patsys Opioid drwy Safonau Cwnsela i Gleifion a Gofalwyr Nod y rhestr wirio hon yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gwnsela cleifion ar y defnydd diogel o u batsys opioid. Ceir taflen wybodaeth i gleifion hefyd y gall cleifion gyfeirio ati ar ôl cwnsela i w hatgoffa o r hyn sydd wedi i drafod. (Medi 2016) Amiodarone Defnyddir amiodarone i drin anhwylder difrifol rhythm y galon, pan na ellir defnyddio meddyginiaethu eraill neu pan na fyddant wedi gweithio. Fodd bynnag, mae angen i gleifion sy n cymryd amiodarone gael archwiliadau rheolaidd oherwydd gall amiodarone greu sgil-effeithiau difrifol. Am y rheswm hwn dylai r holl gleifion sy n cymryd amiodarone yng Nghymru gael eu hadolygu i sicrhau bod angen iddynt ei gymryd o hyd. Rhagnodi Amiodarone ar gyfer Ffibriliad Atrïaidd yng Nghymru Nod y canllawiau hyn yw helpu meddygon yn y broses o adolygu cleifion sy n cymryd amiodarone. (Medi 2016) Heparin pwysau molecwlaidd isel Mae heparin pwysau molecwlaidd isel yn feddyginiaeth gwrthgeulo a ddefnyddir i drin neu atal amrywiaeth o anhwylderau clotio gwaed. Mae llawer o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn chwarae rhan mewn triniaeth claf â heparin pwysau molecwlaidd isel ac felly mae n bwysig eu bod yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio r feddyginiaeth yn y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol. Rhagnodi Heparin Pwysau Molecwlaidd Isel yng Nghymru Mae r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i w helpu i ragnodi r gwrthgeulydd cywir ar yr adeg gywir, ac mae hefyd yn eu helpu i roi r cyngor a r wybodaeth orau i gleifion sy n cymryd y feddyginiaeth hon. (Medi 2016) Gweithio mewn partneriaeth Mae GIG Cymru yn dymuno gweithio gyda phartneriaid ar draws pob sector gofal iechyd i sicrhau buddiannau i gleifion a gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru. Canllawiau ar gyfer Gweithio mewn Partneriaeth rhwng Sefydliadau r GIG, Contractwyr Gofal Sylfaenol, y Diwydiant Fferyllol a r Sector Masnachol Cysylltiedig yng Nghymru Mae r canllawiau hyn yn ceisio annog gweithio mewn partneriaeth agored a thryloyw rhwng GIG Cymru, contractwyr gofal sylfaenol, y sector fferyllol a r sector masnachol cysylltiedig. (Medi 2016) 13

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Ein gwaith eleni Monitro rhagnodi Mae AWMSG yn monitro ac yn dadansoddi data rhagnodi er mwyn meincnodi perfformiad ac ysgogi gwelliannau yn y gwasanaeth. Monitro Meddyginiaethau wedi eu Harfarnu Mae p un a yw meddyginiaeth yn cael ei chyllido gan GIG Cymru yn seiliedig ar gyngor o ddwy ffynhonnell: AWMSG a r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dylai byrddau iechyd weithredu ar y cyngor hwn yn brydlon. Mae r adroddiad hwn yn monitro r defnydd o feddyginiaethau sydd wedi u harfarnu, a hefyd yn canolbwyntio ar dri maes penodol o ddiddordeb therapiwtig presennol: meddyginiaethau hepatitis C, mewnanadlwyr ar gyfer clefyd anadlol a meddyginiaethau a ddefnyddir mewn diabetes math 2. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Defnyddir Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol i dynnu sylw at flaenoriaethau therapiwtig ar gyfer GIG Cymru a chymharu r ffordd y mae rhagnodwyr a sefydliadau gwahanol yn defnyddio meddyginiaethau neu grwpiau o feddyginiaethau penodol. Dylai Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol fod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn glir, yn hawdd eu deall a galluogi byrddau iechyd, practisau a rhagnodwyr i gymharu r arfer presennol yn erbyn safon ansawdd y cytunwyd arni. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2017 2018 Ar gyfer 2017 2018, ceir 14 o Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol gofal sylfaenol sy n canolbwyntio ar saith maes rhagnodi a rhoi gwybod am ddigwyddiadau anffafriol (Cardiau Melyn). Mae lefel trothwy o ragnodi neu adrodd wedi i gosod ar gyfer 13 o r 14 o Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol gofal sylfaenol. Ceir hefyd dri Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol gofal eilaidd a gyflwynwyd ar gyfer 2016 2017 a byddant yn parhau yn 2017 2018, gan ganolbwyntio ar inswlin, meddyginiaethau biodebyg a phroffylacsis llawdriniaethol gwrthfiotig. Cafodd Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2017 2018 a Gwybodaeth Ategol i Ragnodwyr eu cymeradwyo gan AWMSG yn ei gyfarfod ym mis Chwefror 2017, ac maent ar gael ar wefan AWMSG ynghyd â r Gyfres o Sleidiau Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2017 2018. Adroddiadau Chwarterol Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Yn ystod 2016 2017, roedd Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol yn cael eu monitro n chwarterol a chafodd adroddiadau eu cyhoeddi ar wefan AWMSG. Dangosodd yr adroddiad ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017 fod gwelliant cyffredinol ar draws Cymru mewn naw o blith y 12 o Ddangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol gyda throthwy (yn unol â nod pob dangosydd), o gymharu â r chwarter cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol (y chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016). Dangosodd pob un o r tri Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol gofal eilaidd welliant o ran rhagnodi, yn unol â nod pob dangosydd. 14

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2002-2017 Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Gofal Sylfaenol Daw r ffigurau yn y tabl o r chwarter sy n dod i ben ym mis Mawrth ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ar wahân i r ffigurau Cerdyn Melyn, sy n dangos data ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae r rhifau sydd wedi u tanlinellu n dangos y flwyddyn lle roedd y mesuriad yn Ddangosydd Rhagnodi Cenedlaethol. Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Perfformiad rhagnodi yn symud tuag at y trothwy Meddyginiaethau generig (% o r eitemau) 2002 2003 Atalyddion Pwmp Proton (PPIs) (DDD/1,000 URh) 2003 2004 Cyffuriau rheoleiddio lipidau (eitemau o asid bustl wedi u secwestru, ffibradau, asid nicotinig a chyfansoddion asidau brasterog omega 3 fel % o gyfanswm yr eitemau sy n rheoleiddio lipidau) Cortisteroidau cryfder isel a fewnanadlir (% o r holl rai a ragnodir) Cyffuriau cwsg ac ancsiolytigau (ADQ/1,000 STAR-PU)* 2004 2005 2005 2006 2006 2007 Dim newid 2007 2008 2008 2009 Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Gofal Eilaidd Perfformiad rhagnodi yn symud i ffwrdd o r trothwy PU = uned rhagnodi DDD = dos dyddiol a ddiffinnir ADQ = symiau dyddiol ar gyfartaledd STAR-PU = uned rhagnodi grŵ p therapiwtig penodol sy n ymwneud ag oedran a rhyw * Diweddarwyd yr STAR-PU yn 2013 dechreuwyd ar y gwaith o fonitro dangosyddion gan ddefnyddio r mesur wedi i ddiweddaru yn 2014 2015 (ffigurau uchaf cyn 2013 yr STAR-PU); ffigurau isaf y STAR=PU [13]) ** Y mesur ar gyfer y dangosydd Cerdyn Melyn yw nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd fesul practis a fesul bwrdd iechyd. Fodd bynnag, i sicrhau cysondeb, mae r data a ddangosir yma ar gyfer Cymru gyfan. Cafodd Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Gofal Eilaidd eu cyflwyno yn 2016 2017. Daw r ffigurau yn y tabl o r chwarter a ddaeth i ben ym mis Mawrth ym mhob blwyddyn ariannol, ac eithrio ar gyfer y proffylacsis llawdriniaethol gwrthfiotig sydd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyflawn. Mae r ffigurau n dangos rhagnodi gofal eilaidd, ac eithrio ar gyfer inswlin sy n weithredol am gyfnod hir lle mae r ffigurau ar gyfer rhagnodi gofal sylfaenol hefyd wedi u cynnwys i gofnodi rhagnodi parhaus a allai fod wedi u cychwyn mewn gofal eilaidd. 2009 2010 2010 2011 2011 2012 2012 2013 2013 2014 2014 2015 2015 2016 74 77 79 81 83 84 85 84 84 84 84 83 84 83 82 2016 2017 3625 4104 4547 5059 5538 6085 6224 6568 6907 7007 7027 Dangosydd newydd yn 2016 2017 3.06 2.79 2.62 2.45 Dangosydd newydd yn 2015 2016 40 39 39 38 38 38 59 Dangosydd newydd yn 2012 2013 2606 2452 2227 2106 3905 Tramadol (DDD/1,000 o gleifion) Dangosydd newydd yn 2014 2015 741 786 797 788 708 665 631 Gabapentin a pregabalin (DDD fesul 1,000 o gleifion) Gwrthfiotigau (eitemau/1,000 STAR-PU)* Eitemau Fluoroquinolone (% o eitemau gwrthfacterol) Ceffalosporinau (% o eitemau gwrthfacterol) Co-amoxiclav (% o eitemau gwrthfacterol) NSAID (ADQ/1,000 STAR-PU)* Ibuprofen a naproxen (% o r eitemau Cyffuriau Gwrthlidiol Ansteroidaidd) Cardiau Melyn** (nifer a gyflwynwyd gan feddygon teulu) (nifer a gyflwynwyd yn gyffredinol) Dd/B 3642 Dd/B 3358 Dd/B 3135 Dangosydd newydd yn 2016 2017 890 1054 1196 1348 Dangosydd newydd yn 2012 2013 395 415 397 384 374 Dd/B 377 Dd/B 362 Dd/B 337 Dangosydd newydd yn 2012 2013 2.49 2.03 1.98 2.04 1.85 1.75 1.86 Dangosydd newydd yn 2012 2013 7.12 5.35 4.95 4.42 3.56 3.17 3.06 Dangosydd newydd yn 2012 2013 5.88 4.86 4.63 4.55 3.97 3.45 3.32 Dangosydd newydd yn 2012 2013 1384 1283 1175 1121 1854 Dd/B 1775 Dd/B 1659 27 25 29 31 32 36 41 48 56 69 73 78 81 82 82 Dangosydd newydd yn 2014 2015 Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol 2015 2016 2016 2017 Rhagnodi inswlin sy n weithredol am gyfnod hir (% o gyfanswm yr inswlin) 88.2 89.1 Rhagnodi meddyginiaethau biodebyg (% o gyfanswm y meddyginiaethau biolegol) 116 649 271 1177 662 1462 851 1817 Filgrastim 98.5 99.3 Infliximab 26.2 56.5 Inswlin glargin 0.00 1.21 Phroffylacsis gwrthfiotig llawfeddygol (% o gleifion a gafodd broffylacsis am fwy na 24 awr) Dd/B 12 Dd/B 1546 1346 2323 15

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Ein gwaith eleni Asesiad Technoleg Iechyd Mae AWMSG yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ynghylch a ddylai meddyginiaethau newydd fod ar gael i w defnyddio yn GIG Cymru. Mae meddyginiaethau newydd yn cael eu harfarnu yn erbyn y meddyginiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd i gymharu: pa mor dda maent yn gweithio pa mor gosteffeithiol ydynt pa gleifion a fyddai n elwa fwayf ohonynt. Cyngor a roddwyd yn 2016-2017 Arfarniadau o feddyginiaethau 39 Argymhellwyd 22 Argymhellwyd ar gyfer defnydd wedi i optimeiddio * 12 Heb eu hargymell 5 Datganiadau o Gyngor a gyflwynwyd ar feddyginiaethau heb eu harfarnu i GIG Cymru 35 Cyfanswm nifer y meddyginiaethau y darparwyd cyngor arnynt i GIG Cymru 74 * Meddyginiaethau a argymhellwyd i w defnyddio ymysg is-set lai o gleifion nag a nodwyd yn wreiddiol gan yr awdurdodiad marchnata. Cyfeirir at y meddyginiaethau hyn hefyd yng Nghymru fel rhai a argymhellwyd ar gyfer defnydd cyfyngedig. Arfarniadau o feddyginiaethau gan AWMSG Nifer yr Arfarniadau 50 40 30 20 Cyfanswm a arfarnwyd Argymhellwyd Argymhellwyd ar gyfer defnydd wedi i optimeiddio Heb eu hargymell 10 0 2009-2010 2010-2011 2011-2012 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017 16

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Cynllun Mynediad i Gleifion Cymru Mae cynllun mynediad i gleifion (PAS) yn galluogi gweithgynhyrchwr meddyginiaeth i gynnig gostyngiad, ad-daliad neu amrywiad ar bris y rhestr. Mae dau fath o gynllun cynlluniau gostyngiad syml a chynlluniau cymhleth. Mae r ddau fath o gynllun yn ceisio gwella r achos dros gosteffeithiolrwydd meddyginiaeth a chynyddu r cyfle am argymhelliad arfarniad cadarnhaol. Mae r ffigur hwn yn dangos ers cyflwyno Cynllun Mynediad i Gleifion Cymru (WPAS) yn 2012, mae nifer y ceisiadau gyda chynllun mynediad i gleifion cysylltiedig wedi cynyddu. Er mwyn diogelu cyfrinachedd masnachol, mae arfarniad meddyginiaeth gyda chynllun mynediad i gleifion yn cael ei gynnal yn breifat. Cronfa Triniaethau Newydd Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, fod cronfa triniaethau newydd yn agored ar gyfer busnes. Mae r gronfa n darparu 16 miliwn yn flynyddol i gefnogi byrddau iechyd yng Nghymru i gyflymu r broses o weithredu meddyginiaethau a argymhellir i w defnyddio gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac AWMSG. Mae gofyniad i feddyginiaethau fod ar gael i w defnyddio yn GIG Cymru o fewn 60 diwrnod i w cymeradwyo gan AWMSG neu gyhoeddi Penderfyniad Arfarnu Terfynol neu Benderfyniad Gwerthuso Terfynol gan NICE. Arfarniadau AWMSG gyda chynllun mynediad i gleifion Nifer yr Arfarniadau 50 40 30 20 Arfarniadau (heb WPAS) Arfarniadau (gyda PAS) Arfarniadau (gydag WPAS) 10 0 2009-2010 2010-2011 2011-2012 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017 17

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Ein gwaith eleni Asesiad Technoleg Iechyd parhad Meddyginiaethau amddifad a thra amddifad, a meddyginiaethau ar gyfer clefydau prin O fis Medi 2015 newidiodd AWMSG ei broses ar gyfer arfarnu meddyginiaethau amddifad a thra amddifad, a meddyginiaeth a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer clefydau prin, i alluogi mwy o gyfranogiad gan gleifion a chlinigwyr yng Nghymru. Gan gydnabod anghenion clinigol cleifion â chlefydau prin, a chydnabod costau uchel posibl triniaeth, mae ystyriaethau ehangach yn cael eu hystyried nawr gan AWMSG wrth arfarnu r meddyginiaethau hyn. Ymhlith meysydd o ystyriaeth mae: a yw r driniaeth yn galluogi r claf i barhau i weithio neu fynd i r ysgol, a fydd y driniaeth yn helpu i leddfu poen difrifol neu flinder mawr, a fydd y driniaeth yn helpu i leddfu trallod seicolegol neu effeithio n sylweddol ar lesiant claf, ac a fydd y driniaeth yn helpu r claf i ofalu amdano ef ei hun neu gynnal ei urddas. Mae r graff yn dangos ers y newid polisi, bod nifer y ceisiadau i arfarnu meddyginiaethau amddifad a thra amddifad, a meddyginiaethau a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer clefydau prin, wedi cynyddu ac mae nifer yr argymhellion cadarnhaol wedi cynyddu hefyd. Arfarniadau AWMSG o feddyginiaethau amddifad/tra amddifad a rhai ar gyfer clefydau prin 12 10 8 Cyfanswm a arfarnwyd Argymhellwyd Argymhellwyd ar gyfer defnydd wedi i optimeiddio Heb eu hargymell Nifer yr Arfarniadau 6 4 2 0 2009-2010 2010-2011 2011-2012 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017 18

Adroddiad Blynyddol 2016 2017 Triniaeth gynnar ar gyfer hepatitis C i Gymru Tachwedd 2016 Cafodd meddyginiaeth newydd ar gyfer hepatitis C, sofosbuvir velpatasvir (Epclusa ), ei chymeradwyo gan AWMSG ar gyfer cleifion yn GIG Cymru cyn penderfyniad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Roedd hyn yn golygu bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad i r feddyginiaeth yn gynharach nag a fyddai wedi digwydd fel arall, a chyn iddi fod ar gael i gleifion yn Lloegr. Er bod arfarniad NICE wedi i drefnu, ac felly na fyddai AWMSG yn arfarnu fel arfer, ymatebodd AWMSG i gais gan Lywodraeth Cymru i roi cyngor cyflym oherwydd angen heb ei ddiwallu ymysg cleifion. Cafwyd bod y feddyginiaeth newydd yn gosteffeithiol o ganlyniad i Gynllun Mynediad i Gleifion Cymru. Tynnodd erthygl yn y BMJ sylw at y newyddion da hwn i Gymru. Cyffur sorafenib ar gyfer canser yr iau ar gael yng Nghymru Ebrill 2016 Dangoswyd pragmatiaeth proses arfarnu AWMSG wrth arfarnu sorafenib ar gyfer trin canser sylfaenol yr iau. Cynigiwyd y cyfle i ddeiliad awdurdodiad marchnata r feddyginiaeth gymryd rhan ym mhroses arfarnu AWMSG ar ôl argymhelliad negyddol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Darparwyd gwybodaeth ychwanegol a ddangosodd werth i GIG Cymru yn ychwanegol at yr hyn a ystyriwyd gan NICE ac a oedd yn berthnasol i r achos dros effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd. Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, y byddai argymhelliad AWMSG sef y dylai sorafenib fod ar gael fel mater o drefn i drin pobl a charsinoma hepatogellol datblygedig nad oes opsiynau triniaeth eraill ar gael iddynt yn cael ei gymeradwyo. O ganlyniad, yn yr un mis roedd sorafenib, yr unig feddyginiaeth wedi i thrwyddedu i drin y math mwyaf cyffredin o ganser yr iau, ar gael drwy GIG Cymru. 19

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Aelodaeth AWMSG Swydd Aelod Dirprwy Cadeirydd Dr Stuart Linton Yr Athro John Watkins Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus Yr Athro John Watkins Yr Athro Stephen Monaghan Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru Dr Sian Lewis Dr Pushpinder Mangat Economydd Iechyd Yr Athro Dyfrig Hughes Ms Pippa Anderson Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Cymru Mr Rob Thomas Mr Bill Malcolm Mr Farhan Mughal Cynrychiolydd lleyg Mr Christopher Palmer Mr Keith Cass Fferyllydd Cymunedol Ms Ellen Lanham Mr Stefan Fec Cyfarwyddwr Meddygol Dr Mark Walker Dr Brendan Boylan Meddyg teulu gyda rôl ragnodi arweiniol Dr Jeremy Black Dr Susanna Jacks Dr Rebecca McGee Fferyllydd Gofal Sylfaenol y Sector a Reolir Mrs Susan Murphy Mrs Alison Hughes Cyfarwyddwr Cyllid Mr Stuart Davies Mr Robert Holcombe Fferyllydd Ysbyty y Sector a Reolir Mr Roger Williams Mr John Terry Uwch-nyrs Mrs Louise Williams Mrs Mandy James Proffesiynau gofal iechyd eraill sy'n gymwys i ragnodi nad ydynt wedi'u cynrychioli eisoes Dr Anwen Cope Gwag Ffarmacolegydd Clinigol Dr Emma Mason Dr Balwinder Bajaj Ymgynghorydd mewn Ysbyty Dr Catherine Bale Dr Sue Jeffs 20