Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL 02920 445030 1
Amdan y Comisiynydd Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru n llais annibynnol ac yn bencampwr dros bobl hŷn ar draws Cymru, gan sefyll i fyny drostynt a siarad ar eu rhan. Mae n gweithio i sicrhau bod y rhai sy n agored i niwed ac mewn perygl yn aros yn ddiogel gan sicrhau bod gan bob person hŷn lais sy n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo n ynysig na bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn a u bod yn derbyn y cymorth a r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae gwaith y Comisiynydd wedi i sbarduno gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd bwysicaf iddynt ac mae eu lleisiau wrth galon popeth y mae n ei wneud. Mae r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru n wlad dda i fynd yn hŷn ynddi nid dim ond i rai ond i bawb. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. Yn annog arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru. Yn adolygu r gyfraith sy n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. 2
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro 1. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwyf yn croesawu r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gymru a r Gororau 1. Mae n adeiladu ar fy ymateb i r ymgynghoriad yn 2016 2, fy mlaenoriaethau fel rhan o Banel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru a'r Panel Trafnidiaeth Hygyrch 3 newydd, fy ffocws ar drafnidiaeth cyfeillgar i oed yn y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru 4, ac yn rhoi cyfle arall i dynnu sylw at y problemau allweddol sy n wynebu pobl hŷn wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd. Adran A Cymru a r Gororau Trenau i gwrdd ag anghenion teithwyr 2. Yng nghyd-destun gwneud y mwyaf o r cyfleoedd a ddaw gyda phoblogaeth sy n heneiddio, bod angen symud tuag at ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) a thynnu sylw at fodelau ataliol sy n grymuso a galluogi pobl hŷn ac eraill i fyw bywydau iach ac egnïol yn y gymuned, mae datblygu gwasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed yng Nghymru'n hanfodol bwysig. Mae dyluniad trenau n bwysig i gael pobl hŷn i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd a sicrhau bod eu profiad ar fwrdd y trên yn un da fel eu bod yn defnyddio'r trên yn rheolaidd a chyson. 3. Mae r awgrymiadau a wneir i gyd yn bwysig i bobl hŷn, yn enwedig lle i roi bagiau, lle i fyrddau ar wahân a mwy o le i goesau. Mae n hollbwysig bod pobl hŷn yn gallu dod ar y trên a chadw eu bagiau n ddidrafferth a dod o hyd i sêt gyffyrddus gyda digon o amser a lle ar gael, pethau hanfodol wrth ddatblygu trenau 1 https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/sites/default/files/consultation_doc_files/170228-tw-consultationdocument-cy_0.pdf 2 http://www.olderpeoplewales.com/libraries/consultation_responses_2016/march_2016_setting_the_direc tion_for_wales_borders_rail_consultation_response_cym.sflb.ashx 3 http://www.olderpeoplewales.com/wl/publications/pub-story/16-11- 22/Welsh_Government_Public_Transport_Users_Advisory_Panel_PTUAP.aspx#.WRxMSOvyuM9 4 http://www.ageingwellinwales.com/wl/home 3
cyfeillgar i oed. Mae gwelededd o ffenestri a threfn y seti hefyd yn bwysig gan dawelu meddyliau pobl hŷn o ran eu trefniadau eistedd. I bobl hŷn gyda nam ar eu synhwyrau neu nam gwybyddol, mae r pethau hyn a phethau eraill, e.e. arwyddion sy n gymorth i bobl gyda dementia, yn bwysicach fyth. 4. Mae datblygu a hyrwyddo dulliau egnïol o deithio ac annog pobl hŷn i gerdded a beicio i r orsaf drenau ac yn ôl yn bwysig i w hiechyd a u lles corfforol a meddyliol 5. Mae n anodd taro cydbwysedd priodol rhwng lle i deithwyr a lle i feics ac mae n bwnc sydd wedi i gysylltu i r drafodaeth am ehangu r stoc gerbydau rheilffordd. Mae dysgu o arferion da mewn mannau eraill hefyd yn bwysig, fel y parthau hyblyg ar drenau yng ngwlad Denmarc lle darperir seti sy n plygu a rhaciau i feics o dan y seti 6. 5. O ran defnyddio ail aelod o staff i helpu gyda diogelwch personol ac eiddo, i roi gwybodaeth ac i werthu tocynnau, mae hyn yn hanfodol i nifer o bobl hŷn. Mae n rhoi hyder iddynt ac yn tawelu eu meddyliau o ran defnyddio r trên gan gynnig cyswllt personol sydd taer ei angen i ateb unrhyw ymholiadau a chwestiynau ar y trên ac yn yr orsaf a helpu i atgyfnerthu'r ymrwymiad i drenau cyfeillgar i oed. Mae hefyd yn hollbwysig bod staff rheilffyrdd yn cael eu hyfforddi i helpu pobl gyda nam ar eu synhwyrau ac sy n byw gyda dementia, ac yn gwybod beth i w wneud i helpu pobl gyda dementia sy n mynd ar goll. Mae hyn eto n tawelu meddyliau pobl ac yn cynnig empathi a dealltwriaeth i rai sy n gyndyn efallai o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd pryderon am hygyrchedd. Rhaid hefyd ystyried pobl sydd angen mynediad i gadair olwyn arnynt a digon o le ar y trên, a dylai pobl hŷn ac eraill ddisgwyl gallu defnyddio toiledau glân, dibynadwy a hygyrch. Gorsafoedd i deithwyr a r gymuned 6. O ran datblygu gorsafoedd rheilffordd cyfeillgar i oed, unwaith eto mae n anodd blaenoriaethu rhai awgrymiadau'n hytrach nag eraill. Nid yw pobl hŷn yn un grŵp unffurf mawr, mae ganddynt wahanol anghenion ac amgylchiadau. Mewn gorsafoedd bach a mawr, mae 5 http://d1qmdf3vop2l07.cloudfront.net/quaintmanatee.cloudvent.net/compressed/5ab7ab985c867240c4f1883d77e0fbb1.pdf 6 http://www.copenhagenize.com/2016/11/massive-passenger-increase-after-bikes.html 4
staff yn yr orsaf, pwyntiau cymorth, teledu cylch-cyfyng, lle i aros dan do, cyfleusterau i brynu tocynnau a phethau eraill, toiledau, lle parcio, arosfannau bws a phwyntiau gwybodaeth i gyd yn elfennau hanfodol wrth ddatblygu gorsafoedd cyfeillgar i oed. Dyma r gwasanaethau, y cyfleusterau a r seilwaith y mae pobl hŷn ei eisiau a'i angen mewn gorsafoedd rheilffordd ac maen nhw'n hanfodol i'w hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. I bobl hŷn sy n defnyddio gwasanaethau digidol, mae cyfleusterau cysylltu i dderbyn data symudol a phwyntiau gwefru hefyd yn greiddiol ar gyfer derbyn gwybodaeth ddiweddar a dibynadwy a gallu cysylltu gyda ffrindiau a theulu. 7. Rhaid cael trafnidiaeth integredig oherwydd mae rhai pobl hŷn yn poeni am y diffyg cydgysylltu rhwng amserlenni bws a thrên lleol. Mae rheilffyrdd cyfeillgar i oed yn hanfodol i roi profiad da o ddrws i ddrws fel bod pobl hŷn yn gallu cyrraedd, a dod oddi ar, y bws yn yr orsaf rheilffordd. Mae hefyd yn hollbwysig bod teithwyr yn teimlo n ddiogel a hyderus ac mae angen i bobl hŷn deimlo n ddiogel wrth ddefnyddio r trenau, yn enwedig gyda r nos. Mae darparu teledu cylch-cyfyng a sicrhau bod staff yn yr orsaf yn bwysig iawn yn hyn o beth. Mae pobl yn disgwyl toiledau ac eto, mae'n rhoi hyder i bobl hŷn ac eraill o ran gallu defnyddio gwasanaethau rheilffordd. 8. O ran cyfleusterau ychwanegol mewn gorsafoedd, mae cyhoeddiadau clyweledol, digon o le i eistedd dan do a thu allan, lifftiau hygyrch a chyfleus er mwyn gallu cyrraedd a gadael y platfform, a digon o ganllawiau i afael ynddynt, hefyd yn bwysig 78. Mae hefyd yn bwysig ystyried anghenion pobl sy n byw gyda dementia, a cheir enghreifftiau o arferion da mewn mannau eraill fel yng ngorsaf drenau Efrog, yr orsaf gyntaf i fod yn gyfeillgar i ddementia yn y Deyrnas Unedig 9. 9. Mae cysylltiadau gyda chymunedau lleol hefyd yn bwysig ac rwyf yn croesawu unrhyw ymdrech i roi r orsaf drenau wrth galon y gymuned. Dylid dylunio gorsafoedd rheilffordd cyfeillgar i oed 7 http://www.who.int/ageing/publications/global_age_friendly_cities_guide_english.pdf 8 http://sustainablebusiness.org.hk/mtr-corporation-age-friendly/ 9 http://hgdover50sforum.org.uk/york-named-as-first-dementia-friendly-station/ 5
gyda, ac nid ar gyfer, pobl hŷn ac eraill yn y gymuned. Mae angen ymgysylltu ac ymgynghori n rheolaidd ac ystyrlon i wella r amgylchedd a chyfleusterau a dylai r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd fanteisio ar y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn, yr 'arbenigwyr drwy brofiad' sydd yn y sefyllfa orau i fesur pa mor effeithiol fyddai dyluniad gorsaf. 10. Gall gorsafoedd rheilffordd gyda chyfleusterau siopa a chaffis hefyd weithredu fel canolfannau cymunedol gan annog gweithgareddau sy n pontio r cenedlaethau (a chysylltu i gartrefi gofal ac ysgolion lleol er enghraifft) a rôl ar gyfer cynghorau tref / cymuned ynghyd â fforymau a grwpiau cymunedol eraill. O ran talu i ariannu gwelliannau i gapasiti, ansawdd a diogelwch cyfleusterau parcio, er y gallai hyn fod yn dderbyniol i deithwyr hŷn, efallai na fyddai n opsiwn i deithwyr eraill. Mae angen i bobl weld gwasanaethau rheilffordd fel opsiwn cost-effeithiol, hygyrch a hawdd ei ddefnyddio, gan gynnwys pobl hŷn ac eraill o ardaloedd mwy difreintiedig. Gallai talu am barcio mewn gorsafoedd rheilffordd gymell rhai i beidio â defnyddio r trên ac mae angen mwy o ymchwil gyda theithwyr o bob oed cyn cyflwyno rhywbeth fel hyn. Gwasanaethau gwell 11. O ran pa mor aml y mae gwasanaethau n rhedeg, unwaith eto mae gan bobl hŷn wahanol anghenion ac amgylchiadau ynghyd ag ystod o flaenoriaethau o ran gwasanaethau brig a llai prysur, trenau cynt a hwyrach etc. Ar y cyfan, gorau'n byd yw r gwasanaethau rheilffordd o ran argaeledd, pa mor aml y maent yn rhedeg, amseroedd siwrne cynt a bod yn ddibynadwy, y mwyaf tebygol y bydd pobl hŷn o'u defnyddio. Mae gwasanaethau mwy uniongyrchol yn ffactor pwysig arall oherwydd gallai gorfod newid trenau a phlatfform gymell rhai pobl hŷn i beidio â defnyddio'r trên. 12. Fel y pwysleisiwyd yn flaenorol, mae cyswllt di-dor â gwasanaethau trên a bws eraill yn greiddiol gan helpu i ddatblygu dull trafnidiaeth cyfeillgar i oed mwy holistig yng Nghymru. Yn achos rhai pobl hŷn gyda nam gwybyddol neu drafferthion 6
symudedd, mae angen mynediad ar yr un lefel i drenau a bysiau ynghyd â staff sydd wedi eu hyfforddi i helpu pobl gyda nam ar eu synhwyrau ac sy'n byw gyda dementia, er enghraifft. Mae arwyddion clir a gwybodaeth mewn fformat hygyrch yn hynod bwysig i roi hyder i bobl hŷn o ran ble i fynd ac a oes ganddynt ddigon o amser i gyrraedd y trên / bws, ac wrth ddod oddi arnynt. Gwasanaethau trawsffiniol: Gwasanaethau a gorsafoedd yn Lloegr 13. O ran trosglwyddo cyfrifoldebau am reoli gorsafoedd, fy mlaenoriaeth yw sicrhau na chaiff pobl hŷn yng Nghymru eu heffeithio pan drosglwyddir cyfrifoldebau. Dylid aflonyddu cyn lleied â phosib wrth drosglwyddo perchnogaeth unrhyw gyfleusterau a sicrhau bod cynlluniau yn eu lle i liniaru unrhyw effaith bosib ar deithwyr. Ymddengys mai peth call fyddai trosglwyddo r cyfrifoldeb am orsafoedd trên yn Lloegr i weithredwyr trenau sy n gweithredu n llwyr neu n rhannol yn Lloegr, gan felly sicrhau bod ffocws Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau ar ddatblygu gorsafoedd cyfeillgar i oed yng Nghymru. Fel y pwysleisiwyd yn flaenorol, mae n bechod bod y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru n anghyflawn ac nad yw n bosib cael siwrne gron o gwmpas Cymru. Dylai r fasnachfraint ystyried gwella r rhwydwaith yng Nghymru fel bod pobl hŷn o bob rhan o Gymru n gallu defnyddio r rheilffyrdd. Prisiau a thocynnau i hwyluso teithio ar y trên 14. Mae pobl hŷn yn gytûn ynghylch y pedwar opsiwn tocynnau a byddwn yn croesawu n arbennig y cynigion i gael tocynnau mwy integredig â dulliau trafnidiaeth eraill fel bysiau, a threfn docynnau symlach. Mae tocynnau integredig yn greiddiol bwysig ac mae angen cadw pethau'n syml i bobl hŷn wrth ddefnyddio'r trenau a'r bysiau. Byddai un tocyn a chynllun prisiau consesiynol integredig yn annog pobl hŷn i ddefnyddio amryw o ddulliau trafnidiaeth. Rwyf yn croesawu bod pobl yn cydnabod y dylid parhau i gael tocynnau papur yn ogystal â rhai digidol: er y byddai technoleg ddigidol ac apiau ar-lein yn apelio at rai pobl hŷn, byddai angen opsiynau 7
tocyn mwy traddodiadol ar eraill nad ydynt yn gyfarwydd â digidol; mae hyblygrwydd felly n hanfodol. Darparu gwybodaeth well 15. Mae darparu gwybodaeth ddiweddar a dibynadwy i bobl hŷn ac eraill, mewn nifer o wahanol fformatau, yn bwysig iawn. Unwaith eto, rhaid ystyried amrywiaeth anghenion pobl hŷn: i rai, mae gwybodaeth ddigidol drwy apiau, e-byst, gwefannau a'r cyfryngau cymeithasol yn bwysig. I bobl hŷn eraill nad ydynt yn defnyddio technolegau digidol, mae gwybodaeth yn yr orsaf ei hun, ar y trên a chan staff yn yr orsaf yn greiddiol bwysig. Mae gwybodaeth ddwyieithog mewn gwahanol fformatau hefyd yn bwysig. Fel gydag agweddau eraill ar wasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed, mae cydnabod bod gan deithwyr wahanol anghenion ac amgylchiadau n hollbwysig. Adran B Metro De Cymru 16. Mae datblygu r Metro yn ne Cymru'n bwysig ac mae ganddo'r potensial i wella ansawdd bywydau pobl hŷn yn y rhanbarth yn sylweddol. Mae r materion y tynnais sylw atynt ynglŷn â phobl hŷn hefyd yn berthnasol i r Metro, a byddwn yn ychwanegu r sylwadau canlynol: - Mae angen toiledau ar drenau ac yn yr orsaf. Mae mynd i'r toiled pan fo angen yn un o'n hawliau dynol mwyaf sylfaenol ac yn annog pobl hŷn ac eraill i ddefnyddio'r Metro'n hyderus; - Dylai fod gan bob platfform trenau fynediad lefel at drenau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl hŷn gyda nam ar eu synhwyrau a / neu symudedd; - Ni ellir pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw cael staff yn bresennol yn yr orsaf ac ar fwrdd y trên. I rai pobl hŷn mae n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hyder, tawelu meddyliau a chynnig empathi a theimlad o ddiogelwch drwy gael cyswllt gyda phobl; - O ran Trafnidiaeth gyhoeddus well i bawb, mae r cynigion a gynigir i gyd yn berthnasol i bobl hŷn. Mae integreiddio a 8
thocynnau sy n integredig â thrafnidiaeth gyhoeddus arall yn allweddol, mae hefyd angen cyfleusterau parcio a theithio mewn gorsafoedd i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â siop un stop' i roi gwybodaeth am docynnau ac amserlenni etc drwy ddulliau digidol a thraddodiadol. 17. Gyda phoblogaeth sy n heneiddio, bydd mwy a mwy o bobl hŷn eisiau neu n wir bydd angen iddynt weithio am hirach ac mae'n hanfodol bod ganddynt drafnidiaeth gyhoeddus integredig, ddibynadwy ac effeithiol i fynd i ac o'r gweithle. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos gweithwyr hŷn sydd efallai heb gar neu fynediad at gar. I bobl hŷn sydd wedi ymddeol, mae'r un dull yn berthnasol o ran gallu manteision ar gyfleoedd hamdden a diwylliannol, amwynderau a gwasanaethau ac i ymweld â ffrindiau a theulu. Yn unol ag amcanion lles cenedlaethol a r agenda atal, y nod yw cael pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir a datblygu canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy i bobl o bob oed, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel yn greiddiol i hyn. Casgliad 18. Rwy n gobeithio bod y sylwadau hyn yn ddefnyddiol a phwysleisiaf pa mor bwysig yw datblygu gwasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed a dementia yng Nghymru. Hoffwn gyfeirio at rai o nodweddion allweddol rheilffyrdd cyfeillgar i oed yn ôl ein cydweithwyr yn y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR): rhaid i drenau fod yn hygyrch; rhaid cael system docynnau integredig a syml; staff cyfeillgar a pharod i helpu; rhaid i drenau fod yn ddiogel i bawb, h.y. teithwyr yn, ac yn teimlo'n ddiogel; cael ei weld fel gwasanaeth deniadol h.y. glân ac wedi i gyflwyno'n dda; a system ddeallus seiliedig ar wybodaeth 10. 19. Mae gan bobl hŷn, fel rhai o bob oed, hawl i ddisgwyl gwasanaethau rheilffordd diogel, glân, prydlon a dibynadwy, sy n ymateb yn effeithiol i bob tywydd, yn ceisio lleihau amseroedd siwrne, yn cysylltu pobl ag amwynderau pwysig, sydd â 10 http://www.drcharliemuss.com/uploads/1/2/8/0/12809985/musselwhite 2016 age_friendly_rail_travel 1_.pdf 9
chyfleusterau addas i bob oed ac sy'n cynnig gwerth am arian. Er i nifer y teithwyr ar drenau dyfu n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, o 60 oed ymlaen mae llai'n defnyddio'r rheilffyrdd. Mae hyn yn awgrymu bod angen marchnata wedi i dargedu ynghyd ag ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn i hyrwyddo manteision gwasanaethau rheilffordd, er mwyn deall y pryderon a r rhwystrau a u hannog i ddefnyddio r trenau yng Nghymru n gyson. 20. Drwy r paneli uchod a thrwy Heneiddio n Dda yng Nghymru, edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn llawn yng Ngwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau, o'i ddylunio i'w ddarparu, a bod y fasnachfraint newydd yn gweithredu ar ei hymrwymiadau cyfeillgar i oed drwy ymateb i anghenion ac amgylchiadau r genhedlaeth bresennol o bobl hŷn, a rhai i ddod. 10