Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Similar documents
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Hawliau Plant yng Nghymru

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

NatWest Ein Polisi Iaith

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru.

Talu costau tai yng Nghymru

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Gwybodaeth am Hafan Cymru

TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Swim Wales Long Course Championships 2018

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Addysg Oxfam

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Asesiad Lles Wrecsam

E-fwletin, Mawrth 2016

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Anghymhwyster i Bledio Crynodeb

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Y newid sydd ei angen Cymru rymus a democrataidd

POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19

Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

The Life of Freshwater Mussels

Transcription:

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn elwa o ddeddfiadau r UE sydd wedi rhoi hawliau mewn meysydd megis ymfudiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, mynediad i hawliau cymdeithasol ac economaidd a theuluoedd yn chwalu 2. Mae'r UE yn darparu cyllid sy'n rhoi budd i blant yn y DU, yn enwedig y rheini o gymunedau difreintiedig. Er gwaethaf hyn, mae trafodaeth ar effaith Brexit ar hawliau a lles y genhedlaeth bresennol o blant a chenedlaethau r dyfodol wedi bod bron yn absennol o r prif ddadleuon ar dynnu'n allan o r UE. Bu llai fyth o ystyriaeth ar ei oblygiadau i blant sy'n byw yng Nghymru a'r gwledydd datganoledig eraill. Gan dynnu ar ymchwil rhagarweiniol, datganiadau eiriolaeth ac ymgynghori ymhlith rhanddeiliaid 3, mae'r papur gwaith hwn yn canolbwyntio ar bedwar mater allweddol i blant yng Nghymru sy'n deillio o dynnu allan o r UE. Mae'n adnabod cyfleoedd i ddiogelu hawliau plant trwy gyfraith a pholisi yng Nghymru. MATERION ALLWEDDOL (nid mewn unrhyw drefn blaenoriaeth) [1] Erydiad Gwarantu Hawliau Sylfaenol Mae Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn rhoi hawliau i blant. Mae Llywodraeth y DU yn honni na fydd tynnu allan o r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar hawliau yn y DU gan fod y DU yn rhan o gytuniadau hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Fodd bynnag, ar lefel y DU, nid oes yna unrhyw rwymedigaeth statudol ar gyrff cyhoeddus 1 Cyfrifiad DU 2011 2 Am fanylion llawn am yr offerynnau cyfreithiol a pholisi a ddeddfwyd ar lefel yr UE mewn perthynas â phlant hyd at 2016, gweler: http://ec.europa.eu/justice/fundamental-rights/files/acquis_rights_of_child.pdf 3 Gweler y rhan olaf am wybodaeth bellach am ymchwil ac eiriolaeth ledled y DU. 1

na Llywodraeth y DU, i barchu na hyrwyddo hawliau plant. Mae Llywodraeth y DU wedi dangos rhywfaint o wrthwynebiad tuag at hawliau dynol. Mae hyn yn codi pryder gwirioneddol nad yw hawliau plant yn debygol o gael eu blaenoriaethu pan fydd y DU yn gadael yr UE. Bydd tynnu allan o'r Siarter yn dileu piler o ddiogelu hawliau plant yng Nghymru, sydd, yn y cyd-destun ehangach o elyniaeth tuag at hawliau dynol - gan gynnwys gelyniaeth agored o rai rhannau o'r cyfryngau - yn gorfod codi pryderon difrifol ynghylch sut y bydd hawliau sylfaenol plant yn cael eu gweld yn y DU ar ôl Brexit. Ochr yn ochr â phryder cyffredinol ynghylch hawliau plant yng Nghymru, mae yna bryder hefyd ynghylch bylchau mewn amddiffyniad i grwpiau sy n arbennig o agored i niwed. Mae yna ddau bryder penodol yn codi i blant yng Nghymru: Methiant i ddarparu amddiffyniad cynhwysfawr i blant sy n cael eu masnachu, yn enwedig y methiant i weithredu gwarcheidwaeth 4. Mae dileu'r gyfraith UE sy'n galluogi plant ar eu pen eu hunain sy n ceisio lloches mewn aelod-wladwriaeth arall i gael eu haduno gyda'u teulu yn y DU yn gwneud y posibilrwydd y bydd rhai plant yn cael eu gorfodi i ddwylo masnachwyr yn fwy tebygol 5. Yng Nghymru, mae'r fframwaith cyfreithiol ar hawliau plant wedi datblygu i bwynt o soffistigedigrwydd na welir yng ngweddill y DU. Mae r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i roi sylw priodol i hawliau plant o dan y CCUHP wrth arfer unrhyw o'u swyddogaethau. Mae Cynllun Hawliau Plant a r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i gwrdd â r ddyletswydd hon 6. Byddai'r argymhellion canlynol, petaent yn cael eu mabwysiadu, yn helpu i amddiffyn hawliau plant yng Nghymru yn ystod unrhyw gyfnod trosiannol neu ar ôl Brexit: Dylai Gweinidogion Cymru, yn arbennig y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gydlynu ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit, hyrwyddo hawliau plant ym mhob trafodaeth am drefniadau trosiannol ar gyfer Cymru ar ôl Brexit. Wrth arfer eu swyddogaethau polisi, dylai Gweinidogion Cymru ystyried y Siarter a'r modd mae n cael ei dehongli a'i chymhwyso gan sefydliadau'r UE, gan gynnwys unrhyw arweiniad a roddir ar weithredu hawliau plant gan Lys Cyfiawnder Ewrop. 4 Yn unol â phara. 14 (2), Cyfarwyddeb 2011/36, cyfarwyddeb yr UE ar frwydro yn erbyn masnachu mewn pobl, sydd ar gael o: https://ec.europa.eu/antitrafficking/sites/antitrafficking/files/directive_thb_l_101_15_april_2011_1.pdf 5 Rheoliad Dulyn III; ar gael o: http://eur-lex.europa.eu/legal-content/en/txt/pdf/?uri=celex:32013r0604&from=en 6 Simon Hoffman, 2015, Gwerthusiad o Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant Llywodraeth Cymru, sydd ar gael o: https://cronfa.swan.ac.uk/record/cronfa30963 2

Dylai Llywodraeth Cymru wrthod y Bil Ymadael â'r UE fel mae wedi i ddrafftio a dylai gefnogi unrhyw ddiwygiad sy'n amddiffyn hawliau plant, gan gynnwys ymgorffori'r Siarter. Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i gyfleoedd i amddiffyn hawliau plant yng Nghymru ymhellach, gan gynnwys Bil Hawliau Dynol (Cymru) i roi sylw dyledus i rwymedigaethau hawliau dynol y DU. Dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu cyflwyno cynllun gwarcheidiaeth ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy n ceisio lloches 7. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ei chynllunio ar gyfer cefnogaeth i geiswyr lloches yn cynnwys mecanweithiau i ganfod, achub a chefnogi unrhyw blant sydd wedi cael eu masnachu. [2] Tanseilio Cynhwysiant Cymdeithasol Roedd mewnfudo yn fater cynhennus a chwerw yn ystod y cyfnod cyn y refferendwm ar 23 ain Mehefin 2016. Mae mewnfudo yn parhau ar agenda Brexit, gyda r sylw yn canolbwyntio ar sut i gyfyngu ar fewnfudo tra'n diwallu anghenion yr economi, heb boeni llawer am y tensiynau cymunedol sylfaenol a gafodd eu hamlygu yn ystod ymgyrch y refferendwm. Siaradodd cynrychiolwyr o r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, sydd wedi i leoli yn Abertawe, mewn cynhadledd ar Effaith Brexit ar Blant yng Nghymru ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2017. Adroddasant gynnydd mewn ymddygiad sarhaus a bygythiol tuag at ymfudwyr a lleiafrifoedd ethnig eraill, gan gynnwys plant, yn syth wedi r refferendwm Brexit. Cadarnhawyd hyn gan dystiolaeth anecdotaidd gan yr heddlu 8. Mae Brexit yn debygol o fod yn broses hir, ac mae'n annhebygol y bydd mewnfudo yn colli ei amlygrwydd yn y trafodaethau Brexit, na ei botensial i danseilio cynhwysiant cymunedol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys nod llesiant o 'Gymru o gymunedau cydlynol'. Mae'n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i osod a chwrdd ag amcanion sy'n gwneud y mwyaf o'u cyfraniad at y nod llesiant hwn. Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i gael budd o gymunedau cydlynol, ac yn rhinwedd CCUHP, mae ganddynt hawl i fyw yn eu cymunedau yn rhydd rhag rhagfarn a gwahaniaethu niweidiol. Er mwyn hyrwyddo hawl plant yng Nghymru i fyw mewn cymunedau cydlynol mewn Cymru ar ôl- Brexit, dylai Llywodraeth Cymru: Wneud ymrwymiad cyhoeddus i gefnogi cydnabod a thrin mewnfudwyr a ffoaduriaid, gan gynnwys plant, fel unigolion sydd â hawliau cyfartal yng Nghymru. Roi arweiniad wrth dynnu sylw at fanteision mewnfudo i economi Cymru. 7 er enghraifft, gweler ymateb Plant yng Nghymru i ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru (2017) 8 Gwybodaeth a ddarparwyd i Simon Hoffman gan uwch swyddog heddlu, Heddlu De Cymru, ym mis Rhagfyr 2016. 3

Adolygu a diwygio'r Strategaeth Troseddau Casineb bresennol a gweithredu cynllun gweithredu cadarn wedi i ddatblygu trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol Diwygio'r cwricwlwm i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu haddysgu'n briodol am faterion a oedd yn rhwygol yn ystod y refferendwm Brexit, gan gynnwys mewnfudo. Rhoi arweiniad wrth fynd i'r afael â naratif gwrth-fudwyr a gwrth-ffoaduriaid yn y maes cyhoeddus. [3] Colli Cyllid yr UE i gefnogi Cymunedau Difreintiedig Mae pedwar miliwn o blant ledled y DU yn byw mewn tlodi ac mae cyfraddau tlodi plant yn cynyddu. Yng Nghymru mae r lefel uchaf o dlodi plant o blith holl wledydd y DU, ac mae n uwch na chyfartaledd y DU. Mae 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r UE yn gwneud llawer i gefnogi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anfantais a thlodi plant trwy Gronfeydd Strwythurol, gan gynnwys Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae ESF yn darparu cymorth ariannol i brosiectau sy'n gweithio gyda chymunedau difreintiedig i wella cyflogadwyedd, i gefnogi addysg a hyfforddiant, ac i fynd i'r afael ag allgau cymdeithasol. Mae ESF hefyd wedi cael ei dargedu'n uniongyrchol at helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau, i ddod o hyd i swyddi, ac i ddarparu gofal plant er mwyn i rieni fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant cyflogaeth. Yn y DU, Cymru yw'r buddiolwr mwyaf o Gronfeydd Strwythurol yr UE, mae wedi derbyn 4 biliwn ers 2000. Rhwng 2014-2020, bydd Cymru'n elwa o fuddsoddiad 9 pellach o dros 2 biliwn. Erbyn mis Ionawr 2017, roedd Llywodraeth Cymru wedi adnabod 192 miliwn o gronfeydd yr UE i gefnogi prosiectau sy'n mynd i'r afael â thlodi a gwella cyflogaeth ieuenctid. Er bod Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd rhywfaint o gymorth parhaus yn cael ei ddarparu ar ôl Brexit drwy r Gronfa Ffyniant a Rennir, nid yw r manylion wedi cael eu cytuno. Mae yna ansicrwydd parhaus ynghylch dyfodol prosiectau a gefnogir gan ESF. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw ymrwymiad i brosiectau sy'n dechrau ar ôl Datganiad yr Hydref 2016, gan ddweud y bydd prosiectau n cael eu cefnogi dim ond os ydynt yn "werth da am arian" ac "yn unol â blaenoriaethau strategol domestig". Nid oes sicrwydd y bydd blaenoriaethau Llywodraeth y DU yn adlewyrchu rhai Llywodraeth Cymru ar dlodi plant neu wella ffyniant cymunedol. Yr arwyddion cynnar o'r sector Cyrff Anllywodraethol (NGOs) yng Nghymru yw bod yr ansicrwydd hwn eisoes yn cael effaith niweidiol o ran cynllunio at y dyfodol. Mae sefydliadau sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant sy'n agored i niwed yn ansicr ynghylch cyllid parhaus i gefnogi eu gwaith wrth symud ymlaen. 9 Mae gwybodaeth am gronfeydd strwythurol yr UE ar gael yma: http://gov.wales/funding/eu-funds/2014-2020/?lang=en 4

Byddai'r argymhellion canlynol, petaent yn cael eu mabwysiadu, yn helpu i sicrhau nad yw ansicrwydd ariannu o ganlyniad i Brexit yn cael effaith andwyol ar blant yng Nghymru: Dylai Gweinidogion Cymru wasgu ar Lywodraeth y DU i roi gwarant y bydd arian yn cael ei ddyrannu i Gymru sy'n gyfartal â, neu n fwy na r cymorth ESF presennol yn dilyn tynnu allan o r UE. Dylai Llywodraeth Cymru warantu y bydd yr holl arian a ddyrennir o'r Gronfa Ffyniant a Rennir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r prosiectau sy'n cyflawni canlyniadau positif i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy n cael eu cefnogi gan ESF ar hyn o bryd. Os oes yna unrhyw doriad mewn cyllid gan Lywodraeth y DU o dan y Gronfa Ffyniant a Rennir, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu parhad prosiectau a gwasanaethau sy'n cefnogi plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal CRIA o unrhyw benderfyniad a fydd yn arwain at doriadau i brosiectau a gwasanaethau sy'n cefnogi plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, boed hynny fel rhan o unrhyw benderfyniad cyffredinol ar y gyllideb neu fel agwedd ar gynllunio adrannol. [4] Anwybyddu Llais Plant Nid yw Brexit wedi ymgysylltu â phlant, mae hyn er gwaetha'r ffaith mai hwy yw'r bobl a fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau Brexit yn y tymor hir. Mae methu â rhoi sylw dyledus i farn plant ar y mater o dynnu allan o r Undeb Ewropeaidd yn torri Erthygl 12 o CCUHP. Mae angen rhoi cyfleoedd ystyrlon i blant gael mynegi eu barn i r bobl sy n gwneud penderfyniadau ar Brexit, a dylid eu cynnwys mewn trafodaethau fel bod eu hawliau'n cael eu parchu fel rhan o'r broses 10. Dyma oedd un o'r negeseuon o r gynhadledd, Effaith Brexit ar Blant yng Nghymru (gweler uchod). Galwodd pawb a oedd yn bresennol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o sylw i farn plant yn y broses Brexit 11. Roedd y Papur Gwyn ar y cyd, Brexit: Diogelu Dyfodol Cymru, yn cynnwys ymrwymiad i wrando ar farn plant a phobl ifanc am Brexit, oherwydd bydd y penderfyniadau a wneir "yn hanfodol bwysig ar gyfer eu dyfodol." 12 (tud.32). Yng Nghymru, mae Mesur 2011 yn ei gwneud yn ofynnol y dylai plant yng Nghymru gael eu hymgynghori'n ystyrlon ar faterion polisi sy'n deillio o Brexit y mae Gweinidogion Cymreig yn cymryd 10 Datganiad a Galwad i Weithredu ar Effaith Brexit ar Blant a Phobl Ifanc, ar gael o: http://www.plantyngnghymru.org.uk/newyddion/archif-newyddion/grwpiau-hawliau-lles-plant-yn-annog-llywodraeth-ydu-beidio-diystyru-hawliau-plant-yn-ystod-trafodaethau-brexit-190617-cllyagi/ 11 Adroddiad, Brexit: Implications for Children in Wales, 19eg Ionawr 2017, Prifysgol Abertawe, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, ar gael o: http://www.swansea.ac.uk/law/wales-observatory/conferences/brexitimplicationsforchildreninwales/ 12 Ar gael o: https://beta.gov.wales/sites/default/files/2017- o2/31139%20securing%20wales%c2%b9%20future_version%202_web.pdf 5

rhan ynddynt, ac mae CRIA yn darparu mecanwaith ar gyfer ymgynghori. Er ein bod yn croesawu ymrwymiad diweddar Llywodraeth Cymru i sefydlu grŵp cynghori plant, ac i ddarparu cyllid i gefnogi gweithgarwch ymgynghori trwy weithdai gyda phlant, nid yw manylion am sut a phryd bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu, yr hyn a ddisgwylir o'r ymgynghoriad, na sut y bydd plant yn cael llais mewn penderfyniadau a wneir am Brexit dros y misoedd a hyd yn oed y blynyddoedd i ddod, wedi dod i'r amlwg eto. Byddai'r argymhellion canlynol, petaent yn cael eu mabwysiadu, yn helpu i roi llais i blant a phobl ifanc yn y dadleuon Brexit yng Nghymru: Dylai Llywodraeth Cymru, gyhoeddi manylion am sut y mae'n bwriadu dyrannu'r arian y mae wedi'i neilltuo i gefnogi ymgynghoriad â phlant ar Brexit. Dylai Plant yng Nghymru gael cyfleoedd gwirioneddol i gael eu clywed gan ddefnyddio mecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol (e.e. y cyfryngau cymdeithasol), i gyfrannu at y ddadl am Brexit yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu grŵp cynghori o blant a phobl ifanc cyn gynted ag y bo modd, a sicrhau bod yna fecanweithiau ar gyfer ymgysylltu rhwng y grŵp hwn a'r Grŵp Cynghori Allanol ar Ewrop i oedolion. Dylid darparu cyfleoedd i blant gyfathrebu â gwneuthurwyr penderfyniadau a dylent gael adborth ynghylch sut y rhoddwyd sylw dyledus i'w barn a sut, os o gwbl, maen nhw wedi effeithio ar wneud penderfyniadau. Dylai Llywodraeth Cymru esbonio sut y mae'n bwriadu ymgysylltu â phlant ar faterion sy'n codi yng Nghymru wrth i Brexit ddechrau dod i rym (gan gynnwys y materion a nodir uchod). Dylid darparu gwybodaeth hygyrch i blant fel eu bod yn gallu deall goblygiadau posibl Brexit a u bod yn cael eu grymuso i fynegi barn ar y materion sy'n effeithio arnynt. Dylid ceisio barn plant o bob oed ar Brexit a'u cymryd o ddifrif, nid yn unig y rhai 16 oed a throsodd a dylai ymgynghori gynnwys grwpiau amrywiol o blant a phobl ifanc. Pryd bynnag y mae angen gwneud penderfyniadau polisi yng Nghymru, o ganlyniad i Brexit, dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio CRIA, ac os yw CRIA yn cael ei ddefnyddio, dylid ymgynghori'n ystyrlon â phlant. Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen gyda diwygiadau etholiadol a fydd yn galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau yn y dyfodol, a chyflwyno sylwadau ar lefel y DU ar gyfer newidiadau tebyg. 6

Materion eraill ar draws y DU sy'n effeithio ar Gymru Mae'r papur hwn yn canolbwyntio ar effaith Brexit ar blant yng Nghymru. Er y cydnabyddir y bydd penderfyniadau allweddol ar siâp Brexit yn cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU, mae'r papur wedi ceisio gwneud argymhellion ymarferol i Lywodraeth Cymru ynghylch ymarfer pwerau datganoledig. Fodd bynnag, dylai Cymru hefyd gyfrannu at y ddadl ehangach ar y blaenoriaethau ar gyfer plant yn dilyn Brexit, a chynnwys y ddeddfwriaeth ar gyfer tynnu allan o r UE. Gyda hyn mewn golwg, dylai Gweinidogion Cymru, Aelodau'r Cynulliad, rhanddeiliaid hawliau plant a phlant fod yn ymwybodol o fentrau sy'n digwydd y tu allan i Gymru i godi proffil hawliau plant yn y broses Brexit. Mae r rhain yn cynnwys: Making Brexit Work for Children 13 - adroddiad a gaiff ei ryddhau cyn bo hir gan glymblaid o sefydliadau hawliau plant sy'n ceisio tynnu sylw at faterion hawliau plant ar lefel Seneddol a llywodraethol yn y DU. Bydd yr adroddiad yn ymdrin â llawer o'r materion a godwyd yn y papur hwn. Fodd bynnag, gan fod yr adroddiad wedi'i anelu at Lywodraeth y DU yn benodol, mae hefyd yn mynd i'r afael â materion sydd o dan reolaeth Gweinidogion y DU: y mater o statws plant o r UE yn y DU; effaith bosibl Brexit ar amddiffyn plant yng Nghymru a chynnal isadeiledd amddiffyn plant yr UE i hwyluso casglu a chyfnewid gwybodaeth drawsgenedlaethol yn ymwneud â dioddefwyr a throseddwyr cam-drin plant; a chyfraith teulu trawsffiniol. Mae'r UE yn hwyluso lefel uchel o gydlynu ar gyfer materion trawsffiniol ar ddiogelu plant, er enghraifft, delio â delweddau o gam-drin plant, cam-fanteisio rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl. Mae yna dri phrif gorff y mae'r DU yn perthyn iddynt sydd yn hanfodol wrth helpu i fynd i'r afael â throseddau yn erbyn plant: y Warant Arestio Ewropeaidd, Europol ac Eurojust (cyrff cydweithredu a chydlynu), yn ogystal ag ECRIS (cronfa ddata ar euogfarnau troseddol), mae r rhain i gyd yn hanfodol wrth ymladd troseddau trawsffiniol. Mae diogelu yn codi uwchlaw pob ffin, ac felly mae'n hanfodol bod cydweithrediad â'r mecanweithiau hyn yn parhau mewn rhyw fath ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Dylai Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad wthio Llywodraeth y DU i gynnal aelodaeth y DU o gyrff trawsffiniol megis y Warant Arestio Ewropeaidd, Europol, Eurojust a ECRIS sy'n darparu mesurau i ddiogelu plant yng Nghymru. 13 Teitl Gweithio 7

Ymdrinnir yn benodol â chyfraith teulu trawsffiniol mewn adroddiad gan Together (Scottish Alliance for Children s Rights) The Impact of Brexit on Children s Rights: Case Study on Crossborder Family Law 14. Os hoffech drafodaeth bellach ar y materion a godwyd yn y papur briffio hwn cysylltwch â: Sean O Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru Sean.oneill@childreninwales.org.uk Dr Simon Hoffman, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, Prifysgol Abertawe s.hoffman@swansea.ac.uk Neu gallwch ddilyn y datblygiadau ar ein gwefan: http://www.plantyngnghymru.org.uk/ein-gwaith/brexit-hawliau-plant-yng-nghymru/ Neu ar Twitter: #BrexitCYPWales Hydref 2017 i Mae hon yn fersiwn ddiwygiedig o'r papur briffio a gyflwynwyd ar 18 Hydref 2017 yng Ngrŵp Trawsbleidiol Plant yng Nghymru ar Blant a Phobl Ifanc 14 http://www.togetherscotland.org.uk/pdfs/brexit_cross_border_report_oct17.pdf 8