Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Economic assessment of the health benefits of walking on the Wales Coast Path

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

NatWest Ein Polisi Iaith

Hawliau Plant yng Nghymru

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Adolygiad Blynyddol Newid gêr

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Talu costau tai yng Nghymru

Be part of THE careers and skills events for Wales

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Papur Cefndir 16. Twristiaeth

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Holiadur Cyn y Diwrnod

Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau. De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Gorffennaf 2017

We need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the M4, Magor to Castleton

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

Pysgota / Angling. Ceredigion

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

The Life of Freshwater Mussels

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Ymateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Addysg Oxfam

20/05/18 SWANSEA TRIATHLON EVENT PACK

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Llywodraeth Cymru. Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd Y Cynllun

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

BETH YW LLES AMGYLCHEDDOL?

Asesiad Lles Wrecsam

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Cycling in Denbighshire

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

y ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig.

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!

Explore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship events for Wales

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Newidiadau i'r broses o roi caniatâd seilwaith: Tuag at sefydlu proses bwrpasol ar gyfer rhoi caniatâd seilwaith yng Nghymru.

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

To Create. To Dream. To Excel

Adolygiad Blynyddol 2007/08

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Transcription:

CWM RHAEADR CRYCHAN FOREST LLANDOVERY Carmarthen to Newcastle Emlyn Merlin Druid Route BRECHFA NCN 47 Carmarthen to Brechfa Merlin Wizard Route CARMARTHEN ST. CLEARS LLANDYBIE CROSS HANDS NCN 4 KEY: NCN ROUTE 4 NCN ROUTE 47 KIDWELLY ACTIVE TRAVEL TOWNS NCN 47 MOUNTAIN BIKE BASE LLANELLI BURY PORT NCN 4 WALES COASTAL PATH LLANGENNECH & HENDY VELODROME OF W ALES CYMRU ICIO BE THE UB OLBWYN CAN T Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol C Y C LIN G H

Ein Gweledigaeth: Sir Gaerfyrddin, Canolbwynt Beicio Cymru ADDYSG, DATBLYGIAD A HYFFORDDIANT 1 Gwella addysg, datblygiad a hyfforddiant drwy: Roi r cyfle i bob plentyn ddysgu reidio beic Cefnogi Llwybrau o r lefel gymunedol hyd at y lefel elit Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol MARCHNATA A BRANDIO 3 Gwella r Marchnata a r Brandio drwy: Ddatblygu ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth o r brand Manteisio ar dechnoleg Datblygu dull cydlynus o ddarparu gwybodaeth Buddsoddi 10m mewn gwaith strategol i ddatblygu cyfleusterau a seilwaith allweddol, yn cynnwys: Datblygu Llwybr Dyffryn Tywi yn cysylltu Llandeilo a Chaerfyrddin Adnewyddu r Felodrom Awyr Agored hanesyddol yng Nghaerfyrddin Adeiladu r cyfleuster Cylchffordd Feicio Gaeedig gorau yng Nghymru ym Mharc Gwledig Pen-bre Sicrhau bod y Rhwydwaith Teithio Llesol yn cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol Gwella r rhwydwaith yn barhaus drwy ddatblygu llwybrau safonol, diogel, cyfforddus SEILWAITH A 2 TWRISTIAETH 4 CHYFLEUSTERAU Mae r strategaethau a r cynlluniau canlynol o eiddo Llywodraeth Cymru a Beicio Cymru yn cefnogi r themâu hyn; DIGWYDDIADAU 5 Gweithio gyda darparwyr Twristiaeth i: Ddatblygu cynnyrch sy n cael ei gydgysylltu n well Hyrwyddo Sir Gaerfyrddin fel prif gyrchfan feicio Cymru Gweithio gyda Croeso Cymru i godi r proffil Cydgysylltu ystod amrywiol o ddigwyddiadau yn ymwneud â beicio ar draws y Sir: Gweithio n agos gyda Beicio Cymru a Llywodraeth Cymru Cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau o r lefel leol i r lefel elit Croesawu cymal o r Tour of Britain Croesawu cymal o grand tour DEDDF TEITHIO LLESOL LLYWODRAETH CYMRU DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU R DYFODOL (CYMRU) 2015 STRATEGAETH FEICIO CYMRU 2013-2020 DINAS-RANBARTH BAE ABERTAWE

RHOI R CYFLE I BOB PLENTYN DDYSGU BEICIO AGOR Y GYLCHFFORDD GAEEDIG YM MHEN-BRE TOUR OF BRITAIN CWBLHAU LLWYBR DYFFRYN TYWI PENCAMPWRIAETHAU CENEDLAETHOL CROESAWU CYMAL O GRAND TOUR AGOR Y FELODROM AR EI NEWYDD WEDD DATBLYGU LLWYBRAU TEITHIO LLESOL GŴYL FEICIO TAITH SIR GÂR 2017 2027 Cyflwyno Bikeability L2 ym mhob Ysgol Gynradd Cyflwyno Bikeability L3 ym mhob Ysgol Uwchradd Parhau i fuddsoddi mewn seilwaith ar draws y rhwydwaith Gweithredu r Ddeddf Teithio Llesol Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a gwella hygyrchedd i drigolion Lansio ymgyrch hyrwyddo i hyrwyddo beicio yn Sir Gâr Gweithio gyda darparwyr twristiaeth i ddatblygu cynnyrch mwy integredig Darparu calendr blynyddol o gystadlaethau beicio cenedlaethol Hyrwyddo Sir Gâr fel prif gyrchfan feicio Cymru

Beicio yn Sir Gaerfyrddin Gyda rhwydwaith ffyrdd helaeth o 3,487 cilometr, yr ail hiraf yng Nghymru, Sir Gâr sydd â r drydedd lefel uchaf o draffig yng Nghymru. Gyda mwy nag 80 milltir o arfordir dilychwin, a rhai o r golygfeydd godidocaf yn y Deyrnas Unedig, mae Sir Gâr mewn lle da yng nghanol de Cymru. I r dwyrain o r Sir ceir canolfan ddiwydiannol Cymru a phwerdai economaidd Caerdydd ac Abertawe. Mae r Sir yn ganolog i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro i r gorllewin, penrhyn Gŵyr i r dwyrain, a Mynyddoedd Cambria a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i r gogledd a r gogledd-ddwyrain. Carmarthen to Newcastle Emlyn NCN 47 Carmarthen to Brechfa BRECHFA Merlin Druid Route CWM RHAEADR LLANDOVERY CRYCHAN FOREST Denodd y sir dros 3.1 miliwn o ymwelwyr yn 2014. Cynyddodd yr ymwelwyr undydd 7.4% yn 2014 a chynyddodd ymwelwyr dros nos 2.2% ar lefelau 2013. Cynhyrchodd hyn dros 340m i r economi leol. Mae gan Sir Gâr gynnyrch beicio sydd wedi hen ennill ei blwyf yn barod. Mae Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Brechfa, Cwm Rhaeadr a Choedwig Crychan yn cynnig cyfleusterau beicio mynydd o safon fyd-eang, a gellir darparu ar gyfer pob math o feiciwr ffordd o ddechreuwyr i r selogion pennaf ar y gwahanol lwybrau a ffyrdd niferus sy n cris-croesi Gardd Cymru. Hefyd, cyn bo hir bydd y Felodrom yng Nghaerfyrddin wedi i hadnewyddu mae hon yn un o ddim ond dwy felodrom awyr agored yng Nghymru ac yn gartref i r cystadlaethau Beicio Trac Cenedlaethol. NCN 4 ST. CLEARS CARMARTHEN KIDWELLY BURY PORT NCN 47 LLANELLI CROSS HANDS NCN 4 LLANDYBIE Merlin Wizard Route KEY: NCN ROUTE 4 NCN ROUTE 47 ACTIVE TRAVEL TOWNS MOUNTAIN BIKE BASE WALES COASTAL PATH VELODROME LLANGENNECH & HENDY Contains Ordnance Survey data Crown copyright and database right 2010 Dublin 1 hr 49 mins Rosslare 3 hrs 15mins Fishguard 1 hr 15 mins Cardigan 1 hr A40 A487 Holyhead 4 hrs A55 Aberystwyth 1 hr 30 mins A484 A40 A487 Carmarthen A48 Pembroke 1 hr Llanelli 15 mins A470 A44 A55 A5 A487 HoW A470 Swansea 30 mins A494 Chester 3 hrs 30 mins A483 Shrewsbury 3 hrs A44 Cardiff 55 mins M5 M54 Bristol 1 hr 30 mins Manchester 4 hrs 30mins M5 Birmingham 3 hrs M4 London 3 hrs 30 mins Yng Nghymru, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn golygu bod rheidrwydd cyfreithiol ar yr Awdurdodau Lleol i gynllunio a darparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau. Y nod yw sicrhau i r dyfodol mai cerdded a beicio fydd y ffyrdd mwyaf dymunol o gyflawni siwrneiau bob dydd. Bydd hyn yn arwain yn anochel at gynnydd yn nifer y siwrneiau a wneir ar droed ac ar feic. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn rhagweithiol yn cefnogi ac yn datblygu cerdded a beicio dros y blynyddoedd diwethaf, gan gydymffurfio ag egwyddorion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a u hyrwyddo. Fodd bynnag, mae angen newid sylweddol er mwyn gwireddu r dyhead o sefydlu Sir Gâr fel prif gyrchfan feicio Cymru. Datblygwyd y Strategaeth hon mewn partneriaeth â Chlybiau Beicio lleol, cyfranogwyr ar lawr gwlad ac ysgolion, yn ogystal â chynrychiolwyr o Feicio Cymru, Sustrans a Llywodraeth Cymru.

Sir Gaerfyrddin Y Dyfodol Cafodd Llundain y Gemau Olympaidd, cafodd Glasgow Gemau r Gymanwlad, cafodd Swydd Efrog y Tour de France. Nawr dychmygwch fod Cymru gyfan wedi troi n binc wrth i Sir Gâr groesawu r Gran Fondo ar gyfer y Giro D Italia. Mae r Giro yn ddigymar fel un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf eiconig y byd. Dros 170,000 o ymwelwyr, yn cyfrannu dros 3 miliwn i r economi leol, tra bo môr o gamerâu teledu yn darlledu delweddau n dangos Sir Gâr ar ei gorau i gynulleidfa deledu o fwy na 775 miliwn o bobl. Mae ennill y Giro yn cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau gyrfa beiciwr, ond drwy groesawu r digwyddiad cafodd Sir Gâr gyfleoedd hysbysebu ar yr oriau brig mewn 174 o wledydd ar draws y byd, wrth i r ddrama rasio ddatblygu a hynny yn erbyn cefnlen ein harfordir a n cefn gwlad godidog. Mae Sir Gâr wedi trawsnewid ei hun yn Ganolbwynt Beicio Cymru. Mae r Felodrom ar ei newydd wedd, y Gylchffordd Gaeedig ym Mhen-bre, Llwybr Beicio Dyffryn Tywi a rhwydwaith cynyddol o lwybrau Teithio Llesol i gyd yn cyfuno i gynnig nifer cynyddol o gyfleoedd beicio gyda r gorau yn y byd i ddechreuwyr, beicwyr hamdden a beicwyr elit yng Nghalon Cymru. Yn cris-croesi r Sir mae rhwydwaith o lwybrau beicio uniongyrchol, wedi u cynnal a u cadw n dda a u dynodi n glir ag arwyddion, yn cysylltu ardaloedd preswyl â chyfleusterau siopa, cyflogaeth, gofal iechyd a hamdden. Mae n haws nag erioed felly i wneud y siwrneiau byr hynny ar droed neu ar feic. Mae pobl yn defnyddio Sir Gâr fel canolbwynt beicio wrth iddynt reidio tua r gogledd i Fynyddoedd Cambria, tua r dwyrain at y Mynydd Du, tua r de i Benrhyn Gŵyr a thua r gorllewin i Sir Benfro. Mae Llwybr Dyffryn Tywi, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a Llwybr Beicio Cwmaman yn cynnig milltiroedd ar filltiroedd o feicio oddi ar y ffyrdd. Yn genedlaethol, tynnir sylw n gyson at Lwybr Dyffryn Tywi fel enghraifft nodedig o arfer da. Mae r llwybr yn denu 15,000 o ymweliadau undydd y flwyddyn a 5,000 o arosiadau dros nos sy n cynhyrchu rhwng 860k a 2m y flwyddyn i r economi leol. Mae hefyd yn cynhyrchu rhwng 17 a 41 o swyddi amser llawn bob blwyddyn. Ac mae Taith Sir Gâr yn denu 5,000 o feicwyr y flwyddyn i r ardal. Mae r Felodrom hanesyddol yng Nghaerfyrddin yn dod yn ganolfan ragoriaeth i feicio sy n cael ei chydnabod yn genedlaethol, gyda Beicio Cymru yn cynnal sesiynau yno a chystadlaethau Trac Cenedlaethol. Mae r felodrom wedi dod yn lle hynod o brysur yn gwasanaethu r gymuned gyfan mewn lleoliad a all feithrin pencampwyr y dyfodol. Mae r gylchffordd gaeedig ym Mhen-bre hefyd yn darparu amgylchedd di-draffig ar gyfer hyfforddi, beicio cystadleuol a reidio at ddibenion hamdden. Mae pob ysgol uwchradd wedi i chysylltu â rhwydwaith diogel o lwybrau beicio, sy n golygu bod llawer llai o ddefnyddio ceir i fynd â phlant i r ysgol. Mae hyn wedi gwneud yr amgylchedd wrth glwyd yr ysgol yn lle llawer mwy diogel. Gan eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol mae r disgyblion yn iachach a mwy ffit, ac mae nifer y damweiniau ceir wedi gostwng. Mae llawer o safleoedd cyflogaeth allweddol wedi gwella u cyfleusterau beicio ac wedi u cysylltu â rhwydwaith cynyddol o lwybrau beicio, sy n golygu bod llai o alw am leoedd parcio a gwell mynediad i bawb, yn enwedig y rheini heb gar. Yn gynyddol, mae r beic yn disodli r car fel y modd o deithio i r gwaith y mae pobl yn ei ddewis. Mae r Sir wedi dod yn fagnet i feicwyr o bob rhan o Gymru, y Deyrnas Unedig a r tu hwnt. Yn dilyn blynyddoedd o fuddsoddi, erbyn hyn mae gan Sir Gâr seilwaith beicio sy n destun cenfigen ar draws y byd.

Carmarthenshire Cycling Strategy Executive Summary Y Cyfleoedd Mae cyfleoedd enfawr i awdurdodau lleol sydd eisiau buddsoddi mewn beicio a i hyrwyddo. Gallai croesawu digwyddiadau beicio gynnig cyfle i dynnu sylw at Sir Gâr ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â helpu i dyfu twristiaeth. Er enghraifft, am dri diwrnod ym mis Gorffennaf 2014, daeth 4.8 miliwn o bobl allan yn Swydd Efrog i wylio r Tour De France. Amcangyfrifir bod 40% o r gwylwyr yn ymwelwyr o r tu allan i r ardal, yn gwario oddeutu 128 miliwn. Mae 3.5 biliwn o bobl mewn 188 o wledydd gwahanol yn gwylio r Tour bob blwyddyn. Dywedwyd bod Cumbria wedi cael hwb economaidd o 4.1m drwy groesawu Cymal Dau o ras feicio r Tour of Britain ym mis Medi 2013, a dywedodd Cyngor Sir Mynwy fod yr enillion ar y buddsoddiad yn 12:1 am bob punt a wariwyd ar y Tour of Britain a Phencampwriaeth y Ras Ffordd Genedlaethol. Gwerthwyd y tocynnau i gyd ar gyfer Velothon Cymru 2016 yn ddiweddar, gyda 18,000 o feicwyr yn talu 70 i gymryd rhan. Mae twristiaeth beicio yn gyfle arall, ac mae llawer o ardaloedd yn y Deyrnas Unedig yn targedu r farchnad feicio gyda chynnyrch arbenigol er mwyn denu ymwelwyr. Eisoes, mae deg darparwr llety n cael eu rhestru yn Sir Gâr fel rhai sy n cynnig Gwyliau Beicio. Fodd bynnag, mae lle i dyfu ac ehangu hyn yn fawr drwy fuddsoddi a datblygu r seilwaith angenrheidiol i annog busnesau newydd i gychwyn a chynnig cynnyrch twristiaeth sy n canolbwyntio ar feicio. OF W ALES CYMRU ICIO BE THE UB Mae gan Sir Gâr yr adnoddau naturiol, y dirwedd a r seilwaith sylfaenol y byddai modd, o fuddsoddi, eu defnyddio i groesawu digwyddiadau beicio mawr, darparu ar gyfer diwydiant twristiaeth beicio iach a gwireddu niferoedd beicio nas gwelwyd o r blaen o r plant ieuengaf hyd at y selogion beicio mynydd/beicio ffordd mwyaf brwd. OLBWYN CAN T Mae un o r cyfleoedd mawr wrth gynyddu beicio i w weld ymysg pobl ifanc. Bydd galluogi plant Sir Gaerfyrddin i ddysgu reidio beic yn help i ddatblygu arferion teithio llesol a fydd yn parhau wedi iddynt dyfu n oedolion a bydd yn sicrhau bod cenedlaethau r dyfodol yn gwneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy. Bydd hyn yn help hefyd wrth fynd i r afael â gordewdra, lle gwelir yn aml fod cysylltiad â diffyg gweithgarwch corfforol, a bydd yn sicrhau bod arferion teithio llesol yn dod yn norm yn gynnar mewn bywyd. Gallai buddsoddi nawr yn yr arfau sydd eu hangen i ddatblygu beicio ymysg pobl ifanc arwain at fuddion yn y dyfodol yn Sir Gâr. C Y C LIN G H

Y Manteision Yn ôl Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir Gaerfyrddin mae dros 60% o boblogaeth oedolion y Deyrnas Unedig a 54% o boblogaeth Sir Gâr dros bwysau neu n ordew. Mae r unigolion yn Sir Gâr sy n barnu bod cyflwr eu hiechyd yn dda yn gyffredinol yn 62.4% ac islaw r cyfartaledd cenedlaethol o 65.1%. Mae r ganran o boblogaeth Sir Gâr sydd â salwch cyfyngus hirdymor lawer yn uwch na r cyfartaledd cenedlaethol o 23.3%, ar 35.6%. Dengys adroddiad gan Cycle England fod hyd yn oed lefelau cymharol fach o feicio yn gallu dod â manteision sy n newid bywydau i r rhai sy n gwneud hynny. Credir bod 3 taith yr wythnos, o lai na 4km, yn gallu dod â manteision iechyd arwyddocaol. Gall twristiaeth beicio ddod â manteision economaidd mawr hefyd. Amlinellodd adroddiad yn 2013 fod gwerth twristiaeth beicio gan drigolion ac ymwelwyr, ar ffurf gwyliau teithiol a beicio hamdden, yn werth hyd at 239m y flwyddyn yn yr Alban. Mae twristiaeth beicio mynydd yn cyfrannu 19m y flwyddyn ar hyn o bryd i economi Cymru ac mae Canolfan Beicio Mynydd Brechfa yn Sir Gâr yn cael ei hystyried yn un o r cyrchfannau beicio mynydd mwyaf poblogaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Dengys tystiolaeth fod cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol fel beicio â chyrhaeddiad addysgol. Cynyddodd beicio o 33% yn 2013 i 43% yn 2015 yn ysgolion Sir Gâr, yn ôl arolwg o chwaraeon mewn ysgolion. Efallai nad yw beicio yn rhywbeth i chi, ond gyda mwy na 2.5 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn reidio beic o leiaf unwaith yr wythnos, byddwch yn adnabod rhywun sy n cymryd rhan yn rheolaidd yn nhrydedd gamp fwyaf poblogaeth y Deyrnas Unedig. Digwyddiad ar ffyrdd caeedig oedd Velothon Cymru a gynhaliwyd ym mis Mai 2016, gyda 18,000 o feicwyr yn talu 70 i gymryd rhan. Gwelodd Velothon Cymru 2015 wariant o 2.77m i gyd yng Nghymru ( 2.06m gan y rhai oedd yn cymryd rhan a u cefnogwyr, 0.71m gan y trefnwyr). Roedd cyfanswm y gwariant o r tu allan i Gymru yn 1.03m, sef swm y gwariant yng Nghymru gan ymwelwyr ( 0.96m) a threfnwyr ( 0.71m) llai r swm o refeniw r digwyddiad a ddeilliodd o Gymru ( 0.64m). LLEOLIAD Y GWARIANT GAN GYFRANOGWYR/CEFNOGWYR POBL LEOL YMWELWYR DRWYDDI DRAW CAERDYDD 0.85m 0.79m 1.65m CASNEWYDD 0.04m 0.05m 0.09m CAERFFILI 0.04m 0.02m 0.06m SIR FYNWY 0.02m 0.02m 0.04m TORFAEN 0.01m 0.00m 0.01m GWEDDILL CYMRU 0.14m 0.08m 0.22m DRWYDDI DRAW 1.10m 0.96m 2.06m Croesawodd Cyngor Sir Mynwy (CSM) gymal o r Tour of Britain a r Pencampwriaethau Beicio Ffordd Cenedlaethol yn 2014. Roedd y gost i Sir Fynwy o groesawu r digwyddiadau hyn yn 176,362. Amcangyfrifwyd bod yr adenillion ar fuddsoddiad yn 12 o wariant ymwelwyr yn y sir am bob punt a wariwyd gan y Cyngor, gyda phob swydd gyfwerth ag amser llawn a grëwyd yn costio 6,532 i r Cyngor. Roedd y ffigurau adenillion ar fuddsoddiad yn ychwanegol at werth y buddion eraill a gynhyrchwyd (e.e. codi proffil ac enw da r gyrchfan a r Cyngor gyda 56% o wylwyr yn cydnabod CSM fel noddwr Cymal 3 y Tour of Britain). Gellir amcangyfrif ffigurau cyflogaeth net a gwerth ychwanegol gros (GYG)net y ddau ddigwyddiad fel a ganlyn: AMCANGYFRIF O R EFFAITH ECONOMAIDD YN SIR FYNWY PENCAMPWRIAETH BEICIO FFORDD GENEDLATHOL 2014 CYMAL 3 TOUR OF BRITAIN 2014 GWARIANT NET (GAN YMWELWYR) 1,404,557 715,283 GYG NET 726,156 369,801 CYFLOGAETH FTE 18 9

Action Plan THEMÂU ADDYSG, DATBLYGIAD A HYFFORDDIANT SEILWAITH A CHYFLEUSTERAU MARCHNATA A BRANDIO TWRISTIAETH DIGWYDDIADAU AMCANION GWELLA ADDYSG, DATBLYGIAD A HYFFORDDIANT DRWY; BUDDSODDI 10M MEWN GWAITH STRATEGOL I DDATBLYGU CYFLEUSTERAU A SEILWAITH ALLWEDDOL; GWELLA R MARCHNATA A R BRANDIO DRWY; GWEITHIO GYDA DARPARWYR TWRISTIAETH I; CYDGYSYLLTU YSTOD AMRYWIOL O DDIGWYDDIADAU YN YMWNEUD Â BEICIO AR DRAWS Y SIR; Roi r cyfle i bob plentyn ddysgu reidio beic drwy sicrhau bod Bikeability Lefel 2 yn cael ei gynnig ym mhob ysgol gynradd a bod Lefel 3 yn cael ei gynnig i ysgolion uwchradd, colegau a chlybiau beicio Cwblhau r gwaith o adnewyddu r Felodrom Ddatblygu ymgyrch hyrwyddo yn canolbwyntio ar Wneud Sir Gâr yn Ganolbwynt Beicio Cymru Ddatblygu cynnyrch sy n cael ei gydgysylltu n well drwy weithio gyda Croeso Cymru i godi proffil beicio yng Nghaerfyrddin Croesawu cymal o r Tour of Britain Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mynediad i gyflogaeth drwy weithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhwydwaith hygyrch o lwybrau Darparu r Gylchffordd Feicio Gaeedig orau yng Nghymru, ym Mhen-bre Datblygu logo ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo Sir Gâr fel prif gyrchfan feicio Cymru Gweithio gyda darparwyr llety i hyrwyddo r gwaith o ddatblygu cyfleusterau beicio i ymwelwyr Gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Beicio Cymru i ddatblygu calendr blynyddol o sbortifs a digwyddiadau rhanbarthol CAMAU CEFNOGI LEFEL UCHEL Cefnogi Llwybrau o r lefel gymunedol hyd at feicio ar y lefel elit drwy gefnogi r Llwybrau Datblygu Beicio at ddibenion Hamdden; - Perchenogaeth - Hyfforddi Cydweithio â r clybiau presennol, fforymau defnyddwyr a r cyhoedd yn gyffredinol i gefnogi r Llwybrau Datblygu Beicio ar Lawr Gwlad Penderfyniadau Lleol Addysg Safonol Gweithlu Ymroddgar Reids Hamdden Cyfleusterau Priodol Clybiau sy n Ffynnu Darparu llwybr di-draffig yn cysylltu Llandeilo a Chaerfyrddin ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi Darparu rhaglen o welliannau parhaus yn unol â r Canllawiau ar Deithio Llesol i wireddu llwybrau saff a chyfforddus sy n cysylltu pobl â chyrchfannau allweddol Codi proffil beicio ar www.sirgar.llyw.cymru a www.darganfodsirgar.com ac ar wefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol priodol eraill Manteisio ar dechnoleg i; Wella r ffordd y caiff gwybodaeth ei dosbarthu Gwella arwyddion a gwaith mapio Dosbarthu ymgyrchoedd hyrwyddo Gweithio gyda defnyddwyr a chynyddu ymwybyddiaeth Datblygu rhwydwaith beicio er mwyn manteisio i r eithaf ar y cyfleoedd y mae tirwedd naturiol Sir Gâr yn eu cynnig Gweithio gyda darparwyr twristiaeth i helpu i ddarparu cyfles o wyliau pecyn wedi u seilio ar feicio Croesawu Digwyddiadau Cenedlaethol ar draws yr holl ddisgyblaethau beicio; Y Bencampwriaeth Ras Ffordd Genedlaethol Y Bencampwriaeth Traws-seiclo Genedlaethol Pencampwriaeth Beicio Mynydd Traws Gwlad Cymru Croesawu Gŵyl Feicio yn cynnwys digwyddiadau ar gyfer beicwyr o bob oed a gallu Gweithio gyda Chwaraeon Cymru a Beicio Cymru i ddatblygu a gwireddu u hamcanion o ran cynyddu lefelau gweithgarwch drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau beicio Darparu lefelau priodol o gyfleusterau parcio beics ac arwyddion ar draws y Sir Datblygu dull cydlynus o ddarparu gwybodaeth ar draws gwahanol fathau o gyfryngau Hyrwyddo Sir Gâr fel prif gyrchfan feicio Cymru Croesawu Cymal o Grand Tour