Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

Similar documents
Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Adroddiad Blynyddol ar Ganser. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM)

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015/16. Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Talu costau tai yng Nghymru

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Holiadur Cyn y Diwrnod

Iechyd a r defnydd o wasanaethau iechyd

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Hawliau Plant yng Nghymru

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

NatWest Ein Polisi Iaith

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

The Life of Freshwater Mussels

Grŵ p Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

BWRDD IECHYD ADDYSGU POWYS DATGANIAD ANSAWDD BLYNYDDOL 2016/17

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

E-fwletin, Mawrth 2016

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Addysg Oxfam

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Adroddiad Blynyddol

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Asesiad Lles Wrecsam

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Summer Holiday Programme

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Cynnwys. Atodiad 1- Strwythur trefniadaeth rhaglenni mamau a phlant Sgrinio Cyn Geni Cymru Adroddiad Blynyddol

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

We need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the M4, Magor to Castleton

Iechyd a Diogelwch. Adroddiad Blynyddol 2015/16

Transcription:

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

1. Cyflwyniad Mae cyhoeddi trydydd adroddiad blynyddol Cymru gyfan ar gyfer canser yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu GIG mwy atebol a gweladwy i bobl Cymru. Mae r adroddiad blynyddol hwn yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed gennym yn ein gwasanaethau canser ac yn nodi meysydd i w gwella yn y dyfodol. Mae Byrddau Iechyd eisoes wedi llunio adroddiadau sy n nodi r cynnydd a gafwyd yn lleol yn erbyn Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni Canser. Mae r adroddiad hwn yn rhoi darlun cenedlaethol. Gyda i gilydd, mae r adroddiadau yn dangos ein hymrwymiad yng Nghymru i wella gwasanaethau canser. Mae cynnydd da ar waith o ran gweithredu r camau sydd yn ein Cynllun Cyflawni Canser: Cafwyd gwelliant o 17.5% er 1995 yn y gyfradd goroesi ar ôl blwyddyn a gwelliant o 20.1% yn y gyfradd ar gyfer goroesi canser ar ôl pum mlynedd yng Nghymru. Mae r nifer sy n manteisio ar frechiad Feirws Papiloma Dynol (HPV) ar draws Cymru wedi cynyddu n gyson, gydag 86% yn derbyn y brechiad ym mlwyddyn 8 yr ysgol yn 2012-13. Yn ôl yr arolwg profiad cleifion canser (APCC) 2013, dywedodd 89% o gleifion fod eu gofal yn rhagorol neu n dda iawn. Roedd 88% o r ymatebwyr wedi cael enw eu nyrs glinigol arbenigol. Datgelai dadansoddiad o r sylwadau rhydd o r APCC brofiadau cadarnhaol o ran agweddau proffesiynol, gofalgar a chefnogol y staff nyrsio arbenigol, ac o ran y driniaeth a ddarparwyd, boed hynny n llawdriniaeth, yn radiotherapi neu n gemotherapi. Dros y 12 mis diwethaf, cafwyd cynnydd o 3.3% i 14% yn y cyfraniadau meinwe i Fanc Canser Cymru. O ran perfformiad Cymru gyfan yn erbyn y targed 31 diwrnod; ers mis Gorffennaf 2013 llwyddwyd i gyrraedd y targed hwnnw i raddau helaeth ymhlith y cleifion hynny a atgyfeiriwyd i r ysbyty am resymau heblaw amheuon o ganser, ond a dderbyniodd ddiagnosis o ganser wedyn. Mae r Rhwydweithiau Canser wedi arwain mentrau pwysig i adolygu a gwella perfformiad gwasanaethau canser ar draws Cymru, sef: adolygiad gan gymheiriaid o wasanaethau canser gastroberfeddol uchaf ac isaf ac o wasanaethau canser wrolegol, sydd wedi canfod bod gwasanaethau ar y cyfan yn ymroddedig ac yn ymwybodol o r gwelliannau pellach sydd eu hangen; a gwaith ar y llwybr canser: sefydlu arweinwyr clinigol ar gyfer canser y gastroberfedd uchaf ac isaf, y pen a r gwddf, wroleg, canser gynaecolegol a chanser yr ysgyfaint, a chynnal peilot ar gyfer un llwybr ar gyfer amheuaeth o ganser. Mae r niferoedd sy n manteisio ar raglen sgrinio r coluddyn wedi cynyddu dros 4% ers y llynedd ac mae bellach dros 52%. Mae polisi wedi cael ei gyhoeddi yn egluro rôl y gweithwyr allweddol yn GIG Cymru. Mae timau clinigol gofal sylfaenol wedi cynnal dadansoddiadau o ddigwyddiadau arwyddocaol ar gyfer yr holl gleifion sy n derbyn diagnosis o ganser gastroberfeddol neu ganser yr ysgyfaint. 1

Mae rhai byrddau iechyd wedi cymryd camau breision o ran sefydlu timau oncoleg acíwt. Mae r rhain yn sicrhau bod cleifion a chanddynt ganser heb ddiagnosis blaenorol, a rhai sy n profi cymhlethdodau n gysylltiedig â chanser neu driniaeth canser yn cael mynediad prydlon at ofal rhagorol. Fodd bynnag, mae angen gwneud cynnydd pellach mewn sawl maes, neu fynd i r afael â materion newydd: Yng Nghymru mae r cyfraddau ar gyfer goroesi canser sy n gysylltiedig ag ysmygu (y stumog, yr ysgyfaint a r arennau) yn is na chyfartaledd Ewrop. Wrth gymharu ardaloedd a chanddynt y mwyaf a r lleiaf o amddifadedd yng Nghymru, ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng nifer yr achosion o ganser, y nifer sy n marw oherwydd canser, a r nifer sy n goroesi. Mae r achosion o ganser 21% yn uwch yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru, o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus, ac mae r nifer sy n marw o ganser yng Nghymru 46% yn uwch. Mae r gyfradd goroesi am flwyddyn 17% yn is yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus, o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus. O ran y gyfradd goroesi ar ôl pum mlynedd, mae r gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy, gyda 28% yn llai yn goroesi yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus. Mae r gyfradd recriwtio i dreialon clinigol wedi gostwng 4.4% i 14.4%, sydd fymryn yn is na r targed o 15%. Mae r sylwadau rhydd o r APCC yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen rhoi cefnogaeth bellach i r claf. Er bod mwyafrif y sylwadau yn rhai cadarnhaol, amlygwyd y canlynol ymhlith meysydd i w gwella: oedi wrth gynnal ymchwiliadau cychwynnol o symptomau mewn gofal sylfaenol, cyfathrebu gwael, heb ddarparu digon o wybodaeth a chefnogaeth a chyfnodau anodd o drosglwyddo rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Mae ein perfformiad yn erbyn y targed amser aros o 62 diwrnod ar gyfer rhai sydd newydd gael diagnosis o ganser yn parhau i fod yn destun pryder, gan nad yw r targed wedi i gyrraedd yn gyson ledled Cymru ers cryn amser. Rhaid i fyrddau iechyd ddatblygu mentrau dan arweiniad clinigol rhwng adrannau gwasanaethau canser a thimau gwella gwasanaeth i ymgymryd â gwaith gwella llwybrau gan ddefnyddio methodolegau gwella ansawdd sefydledig. Nid yw pob bwrdd iechyd wedi datblygu gwasanaethau gofal oncoleg acíwt cadarn eto. Bydd yn rhaid iddynt roi datblygiadau ar waith cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn sydd i ddod. Bydd gofal sylfaenol yn adolygu gwersi a ddysgwyd o r dadansoddiadau o ddigwyddiadau arwyddocaol ac yn rhannu r rhain ymhlith ei gilydd ac ymhlith eu cydweithwyr gofal eilaidd. Sefydlu set ddata gryno gyfun newydd ar gyfer clefydau a modiwl tîm amlddisgyblaethol yn CaNISC (System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru) 1. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer Byrddau a thimau clinigol ac rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn y meysydd hyn yn 2015. Andrew Goodall Prif Weithredwr, GIG Cymru Paul Roberts Cadeirydd, Grŵp Gweithredu Canser 2 1 System gyfrifiadurol ar-lein yw CaNISC sy n darparu gwybodaeth am gleifion canser i weithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru. Mae n caniatáu i weithwyr iechyd proffesiynol gael gwybodaeth glinigol bwysig am glaf lle bynnag y bydd y claf hwnnw n derbyn gofal arbenigol, ac mae hynny n helpu i sicrhau r gofal gorau posibl i gleifion.

2. Sawl achos newydd o ganser sy n digwydd yng Nghymru, bob blwyddyn, faint sy n marw ac am ba hyd mae pobl yn byw ar ôl cael diagnosis o ganser 2? 2.1 Trosolwg Drwy ddadansoddi cyfraddau mynychder, marwolaethau a goroesi cawn ddarlun pwysig o ba mor effeithiol yw ein gwaith i atal a thrin canser. Er gwaetha r cynnydd yng nghyfraddau r achosion o ganser, mae cyfraddau marwolaethau yn gostwng a chyfraddau goroesi yn gwella. Cafodd dros 18,000 o bobl wybod bod ganddynt ganser yn 2012. Mae hyn yn gyfystyr â thua 610 o achosion 3 am bob 100,000 o bobl. O safbwynt y DU yn 2010, yng Nghymru y cafwyd y cyfraddau uchaf ar gyfer pob canser gyda i gilydd ymhlith dynion, ac yn yr Alban ar gyfer menywod. Mae r nifer o bobl sy n cael diagnosis o ganser yn cynyddu. Rhwng 1995 a 2011, cafwyd tua 16,400 o achosion newydd o ganser bob blwyddyn ar gyfartaledd. Y mathau mwyaf cyffredin yw canser y fron, canser y coluddyn, canser y prostad a chanser yr ysgyfaint. Y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yw canser y prostad, a r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod yw canser y fron. Gall canser ddatblygu ar unrhyw oedran, ond mae n fwyaf cyffredin ymhlith pobl hŷn. Yn rhannol, mae r cynnydd mewn cyfraddau mynychder oherwydd y cynnydd yn y boblogaeth hŷn. Er gwaetha r cynnydd yn nifer yr achosion, mae marwolaethau o ganser wedi gostwng. Ar gyfartaledd, bu farw tua 8,400 o bobl o ganser bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 1995 a 2011. Mae r cyfraddau wedi gostwng dros y pymtheg mlynedd diwethaf, ar gyfartaledd o ryw 0.3% bob blwyddyn 4. Mae triniaethau newydd a mwy o effeithiol yn golygu y gall llawer mwy o bobl bellach ddisgwyl byw n hirach ar ôl triniaeth canser. Er bod cyfraddau goroesi yn gwella, mae r cyfraddau yn dal i fod yn hynod amrywiol ymhlith mathau cyffredin o ganser. Roedd y gyfradd oroesi ar ôl 5 mlynedd (ar gyfer cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2003 a 2007) yn amrywio rhwng 3% ar gyfer canser y pancreas; 7% ar gyfer canser yr ysgyfaint ac 86% ar gyfer canser y prostad ac 85% ar gyfer canser y fron ymhlith menywod 3. Mae angen gwneud llawer mwy i wella r cyfraddau goroesi sy n wael ar hyn o bryd. 2.2 Cyfraddau mynychder canser Mae r rhain yn mesur sawl achos newydd o ganser a geir bob blwyddyn ac yn dweud wrthym i ba raddau yr ydym yn llwyddo i atal canser yng Nghymru. Os ydym yn cyflawni ein hamcanion, byddwn yn disgwyl gweld y canlynol yn digwydd dros amser: Cynnydd arafach yn y cyfraddau mynychder o gymharu â thueddiadau r gorffennol. Llai o fwlch rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus Cymru. Cyfraddau mynychder sy n gyffelyb i r gorau yn Ewrop 5. Dangosydd hirdymor yw hwn, ac ni fyddwn yn gweld unrhyw newid am sawl blwyddyn. 2 Mae gwybodaeth fanylach am gyfraddau mynychder, marwolaethau a goroesi ar gael yn www.howis.wales.nhs.uk/sites3/ Documents/322/2013%20Provisional%20Technical%20Document%20-%20Section%202%20Profiles%20by%20Cancer%20Site. pdf. 3 Cyfradd Oed Safonedig Ewropeaidd fesul 100,000 o r boblogaeth (EASR 2013). 4 Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru 2014. 5 Y gwledydd hynny sy n cofrestru achosion o ganser a marwolaethau o ganser ar gyfer y boblogaeth gyfan. 3

Ffigur 1: Cyfradd Canser Ewrop (pob canser ac eithrio canser y croen di-felanoma). Cyfradd oed safonedig Ewrop fesul 100,000 o boblogaeth 680 660 640 620 600 580 560 540 520 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 Cymru Lloegr Yr Alban Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 ar gyfer ystadegau Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau Lloegr, a r Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer ystadegau r Alban. Sylwch: Er mwyn dangos y gwahaniaethau n fwy clir, nid yw echel y siart yn Ffigur 1 yn dechrau ar sero. Mae Ffigur 1 yn dangos mai r Alban sy n dueddol o fod â r cyfraddau mynychder uchaf yn y DU dros amser, gyda Chymru yn ail. Mae r cyfraddau hyn yn tueddu i ostwng yng Nghymru a r Alban ar y cyfan, gyda sawl cynnydd bach wedi i nodi yn Lloegr. Yn 2012 roedd dwy ran o dair o r holl achosion o ganser yng Nghymru wedi u canfod ymhlith pobl 65 oed neu n hŷn 6. Yn ystod y cyfnod 2003-2012 ychydig o newid a gafwyd yn y rhan fwyaf o gyfraddau fesul 100,000 ar gyfer canser oedran-benodol. Mae hyn yn awgrymu y gellir egluro n rhannol y cynnydd yn niferoedd yr achosion o ganser drwy r ffaith bod pobl yn byw n hirach a bod y boblogaeth yn heneiddio. Canser y coluddyn yw r canser mwyaf cyffredin 7. Mae hyn o ganlyniad i boblogaeth sy n heneiddio fwyfwy, mwy o ymwybyddiaeth ac effaith rhaglen sgrinio r coluddion. Rhagwelwyd y bydd atgyfeiriadau ar gyfer mathau cyffredin o ganser yn parhau i godi dros y blynyddoedd nesaf, a hynny am y rhesymau canlynol: Oherwydd trefniadau sgrinio ac addysg well, ceir diagnosis ar gyfer canserau cyffredin fel canser y prostad, y coluddyn mawr a r fron, yn y camau cynnar lle gellir gwella r claf. Mae r boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu o r naill flwyddyn i r nesaf. Mae nifer cynyddol o gleifion canser oedrannus yn goroesi yn hirach ar ôl derbyn diagnosis. Erbyn 2015, mae Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (UGACC) yn rhagweld y ceir cynnydd o 49%, 34% a 32% ym mynychder canser y prostad, canser y coluddyn mawr a chanser y fron, yn y drefn honno, o gymharu â r lefelau a adroddwyd yn 2003. 6 Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2014 7 Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2014. 4

Dangosir cydberthynas rhwng llawer o glefydau neu gyflyrau iechyd ag ardaloedd o amddifadedd. Mae hyn hefyd yn wir yn achos canser, lle mae r gyfradd mynychder 21% yn uwch yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru, o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus (ffigur 2). Mae hynny n golygu bod tua 123.2 o achosion ychwanegol o ganser fesul 100,000 o bobl sy n byw yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus. Ffigur 2: Cyfradd mynychder canser yn ôl amddifadedd yng Nghymru, pob oed, pawb 2008-2012 (pob canser ac eithrio canser y croen di-felanoma) 500 709.6 400 586.4 300 200 100 0 Lleiaf amddifadus Cwintel 2 Cwintel 3 Cwintel 4 Mwyaf amddifadus Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 (gan ddefnyddio EASR 2013 a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2014) 2.3 Cyfradd marwolaethau canser Mae hyn yn dweud wrthym faint o bobl sy n marw o ganser bob blwyddyn 8. Os bydd ein strategaeth yn llwyddiannus, byddwn yn disgwyl gweld y canlynol yn digwydd dros amser: Gostyngiad parhaus yng nghyfradd marwolaethau canser. Llai o fwlch rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus Cymru. Cyfraddau marwolaeth sy n gyffelyb i r gorau yn Ewrop 4. Mae ffigur 3 yn dangos bod cyfradd gyffredinol y bobl sy n marw o ganser 9 wedi gostwng yn gyson dros yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf. Ceir cyfraddau marwolaeth uwch yn yr Alban nag yng Nghymru, ac roedd y gyfradd oddeutu 13% yn uwch na Chymru yn 2012. Cafwyd gostyngiad o 25% mewn marwolaethau o 1995 tan 2012 yng Nghymru ymhlith pobl dan 75 oed. 8 Mynegir fel cyfradd oedran safonedig fel bo modd cymharu rhwng blynyddoedd a gwledydd. 9 Yn seiliedig ar yr EASR (2013) fesul 100,000 o boblogaeth ar gyfer pobl dan 75 oed. 5

Ffigur 3: Marwolaethau canser o dan 75 oed, Cyfradd Oed Safonedig Ewrop fesul 100,000 (pob canser ac eithrio canser y croen di-felanoma) 250 200 150 100 50 0 1995 1996 1997 1998 1999 2000 2001 2002 2003 2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 Cymru Yr Alban Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 ar gyfer ystadegau Cymru a r Is-adran Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer ystadegau r Alban Tra bo mynychder canser 21% (ffigur 2) yn uwch yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus, mae marwolaeth oherwydd canser yng Nghymru 46% yn uwch, fel yr amlygir yn ffigur 4. Ffigur 4: Cyfradd marwolaethau canser (EASR) yn ôl amddifadedd yng Nghymru 2008-2012 (pob canser ac eithrio canser y croen di-felanoma) 500 400 254.7 372.4 300 200 100 0 Lleiaf amddifadus Cwintel 2 Cwintel 3 Cwintel 4 Mwyaf amddifadus Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 6

2.4 Cyfraddau goroesi canser ar ôl blwyddyn a phum mlynedd Mae r mesur hwn yn dangos faint o bobl sy n fyw flwyddyn a phum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser. Bydd y claf yn fwy tebygol o oroesi am gyfnod hwy os ceir hyd i r clefyd yn gynnar, os yw r claf yn gymharol iach ac os yw r driniaeth yn effeithiol. Os bydd ein strategaeth yn llwyddiannus, byddwn yn disgwyl gweld y canlynol yn digwydd dros amser: Cynnydd mewn cyfraddau goroesi canser ar ôl blwyddyn a phum mlynedd. Llai o fwlch rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus Cymru. Cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd sy n gyffelyb i r gorau yn Ewrop 4. Ar gyfer goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd, dengys Ffigur 5 fod y cyfraddau goroesi cymharol uchaf yn y DU yn tueddu i fod yng Ngogledd Iwerddon. Lloegr sy n tueddu i fod yn ail, ac yna Cymru a r Alban. Yng Nghymru, cafwyd gwelliant o 17.5% yn y gyfradd goroesi ar ôl blwyddyn a gwelliant o 20.1% yn y gyfradd goroesi ar ôl pum mlynedd ers 1995. Ffigur 5: Canran y cleifion sy n goroesi pob canser (ac eithrio canser y croen di-felanoma), pob oed 80 70 60 50 40 30 20 10 0 1995-1999 1996-2000 1997-2001 1998-2002 1999-2003 2000-2004 2001-2005 2002-2006 2003-2007 2004-2008 2005-2009 2006-2010 2007-2011 Blwyddyn Cymru Blwyddyn Lloegr Blwyddyn Yr Alban Blwyddyn Gogledd Iwerddon Pum Mlynedd Cymru Pum Mlynedd Lloegr Pum Mlynedd Yr Alban Pum Mlynedd Gogledd Iwerddon Ffynhonnell: UKCIS 4.5b Ebrill 2012 ac Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 ar gyfer ystadegau Cymru. Nid oes ffigurau goroesi wedi u diweddaru ar gael ar gyfer Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon Ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng y gyfradd sy n goroesi yn ardaloedd mwyaf amddifadus ac ardaloedd lleiaf amddifadus Cymru. Mae r gyfradd goroesi ar ôl blwyddyn 17% yn is yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus, o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus. O ran y gyfradd goroesi ar ôl pum mlynedd, mae r gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy, gyda 28% yn llai yn goroesi yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus o gymharu â r ardaloedd lleiaf amddifadus (ffigur 6). 7

Ffigur 6: Cyfraddau cymharol ar gyfer goroesi canser ar ôl blwyddyn a phum mlynedd yn ôl amddifadedd yng Nghymru. Pawb, pob oed, pob canser ac eithrio canser y croen di-felanoma 100% 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% a b c d e a b c d e Goroesi ar ôl blwyddyn 2007-2011 Goroesi ar ôl pum mlynedd 2003-2007 a Lleiaf amddifadus b Cwintel 2 c Cwintel 3 d Cwintel 4 e Mwyaf amddifadus Ffynhonnell: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru 2014 2.5 Sut mae Cymru yn cymharu â gweddill Ewrop? Er gwaetha r gwelliannau yng Nghymru, rydym yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu nifer o wledydd eraill yn Ewrop. Mae modd cymharu drwy EUROCARE 5 10, consortiwm o 29 o wledydd o bob cwr o Ewrop sy n cymharu eu data fel ffordd o archwilio cyfleoedd i wella ymarfer. Yn ôl EUROCARE 5; mae r nifer sy n goroesi canserau ymhlith oedolion ledled Ewrop wedi gwella n sylweddol. 10 www.eurocare.it/eurocare5/tabid/64/default.aspx Mae EUROCARE 5 yn darparu amcangyfrifon goroesi seiliedig ar boblogaeth ar gyfer 29 o wledydd Ewrop. Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddwyd data ar gyfer ffigurau goroesi cymharol ar ôl pum mlynedd ar gyfer cleifion 15 oed a throsodd a gafodd ddiagnosis rhwng 2000 a 2007 ar gyfer 10 safle canser. Cyhoeddwyd hyn yn ogystal â chyfraddau goroesi o ganserau plentyndod ymhlith plant 0-14 oed. 8

Ffigur 7: Canran y cleifion sy n goroesi am flwyddyn (Safonau Goroesi Canser Rhyngwladol) 2000-2007 100% 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% Y pen a r gwddf Y stumog Yr ysgyfaint Y fron Y prostad Yr arennau Lloegr Gogledd Iwerddon Yr Alban Cymru Cyfartaledd Ewrop Ffynhonnell: EUROCARE 5 Dengys Ffigur 7 ganran y cleifion sy n goroesi hyd at flwyddyn ar gyfer rhai o r safleoedd canser cyffredin. Ar gyfer y stumog, yr aren a r ysgyfaint, sydd yn gysylltiedig ag ysmygu, mae r cyfraddau goroesi yng Nghymru yn llusgo y tu ôl i gyfartaledd Ewrop. Ar gyfer canserau r fron, y prostad, y pen a r gwddf, mae canran y cleifion sy n goroesi hyd at flwyddyn yng Nghymru yn is na chyfartaledd Ewrop, a chyfartaleddau gwledydd eraill y DU. Dangosir cyfraddau goroesi tymor hwy (5 mlynedd) yn ffigur 8. Mae hyn yn dangos bod cyfraddau goroesi hirdymor ar gyfer canserau r pen a r gwddf yng Nghymru yn llawer uwch na chyfartaledd Ewrop. Fodd bynnag, mae r perfformiad yn erbyn y safleoedd canser eraill yn llai ffafriol. Mae r gyfradd sy n goroesi am y tymor hir ar gyfer canserau r fron a r prostad yn is yng Nghymru na chyfartaledd Ewrop. 9

Ffigur 8: Canran y cleifion sy n goroesi rhwng 4 a 5 mlynedd (Safonau Goroesi Canser Rhyngwladol) 2000-2007 100% 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% Y pen a r gwddf Y stumog Yr ysgyfaint Y fron Y prostad Yr arennau Ffynhonnell: EUROCARE 5 Lloegr Gogledd Iwerddon Yr Alban Cymru Cyfartaledd Ewrop Ymddengys fod y gyfradd oroesi ar gyfer llawer o ganserau yng Nghymru yn parhau i fod yn gymharol isel. Serch hynny, gwyddom o astudiaethau blaenorol, ac o astudiaethau eraill, fod y gyfradd honno yn gwella ynghynt nag yn llawer o wledydd eraill. Gwyddom hefyd y cafwyd llawer o welliannau i wasanaethau iechyd canser yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae n bosibl y bydd cryn amser wedi mynd heibio cyn i r gwelliannau hyn gael effaith ar y gyfradd oroesi hirdymor. 10

3. Gwasanaethau canser yng Nghymru Mae nifer o fesurau perfformiad y GIG wedi cael eu datblygu i n helpu i ddeall i ba raddau yr ydym yn llwyddo i ganfod a thrin canser yng Nghymru. Cyhoeddwyd y llinell sylfaen ar gyfer pob mesur yn yr adroddiad blynyddol ar ganser, a gyhoeddwyd yn 2012. Yn yr adroddiad hwn byddwn yn edrych ar y cynnydd a wnaed o i gymharu â r mesurau perfformiad. Rydym hefyd yn adolygu gwelliannau i wasanaethau ym mhob bwrdd iechyd, a fydd yn gwella ansawdd gwasanaethau canser yng Nghymru. 4. Atal canser Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae iechyd cyffredinol yn gwella. Er hynny, mae anghydraddoldebau iechyd mawr yn dal i fodoli rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol ac ardaloedd daearyddol, ac mae statws iechyd cyffredinol y boblogaeth yng Nghymru ymhell o r gorau yn Ewrop. Achosir canser gan ddifrod i DNA yr unigolyn. Gall ffordd unigolyn o fyw a r graddau y bydd yn dod i gysylltiad â phethau yn yr amgylchedd, fel pelydrau uwch fioled a r cemegau sy n achosi canser mewn tybaco, ddifrodi DNA. Bydd y difrod hwn yn cronni dros amser. Mae Cancer Research UK 11 yn awgrymu y bydd mwy nag un o bob tri yn cael canser ryw bryd yn ystod eu hoes. Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd dros 18,000 o bobl yn cael diagnosis o r clefyd. Amcangyfrifir y gellid atal mwy na phedwar o bob 10 achos o ganser drwy newid ein ffordd o fyw, er enghraifft: peidio ag ysmygu; cadw pwysau r corff yn iach; yfed llai o alcohol; bwyta deiet iach a chytbwys; cadw n weithgar; osgoi heintiau penodol (fel HPV); cadw n ddiogel yn yr haul; osgoi rhai cemegau yn y gweithle. Mae n anodd mynd i r afael â llawer o r newidiadau hyn i n ffordd o fyw, ac maent yn gysylltiedig â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau ehangach. Yn ôl Cancer Research UK ysmygu sydd i gyfrif am fwy nag un o bob pedwar o farwolaethau canser yn y DU, ac am bron un o bob pump o r holl achosion o ganser. Mae hefyd yn cynyddu r risg o sawl math arall o ganser. Mewn astudiaeth yn 2011 amcangyfrifwyd bod ysmygu yn achosi bron un o bob pum achos o ganser yn y DU 12. Mae yfed gormod o alcohol yn achosi 4 o bob 10 achos o ganser a deiet gwael yn achosi bron 1 o bob 10 achos o ganser yn y DU 13. 11 www.cancerresearchuk.org/cancer-info/cancerstats/causes/comparing-causes-of-cancer/results/ 12 Cancer Research UK 13 Cancer Research UK 11

Mae n bosibl y bydd gwahardd ysmygu mewn cerbydau preifat sy n cludo plant dan 18 yn amddiffyn plant rhag y niwed sy n gysylltiedig ag ysmygu goddefol. Gall ysmygu goddefol arwain at lu o glefydau cronig, y mae modd eu hosgoi i raddau helaeth iawn. Ymddengys mai deddfwriaeth yw r ffordd fwyaf priodol o weithredu i gael gwared â r niwed hwn a sefyllfaoedd lle deuir i gysylltiad â mwg ail-law. Cyhoeddodd y Prif Weinidog a r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ar 15 Gorffennaf 2014 yn nodi y byddai ymgynghoriad yn cael ei lansio n fuan ar gynigion i wahardd ysmygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol, yn unol â gweithdrefnau sefydledig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull gweithredu Pum Ffordd at Les, ac yn ddiweddar lansiodd y fenter Ychwanegu at Fywyd. Cyfres o gamau seiliedig ar dystiolaeth sy n hybu lles pobl yw Pum Ffordd at Les. Fe u datblygwyd gan y New Economics Forum (NEF). Dyma nhw: Cysylltu, Bod yn fywiog, Bod yn sylwgar, Dal ati i ddysgu, Rhoi Pethau syml y gall pobl eu gwneud yn eu bywyd bob dydd yw r gweithgareddau hyn. 14 Asesiad iechyd ar-lein i rai dros eu hanner cant yw Ychwanegu at Fywyd. Menter newydd ydyw i helpu pobl i ddeall eu hiechyd yn well, a r camau y gallant eu cymryd i wella u hiechyd a u lles, gan gynnig mynediad at wybodaeth a chyngor o ansawdd drwy un wefan. Mae llawer iawn ar ôl i w wneud, fel yr amlygir yn ffigur 9. 14 Datblygwyd y logo yn wreiddiol gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent. Fe i haddaswyd gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf. 12

Ffigur 9: Y ganran o oedolion yn 2013 a ddywedodd eu bod wedi bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod cynt a ddywedodd eu bod yn gorfforol egnïol ar pum diwrnod neu fwy yn yr wythnos diwethaf a ddywedodd eu bod wedi yfed mwy na r canllawiau ar un diwrnod o leiaf yr wythnos flaenorol sy n ordew sy n ysmygu bob dydd neu n achlysurol Ffynhonnell: Arolwg Iechyd Cymru, 2013 0% 5% 10% 15% 20% 25% 30% 35% 40% 45% Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adnodd newydd ar y we ar ordewdra ymhlith oedolion, gan ddefnyddio data o Arolwg Iechyd Cymru. Mae r adnodd sydd ar gael ar wefan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno gwybodaeth am y nifer sydd dros eu pwysau neu n ordew, yn ôl oedran a rhyw, ac ar ystod o raddfeydd daearyddol. Mae map animeiddiedig hefyd yn dangos y newid mewn lefelau o ordewdra yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Brechiad y Feirws Papiloma Dynol (HPV) Ers ei gyflwyno yn 2008, mae merched ym mlwyddyn wyth wedi cael cynnig y brechiad, sy n diogelu rhag dau fath o r feirws HPV sydd yn achosi r mwyafrif o ganserau serfigol. Disgwylir i r rhaglen sicrhau gostyngiad pellach o 60% ym mynychder y clefyd dros yr 20 mlynedd nesaf. Yn ffigurau diweddaraf Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2012-13, canfuwyd bod 86% o ferched 12-13 oed wedi cwblhau cwrs tri dos y brechiad cynnydd bach o i gymharu â r llynedd. 13

5. Canfod canser yn gyflym Bydd diagnosis a thriniaeth gynnar yn cynyddu siawns yr unigolyn o oroesi ac yn lleihau niwed tebygol i w iechyd ac i ansawdd bywyd ei deulu. Bydd canfod canser yn gynnar yn golygu bod y driniaeth ar ei gyfer yn llawer mwy tebygol o lwyddo. Ceir dwy elfen bwysig er mwyn canfod canser yn gynnar: sgrinio ac addysg i hybu diagnosis cynnar. 5.1 Gwasanaethau sgrinio Ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth yw r rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol seiliedig ar boblogaeth. Eu nod yw canfod canser yn gynnar, pan fydd hi n fwyaf tebygol y gellir derbyn triniaeth a goroesi. Ceir tair rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yng Nghymru. Bron Brawf Cymru, Sgrinio Serfigol Cymru a Sgrinio Coluddion Cymru. Diolch byth am y mamogramau, cefais i ddiagnosis cynnar iawn. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i n sâl nes i mi fynd i gael sgrinio fy ngholuddion. Doedd gen i ddim symptomau o gwbl. Byddwn i n cynghori unrhyw un sy n cael cynnig y prawf i w gymryd. Alla i ddim ond canmol y driniaeth a gefais gan y GIG. Ar ôl cael sgrinio fy ngholuddion, cefais driniaeth frys (doedd gen i ddim symptomau). Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru 2013 Dangosir y defnydd presennol o bob un o r rhaglenni sgrinio canser yn 2013-14 yn nhabl 2. Tabl 2: Defnydd/cwmpas: rhaglenni sgrinio canser 2013-14 Defnydd o r Gwasanaeth Sgrinio Coluddion (60-74 oed, wedi u profi o fewn 2 flynedd) Targed: 60% Defnydd o Wasanaeth Sgrinio r Fron (50-70 oed, wedi u profi o fewn 3 blynedd) Safon: 70% Targed: 80% Defnydd o r Gwasanaeth Sgrinio Serfigol (25-64 oed, wedi u profi o fewn 5 mlynedd) Targed: 80% Y nifer a oedd yn gymwys/ a wahoddwyd Y nifer a brofwyd Defnydd/ Cwmpas 277,493 145,906 52.6% 144,411 104,104 72.1% 730,885 573,313 78.4% Ffynhonnell: Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2014 14

Nod rhaglen sgrinio r fron yw lleihau r nifer sydd yn mynd yn sâl neu n marw oherwydd canser y fron. Mae Bron Brawf Cymru yn gwahodd menywod cymwys 50-70 oed i gael bron brawf bob tair blynedd. Caiff menywod dros 70 oed drefnu prawf eu hunain. Mae r nifer sy n defnyddio gwasanaeth sgrinio r fron yng Nghymru yn debyg i r blynyddoedd cynt ac yn bodloni r safon. Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau mynychder canser serfigol a marwolaethau yn ei sgil. Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gwahodd menywod 25-50 oed bob tair blynedd a menywod 50-64 oed bob pum mlynedd. Mae cwmpas y rhaglen sgrinio serfigol yn agos iawn at y safon o 80%, sy n golygu bod bron wyth o bob deg menyw yng Nghymru yn derbyn prawf taeniad. Mae r nifer sy n derbyn y prawf ychydig yn uwch na r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, nid yw ffigurau eleni ond yn cynnwys menywod 25-64 oed oherwydd y newid yn ystod oedran y menywod a wahoddir, felly ni allwn gymharu n uniongyrchol. Nod rhaglen sgrinio r coluddion yw lleihau r nifer sydd yn mynd yn sâl neu n marw oherwydd canser y coluddyn. Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd dynion a menywod cymwys rhwng 60 a 74 oed i dderbyn prawf sgrinio coluddyn bob dwy flynedd. Er nad yw n cyrraedd y targed o 60%, cafwyd cynnydd ers y llynedd o dros 4% yn y nifer a dderbyniodd brawf sgrinio coluddion yng Nghymru (y defnydd yn 2012-13 oedd 48.2%), ac mae hynny n newyddion cadarnhaol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso strategaethau i gynyddu r nifer sy n derbyn prawf sgrinio r coluddion. Mae hyn yn cynnwys: datblygu fframwaith er mwyn mynd i r afael ag anghydraddoldeb; llunio negeseuon allweddol a llythyr cyflwyniadol. Mae peilot a gwerthusiad yn cael ei gynnal o r naill a r llall ar hyn o bryd; a datblygu rôl hyrwyddwr cyfranogi a gwaith ar y cyd rhwng ymarferwyr sgrinio arbenigol a r tîm ymgysylltu sgrinio. Dangoswyd perthynas agos rhwng amddifadedd a r nifer sy n defnyddio r holl raglenni sgrinio canser. Mae hyn yn golygu mai pobl yn y grwpiau mwyaf amddifadus sydd yn lleiaf tebygol o dderbyn prawf sgrinio. Mae r berthynas hon ar ei hamlycaf ym mhrawf sgrinio r coluddion, ond fel y gellir gweld yn ffigur 10, fe i gwelir ym mhob un o r tair rhaglen sgrinio canser. Dengys Ffigur 10 gwmpas/y defnydd o bob rhaglen fesul cwintel amddifadedd, gyda r grwpiau n troi n fwy amddifadus wrth symud o r chwith i r dde. 15

Ffigur 10: Defnydd/cwmpas yn ôl cwintel amddifadedd. Cymru, 2013-14 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% Y Coluddion Y Fron Serfigol* Lleiaf amddifadus Cwintel 2 Cwintel 3 Cwintel 4 Mwyaf amddifadus Ffynhonnell: Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru Hydref 2014 * Cwmpas sgrinio serfigol (25-64 oed, wedi u sgrinio o fewn 5 mlynedd) Mae ymdrechion ar waith i fynd i r afael â r anghydraddoldebau hyn wrth sgrinio ledled Cymru. Mae gwybodaeth i r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig creu negeseuon clir a chyson a gyflwynir yn y modd mwyaf priodol i r gynulleidfa. Mae negeseuon allweddol wedi cael eu datblygu ar gyfer pob un o r rhaglenni, ac ar gael ar y gwefannau 15. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y rhaglenni sgrinio. Mae r isadran sgrinio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys timau iechyd cyhoeddus lleol, Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau eraill cymunedol a r trydydd sector. 15 Sgrinio Serfigol Cymru www.screeningforlife.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1129/csw_a4infosheet.pdf Bron Brawf Cymru: www.screeningforlife.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1129/btw_a4infosheet.pdf Sgrinio Coluddion Cymru: www.screeningforlife.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1129/bsw_a4infosheet.pdf 16

6 Diagnosis cynnar Bu oedi hir rhwng cael fy atgyfeirio am y tro cyntaf gan y meddyg teulu [hepgorwyd y dyddiad], apwyntiadau r endoscopi/sgan a r apwyntiad gyda r meddyg ymgynghorol, o r diwedd i ddechrau r driniaeth [hepgorwyd y dyddiadau]. Ar ôl i mi gael diagnosis o ganser serfigol, roedd y gofal a gefais yn rhagorol. Ond cyn hynny, roeddwn i wedi cael canlyniadau abnormal i brofion taeniad a sawl colonosgopi. Cymerodd bron i flwyddyn cyn i mi gael diagnosis, ac rwy n teimlo bod hynny n rhy hir. I r radiograffydd yn [hepgorwyd enw r ysbyty] y mae r diolch am gael hyd i r canser ar ôl i mi gael niwmonia. Doedd gen i ddim symptomau eraill, felly fydden i erioed wedi gwybod ei fod yno. Roeddwn i n lwcus iawn i gael fy ngweld a chael diagnosis mor gyflym ar ôl fy apwyntiad gyda r meddyg teulu, pan ddywedais wrtho fod gen i lwmp. Cefais ddiagnosis cynnar a oedd yn golygu bod fy nhriniaeth yn helpu gan fy mod wedi ei chychwyn yn gynnar. Cafodd yr holl brofion a r triniaethau eu cynnal yn brydlon, ac roedd y staff yn dda iawn ar y cyfan. Cafodd fy mhrawf diagnostig, fy sganiau a m llawdriniaeth eu trefnu n gyflym iawn. Roedd yr holl feddygon yn dangos ymdeimlad o frys, ac roedd hynny n dawelwch meddwl. Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru 2013 Bydd adnabod yr arwyddion posibl o ganser, a chymryd camau prydlon yn arwain at ddiagnosis cynnar. Gall mwy o ymwybyddiaeth o r arwyddion posibl o ganser, ymhlith meddygon, nyrsys a darparwyr eraill gofal iechyd, a hefyd ymhlith y cyhoedd, gael cryn effaith ar y clefyd. Mae lympiau, briwiau sy n methu gwella, gwaedu annormal, diffyg traul parhaus, a chrygni cronig ymhlith rhai arwyddion cynnar o ganser. Mae diagnosis cynnar yn arbennig o berthnasol ar gyfer canser y fron, ceg y groth, y laryncs, y colon a r rhefr, y croen a r genau. Dywedir yn aml mai un o r prif resymau am gyfraddau goroesi gwael y DU yw r ffaith bod canserau n cael eu canfod yn hwyr. Oherwydd hynny, mae n bwysig sicrhau bod achosion yn cael eu hatgyfeirio n gynnar o ofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae angen diagnosis ar gyfer pob atgyfeiriad, hyd yn oed os yw hynny ond er mwyn cadarnhau nad oes gan y claf ganser. Mae mynediad cyflym at brofion diagnostig a chanlyniadau hefyd, felly, yn allweddol er mwyn sicrhau triniaeth gynnar. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweithio gyda Macmillan i gynnal peilot lle mae meddygon teulu yn cyflawni swyddi hwyluso. Nod y peilot oedd cynyddu mwy o raglenni ar ymwybyddiaeth o symptomau canser ar gyfer meddygon teulu. Bu r peilot mor llwyddiannus, mae Macmillan bellach yn trefnu i roi r cynllun ar waith ledled Cymru. Mae meddygon teulu sy n gweithio fel hwyluswyr i Macmillan wedi cael eu gweld fel asiantau dros newid ac wedi gwneud cynnydd ym maes gofal sylfaenol drwy arwain, cyfathrebu, addysgu, ail-ddylunio gwasanaethau a strategaeth. Mae r peilot hefyd wedi dangos pwysigrwydd a photensial integreiddio gwell ar draws gofal eilaidd a gofal sylfaenol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y grŵp hwn o gleifion gan fod angen sicrhau llwybr mor ddi-dor ag sy n bosibl i r claf drwy r gwasanaethau gofal iechyd. 17

6.1 Oncoleg gofal sylfaenol Oherwydd natur newidiol canser a r cynnydd yn nifer y bobl sydd yn goroesi triniaeth ar ei gyfer, y bydd angen gofal parhaus arnynt, mae n amlwg y bydd angen integreiddio gofal canser yn well ar draws gofal sylfaenol a chymunedol fel bo modd i gleifion dderbyn gofal parhaus a chydgysylltiedig yn y gymuned. Mae oncoleg gofal sylfaenol yn cynnwys cyfleoedd i atal canser ac addysgu r man cyswllt cyntaf ynghylch symptomau a r cyfle i sicrhau diagnosis cynharach. Mae hyn hefyd yn cynnwys cydgysylltu cefndirol a gofal cefnogol yn ystod triniaeth weithredol, a rôl gref ac estynedig wrth adfer wedi r driniaeth ac mewn gofal goroesedd. Nodwyd oncoleg gofal sylfaenol yn flaenoriaeth gan y Grŵp Gweithredu Canser ar gyfer 2015. Mae Cymorth Canser Macmillan, gan weithio mewn partneriaeth â Rhwydweithiau Canser Cymru, wedi sicrhau buddsoddiad i ddatblygu fframwaith cyffredinol i Gymru ar gyfer oncoleg mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd y Fframwaith yn gweithredu fel canllaw i feddygon teulu, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru drwy sefydlu r offer, y prosesau a r wybodaeth fydd yn galluogi gofal sylfaenol i reoli a rhoi cymorth i bobl ym mhoblogaeth eu practis y mae canser yn effeithio arnynt, sydd wedi, neu a allai gael diagnosis o ganser. Ei nod yw datblygu arweinyddiaeth glinigol mewn gofal sylfaenol drwy ddatblygu cymuned ymarfer, yn bennaf drwy feddygon teulu, nyrsys a r gymuned ehangach, a fydd yn gweithio gyda chlystyrau meddygon teulu, byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, rhwydweithiau canser, Llywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan, er mwyn gwneud gwaith hollbwysig i nodi anghenion lleol cleifion canser a chefnogi gwelliannau i wasanaethau canser. Bydd y rhaglen oncoleg bum mlynedd hon ar gyfer gofal sylfaenol yn gymorth i integreiddio gofal canser yn well ar draws yr holl leoliadau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd, ac yn datblygu arweinyddiaeth glinigol. Bydd yn hwyluso cyfleoedd i gefnogi addysg meddygon teulu, yn datblygu ffrydiau gwaith i wella r man cyswllt cyntaf o ran symptomau a diagnosis cynharach, yn cryfhau gwaith i gydgysylltu gofal ôl-driniaethol ac yn cefnogi r cyfnod goroesedd. Mae r datblygiad hwn yn cynnig cyfle cyffrous i Gymru arwain dull gweithredu arloesol ac integredig ar gyfer canser mewn gofal sylfaenol a chymunedol. Mae n cydnabod yr angen i wella gofal yn nes at gartref y claf, gan gynnwys gofal ar ôl triniaeth. Bydd hefyd yn galluogi cleifion i dderbyn y cymorth sydd ei angen i ofalu amdanynt eu hunain yn well. 18

6.2 Rhaglen waith amlinellol Saith Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a Chlystyrau Meddygon Teulu Dulliau ataliol a sgrinio Diagnosis Triniaeth ac adfer Bwrdd Rhaglen Tîm y Rhaglen Gwasanaethau cymunedol integredig sy'n canolbwyntio ar feddygon teulu a thimau cysylltiedig Addysg gofal sylfaenol Gofal y tu allan i oriau, pobl ifanc a grwpiau sy'n agored i niwed Datblygu'r gweithlu Gwerthuso prosiectau Y cyd-destun cenedlaethol 'Law yn Llaw at Iechyd' 'Gosod y Cyfeiriad' 'Darparu Gofal Iechyd Lleol' 'Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser' 6.3 Mesur perfformiad 1 Canran y bobl sy n cael diagnosis o u canser ym mhob cam Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai r weithred o oedi cyn ceisio cymorth a r gostyngiad yn y nifer sy n goroesi canser fod yn gysylltiedig â diffyg ymwybyddiaeth o ganser ac agweddau n adlewyrchu ymdeimlad o ofn, gwad a thynghediaeth ymhlith poblogaethau amddifadus. Hyd yma, nid yw ymyriadau wedi u cynllunio i gynyddu r ymwybyddiaeth o ganser ac annog pobl i geisio cymorth wedi cael eu targedu at gymunedau lle ceir lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol. Holiadur a gyflwynir gan gynghorydd hyfforddedig lleyg drwy ddefnyddio sgrin gyffwrdd yw Gwiriad Iechyd Tenovus. Y nod yw codi ymwybyddiaeth o ffactorau sy n dylanwadu ar y risg o ganser a symptomau o ganser drwy ateb 30 cwestiwn ar dri phwnc: eich hanes, eich ffordd o fyw a ch iechyd. Canfyddir y risg i r unigolyn a i gyfeirio i wasanaethau perthnasol wedi hynny. Nod y prosiect hwn yw datblygu r archwiliad iechyd fel ffordd o ennyn diddordeb pobl yn ardaloedd amddifadus Cymru, fel eu bod yn dod yn fwy ymwybodol o ganser ac yn ymweld â r meddyg teulu yn gynnar. Mae r prosiect peilot yn cael ei gynnal ar draws Byrddau Iechyd Cwm Taf a Phrifysgol Aneurin Bevan. Mae cofnodi ar ba gam y mae diagnosis o ganser yn bwysig, gan ei fod yn rhoi syniad i ni ynghylch pa mor dda y mae ein gwasanaethau yn perfformio o ran sicrhau diagnosis cynnar. Yn ein hadroddiad blynyddol cyntaf, roeddem yn poeni nad oedd camau llawer o r canserau wedi u cofnodi ar CaNISC (bron i 42%) a gosodwyd targed o gofnodi camau canser mewn 70% o achosion o fewn 12 mis. Mae r byrddau iechyd wedi gweithio n galed i roi gweithdrefnau effeithiol ar waith er mwyn sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd, a r llynedd roedd cam 73% o r holl achosion o ganser wedi i gofnodi. Mae perfformiad yn erbyn y mesur hwn wedi parhau i wella, gyda cham bron 75% o ganserau bellach yn cael ei gofnodi ar CaNISC. Erbyn mis Mawrth 2016, bydd angen cofnodi cam 90% o r holl achosion o ganser ar CaNISC. 19

Ffigur 11: Y ganran o bobl sy n cael diagnosis o ganser ym mhob cam 45% 40% 35% 30% 25% 20% 15% 10% 5% 0% Heb gofnodi Cam 1 Cam 2 Cam 3 Cam 4 2011 2012 2013 Ffynhonnell: CaNISC 16 Rydym am weld mwy o achosion o ganser yn derbyn diagnosis yn y cyfnod cynnar. Mae Ffigur 11 yn tynnu sylw at y cynnydd araf a chyson a gafwyd wrth gynyddu nifer y canserau y cafwyd diagnosis ar eu cyfer yng nghamau 1 a 2. Achosion datblygedig o ganser (camau 3 a 4) sydd â r canlyniadau gwaethaf i gleifion, ac mae n bwysig sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu r diagnosis o ganser yn y camau cynnar lle mae r canlyniadau gorau yn bosib. Mae angen i hyn gynnwys hyrwyddo: ymgysylltu n llawn â r cyhoedd er mwyn adnabod symptomau; adnabod symptomau rhybudd a hunangyfeirio cynnar at feddyg teulu; adnabod symptomau rhybudd a sbarduno ymchwiliadau cynnar gan feddygon teulu; a diagnosis cyflym a nodi cam wrth atgyfeirio i r ysbyty. 16 Caiff camau TNM eu grwpio yn ôl grwpiau amddifadus UICC. 20

Ffigur 12: Canran y bobl sy n cael diagnosis o ganser ym mhob cam yn ôl safle tiwmor 2013 Heb gofnodi Cam 1 Cam 2 Cam 3 Cam 4 Y fron Y Colon a r Rhefr Gynaecolegol Y Pen a r Gwddf % Breast Colorectal Gynaecological Head and Neck Lung Upper Gastrointestinal Urological Skin (Melanoma only) Yr Ysgyfaint Gastroberfeddol Uwch Wrolegol Y Croen (melanoma) Ffynhonnell: CaNISC 17 Mae Ffigur 12 yn amlygu r amrywiadau ar draws y gwahanol safleoedd tiwmor. Caiff bron 50% o gleifion y pen, y gwddf a r ysgyfaint ddiagnosis yng ngham 4. Caiff y mwyafrif o gleifion canser y fron ddiagnosis yng nghamau 1 a 2, ac fe geir canran uchel o ganserau r croen (melanoma) nad ydynt yn cael eu cofnodi. Mae fframwaith canlyniadau ansawdd 2014-15 yn cynnwys dangosydd sy n ymwneud yn benodol â chanser: Deall llwybrau gofal canser a nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau Mae hyn yn cynnwys adolygiad gan feddygon teulu o r gofal a ddarperir i r holl gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint a chanser ar y system dreulio, gan roi crynodeb o gamau dysgu i w rhannu, nodi a chynnwys unrhyw gamau perthnasol yn eu cynllun datblygu ymarfer a rhoi crynodeb o r themâu a r camau i w hadolygu. 17 Caiff camau datblygiad TNM eu eu grwpio yn ôl grwpiau amddifadus UICC. 21

7. Gofal cyflym ac effeithiol Math arbennig o radiotherapi manylder uchel yw Radiotherapi Stereotactig ar y Corff (SBRT). Fe i defnyddiwyd yn y gorffennol i drin tiwmorau rhyng-greuanol. Defnyddir SBRT fel arfer ar gyfer canserau bach ar yr ysgyfaint mewn cleifion nad oes modd iddynt gael llawdriniaeth, naill ai oherwydd lleoliad y tiwmor neu oherwydd cyflyrau iechyd eraill a allai olygu bod risgiau n gysylltiedig â llawdriniaeth. Yn 2013, dyfarnodd Llywodraeth Cymru 4.6 miliwn i Ofal Canser Felindre er mwyn cael peiriant a fyddai n gallu darparu gwasanaeth radiotherapi sterotactig arbenigol i Dde Cymru yn lle r cyflymydd llinol oedd yno ar y pryd. Bydd y cyfarpar arbenigol hwn yn darparu radiotherapi a radio-lawfeddygaeth stereotactig. Bydd hefyd yn golygu y bydd cleifion, sy n cael eu trin ar hyn o bryd yn y Gamma Knife Centre yn Sheffield am gyflyrau anfalaen fel niwroma acwstig, yn gallu dychwelyd i Gymru dros y blynyddoedd nesaf. 7.1 Mynediad ac amseroedd aros canser Ein nod yw asesu a thrin cleifion mor fuan â phosibl. Mae byrddau iechyd wedi gweithio n galed i gyrraedd y targedau amseroedd aros. Mae n bwysig bod y gwelliannau hyn yn gynaliadwy ac yn arwain at newidiadau i r system. Bydd gwella llwybrau gofal i gleifion gan ddefnyddio methodolegau priodol i wella gwasanaethau yn gwella profiad i gyfran ehangach, nid dim ond rhai sy n cael eu triniaeth orau gyntaf yn unig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrando ar gleifion ac arbenigwyr clinigol fel bod targedau yn y dyfodol yn adlewyrchu r arferion gorau. Es i weld fy meddyg teulu ar y dydd Iau, a chael fy ngweld yr wythnos ganlynol. Ar yr un diwrnod, dywedodd y meddyg ymgynghorol yn yr ysbyty lle cymerwyd biopsis gen i fod gen i ganser, ac ymdriniwyd â r peth yn gyflym iawn, ac roeddwn i n hapus iawn gyda r gofal a gefais a pha mor gyflym y cefais i driniaeth. Mae r amser aros cyn dechrau triniaeth yn rhy hir. I ddechrau, dywedais y dylwn i fod yn dechrau fy nhriniaeth erbyn mis Awst. Mae gen i apwyntiad ar gyfer [hepgorwyd y dyddiad]. Rwyf wedi fy siomi gyda r oedi hir. Cefais ddiagnosis ym mis Chwefror. Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru 2013 Yng Nghymru mae gennym ddau darged ar gyfer amseroedd aros. Rydym yn disgwyl i r targedau amser aros gael eu bodloni a u cynnal yn gyson. 7.2 Mesur perfformiad 2 Canran y bobl sy n cychwyn eu triniaeth canser yn unol â r targed amseroedd aros am driniaeth canser Mae rhai cleifion yn cael eu hatgyfeirio i r ysbyty am resymau eraill heblaw canser, ond yn cael diagnosis o ganser wedyn. Y targed ar gyfer y cleifion hyn yw y dylai 98% o leiaf gychwyn triniaeth cyn pen 31 diwrnod ar ôl y penderfyniad i ddarparu triniaeth. Yn y chwarter ym mis Medi 2014, gwnaeth 97.8% o gleifion y cafwyd diagnosis ar eu cyfer drwy r dull hwn gychwyn eu triniaeth cyn pen 31 diwrnod ar ôl y penderfyniad i ddarparu triniaeth. 22

Ffigur 13: Canran y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ac sy'n derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod (drwy'r llwybr brys) ac o fewn 31 diwrnod (drwy heb ddilyn y llwybr brys) 100% 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% Heb ddilyn y llwybr brys Llwybr brys Rhag 09 Meh 10 Rhag 10 Meh 11 Rhag 11 Meh 12 Rhag 12 Meh 13 Rhag 13 Meh 13 Maw 10 Medi 10 Maw 10 Medi 11 Maw 12 Medi 12 Maw 13 Medi 13 Maw 14 Medi 13 Ffynhonnell: Ystadegau Llywodraeth Cymru Yr ail darged yw y dylai o leiaf 95% o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ddechrau derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu. Ar sail chwarterol, ni chyrhaeddwyd y targed hwn ar lefel Cymru gyfan ers y chwarter a ddaeth ym mis Mehefin 2008. Ar gyfer y chwarter ym mis Medi 2014, dechreuodd 85.1% o gleifion canser dderbyn triniaeth canser cyn pen 62 diwrnod. Mae r targed 62 diwrnod yn cynnwys holl gerrig milltir taith y claf hyd at ddechrau r driniaeth orau, er enghraifft yr apwyntiad cyntaf gyda meddyg ymgynghorol fel claf allanol, profion diagnostig a thriniaeth. Mae mwyafrif helaeth yr atgyfeiriadau brys yn dechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod. Fodd bynnag, mae dadansoddiad o r amser aros yn dangos bod y GIG yn ei chael hi n anodd cyrraedd y targed cyffredinol os bydd yr apwyntiad cyntaf fel claf allanol yn cael ei gynnal ar ôl 10 diwrnod gwaith. Mae Llywodraeth Cymru a i Huned Gyflawni yn gweithio n agos gyda r holl fyrddau iechyd i sicrhau bod unrhyw gleifion nad ydynt yn derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod yn derbyn triniaeth cyn gynted ag sy n bosibl. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau ein bod yn bodloni r safon hon yn y dyfodol. Mae Ffigur 14 yn dangos y cafwyd perfformiad rhwng 62% a 74% yn erbyn y garreg filltir 10 diwrnod gwaith ar gyfer cleifion a gafodd ddiagnosis o ganser yn ddiweddarach. Nid yw hyn yn ddigon da, a bydd angen i r byrddau iechyd ganolbwyntio ar eu perfformiad yn erbyn y canllaw hwn dros y flwyddyn nesaf. 23

Ffigur 14: Canran y cleifion sy n cael eu hapwyntiad cyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith yng Nghymru 100% 90% 80% 70% 60% 50% 40% 30% 20% 10% 0% Hyd 13 Tach 13 Rhag 13 Ion 14 Chwr 14 Maw 14 Epr 14 Mai 14 Meh 14 Gorff 14 Awst 14 Medi 14 Ffynhonnell: Rhwydwaith canser, cyfrifwyd yn seiliedig ar gleifion a gafodd ddiagnosis a thriniaeth rhwng 1/10/2013 a 30/09/2014 lle r oedd eu hymweliad cyntaf wedi i gofnodi Mae ystafell llawdriniaethau robotig newydd ar gyfer cleifion canser y prostad wedi agor yn ysbyty Caerdydd. Canser y prostad yw r ffurf fwyaf cyffredin ar y clefyd ymhlith dynion yng Nghymru, ac mae n effeithio ar un o bob wyth ohonynt. Bydd mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad yng Nghymru bob blwyddyn a 550 yn marw o r clefyd. Yn yr ystafell llawdriniaethau robotig, gellir cael gwared â phrostad ganseraidd drwy gyfres o fân doriadau, a dyma r cyntaf o i bath yng Nghymru. Mae r dechnoleg i w chael mewn rhai ysbytai yn Lloegr, ond y model diweddaraf yw r robot yn Ysbyty Prifysgol Cymru un o chwech yn unig drwy r byd. Bydd hyn yn golygu bod modd cynnal llawdriniaethau drwy dyllau clo bychain yn hytrach na thoriadau mawr. Canlyniad hyn fydd llai o gymhlethdodau, gwella ynghynt, a threulio llai o amser yn yr ysbyty. Ariannwyd robot cyntaf yr ysbyty gan Lywodraeth Cymru, a bydd llawfeddygon o Abertawe a Chasnewydd hefyd yn gallu ei ddefnyddio. Bydd llwybr gofal cleifion canser yn aml yn gymhleth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a r Fro wedi datblygu a chyflwyno system olrhain newydd (Tentacle) i roi trosolwg weinyddol effeithiol. Bydd y system yn nodi lleoliad cleifion ar y llwybr ac yn galluogi r bwrdd iechyd i gael y gorau o u hapwyntiadau ar gyfer delweddu a gofal diffiniol. Mae Tentacle ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y safleoedd tiwmor canlynol gynaecoleg, y pen a r gwddf, deintyddol, offthalmoleg, dermatoleg ac wroleg. Bydd y safleoedd eraill yn cael eu hychwanegu at y system dros y misoedd nesaf. 24

7.3 Gwasanaethau oncoleg acíwt Un profiad lle cafodd claf ei dderbyn drwy r Adran Damweiniau ac Argyfwng drwy r adran frysbennu ar ward [hepgorwyd yr enw]. Ychydig iawn o wybodaeth a oedd gan staff yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys am y driniaeth arbenigol yr oedd ei hangen, a sut i w rheoli. Roedd staff yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn dda iawn ac yn annwyl iawn, ac yn hwyliog ar y ddwy adeg pan fu n rhaid i mi fynd i r ysbyty yn ystod y cemo. Roedd hi mor brysur yn yr Adran, ond roedd y staff yn wych, yn amyneddgar a gofalgar iawn. Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru 2013 Caiff cyfran sylweddol o gleifion canser eu derbyn fel achosion brys, naill ai gan fod ganddynt ganser heb ddiagnosis blaenorol neu o ganlyniad i ddatblygiad annisgwyl yn gysylltiedig â thriniaeth canser. Fel arfer, bydd y cleifion hyn yn cael eu derbyn drwy r adrannau brys dan ofal arbenigwyr meddygol acíwt. Ar gyfartaledd, mae cleifion canser yn llenwi 12% o welyau meddygol acíwt 18. Gwasanaeth oncoleg aciwt yw gwasanaeth sy n sicrhau bod yr holl gleifion a chanddynt ddiagnosis hysbys o ganser yn cael eu hadnabod yn gyflym wrth gael eu cyflwyno fel achos brys. Mae hefyd yn datblygu llwybrau i sicrhau cyfranogiad oncolegol cynnar yn achos cleifion sy n mynd i adrannau brys am eu bod yn sâl, ac sydd wedyn yn derbyn diagnosis newydd o ganser. Dylai asesiad cynnar gan oncolegydd arbenigol fod yn fodd i leihau ymchwiliadau helaeth na ddaw unrhyw fudd ohonynt yn aml, a sicrhau bod y claf yn cael ei osod ar y trywydd priodol, gan leihau hyd ei arhosiad fel argyfwng meddygol. Ceir disgwyliad yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser y bydd gan yr holl brif ysbytai yng Nghymru wasanaeth oncoleg acíwt erbyn 2016 er mwyn rhoi cefnogaeth well i r grŵp hwn o gleifion. Mae datblygu r gwasanaeth oncoleg cyntaf mewn ysbyty yn ne Cymru wedi gwella n sylweddol y gofal a ddarperir i gleifion canser. Sefydlwyd y gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chanolfan Ganser Felindre ar ôl cais gan Rwydwaith Canser Cymru i sicrhau bod gofal mwy arbenigol ar gael i gleifion mewnol. Roedd llawer o gleifion yn cael eu derbyn i r ysbyty oherwydd problemau n gysylltiedig â chanser, ond gan nad oedd arbenigwr canser yn yr ysbyty, roedd eu harhosiad yn aml yn hir, a hynny heb asesiad na thriniaeth arbenigol. Drwy r gwasanaeth newydd cafwyd gwelliant i r gofal mewn tri maes: cleifion yn cael eu derbyn gyda chanserau newydd acíwt, cleifion a chanddynt gymhlethdodau acíwt yn gysylltiedig â chanser a chleifion a chanddynt broblemau oherwydd triniaeth, fel poen, achosion o waedu neu sepsis. Lansiwyd y gwasanaeth fis Awst y llynedd, ac yn ei bum mis cyntaf dangosodd welliant sylweddol o ran gofal. Bu n ymwneud â 1,271 o dderbyniadau cleifion yn gysylltiedig â chanser a nodwyd 980 o gleifion drwy r system rybuddio newydd. Adolygodd 47 o gleifion a chanddynt ganserau newydd acíwt, a gwelodd y rhan fwyaf o r rhain arbenigwr o fewn 24 awr, o gymharu â chyfartaledd blaenorol o oedi am chwe diwrnod. Cafwyd diagnosis cyflymach, llai o ymchwiliadau diangen, ac roedd gofal lliniarol yn cael ei gynnwys yn llawer cynt. Cafwyd gwelliant hefyd i r gofal ar gyfer cymhlethdodau n tarddu o driniaethau fel cemotherapi a radiotherapi, gyda llawer o gleifion yn treulio llai o amser yn yr ysbyty. 18 Rhwydwaith Gwybodaeth Canser Cenedlaethol 2012. 25