Llywodraeth Cymru. Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd Y Cynllun

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

We need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the M4, Magor to Castleton

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

EXPLANATORY STATEMENT

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Holiadur Cyn y Diwrnod

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru.

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Ymateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Cartref. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yr Ystad Cefnffyrdd

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

NatWest Ein Polisi Iaith

Datganiad Technegol Rhanbarthol

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Talu costau tai yng Nghymru

Addysg Oxfam

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

BETH YW LLES AMGYLCHEDDOL?

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Prosiect Wylfa Newydd Cais ar gyfer paratoi a chlirio r safle

Esbonio Cymodi Cynnar

Hawliau Plant yng Nghymru

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Papur Cefndir 16. Twristiaeth

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Ymgynghori. Brexit a n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

The Life of Freshwater Mussels

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Cofnodion Fforwm Mynediad Lleol De Eryri a gynhaliwyd Dydd Llun 10fed Mawrth 2014 am 5.45 yp Yng Ngwesty r Llew Coch, Dinas Mawddwy

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

DATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL Fersiwn Derfynol

Adolygiad Blynyddol Newid gêr

Pennod 16: Gwelliant, adfywiad ac adnewyddiad

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr

Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (UPCC) Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) Proses a Methodoleg Safleoedd Posib

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

offered a place at Cardiff Met

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015/16. Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Asesiad Lles Wrecsam

Transcription:

Llywodraeth Cymru Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd Y Cynllun Gorffennaf 2014

ISBN: 978-1-4734-1791-5

Cynnwys Rhagair gan y Gweinidog 3 Geirfa 4 Crynodeb Gweithredol 13 1 Cefndir 17 2 Pam mae angen i ni wneud rhywbeth 19 2.1 Capasiti 19 2.2 Cydnerthedd 20 2.3 Diogelwch 20 2.4 Datblygu cynaliadwy 21 2.5 Problemau, amcanion a nodau 22 3 Sut y penderfynom ar y Cynllun hwn 25 3.1 Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM) 26 3.2 Cynllun drafft coridor yr M4 o amgylch Casnewydd 27 3.3 Asesiadau cysylltiedig 29 3.4 Ystyried dewisiadau amgen 31 4 Beth rydym yn bwriadu ei wneud 33 5 Sut bydd y Cynllun hwn o fudd i Gymru 36 5.1 Adfywio ein heconomi 36 5.2 Gwarchod ein hamgylchedd 37 5.3 Cefnogi ein cymunedau 40 5.4 Derbynioldeb, ymarferoldeb, gallu cyflawni a risg 40 5.5 Bodloni r amcanion ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd 41 6 Camau nesaf 42 6.1 Amserlen ar gyfer cyflawni 42 6.2 Cyllid 42

Rhagair gan y Gweinidog Mae n hollbwysig i Gymru gael system drafnidiaeth sy n darparu mynediad at swyddi a gwasanaethau ac sy n gwella cystadleugarwch economaidd ein cenedl. Am flynyddoedd lawer, mae tagfeydd traffig wedi bod yn ffaith bywyd i r rheiny sy n defnyddio r M4 o amgylch Casnewydd. Mae amserau siwrneiau annibynadwy yn effeithio ar allu pobl i fanteisio ar gyfleoedd swyddi ac yn rhwystro buddsoddi gan fusnesau gwerth uchel. Mae tagfeydd trafnidiaeth yn effeithio ar ein hamgylchedd a n cymunedau lleol. Yn sgil lefelau traffig yn cynyddu, disgwylir y bydd y problemau hyn yn gwaethygu. I fynd i r afael â hyn, rydym wedi nodi r angen am welliannau sylweddol i r rhwydwaith rhwng Magwyr a Chas-bach. Gan weithio gyda chymunedau lleol, rydym wedi ymgynghori n helaeth wrth ddatblygu r Cynllun drafft. Rhoddodd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Medi a Rhagfyr 2013 y cyfle i bawb ddweud eu dweud. Gan ystyried yr ymatebion i r ymgynghoriad hwn, rydym wedi penderfynu mabwysiadu r Cynllun hwn yn cynnwys: Adeiladu rhan newydd o draffordd rhwng Cyffyrdd 23 a 29 i r de o Gasnewydd; ochr yn ochr â Mesurau ategol, yn cynnwys: -- Newid dosbarth yr M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach -- Cysylltiad yr M4/M48/B4245 -- Darparu seilwaith sy n ystyriol o feicwyr; a -- Darparu seilwaith sy n ystyriol o gerddwyr. Mae r Cynllun yn ceisio gwella hygyrchedd ar gyfer pobl, nwyddau a gwasanaethau Cymreig i farchnadoedd rhyngwladaol trwy ddatrys capasiti a chydnerthedd ar y prif borth i Dde Cymru, sef corridor yr M4. Mae r Cynllun hwn yn rhan hanfodol o n gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth integredig effeithlon yn Ne Cymru.Yn gyfochrog â r Cynllun, mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Metro Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Mae r Metro n ceisio gwella hygyrchedd i safleoedd cyflogaeth lleol, adnoddau addysgol a gwasanaethau o fewn y Rhanbarth ac mae n ategu r Cynllun ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Edwina Hart AC Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth 3

Geirfa AAS ACA Achos Busnes Adroddiad Cyfranogiad Adroddiad Strategol o Ddewisiadau Amgen Adroddiad Trosolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus a Diweddariad AGA Asesiad Amgylcheddol Strategol. Proses sy n darparu lefel amddiffyn uchel o ran yr amgylchedd, drwy sicrhau integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i r broses paratoi cynlluniau a rhaglenni, ac i gyfrannu at hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac amddiffyn yr amgylchedd. Ardal Cadwraeth Arbennig. Safleoedd a warchodir yn llym gyda mathau o gynefinoedd a rhywogaethau rhestredig yr ystyrir bod angen eu gwarchod fwyaf ar lefel Ewropeaidd (ac eithrio adar). Byddai buddsoddiad mewn unrhyw gynlluniau y gellid eu datblygu o r Cynllun yn cael ei gefnogi gan achos busnes. Byddai hwn yn ystyried cost, buddion ac effeithiau ehangach strategaeth fabwysiedig Llywodraeth Cymru i fynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Wedi i r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft ddod i ben, cafodd yr holl ymatebion eu casglu, eu dadansoddi a u hystyried. Paratowyd Adroddiad Cyfranogiad, sy n crynhoi r ymatebion i r broses ymgysylltu ac ymgynghori. Mae r ymatebion wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru i adolygu a chwblhau r asesiadau cysylltiedig. Cyhoeddir Adroddiad Cyfranogiad ochr yn ochr â r Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae adroddiad Arfarniad Strategol o Ddewisiadau Amgen Awgrymwyd yn ystod yr Ymgynghoriad wedi i baratoi i fynd i r afael ag opsiynau amgen a gafodd eu hawgrymu ac a gyflwynwyd gan ymatebwyr i r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft. Mae r adroddiad hwn wedi llywio r Datganiad AAS ac asesiadau cysylltiedig perthnasol eraill o r Cynllun hwn. Diwygiwyd Trosolwg Trafnidiaeth Gyhoeddus M4 CEM (2012) fel Diweddariad (2013) a darparodd astudiaeth yn ystyried gwelliannau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar yr M4. Roedd y Diweddariad yn ystyried effeithiau posibl Metro Rhanbarth Dinas Caerdydd a thrydaneiddio r rheilffordd. Ardal Gwarchodaeth Arbennig. Safleoedd a warchodir yn llym ar lefel Ewropeaidd, wedi u dosbarthu ar gyfer adar prin a bregus ac ar gyfer rhywogaethau mudol sy n digwydd yn rheolaidd. 4

ARhAAau Asesiad o r Effaith Amgylcheddol Asesiad o r Effaith ar Gydraddoldeb Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer. Er 1997 mae awdurdodau lleol yn y DU wedi bod yn cynnal adolygiad ac asesiad o ansawdd yr aer yn eu hardal. Nod yr adolygiad yw cynorthwyo awdurdodau wrth gyflawni eu dyletswydd statudol i weithio tuag at fodloni r amcanion cenedlaethol o ran ansawdd yr aer. Os daw awdurdod lleol o hyd i unrhyw fannau lle nad yw n debygol y cyflawnir yr amcanion, mae n rhaid iddo ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer yno. Mae hwn yn asesiad o r effeithiau posibl y gallai prosiect arfaethedig eu cael ar yr amgylchedd. Diben yr asesiad yw sicrhau bod y rhai sy n gwneud penderfyniadau yn ystyried yr effeithiau amgylcheddol wrth benderfynu ynghylch bwrw ymlaen â phrosiect neu beidio. Diwygiwyd Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd (85/337/EEC) ar Asesiadau o r Effaith Amgylcheddol (gelwir yn Gyfarwyddeb EIA) yn 2009. Ffordd o archwilio a dadansoddi gwasanaethau, polisïau a strategaethau sy n nodi effeithiau presennol ac effeithiau posibl ar rai grwpiau o bobl, ac unigolion weithiau. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswyddau penodol a chyffredinol mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Hawliau Dynol 1998. Roedd Adroddiad Asesiad o r Effaith ar Gydraddoldeb yn ffurfio rhan o r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft ac mae wedi i ddiweddaru i ystyried sylwadau a dderbyniwyd gan adran Ddyfodol Decach Llywodraeth Cymru ac Uned Cymorth Cydraddoldeb Adran yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth ac eraill. Hefyd, mae n ystyried y data ar gydraddoldeb a gasglwyd fel rhan o r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft. Cyhoeddir Asesiad o r Effaith ar Gydraddoldeb ar lefel strategaeth ochr yn ochr â r Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. 5

Asesiad o r Effaith ar Iechyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Asesiadau Cysylltiedig y Cynllun drafft Proses sy n ystyried sut y gellir effeithio ar iechyd a lles poblogaeth gan weithred arfaethedig, boed yn bolisi, rhaglen, cynllun neu newid i drefn neu gyflwyniad gwasanaeth cyhoeddus penodol. Mae Asesiad o r Effaith ar Iechyd yn ofyniad gorfodol mewn arfarniad o drafnidiaeth. Roedd Adroddiad Asesiad o r Effaith ar Iechyd yn ffurfio rhan o r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft ac mae wedi i ddiweddaru i ystyried sylwadau a dderbyniwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru. Cyhoeddir Asesiad o r Effaith ar Iechyd ar lefel strategaeth ochr yn ochr â r Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Proses sy n ystyried yr effeithiau posibl y gallai cynlluniau a rhaglenni eu cael ar Safleoedd Ewropeaidd (cynefinoedd gwarchodedig). Roedd dogfen Ystyriaeth o r Opsiynau ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Cynefinoedd yn rhan o r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft. Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Strategol wedi i baratoi gan ystyried unrhyw sylwadau gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ac fe i gyhoeddir ochr yn ochr â r Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Yn ychwanegol at Ddogfen Ymgynghori r Cynllun drafft, ymgymerwyd â nifer o asesiadau amgylcheddol, iechyd a chydraddoldeb o r Cynllun drafft er mwyn mynd i r afael â Rheoliadau r Asesiad Amgylcheddol Strategol, Rheoliadau r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a WelTAG. Mae r dogfennau isod yn adrodd ar asesiadau r Cynllun drafft ac roeddent yn rhan o r Ymgynghoriad ar Gynllun drafft Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd: Adroddiad Amgylcheddol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (a Chrynodeb Annhechnegol); Adroddiad yr Asesiad o r Effaith ar Gydraddoldeb; Adroddiad yr Asesiad o r Effaith ar Iechyd; Ystyriaeth o r Opsiynau ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae r asesiadau hyn wedi u diweddaru i ystyried yr ymatebion i r Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft, ac fe u cyhoeddir ochr yn ochr â r Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. 6

CBI Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd Cyfarwyddeb yr UE Cynllun drafft Cynllun / Prosiect Dewisiadau Amgen Rhesymol DMRB Ffordd Ddosbarthu deheuol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain. Sefydliad lobïo busnes yn y DU, yn darparu llais i gyflogwyr ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yw r term a ddefnyddir i frandio gwaith presennol Llywodraeth Cymru i fynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae cyfarwyddeb yr UE yn ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, sy n mynnu bod aelod-wladwriaethau yn cyflawni r gyfarwyddeb heb bennu sut i gyflawni r canlyniad hwnnw. Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth a ffefrir i ddatrys problemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy n effeithio ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn ei Chynllun Drafft yn y lle cyntaf. Cyhoeddwyd hwn i ymgynghori n gyhoeddus arno, ochr yn ochr ag asesiadau amgylcheddol, iechyd a chydraddoldeb cysylltiedig o r Cynllun drafft, a oedd yn ei gymharu â dau Ddewis Amgen Rhesymol, yn ogystal â senario Gwneud Cyn Lleied â Phosibl. Ar gyfer cynlluniau neu brosiectau unigol, mae r lefel arfarnu briodol yn fanylach, yn feintiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y rhan newydd o draffordd arfaethedig sydd ar hyn o bryd yn brif elfen y Cynllun hwn, ar lefel manylder strategol, yn cael ei datblygu fel cynllun / prosiect yn awr. Ceir dau Ddewis Amgen Rhesymol i r Cynllun drafft, sef opsiynau eraill y mae Llywodraeth Cymru o r farn y gallent ddatrys problemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy n effeithio ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn Ne Cymru. Amlinellwyd y Dewisiadau Amgen Rhesymol yn y Cynllun drafft, ac roeddent yn cynnwys ffordd ddeuol newydd (Llwybr Coch) yn cael ei hadeiladu i r de o Gasnewydd, neu ddatrysiad traffordd ar hyd aliniad tebyg (Llwybr Porffor) ochr yn ochr â nifer o fentrau ategol i reoli priffyrdd, mentrau cerdded a beicio. Design Manual for Roads and Bridges - dogfen gan y llywodraeth sy n cynnig cyngor a chanllawiau arfer da yng nghyd-destun dylunio ffyrdd a phontydd Yn yr achos hwn, Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol yr A48, Casnewydd. 7

Gwneud cyn Lleied â Phosibl / Senario Gwneud cyn Lleied â Phosibl Henebion Rhestredig Hysbysiad TR111 Llwybr a Ffefrir Llwybr Coch Senario yw hon (dilyniant o ddigwyddiadau yn y dyfodol) lle mae ymyrraeth yn cynnwys gwneud dim ymhellach na hynny sydd wedi i gynllunio neu ei ymrwymo n barod. Yn yr achos hwn, mae n cynnwys yr holl addasiadau diweddar i r rhwydwaith (fel y gwelliant i Gyffordd 24, y system Terfyn Cyflymder Newidiol a r Ffordd Fynediad i r Gwaith Dur) ac unrhyw gynlluniau sydd wedi u hymrwymo (fel gwelliant Cyffordd 28 / Cylchfan Basaleg / Cylchfan Pont Ebwy). Heneb restredig yr ystyrir ei bod o bwysigrwydd cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Pan fydd Llwybr a Ffefrir yn cael ei gyhoeddi ynghylch cynllun trafnidiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno hysbysiad TR111 statudol ar yr awdurdodau cynllunio lleol yn mynnu diogelu r llinell rhag unrhyw ddatblygu. Gall Llywodraeth Cymru benderfynu cyhoeddi Llwybr a Ffefrir ar gyfer prif elfen y Cynllun hwn, sef rhan newydd o draffordd i r de o Gasnewydd, a fyddai n gwarchod y coridor at ddibenion cynllunio, trwy hysbysiad statudol (TR111) Ystyriwyd y Llwybr Coch a i fesurau ategol fel Dewis Amgen Rhesymol yn ystod cyfnod datblygu r Cynllun hwn. Mae n golygu adeiladu ffordd ychwanegol o ansawdd uchel i r de o Gasnewydd, fel datrysiad ffordd ddeuol. Fel ffordd ddeuol ar aliniad y coridor hwn, gellid adeiladu r ffordd mewn camau trwy gyd-fynd â r rhwydwaith ffyrdd presennol yng Nghasnewydd. Gellid amseru r adeiladu felly wrth i gyllid ddod ar gael. Fodd bynnag, dim ond pan fydd y llwybr wedi i gwblhau y gwireddir y prif fuddion. Mae aliniad y Llwybr Coch ymhellach i r gogledd o gymharu ag aliniad y Llwybr Du, a gall yr effaith ar weithrediadau Porthladd Casnewydd fod yn llai. Fodd bynnag, byddai r aliniad yn pasio drwy safle tirlenwi Docks Way Cyngor Dinas Casnewydd ac yn effeithio n sylweddol arno. Mae r llwybr yn rhedeg gerllaw ardal breswyl Dyffryn. Hefyd, mae safleoedd datblygu cyfredol a safleoedd datblygu pellach posibl ar hyd y llwybr hwn. 8

Llwybr Du Llwybr Porffor Mesurau Ategol M4 CEM Y Llwybr Du a i fesurau ategol yw r strategaeth a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i fynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae hyn yn cynnwys adeiladu rhan newydd o draffordd tair lon yn dilyn Llwybr Du gwarchodedig TR111 yn bennaf, rhwng Cyffyrdd 23 a 29 (Magwyr i Gas-bach), yn cynnwys croesfan newydd dros Afon Wysg i r de o Gasnewydd. Mae r llwybr TR111 i r de o Gasnewydd wedi bod yn warchodedig at ddibenion cynllunio er mis Ebrill 2006. Datblygwyd aliniad y rhan newydd arfaethedig hon o draffordd yn dilyn ymgynghori, ymchwilio a dadansoddi helaeth. Ystyriwyd y Llwybr Porffor a i fesurau ategol fel Dewis Amgen Rhesymol yn ystod y gwaith o ddatblygu r Cynllun hwn. Mae n cynnwys traffordd 3 lôn ar hyd llwybr tebyg i hynny a gynigir ar gyfer y Llwybr Coch (ffordd ddeuol 2 lôn i ateb pob galw). Un gwahaniaeth rhwng y ddau lwybr yw bod aliniad mwy gogleddol i r llwybr porffor i groesi pen gogleddol Doc y Gogledd ym Mhorthladd Casnewydd. Mae aliniad y Llwybr Porffor yn golygu bod yr effaith ar Borthladd Casnewydd yn cael ei lleihau gymaint â phosibl. Fodd bynnag, gallai fod effaith sylweddol ar safle tirlenwi Docks Way Cyngor Dinas Casnewydd. Mae r llwybr yn rhedeg gerllaw ardal breswyl Dyffryn. Hefyd, mae safleoedd datblygu cyfredol a safleoedd datblygu pellach posibl ar hyd y llwybr hwn. Yn ychwanegol at y rhan newydd o draffordd a amlinellir yn y Cynllun, mae mesurau ategol ychwanegol a allai gynorthwyo i leddfu problemau n gysylltiedig â theithio ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd: Newid dosbarth yr M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach; Cyswllt yr M4 / M48 / B4245; Darparu seilwaith sy n ystyriol o feicwyr; a Darparu seilwaith sy n ystyriol o gerddwyr. Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4. Menter flaenorol gan Lywodraeth Cymru er mwyn ymchwilio a cheisio datrys problemau capasiti, diogelwch a chydnerthedd ar hyd coridor yr M4 yn Ne-ddwyrain Cymru. 9

M4 Newydd / Ffordd Lliniaru yr M4 NAPPAau Newid Dosbarth Opsiynau Llwybrau Nododd Adroddiad Astudiaeth Traffig Ardal De Cymru (SWATS) (1990) yr angen am welliant sylweddol i r M4 er mwyn mynd i r afael â mater capasiti cynyddol ar y draffordd, ac yn arbennig y rhan rhwng Magwyr a Chas-bach. O ganlyniad, cynhwyswyd cynnig ar gyfer ffordd liniaru i r de o Gasnewydd (a alwyd yn Ffordd Liniaru r M4, ac yn ddiweddarach, Prosiect M4 Newydd fel traffordd 3 lôn ddeuol newydd i r de o Gasnewydd) ym Mlaen raglen Cefnffyrdd Cymru ym 1991. Cyhoeddwyd Llwybr a Ffefrir ar gyfer Ffordd Liniaru r M4 ym 1995 ac fe i diwygiwyd ym 1997. Yn dilyn Adolygiad gan Weinidogion yn 2004, bu r Prosiect M4 Newydd yn destun ail archwiliad trylwyr, ac arweiniodd at hysbysiad TR111 yn cael ei gyhoeddi yn 2006 i ddiogelu coridor llwybr diwygiedig. Ardaloedd Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn. Caiff mapiau sŵn a chynlluniau cysylltiedig eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ganfod ble mae lefelau sŵn yn uchel a helpu creu cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn i fynd i r afael â r mater. Mae NAPPAau wedi eu disodli gan Ardaloedd Blaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn i Gymru a gyhoeddwyd yn 2013. Mae dogfennau eraill yn yn cyfeirio at NAPPAu ac o ganlyniad mae r tem NAPPAau yn cael ei ddefnyddio yn y ddogfen hon yn hytrach na Ardal Flaenoriaeth Byddai mesurau ategol arfaethedig y Cynllun yn arwain at newid dosbarth yr M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach fel cefnffordd, os caiff rhan newydd o draffordd ei hadeiladu i r de o Gasnewydd. Gallai newid dosbarth y draffordd bresennol i fod yn gefnffordd alluogi rheoli traffig, diogelwch a threfniadau mynediad diwygiedig. Mae Adroddiad Newid Dosbarth wedi i baratoi i amlinellu opsiynau lefel uchel posibl ar gyfer y draffordd bresennol, pan newidir ei dosbarth i fod yn gefnffordd, ar ôl i r rhan newydd o draffordd ddod yn weithredol. Mae Opsiynau Llwybrau yn ffurfio rhan o broses y Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd ac maent yn opsiynau aliniad manylach at ddibenion arfarnu, fel rhan o waith datblygu cynlluniau. 10

Strategaeth a Ffefrir Yr Adran Drafnidiaeth Yr M4 bresennol SEWTA SoDdGA Strategaeth, Cynllun neu Raglen SWATS TEMPRO TEN-T Strategaeth a ffefrir Llywodraeth Cymru yw pecyn o fesurau sy n ceisio cyflawni amcanion a nodwyd a mynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy n effeithio ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn Ne Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi r strategaeth y mae n ei ffafrio o fewn y Cynllun hwn ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Pan gaiff ei roi ar waith, bydd y Cynllun hwn yn arwain at adeiladu rhan newydd o draffordd i r de o Gasnewydd, ochr yn ochr â nifer o fesurau ategol sy n cynnwys mentrau n ymwneud â rheoli priffyrdd, cerdded a beicio. Mae hon yn adran o lywodraeth y DU. Mae n gweithio i gefnogi rhwydwaith trafnidiaeth y DU ac yn cynllunio ac yn buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau. Dylid nodi bod priffyrdd yn swyddogaeth ddatganoledig, y delir â hi n awtonomaidd gan Lywodraeth Cymru. Mae r term yr M4 bresennol neu r draffordd bresennol yn cael ei ddefnyddio i ddiffinio r M4 bresennol o amgylch Casnewydd, C23 i C29 (Magwyr i Gas-bach). Consortiwm o 10 awdurdod lleol yw Cynghrair Trafnidiaeth Deddwyrain Cymru sy n paratoi ac yn cydlynu polisïau, cynlluniau a rhaglenni yn ymwneud â thrafnidiaeth ranbarthol ar ran ei gynghorau cyfansoddol. Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Safleoedd a warchodir yn gyfreithiol ar gyfer bywyd gwyllt a chadwraeth daeareg. Mae strategaeth, cynllun neu raglen yn amlinellu amcanion bras, yn nodi mesurau i gyflawni r rhain ac yn cynnig pecyn nodweddiadol bras o ymyriadau i gyflawni r amcanion. Mae r lefel arfarnu briodol yn eang hefyd, ac ar lefel strategaeth, efallai mai dim ond arfarniad ansoddol y gellir ei gynnal. Mae r strategaeth a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i fynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd wedi i hamlinellu yn y Cynllun hwn. Astudiaeth Traffig Ardal De Cymru. Trip End Model Presentation Program. Meddalwedd a ddefnyddir at ddibenion cynllunio trafnidiaeth. Rhwydwaith Trafnidiaeth Draws-ewropeaidd. 11

TPOau WelTAG WHIASU Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth. Mae r Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru yn offeryn arfarnu trafnidiaeth sy n gymwys i brosiectau, cynlluniau a rhaglenni trafnidiaeth yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod prif fentrau trafnidiaeth sy n ceisio cyllid gan y llywodraeth yn cael eu harfarnu gyda r arweiniad hwn. Roedd Adroddiad Cam 1 WelTAG Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd (Lefel Strategaeth) yn argymell y prif elfennau sy n ffurfio rhan o r Cynllun drafft. Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru. 12

Crynodeb Gweithredol Mae r M4 yn hollbwysig i economi Cymru. Mae n rhan o r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) ac yn brif borth i mewn i Gymru, yn cludo nwyddau a phobl i gartrefi, diwydiant a chyflogaeth. Mae n darparu mynediad i borthladdoedd a meysydd awyr ac yn gwasanaethu diwydiant twristiaeth Cymru. Traffordd yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yw r rhan o ffordd sydd â r traffig trymaf yng Nghymru, yn ffurfio rhan o lwybrau strategol i Ganolbarth Lloegr a De Ddwyrain Lloegr. Fodd bynnag, nid yw n cyrraedd safonau dylunio traffyrdd modern. Mae tagfeydd yn digwydd yn aml ar y rhan hon o r M4, yn enwedig yn ystod adegau prysur ar ddiwrnodau r wythnos, ac mae hynny n arwain at amserau siwrneiau araf ac annibynadwy, traffig yn stopio a chychwyn, a digwyddiadau mynych sy n achosi oedi. Mae r problemau presennol yn ymwneud â chapasiti, cydnerthedd, diogelwch a materion datblygu cynaliadwy. Mae rhagolygon traffig yn dangos y bydd y problemau n gwaethygu yn y dyfodol. Yn y Cynllun hwn, amlinellwn strategaeth i fynd i r afael â r problemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Ers dechrau r 1990au, mae llawer o waith asesu ac ymgynghori wedi i wneud i ddatblygu datrysiad a ffefrir i r problemau ar y draffordd o amgylch Casnewydd. Yn y gorffennol, mae r rhain wedi methu symud ymlaen oherwydd diffyg cyllid. Mae mentrau diweddar wedi creu cyfleoedd ariannu posibl ar gyfer prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, gwnaeth Llywodraeth Cymru r penderfyniad i ailystyried datrysiadau i ddatrys problemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Rhwng Medi a Rhagfyr 2013 cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfnod o ymgynghori ar ei Chynllun drafft ac asesiadau amgylcheddol, iechyd a chydraddoldeb cysylltiedig. Gan ystyried yr ymatebion i r ymgynghoriad, penderfynwyd yn derfynol ar y Cynllun ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Mae n cynnwys: Rhan newydd o draffordd rhwng Magwyr a Chas-bach i r de o Gasnewydd; a Mesurau ategol: -- Newid dosbarth yr M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach i fod yn gefnffordd gallai hyn alluogi rheoli traffig, diogelwch a mesurau mynediad diwygiedig. -- Cyswllt rhwng yr M4, yr M48 a r B4245 byddai hyn yn lleddfu traffig wrth Gyffordd 23A ac ar y rhwydwaith ffyrdd lleol. Byddai hefyd yn darparu mynediad gwell at gyfleusterau parcio a theithio arfaethedig wrth Gyffordd Twnnel Hafren. 13

-- Hyrwyddo r defnydd o feicio - fel dewis amgen i r car ar gyfer siwrneiau o hyd at dair milltir, trwy ddarparu seilwaith newydd neu wella r seilwaith presennol; a -- Hyrwyddo r defnydd o gerdded - fel dewis amgen i r car ar gyfer siwrneiau o hyd at dair milltir, trwy ddarparu seilwaith newydd neu wella r seilwaith presennol. Mae r Cynllun yn ceisio gwella hygyrchedd ar gyfer pobl, nwyddau a gwasanaethau Cymreig i farchnadoedd rhyngwladaol trwy ddatrys capasiti a chydnerthedd ar y prif borth i Dde Cymru, sef corridor yr M4. Yn gyfochrog â r Cynllun, mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen â Metro Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Mae r Metro n ceisio gwella hygyrchedd i safleoedd cyflogaeth lleol, adnoddau addysgol a gwasanaethau o fewn y Rhanbarth ac mae n ategu r Cynllun ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Ystyriwyd nifer o Ddewisiadau Amgen Rhesymol fel rhan o r Cynllun drafft, tra bod awgrymiadau am fesuaru ategol eraill a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad wedi cael ystyriaeth hefyd fel rhan o benderfyniad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu r Cynllun hwn (i gael rhagor o wybodaeth, gweler Adran 3.4). Caiff proses benderfynu Llywodraeth Cymru ei llywio gan nifer o ddogfennau ategol a gyhoeddir ochr yn ochr â r Cynllun hwn, gan gynnwys y canlynol: Adroddiad Arfarniad Cam 1 WelTAG (Lefel Strategaeth) 1 ; Adroddiad Cyfranogiad yr Ymgynghoriad; Arfarniad Strategol o Ddewisiadau Amgen a ystyriwyd yn ystod yr Ymgynghoriad; Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Strategol; Adroddiad Amgylcheddol Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS); Asesiad o r Effaith ar Gydraddoldeb; Asesiad o r Effaith ar Iechyd; a Datganiad (ôl-fabwysiadu) AAS. Gellir gweld y dogfennau yma yn www.m4newport.com. Bydd darparu rhan newydd o draffordd i r de o Gasnewydd yn cynnig y cyfle i gynyddu hyd yr eithaf swyddogaeth llwybr yr M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach. Mae amcangyfrif lefel uchel o r gost ar gyfer y rhan newydd o draffordd o gwmpas 1bn. Byddai Peirianneg Gwerth yn ceisio darparu arbedion cost fel rhan o ddatblygu cynlluniau yn y dyfodol. 1 Mae r Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn cael ei gymhwyso i r holl strategaethau, cynlluniau a rhaglenni trafnidiaeth sy n cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru neu sy n mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad WelTAG (Lefel Strategaeth) ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (Mehefin 2013). 14

Bydd Llywodraeth Cymru n darparu cyswllt rhwng yr M48, y B4245, a r M4, a fydd yn arwain at fuddion i ddefnyddwyr y rhwydwaith ffyrdd lleol, yn rhoi mwy o gydnerthedd i r rhwydwaith, ac yn lliniaru traffig wrth Gyffordd 23A. Bydd seilwaith beicio a cherdded ychwanegol yn cael ei ddarparu hefyd, gyda r nod o wella hygyrchedd i r rheiny sy n mynd ar deithiau byrrach, ac i r rheiny nad oes ganddynt fynediad at gar. Bydd hyn hefyd yn helpu o ran buddiannau i iechyd a lles ein cymunedau. Bydd opsiynau ar gyfer cynlluniau pellach y gellid eu datblygu ar ôl newid dosbarth y draffordd bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach yn cael eu harchwilio fel rhan o waith datblygu cynlluniau. Gallai hyn gynnwys gwelliannau i r brif linell a chyffyrdd ar hyd yr M4 bresennol er mwyn cynyddu hygyrchedd yn lleol at leoliadau allweddol fel Caerllion. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn ceisio gwella mynediad trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Er mwyn llywio r broses benderfynu fel rhan o waith datblygu r Cynllun hwn, cynhaliwyd arfarniadau priodol ar lefel strategaeth er mwyn asesu elfennau gwahanol y strategaeth a ffefrir gennym. Mae r arfarniadau yn ystyried y Cynllun o ran ei allu i fodloni r amcanion ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac yn ei asesu yn erbyn meini prawf economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Mae hyn wedi dangos bod y Cynllun yn perfformio n gadarn iawn o ran cyflawni r amcanion ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac yn gadarn iawn yn erbyn meini prawf economaidd. Mae n perfformio n gadarn yn erbyn meini prawf cymdeithasol. Fodd bynnag, mae n bosibl y caiff effeithiau niweidiol ar rai meini prawf amgylcheddol (bioamrywiaeth, tirwedd a threflun yn arbennig), ond caiff effaith gadarnhaol ar sefyllfa bresennol ansawdd yr aer a llygredd sŵn. Yn ystod y gwaith o ddatblygu cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru n datblygu mesurau lliniaru priodol a fydd yn cyfyngu ar unrhyw effeithiau niweidiol posibl ar yr amgylchedd. Mae r rhain eisoes wedi cael ystyriaeth ar lefel uchel fel rhan o asesiadau cysylltiedig ein Cynllun. Bydd y mesurau lliniaru n cael eu datblygu ymhellach, gyda mewnbwn gan Grŵp Cyswllt Amgylcheddol yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill wrth i ni symud at ddyluniad lefel cynllun. Bydd manylion penodol y mesurau a amlinellir yn y Cynllun hwn yn cael eu datblygu fel rhan o ddyluniad y cynllun, a bydd yn cynnwys ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol fel Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith ar lefel strategaeth ac ymgynghoriad cyhoeddus cysylltiedig sydd eisoes wedi u cynnal fel rhan o waith datblygu r Cynllun hwn. Bydd arolygon amgylcheddol pellach yn cael ei cynnal i ddatblygu r cynllun a r cynigion ar gyfer ar gyfer lliniaru a monitro. Bydd hyn yn arwain at Asesiad Reholiadau Cynefinoedd ac Asesiad o r Effaith Amgylcheddol ar lefel cynllun a fydd yn cael eu cyheddi mewn Datganiad Amgylcheddol. Fel arfer, cyhoeddir y Datganiad Amgylcheddol ffurfiol ynghyd â Gorchymyn Llinell draft, Gorchymyn 15

Ffyrdd Ymyl drafft a Gorchymyn Prynu Gorfodol drafft. Mewn rhai achosion, ni fydd y Gorchymyn Ffyrdd Ymyl a Gorchymyn Prynu Gorfodol drafft yn cael eu cyhoeddi hyd nes bydd y Gorchymyn Llinell wedi bod trwy r broses statudol ac wedi ei wneud. Mae cyhoeddi r Gorchymyn Llinell drafft yn gyfatebol i gais am ganiatad cynllunio. Mae r gweithdrefnau wedi eu gosod allan yn Neddf Priffyrdd 1980. Mae gan awdurdodau lleol (ynghyd â sefydliadau penodol eraill ac unigolion) hawl statudol i wrthwynebu a byddai eu gwrthwynebiad fel arfer yn golygu ymchwiliad cyhoeddus lleol. Yn dilyn mabwysiadu r Cynllun hwn, gallai Llywodraeth Cymru addasu r Llwybr a Ffefrir sy n gwarchod coridor i r de o Gasnewydd at ddibenion cynllunio ar hyn o bryd. Addaswyd y llwybr hwn yn flaenorol yn 2006. Mae n debygol y cyhoeddir y Gorchmynion Statudol sy n hanfodol ar gyfer adeiladu r mesurau a amlinellir yn y Cynllun hwn yng ngwanwyn 2016. Yn ddibynnol ar ganlyniadau prosesau statudol, rhagwelir y byddai gwaith adeiladu n cychwyn yng ngwanwyn 2018 gyda r rhan newydd o draffordd arfaethedig yn agor yn 2021/2022. 16

1 Cefndir Mae r M4 yn Ne Cymru yn rhan o r Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T), sy n darparu cysylltiadau ledled Ewrop ar hyd ffyrdd, rheilffyrdd, ar y môr a thrwy deithiau awyr. Mae r M4 yn chwarae rhan strategol allweddol yn cysylltu De Cymru â gweddill Ewrop, yn darparu cysylltiadau ag Iwerddon drwy r porthladdoedd yn Ne Orllewin Cymru a Lloegr, a thir mawr Ewrop i r dwyrain. Mae n llwybr allweddol o r dwyrain i r gorllewin a r prif borth i mewn i Dde Cymru, ac mae hefyd yn un o r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru. Mae r M4 yn hollbwysig i economi Cymru. Mae gan Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe strategaethau adfywio uchelgeisiol, ac mae Cyngor Sir Fynwy wrthi n datblygu ardaloedd o amgylch Cyffordd 23A o r M4. Mae gan Rhondda Cynon Taf byrth pwysig at y briffordd wrth Gyffyrdd 32 a 34. Gwasanaethir Pen-y-bont ar Ogwr gan Gyffyrdd 35 a 36 yr M4. Saif Castell-nedd Port Talbot ar ddwy ochr i r draffordd a chaiff fynediad pwysig o Gyffyrdd 38 i 43. Bydd tagfeydd ar yr M4 yn achosi amserau siwrneiau annibynadwy a lefelau gwasanaethau llai felly yn rhwystro datblygiad economaidd yn Ne Cymru. Yn wreiddiol, dyluniwyd yr M4 rhwng Cyffyrdd 28 a 24 fel Ffordd Osgoi Casnewydd gyda diwygiadau dylunio pellach yn y 1960au i gynnwys y twneli traffordd cyntaf i w hadeiladu yn y DU. Nid yw r M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach yn cyrraedd safonau dylunio traffyrdd modern. Mae r rhan hon o r M4 yn cynnwys nifer fawr o fannau lle mae lonydd yn lleihau a lonydd yn cynyddu, gan arwain at rai rhannau dwy lôn, llain galed ysbeidiol a chyffyrdd mynych. Mae tagfeydd yn digwydd yn aml, yn enwedig yn ystod adegau prysur ar ddiwrnodau r wythnos, ac mae hynny n arwain at amserau siwrneiau araf ac annibynadwy, traffig yn stopio a chychwyn, a digwyddiadau mynych sy n achosi oedi. Dyma pam y mae problemau gyda thagfeydd ac amserau siwrneiau annibynadwy wedi bod yn ffaith bywyd ers blynyddoedd lawer ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Nid yw r draffordd a r rhwydwaith priffyrdd yn y cylch yn ymdopi â newidiadau sydyn mewn galw neu weithrediad, o ganlyniad i ddamweiniau neu ddigwyddiadau tywydd eithafol, er enghraifft. Mae r problemau hyn yn waeth ar adegau teithio prysur ac maent wedi gwaethygu wrth i nifer y defnyddwyr ar y rhwydwaith gynyddu. Dangosir yr M4 bresennol o amgylch Casnewydd yn Ffigur 1. 17

Ffigur 1: Lleoliad Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd 18

2 Pam mae angen i ni wneud rhywbeth Mae r problemau presennol a geir ar yr M4 bresennol o amgylch Casnewydd yn gysylltiedig â chapasiti, cydnerthedd, diogelwch a materion yn ymwneud â datblygu cynaliadwy. 2.1 Capasiti Mae capasiti yn golygu r gallu i Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd ymdopi â thraffig. Mae Arup wedi datblygu model traffig 2 o r ardal, ar ran Llywodraeth Cymru, er mwyn dadansoddi capasiti. Mae dadansoddi n dangos bod llif y traffig yn 2013 yn ystod cyfnodau brig ar ddiwrnodau r wythnos wedi cyrraedd 100% o r capasiti 3. Pan fydd llif y traffig yn cyrraedd uwchlaw 80% o r capasiti, gall traffig ddisgwyl problemau gweithredol difrifol. Po fwyaf o dagfeydd fydd ar y ffordd, y mwyaf yw r risg y bydd digwyddiadau a damweiniau yn digwydd. Gall pobl deithio yn gynharach neu n hwyrach, gan arwain at draffig brig yn y bore neu r prynhawn yn digwydd dros gyfnodau hwy. Mae cyflymder traffig yn amrywio hefyd dros gyfnodau amser byr, gyda phatrwm anghyson o ddydd i ddydd. Golyga hyn fod amserau siwrneiau, yn enwedig i gymudwyr, busnesau a nwyddau yn annibynadwy. Ond er bod capasiti yn broblem nawr, disgwylir y bydd y sefyllfa yn gwaethygu ymhellach fyth. Fel y dangosir yn Ffigur 2, mae rhagolygon o faint y traffig yn y dyfodol yn dangos y bydd tagfeydd traffig yn ddifrifol ar y rhan fwyaf o r ffyrdd cyswllt erbyn 2022, ac erbyn 2037 bydd tagfeydd trwm iawn ar y draffordd o amgylch Casnewydd, gyda phob rhan o r ffordd rhwng Cyffordd 23A a Chyffordd 29 yn gweld llif traffig uwchlaw 100% o r capasiti yn ystod cyfnodau brig ar ddiwrnodau r wythnos 4. Ffigur 2: Llif Traffig yn ystod Cyfnodau Brig ar Ddiwrnodau r Wythnos a Welwyd ac a Ragwelir hyd at gapasiti 5 Rhan o r M4 2012 2022 2037 C28 C29 90% 105% 114% C27 C28 98% 106% 112% C26 C27 89% 100% 106% Twneli Brynglas 80% 91% 102% C25 C25A 74% 86% 101% C24 C25 77% 89% 106% C23A C24 62% 75% 92% C23 C23A 61% 71% 87% 2 Adroddiad Dilysu Model Lleol Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (2013) 3 Ffynhonnell: Dadansoddiadau Arup (2012) 4 Ffynhonnell: Dadansoddiadau Arup (2012), yn seiliedig ar y senario Gwneud Cyn Lleied â Phosibl, sy n golygu gwneud dim ymhellach na hynny sydd eisoes wedi i gynllunio neu i ymrwymo 5 Yn seiliedig ar werthoedd amser a chostau gweithredu cerbydau a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (Hydref 2012) a twf a gyhoeddwyd yn y Model Trafnidiaeth Cenedlaethol (2013) 19

Llif hyd at Amodau gweithredol gapasiti < 80% Yn gweithredu o fewn capasiti 80% to 100% Problemau gweithredol yn digwydd > 100% Problemau gweithredol difrifol 2.2 Cydnerthedd Mae cydnerthedd yn golygu gallu r rhwydwaith trafnidiaeth i ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys damweiniau, gwaith ar y ffordd a phethau eraill sy n achosi oedi. Mae materion yn ymwneud â chydnerthedd ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn cynnwys: Capasiti cyfyngedig sydd ar lwybrau amgen pan fydd angen dargyfeirio traffig oddi ar yr M4 o amgylch Casnewydd; Mae lleihad dros dro yng nghapasiti priffyrdd oherwydd digwyddiadau neu waith hanfodol ar y ffordd yn arwain at oedi sylweddol ac effeithiau niweidiol, yn enwedig ar ffyrdd lleol pan fyddant yn cael eu defnyddio fel llwybrau dargyfeirio; Bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw mawr i r M4 o fewn y 5-10 mlynedd nesaf, a gallai hynny achosi tarfu sylweddol. Mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw sylweddol (a all fod dros gyfnod amser hir) yn Nhwneli Brynglas er mwyn bodloni safonau diogelwch presennol; Mae diffyg gwybodaeth canfyddedig am y rhwydwaith ffyrdd i yrwyr sy n bwriadu defnyddio r M4 ond nad ydynt wedi ymuno â hi eto. Gallai hyn eu cynorthwyo i osgoi tagfeydd yn gynharach, yn enwedig yn ystod digwyddiadau ac oedi; Gall tywydd garw achosi tarfu ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Gwelir bod y broblem hon yn waeth o gymharu â thraffyrdd eraill y DU o ystyried y gwaethygir y broblem hon oherwydd y diffyg capasiti ar lwybrau amgen i r M4 o amgylch Casnewydd. 2.3 Diogelwch Mae materion yn ymwneud â diogelwch ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn cynnwys: Mae rhai rhannau yn cynnwys aliniadau (graddiannau a throadau) sydd islaw safonau cyfredol traffyrdd, ac nid oes llain galed mewn mannau. Yn ychwanegol at hyn, mae cyffyrdd mynych, sy n arwain at lawer o symudiadau igam-ogamu gyda cherbydau yn cyflymu, yn arafu ac yn newid lonydd dros bellteroedd cymharol fyr. Mae r symudiadau igam-ogamu hyn yn lleihau capasiti r ffordd, a gallant hefyd arwain at ddamweiniau; Y damweiniau mwyaf cyffredin ar yr M4 rhwng Cyffyrdd 23 a 29 yw siyntio o r tu ôl ar y ffyrdd dynesu tua r gorllewin a tua r dwyrain at dwneli Brynglas. Y rheswm pennaf am hyn yw traffig yn stopio a chychwn yn ystod adegau prysur sy n cael ei achosi gan y draffordd yn lleihau o dair lôn i ddwy lôn; a 20

Chyflwynwyd y System Amrywio Cyflymder (VSL) ym mis Mehefin 2011 rhwng Cyffyrdd 24 a 28, er mwyn gwella diogelwch a llif y traffig yn y tymor byr. Roedd llai o ddamweiniau yn 2012 a 2013 o u cymharu a blynyddoedd blaenorol. 2.4 Datblygu cynaliadwy Mae tagfeydd traffig yn effeithio n niweidiol ar yr amgylchedd, y gymuned a r economi leol o amgylch Casnewydd. Dywed y gymuned fusnes yn Ne Cymru bod tagfeydd ar yr M4, yn enwedig o amgylch Caerdydd a Chasnewydd, yn rhwystro twf economaidd. Lle mae tagfeydd traffig yn cynyddu, gall hynny effeithio ar gost trafnidiaeth i fusnesau, cymudwyr, defnyddwyr a pherfformiad economaidd. Gall mwy o dagfeydd arwain hefyd at amserau siwrneiau hwy i gymudwyr, gan leihau r ardal effeithiol teithio i r gwaith. O ran yr amgylchedd, mae awdurdodau lleol yn y DU yn gweithio tuag at fodloni r amcanion cenedlaethol o ran ansawdd yr aer. Os daw awdurdod lleol o hyd i unrhyw fannau lle nad yw n debygol y cyflawnir yr amcanion, mae n rhaid iddo ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer yno. O saith o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer (ARhAAau) yng Nghasnewydd, mae pedair ohonynt yn gysylltiedig â r M4. Byddai r cynnydd a ragwelir yng nghyfaint y traffig ar hyd yr M4 yn cyfrannu nid yn unig at ansawdd aer gwael, ond at lygredd sŵn yn ogystal, gan amharu ar amwynder cymunedau preswyl cyfagos. Gan gymryd na fydd unrhyw welliannau i dechnoleg allyriadau cerbydau, byddai llifoedd traffig cynyddol a cherbydau yn stopio a chychwyn yn achosi mwy o allyriadau cerbydau ar hyd y llwybrau hyn. Mae n bwysig nodi y gall tagfeydd traffig sy n stopio a chychwyn greu allyriadau CO 2 uwch na thraffig sy n llifo n rhwydd. Ochr yn ochr â r draffordd yng Nghasnewydd, ceir Ardaloedd Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu ynghylch Sŵn (NAPPAau), sy n ymchwilio i ganfod ble mae lefelau sŵn yn uchel ac yn helpu creu cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn i fynd i r afael â r mater. Mae r ARhAAau yng Nghasnewydd ar gael i w gweld ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd 6, tra bod Mapiau Sŵn Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cael eu defnyddio i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu ynghylch sŵn ar gyfer Cymru, sydd i w gyhoeddi n fuan. Mae r rhain ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd 7. Mae materion eraill yn ymwneud â datblygu cynaliadwy ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn cynnwys: Ar gyfer nifer sylweddol o siwrneiau, yn arbennig siwrneiau rhyng-drefol a siwrneiau pellter hir, nid oes unrhyw ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus cyfleus yn lle r car; Mae r draffordd yn darparu ffordd i symud nwyddau; 6 Gweler http://www.newport.gov.uk/_dc/index.cfm?fuseaction=environmentalhealth. homepage&contentid=-cont446709 7 Gweler http://data.wales.gov.uk/apps/noise/ 21

Mewn ardaloedd gerllaw r M4, mae lefelau sŵn yn codi uwchlaw 55 desibel yn gyffredinol. Golyga hyn fod rhai cymunedau o amgylch Casnewydd yn gorfod dioddef lefelau sŵn cymedrol sy n gyfwerth o leiaf â lefel sgwrs arferol, neu gerddoriaeth gefndir. Mewn ardaloedd sydd gerllaw r draffordd bresennol, mae lefelau sŵn yn codi uwchlaw 70 desibel yn gyffredinol. Golyga hyn fod cymunedau gerllaw r draffordd bresennol o amgylch Casnewydd yn gorfod dioddef lefelau sŵn uchel sy n gyfwerth o leiaf â sŵn sugnydd llwch 8 ; Cydnabyddir bod allyriadau traffig yn cyfrannu at lygredd aer yn ardal Casnewydd; ac Mae canfyddiad bod tagfeydd traffig yn rhwystro datblygiad economaidd yn Ne Ddwyrain Cymru 9. 2.5 Problemau, amcanion a nodau Bu r problemau hyn ac amcanion a nodau r Cynllun yn destun trafodaeth yn ystod cyfnodau cynnar y broses ymgysylltu â r cyhoedd a rhanddeiliaid. Nodir 17 o broblemau, sy n cynnwys materion yn ymwneud â chapasiti, cydnerthedd y rhwydwaith, diogelwch a datblygu cynaliadwy. Nodir 15 o nodau, ac mae pob un ohonynt yn anelu at fynd i r afael ag un neu fwy o r problemau. Problemau ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd Mae r 17 o broblemau yn gysylltiedig â thrafnidiaeth wedi u rhestru isod. Capasiti 1. Mae mwy o draffig yn defnyddio r M4 o amgylch Casnewydd na r hyn y dyluniwyd y ffordd i ymdopi ag ef, ac mae hynny n arwain at dagfeydd rheolaidd ar adegau prysur dros gyfnodau hir. 2. Mae r M4 o amgylch Casnewydd yn cael ei defnyddio fel cysylltiad cyfleus ar draws y dref i draffig lleol, am fod capasiti annigonol ar ffyrdd lleol. 3. Nid yw cerbydau nwyddau trwm yn gweithredu n effeithlon ar y draffordd o amgylch Casnewydd. 4. Mae capasiti annigonol drwy rai o r cyffyrdd (e.e. mae capasiti 3 lôn yn lleihau i gapasiti 2 lôn). 5. Mae twneli 2 lôn Brynglas yn rhwystr mawr i gapasiti. 6. Ni all yr M4 ymdopi â thraffig cynyddol o ddatblygiadau newydd Cydnerthedd 7. Anawsterau yn cynnal llifoedd traffig digonol ar yr M4 a llwybrau priffyrdd amgen ar adegau pan fo tarfu dros dro; nid yw llwybrau amgen yn gallu ymdopi â thraffig yr M4. 8 Mae Deddf Iawndal Tir 1973 a Rheoliadau Inswleiddio rhag Sŵn 1975 (diwygiwyd ym 1988) a 1996 yn caniatáu ar gyfer grantiau tuag at gost inswleiddio rhag sŵn mewn eiddo sy n gorfod dioddef sŵn o ffyrdd newydd neu ffyrdd wedi u huwchraddio sy n arwain at lefelau sŵn gormodol sy n uwch na r trothwyau datganedig 9 Llywodraeth Cymru, Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM), Adroddiad Cyfranogiad, Arup, (Awst 2013) 22

8. Mae r system trafnidiaeth ffordd a rheilffordd yng Nghoridor yr M4 a r cylch dan risg gynyddol o darfu yn sgil digwyddiadau tywydd garw. 9. Pan fo problemau ar yr M4, mae tarfu a thagfeydd difrifol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol a rhanbarthol. 10. Mae angen gwaith cynnal a chadw mawr ar yr M4 o fewn y 5-10 mlynedd nesaf; bydd hyn yn golygu cyfyngiadau hir ar lonydd a chyflymder, a bydd hynny n cynyddu problemau tagfeydd. 11. Nid oes digon o wybodaeth ymlaen llaw i lywio penderfyniadau teithio pan fydd problem ar yr M4. Diogelwch 12. Mae cyfraddau presennol damweiniau ffordd ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn uwch na r cyfartaledd ar gyfer traffyrdd y DU 10. 13. Mae r M4 bresennol o safon annigonol o gymharu â safonau dylunio modern. 14. Mae ymddygiad gyrru rhai pobl yn arwain at fwy o ddamweiniau (e.e. goryrru, meddiannu lonydd, gyrwyr heb drwydded). Datblygu Cynaliadwy 15. Mae diffyg dewisiadau trafnidiaeth integredig gynaliadwy digonol ar gyfer defnyddwyr ffordd presennol. 16. Mae sŵn traffig o r draffordd ac ansawdd yr aer yn broblem i drigolion lleol mewn rhai ardaloedd. 17. Mae r rhwydwaith trafnidiaeth bresennol yn rhwystr rhag twf economaidd, ac mae n effeithio n niweidiol ar yr economi bresennol. Amcanion ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd Dyma amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd: Ei gwneud hi n haws ac yn fwy diogel i bobl gyrraedd eu cartrefi, mannau gweithio a gwasanaethau drwy gerdded, beicio, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar y ffordd. Cyflawni rhwydwaith trafnidiaeth fwy effeithlon a chynaliadwy sy n cefnogi ac yn annog ffyniant hirdymor yn y rhanbarth, ledled Cymru, a galluogi cyrraedd marchnadoedd rhyngwladol. Creu effeithiau cadarnhaol yn gyffredinol ar bobl a r amgylchedd, gan wneud cyfraniad cadarnhaol at nodau cyffredinol Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwneud Cymru n fwy gwydn i allu gwrthsefyll effeithiau r newid yn yr hinsawdd. 10 Cytunwyd yr amcan hwn gyda mewnbwn gan y gymuned yn 2012. Cyflwynwyd y System Amrywio Cyflymder (VSL) ym mis Mehefin 2011 rhwng Cyffyrdd 24 a 28, er mwyn gwella diogelwch a llif y traffig yn y tymor byr. Mae blwyddyn gyntaf gweithredu r system wedi dangos gostyngiad yn nifer y damweiniau. 23

Nod y Cynllun hwn yw helpu cyflawni neu hwyluso r amcanion hyn fel rhan o strategaeth trafnidiaeth ehangach ar gyfer De Ddwyrain Cymru, fel yr amlinellir yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol â Blaenoriaeth 11. Nodau ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd Mae Llywodraeth Cymru, gyda ch cymorth chi, wedi nodi 15 o nodau ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Amcan y nodau hyn yw mynd i r afael â r problemau n gysylltiedig â thrafnidiaeth a restrir yn adran 3.2. Er mwyn sicrhau eglurder, cyfeirir at y nodau fel Amcanion Cynllunio Trafnidiaeth (TPOau) yn yr Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) (gweler yr Eirfa). Mae r 15 o nodau (a restrir isod) wedi darparu fframwaith ar gyfer arfarnu perfformiad cymharol opsiynau r Cynllun drafft ar lefel strategol, fel rhan o r gwaith datblygu sydd wedi arwain at fabwysiadu r Cynllun hwn. 1. Teithio mwy diogel, haws a mwy dibynadwy o r dwyrain i r gorllewin yn Ne Cymru. 2. Gwell cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru ac i Loegr, Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop ar bob dull ar y rhwydwaith trafnidiaeth ryngwladol. 3. Defnydd mwy effeithiol ac integredig o ddewisiadau amgen i r M4, gan gynnwys rhannau eraill o r rhwydwaith trafnidiaeth a dulliau teithio eraill ar gyfer siwrneiau lleol a strategol o amgylch Casnewydd. 4. Gwneud y defnydd gorau posibl o r M4 bresennol, y rhwydwaith ffyrdd lleol a rhwydweithiau trafnidiaeth eraill. 5. Amserau siwrneiau mwy dibynadwy ar hyd Coridor yr M4. 6. Cynyddu lefel y dewis i bawb sy n teithio ar hyd y Coridor trafnidiaeth gan ddefnyddio pob dull rhwng Magwyr a Chas-bach, yn gymesur â r galw am ddewisiadau amgen. 7. Gwell diogelwch ar Goridor yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach. 8. Gwell ansawdd aer mewn ardaloedd nesaf at yr M4 o amgylch Casnewydd. 9. Llai o aflonyddu ar bobl yn sgil lefelau sŵn uchel, o r holl ddulliau teithio a thraffig ar Goridor yr M4. 10. Llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul cilometrau cerbyd a/neu bobl. 11. Profiad teithio gwell i mewn i Dde Cymru ar hyd Coridor yr M4. 12. M4 sy n ddeniadol ar gyfer siwrneiau strategol sy n annog peidio â i defnyddio gan draffig lleol. 13. Gwell rheolaeth ar draffig yng Nghasnewydd a r cylch ar Goridor yr M4. 14. Mynediad haws at wasanaethau allweddol lleol a chanolfannau preswyl a masnachol. 15. Newid diwylliannol mewn ymddygiad teithio tuag at ddewisiadau mwy cynaliadwy. 11 Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (2010) a Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol â Blaenoriaeth (2011) Llywodraeth Cymru. 24

3 Sut y penderfynom ar y Cynllun hwn Er dechrau r 1990au, mae llawer o waith asesu ac ymgynghori wedi i wneud i ddatblygu datrysiad a ffefrir i r problemau ar y draffordd o amgylch Casnewydd. Rhoddir crynodeb o waith blaenorol isod ac fe i dangosir ar linell amser yn Ffigur 3. Am flynyddoedd lawer, codwyd pryderon ynghylch y potensial am oedi ar y draffordd a r rhwydwaith cefnffyrdd yn Ne Cymru. Ym mis Mawrth 1989, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru bryd hynny gomisiynu Astudiaeth Traffig Ardal De Cymru (SWATS) i adolygu patrymau traffig dros ran o r rhwydwaith cefnffyrdd yn Ne Cymru er mwyn nodi ardaloedd problem a chynnig atebion posibl. Nododd Adroddiad SWATS (1990) yr angen am welliant sylweddol i r M4 er mwyn mynd i r afael â mater capasiti cynyddol ar y draffordd, ac yn arbennig y rhan rhwng Magwyr a Chas-bach. O ganlyniad, datblygwyd cynnig ar gyfer ffordd liniaru i r de o Gasnewydd, a alwyd yn Ffordd Liniaru r M4, ac yn ddiweddarach, Prosiect M4 Newydd fel traffordd 3-lôn ddeuol newydd i r de o Gasnewydd. Cynhwyswyd hyn ym Mlaen raglen Cefnffyrdd Cymru ym 1991. Cyhoeddwyd Llwybr a Ffefrir ar gyfer Ffordd Liniaru r M4 ym 1995 wedyn, ac fe i diwygiwyd ym 1997. Yn 2004, fe wnaeth y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth bryd hynny adrodd ar ganlyniad ei adolygiad o raglenni trafnidiaeth, a gynhaliwyd i sicrhau cydweddu strategol gyda: Cymru: Gwlad Well a Chynllun Gofodol Cymru. Un o gasgliadau r adolygiad oedd bod angen capasiti ychwanegol ar draffordd yr M4 o hyd yn Ne Ddwyrain Cymru, er mwyn lleihau tagfeydd, gwella cydnerthedd a chael gwared ar rwystr rhag mwy o ffyniant ar hyd y coridor cyfan hyd at Abertawe a Gorllewin Cymru. Yn ychwanegol at ledu r draffordd i r gogledd o Gaerdydd, cyhoeddodd y Gweinidog gynigion i ddatblygu M4 Newydd i r de o Gasnewydd rhwng Magwyr a Chas-bach. Yn dilyn Adolygiad gan Weinidogion yn 2004, bu r Prosiect M4 Newydd yn destun ail archwiliad trylwyr er mwyn sicrhau ei fod yn cydweddu â pholisïau cyfredol ac i ystyried newidiadau ffisegol a deddfwriaethol. Ymgymerwyd â thri gweithgaredd allweddol: 1. Ail archwiliad o goridorau llwybrau gan ystyried yn benodol goblygiadau a chanlyniadau newidiadau deddfwriaethol a datblygiadau ffisegol yn ardal astudiaeth wreiddiol y prosiect; 2. Adolygiad cynhwysfawr o Lwybr a Ffefrir Ffordd Liniaru r M4 a gyhoeddwyd yn flaenorol; ac 3. Adolygiad o r Strategaeth Cyffyrdd. 25

Fe wnaeth casgliad yr astudiaethau hyn gadarnhau r llwybr i r de o Gasnewydd fel yr ateb gorau i fynd i r afael â phroblemau tagfeydd ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Yn dilyn yr Adolygiad o r Llwybr a Ffefrir a r Strategaeth Cyffyrdd, cyhoeddwyd hysbysiad TR111 12 (Ebrill 2006) i ddiogelu coridor llwybr diwygiedig. Cynhaliwyd cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus yn Ebrill a Mai 2006 i esbonio r newidiadau i r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill â buddiant mewn trafnidiaeth yn Ne Cymru. 3.1 Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM) Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2009, gan y Dirprwy Brif Weinidog bryd hynny, Ieuan Wyn Jones, fod yr M4 Newydd yn anfforddiadwy. Roedd y datganiad, fodd bynnag, yn derbyn yr angen i fynd i r afael ar fyrder â materion diogelwch a chapasiti ar y llwybr presennol trwy gyflwyno ystod o fesurau. Cychwynnwyd Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM) 13 gan Lywodraeth Cymru felly, a i nod oedd creu pecyn o fesurau i ymdrin â materion cydnerthedd, diogelwch a dibynadwyedd ar goridor yr M4 rhwng Magwyr a Chasbach. O dan y Rhaglen M4 CEM, archwiliwyd rhestr hir o atebion posibl. Nodwyd pecynnau yn cyfuno trafnidiaeth gyhoeddus, priffyrdd ac atebion teithio eraill i w harfarnu. Roedd y rhain yn cynnwys lledu r M4 rhwng Cyffyrdd 24 a 29 yn ogystal â gwelliant i r rhwydwaith ffyrdd presennol i r de o ganol dinas Casnewydd, a ffordd ddeuol newydd sy n ateb pob galw i r de o Gasnewydd. Fel rhan o Raglen M4 CEM, lansiwyd proses ymgysylltu gynhwysfawr ym mis Medi 2010 a arweiniodd at gynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Mawrth a Gorffennaf 2012. Yn ystod y broses ymgysylltu, aeth Llywodraeth Cymru a i thîm prosiectau ati i ymgysylltu ag arbenigwyr mewnol ac allanol a rhanddeiliaid arbenigol. Roedd y broses hon yn cwmpasu ystod amrywiol o farnau a buddiannau n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn Ne Cymru, yn ogystal â phobl y mae n debygol fod ganddynt ddiddordeb mewn unrhyw fesurau trafnidiaeth, ac y mae n debygol yr effeithir arnynt gan unrhyw fesurau trafnidiaeth y mae n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru n eu mabwysiadu a u gweithredu. Arweiniodd yr ymgynghoriad at gefnogaeth gyhoeddus i ddarparu ffordd ychwanegol o ansawdd uchel i r de o Gasnewydd 14, gan ategu hynny â mesurau ychwanegol i fynd i r afael â phroblemau n gysylltiedig â theithio ar Goridor yr M4. Cyfeiriwyd at y rhain fel mesurau cyffredin. Roeddent yn cynnwys cymysgedd o welliannau i r rhwydwaith, rheoli r rhwydwaith, rheoli r galw, moddau amgen a dewisiadau cynaliadwy doethach. Daeth Adroddiad Arfarniad Cam 1 WelTAG (Lefel Strategaeth) M4 CEM 15 i r casgliad fod y mesurau canlynol yn teilyngu eu hystyried ymhellach: 12 Pan fydd Llwybr a Ffefrir yn cael ei gyhoeddi, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno hysbysiad statudol (TR111) i awdurdodau cynllunio lleol yn mynnu diogelu r llinell rhag unrhyw ddatblygu. Caiff hyn ei ddeddfu o dan Erthygl 19 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 13 Mae mwy o fanylion am y Rhaglen M4 CEM a i datblygiad ar gael yn www.m4cem.com 14 Llywodraeth Cymru, Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM), Adroddiad Cyfranogiad, Arup, Awst 2013 15 Llywodraeth Cymru, Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM), Adroddiad Arfarniad Cam 1 WelTAG (Lefel Strategaeth), Arup, (Mawrth 2013) 26