Adolygiad Blynyddol 2007/08

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

NatWest Ein Polisi Iaith

Holiadur Cyn y Diwrnod

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Addysg Oxfam

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Be part of THE careers and skills events for Wales

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

W46 14/11/15-20/11/15

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Talu costau tai yng Nghymru

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

offered a place at Cardiff Met

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

Explore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship events for Wales

SESIWN HYFFORDDI STAFF

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

DIGIDOL I R DYFODOL. Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS

+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor

y ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig.

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Esbonio Cymodi Cynnar

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

W39 22/09/18-28/09/18

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

newωddion Blwyddyn fythgofiadwy i Goleg Caerdydd a r Fro CYFLE I ENNILL ipad CYMERWCH RAN YN EIN YSTADLEUAETH TWITTER AR DUDALEN 2

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau. De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Gorffennaf 2017

Welsh Language Scheme

Transcription:

Adolygiad Blynyddol 2007/08 gyrfacymru.com Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd

Cynnwys 02 03 Rhagair y Cadeirydd 04 Ynglŷn â Gyrfa Cymru 05 Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol 07 Oedolion 09 Cyflogwyr 11 Partneriaethau Addysg Busnes 13 Pobl Ifanc, Ysgolion a Cholegau 17 gyrfacymru.com 18 learndirect 19 Clic 21 Cyfarwyddwyr gyrfacymru.com Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd 0800100900

03 Rhagair y Cadeirydd Sefydlwyd model presennol Gyrfa Cymru yn 2001, ac mae archwiliadau allanol rheolaidd wedi dangos ei fod yn perfformio i safon uchel yn gyson ar draws mwyafrif ei weithgareddau, gwasanaethau a rhaglenni gwaith sydd ar gael i unigolion o bob oed trwy Gymru gyfan. Croesawais felly, yr ymgynghoriad ar Sgiliau sy n gweithio i Gymru: Strategaeth sgiliau a chyflogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddechrau 2008. Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i Gyrfa Cymru arddangos sut y mae n gweithio ar draws yr agenda heriol hon mewn partneriaeth ag ysgolion, sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch, busnesau ac ystod eang o fudiadau eraill yn y sectorau preifat, cyhoeddus, a gwirfoddol, sydd i gyd yn darparu gwasanaethau cymorth i bobl ifanc, pobl ddi-waith ac unigolion dadrithiedig. Mae llawer wedi ei gyflawni hyd yn hyn, ond wrth gwrs, mae llawer mwy i wneud trwy weithio mewn partneriaethau effeithiol a chyllido mwy integredig. Mae Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen at chwarae ei ran mewn cyflenwi agendâu trawsffurfiol i Gymru Dyw gwaith Gyrfa Cymru byth yn statig. Rydym bob amser yn cynllunio at newid positif mewn ymateb i ysgogiadau strategol allweddol. Ar hyn o bryd, mae r rhain yn cynnwys: gweledigaeth Gweinidogion a ddisgrifiwyd yn Cymru n Un; y fframweithiau strategol amrywiol sy n llywodraethu cyflwyniad y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol (2007-2013); a r ymgynghoriad Sgiliau sy n gweithio i Gymru. Fel y dywedais y llynedd yn fy rhagair, mae Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen at chwarae ei ran mewn cyflenwi agendâu trawsffurfiol i Gymru. Alan Tillotson Cadeirydd, Cymdeithas Gyrfa Cymru 2007/08

Yngly n â Gyrfa Cymru 04 O fewn Gyrfa Cymru, mae saith cwmni unigol ond cysylltiedig, sydd yn gweithio trwy Gymru gyfan. Mae yna chwe chwmni gyrfaoedd lleol yn darparu gwasanaethau gwybodaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd cynhwysfawr i bobl o bob oed, ledled rhanbarthau Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Datblygu pobl trwy gynllunio gyrfa gydol oes Mae r chwe chwmni gyrfa yn berchen yn gyfan gwbl ar y seithfed cwmni, Cymdeithas Gyrfa Cymru (CGC). Rôl CGC yw darparu canolbwynt ar gyfer datblygiadau Cymru gyfan, codi proffil cenedlaethol cyfarwyddyd gyrfaoedd, helpu i ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cenedlaethol perthnasol a rheoli, prosiectau a ariennir yn allanol, marchnata a gwybodaeth a gwefan Gyrfa Cymru www.gyrfacymru.com a r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol www.clicarlein.co.uk Nodau Strategol Allweddol Mae ein brîff oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru yn diffinio ein nodau strategol allweddol, sef: Helpu unigolion i symud yn llwyddiannus i mewn i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth gynaliadwy a gwneud penderfyniadau deallus yngly^n â u gyrfaoedd a u dewisiadau dysgu. Annog unigolion i fod yn uchelgeisiol ynghylch eu gyrfaoedd a u nodau personol ac i ymrwymo i ddysgu gydol oes. Cael ein cydnabod fel arweinydd ansawdd uchel y farchnad o ran cynllunio gyrfa gydol oes a chysylltiadau addysg busnes. Cyfrannu n bositif ac yn arbenigol at ddatblygiad cwricwlwm cenedlaethol a dadleuon perthnasol yngly^n â datblygiad gyrfa oedolion a phobl ifanc.

05 Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol Mae 2007/2008 wedi bod yn flwyddyn ardderchog arall o ddatblygiad parhaus i Gyrfa Cymru, yn enwedig o fewn ein gweithgareddau partneriaeth amrywiol. Ym Mai 2007, er enghraifft, penodwyd Gyrfa Cymru fel partner allweddol mewn gweithgareddau 14-19 yn arolygiadau Ardal Estyn, gydag arweinwyr a rheolwyr yn derbyn clod ar gyfer cyfranogi n llawn â phartneriaid i ddatblygu pob cyfle i ddysgwyr. Awen Roberts, enillydd cystadleuaeth Dylunio i Gymru Cyfnod Allweddol 3, a drefnwyd gan Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin, yn cwrdd â seren rygbi Cymru James Hook. Noddwyd y gystadleuaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach a r dasg oedd dylunio crys rygbi ar gyfer tîm rygbi neu bêl-droed Cymru. Hefyd, canmolwyd polisi Gyrfa Cymru gan yr arolygiad am hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rheolaidd am y mathau o gyfleoedd seiliedig ar waith sydd angen ar bobl ifanc ddiwaith, ac anghenion rhagweledig ymadawyr ysgol. Yn ogystal â hyn, canmolwyd cynghorwyr Gyrfa Cymru yn adroddiad Estyn am ddarparu cyfarwyddyd da, gan wneud defnydd effeithiol o u harbenigedd a u ffynonellau gwybodaeth er mwyn helpu dysgwyr i archwilio r ystod o gyfleoedd sydd ar gael ym myd addysg a r farchnad lafur. Pwysleisiwyd ein partneriaethau llwyddiannus mewn arolygiad thematig gan Estyn o Gyrfa Cymru Herio Stereoteipio yn Ebrill 2007. Yn ôl yr adroddiad, mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn codi r agenda o stereoteipio rhyw mewn ffordd ragweithiol gyda phartneriaid allweddol amrywiol er mwyn herio a newid agweddau a diwylliant, gydag enghreifftiau o ymroddiad gan bob cwmni ar y lefel uchaf i herio stereoteipio rhyw.

06 Roeddem yn fodlon iawn i gael cydnabyddiaeth fod cwmnïau Gyrfa Cymru yn gweithio n dda gyda phartneriaid i herio agweddau ac ymarferion ac i drafod materion stereoteipio yn ôl rhyw. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae newid adran o fewn APADGOS, o Is-adran Cyfleoedd Dysgu Ieuenctid ac Oedolion (YALO) i r Is-adran Busnes a Sgiliau, wedi golygu fod Gyrfa Cymru wedi ei integreiddio n llwyr i strategaeth sgiliau a chyflogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys yr ymatebion i Adolygiad Leitch o Sgiliau yn y DU, Adolygiad Webb o Addysg Bellach a Sgiliau, a r ymgynghoriad Sgiliau sy n Gweithio i Gymru. Caiff gwasanaeth cyfarwyddyd pob-oed Gyrfa Cymru ei weld fel partner allweddol, yn enwedig wrth helpu oedolion o fudd-daliadau i gyflogaeth mewn dull integredig. Mae gweddill fy adroddiad yn pwysleisio, nid yn unig tyfiant a llwyddiant ein partneriaethau dros y flwyddyn ddiwethaf, ond hefyd y ffyrdd niferus y mae Gyrfa Cymru yn effeithio ar fywydau pobl ar hyd a lled y wlad. Myfyrwyr yn arddangos eu prosiectau yn y digwyddiad CREST (Creativity in Science and Technology) a Pheirianwyr Ifanc yn Techniquest, Bae Caerdydd a drefnwyd gan Gyrfa Cymru Caerdydd a r Fro. Lesley Rees Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Gyrfa Cymru 2007/2008.

07 Oedolion Fel gwasanaeth diduedd ac am ddim, i bobl o bob oed, mae Gyrfa Cymru yn cynnig cyfarwyddyd a chefnogaeth i oedolion sy n chwilio am gyngor ar eu dewisiadau gyrfa. Mae r unigolion a gafodd eu helpu y llynedd yn cynnwys pobl a oedd yn wynebu diswyddo, yn ystyried ail-hyfforddi neu newid swydd, neu a oedd eisiau dychwelyd i r gwaith yn dilyn seibiant gyrfa. Yn 2007/2008 cafodd 50,856 o oedolion gyfweliadau â chynghorwyr Gyrfa Cymru Geraint yn gyrru tuag at lwyddiant Pan gafodd Geraint Thomas ei ddiswyddo roedd e n wynebu dyfodol ansicr yn ddiwaith, ac heb syniad o ble i droi na beth i wneud nesaf. Newidodd hyn i gyd ar ôl iddo ymweld â i siop yrfaoedd leol yn yr Wyddgrug, ar gyfer cyngor ar sut i ddechrau gyrfa newydd sbon. Mae e nawr yn athro gyrru cymwys ac yn gweithio ar gyfer un o ysgolion gyrru mwyaf llwyddiannus y wlad. Roeddwn yn arfer gweithio fel rheolwr adwerthu, yn delio â chyllid o filiwn o bunnoedd, ond hyd yn oed cyn i mi wynebu diswyddiad, nid oeddwn yn fodlon yn y rôl. Gyda help Gyrfa Cymru, llwyddais i ddod o hyd i swydd rwy n ei mwynhau yn fawr, swydd fyddwn i ddim wedi ei hystyried heb iddyn nhw ei hawgrymu. Nawr, dwi n dihuno ac yn edrych ymlaen at fynd i r gwaith! Gyda chymorth Gyrfa Cymru, cafodd Geraint fynediad i r gronfa weithredu diswyddaeth ReAct, ac mae e n awr yn derbyn cefnogaeth ariannol i dalu am yr hyfforddiant angenrheidiol. Llwyddodd i basio i brawf ysgrifenedig a i brawf gyrru uwch, ac mae e n awr yn gymwys i ddysgu n broffesiynol gyda r Red Driving School. Unwaith iddo basio i brawf addysgu pellach, bydd ganddo r opsiwn i weithio n annibynnol. Alla i ddim diolch i Gyrfa Cymru ddigon am y cyngor a r gefnogaeth dwi wedi derbyn. Mae gen i yrfa newydd ardderchog sy n caniatáu cydbwysedd gwaith-bywyd delfrydol, felly alla i ddim gofyn am fwy! Geraint Thomas

08 Gyrfa Cymru yn helpu Lucy i newid trywydd ei bywyd Pan wynebodd Lucy Harding o Abertyleri salwch gwanychol a oedd yn tanseilio i hyder a i gadael yn teimlo n isel, nid oedd ganddi lawer o obaith o allu cynorthwyo hi ei hun eto. Ond diolch i gefnogaeth gan fudiadau amrwyiol, yn cynnwys Gyrfa Cymru, mae Lucy yn y broses o ail hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd - cyfle a oedd yn hollol annisgwyl iddi. Roeddwn wedi dioddef o iselder adweithiol am nifer o flynyddoedd ac wedi darbwyllo fy hun nad oedd unrhyw ffordd o ddringo yn ôl ar yr ysgol gyrfaoedd, meddai Lucy. Yn dilyn cyfnod o gynghori, cysylltais â Gyrfa Cymru i ofyn os oedd help ar gael, ac mae r gefnogaeth rwyf wedi ei derbyn ganddynt wedi troi fy mywyd o gwmpas. Ar ôl dadansoddiad Pathfinder, daeth Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor i ben y rhestr o swyddi posib. Roedd hyn yn rhyfeddol oherwydd roeddwn wedi ei ystyried o r blaen, ond nid oeddwn yn credu y byddwn yn gallu ymdopi. Roedd y cyngor a gefais mor gadarnhaol. Yn fuan, dechreuais wirfoddoli mewn 2 ddosbarth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), ac ymgymryd â modiwl Rhifedd y Dystysgrif mewn Sgiliau Sylfaenol i Oedolion yng Ngholeg Gwent ar gampws Casnewydd. Nid oedd y tiwtor ESOL ar gael yn ystod y cyfnod hwn, felly cefais gyfle i ddysgu 6 dosbarth am bump wythnos, ac nawr mae gen i swydd fel Tiwtor Cyflenwi ar gyfer Cyngor Sir Blaenau Gwent. Yn hwyrach eleni, byddaf yn dechrau cwrs City & Guilds mewn Cyflwyno Sgiliau Sylfaenol i oedolion gydag ESOL fel y modiwl dewisol. Mae r broses wedi cymryd amser hir iawn, ac mae llawer o bobl wedi fy helpu i gyrraedd y pwynt hwn, ond mae bod yn ddigon dewr i gysylltu â Gyrfa Cymru wedi sicrhau bod gennyf ddyfodol rydw i wir yn teimlo bod gen i fy mywyd yn ôl unwaith eto. Lucy Harding Dangosodd arolwg diweddar o gleientiaid Gyrfa Cymru y daeth hanner o r bobl hynny a oedd yn ddiwaith o hyd i waith ar ôl cyfweliad â Gyrfa Cymru.

09 Cyflogwyr Mae Gyrfa Cymru yn hyrwyddo r manteision o ddysgu gydol oes a datblygiad parhaus, ac yn cefnogi cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant mewn amryw o ffyrdd. Mae r rhain yn cynnwys gweithredu rhaglenni datblygu gwaith, lleoliadau profiad gwaith, a chynlluniau mentora a busnes. Mae Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr Gyrfa Cymru yn cadw gafael ar anghenion cyflogwyr trwy ymweld â nhw n rheolaidd. Jeff Evans (chwith) gyda deiliad rhyddfraint McDonalds, Huw Thomas. Cadw gafael ar anghenion cyflogwyr - Rheolwr Gyrfa Cymru yn cyfnewid swydd desg am McSwydd. Cyfnewidiodd un o reolwyr Gyrfa Cymru ei siwt am iwnifform, ac yn lle eistedd y tu ôl i w ddesg, ffeindiodd ei hun y tu ôl i gownter ei McDonalds lleol. Cymerodd Jeff Evans ran mewn cynllun swapio swydd arbennig fel rhan o fenter i newid diffiniad y gair McSwydd sydd wedi ei restru yn y geiriadur fel swydd anysgogol, cyflog-isel heb lawer o obeithion na dyfodol, yn enwedig un a grëwyd gan ehangu r sector gwasanaethu. Gan benderfynu nad oedd ffordd well o asesu anghenion gweithwyr, gweithiodd Jeff fel aelod tîm ym mwyty McDonalds ar Cardiff Road, yn y Barri, er mwyn cael dealltwriaeth go iawn o r swydd. Dysgodd sut mae r gegin yn gweithio, sut i wasanaethu cwsmeriaid, a hyd yn oed sut i wneud Big Mac ei hun! Mae gan Gyrfa Cymru gysylltiadau ardderchog â McDonalds yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a chafodd Huw Thomas, deiliad rhyddfraint dau fwyty yng Nghaerdydd a r Barri, yr anrhydedd o ennill teitl y Partner Mwyaf Gwerthfawr mewn seremoni wobrwyo Gyrfa Cymru, am ei help ac ymroddiad i ddarparu lleoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel i bobl ifanc. Roedd swapio swydd yn swnio fel ffordd arbennig o weld sut mae pethau n gweithio y tu ôl i r cownter ym McDonalds, a mwynheuais y profiad yn fawr. Jeff Evans, Gyrfa Cymru Roedd yn fendigedig i gael Jeff gyda ni am y diwrnod er mwyn iddo gael syniad o sut swydd ydy hi o ddydd i ddydd. Mae r diffiniad McSwydd wedi dyddio, nid yw n realistig, ac mae n sarhaus i r bobl weithgar, ymroddgar a thalentog sy n gwasanaethu r cyhoedd bob dydd. Deiliad Rhyddfraint McDonalds, Huw Thomas

10 Dathlu partneriaethau llwyddiannus Mynychodd cynrychiolwyr o fyd busnes seremoni wobrwyo arbennig yn Abertawe, i ddathlu blwyddyn o bartneriaethau llwyddiannus. Fel mudiad, mae Gyrfa Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes a datblygiad parhaus yn y gymuned leol, ac yn credu mewn rhoi cyfle i w gyflogwyr ddatblygu eu hunain trwy hyfforddiant ac ennill cymwysterau. Roddem ni hefyd, â phleser mawr, yn cydnabod gwaith mudiadau allanol yng Ngorllewin Cymru, a u cyfraniadau at ein gwaith o ddarparu cyngor gyrfaoedd a gweithgareddau sy n cysylltu addysg a busnes. Ray Collier, Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gorllewin Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo Dathlu Cyrhaeddiad a Phartneriaeth gan Gyrfa Cymru Gorllewin i gydnabod y berthynas unigryw sydd gan y cwmni â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, ysgolion a cholegau lleol. Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu cyraeddiadau staff y cwmni ac yn cydnabod cefnogaeth ar gyfer ystod eang o gynlluniau, gan gynnwys profiad gwaith, menter, mentora, cynhwysiad cymdeithasol, cynlluniau lleoli athrawon a datblygiad y gweithlu. Canmolwyd staff mewnol Gyrfa Cymru Gorllewin hefyd am eu cyraeddiadau, gyda chymwysterau diweddar yn cynnwys BSc, Cymraeg i NVQ mewn cyngor a chyfarwyddyd. Roedd y digwyddiad hwn yn ffordd berffaith o ddangos ein hymroddiad i annog dysgu a datblygiad gydol oes a r gefnogaeth rydym yn gallu ei darparu er mwyn i bobl wneud hyn. Daeth Sara Edwards, darllenydd newyddion o r BBC i gefnogi r digwyddiad a chyflwyno r gwobrau i enillwyr.

11 Partneriaethau Addysg a Busnes Mae Gyrfa Cymru yn ymdrechu i ddatblygu a chynyddu partneriaethau a gwneud cysylltiadau hanfodol rhwng cyflogwyr ac ysgolion a cholegau. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau Partneriaethau Addysg a Busnes gan gynnwys profiad gwaith, diwrnodau diwydiant, cyflwyniadau ac areithiau mewn ysgolion, cefnogaeth â gweithgareddau menter, lleoliadau athrawon/darlithwyr, a rhaglenni mentora. Mae cynghorwyr yn gweithio i fabwysiadu synnwyr o fenter gan gydgysylltu gweithgareddau i helpu i godi safonau cyrhaeddiad pobl ifanc, gwella ysgogiad a u helpu i gynllunio ar gyfer bywyd gwaith. Roedd yr ysbryd o fenter a ddangoswyd gan y bobl ifanc yn syfrdanol ac rwy n falch i weld fod cymaint o bobl ifanc yng Nghymru â syniadau ymarferol ardderchog a r agwedd gadarnhaol eu bod yn frwd i greu argraff ar y byd. Rhodri Morgan, Prif Weinidog Myfyrwyr mentrus yn Gwneud eu Marc ar y sialens Globalocal Cyflwynwyd syniadau busnes mentrus gan gannoedd o entrepreneuriaid ifanc i banel o feirniaid, yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn rownd derfynol ranbarthol cystadleuaeth fenter genedlaethol yng Nghaerdydd. Cyrhaeddodd ugain tîm o fyfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11 o hyd a lled Cymru rownd derfynol Sialens Gwneud Eich Marc fel rhan o Wythnos Fenter Genedlaethol. Mae Sialens Gwneud Eich Marc yn dasg â thema menter wedi i hyrwyddo yng Nghymru gan Gyrfa Cymru ar gyfer miloedd o blant mewn ysgolion ym Mhrydain i gymryd rhan ynddo ar yr un pryd. Y cwestiwn ar gyfer 2007 oedd Gwneud iddo Dalu mewn Ffordd Globalocal gyda globalocal wedi ei ddiffinio fel meddwl ar raddfa fyd-eang a gweithredu ar lefel leol a chyflwynodd y terfynwyr eu cynlluniau busnes i banel o feirniaid mewn digwyddiad yn null Dragon s Den. Enillwyr Sialens Gwneud Eich Marc, 2007, Ysgol Gyfun Bryntirion, a wnaeth argraff ar y beirniaid gyda u syniad am System Go Water - hidlen ailgylchu dw r i w defnyddio ym Mhrydain ac ar draws y byd. Dd-Ch: James McGrath, Hannah Lewis, Ryan Lewis, Rebecca Francis, Andrew Jenkins ac Emily Cook

12 Gyrfa gyffrous yn galw disgyblion Cafodd disgyblion Blwyddyn Deg Ysgol Uwchradd Glyn Derw yng Nghaerdydd gyfle i brofi bywyd gwaith, ar ôl ymweliad gan aelodau o Fforwm Canolfan Cysylltiadau Cymru ar Ddiwrnod Diwydiant Gyrfa Cymru. Treuliodd staff o ganolfannau galwadau fel Conduit, Vista Support a r AA ddiwrnod dwys gyda dros 100 o ddisgyblion yn rhoi cyngor iddynt ar sut i ddelio â r trawsnewidiad o fywyd ysgol i fywyd gwaith. Un mewn cyfres o ddigwyddiadau oedd hwn, er mwyn dysgu sgiliau diriaethol, trosglwyddadwy i bobl ifanc sy n agos at oedran gadael ysgol. Dysgodd y myfyrwyr 14 ac 15 oed am ba mor bwysig i gyflogwyr y mae sgiliau allweddol megis datrys problemau, bod yn fentrus, gweithio â phobl eraill, cyfathrebu a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Gall sylweddoli bod baich cyfrifoldeb yn symud i r unigolyn ar ôl gadael addysg llawn amser fod yn sioc ddiwylliannol i rai pobl ifanc. Y genhedlaeth nesaf o weithwyr yw r disgyblion hyn ac mae n ddechrau da iddynt ddarganfod sut y gallen nhw wneud argraff mewn marchnad swyddi gystadleuol. Sandra Busby, Rheolwr Gyfarwyddwr Fforwm Canolfan Cysylltiadau Cymru Mae diwrnodau ymwybyddiaeth busnes a diwydiant yn rhan hanfodol o r cwricwlwm gyrfaoedd. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi mewnwelediad i fyd gwaith i bobl ifanc, ac yn rhoi cyfle i gyflogwyr sicrhau bod gweithlu r dyfodol yn ymwybodol o r sgiliau a r rhinweddau sydd angen arnynt ar ôl gadael yr ysgol neu r coleg. Mike Williams, Cynghorydd Addysg a Busnes Gyrfa Cymru Caerdydd a r Fro Cafodd 40,816 o bobl ifanc leoliadau profiad gwaith trwy Gyrfa Cymru yn 2007 / 2008

13 Pobl Ifanc, Ysgolion a Cholegau Mae Gyrfa Cymru yn parhau i gynnig ystod eang o gymorth i bobl ifanc, i w hannog i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael er mwyn cyrraedd eu potensial llawn. Mae cynghorwyr gyrfa yn cynnal cyfweliadau unigol a grw p ac yn darparu cyngor arbenigol i bobl ag anghenion ychwanegol. Mae cefnogaeth yn parhau unwaith i bobl ifanc adael addysg gyda chyngor ar gyflogaeth a hyfforddiant a rhaglenni fel Porth Ieuenctid a Chadw mewn Cysylltiad yn pontio r cyfnod rhwng addysg gyfun ac addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant. Bwyd Cymreig yn ddewis gyrfa blasus Daeth pen-cogydd o Ddinbych y Pysgod yn wyneb ymgyrch i hybu gyrfaoedd yn gysylltiedig â bwyd yng Nghymru. Jamie Bessant Fel rhan o Bythefnos Bwyd Cymreig, anogwyd pobl yng Nghymru gan Gyrfa Cymru i ystyried dyfodol yn gweithio yn y diwydiant bwyd, gan ddefnyddio Jamie Bessant, pen-cogydd ifanc o Gilgeti fel wyneb yr ymgyrch. Sefydlwyd Pythefnos Bwyd Cymreig er mwyn annog gwneuthurwyr, cyflenwyr, ffermwyr ac adwerthwyr bwyd i gysylltu gydag ysgolion lleol, a chodi ymwybyddiaeth am ffynonellau a chynhyrchu bwyd, yn ogystal â chynyddu proffil gwneuthurwyr a chyflenwyr lleol.

14 Dechreuodd Jamie, 25, ei yrfa yn golchi llestri mewn cegin bwyty lleol wrth astudio am ei arholiadau TGAU, ond yn fuan cafodd y swydd o ddirprwy gogydd trwy ddysgu yn y swydd. Ar ôl gorffen ei arholiadau TGAU, cafodd gyfle i astudio ar gyfer Prentisiaeth Paratoi Bwyd am un flwyddyn, lle y darganfu dalent am wneud pethau melys a theisennau, ac aeth ymlaen i astudio ar gyfer NVQ yn y pwnc yng Ngholeg Castell Nedd a Phort Talbot. Mae e nawr yn Brif Gogydd yn y Tudor Restaurant and Lodge yn Ninbych y Pysgod, ac hefyd yn rhedeg academi hyfforddi ar gyfer cogyddion ifanc. Mae n arbennig i weld sgiliau myfyriwr yn datblygu yn y gegin, a nodi pa mor ymroddedig ydyn nhw i r gwaith. Mae pob diwrnod yn gweithio fel pen-gogydd yn wahanol ac rydych yn dysgu rhywbeth pob dydd, beth bynnag yw ch safle. Mae n ddewis gyrfa ardderchog ar gyfer pobl ifanc. Jamie Bessant Cafodd mwy na 200,000 o bobl ifanc gyfweliad gyrfaoedd a chafodd mwy na 100,000 gynlluniau gweithredu gyrfaoedd penodol ym 2007/2008

15 Pobl Ifanc, Ysgolion a Cholegau Gwobrau Gyrfa Cymru blynyddol yn anrhydeddu ansawdd Anrhydeddwyd saith ar hugain o ysgolion ar hyd a lled Cymru yn seremoni Gwobrau Ansawdd Gyrfa Cymru, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynhadledd y Pafiliwn yn Llandrindod. Disgyblion o Ysgol Gyfun Bryntirion gyda u Gwobr Ansawdd Sefydlwyd y seremoni yn 2004 i gydnabod rhagoriaeth yn narpariaeth addysg a chyngor gyrfaoedd, yn ogystal ag addysg gysylltiedig â gwaith, ac mae r digwyddiad yn ganolog i nod Gyrfa Cymru am safonau uwch ymhob agwedd ar addysg a chyngor gyrfaoedd, yn ogystal â dysgu cysylltiedig â gwaith. Mae hyn yn cynnwys unrhyw sefydliad sy n agored i fyfyrwyr rhwng 14-19 oed o ysgolion uwchradd i cholegau Addysg Bellach, ysgolion arbennig ac unedau allanol. Gan gofio i gyngor gyrfaoedd ei hun a r ffordd yr helpodd i siapio i yrfa yn y pendraw, canmolodd John Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, egwyddor y wobr ansawdd, am greu fframwaith ar gyfer pob sefydliad i gydweithio er mwyn ehangu a gwella systemau. Mae r gorau o fusnes Cymreig yr un mor uchel ei safon â gorau gweddill y byd, ac mae angen i ni gydnabod a hybu rôl pobl ifanc fel crewyr cyfoeth y dyfodol. Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths

16 Trydedd Wythnos Beirianneg yn creu argraff ar ddisgyblion Roedd y drydedd Wythnos Beirianneg Genedlaethol yn llwyddiant ysgubol ar gyfer y 1500 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o hyd a lled Cymru a gymerodd ran yn y digwyddiad, a drefnwyd ar y cyd gan Fforwm a Gyrfa Cymru. Cyhaliwyd digwyddiadau mewn colegau addysg bellach o gwmpas y wlad, a nod yr wythnos oedd tanio diddordeb mewn peirianneg ac annog pobl ifanc i edrych ar yr opsiynau i gyd sydd ar agor iddynt o awyrenneg i beirianneg fodurol, trydanol, gweithgynhyrchu neu beirianneg fecanyddol. Mae Wythnos Beirianneg yn ffordd ymarferol iawn o ddod â blas realistig ac amlwg peirianneg i blant ysgol, gan ddefnyddio r offer diweddaraf. Cefnogwyd yr wythnos gan ysgolion a cholegau ar hyd a lled y wlad er mwyn ei gwneud, unwaith eto, yn llwyddiant anferth. Cadeirydd Rhwydwaith Peirianneg fforwm, Barry Liles Mae angen mwy o beiriannwyr yng Nghymru, yn enwedig rhai a fydd yn llenwi r swyddi lefel uwch. Mae gan Wythnos Beirianneg Cymru rôl hanfodol o ran dangos i bobl ifanc yn union ble y gall gyrfa gyffrous mewn peirianneg arwain. Sialens Wythnos Beirianneg - y tîm buddugol o r digwyddiad yng Ngholeg Merthyr

17 gyrfacymru.com Rydym ar hyn o bryd yn ailadeiladu r wefan, a bydd y gyrfacymru.com diweddaraf yn lansio gydag amryw o agweddau cyffrous newydd, yn cynnwys opsiynau arlein Blwyddyn 9, cronfa ddata profiad gwaith ac adnoddau penodedig ar gyfer cleientiaid ag anghenion arbennig. Rydym yn gweithio n galed iawn i sicrhau parhad y safon uchel o wasanaeth y mae r wefan yn ei gynnig i n defnyddwyr, a byddwn yn parhau i ddarparu r wybodaeth ddiweddaraf, fwyaf perthnasol ar bob agwedd ar ddysgu a dewis gyrfaoedd. Paul Messer, Rheolwr gyrfacymru.com Mae gyrfacymru.com yn falch o i arloesedd gyson a i ddatblygiadau er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid bob amser yn derbyn y gwasanaeth gorau posib. Mae gyrfacymru.com yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol fel gwasanaeth dysgu eithriadol. Er colli allan ar ennill ar y cam olaf oll, roedd gan staff Gyrfa Cymru ddigon i ddathlu oherwydd mai gyrfacymru.com oedd yr unig derfynydd o Gymru i ennill lle ar restr fer gwobrau E-lywodraeth 2007/08, a gynhaliwyd yng ngwesty r Dorchester yn Llundain. Cafwyd 527 o enwebiadau o r Deyrnas Unedig i gyd a ystyriwyd mewn 11 o gategorïau gwahanol, ac a feirniadwyd gan banel dan arweinyddiaeth Prif Swyddog Gwybodaeth y Llywodraeth, John Suffolk. Mae Gwobrau E-Lywodraeth yn gynllun annibynnol sydd wedi ei drefnu er mwyn amlygu gwasanaethau mwyaf effeithiol y DU, ac anrhydeddu rhagoriaeth mewn gwasanaethau e-lywodraeth a sector cyhoeddus ar draws cynghorau r DU, adrannau llywodraethol canolog, cyrff cyhoeddus anadrannol a mudiadau gwirfoddol. Enwebwyd gyrfacymru.com gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y categori Rhagoriaeth E-lywodraeth mewn Dysgu Sgiliau ffocws hwn yw gwasanaethau sector cyhoeddus arlein neu electronig sy n trawsnewid sgiliau a chanlyniadau dysgu trwy ddarpariaeth a gweithredu arlein arloesol. gyrfacymru.com Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd Ymwelodd 221,000 o bobl â r wefan yn 2007/08

learndirect 18 Mae gwasanaeth llinell gymorth learndirect yn un man cyswllt ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf yngly^n â chyrsiau, hyfforddiant, ac ariannu cysylltiedig yng Nghymru. Gyrfa Cymru sy n rheoli r gwasanaeth hwn ac mae n helpu pobl o bob oed ag unrhyw ymholiadau yngly^n â dysgu a gyrfaoedd. Mae gweithredoedd ymgyrchu â phartneriaid yn parhau i dyfu bob blwyddyn. Yn 2007/08, mae hyn wedi cynnwys gwaith â NIACE Dysgu Cymru, yn cefnogi ei weithgareddau Ymunwch Nawr, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac APADGOS yn hybu dysgu r iaith Gymraeg i oedolion ac yn helpu gyda recriwtio Blynyddoedd Cynnar i godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sectorau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Cafwyd 33,827 o alwadau ffôn i learndirect ym 2007/08 Mae Cronfa Ddata Dewis Dysgu yn parhau i fod yn brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer cynghorwyr llinell gymorth learndirect. Mae staff Gyrfa Cymru yn defnyddio r gronfa ddata i helpu wrth roi cyngor a chymorth fel rhan o broses sicrhau ansawdd barhaus, ac mae cynnwys y gronfa yn cael ei asesu n allanol bob 3 blynedd. Roedd yr asesiad diweddaraf yn gadarnhaol iawn ac yn wellhad pellach ar flynyddoedd cynharach. Am fynediad i Dewis Dysgu gwelwch gyrfacymru.com O fis medi 2008, bydd brand learndirect yn newid i Cyngor Gyrfaoedd. 0800 100 900

19 Clic Rony Seamons, Cydgysylltydd Cenedlaethol Clic gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Fairwater, Cwmbrân enillwyr cystadleuaeth y Cwis Cenedlaethol Cysylltu Ysgolion a Heddlu a gefnogwyd gan Clic unwaith eto, ynghŷd â r Gwasanaeth Tân a thimau Diogelwch Heol. Cymerodd dros 2000 o ddisgyblion ran yn y gystadleuaeth hon, gan ateb amryw o gwestiynau ar nifer o bynciau yn cynnwys ymddygiad cymdeithasol a diogelwch. Mae Clic wedi i anelu at bobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed. Mae wedi i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn cynnwys gwybodaeth ddiweddar, a diduedd ar amryw o faterion sy n gysylltiedig ag ieuenctid o ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, llety, cyflogaeth, addysg, arian, y gyfraith a hawliau. Mae r wefan yn cael ei diweddaru n gyson er mwyn adlewyrchu newidiadau a datblygiadau o fewn y pynciau y mae n sôn amdanynt er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i w chynulleidfa. Rydym yn teimlo n gryf bod hawl gan bobl ifanc i ddefnyddio r we yn ddiogel ac i ddod o hyd i atebion i r cwestiynau niferus sydd ganddynt a hynny o ffynhonnell ddiogel a dibynadwy. Mae pobl ifanc yn defnyddio r we yn fwy ac yn fwy ymhob agwedd o u bywydau nid yn unig i gymdeithasu, ond hefyd i chwilio am wybodaeth ar faterion sy n effeithio arnynt neu sy n achosi pryder. Gall y we fod yn ffynhonnell beryglus o wybodaeth anrheoledig ac weithiau anghywir, ond nod Clic yw darparu un man cyswllt ar gyfer gwybodaeth ddibynadwy o sut i ddelio â thoriad perthynas neu deulu, i wybodaeth am dai ac eiddo neu ymdopi gyda straen arholiadau. Rydym yn cael adborth ardderchog gan ein defnyddwyr sydd yn ffeindio Clic yn wasanaeth arbennig o werthfawr ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddiwallu anghenion pobl ifanc yng Nghymru. Cydgysylltydd Cenedlaethol Clic, Rony Seamons

20 Nadolig yn dod eto i blentyn lleol Wrth i ddiflastod Ionawr ddechrau i r mwyafrif ohonom, daeth y Nadolig unwaith eto i berson ifanc o r Rhyl, Taryn Town, pan sylweddolodd ei bod wedi ennill Playstation 3 mewn cystadleuaeth gan Clic a r Ddraig Ffynci. Ymunodd y ddau fudiad i ofyn i bobl ifanc gyflawni arolwg yn manylu ar beth maen nhw n ei ddisgwyl wrth chwilio am wybodaeth ar y we, ac yn benodol o wefannau Clic a r Ddraig Ffynci o ran dyluniad y tudalennau i gynnwys y wybodaeth, pa mor hawdd yw symud o gwmpas y wefan a phynciau poblogaidd i chwilio amdanynt. Cafodd pawb a gymerodd rhan gyfle i ennill y gystadleuaeth. Cafodd Taryn, yr enillydd lwcus, ei chyflwyno â i gwobr yn Siop Gyrfa y Rhyl. Roedd llenwi r arolwg yn hwyl, ac mae n neis i feddwl bod Clic a r Ddraig Ffynci eisiau gwybod beth rydym ni n meddwl. Rydw i n defnyddio r ddwy wefan yn aml, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol arnyn nhw ac rydw i bob amser yn ffeindio r atebion sydd angen arna i. Enillydd y Gystadleuaeth, Taryn Town Cafodd clicarlein.co.uk 2,798169 o drawiadau yn 2007/08 Taryn Town (canol) yn derbyn ei gwobr gan Tania Russell Owen, Cydgysylltydd Rhanbarthol Clic Gogledd Orllewin.

21 Cyfarwyddwyr Cymdeithas Gyrfa Cymru 2007/08 Alan Tillotson, Cadeirydd Cadeirydd, Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys Alan Boxford Cadeirydd, Gyrfa Cymru Caerdydd a r Fro Hywel Jones Cadeirydd, Gyrfa Cymru Gorllewin Gwyn Thomas Cadeirydd, Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin Philip Westwood Cadeirydd, Gyrfa Cymru Gwent John Troth OBE Cadeirydd, Gyrfa Cymru Gogledd Ddwyrain John Llewellyn, Is-Gadeirydd Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin Ray Collier Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gorllewin Mark Freeman Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Caerdydd a r Fro Wayne Feldon Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys Joyce M Caw Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gogledd Ddwyrain Trina Neilson Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gwent Cysylltwch â ni: Cymdeithas Gyrfa Cymru. Swît 6 Bloc D, Cwrt y Fan, Parc Busnes Caerffili, Heol y Fan, Caerffili, CF83 3ED. Ffôn: 02920 854880 Ffacs: 02920 854889 Ahmed Ali ac Arif Ahmed, enillwyr Sialens K Nex Cymru, gyda u cynnig buddugol yn rownd derfynol ranbarthol Gyrfa Cymru Caerdydd a r Fro. Cyfarwyddwyr 2008/2009 - fel uchod ond oherwydd ymddeoliad, mae Wayne Feldon wedi'i ddisodli gan Ann Evans, ac mae John Llewellyn wedi'i ddisodli gan Sarah Finnegan Dehn