Cymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf

Similar documents
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Gwybodaeth am Hafan Cymru

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

NatWest Ein Polisi Iaith

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Hawliau Plant yng Nghymru

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Welsh Language Scheme

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Addysg Oxfam

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Asesiad Lles Wrecsam

Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Holiadur Cyn y Diwrnod

We need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the M4, Magor to Castleton

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

Talu costau tai yng Nghymru

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19

TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

offered a place at Cardiff Met

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tour De France a r Cycling Classics

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

DOGFEN HUNAN-WERTHUSO

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Adolygiad Sefydliadol (model hybrid) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

Unedau. Edexcel BTEC Cenedlaethol Tystysgrif/Tystysgrip Estynedig/ Diploma Lefel 3 mewn Busnes. Dyfarniadau Cenedlaethol BTEC

Technoleg Cerddoriaeth

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Swim Wales Long Course Championships 2018

Esbonio Cymodi Cynnar

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015/16. Gwella iechyd a darparu gofal rhagorol

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

The Life of Freshwater Mussels

Transcription:

Cymorth i Ferched Cymru Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Arbenigol Dogfen Gyflwyno Fersiwn 5 Chwefror 2018 Cymorth i Ferched Cymru Welsh Women s Aid Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf Putting Women & Children First

Diolchiadau Mae r safonau hyn wedi u datblygu mewn ymgynghoriad â gwasanaethau arbenigol a rhanddeiliaid allweddol ar draws Cymru, ac rydym ni n diolch i r holl weithwyr proffesiynol ymroddgar hynny sy n gweithio mewn gwasanaethau arbenigol ac sydd wedi cyfrannu eu harbenigedd dros flynyddoedd lawer i lywio r trosolwg hwn o safonau ymarfer craidd. Mae diolch penodol yn ddyledus i Jess Taylor, sydd wedi n cynorthwyo ni i grisialu r gwaith sylweddol a wnaed gan aelodau o Cymorth i Ferched ar ddrafftiau cynharach o r safonau hyn, gan lunio cyfres o safonau a dangosyddion craidd a gafodd eu peilota yn 2015/16 a u cyflwyno o 2016/17. Diolch hefyd i gydweithwyr mewn ffederasiynau eraill Cymorth i Ferched yn y DU - yn benodol i Janet McDermott, Nicki Norman ac Eve Blair - am weithio gyda ni i sicrhau bod ymarfer gorau, dysgu a thystiolaeth o r hyn sy n gweithio yn llywio datblygiad ymagwedd gyson ar draws y DU i gyflawni newid cadarnhaol i oroeswyr yng Nghymru. Diolch hefyd i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol i ddatblygu a pheilota r Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru hyn ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru. Caiff ein gwaith ei lywio n barhaus gan brofiad bywyd goroeswyr. Felly mae diolch arbennig hefyd yn ddyledus i r miloedd lawer o oroeswyr trais a cham-drin sydd wedi defnyddio gwasanaethau lleol ac sydd, er gwaethaf eu profiadau dirdynnol yn aml o gam-drin, wedi darparu adborth dros y blynyddoedd ar sut y gellir gwella gwasanaethau n barhaus i ddiwallu eu hanghenion yn well. Mae eu cryfder, eu dealltwriaeth a u gwydnwch yn parhau i ysbrydoli ein gwaith i ddileu cam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. Mae r fersiwn hwn sydd wedi i ddiweddaru yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar statws safonau craidd cyffredin y sector, ac eglurder ar y safonau n ymwneud â llywodraethu. Diolch i aelodau o Cymorth i Ferched Cymru a gyfrannodd eu hadborth i ddiweddaru r ddogfen hon. Fersiwn 5: Chwefror 2018 Cyhoeddwyd gan: Cymorth i Ferched Cymru, Tŷ Pendragon, Plas Caxton, Pentwyn, Caerdydd, CF23 8XE. Cyfeiriwch at y ddogfen hon fel: Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru i Wasanaethau Cam-drin Domestig Dogfen gyflwyno (fersiwn 5) cyhoeddwyd 6 Chwefror 2018. Am ragor o wybodaeth am Cymorth i Ferched Cymru ewch i www.welshwomensaid.org.uk Cymorth i Ferched Cymru 2017 1

Cyflwyniad Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru 2 Cafodd Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru eu datblygu mewn ymateb i r angen a ddynodwyd gan wasanaethau arbenigol ar draws Ffederasiwn Cymorth i Ferched, yng Nghymru a r DU, i ddangos y ffordd y mae gwasanaethau arbenigol penodol yn bodloni anghenion ac yn cyflawni newid sy n para ym mywydau goroeswyr cam-drin domestig. Ers 1978, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi adeiladu cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd mewn darpariaeth cam-drin domestig arbenigol, gyda chymorth dadansoddiad ar sail rhywedd o drais yn erbyn menywod o fewn fframwaith rhyngwladol o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae r safonau hyn wedi u seilio ar ein gwybodaeth a n gwerthoedd cyfunol; yn gosod anghenion goroeswyr wrth galon y ddarpariaeth a gwaith partneriaeth a hefyd galluogi gwasanaethau i dystio n gadarn i w heffeithiolrwydd, eu heffaith a u gwerth am arian o fewn yr amgylchedd masnachol cystadleuol rydym ni n byw ynddo. Caiff yr angen am wasanaethau cam-drin domestig arbenigol hygyrch, holistig, sy n annibynnol o wasanaethau r wladwriaeth ac sy n canolbwyntio ar atal, diogelu a chymorth, ei nodi n barhaus gan fenywod a phlant fel y ffordd orau i ddiwallu eu hanghenion a chefnogi eu taith drwy argyfwng at adferiad. Fel yr amlygir gan brofiad o wasanaethau lleol ac a gefnogir gan ymchwil 1, mae goroeswyr yn fwyaf tebygol o ymgysylltu ac elwa o wasanaethau a arweinir gan anghenion, sy n ymateb i rywedd, eu llywio gan drawma ac sy n eu helpu i ailadeiladu eu bywydau i gyflawni annibyniaeth a rhyddid rhag camdrin. Caiff y Safonau Cymorth i Ferched Cymru hyn eu llywio gan arbenigedd a gwerthoedd gwasanaethau Cymru a r cyd-destun rhywedd a chroesadrannol maent yn gweithredu ynddo. Mae hyn yn cynnwys y ddyletswydd ar yr holl wasanaethau cyhoeddus a u partneriaid i atal pob math o drais ar sail rhywedd yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd bellach wedi i chadarnhau n gyfreithiol drwy Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae r Safonau Cymorth i Ferched Cymru hyn hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio er enghraifft gan bwysigrwydd i lawer o oroeswyr eu bod yn gallu cyrchu gwasanaethau a arweinir gan fenywod i fenywod a gan fenywod Du a lleiafrifol ethnig, i gynnig cymorth sy n ymateb i rywedd a diwylliant, a gofod i nodi blaenoriaethau a chryfhau, modelu a hyrwyddo eu harweinyddiaeth, annibyniaeth a hunanbenderfyniad. Mae gwasanaethau a arweinir gan fenywod neu i fenywod yn unig yn gyfreithlon ac anwahaniaethol, mae eu hangen yn fawr ar fenywod a merched, maent yn effeithiol o ran gwerth am arian ac effaith gymdeithasol, a hefyd fe u cydnabyddir yn y DU ac yn rhyngwladol fel trefniant allweddol i gyflawni cydraddoldeb menywod. Caiff y dull hwn ei gymeradwyo gan Gonfensiwn Istanbul, sy n ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau drefnu ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i fenywod ar gyfer unrhyw fenywod sy n dioddef trais a u plant. Gellir cyflawni ymateb mwy effeithiol i gam-drin domestig, trais rhywiol a phob math o drais yn erbyn menywod, drwy osod goroeswyr a gwasanaethau arbenigol wrth galon dull gweithredu cymunedol cydlynol. Gall gwasanaethau arbenigol gyflenwi ymyrraeth gynharach ar gyfer datgelu sy n cael effaith gadarnhaol ar draws polisi cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal ag ar gymunedau lleol. Gall gwasanaethau arbenigol ddarparu ffyrdd mwy effeithiol i atal cam-drin a diogelu plant a theuluoedd rhag ei effeithiau tymor hir a hefyd sicrhau bod diogelwch goroeswyr yn ganolog i ymyriadau gyda chyflawnwyr, o fewn agwedd teulu cyfan a chymunedol at atal.

Mae r Safonau Cymorth i Ferched Cymru hyn yn dystiolaeth bod gwasanaethau arbenigol sy n ffurfio ein haelodaeth yn gweithredu o fewn fframwaith ansawdd, a model o ymyrraeth sy n seiliedig ar gryfderau, a arweinir gan anghenion ac sy n cynorthwyo goroeswyr a u plant i adeiladu gwydnwch, gan arwain at annibyniaeth a rhyddid. Mae n hanfodol fod y profiad hwn a r safonau hyn yn llywio ymarfer comisiynu r dyfodol yng Nghymru, er mwyn gwario arian cyhoeddus yn ddoeth ac er mwyn i wasanaethau cam-drin domestig arbenigol allu dangos eu gwerth ychwanegol mewn marchnad gystadleuol. Bydd cael rhwydwaith genedlaethol o wasanaethau cam-drin domestig arbenigol achrededig, sy n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr generig a gwasanaethau r wladwriaeth, yn sicrhau bod anghenion goroeswyr yn cael eu diwallu ac yn hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o r modd y gellir cyflawni canlyniadau cadarnhaol tymor hir i unigolion, teuluoedd a chymunedau. Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru 1 Chwefror 2018 Yn olaf roeddem ni n teimlo ei bod yn hanfodol fod Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn cyd-fynd â systemau achredu eraill ym maes trais yn erbyn menywod yng Nghymru a Lloegr fel safonau gwasanaeth Rape Crisis England and Wales; safonau achredu Respect ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr a gweithio gyda dioddefwyr sy n ddynion; safonau Imkaan ar gyfer gwasanaethau arbenigol a arweinir gan ac ar gyfer menywod Du a lleiafrifol ethnig, ac achrediad SafeLives ar gyfer eiriolwyr annibynnol (IDVAs) sy n gweithio i leihau r nifer o achosion risg uchel. Mae r cyrff achredu hyn wedi cydweithio i sefydlu fframwaith cydlynol o safonau craidd cyffredin i r sector, sy n crynhoi r safonau gofynnol sy n gyffredin i r cyrff hyn (gweler Atodiad 5 pecyn cymorth comisiynwyr Sefydliad Banc Lloyds i Gymru 2 ). 1 Kelly, L. & Sharpe, N. (2014) Finding the Costs of Freedom. London: CWASU; Women s Aid (2015) Change that Lasts: Transforming responses to domestic violence and abuse, WAFE/WWA 2 https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/vawdasv%20toolkit_wales_web.pdf 3

Cymorth i Ferched Cymru Cymorth i Ferched Cymru yw r corff ymbarel yng Nghymru sy n gweithio i ddileu cam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod (VAWDASV). Fe n sefydlwyd yn 1978, ac rydym ni n cefnogi ac yn darparu cynrychiolaeth genedlaethol i r ffederasiwn o wasanaethau arbenigol VAWDASV trydydd sector yng Nghymru. Mae r gwasanaethau hyn yn darparu cymorth sy n newid bywydau i oroeswyr trais a cham-drin (menywod, dynion, plant, teuluoedd) ac yn cyflenwi gwaith ataliol fel rhan o rwydwaith o ddarpariaeth drwy r DU. Ein prif ddiben yw atal cam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod a sicrhau gwasanaethau ansawdd uchel i oroeswyr sy n cael eu harwain gan anghenion, yn ymateb i rywedd ac yn gyfannol. Rydym ni n cydweithio n genedlaethol i integreiddio a gwella ymatebion cymunedol ac ymarfer yng Nghymru; rydym ni n darparu cyngor, ymgynghoriaeth, cymorth a hyfforddiant i gyflawni gwelliannau polisi a gwasanaeth ar draws gwasanaethau r llywodraeth, y sector cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ac mewn cymunedau, er budd goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys cynghori a chefnogi comisiynwyr ac arweinwyr strategol wrth ddatblygu asesiadau anghenion a chynlluniau strategol VAWDASV, hyrwyddo tystiolaeth ar gyfer modelau gwasanaeth newydd arloesol, a chefnogi ymchwil i atal cam-drin. Mae rhai o r gwasanaethau a gyflwynwn yn cynnwys darparu llais cenedlaethol i lywio datblygiadau polisi, deddfwriaethol a strategol perthnasol; darparu cyngor a gwybodaeth ar ddatblygiad a chyflawni ymarfer addawol yn y sector; darparu cymorth gyda materion polisi ac ymarfer, ac adroddiadau dadansoddi data rhanbarthol a chenedlaethol i gefnogi asesiadau lleol o anghenion, datblygiadau strategaeth a chomisiynu. Rydym ni n cyflenwi gwasanaethau uniongyrchol sy n cefnogi ein haelodaeth a r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys: Llinell Gymorth Byw Heb Ofn i oroeswyr a theuluoedd sy n teimlo effaith trais rhywiol, camdrin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. Partneriaeth Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol: partneriaeth genedlaethol unigryw o wasanaethau arbenigol sy n cyflenwi hyfforddiant, dysgu a datblygu yng Nghymru ar bob agwedd o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym ni n cynnig cyrsiau hyfforddi achrededig a chyffredinol a gyflwynir gan hyfforddwyr arbenigol. Rhaglen waith Mae Plant yn Bwysig sy n cefnogi gwasanaethau lleol i helpu plant a phobl ifanc sydd wedi u heffeithio gan gam-drin a chyflwyno rhaglenni Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch (STAR) ym mhob awdurdod lleol ar draws Cymru Prosiect Gwasanaethau Goroeswyr yn Grymuso ac Addysgu (SEEdS) sy n grymuso goroeswyr trais a cham-drin i ddylanwadu gyda i gilydd ar wasanaethau a fframweithiau comisiynu, a helpu i newid agweddau cyhoeddus a chymunedol Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru sy n fframwaith achredu cenedlaethol i n haelodaeth o wasanaethau arbenigol cam-drin domestig yng Nghymru; fel rhan o gyfres o systemau a fframweithiau achredu integredig yn y DU a gyflwynir gan gyrff partner seilwaith, yr ydym yn cydweithio gyda nhw. Fel ffederasiwn cenedlaethol, mae ein gwaith polisi, ymgynghori, hyfforddi ac eiriol i gyd wedi i wreiddio ym mhrofiad y gwasanaethau arbenigol lleol a r defnyddwyr gwasanaeth. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar wneud yn siŵr fod profiadau ac anghenion goroeswyr yn ganolog i bopeth a wnawn. 4

Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru Mae r Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru hyn, sydd wedi u cynllunio ar gyfer aelodau sy n cyflenwi gwasanaethau cam-drin domestig i dystio i ansawdd eu gwasanaeth o fewn fframwaith ansawdd, hefyd yn cefnogi cyflenwi deddfwriaeth ac arweiniad allweddol mewn perthynas ag ymateb yn effeithiol i gam-drin domestig. Ar 29 Ebrill 2015 daeth y Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y gyfraith hon oedd y gyntaf o i bath yn y DU i ddarparu ffocws strategol ar wella ymatebion sector cyhoeddus i drais ar sail rhywedd ac mae n ganlyniad blynyddoedd lawer o bartneriaeth ac ymgyrchu ar ran Cymorth i Ferched Cymru, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn cefnogi comisiynu statudol yn y dyfodol ac arweiniad arall sydd â r bwriad o atal, diogelu a chefnogi pobl a gaiff eu heffeithio gan drais ar sail rhywedd. Drwy ddarparu fframwaith cynhwysfawr i dystio i ansawdd ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth gwasanaeth, bydd y safonau hefyd yn cefnogi cyflenwi strategaethau lleol a dangosyddion cenedlaethol, fel yr amlygir yn adran 5 a 11-13 y Ddeddf, yn eu tro. Bydd cyflwyno r Safonau hyn hefyd yn ychwanegu gwerth at ganllawiau statudol sy n cael eu paratoi, fel y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a r model hyfforddi r hyfforddwr Gofyn a Gweithredu. Mae Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn cyflenwi ar ymrwymiad y Swyddfa Gartref i ddileu trais yn erbyn menywod a merched drwy wella darpariaeth leol ac ansawdd y gwasanaethau. Fel yr adlewyrchir yn y Safonau, mae strategaeth y Swyddfa Gartref yn cydnabod bod camdrin domestig yn fater i bob cymuned ac ardal yng Nghymru a Lloegr, a gall effeithio ar unigolion o unrhyw gefndir neu ddemograffeg economaidd-gymdeithasol 3 Mae Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn canolbwyntio ar ganlyniadau trosfwaol yn y tymor byr a r tymor hirach i gefnogi pobl a effeithir gan gam-drin domestig, fel yr eglurir yn Fframwaith Comisiynu Gwasanaethau Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy n darparu strwythur ar gyfer darparwyr gwasanaethau i ddioddefwyr, i sicrhau bod anghenion cyfannol dioddefwyr yn cael eu bodloni. 4 Mae r Safonau n cefnogi cyflenwi r Wales Tackling Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Commissioning Toolkit 5, National Statement of Expectations (NSE) for England and Wales 6 y Swyddfa Gartref ac yn cydweddu â r egwyddorion a gadarnhawyd yn y Violence Against Women and Girls Commissioning Toolkit for England 7. Mae Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn ffurfio set o feini prawf achrededig y gall gwasanaethau arbenigol penodol sy n ymwneud â cham-drin domestig eu defnyddio i dystio ansawdd eu darpariaeth. Rhaid i sefydliadau gwblhau proses achredu ffurfiol gadarn i dystio eu bod wedi bodloni r safonau. Mae r rhain yn ymgorffori egwyddorion cyfranogi, llywodraethu tryloyw a chyflenwi gwasanaeth ar sail anghenion, ac yn gosod natur a safon y ddarpariaeth sydd ei hangen i alluogi pobl a effeithir gan gam-drin domestig i ymdopi ag a gwella oddi wrth eu profiadau o gam-drin. 3 Y Swyddfa Gartref: A Call to End Violence Against Women and Girls: Action Plan 2013 Llundain, 2013 (p.3) 4 Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Victims Services Commissioning Framework, Llundain 2013 5 https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/vawdasv%20toolkit_wales_web.pdf 6 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/574665/vawg_national_statement_of_expectations_-_final.pdf 7 Mae ei gwmpas yn cynnwys cam-drin domestig, trais rhywiol a cham-drin plant yn rhywiol, stelcio, yr hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd gan gynnwys priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), trais yn gysylltiedig â gangiau a r fasnach mewn pobl. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn cyfeirio at nifer o wahanol fathau o gam-drin ac ymddygiad rheoli a ddefnyddir gyda i gilydd yn fwriadol i reoli person arall, boed oedlyn neu blentyn, neu i gael pŵer drostynt https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/576238/vawg_ Commissioning_Toolkit.pdf 5

Mae Safonau Cymorth i Ferched Cymru felly wedi u mapio yn erbyn: Deddf Trais yn erbyn Menywod Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Y Swyddfa Gartref: Ending Violence Against Women and Girls: 2016-21 Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Fframwaith Comisiynu Gwasanaethau Dioddefwyr Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ymdrin â Cham-drin Domestig a Rhywiol Cyngor Ewrop: Safonau Gofynnol ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Trais yn erbyn Menywod Safonau Gwasanaeth Safelives Leading Lights Safonau Gwasanaethau Cenedlaethol Respect Safonau Ansawdd Achrededig Imkaan (IAQS) Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Ymddiriedolaeth y Goroeswyr Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Rape Crisis Cymru a Lloegr Safonau Gwasanaeth Cenedlaethol Scottish Women s Aid Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Brwydro Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig a Chonfensiwn y CU ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod Cyswllt â safonau craidd cyffredin y sector Mae Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cymorth i Ferched Cymru n cyd-fynd â set graidd o safonau cyffredin. Mae gan Cymorth i Ferched yng Nghymru a Lloegr, Imkaan, Rape Crisis England and Wales, Respect a SafeLives i gyd set o safonau ansawdd gwasanaeth sy n berthnasol i w gwaith perthnasol ac unigryw ac sy n ysgogi gwelliannau o ran ansawdd 8. Er mwyn sicrhau bod modd defnyddio cyfuniad o safonau gwasanaeth gan gomisiynwyr wrth gomisiynu ar y cyd, mae set o safonau craidd cyffredin y gellir eu defnyddio at ddibenion cydgomisiynu wedi u datblygu a u cytuno. Nid yw r safonau craidd cyffredin yn orfodol ond maent yn cynnig cymorth ac arweiniad i gomisiynwyr ei ystyried wrth ddatblygu cyd-gomisiynu mwy effeithiol ar draws amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol i fodloni anghenion goroeswyr yn fwy effeithiol. Mae r safonau craidd cyffredin hyn ar gael yn Atodiad 5 pecyn cymorth comisiynwyr Cymru a gynhyrchwyd gan Sefydliad Banc Lloyds (Tackling Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence: A Collaborative Commissioning Toolkit for Toolkit for Services in Wales ). Mae r Swyddfa Gartref hefyd yn cyfeirio at ac yn cadarnhau r safonau craidd cyffredin yn eu dogfen ganllaw Supporting Local Commissioning. Mae hon yn datgan er enghraifft Mae n bwysig bod ansawdd y gwasanaethau n cyd-fynd â r Safonau Craidd Cyffredin Cenedlaethol ; Dylid comisiynu gwasanaethau ar sail safonau cenedlaethol perthnasol i r gwasanaeth hwnnw. Dylai enghreifftiau o isafswm ymarfer a gofynion polisi mewn manyleb gysylltu n benodol â r Safonau Craidd Cyffredin Cenedlaethol. Mae r ddogfen hefyd yn egluro eu statws: Mae r safonau cyffredin yn cefnogi comisiynwyr i sicrhau bod modd defnyddio r safonau annibynnol yn genedlaethol ac yn lleol at ddibenion cyd-gomisiynu. Ni fwriedir iddynt sefyll ar eu pen eu hunain ond maent wedi u cytuno fel safonau craidd cyffredin dynodedig, sef yr isafswm sy n gyffredin i bob aelod-wasasnaeth 6 8 Mae Imkaan yn gweithio gyda goroeswyr trais BME; mae Rape Crisis England & Wales yn gweithio gyda goroeswyr treisio a thrais rhywiol sy n fenywod ac yn ferched; mae Respect yn gweithio gyda dioddefwyr sy n ddynion a gyda chyflawnwyr; mae Safe Lives yn gweithio i ddileu cam-drin domestig a gwneud teuluoedd yn ddiogel; mae Women s Aid England yn gweithio i ddileu cam-drin domestig yn erbyn menywod a phlant ac mae Cymorth i Ferched Cymru n gweithio i ddileu cam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. 9 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/576238/vawg_commissioning_toolkit.pdf

Egwyddorion Mae r egwyddorion sy n sail i Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymorth i Ferched Cymru yn adlewyrchu egwyddorion ac ymagwedd y model gwasanaeth Newid sy n Para (a ddatblygwyd gyda Women s Aid Lloegr) a chyfraniad defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygiad gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol ar sail rhywedd a than arweiniad anghenion. Mae r egwyddorion allweddol sy n sail i ddatblygu Newid sy n Para fel a ganlyn: Dylai ymatebion adeiladu ar adnoddau mewnol ac allanol sydd ar gael i oroeswyr unigol a u meithrin, gan leihau eu hangen tymor hir i dynnu ar adnoddau cyhoeddus. Mae pob pwynt cyswllt gyda goroeswyr yn gyfle i ymyrryd. Ni ddylid ei golli, ac ni ddylid byth ychwanegu at y rhwystrau enfawr mae goroeswyr eisoes yn eu hwynebu. Cynorthwyo r rhiant nad yw n cam-drin yw r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch a llesiant plant. Mae mynd i r afael ag anghenion diogelwch uniongyrchol goroeswyr a u plant yn bwysig ond ni ddylai fod yn unig ffocws ar gyfer ymyriadau. I grynhoi, elfennau allweddol y model Newid sy n Para yw: Mae lleisiau goroeswyr yn ganolog i ddatblygu a chyflenwi ymatebion gwasanaeth Mae gwasanaethau n gweithio at nod cyffredin sef annibyniaeth 10 i r goroeswyr Ceir newid o ddull yn seiliedig ar risg i un sy n dechrau gydag anghenion unigol goroeswyr, gan gynnwys eu diogelwch Caiff goroeswyr eu cynorthwyo i dynnu ar ac adeiladu ar eu cryfderau a u hadnoddau unigol mae asesu risg a chynllunio diogelwch yn hwyluso hyn Caiff rhwystrau at gymorth eu tynnu neu eu lleihau a chaiff cyfleoedd i gyrchu cymorth yn y gymuned eu hehangu drwy gynlluniau Holwch Fi lleol a datblygu r rôl Gweithiwr Proffesiynol Ymddiriedol. Mae cymunedau n cynyddu eu dealltwriaeth o drais domestig a cham-drin, a r rôl y gallant ei chwarae yn ymateb, drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyda negeseuon allweddol cyson Caiff plant eu cynorthwyo i oresgyn effaith cam-drin ac mae goroeswyr yn eu cefnogi yn y broses hon Mae ffocws y risg yn symud at y cyflawnwr sy n atebol ac sy n cael cyfleoedd i newid ymddygiad. Ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gan ac ar gyfer Caiff menywod a merched eu heffeithio n anghymesur gan gam-drin domestig, trais rhywiol, puteindra, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, stelcio ac aflonyddu rhywiol. Nid yw r rhain yn ddigwyddiadau ynysig ond yn hytrach yn batrwm o ymddygiad sy n torri hawliau menywod a merched, yn cyfyngu eu cyfranogiad mewn cymdeithas, yn niweidio eu hiechyd a u llesiant ac sydd wedi u gwreiddio mewn anghydraddoldeb rhwng menywod a dynion sy n croestorri â gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, oed, dosbarth, rhywioldeb ac anabledd i effeithio ar brofiadau o gam-drin a llwybrau at gymorth. Dyma pam fod cynifer o wasanaethau n cael eu harwain yn benodol gan fenywod ac ar eu cyfer, a gan ac ar gyfer menywod Du a lleiafrifol ethnig. Mae dulliau gweithredu o r fath yn galluogi gwasanaethau i ymdrin â materion rhywedd a chydraddoldeb croesadrannol mewn fframwaith darparu gwasanaeth. Mae canolbwyntio ar fenywod a bod dan arweiniad menywod yn cynnig lle i rannu profiadau ac ymdrin â r dosbarthiad annheg o bŵer ar draws y sfferau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, ac yn cyflenwi cymorth gyda r fenyw n ganolog a gaiff ei lywio gan werthoedd grymuso, hawliau a hunanbenderfyniad. Mae pwysigrwydd gwasanaethau gan ac ar gyfer menywod Du a lleiafrifol ethnig yr un mor hanfodol, er mwyn cynnig cymorth sy n ymateb i rywedd a diwylliant, a lle i nodi blaenoriaethau a chryfhau a hybu arweinyddiaeth, annibyniaeth a hunanbenderfyniad menywod BME. Nodweddir gwasanaethau a arweinir gan ac ar gyfrer menywod BME gan ddealltwriaeth o realiti eu bywydau, a gaiff ei gyfoethogi gan brofiad byw gweithlu sydd ar y cyfan yn fenywaidd / BME. Mae r ddealltwriaeth hon yn aml wedi i datblygu mewn sefydliad drwy ei waith parhaus yn gwrando ar sefyllfaoedd bywyd menywod sy n defnyddio eu gwasanaethau; bod â r gallu i sicrhau ymddiriedaeth dros gyfnodau estynedig o amser a hefyd mae n helpu gwasanaethau i adeiladu dealltwriaeth o gymhlethdodau bywydau menywod gan ddeall y rhain o fewn cyd-destun yr anfanteision niferus mae menywod yn eu profi ar sail eu hunaniaeth a u 10 Diffinnir annibyniaeth fel - Diogelwch a llesiant cynaliadwy iddynt eu hunain a u plant sy n ddibynyddion, y gellir ei gynnal gyda r ddibyniaeth fwyaf bosibl ar eu hadnoddau eu hunain (personol a theuluol/cymunedol) a r ddibyniaeth leiaf bosibl ar adnoddau allanol, gan ddibynnu ar amgylchiadau ac angen personol. 7

profiad bywyd. Mae r ddealltwriaeth sefydliadol hon yn adeiladu gwaddol o wybodaeth ar sail profiad am effaith profiadau r gorffennol ar lwybrau bywyd ac yn llywio agwedd y sefydliad at fenywod. Caiff y safonau hyn eu llywio gan ymchwil a thystiolaeth olynol yn y DU ac yn rhyngwladol; o r hyn mae goroeswyr cam-drin yn ei werthfawrogi yn y gwasanaethau, hynny yw, mae menywod yn gwerthfawrogi dro ar ôl tro bod gwasanaethau i fenywod/bme ac a arweinir ganddynt ac sy n canolbwyntio ar fenywod yn creu lle diogel yn gorfforol ac yn emosiynol, lle mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn datblygu hyder, yn cyflawni gwell annibyniaeth a hunan-barch. bod dulliau sy n canolbwyntio ar fenywod ac sy n ymateb i rywedd yn gallu helpu i ddatgloi datrysiadau i broblemau cymhleth a chyflenwi canlyniadau niferus i fenywod a u teuluoedd, sydd yn ei dro n gwneud gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus. bod cynnal ac adeiladu mudiad cryf o wasanaethau dan arweiniad menywod, sy n annibynnol o r wladwriaeth, yn rhagfynegydd hanfodol fod cydraddoldebau rhywedd a chroesadrannol yn cael eu trin yn fwy effeithiol. Mae gwasanaethau gan ac ar gyfer menywod yn cynnig sefyllfa unigryw o gael eu cynllunio gan fenywod ar gyfer menywod. Maent yn bodoli fel ymateb i angen menywod am fannau i fenywod yn unig, lle ceir gwahaniaeth cynnil mewn iaith, tybiaethau a disgwyliadau. Mae eu hagwedd ymatebol ac fel unigolion at fenywod yn golygu bod eu hymarfer yn cael ei herio ar sail barhaus i w galluogi i fodloni gofynion blaenoriaeth i fenywod ar unrhyw adeg. Mae angen i fenywod gael dulliau sy n cydnabod ac sydd wedi u hadeiladu ar brosesau i oresgyn rhwystrau i ymdopi a symud ymlaen mewn bywyd mae man i fenywod yn unig yn hanfodol gan fod cynifer o fenywod wedi profi trais ar sail rhywedd yn eu bywydau. Hyd yn oed yn fwy treiddiol yw r ffordd mae menywod yn cael eu gwneud i deimlo n israddol, yn amherthnasol neu n anweladwy mewn lleoliadau sy n bennaf yn wrywaidd. Mae menywod yn gwerthfawrogi r hafan ddiogel sy n caniatáu iddynt ddatblygu ymdeimlad o u hunaniaeth a u hunan-barch eu hunain ac sydd ag agweddau sy n galluogi ac yn grymuso, sy n cydnabod cryfderau, sgiliau a nodweddion menywod ac sy n anelu at gredu mewn menywod pan fyddant wedi colli eu hunangred eu hunain. 11 Caiff gwasanaethau gan ac ar gyfer menywod BME eu datblygu gyda dealltwriaeth o syniadau am ddiwylliant, effaith gwladychu a phatriarchaeth, gan ddangos dealltwriaeth o effaith hiliaeth a gwahaniaethu ar fywydau menywod a merched yng nghyd-destun trais Gall rhyngweithio gyda, a dehongli, arlliwiau diwylliannol wneud gwahaniaeth sylweddol i r ffordd y caiff trais ei ddeall ac yr ymatebir iddo ac mae gallu gweithio gyda merched a menywod i lywio ffordd drwy r hyn y gallai cyfeiriadau diwylliannol ei olygu neu beidio yn hanfodol. 12 Mae pecynnau comisiynu VAWDASV i Gymru a Lloegr yn cefnogi r agwedd hon, sy n datgan yn glir ble mae darpariaeth yn canolbwyntio ar grwpiau penodol o fewn nodweddion gwarchodedig, dylai r fanyleb nodi n glir dull gan ac ar gyfer o gyflenwi gwasanaeth. Dywed y canllawiau er enghraifft: Mae angen i gomisiynwyr sicrhau eu bod yn ystyried croestoriad, a r rhwystrau i gyrchu gwasanaethau. Er enghraifft gallai goroeswyr BME syrthio drwy rwyd modelau prif ffrwd cyfredol o ddarpariaeth heb fynediad at lwybrau gwasanaeth gan ac ar gyfer arbenigol BME. Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod llwybrau gofal yn cael eu datblygu a bod modd eu cyflwyno gan arbenigwyr (o ba bynnag faint), hyd yn oed os yw allan o r ardal, a defnyddio neu brynu capasiti ychwanegol mewn ardal arall. Mae hyn yn helpu i fynd i r afael â r loteri cod post presennol o wasanaethau. 13 8 11 http://www.womencentredworking.com/wp-content/uploads/2014/08/wcw-defining-an-approachdocument.pdf 12 Imkaan Safe Minimum Practice Standards for BME specialist services imkaan.org.uk 13 https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/vawdasv%20toolkit_wales_web.pdf

Y Safonau Mae tystiolaeth o fodloni r safonau yn y ddogfen hon yn golygu bod darparwr gwasanaeth yn deilwng i dderbyn Nod Ansawdd Cymorth i Ferched Cymru. SAFON 1: DIOGELWCH, SICRWYDD AC URDDAS Cynhelir hawl defnyddwyr gwasanaeth i fywyd, rhyddid ac urddas. 1.1 Caiff defnyddwyr gwasanaeth sy n cysylltu â r gwasanaeth am help eu hasesu a chynigir gwasanaethau iddynt ar sail eu hangen unigol am ddiogelwch a chymorth. 1.2 Gall defnyddwyr gwasanaeth fanteisio ar gymorth mewn argyfwng ar unrhyw adeg pan fydd ei angen a derbyn ymateb priodol amserol, gan gynnwys cael llety argyfwng dros dro tra bo lle mewn lloches yn cael ei ganfod. 1.3 Caiff defnyddwyr gwasanaeth sy n camddefnyddio sylweddau neu sydd ag anghenion iechyd meddwl eu hasesu a chynigir lle iddynt ar yr un sail â phobl eraill a gwneir pob ymdrech i ddiwallu eu hanghenion. 1.4 Ni fydd unrhyw oroeswyr sydd angen cymorth yn profi rhwystr wrth gyrchu gwasanaeth am mai r Gymraeg yw eu hiaith gyntaf. 1.5 Ni chaiff gwasanaeth ei wrthod i unrhyw oroeswyr sydd angen cymorth am nad yw r Gymraeg neu r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, oherwydd eu statws mewnfudo neu geisio lloches neu am nad oes ganddynt yr hawl i fanteisio ar gyllid cyhoeddus. 1.6 Mae r gwasanaeth yn ymgysylltu n rhagweithiol gydag ymatebion amlasiantaethol i gynorthwyo goroeswyr cam-drin domestig. 1.7 Mae r sefydliad yn darparu, yn diogelu ac yn rhoi gwerth ar fannau diogel, hygyrch i fenywod yn unig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy n fenywod. 1.8 Caiff darpariaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth gwrywaidd ei chyflenwi drwy ddarpariaeth sy n ddiogel ac ar wahân i wasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth sy n fenywod. 1.9 Caiff gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth gwrywaidd eu teilwra i w hanghenion a u cyflwyno n ddiogel gydag offeryn asesu i adolygu risg ac anghenion, sy n cydweddu â phecyn asesu Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach neu r Pecyn Cymorth Respect ar gyfer gwaith gyda dioddefwyr trais domestig gwrywaidd a r safonau cysylltiedig ar gyfer cynorthwyo dioddefwyr gwrywaidd. 1.10 Mae gwaith gyda chyflawnwyr gwrywaidd (gwaith grŵp) yn cynnwys gwaith diogelwch partner sy n hanfodol i unrhyw ymyrraeth gyda chyflawnwyr, ac mae wedi i achredu gan Respect neu mae n gweithio at achrediad; caiff ymyriadau unigol gyda chyflawnwyr eu cyflenwi n unol ag egwyddorion achredu Respect a thystiolaeth am ymyrraeth effeithiol. 1.11 Mae r sefydliad yn amddiffyn diogelwch defnyddwyr gwasanaeth drwy ddefnyddio cyfeiriadau cyfrinachol a mesurau diogelwch trylwyr. 1.12 Mae r sefydliad yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i w cadw eu hunain a i gilydd yn ddiogel, a lleihau r pwysau emosiynol a r rheolaeth y maent yn eu hwynebu gan gyflawnwyr. 1.13 Caiff defnyddwyr gwasanaeth eu cynorthwyo i adrodd i r heddlu a chyfranogi yn y systemau cyfiawnder troseddol a sifil. 9

SAFON 2: HAWLIAU A MYNEDIAD Sicrheir mynediad cyfartal i r holl ddefnyddwyr gwasanaeth i w hawliau ac eir i r afael â rhwystrau at gydraddoldeb 2.1 Caiff defnyddwyr gwasanaeth eu credu a gwrandewir arnynt â pharch a sensitifrwydd. 2.2 Caiff defnyddwyr gwasanaeth eu hysbysu am eu hawliau cyfreithiol a dynol a r gwasanaethau y mae ganddynt hawl i w derbyn. 2.3 Caiff anghenion defnyddwyr gwasanaeth eu hasesu er mwyn dynodi ac ymdrin â rhwystrau i w diogelwch a u hannibyniaeth. 2.4 Mae ymyriadau ac ymarfer yn parchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i gyfrinachedd a chaiff defnyddwyr gwasanaeth eu hysbysu am sefyllfaoedd ble gellid cyfyngu ar y cyfrinachedd hwnnw. 2.5 Mae gan ddefnyddwyr gwasanaeth ddigon o amser i wneud penderfyniadau gwybodus ac ni chaiff unrhyw weithredu ei wneud ar eu rhan heb iddynt wybod amdano o flaen llaw, oni bai bod yr angen i ddiogelu plentyn neu oedolyn agored i niwed yn drech. 2.6 Mae r sefydliad yn monitro proffiliau defnyddiwr gwasanaeth i ganfod a mynd i r afael â thangynrychiolaeth grwpiau â nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. SAFON 3: IECHYD CORFFOROL AC EMOSIYNOL Cynhelir hawliau defnyddwyr gwasanaeth i r safonau uchaf y gellir eu cyflawni o iechyd corfforol, rhywiol, atgenhedlol a meddwl, gan hyrwyddo adferiad a lleisiant tymor hir. 3.1 Mae r sefydliad yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gallu manteisio ar ofal meddygol a gwasanaethau iechyd sy n briodol i w hanghenion. 3.2 Mae r sefydliad yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn gallu manteisio ar wasanaethau cynghori iechyd rhywiol a beichiogrwydd a u bod yn cael eu cynorthwyo i ystyried eu hopsiynau yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys eu hawl i ddewis terfynu r beichiogrwydd. 3.3 Caiff defnyddwyr gwasanaeth eu galluogi i ddatgelu trais rhywiol, cam-fanteisio rhywiol a cham-drin rhywiol yn ystod plentyndod, a chynigir cymorth arbenigol iddynt gyda r materion hyn. 3.4 Gall defnyddwyr gwasanaeth fanteisio ar wasanaethau cymorth ac iechyd meddwl arbenigol i ymdrin â strategaethau ymdopi, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl. 3.5 Gall defnyddwyr gwasanaeth fanteisio ar waith cwnsela unigol neu therapiwtig i ddynodi eu cryfderau ac adnoddau a chynyddu eu gallu i adnabod rheolaeth gymhellol. 2.7 Mae r sefydliad yn monitro proffiliau rheolwyr a staff i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amrywiaeth y defnyddwyr gwasanaeth o ran eu nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 2.8 Caiff anghenion penodol ac unigol defnyddwyr gwasanaeth du a lleiafrifol ethnig eu hystyried a u trin. 2.9 Mae r sefydliad yn tynnu neu n lleihau rhwystrau o ran mynediad corfforol, cymorth a chyfathrebu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth anabl ac yn defnyddio model anabledd cymdeithasol yn hytrach na meddygol i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth anabl. 2.10 Mae r sefydliad yn sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn bodloni anghenion defnyddwyr gwasanaeth hoyw, lesbaidd, deurywiol a thrawsrywiol. 10

SAFON 4: SEFYDLOGRWYDD, GWYDNWCH AC YMREOLAETH Cynorthwyir defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni sefydlogrwydd, annibyniaeth a rhyddid rhag cam-drin yn y tymor hir. 4.1 Caiff anghenion a chryfderau defnyddwyr gwasanaeth eu hasesu wrth ddod i mewn i r gwasanaeth, gan gynnwys eu diogelwch corfforol; anghenion iechyd; anghenion plant; angen am gyngor cyfreithiol a mewnfudo; a llesiant cymdeithasol ac economaidd. 4.2 Mae r sefydliad yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i fynegi eu hanghenion, manteisio ar eu hawliau a bod yn gyfrifol am benderfyniadau am eu bywydau eu hunain. 4.3 Caiff defnyddwyr gwasanaeth eu hannog i ddynodi nodau at y dyfodol a chyrchu neu gynnal addysg, hyfforddiant a chyflogaeth er mwyn gwella eu hannibyniaeth ariannol. 4.4 Caiff defnyddwyr gwasanaeth gymorth i gyfranogi mewn bywyd cymunedol a datblygu rhwydweithiau cymorth cryf. 4.5 Caiff defnyddwyr gwasanaeth gymorth i gyflawni sefydlogrwydd ac annibyniaeth ariannol 4.6 Caiff defnyddwyr gwasanaeth gymorth i sicrhau llety sefydlog a diogel a r adnoddau i gynnal tenantiaethau annibynnol. 4.7 Gall defnyddwyr gwasanaeth ddefnyddio gwasanaethau ailsefydlu a dilynol gyda strategaethau ymadael sy n cael eu teilwra i anghenion unigol, ac sy n ddigonol i gynnal eu symudiad at annibyniaeth heb hyrwyddo dibyniaeth. SAFON 5: PLANT A PHOBL IFANC Cynhelir hawliau plant a phobl ifanc i ddiogelwch, addysg a bywyd teuluol. 5.1 Mae gan y sefydliad bolisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu plant. 5.2 Delir â diogelwch a llesiant plant a phobl ifanc drwy gydol y broses o asesu anghenion a chynllunio cymorth. 5.3 Mae r sefydliad yn darparu/galluogi gofal plant priodol yn ystod apwyntiadau gyda rhiant/ gwarcheidwad. 5.4 Mae r sefydliad yn ymateb i anghenion a barn plant a phob ifanc. 5.5 Mae r sefydliad yn gweithio gyda merched a menywod ifanc i adeiladu eu hyder a u pendantrwydd mewn perthynas â u dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod a merched. 5.6 Caiff plant a phobl ifanc eu cynorthwyo i fynychu a mwynhau r ysgol a r coleg a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden gyda u cymheiriaid. 5.7 Caiff plant a phobl ifanc eu cynorthwyo i fanteisio ar wasanaethau iechyd corfforol, emosiynol a rhywiol sy n briodol i w hanghenion. 5.8 Caiff plant a phobl ifanc eu cynorthwyo i ddeall eu profiadau o gam-drin domestig ac adeiladu eu gwydnwch a u hyder. 5.9 Rhoddir cymorth i oroeswyr i ddatblygu eu hadnoddau rhianta a chynnal a chryfhau eu perthynas â u plant. 5.10 Mae r sefydliad yn hyrwyddo cymorth priodol i r rhiant nad yw n cam-drin er mwyn gwella diogelwch a llesiant plant yn y llys teuluol a gweithdrefnau diogelu plant. 5.11 Mae gwasanaethau sy n darparu llety n mynd i r afael ag anghenion cymorth penodol defnyddwyr gwasanaeth sy n fenywod ifanc mewn llety gyda menywod hyn. 11

SAFON 6: ARWEINYDDIAETH AC ATAL Lleisiau menywod a merched sy n arwain wrth ddatblygu ymatebion strategol i drais yn erbyn menywod a merched. SAFON 7: LLYWODRAETHU AC ATEBOLRWYDD Mae r sefydliad yn dangos mai menywod sy n arwain gwasanaethau a i fod yn atebol i ddefnyddwyr gwasanaeth a chymunedau 6.1 Mae r sefydliad yn ymwneud â datblygu strategaeth leol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i ymgysylltu n unigol neu drwy fforymau goroeswyr. 6.2 Mae r sefydliad yn cyfrannu at fentrau i addysgu plant a phobl ifanc am gydsyniad, perthynas iach, anghydraddoldeb rhywedd a thrais yn erbyn menywod a phlant. 6.3 Mae r sefydliad yn cyfrannu at hyfforddiant a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched ac anghenion defnyddwyr gwasanaeth mewn cymunedau ac asiantaethau. 6.4 Mae r sefydliad yn chwarae rhan strategol gan ddadlau gydag asiantaethau eraill dros well ymatebion i ddefnyddwyr gwasanaeth benywaidd a u plant. 6.5 Mae r sefydliad yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau trais yn erbyn menywod a merched penodol eraill i ddarparu llais cyfunol i r sector menywod wrth ddiffinio nodau strategol a ffurfio r ddarpariaeth. 7.1 Mewn achosion ble mai busnes craidd y gwasanaeth neu r sefydliad yw cefnogi menywod a phlant, mae r sefydliad yn dangos ymrwymiad i fod yn fenyw-ganolog a i arwain gan fenywod, er enghraifft, mae cadeirydd a/neu is-gadeirydd y bwrdd, mwyafrif o r ymddiriedolwyr a r prif weithredwr yn fenywod. 14 Os yw r gwasanaeth arbenigol yn rhan o gorff mwy o faint, caiff rheolaeth y gwasanaeth ei oruchwylio gan fwrdd ar wahân a/neu mae rheolaeth y gwasanaeth yn fenyw-ganolog a chaiff ei arwain gan fenywod. Os yw r corff neu r gwasanaeth yn wasanaeth arbenigol BME, dylai r menywod y cyfeirir atynt uchod fod yn fenywod BME 7.2 Mae r sefydliad yn hybu dealltwriaeth ar sail rhywedd o gam-drin domestig fel achos a chanlyniad i anghydraddoldeb menywod yn ei holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hyrwyddo. 7.3 Caiff cyllid y sefydliad ei reoli er budd defnyddwyr gwasanaeth yn unig. 7.4 Mae r sefydliad yn ymrwymo i godi arian a chreu incwm o amrywiaeth eang o ffynonellau. 7.5 Caiff agwedd yn seiliedig ar ganlyniadau ei mabwysiadu wrth ymdrin â darparu gwasanaeth ac mae r sefydliad yn cyfrannu at gasglu tystiolaeth a chasglu data cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 7.6 Mae r sefydliad yn ffurfio partneriaethau, a lle bo n bosibl, mae n ymrwymo i gytundebau dim cystadleuaeth gyda darparwyr penodol eraill ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn diogelu a gwella darpariaeth benodedig ac arbenigeddau unigryw. 7.7 Mae ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr yn deall dynameg trais yn erbyn menywod a merched ac egwyddorion ymarfer gwrth-ormesol ac yn defnyddio r ddealltwriaeth hon i lywio ymarfer. 12

7.8 Caiff aelodau o staff eu hyfforddi o leiaf i lefel Safonau Gofynnol Cyngor Ewrop, yn unol â r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ymwneud â Cham-drin Domestig a Rhywiol a lefelau perthnasol Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. 7.9 Mae mesurau wedi u sefydlu i sicrhau arferion gwaith diogel ac i warchod diogelwch ffisegol a llesiant meddyliol staff a gwirfoddolwyr. 7.10 Mae defnyddwyr gwasanaeth yn ymwneud â chynllunio a gwerthuso gwasanaethau a cheir trefniadau sy n caniatáu i r bwrdd ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth cyfredol i lywio ei benderfyniadau. 7.11 Darperir cyfleoedd ar gyfer trefnu staff yn annibynnol a cheir trefniadau sy n caniatáu i r bwrdd ymgynghori â staff i lywio ei benderfyniadau. 7.12 Mae r sefydliad yn darparu prosesau cwyno ac achwyno i r rheini sy n teimlo eu bod wedi dioddef camwahaniaethu neu gamdriniaeth, ac mae n hysbysu r holl ddefnyddwyr gwasanaeth, staff a gwirfoddolwyr am y prosesau hyn. 14 Mae Cymorth i Ferched Cymru n cefnogi r dull hwn fel un sy n gyson â gweithrediad y Gofyniad Galwedigaethol Dilys (Deddf Cydraddoldeb 2010) gyda golwg ar recriwtio i swyddi allweddol, gan gynnwys cyflenwi, arweinyddiaeth/rheoli a rolau perthnasol eraill sy n ymwneud â mannau a gwasanaethau i fenywod yn unig, sy n gyson â r dull ar gyfer a gan i ddarparu gwasanaethau a amlinellir uchod (tudalen 8-9). 13

Tŷ Pendragon, Plas Caxton Pentwyn, Caerdydd CF23 8XE Ffôn: 02920 541 551 Ebost: info@welshwomensaid.org.uk Gwe: www.welshwomensaid.org.uk Rhif Elusen Gofrestredig: 1140962 Supported by