Cyngor Cymuned Llandwrog Community Council

Similar documents
Cyngor Cymuned Llandwrog

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Addysg Oxfam

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Swim Wales Long Course Championships 2018

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Swyddfa r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth. National Park Office, Penrhyndeudraeth. Y Cynghorwyr /Councillors : Eurig Wyn, Elizabeth Roberts;

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

W46 14/11/15-20/11/15

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

8th March 2018 The thirteenth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Institute, Pontarddulais

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Adviceguide Advice that makes a difference

Talu costau tai yng Nghymru

The Life of Freshwater Mussels

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Tour De France a r Cycling Classics

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Pennaeth Mr Dewi Owen Headteacher

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Holiadur Cyn y Diwrnod

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

W39 22/09/18-28/09/18

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

E-fwletin, Mawrth 2016

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

W44 27/10/18-02/11/18

SIOE FRENHINOL CYMRU / ROYAL WELSH SHOW

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Welsh Language Scheme

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

offered a place at Cardiff Met

Summer Holiday Programme

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Snowdonia National Park Authority R HYBUDD O GYFARFOD / NOTICE OF M EETING. Man Cyfarfod:

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Appointment of BMC Access

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Esbonio Cymodi Cynnar

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

W42 13/10/18-19/10/18

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

NatWest Ein Polisi Iaith

National Youth Arts Wales Auditions 2019

Mae'r clwb yn cyfarfod ar nos o ddydd Llun 5.pm pm, Neuadd Goffa Llanpumsaint. Dydd Llun 29 Tachwedd

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

Transcription:

Cyngor Cymuned Llandwrog Community Council Cyfarfod o r Cyngor Llawn Hydref 2018 Full Council Meeting for the month of October 2018 Rhoddir rhybudd y cynhelir Cyfarfod Llawn o r Cyngor ar Nos Lun, 15 Hydref 2018 yn Neuadd Pentref Carmel i gychwyn 7.30 yr hwyr ac felly fe'ch gwysir chwi i fynychu. Notice is herby given that the next Monthly meeting of the Council will be held on Monday, 15 October 2018 at Carmel Village Hall to commence 7:30 pm and you are summoned to appear Bydd y ceisiadau cynllunio ar gael i chwi am ugain munud cyn i r cyfarfod gychwyn. Planning applications will be available to view twenty minutes before the start. Amgaeaf y canlynol i chwi The following is enclosed - 1) Rhaglen Cyfarfod 15 Hydref 2018- Agenda for the Council Meeting 15 October 2018 2) Cofnodion drafft Cyngor Llawn 17 Medi 2018 - Draft Minutes of the Council Meeting 17 September. 3) Cofnodion drafft Panel Trefniadau Gwaith Y Clerc a gynhaliwyd 20 Medi 2018 - Drafft Minutes of the Clerks Terms & Conditions of Employment Panel held 20 September 2018 4) Cofnodion drafft Panel Ymgysylltu a gynhaliwyd 26 Medi 2018 - Drafft Minutes of the Consulting Panel held 26 September 2018 5) Cofnodion drafft Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd 4 Hydref 2018 - Drafft Minutes of the Finance Committee held 4 October 2018 6) Cofnodion drafft Pwyllgor Mynwentydd ac Eiddo a gynhelir 10 Hydref 2018 - Drafft Minutes of the Cemeteries & Property Committee to be held 10 Hydref 2018 1

Cyfarfod / Meeting Dyddiad / Date Amser/ Time Lleoliad/ Location Cyngor Llawn Full Council Nos Lun, 15 Hydref 2018 / Monday 15 October 2018 7.30 yr hwyr / pm Neuadd Pentref Carmel Village Hall Rhaglen / Agenda (noder y bydd Mr Huw Roberts yn bresennol i gyfieithu r trafodaethau / note that Mr Huw Roberts will be in attendence to translate proceedings) 1 Croeso r Cadeirydd / Chairman s Welcome 2 Ymddiheuriadau ac Absenoldeb Aelodau / Apologies from Members 3 Datgan Buddiant Personol Neu Fuddiant sydd yn Rhagfarnu gan Aelodau ar unrhyw faterion ar y Rhaglen / To Receive Disclosures of Personal and Prejudicial Interest by Members on any Items on the Agenda. 4 Seddi Gwag / Vacant Seats 5 Panel Ymgysylltu gyda r Gymuned / Consulting With The Community Panel Cadarnhau aelodaeth y Panel a i statws / Confirmation of membership & status 6 Derbyn Cofnodion y Cyfarfod Cyngor Llawn a gynhaliwyd 17 Medi 2018 fel Rhai Cywir- To Accept the Minutes of the Full Council meeting held 17 September 2018, as a true record. 7 Materion yn Codi o'r Cofnodion Maters Arising from the Minutes a) Delwedd Dyffryn Nantlle Materion i w codi i r cyfarfod sydd i w gynnal Dydd Mercher, 17 Hydref am 9.30 y bore yn Plas Silyn, Penygroes. Cyng. Hwyel Owen a Cyng. Helen Hughes sydd wedi eu enwebu i g=ynrychioli y Cyngor yn y cyfarfodydd blaenorol. Matters to be raised in the meeting held Wednesday 17g October, 9.30 am at Plas Silyn, Penygroes b) Cerrig Cofeb Capeli Bryn rodyn a Brynrhos/ War Memorial Headstones Bryn rodyn & Brynrhos Chapels 2

Diweddariad ar y noson. Trafod llythyr wedi ei dderbyn gan aelod o r gymuned. c) Gwasanaeth Bysus 1F / Bus Service 1F Derbyniwyd yr ymateb ganlynol gan Uned Cludiant Cyngor Gwynedd. Cyfeiriaf at eich llythyr dyddiedig 28 Medi 2018 ynglyn a r gwasanaeth 1F.Rydym yn falch o glywed fod y teithwyr yn hapus gyda r cwmni newydd. Rwyf wedi anfon copi o ch llythyr i r gweithredwr i ystyried eich cais pan fydd yn edrych ar yr amserlen yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw geisiadau pellach i w ystyried yna buaswn yn ddiolchgar pe baech yn eu hanfon ymlaen i mi yn ystod mis yma. ch) Hen Ysgol Carmel / Carmel Old School Derbyniwyd yr ymteb ganlynol gan Swyddog Gorfodaeth Cyngor Gwynedd (Paula Evans) Yn cadarnhau nad oes cais cynllunio wedi ei dderbyn Y mater wedi dod i sylw r Swyddog Gorfodaeth ers Chwefror, mae r perchennog wedi bod mewn trafodaethau gyda r Uned Gorfodaeth am opsiynau yn ymwneud gyda r adeilad. Ddim mewn seyllfa i rannu r fath wybodaeth ond yn nodi fod y perchennog wedi cael ei wybyddu o r polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ac wedi ei gynghori i gyflwyno cais am gyngor cyn cyflwyno cais cynllunio. Nid yw r Uned Gorfodaeth mewn sefyllfa i fwrw ymlaen a chamau gorfodaeth ar hyn o bryd gan fod y perchennog mewn trafodaeth gyda r Cyngor er mwyn ceisio datrusiad i r sefyllfa Y rheswm nad oes camau gorfodaeth yn cael ei gymeryd yn erbyn y perchennog ar hyn o bryd yw oherwydd ei bod yn ymddangos ei bod yn bosib y gall y tor-ddatblygiad gael ei ddatrys drwy cyflwyno cais ol-weithredol ac i hwnnw gael ei asesu yng nghyd destun poliiau lleol a chenedlaethol perthnasol. Yn deallt rhwystredigaeth y gymuned am y tor-rheolaeth ac yn ymwybodol bod yr eiddo ar y farchnad, fodd bynnag, yn egluro y byddai ystyried unrhyw gamau gorfodaeth yn ddewis olaf gan y Cyngor Sir, yn enwedig pan ei fod yn ymddangos yn debygol y gall fod modd datrys y sefyllfa drwy cyflwyno cais cynllunio. d) Chwarel y Fron / Fron Quarry Derbyniwyd yr ohebiaeth ganlynol gan Dafydd Gareth Jones, Uwch Swyddog Mwynau a Gwastraff ar ran Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru Correspondence received from Dafydd Gareth Jones Senior Minerals and Waste Planning Officer on behalf of the North Wales Minerals and Waste Planning Service Cyfeiriaf at golofn Cynghorau Cymuned ardal Dyffryn Nantlle ym mhapur newydd Lleu ac yn benodol at argraffiad Mis Medi sydd yn amlygu materion yn ymwneud â chwarel Bryn Fferam, Y Fron. Yn gyntaf, cadarnhaf fod y gwasanaeth Cynllunio wedi ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Mr Wilcox yn sgil ffeil Bryn Fferam a r hawliau datblygu o dan Rhan 23B i Atodlen 2 o'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 i symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau. Mae Rhan 23B o r gorchymyn yn cynnwys gweithdrefn arbennig sy'n rhoi caniatâd cynllunio tybiedig i symud deunydd o ddyddodion mwynau heb fod angen cyflwyno cais cynllunio ar yr amod fod cyfanswm arwynebedd y gwastraff mwynau n mesur llai na 2 hectar, a bod y datblygiad yn cael ei weithredu n unol â r manylion priodol a gyflwynwyd gyda rhybudd o r bwriad i gychwyn gwaith. Dylid nodi felly nid yw telerau'r Gorchymyn yn golygu bod y Cyngor yn gwneud unrhyw benderfyniad cynllunio fel y cyfryw, gan mai y gorchymyn ei hun sy'n gyfystyr â'r caniatâd gyda'r manylion priodol yn amlinellu natur y datblygiad. Mae cyfatebiaeth wedi i gyfnewid gyda chymdogion Y Fron ynglyn â gweithgareddau r chwarel ond ni thrafodwyd cyflwr y llwybr gyda Mr Wilcox yn sgil fy nghyfrifoldebau i fel swyddog cynllunio Mwynau. Nid oes tystiolaeth fod y llwybr wedi i ddifrodi o ganlyniad gweithredu r hawl i symud gwastraff llechi ond dwi ar ddeallt fydd uned Hawliau Tramwy y Cyngor yn ymateb yn uniongyrchol i chwi ar y mater yma. Fodd bynnag, cadarnhaf fod safle Bryn Fferam ar restr monitro r gwasanaeth Mwynau a Gwastraff ac ein bod yn ymateb i bob cwyn ac yn cysylltu â gweithredwr y chwarel pob amser i sicrhau rheolaeth cynllunio cymesur a rhesymol. Yn achos Bryn Fferam, nid wyf yn ymwybodol fod gweithredwr y safle wedi newid ers y cyflwynwyd y rhybudd nol yn 2004 a byddwn yn cysylltu â Wynnes Transport yn y dyfodol agos gydag anghenion moinitro r gwasanaeth. Fe gofrestrwyd y rhybudd o r bwriad i gychwyn symud gwastraff llechi o r domen nol ym mis Gorffennaf 2004 lle datganwyd fuasai cronfa 50,000 tunnell o lechi yn cymryd oddeutu saith mlynedd I w symud, ar raddfa 2 llwyth 15 tunnell y dydd. Wedi asesu'r cyflwyniad Rhan 23B ac ystyried ôl troed (7,000m2), uchder a llethrau r domen lechi, fe 3

gasglwyd fod 50,000 tunnell o ddeunydd yn amcangyfrif rhesymol. Fodd bynnag mae tystiolaeth fod y domen lechi wedi cael ei weithio'n ysbeidiol ers sefydlu r hawliau datblygu a ganiateir, lle cafwyd achosion o gynnydd mewn allbwn ond hefyd cyfnodau hir pan na chafodd y domen ei weithio o gwbl. Er fod y gwaith wedi parhau y tu hwnt i'r dyddiad diwedd disgwyliedig yn 2011, roedd y cyfle i dynnu hawliau datblygu a ganiateir wedi pasio pan ddelwyd â r rhybudd nôl yn 2004 ac ni ystyriwyd felly fod parhau i weithio r domen yn tynnu n groes i r hawliau datblygu o dan Rhan 23B i Atodlen 2 o'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995. dd) Ffoes Brynrhos, Y Groeslon / Mbrynrhos Ditch, Y Groeslon Gohebiaeth Rheolwr y Cyngor Dydd Iau, 27 Medi 2018 gyda r canlynol Cyfoeth Naturiol Cymru sgwrs ffon Aled Derbynfa Caerdydd CNC Eirian Redmayne Team Leader. Rhif ffon 0300 065 3750 ebost flinen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk CNC dim cyfrifoldeb am secondery water course dim ond cyfrifoldeb am prif afonydd. Cyngor Gwynedd - Malcolm Owens Flood Risg Dept Ddim yn gyfrifol am y ffoes. Cyfrifoldeb yr Uned ydi darganfod pwy sydd berchen y tir. Anodd iawn cael y Crown Estate i weithredu, gan mai tir comin ydi hwn. Yn derbyn fod angen gwaith yng ngrfn Cae sarn. Diffyg arian. Rhaid i CG ddarganfod 15% o unrhyw gyllid grant. Cyngor Gwynedd Steven Williams Adran Priffyrdd Ian Morgan ydi r Peiriannydd Ardal Arfon. Ffoes hwn yn categori 2 felly ddim yn waith brys. (Categori 1 yn cael sylw oddifewn 24 awr) Dim cyfrifoldeb statudol gwaith a wneir gan CG yma ar ddisgresiwn. Wedi colli y Gang Cymunedol trwy toriadau. Wedi colli gweithwyr I gynnal y trunk roads dro dro. Yn cydnabod fod gwaith cynnal heolydd wedi Am ymweld y safle heddiw. Llythyr wedi ei anfon i CG i I sylw Ian Morgan, Peiriannydd Ardal Arfon gyda copi i Eric Jones a Sian Gwenllian. Cyng. Eric Jones Neb yn derbyn cyfrifoldeb am y wal sydd yn erydu gwaelod gerddi Cae Sarn. Wedi cyfarfod gyda perchnogion (Meirion a Gerwyn) Cae Sarn. Ar ddeallt fod y tirfeddianwr gyda hanner y cyfrifoldeb e) Diffyg Safleoedd Parcio yn y Fron / Parking Area, Y Fron Diweddariad ar y noson. Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a r cyhoedd o r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr Panel y Clercl gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y i diffinir ym mharagraffau 11, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Bydd y Rgeolwr Gweinyddol a Chyllid yn gadael y cyfarfod am yr eitem hwn 8 Derbyn Cofnodion Panel Y Clerc a gynhaliwyd 20 Medi 2018 fel rhai cywir - To accept the minutes of the Clerks Conditions of Empolyment Panel, held on 20 September 2018, as a true record 9 Materion yn Codi o r Cofnodion Maters Arising from the Minutes 10 Derbyn Cofnodion Panel Y Clerc a gynhaliwyd 4 Hydref 2018 fel rhai cywir - To accept the minutes of the Clerks Conditions of Empolyment Panel, held on 4 October 2018, as a true record 11 Materion yn Codi o r Cofnodion Maters Arising from the Minutes 12 Derbyn Cofnodion Panel Ymgysylltu a gynhaliwyd 26 Medi 2018 fel rhai cywir - To accept the minutes of the Consultation Panel held on 26 September 2018, as a true record 13 Materion yn Codi o r Cofnodion Maters Arising from the Minutes 4

14 Derbyn Cofnodion Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd 4 Hydref 2018 fel rhai cywir - To accept the minutes of the Finance Committee held on 4 October 2018, as a true record 15 Materion yn Codi o r Cofnodion Maters Arising from the Minutes 16 Derbyn Cofnodion Pwyllgor Mynwentydd ac Eiddo a gynhaliwyd 4 Hydref 2018 fel rhai cywir - To accept the minutes of the Cemeteries & Property Committee held on 4 October 2018, as a true record 17 Materion yn Codi o r Cofnodion Maters Arising from the Minutes 18 Materion yn codi gan Aelodau / Maters Arising from Members 19 Cynhadledd Un Llais Cymru / One Voice Wales Annual Conference Adroddiad gan y Clerc ar y noson Gohebiaeth / Communication 20 Cyngor Gwynedd / Gwynedd Council Biniau Halen Salt Bins Derbyniwyd lythyr gan Cyngor Gwynedd (Staffan Jones) yn gwahodd y Cyngor Cymuned i brynu r gwasanaeth erbyn Gaeaf 2018-19 cyfnod Hydref 2018 i Ebrill 2019. Costau... 40 y bin am y llenwad cyntaf ar ddechrau r Gaeaf / 40 per bin for the first load at the salt of Winter 60 y bin ar gais y gymuned yn ystod y Gaeaf rhwng 1 Hydref 2018 a 30 Ebrill 2019 / 60 per bin at the request of the community during the Winrt months being 1 October 2018 and 30 April 2019 GWEITHREDU ystyried prynu r gwasanaeth cyn cychwyn y Gaeaf ACTION REQUIRED to consider buying the service before the coming of Winter 21 Yfed dan oed ac Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol yn Y Groeslon ar benwythnosau / Unsociable Behaviour & Under Age Drinking at Groeslon during the weekends. Derbyniwyd yr ohebiaeth ganlynol gan aelod o r gymuned A fyddwch cystal ag ychwanegu y mater isod ar eich Agenda ar gyfer trafodaeth pellach yn eich cyfarfod llawn nesaf o Gyngor Cymuned Llandwrog ar 15 Hydref 2018. Mae nifer cynyddol o bobl ifanc (15-17 oed) o bentrefi Dyffryn Nantlle a thu hwnt yn dod i gynnal partis ac yfed alcohol i r caeau ger Tyddyn Meinsier,Lon Frondeg,Y Groeslon LL54 7TU ar nos wener a nos sadwrn bellach. Mae'r plant yn tueddu i gyrraedd y pentref ger ty tafarn Pen Nionyn tua 7pm ac yna cerdded i fyny drwy'r pentref tuag at Tyddyn Meinsier gyda bageidiau o alcohol yn eu meddiant. Mae'r llanast maent yn ei adael yn dorcalonus!! gyda chanoedd o ganiau, poteli gwydr, olion o ddelio gyda chyffuriau a gweithgareddau rhywiol wedi eu taflu a'u malu ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o Tyddyn Meinsier tuag at hen eglwys St. Thmas (Cyfeirnod grid 480550). Atodaf luniau o'r llansast a gafodd ei adael ar y llwybr yn dilyn parti diweddar nos wener 21/09/18. Rwyf wedi cysylltu gyda r heddlu nifer o weithiau drost y 3 blynedd diwethaf ac wedi codi'r mater yn barod gyda chlerc y Cyngor ( e-byst 30 Awst 2017) a'r Cynghorydd Mr Eric Jones (galwad ffon) er mwyn tynnu sylw at yr arferiad anffodus yma o yfed dan oed ac ymddygiad gwrth gymdeithasol wrth iddynt gerdded adref drwy r pentref rhwng 10-11.30 yr hwyr. Dwi'n gyrru neges testun i PCSO Julie Holland a Sammy Williams yn rheolaidd unwaith byddaf yn sylwi ar y plant yn dechrau ymgynull yn y pentref ond mae'r ymateb dwi'n ei gael ganddynt ac wrth ffonio llinell gymorth di-frys yr Heddlu 101 yn aneffeithiol iawn. 5

Yn anffodus mae r sefyllfa wedi gwaethygu yn ddiweddar ac mae'r nifer o blant sy'n ymgasglu yno wedi cynyddu'n sylweddol (roedd tua 45 o blant yno nos wener 21/09/18)!!! Oherwydd difrod troseddol sydd wedi cael ei wneud i fy nghartref yn ddiweddar (dymchwel wal derfyn, malu ffens a choed), trespasu, taflu biniau sbwriel i'r ardd ynghyd a'r ffaith fy mod yn gorfod gwrando ar lu o sylwadau anweddus personol sy'n cael ei dargedu tuag ataf ar benwythnosau rwyf wedi gorfod gosod camera CCTV er mwyn ceisio casglu tystiolaeth pellach o r ymddygiad annerbyniol yma fel fy mod yn gallu ei drosglwyddo i r heddlu er mwyn iddynt allu ymateb yn fwy effeithiol i n problem.fel aelodau o Gyngor Cymuned Llandwrog gofynnaf yn garedig i chi am eich help i geisio datrys yr arferiad anffodus yma. Dwi ddim yn siwr iawn beth allwch ei wneud fel Cyngor ond gwerthfawrogaf yn fawr os buasech yn gallu cynnal trafodaethau pellach neu lythyru'r heddlu a gofyn iddynt gynyddu eu patrol o ardal Tyddyn Meinsier ar nos wener/sadwrn? Oes modd i chi hefyd gael gair gyda perchennog y tir fel nad yw n caniatau i bobl ifanc yr ardal ymgynull i yfed dan oed ar lwybr cyhoeddus. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fo pentref sydd wedi bod yn le mor braf i fyw ynddo drost y 18 blynedd diwethaf wedi troi yn gyrchfan yfed dan oedpobl ifanc Dyffryn Nantlle a'r cylch. GWEITHREDU ystyried yr ohebiaeth, yr effaith ar drigolion y gymuned ac ymateb fel bo angen ACTION REQUIRED to consider the correspondence, the effects on members of the community and act accordingly 22 Ymgynghoriad Adroddiad Blynyddol Drafft PACGA Chwefror 2019 IRPW Draft Annual Report Consultation - February 2019 Mae Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2019/20 nawr wedi ei gyhoeddi, ac mae r adroddiad ar gael ar wefan y Panel : Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol Chwefror 2019 Mae Adran 13 yn ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned yn benodol. Byddai r Panel yn ddiolchgar petasech yn gwneud eich aelodau n hysbys o gynnwys yr adroddiad a gwneud unrhyw sylwadau sydd gennych ar y drafft i IRPMailbox@gov.cymru erbyn 27 Tachwedd 2018. Mae n bosib ni roddir unrhyw ystyriaeth i sylwadau a derbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw. The Independent Remuneration Panel draft Annual Report 2019/20 has now been published for consultation and is available on its website. Independent Remuneration Panel for Wales Draft Annual Report - February 2019 Section 13 relates specifically to Community and Town Councils. The Panel would be grateful if you could make your members aware of the contents report and make any comments you may have on the draft to IRPMailbox@gov.wales by 27 November 2018. Representations received after this date may not be considered. GWEITHREDU ystyried yr ohebiaeth a chynnig sylwadau ACTION REQUIRED to consider the correspondence and to offer comments 23 Cyngor Gwynedd Arolwg Cyhoeddus Hydref 2018 Gwynedd Council Public Survey October 2018 Cais i r Cyngor Cymuned ymateb i r holiadur, dyddiad cau 2 Tachwedd 2018. GWEITHREDU ystyried ymateb a gwbwlhau yr holiadur ACTION REQUIRED consider the request and to take part in the excercise 6

24 Uned Polisi Cnllunio ar y Cyd Gwynedd a Mon Joint Planning Policy Unit Anglesea & Gwynedd Ymgynhori cyhoedus ar Llecynnau Agored Mewn Datblygiadau Tai Newydd a Tai Marchnad Lleol. Public consultation supplementary planning guidance on Open Spaces in New Residential Development & Local Market Housing GWEITHREDU ystyried yr ohebiaeth a chynnig sylwadau ACTION REQUIRED consider the contents and offer comments 25 Ceisiadau Cynllunio / Planning Applications Ceisiadau Hydref 2018 - Applications for October 2018 Cais Rhif / Application Number - C18/0800/17/LL Cyfeiriad / Address - Uwchlaw r Rhos, Penygroes, LL54 7UE Bwriad / Proposal - Codi estyniad cefn deulawr / Erection of two storey rear extension Cais Rhif / Application Number - C18/0875/17/LL Cyfeiriad / Address - Dinlle Caravan Park, Dinas Dinlle LL55 5TW Bwriad / Proposal - Cais llawn i resymoli safle pwll nofio presennol trwy ddymchwel adeiladau presennol a chodi adeilad newydd i gynnwys toiledau, campfa, storfa ag ystafell offer a chodi estyniad i gynnwys adnoddau ychwanegol. Full application to rationilse existing swimming pool site by demolishing existing buildings, construction of new buildings, to include new toilets, gym, store and plant room and a new extension to include additional facilities. Materion Ariannol / Financial Matters 26 Derbyniadau Wedi ei Dderbyn Medi 2018 Income Received September 2018 Manylion / Details Cyfanswm Ffi Claddu / Burial Fees ( 315.00) 27 Taliadau sydd angen eu hawdurdodi gan y Cyngor - Payments to be approved Manylion / Details 7 Swm heb TAW Amount excluding VAT Cyfanswm y Taliad- Total Payment Rhif Siec/ Cheque Number Cyflog y Clerc Hydref 2018 Clerks Salary October 2018 HMRC-Treth Incwm Hydref 2018 Income Tax October 2018 Lwfans Clerc Hydref 2018 Clerks Allowance October 2018 Microsoft Trwydded Office Licence 59.99 59.99 101837 Huw Roberts Cyfieuthu Mis Hydref / October translation x 3 162.00 162.00 101838 Viking Direct Offer Swyddfa / Office Equipment 49.92 59.90 101839 28 Dyddiadau Cyfarfodydd Nesaf / Dates of Next Meetings Uniongyrchol/Direct Uniongyrchol/Direct Uniongyrchol/Direct

Cyfarfod / Meeting Cyngor Llawn Mis Tachwedd / November Full council Dyddiad / Date - Dydd Llun 19 Tachwedd 2018 / Monday 19 November 2018 Amser / Time - 7.30 yr hwyr Lleoliad / Venue Neuadd Neuadd Y Groeslon Village Hall Cyfarfod / Meeting Panel Ymgysylltu / Consulting Panel Dyddiad / Date - Nos Fercher 17 Hydref 2018 / 17 October Amser / Time - 7pm Lleoliad / Venue Canolfan y Fron 29 Materion i'w codi gan aelodau i gyfarfod nesaf o'r Cyngor llawn (19 Tachwedd / 19 November 2018) Matters to be raised by members in the next meeting Diwedd - end 8