PECYN RECRIWTIO
Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth uniongyrchol trwy ein lloches a n tai diogel, ein prosiectau tai-gyda-chymorth, ein gwasanaethau cymorth fel bo r angen a n Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA). Rydym yn parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau n adlewyrchu ein cenhadaeth i wella bywydau, i atal camdrin ac i hyrwyddo annibyniaeth mewn cymunedau ar draws Cymru, gan gynnwys ein gwaith ataliol allweddol. Yn gyfansoddiadol, rydym yn dal i fod yn Gymdeithas Tai, ond darparwr gwasanaethau ataliol a chymorth sydd ynghlwm wrth dai ydym ni yn bennaf, yn hytrach na darparwr gwasanaethau tai. Ers ei sefydlu yn 1989, mae Hafan Cymru Cymdeithas Tai Hafan gynt wedi mynd o nerth i nerth, gan ddarparu gwasanaethau cymorth yn ardaloedd 16 o r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Gyda throsiant y Grŵp tua 6.3 miliwn, rydym wedi rhoi cymorth i 3,288 o bobl yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2015 trwy ein prosiectau ledled Cymru, gan gynnwys 1,353 o fenywod, 102 o ddynion a 1,833 o blant. Daeth Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin yn is-gorff i Hafan Cymru yn 2013. Cafodd y bartneriaeth hon ei chreu gyda r nod o sicrhau r gwasanaeth gorau posibl i fenywod, dynion a phlant sy n profi cam-drin domestig. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cymorth i Fenywod Cymru, sawl grŵp Cymorth i Fenywod ar draws Cymru ac Awdurdodau Lleol yn Abertawe, Blaenau Gwent, Caerdydd, Castell Nedd Port Talbot, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir Benfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn. Mae Cymdeithasau Tai eraill yn cynnwys y rhain, a mwy: Wales & West, United Welsh, Tai Sir Benfro, Newydd a Clwyd Alyn. Rydym hefyd yn aelodau o Cymorth Cymru a Tai Cymunedol Cymru (CHC). Bwrdd Rheoli Mae gan Hafan Cymru Fwrdd Rheoli gwirfoddol sy n cynnwys hyd at 12 aelod sy n rhoi eu hamser yn rhad ac am ddim ac sydd wedi eu tynnu o wahanol ddisgyblaethau a chefndiroedd o bob rhan o Gymru. Gan y Bwrdd Rheoli y mae r cyfrifoldeb cyffredinol am strategaeth a pholisi r sefydliad, tra bod rheolaeth dydd-i-ddydd Hafan Cymru wedi ei roi yn nwylo r Prif Weithredwraig/ŵr. Yn dilyn cyfnod tros dro gyda Rhian A. Davies yn Gadeirydd, byddwn cyn bo hir yn penodi cadeirydd newydd. Mae manylion aelodau presennol y Bwrdd Rheoli i w gweld yma: http://www.hafancymru.co.uk/cy/amdanom-ni/bwrdd-rheoli/ Staff Mae manylion yr uwch dîm reoli hefyd i w cael trwy r ddolen yna. Mae Hafan Cymru n cyflogi tua 160 o staff mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys cymorth rheng flaen, gwasanaethau corfforaethol a phrosiectau gyda chyllid penodol. Mae Tudalen 13 o r pecyn hwn yn cynnwys strwythur y sefydliad sy n rhoi syniad o n lefelau staffio ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am niferoedd staff, yn ôl rhanbarth a phrosiect, i w chael yn ein hadroddiadau blynyddol sydd ar gael yma: http://www.hafancymru.co.uk/cy/amdanom-ni/adroddiadblynyddol/
Ein Gweledigaeth Cymunedau heb cam-drin Ein Cenhadaeth Atal camdriniaeth a hybu annibyniaeth Ein Gwerthoedd
Ein gwaith Gwasanaethau Cymorth Uniongyrchol Rydym yn gynnig pecyn holistaidd o gymorth i helpu pobl sy n profi cam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu fathau eraill o gam-drin domestig. Mae r pecyn holistaidd hwn yn cynnwys rhoi cymorth i bobl gyda rhychwant eang o anghenion, sy n aml yn gymhleth a lluosog, gan gynnwys pobl sy n adfer eu hiechyd meddyliol, cyn-droseddwyr, camddefnyddwyr sylweddau a phobl sy n gadael gofal. Mae amrywiaeth ein gwasanaethau yn golygu bod gyda ni bartneriaethau aeddfed gydag eraill, gan arwain neu fod yn rhan o nifer fawr o Siopau Un Stop ar gyfer Cam-drin Domestig ledled Cymru. Ym mis Mawrth 2015, agorodd Hafan Cymru wasanaethau Siop Un Stop Cam-drin Domestig Abertawe, a ninnau n asiantaeth arweiniol. Trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a r Loteri FAWR ac ymrwymiad 42 o asiantaethau partner, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn ardal Abertawe yn gallu cael gafael ar rychwant eang o wasanaethau cymorth mewn adeilad canolog. Rydym hefyd yn cynnal gwasanaethau eraill ynglŷn â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig e.e. Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol mewn nifer o ardaloedd. Mae r swyddogaethau hyn yn cael eu cyllido gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Y Swyddfa Gartref a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae ein prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, sy n cael eu darparu gennym ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych, Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr, yn ceisio cynnig cyngor, arweiniad a chymorth i deuluoedd, yn unol â Chynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf yr awdurdod lleol. Rydym yn annog a galluogi staff a defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan weithredol trwy gyfranogi ac ymgynghori cyson: mae r adborth a r cyfraniad rheolaidd yma n cynnal safonau uchel ac yn allweddol i n dull arloesol o ddatblygu gwasanaethau. Trwy ein harloesi a n cydnabyddiaeth o'r angen i amrywio ein ffynonellau incwm, mae gennym brosiectau a gwasanaethau eraill sy n cael eu darparu ochr y ochr â n gwasanaethau cymorth uniongyrchol. Mae rhai o r rhain yn cael eu nodi islaw. Sbectrwm Rhaglen addysgol yw Prosiect Sbectrwm sy n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a i darparu gan athrawon profiadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae r gweithdai dwyieithog, rhad ac am ddim, wedi u cysylltu n agos â r cwricwlwm ac yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasau iach wrth godi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o broblemau cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod. Bwriad y gweithgareddau cyfranogol yw ysgogi r meddwl ac annog trafodaeth rhwng cyfoedion a i gilydd, ond heb fod yn ddigon emosiynol gryf i beri gofid. Mae diweddglo pob sesiwn yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am ble y gallan nhw gael gafael ar help a chymorth yn yr ysgol a r tu allan. Mae Sbectrwm yn darparu hyfforddiant am gam-drin domestig i staff a llywodraethwyr ysgolion, gan gynnwys effaith botensial cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn archwilio buddiannau agwedd-ysgol-gyfan at gam-drin domestig. Gallwch gael rhagor o fanylion am brosiect Sbectrwm yma: http://www.hafancymru.co.uk/cy/eingwasanaethau/sbectrwm/ Gwasanaethau Hyfforddi Mae gwasanaethau hyfforddi Hafan Cymru n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi wedi u hachredu a heb eu hachredu i r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac i unigolion yn y gymuned. Gan weithredu trwy gyllid grantiau a rhoi cyfleoedd i godi incwm, mae r gwasanaethau hyfforddi n cynnwys dwy agwedd Hyfforddiant i Weithwyr Proffesiynol a dysgu i gleientiaid.
Hyfforddiant i Weithwyr Proffesiynol - Mae ein cyrsiau hyfforddi haenog yn cynnig cyfle i staff Hafan Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill gynyddu eu datblygiad proffesiynol parhaus. Mae r cyrsiau wedi eu cynllunio i gynyddu sgiliau a gwybodaeth ac i ddatblygu arferion gwaith. Dysgu i gleientiaid: prosiect Symud Ymlaen - Mae gan brosiect Symud Ymlaen becynnau hyfforddi sydd wedi eu datblygu i gwrdd ag anghenion unigolion yn y gymuned. Mae gan Symud Ymlaen ei dîm ei hun o hyfforddwyr proffesiynol i ddarparu pecyn holistaidd i symud pobl o anweithgarwch economaidd dwfn trwy ddysgu a datblygiad personol i addysg bellach a chyflogaeth lawn. Gallwch gael rhagor o fanylion am Wasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru yma: http://www.hafancymru.co.uk/cy/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-hyfforddi-hafan-cymru/ Men s Sheds Prosiect sydd wedi ei gyllido gan y Loteri FAWR yw Men s Sheds Cymru ac mae n gweithio at greu rhwydwaith o Men s Sheds ar draws Cymru. Lle gydag amgylchedd diogel a chefnogol yw Men s Shed lle gall dynion, sydd, am ba bynnag reswm, ag amser segur ar eu dwylo fynd i weithio ar brosiectau a gweithgareddau o u dewis nhw. Mae Men s Sheds yn croesawu pawb, boed nhw n cymryd rhan oherwydd diweithdra, ymddeoliad, profedigaeth neu anabledd neu oherwydd eu bod newydd symud i ardal ac yn chwilio am ffyrdd o ddysgu beth sy n digwydd mewn cymuned. Mae r prosiect yn ddull arloesol o ddelio ag unigedd cymdeithasol ac i wella gwytnwch cymdogaethau ac mae n cefnogi cenhadaeth Hafan Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: http://www.mensshedscymru.co.uk/?lang=cy
Gyrfaoedd efo Hafan Cymru Ydych chi n frwdfrydig am ddarparu cymorth i pobl i gwella I bywydau ac yn person sydd yn cadw ch pen mewn argyfwng? Os oes gennych profiad a sgiliau I weithio yn y meysydd isod: Cam-drin domestig Cymorth tenantiaeth Darparu cymorth I oedolion Plant a phobl ifanc in an ever changing society, mae Hafan Cymru yn cynnig y swyddi canlynol yn ymwneud a chymorth: Gweithiwr Cymorth Cynorthwy-ydd Cymorth Arweinydd Tîm Uwch Ymarferydd expand? Mae Hafan Cymru hefyd yn cynnig ystod eang o swyddi sydd yn ymwneud a rheolaeth a swyddi eraill, er enghraifft: Rheolaeth Strategol Rheolaeth Ganol Sicrwydd Ansawdd Adnoddau Dynol Cyllid Gweinyddiaeth RheoIi Gwybodaeth Mae bob swydd yn cael ei hysbysebu ar wefan Hafan Cymru: http://www.hafancymru.co.uk/cy/cyfleoedd-gyrfa/
Hafan Cymru: Pensiwn Gall gweithwyr sydd yn gymwys ymuno efo n cynllun pensiwn cofrestru awtomatig sydd yn cael ei rhedeg gan Standard Life. Gwyliau Blynyddol Uwch Mae gan Hafan Cymru gwyliau blynyddol hael sydd yn cynnwys 25 diwrnod sydd yn codi I 30 diwrnod ar ol gweithio gyda Hafan Cymru am 5 mlynedd. Yn ogystal rydym yn cynnig 8 Gwyl Banc a un diwrnod Hafan Cymru sydd yn gallu cael ei cymryd rhwng Nadolig a r flwyddyn newydd. Cyflogwr Cyflog Byw Mae Hafan Cymru yn ymrwymedig i fod yn cyflogwr cyflog byw. Nid yw Hafan Cymru yn talu llai na r cyflog byw i unrhyw staff sydd yn cael ei cyflogi yn uniongyrchol gyda ni. Cynnwys Gweithwyr Mae e-fwletin misol efo r newyddion diweddara wrth y rhanbarthau yn cadw gweithwyr yn wybodus ynglyn a beth mae tîmau eraill yn gwneud. Rydym hefyd yn cael cyfarfodydd Fforwm Cyd- Partneriaeth lle mae cynrychiolywyr yn nodi unrhyw pryderon neu syniadau at yr Uwch Dîm Rheoli i w drafod. Talebau Gofal Plant Rydym yn cynnig Talebau Gofal Plant i gweithwyr sydd yn gymwys. Rydym yn talu staff hyd at 243 y mis allan o i cyflog fel talebau cyn Treth a cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Symbol Anabledd Mae Hafan Cymru wedi cael ei ddyfarnu efo statws cyflogwr symbol anabledd ac yn ymrwymedig i gwrdd a meini prawf y symbol anabledd. Datblygiad Personol Dysgu a Datblygu Mae Hafan Cymru yn wedi ei ymrwymio i ddatblygiad personol ac yn sicrhau fod gan bob aelod o staff mynediad i r hyfforddiant cywir i alluogi iddynt cyflawni ei dyletswyddau. Yn ogystal mae gweithwyr yn cymryd rhan mewn gymhwyster OCN ac yn ennill credydau tuag at ei datblygiad personol. Buddsoddwyr mewn Pobl Mae Hafan Cymru wedi cyflawni safon Buddsoddwyr mewn Pobl ac yn weithio n ddi-baid i gynyddu datblygiad personol ei gweithwyr. Adolygiadau Datblygu Gweithwyr Mae cyfarfodydd rheolaidd efo r rheolwr llinell yn sicrhau fod gweithwyr yn gallu trafod ei datblygiad ag unrhyw pryderon sydd ganddynt ynghylch a i llwyth gwaith. Yn ogystal mae gan Hafan Cymru Asesiad Perfformiad lle mae gweithwyr yn gallu derbyn adborth a rei perfformiad a adnabod unrhyw cyfleuoedd dysgu a datblygu.
Iechyd a Lles Rhaglen Cymorth i Weithwyr (BUPA) Mae cymorth cyfrinachol 24 awr ar gael i gweithwyr ei priod neu partner ac unrhyw plant sydd yn hyn na 16 ac yn byw gartref. Mae r rhaglen yn gallu cynnig cyngor yn ymwnued a pryderon emosiynol a ymarferol yn ogystal a gofal plant a cyngor iechyd. Tâl Salwch Galwedigaethol Mae ein Tâl Sawlch Galwedigaethol, sydd yn cynyddu efo hyd gwasanaeth, yn fwy hael na Tâl Salwch Statudol Prawf llygaid (CSA) Cyfarpar Sgrin Arddangos Mae prawf llygaid ar gael ac, os oes angen, cyfraniad tuag at unrhyw sbectol ar gyfer defnydd CSA.
Sut i wneud cais am swydd: Ar wefan Hafan Cymru fe wnewch chi ddarganfod: 1. Ffurflen gais a Ffurflen Cyfleodd Cyfartal; 2. Disgrifiad Swydd a Manyleb Personol. Nodwch nid yw Hafan Cymru yn derbyn CVs fel rhan o r broses recriwtio. A fyddech gystal â llenwi y tair rhan ar y ffurflen gais. Adran 1: Ecih manylion personol, geirda. Adran 2: Addysg, cymhwysterau, hyfforddiant ac addasrwydd Mae r wybodaeth sydd yn cael ei cyflenwi ar y ffurflen yma yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniad ynghylch ag os fyddwch yn cael eich dewis i fynd trwyddo i r cam nesa o r broses recriwtio. Adran 3: Equal opportunities recruitment monitoring. Mae r adran yma yn cael ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd ein polisi cyfleoedd cyfartal a nid yw n rhan or broses ddewis. Wedi ei atodi fe welwch ddisgrifiad swydd a manyleb person, sy'n amlinellu cyfrifoldebau r swyddogaeth, y prif dasgau a gweithgareddau mawr, y cyraeddiadau a r ymddygiadau gofynnol. Darllenwch yn ofalus cyn cwblhau'r ffurflen gais gymwyseddau. Mae'r ffurflen yn gofyn i chi nodi ymddygiadau perthnasol cefnogol ar gyfer y swydd yr ydych yn ceisio amdani. Fe fydd angen i chi roi esiampl (au) sy n dangos bod gennych y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i wneud y gwaith. Ni allwn wneud rhagdybiaethau ynghylch y profiad sydd gennych, ac nid yw'n ddigonol i ysgrifennu yn unig eich bod yn cyflawni r meini prawf penodol. Derbynnir ceisiadau ar ffurfiau eraill os yw'r ymgeisydd yn ei chael hi n anodd i gwblhau'r ffurflen safonol, a hynny o ganlyniad i anabledd. Os hoffech dderbyn y ffurflen gais mewn fformat arall, megis print bras, cysylltwch â'r adran a nodir uchod. Pan ofynnir i chi am gymwysterau perthnasol ar gyfer y swydd, byddwch yn benodol os gwelwch yn dda - rydym am wybod pa gymwysterau sydd gennych mewn perthynas â r hyn a amlinellir yn y fanyleb person. Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i r broses o greu rhestr gael ei chwblhau. I wneud cais am swydd danfonwch y canlynol i recruitment@hafancymru.co.uk: Ffurflen gais wedi i gwblhau sydd yn nodi n glir cyfeirnod y swydd/i rydych yn ymgeisio amdano Ffurflen Cyfleodd Cyfartal wedi ei cwblhau neu postiwch i: Tim Recriwtio Hafan Cymru Prif Swyddfa Ffordd Steffan Pensarn Caerfyrddin SA31 2BG Mae n rhaid i Ffurflenni Cais cael ei derbyn erbyn canol dydd ar y dyddiad cau.
Gadewch ddigon o amser i gwblhau eich ffurflen gan ni fyddwn yn derbyn ffurflenni syd yn cael ei derbyn ar ol y dyddiau cau. Please allow ample time to submit your application in advance of the closing date as late applications will not be accepted.