SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

NatWest Ein Polisi Iaith

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Holiadur Cyn y Diwrnod

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

SESIWN HYFFORDDI STAFF

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

The Life of Freshwater Mussels

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Talu costau tai yng Nghymru

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Swim Wales Long Course Championships 2018

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Cyrsiau Courses.

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

E-fwletin, Mawrth 2016

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Addysg Oxfam

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Hawliau Plant yng Nghymru

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Transcription:

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Yn Consensus mae gennym hanes eithriadol o weithio gydag unigolion, teuluoedd a chomisiynwyr i ddarparu gwasanaethau cefnogi sy n briodol, yn gost effeithiol ac yn galluogi r bobl yr ydym yn eu cefnogi i wneud pethau anhygoel. James Allen, Rheolwr Gyfarwyddwr Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Cynnwys Am Consensus 5 Ein gwasanaethau 6 Cefnogaeth benodol ar gyfer anghenion amrywiol 9 Sicrhau ansawdd 10 Arbenigwyr ymyrryd arbenigol 12 Tîm ymyrryd ymddygiad positif 13 Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant 14 Helpu teuluoedd i ganfod y gefnogaeth gywir i w hanwyliaid 16 Gweithio mewn partneriaeth â Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol proffesiynol 18 Sut i gyfeirio rhywun 21 Lleoliadau ein gwasanaeth 22 www.consensussupport.com 3

4

Croeso Pwy ydym ni Rydym yn ddarparwr gwasanaeth anabledd dysgu gydag achrediad, sy n cael eu cydnabod yn genedlaethol gyda dros 90 o wasanaethau ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru. Rydym yn cefnogi dros 500 o oedolion a phobl ifanc. Yr hyn yr ydym yn ei wneud Rydym yn darparu cefnogaeth wedi ei theilwrio mewn gwasanaethau preswyl a byw â chefnogaeth, yn ogystal â thrwy wyliau byr a chefnogaeth gymunedol. Mae ein hymrwymiad i ddarparu r safonau cefnogi uchaf yn cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn cael ei ddilysu gan y llu o ddyfarniadau yr ydym yn eu derbyn. Mae ein cydweithwyr ymhlith y rhai mwyaf ymroddedig yn y sector, sy n cael eu hymddiried i gynnig y gefnogaeth bersonol wedi ei theilwrio orau mewn lleoliadau a grëwyd i r diben. Pwy yr ydym yn eu cefnogi Mae gan y bobl yr ydym yn eu cefnogi anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth, gan gynnwys Syndrom Prader- Willi. Efallai bod ganddynt hefyd anghenion corfforol a deallusol eraill, gan gynnwys diagnosis deuol, problemau synhwyraiddcanfyddiadol, ymddygiad y gall eraill ei weld yn heriol, dementia sy n cychwyn yn ifanc a nam ar y clyw. Mae r gefnogaeth a r lleoliadau yr ydym yn eu cynnig yn mynd law yn llaw â n dull. Pa bynnag sialensiau a wynebir gan y bobl yr ydym yn eu cefnogi, rydym yn eu helpu i fyw bywyd ystyrlon, sy n rhoi boddhad, gan ddefnyddio cynllunio wedi ei ganolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan allweddol yn y penderfyniadau am y modd y maent am fyw eu bywydau. Sut i gyfeirio rhywun Gall ein tîm cyfeirio profiadol a chyfeillgar argymell y gwasanaeth mwyaf addas i gomisiynwyr sydd ag angen lleol penodol ac aelodau o deuluoedd sy n holi ar ran un o u hanwyliaid. T: 0808 223 5320 E: enquiries@consensussupport.com www.consensussupport.com 5

DARPARU CEFNOGAETH WEDI EI GANOLBWYNTIO AR YR UNIGOLYN YN Y LLEOLIAD CYWIR Rydym yn rhoi amser i ddeall anghenion pob unigolyn yr ydym yn ei gefnogi. Rydym yn dysgu beth sy n bwysig iddyn nhw, y nodau y maen nhw am eu cyflawni a sut y maen nhw am fyw eu bywydau. Rydym yn gweithio n glos gyda r unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac aelodau eu teuluoedd, yn ogystal â gweithwyr cefnogi proffesiynol eraill i sicrhau ein bod yn bodloni eu hanghenion tymor hir penodol gydag ymroddiad ac ymrwymiad. Felly, boed anghenion yr unigolyn yn gofyn am gefnogaeth mewn gwasanaeth preswyl neu lety byw â chefnogaeth neu gefnogaeth ychwanegol yn y gymuned leol, rydym yn darparu r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen yn y lleoliad sy n iawn iddyn nhw. Er ein bod yn anelu at gynnig y gwasanaeth sydd agosaf at deulu a ffrindiau r unigolyn, byddwn yn argymell y gwasanaeth sydd yn gallu ei gefnogi orau a lle bydd yn cyd-fynd yn dda â r bobl sydd eisoes yn byw yno. Rydym wedyn yn creu cynllun sy n canolbwyntio ar yr unigolyn sy n nodi r gefnogaeth angenrheidiol, beth yw ei nodau a sut y byddwn yn gweithio gyda n gilydd i w helpu i w cyflawni. Mae fy ngweithiwr cefnogi yn fy helpu i fynd allan i ymweld â r mannau dwi eisiau mynd iddyn nhw Unigolyn yr ydym yn ei gefnogi 6 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Gwasanaethau preswyl â nyrsio a hebddo Gwasanaethau byw â chefnogaeth Mae pob un o n gwasanaethau preswyl yn unigryw ac yn cartrefu pobl mewn lleoliadau llai a ddyluniwyd i deimlo fel eu cartref. Mae ein gwasanaethau i gyd wedi eu haddasu yn ofalus ac mae ganddynt fynediad at siopau, gwasanaethau ac adnoddau cymunedol yn lleol fel bod unigolion yn gallu gwneud y mwyaf o r cyfleoedd ar eu trothwy. Yn aml byddant yn cael eu haddasu i fodloni anghenion penodol yr unigolyn. Mae ein gwasanaethau byw â chefnogaeth yn cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau byw mwy annibynnol a gall hyn gynnwys pobl sydd yn barod i symud ymlaen o wasanaeth preswyl. Rydym yn cynnig llety sengl ac wedi ei rannu gan alluogi unigolion i brofi mwy o reolaeth dros eu bywydau. Ond, mae pawb yr ydym yn ei gefnogi yn cael pecyn cefnogaeth wedi ei deilwrio i fodloni ei anghenion a allai gynnwys help gyda sgiliau byw dyddiol neu gymryd rhan lawn yn eu cymuned leol. Gwyliau byr Cefnogaeth Gymunedol Gall unigolion fwynhau gwyliau byr a gwyliau hwy mewn amgylchedd braf yn ein gwasanaeth yn agos at draethau hardd Sir Gaerfyrddin yng Nghymru. Gan gefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth, anghenion cymhleth (gan gynnwys anableddau corfforol) a dementia sy n dechrau yn ifanc mae r gwasanaeth hefyd yn cynnig seibiant argyfwng. Mae ein cefnogaeth gymunedol yn ymwneud â chynnal ansawdd bywyd da. Gall unigolion fod yn byw gyda u rhieni, yn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad byw â chefnogaeth a u bod angen help gydag agweddau gwahanol o u bywyd. Mae gennym hefyd bedwar cyfle mewn canolfan i gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau a chreu cyfeillgarwch newydd mewn lleoliad diogel, cefnogol. www.consensussupport.com 7

8

Cefnogaeth benodol ar gyfer anghenion amrywiol Cefnogi pobl gydag anghenion amrywiol a chymhleth Rydym yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth a all fod ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol hefyd. Gall y rhain gynnwys diagnosis deuol, problemau synhwyraidd-canfyddiadol, nam ar y golwg neu r clyw, dementia sy n cychwyn yn ifanc ac epilepsi. Gall rhai pobl hefyd ddangos ymddygiad y gall eraill ei weld yn heriol a gall rhai eraill fod ag anawsterau symud neu anableddau corfforol ac yn defnyddio cadair olwyn. Rydym yn cefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth y gall eu hymddygiad olygu y byddant yn gwrthdaro â r system gyfiawnder troseddol. Rydym yn darparu llety wedi ei deilwrio n llawn, yn y gymuned, gan eu helpu i ddatblygu eu hannibyniaeth a u hunan barch ac ymdrin â u hymddygiad troseddol penodol mewn lleoliad lle mae r risgiau yn cael eu deall, eu rhannu a u rheoli yn llawn. Gwasanaethau i blant ac oedolion ifanc (14-25) Mae ein gwasanaeth cartrefol yn Suffolk yn cefnogi plant ac oedolion ifanc sydd ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth. Yma maent yn cael y sefydlogrwydd a r diogelwch y mae arnynt eu hangen i ddatblygu eu sgiliau wrth symud tuag at fod yn oedolion. Gwasanaethau Syndrom Prader-Willi (PWS) Mae Gretton Homes, rhan o Consensus, yn cefnogi pobl sydd â r cyflwr genynnol prin PWS. Mae ein cefnogaeth arbenigol yn helpu gyda phroblemau fel sialensiau o ran ymddygiad ac yn emosiynol, yr awch parhaus am fwyd a r problemau gordewdra sy n gysylltiedig â PWS. www.consensussupport.com 9

GWEITHIO GYDA N GILYDD I YMDRECHU I GAEL RHAGORIAETH Mae pawb yn Consensus, o n tîm o arweinwyr hyd at reolwyr ein gwasanaethau a u timau cefnogi yn rhoi r unigolion yr ydym yn eu cefnogi yn ganolog i r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae ein holl gydweithwyr yn gweithio n glos gyda r bobl yr ydym yn eu cefnogi, eu teuluoedd a Rheolwyr Gofal i sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau iawn yn y ffordd iawn ac i r safon uchaf posibl. Ymroddedig i ansawdd a gwelliant Mae pob un ohonom yn Consensus yn hollol ymroddedig i ddiogelu r unigolion yr ydym yn eu cefnogi yn ogystal â darparu r gwasanaethau gorau posibl. Mae gweithdrefnau monitro, ansawdd a llywodraethu yn sylfaenol i bopeth a wnawn. Mae pob cydweithiwr newydd yn mynd trwy wiriad cefndir, tra mae r aelodau presennol o r tîm yn cael hyfforddiant parhaus i gadw eu sgiliau yn gyfredol. Arolygir ein gwasanaethau yn gyson gan dimau mewnol a rheoleiddwyr allanol, ac rydym yn falch bod y tri rheoleiddiwr cenedlaethol yn barnu bod ein gwasanaethau yn uchel eu safon yn gyson. Mae cael adborth cyson gan y bobl yr ydym yn eu cefnogi a u teuluoedd yn angenrheidiol hefyd. Mae hyn yn cynnig gwiriad o r sefyllfa go iawn hanfodol i ni ac rydym yn gweithio yn gyflym i wneud y newidiadau angenrheidiol. Rwyf wrth fy modd yn dod i m gwaith. Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yw r peth pwysicaf. Gweithiwr Cefnogi 10 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

11

Cefnogaeth a chyfarwyddyd arbenigol Arbenigwyr mewn ymyraethau arbenigol lle bynnag a phryd bynnag y mae eu hangen Mae ein harbenigwyr ar awtistiaeth, ymyrraeth ymddygiad positif a Syndrom Prader-Willi yn gweithio gydag unigolion yn unrhyw un o n gwasanaethau sydd angen ymyraethau cymhleth ac arbenigol. Maent yn cymryd rhan mewn asesiadau cychwynnol ar ddechrau taith yr unigolyn gyda ni, gan argymell strategaethau i reoli ymddygiad a all gael ei ystyried yn heriol. Maent hefyd yn cefnogi timau yn y gwasanaethau gyda hyfforddiant arbenigol i wella eu sgiliau a u gwybodaeth. Dr Margaret Wilson Arbenigwraig Awtistiaeth Myles Kelly Swyddog Cyswllt Syndrom Prader-Willi Gail Fisher Ymarferwraig Ymddygiad Arweiniol Cefnogi ein cydweithwyr a r bobl yr ydym yn eu cefnogi Mae ein tîm deinamig yn llunio perthynas gref, gefnogol gyda rheolwyr ein gwasanaethau a u timau cefnogi, yn ogystal â r unigolion y maent yn gweithio gyda nhw. 12 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Hyrwyddo ymddygiad positif i r bobl yr ydym yn eu cefnogi Ein tîm ymyrryd ymddygiad positif Diolch i r sgiliau a r ymyraethau gan y tîm ymyrraeth ymddygiad positif rydym wedi gallu lleihau r nifer o leoliadau sydd wedi methu gan alluogi rhai pobl gyda rhai sialensiau cymhleth iawn i symud o gefnogaeth breswyl i leoliad byw â chefnogaeth mwy annibynnol. Mae r tîm yn dwyn gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a gofal iechyd at ei gilydd sydd â degawdau o brofiad o gefnogi pobl y mae eu pryderon weithiau yn cael eu mynegi trwy ymddygiad y mae pobl eraill yn ei weld yn heriol. Maen nhw n gweld yr unigolyn yn gyntaf bob amser, yr ymddygiad yn ail ac yn canolbwyntio ar anghenion a sialensiau r unigolyn. Mae eu cymwysterau a u profiad yn eu galluogi i feithrin canlyniadau positif i bawb o r unigolion eu hunain, i w gweithwyr allweddol a r gwasanaeth y maen nhw n cael eu cefnogi ganddo. Sut gall y tîm helpu Mae r tîm yn gweithio n glos gyda rheolwyr gwasanaeth, gweithwyr allweddol a r unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Byddant yn cynnal asesiad cychwynnol ar gyfeiriad newydd cymhleth. Yna byddant yn argymell strategaethau i leihau ymddygiad nas dymunir a datblygu cynlluniau i gefnogi unigolyn i wella ansawdd ei fywyd a chyflawni r nodau y mae yn eu dymuno. Mae r tîm yn darparu cyngor, mentora, hyfforddiant a chefnogaeth ymarferol ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys: cefnogaeth ymyrraeth ymddygiad bositif cyflyrau sbectrwm awtistig ymddygiadau hunan niweidio strategaethau cyfathrebu rhyngweithio dwys cefnogaeth sy n canolbwyntio ar yr unigolyn www.consensussupport.com 13

CEFNOGI CYFLE DEWIS A LLWYDDIANT Rydym yn falch o gynnig cyfleoedd sy n cefnogi pobl i fyw bywyd o u dewis ac i gyflawni llwyddiant. Bydd gan bob unigolyn yr ydym yn ei gefnogi ei farn ei hun am yr hyn y mae llwyddiant yn ei olygu iddo. Rydym yn helpu unigolion i archwilio syniadau am yr hyn y maen nhw am ei gyflawni yn awr ac yn y dyfodol a sut y maen nhw am fyw eu bywydau. Rydym yn eu cynnwys yn llwyr wrth lunio eu cynllun unigol sy n nodi eu nodau a sut y gallwn gynnig cyfleoedd iddynt i w helpu i w cyflawni. Bydd y nodau yma yn wahanol i bawb. I rai pobl gall dysgu sut i reoli eu harian fod yn wirioneddol bwysig. I eraill efallai mai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hyderus, coginio prydau, dod o hyd i waith, mynd i r coleg neu ddysgu sut i fyw n iach fydd yn bwysig. Rydym yn annog y bobl yr ydym yn eu cefnogi i gyflawni eu potensial ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu hamser eu hunain. Yn ein gwasanaethau preswyl a byw â chefnogaeth cartrefol a chefnogol gallant ddysgu yn ddiogel sut i gael hyder yn eu sgiliau byw dyddiol ac i ddechrau cael rheolaeth ar gymaint o agweddau o u bywydau ag y maen nhw n teimlo n hyderus i wneud hynny. Mae ein gwasanaethau mewn trefi, neu yn agos atynt, gan alluogi r bobl yr ydym yn eu cefnogi i fanteisio ar weithgareddau cymdeithasol a chymunedol gerllaw sy n cyd-fynd â u diddordebau. Yno gallant gyfarfod pobl newydd ac ymestyn eu rhwydweithiau cymdeithasol a gall hyn helpu i gynyddu hyder a hunan barch. Credwn, gyda r gefnogaeth gywir, y gall unigolion fyw bywyd prysur, llawn diddordeb, ystyrlon yn eu cymuned leol. Bernie Middlehurst Rheolwr Cyfeiriadau 14 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

www.consensussupport.com 15

HELPU TEULUOEDD I GANFOD FFYRDD POSITIF YMLAEN Rydym yn deall y rhan hanfodol y mae teuluoedd a gofalwyr yn eu chwarae wrth gynllunio cefnogaeth i rywun agos atyn nhw a bod eisiau r gorau iddyn nhw. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig dull yr ymddiriedir ynddo, diogel a gofalgar lle mae r teuluoedd yn cael rhan lawn wrth lunio penderfyniadau ac wrth helpu eu hanwyliaid i fyw bywyd sy n rhoi boddhad. Rydym yn sylweddoli nad yw profiad nac anghenion yr un dau deulu r un fath a r llu o emosiynau y gallant eu teimlo wrth wynebu gorfod dod o hyd i r gefnogaeth iawn - yn arbennig os yw n brofiad newydd. Yn Consensus rydym wedi gweithio gyda llawer o deuluoedd yn wynebu sialensiau tebyg dros y blynyddoedd, ac rydym wedi eu helpu nhw a u hanwyliaid i ddod o hyd i ffyrdd llwyddiannus, positif a boddhaus ymlaen. Mae pob un o n gwasanaethau yn unigryw ac yn cartrefu pobl mewn lleoliadau llai sydd wedi eu cynllunio i deimlo fel eu cartref. Mae ein gwasanaethau bron i gyd mewn tai sydd wedi eu haddasu n ofalus mewn ardaloedd preswyl yn agos at siopau ac adnoddau cymunedol fel bod unigolion yn gallu gwneud y mwyaf o r cyfleoedd ar eu trothwy. Maen nhw n gwneud i mi deimlo bod croeso i mi bob amser ac mae fy merch wastad yn hapus ac yn cael gofal da. Perthynas 16 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Llunio perthynas a chyfathrebu da Helpu i drosglwyddo yn llyfn Mae ein tîm cyfeirio yn gweithio yn glos gyda r unigolyn a i deulu a i ofalwyr i ddeall sialensiau ac anghenion yr unigolyn dan sylw gan y bobl sy n ei adnabod orau. Ar ôl i ni benderfynu gyda n gilydd pa wasanaeth fydd yn bodloni eu hanghenion orau, byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol o osod hoist i ail drefnu patrwm y llety. Yn fyr, rydym yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i helpu r unigolyn i deimlo n ddiogel, wedi setlo ac yn hapus. Mae gan reolwyr ein gwasanaethau ddull agored a didwyll ac maent yn cymryd amser i ddod i adnabod aelodau o r teulu a gofalwyr. Mae croeso iddynt ymweld â r gwasanaeth bob amser, mwynhau achlysuron cymdeithasol ac ymuno â chyfarfodydd am ofal a chefnogaeth eu hanwyliaid. Rydym yn sylweddoli y gall newid fod yn gyffrous, ond yn peri pryder hefyd. Cyn i unigolyn ymuno â ni, byddwn yn rheoli ei drosglwyddiad yn ofalus gyda gofal a chydymdeimlad, i sicrhau bod pawb sydd â rhan yn teimlo yn sicr a diogel bob cam o r ffordd. Pan fyddwn yn gweithio gydag unigolyn ifanc sy n barod i symud i wasanaethau oedolion o i gartref neu o leoliad addysgol arbenigol, neu pan fyddwn yn cefnogi oedolyn sy n symud o rywle arall, mae ein tîm yn sicrhau bod y trosglwyddo yn hapus a llwyddiannus. Un o r pethau cyntaf y byddwn yn ei wneud yw dewis gweithiwr allweddol i r unigolyn sy n trosglwyddo. Y gweithiwr allweddol fydd yn trefnu r trosglwyddo, ac yn y tymor hwy, yn rhoi cefnogaeth i r unigolyn a i deulu trwy gydol eu hamser gyda Consensus. Mae ein tîm cyfeirio yma i helpu Cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau o ran cefnogaeth a r broses asesu neu i gael cyngor ar sut i gael cyllid. T: 0808 223 5320 E: enquiries@consensussupport.com www.consensussupport.com 17

SICRHAU EIN BOD YN BODLONI ANGHENION COMISIYNU LLEOL Ein tîm cyfeirio a datblygu Rydym yn llunio partneriaeth gyda chomisiynwyr yn y tymor hir i gefnogi eu hanghenion strategol a lleol. Rydym yn ymfalchïo mewn datblygu perthynas tymor hir gydag Awdurdodau Lleol, Grwpiau Comisiynu Clinigol a thimau Gofal Iechyd Parhaus fel ein bod yn gallu deall yn llawn sut mae ein partneriaid yn gweithio a beth sydd arnynt ei angen. Mae r dull hwn yn galluogi iddynt ddod yn gyfarwydd â n gallu, ein gwasanaethau a n timau cyfeirio a gweithrediadau lleol. Rydym yn deall y pwysau lleol sydd ar ein partneriaid i ddod o hyd i wasanaethau o ansawdd, sy n gost effeithiol ac yn cyflawni anghenion cymhleth yr unigolion. Mae ein gwasanaethau yn flaengar yn eu dyluniad ac mae llawer yn cynnig y cyfle i gael llety unigol gan osgoi r lleoliadau mwy a rennir y gallant fod wedi eu profi yn y gorffennol. Yn y ffordd hon rydym yn cynnig y dull hyblyg ac i r diben y mae comisiynwyr, a r unigolion yr ydym yn eu cefnogi, yn galw amdanynt yn awr. Rydym yn gweithio gyda rhan-ddeiliaid ar bob un cyfeiriad unigol yr ydym yn ei dderbyn fel ein bod yn wirioneddol yn argymell y gwasanaeth iawn yn y lleoliad iawn. Mae r cyfoeth o brofiad a gawn o bob unigolyn yr ydym yn ei gefnogi a gwasanaeth yr ydym yn ei ddatblygu yn ein hysgogi i gynnig atebion creadigol i anghenion comisiynu cymhleth Mike Ranson Cyfarwyddwr Datblygiadau a Phartneriaethau 18 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Cefnogi newid positif Cefnogi modelau gofal newydd Yn hanesyddol rydym wedi ymdrechu i gynnig y modelau cywir o gefnogaeth yn y gymuned i bobl ag anghenion cymhleth. Hyd yn oed cyn i r Agenda Trawsnewid Gofal gael ei gyflwyno, roeddem yn siapio r llety a r sgiliau yn ein timau i weddu i union anghenion yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Heddiw rydym yn dal yr un mor ymroddedig i alluogi unigolion i archwilio eu nodau mewn bywyd a chyflawni newid positif. Gall hynny olygu cefnogi rhywun sydd wedi treulio cyfnod maith mewn lleoliad ysbyty i symud i wasanaeth preswyl, neu helpu unigolyn i symud i amgylchedd byw â chefnogaeth. Mae ein tîm datblygu yn gweithio ar lefel strategol gyda chomisiynwyr i ddynodi anghenion lleol a u hateb gydag atebion o ansawdd, wedi eu teilwrio a phrydlon. Maent yn adolygu ac yn ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau nad ydynt yn cyrraedd disgwyliadau heddiw, ac yn datblygu gwasanaethau newydd yn barhaus i fodloni galw lleol ac anghenion comisiynu penodol. Gall hyn olygu mabwysiadu adeilad sy n bodoli i greu lleoliad i r diben yn arbennig os yw r Awdurdod Lleol neu Grŵp Comisiynu Clinigol wedi dynodi unigolion sy n dod dan yr Agenda Trawsnewid Gofal. Maent hefyd yn cynllunio a chreu modelau gofal newydd, sydd wedi arwain at ein gweld yn cau gwasanaeth oedd yn bodoli a i ail-lunio yn llwyr i greu lleoliadau llai yn cynnig dewisiadau o fath byw â chefnogaeth gyda chefnogaeth i r diben. Mae ein timau yma i helpu Cysylltwch â n tîm cyfeirio i drafod cyfeiriad. Cysylltwch â n tîm datblygu i drafod anghenion lleol penodol. T: 0808 223 5320 E: enquiries@consensussupport.com www.consensussupport.com 19

20

Sut i gyfeirio rhywun Mae ein tîm cyfeirio profiadol a chyfeillgar yma i siarad â chi am y nifer o ddewisiadau cefnogaeth y gall Consensus eu cynnig. Ein tîm cyfeirio Cysylltwch â ni Gall ein tîm argymell y gwasanaeth mwyaf addas i gomisiynwyr sydd ag angen lleol penodol ac aelodau o deulu sy n holi ar ran aelod o r teulu. T: 0808 223 5320 E: enquiries@consensussupport.com W: www.consensussupport.com Taflen hawdd ei darllen Mae gennym daflen hawdd ei darllen i unigolion sydd ag anabledd dysgu sy n esbonio r gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig. Gellir ei lawrlwytho o r dudalen Gyswllt ar ein gwefan neu gellir gofyn am gopi print o n prif swyddfa y mae r manylion ar gefn y daflen hon. www.consensussupport.com 21

Canllaw i n gwasanaethau a n lleoliadau Deunyddiau ychwanegol Ar gael i w lawrlwytho yn www.consensussupport.com/ downloadbrochures neu i gael copïau print, cysylltwch â ni trwy r manylion ar y clawr cefn. Canllaw i leoliadau ein gwasanaethau Manylion llawn ein gwasanaethau yn ôl rhanbarth a sir. Gwasanaethau preswyl â nyrsio a hebddo Gwasanaethau byw â chefnogaeth Cyfleoedd mewn canolfannau Gwyliau byr Gwasanaethau Syndrom Prader-Willi Arolygir ein gwasanaethau gan CQC (yn Lloegr), AGGGC (Cymru), Arolygaeth Gofal yr Alban (yn yr Alban) ac Ofsted (ar gyfer Belstead Mews, ein gwasanaeth Plant). Ewch i w gwefannau unigol i gael eu barn ar ein gwasanaethau. 22 Consensus - Cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Rydym yn falch iawn bod y tri rheoleiddiwr cenedlaethol yn canmol ein gwasanaethau yn gyson. Eddie Morgan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant

Mae Consensus yn cefnogi dros 500 o oedolion a phobl ifanc gydag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth, gan gynnwys Syndrom Prader- Willi (PWS). Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Bradbury House, 830 The Crescent T: 0808 223 5320 Colchester Business Park E: enquiries@consensussupport.com Colchester, Essex CO4 9YQ W: www.consensussupport.com Consensus Support Services Ltd. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 04081379 Swyddfa Gofrestredig Bradbury House 830 The Crescent Colchester Business Park Colchester Essex CO4 9YQ Rhan o MHL Holdco Limited Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 08585667 Yn masnachu fel Consensus