TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter a Dysgu sefydlu grwp rapporteur i ystyried dulliau o drin dyslecsia yng Nghymru. Dyma aelodau r grwp: Alun Cairns AC; Jeff Cuthbert AC; Janet Ryder AC a Kirsty Williams AC. Yn ei gyfarfod ffurfiol cyntaf ar 19 Gorffennaf 2007, cytunodd y Grwp Rapporteur Dyslecsia ar y Cylch Gorchwyl a ganlyn: Ystyried dulliau traddodiadol, dulliau arloesol a dulliau newydd o drin dyslecsia a chyflwyno adroddiad ac argymhellion gerbron y Pwyllgor Menter a Dysgu erbyn diwedd tymor yr hydref 2007. Rhwng mis Awst a mis Hydref, cyfarfu r grwp bum gwaith gan gasglu tystiolaeth mewn cyfarfodydd anffurfiol gan bedwar corff. Bu r grwp hefyd ar ddau ymweliad allanol ac mae wedi cyfarfod â: Michael Davies, Prosiect Dyslecsia Cymru Jennifer Owen-Adams a Dr Ruth Gwernan Jones, Cymdeithas Dyslecisa Cymru Jacqui Brett a Dr Peter Harris, y Dull Raviv Jane Owens, Dyslexia Action Cymru Yn ogystal â hyn, aeth y grwp i Ganolfan Dore Caerdydd, a chyfarfod â Scott Quinnell, Nigel Maris a Bryan Allan. Aeth y grwp hefyd i ogledd-ddwyrain Cymru, gan gyfarfod â: David B Jones; Carol Newsam Coleg Glannau Dyfrdwy Roy Fielding British Dyslexics Sue Bell Jones a thim o athrawon sy n arbenigo mewn dyslecsia Ysgol Bryn Coch Tra oeddynt yng Ngogledd Cymru, gwelodd y grwp raglen Fast ForWord ar waith. Rhaglen yn seiliedig ar gêm gyfrifiadurol yw hon, ac fe i cyflwynwyd gan John Kerins (Ymarferydd) a r Athro Ian Crease (athro Niwrowyddoniaeth, Prifysgol Rutgers, New Jersey, America). 1 Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o DdyslecsiaPF FP, clywodd 2 a Dysgu dystiolaethpf Ann Cooke, Uned Ddyslecia, Prifysgol Bangor y Pwyllgor Menter 1 11 Tachwedd 2007 2 Pwyllgor Menter a Dysgu, Cofnod y Trafodion, 7 Tachwedd 2007, HTUhttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buscommittees/bus-committees-third-assem/bus-committees-third-els-home/bus-committees-third-els- agendas.htm?act=dis&id=65365&ds=11/2007uth
Yr Athro Angela Fawcett, Canolfan Ymchwil Plant, Prifysgol Abertawe Yr Athro David Reynolds, Prifysgol Plymouth 2. Materion sy n dod i r amlwg 2.1 Diffinio Dyslecsia Un o r materion cyntaf a ddaeth i r amlwg yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth y grwp oedd y ffaith nad oedd diffiniad safonol ar gyfer dyslecsia. Mae r rhan fwyaf yn cytuno bod dyslecsia n ymwneud ag anawsterau darllen, ysgrifennu a sillafu; mae rhai n pwysleisio bod yr anawsterau hyn yn codi oherwydd problemau â r cof tymor byr; mae eraill yn dweud eu bod yn codi oherwydd ymwybyddiaeth ffonolegol wan; mae rhai n credu mai nam ar y synhwyrau neu r ymennydd yw r broblem, ac eraill yn teimlo nad afiechyd y mae angen ei drin yw dyslecsia. Sylweddolodd y grwp fod gwahanol ddulliau o asesu a phrofi n cael eu defnyddio mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Roedd cytundeb cyffredinol mai syndrom yw dyslecsia, yn hytrach nag un anabledd unigol. Mae nifer sylweddol o awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio r diffiniad o ddyslecsia a gynigir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain: Dyslexia is evident when accurate and fluent word reading and/or spelling develops very incompletely or with great difficulty. This focuses on literacy learning at the 'word level' and implies that the problem is severe and persistent despite appropriate learning opportunities. It provides the basis for a staged process of assessment through teaching. [Cymdeithas Seicolegol Prydain 1999. Diweddarwyd yn 2005 ] Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn cynnig y diffiniad a ganlyn, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio n eang: Dyslexia is a combination of abilities and difficulties that affect the learning process in one or more of reading, spelling and writing. It is a persistent condition. Accompanying weaknesses may be identified in areas of speed of processing, short-term memory, organisation, sequencing, spoken language and motor skills. There may be difficulties with auditory and / or visual perception. It is particularly related to mastering and using written language, which may include alphabetic, numeric and musical notation. Dyma sut y mae Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd Llywodraeth y DU yn disgrifio dyslecsia:
Pupils with dyslexia may learn readily in some areas of the curriculum but have a marked and persistent difficulty in acquiring accuracy or fluency in learning to read, write and spell. Pupils may have poor reading comprehension, handwriting and punctuation. They may also have difficulties in concentration and organisation and in remembering sequences of words. They may mispronounce common words or reverse letters and sounds in words. Clywodd y grwp dystiolaeth hefyd, gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain er enghraifft, na fyddai un diffiniad safonol o ddyslecsia n adlewyrchu profiadau gwahanol unigolion o ddyslecsia. Argymhelliad 1 Mae r grwp yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol Cymru yn cytuno ar ddiffiniad safonol o ddyslecsia er mwyn sicrhau bod mwy o gysondeb ar draws Cymru wrth sgrinio, asesu a darparu gwasanaethau ar gyfer dyslecsia a ariennir gan awdurdodau lleol. 2.2 Pwysigrwydd Adnabod Anawsterau n Gynnar Pwysleisiodd pawb a fu n siarad â r Grwp Rapporteur bwysigrwydd a manteision adnabod yn gynnar anawsterau darllen ac arwyddion posibl o ddyslecsia ymhlith plant ifanc. Roedd rhywfaint o wahaniaeth barn ynghylch yr union oed y gellid rhoi profion i blant ond mae n ymddangos bod pawb yn cytuno y gall athrawon babanod, fel arfer, adnabod plant yn nosbarthiadau Blwyddyn Un (6 oed) sy n cael mwy o anhawster na u cyfoedion o ran dysgu sgiliau darllen, sillafu ac ysgrifennu sylfaenol. Mae n bosibl cadarnhau diagnosis yr athrawon hyn wedyn drwy gynnal profion sgrinio. Roedd gwahaniaeth barn ynghylch manteision sgrinio n gyffredinol. Dadleuai Prosiect Dyslecsia Cymru, ac eraill, nad oes angen sgrinio pob plentyn ifanc yn ffurfiol ar gyfer dyslecsia ac y dylid cyfyngu r profion sgrinio i r plant hynny y mae eu hathrawon yn nodi bod ganddynt anawsterau. Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Brosiect Dyslecsia Cymru na fyddai r profion sgrinio n cynnig diagnosis ffurfiol o ddyslecsia ond nad oedd hynny n angenrheidiol ar y dechrau. Ym marn rhai o r tystion, os oedd profion sgrinio n cadarnhau asesiad cychwynnol yr athrawes, gallai r disgybl gael cymorth ychwanegol yn yr ysgol ac, mewn nifer o achosion, byddai r cymorth ychwanegol hwn yn ddigonol.
Clywodd y grwp mai dim ond nifer fechan o ddisgyblion sydd â symptomau mwy difrifol sy n gysylltiedig â dylsecisa difrifol. Dyma r plant sy n elwa o gael eu hasesu n ffurfiol gan seicolegydd addysg ond roedd pryderon, fodd bynnag, a gadarnhawyd gan dystiolaeth anecdotaidd, ynglŷn â r amser aros hir cyn cael gweld seicolegydd addysg. Mae Coleg Addysg Bellach Glannau Dyfrdwy yn defnyddio ffurflenni cais myfyrwyr, tiwtoriaid sydd wedi u hyfforddi n arbennig a phecynnau meddalwedd sgiliau i adnabod myfyrwyr sydd ag anawsterau llythrennedd a rhifedd posibl, ac a fyddai n elwa o gael cymorth ychwanegol. Mae r coleg yn rhoi pwyslais mawr ar edrych ar y myfyriwr cyfan, gan nodi unrhyw anawsterau penodol posibl a rhoi cymorth ychwanegol iddynt sydd wedi i deilwro i ddiwallu anghenion unigolion. Argymhelliad 2 Clywodd o grwp dystiolaeth sylweddol fod amseru ymyrraeth yn dyngedfennol a bod ymyrraeth gynnar yn fwy tebygol o lwyddo i godi safon plant sy n cael anawsterau i r un lefel â u cyfoedion. Mae r grwp felly n argymell bod profion sgrinio ar gyfer dyslecsia ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i unrhyw blentyn, pan fydd yn 6 neu n 7 oed, os yw r athro neu r athrawes yn nodi bod gan y plentyn hwnnw fwy o anawsterau darllen, sillafu neu ysgrifennu na i gyfoedion. Yna, yn fuan wedyn, rhaid rhoi strategaethau ymyrryd priodol ar waith a rhoi cymorth ychwanegol i r plant hynny y mae r profion sgrinio n dangos y gallant fod yn dioddef o ddyslecsia. 2.3 Adnoddau Cymraeg i Bobl â Dylsecisa Sylweddolodd y grwp nad oes digon o waith ymchwil, tystiolaeth na chymorth i bobl â dyslecsia sy n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Er bod y rheini sy n gweithio gyda phobl sydd â dyslecsia yn cydnabod bod her arbennig ynghlwm wrth ddysgu sgiliau Saesneg, mae r Gymraeg yn wahanol gan ei bod yn ffonetig. Mae Prosiect Dyslecsia Cymru wedi datblygu prawf sgrinio gan ddefnyddio 60,000 a gawsant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Prifysgol Bangor yn arbenigo mewn addysg Gymraeg i bobl sydd â dyslecsia, er enghraifft, maent wedi datblygu rhaglenni O Gam I Gam a Camu Mlaen. Soniodd athrawon wrth y grwp am yr angen i gael prawf darllen Cymraeg a phrawf geirfa fynegiannol a derbyngar safonol yn Gymraeg. Teimla r grwp yn gryf y dylai profion sgrinio ac asesu fod ar gael yn ddwyieithog.
Argymhelliad 3 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell yn gryf y dylai profion sgrinio ac asesu yn ogystal â chymorth fod ar gael yn ddwyieithog ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael at y diben hwn. 2.4 Data n ymwneud â Disgyblion sydd â Dyslecsia Clywodd y grwp bod mwy o fechgyn na merched yn tueddu i ddioddef o ddyslecsia ac mae digon o dystiolaeth yn dangos mai ffactorau genetig sy n gyfrifol am y cyflwr. Mewn tua 50 y cant o achosion, mae n bosibl dangos bod person wedi etifeddu r cyflwr. Mae r cyflwr yn effeithio ar tuag 1 o bob 10 o bobl ac mae tuag 1 o bob 4 yn achosion difrifol, ond mae pob achos yn wahanol. Mae n bosibl adnabod dyslecsia mewn plant 7 oed, ond gyda mwy o adnoddau mae n bosibl y gellid ei adnabod mewn plant 4 oed. Os yw oed darllen plentyn 2 flynedd yn is na i oed cronolegol, caiff gymorth ychwanegol, ac mae r rhan fwyaf o blant yn ymateb yn dda i r cymorth a gânt. Mae pryder ynglŷn â gwahaniaethu yn erbyn plant sydd â chyniferydd deallusrwydd isel, sy n cael eu hystyried fel disgyblion sydd ag anawsterau dysgu n hytrach na dyslecsia. Mae plant sydd â dyslecsia n aml yn dioddef o gyflyrau eraill hefyd, fel dyscalciwla, dysgraffia neu ADHD. Teimlai r grwp y dylid blaenoriaethu anghenion plant yn ôl eu difrifoldeb i ofalu bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Ar hyn o bryd, nid yw ystadegau r Llywodraeth, sy n seiliedig ar gronfa ddata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn gallu gwahaniaethu rhwng y plant hynny sydd â dyslecsia a r plant hynny sydd ag anawsterau dysgu eraill. Caiff categorïau a diffiniadau eraill eu cynnwys pan gaiff y data blynyddol ei gasglu nesaf ond er hyn, nid yw dyslecsia n cael ei gynnwys fel categori ar wahân. Argymhelliad 4 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gasglu gwybodaeth swyddogol fanwl gywir ynglŷn â faint o blant ysgol sydd â dyslecsia gan gynnwys data ynghylch nodweddion y rheini sydd â dyslecsia a data ynghylch amseroedd aros cyn i blant unigol gael gweld seicolegydd addysg. 2.5 Hyfforddi un athro neu athrawes arbenigol ym mhob ysgol Clywodd y grwp feirniadaeth gref gan nifer o dystion ynglŷn â lefel yr hyfforddiant arbenigol yn ymwneud â dyslecsia sy n cael ei gynnwys ar
TP PT Y gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon e.e. mae modiwlau sy n gysylltiedig â dyslecsia n ddewisol yn hytrach na n orfodol mewn cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon. Clywodd y grwp dystiolaeth gref gan nifer o dystion ynglŷn â manteision cael athro neu athrawes ym mhob ysgol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Yn benodol, mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn ymgyrchu i gael athro neu athrawes ym mhob ysgol sy n arbenigo mewn dyslecsia ac sydd wedi i hyfforddi hyd at lefel diploma ôl-raddedig. Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain hefyd yn rhedeg Ymgyrch Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia. O ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, lansiwyd Pecyn Gwybodaeth Cyflawni Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia dwyieithog cyntaf ym mis Mai 2006. AALl Sir y Fflint oedd y cyntaf i ennill statws AALl Cyfeillgar at Ddyslecsia yng Nghymru. Mae gan Abertawe fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia hefyd. Mae r fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia yn rhoi cryn bwyslais ar ddelio â dyslecsia fel ysgol gyfan dan arweiniad athrawon sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Argymhelliad 5 Cafodd dull Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia o drin dyslecsia fel ysgol gyfan gryn argraff ar y grwp a daeth i r casgliad fod llawer o fanteision ynghlwm wrth ddysgu drwy ganolbwyntio ar y disgybl. Mae r Grwp Rapporteur yn argymell bod y fenter Ysgolion Cyfeillgar at Ddyslecsia yn ymgymryd ag astudiaeth gwerthuso 2.6 Astudiaeth Gwerthuso Annibynnol o Ddulliau Anhraddodiadol o Gynorthwyo Pobl â Dyslecsia. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i r Pwyllgor Menter a Dysgu, dywedodd yr Athro Fawcett Dyslexia is one of the most controversial areas of education, not least because of the burning commitment of many dyslexia activists, but 3 also because of its genuinely interdisciplinary and multi-goal nature TPF FPT. Roedd y grŵp yn synnu at yr holl dystiolaeth wrthgyferbyniol a gyflwynwyd ac at gryfder y teimladau o blaid dulliau traddodiadol a dulliau arloesol o ddelio â dyslecsia. Mae angen gwaith ymchwil pellach, wedi i ariannu gan gorff annibynnol, er mwyn darganfod pwy sy n elwa fwyaf o r gwahanol ddulliau anhraddodiadol er enghraifft, rhaglen Dore, Dull Raviv, rhaglen Brain Gym a lensys lliw. Rhaid 3 Pwyllgor Menter a Dysgu, 7 Tachwedd 2007, HTUhttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/buscommittees-third-assem/bus-committees-third-els-home/bus-committees-third-els- agendas.htm?act=dis&id=63637&ds=11/2007uth
cynnal ymchwil drwyadl sy n ymdebygu i astudiaeth reoledig gyda mesuriadau clir ar gyfer y canlyniadau tymor byr a r mesuriadau hirdymor. Rhaid hefyd cael grwp safonol ac, yn ddelfrydol, ni ddylai r ymchwilwyr na r rheini sy n cael eu hastudio, wybod pa ddulliau sy n cael eu defnyddio ym mha gyd-destun. Rhaid trafod yr ystyriaeth foesol sydd ynghlwm wrth ddefnyddio grwp safonol, efallai drwy ofalu bod pob dull yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pawb, ar ryw adeg o r ymchwil. Trafodwyd cwmpas yr ymchwil a r defnydd o feincnodau priodol yn fanwl gan yr Athro Fawcett a r Athro Reynolds yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2007. Mae rhieni ac unigolion â dyslecsia n wynebu amrywiaeth eang o driniaethau, ac mae rhai ohonynt i w gweld yn ddrud. Mae n amlwg bod angen gwerthusiad annibynnol i roi gwybodaeth i r rheini sy n chwilio am gymorth er mwyn iddynt fedru dewis y driniaeth/triniaethau mwyaf addas ar eu cyfer nhw. Dywedodd y rheini sy n cynnig cymorth i bobl â dyslecsia wrth y Grwp Rapporteur y byddent yn croesawu, ac yn cefnogi, ymchwil annibynnol i werthuso u rhaglenni a u dulliau. Gallai r ymchwil annibynnol archwilio effeithiau r canlynol, yn enwedig yr effeithiau hirdymor: rhaglenni sydd wedi u seilio ar symudiadau/cydbwysedd fel Rhaglen Dore, Brain Gym rhaglenni sydd wedi u seilio ar y gwahanol synhwyrau e.e. Dull Raviv cynlluniau darllen ffonig fel Toe by Toe defnyddio lensys a throshaeanu lliw rhaglenni cyfrifiadurol fel FastForWord Argymhelliad 6 Mae r Grwp Rapporteur yn argymell bod gwaith ymchwil annibynnol yn cael ei gomisiynu i r gwahanol fathau o raglenni er mwyn ei gwneud hi n haws adnabod y rheini sy n debygol o elwa o r gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael. Fodd bynnag, mae r Grŵp Rapporteur am ymgymryd â rhagor o waith i gymharu r gwahanol fathau o raglenni cyn cyflwyno i argymhellion terfynol gerbron y Pwyllgor Menter a Dysgu ynghylch pa raglenni y dylid eu cynnwys yn yr astudiaeth gwerthuso annibynnol.
3 Meysydd ar gyfer Gwaith Ychwanegol Cyfarfod â disgyblion, rhieni disgyblion a phobl eraill â dyslecsia i roi tystiolaeth i r Aelodau ei thrafod ac i ymchwilio ymhellach i r ffordd y gall rhieni gynorthwyo plant â dyslecsia. Ar hyd o bryd, mae r cyfarfodydd hyn wedi u trefnu ar gyfer tymor y gwanwyn 2008. Ymweld ag Uned Ddyslecsia Prifysgol Bangor. (Mae ymweliad wedi i drefnu ar gyfer mis Ionawr 2008) Cymharu r tebygrwydd a r gwahaniaeth rhwng gwahanol raglenni a r dulliau o gynorthwyo pobl â dyslecsia cyn cyflwyno argymhellion manwl ynglyn ag astudiaeth gwerthuso annibynnol gerbron Llywodraeth Cynulliad Cymru. Siarad â phobl broffesiynol yn y byd addysg gan gynnwys Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a r rheini sy n darparu hyfforddiant cychwynnol i athrawon ynglŷn ag hyfforddiant cychwynnol a chyrsiau datblygiad proffesiynol i athrawon yn ymwneud â chynorthwyo disgyblion o bob oed sydd ag anawsterau darllen, sillafu ac ysgrifennu. Archwilio polisïau ac enghreifftiau o arfer da sydd wedi bod yn effeithiol mewn gwledydd eraill o ran cynorthwyo pobl â dyslecsia. Clywed tystiolaeth gan unigolion sydd wedi llwyddo er gwaethaf eu dyslecsia, a darganfod beth fu o gymorth iddyn nhw o ran rheoli r cyflwr. Trafod ffyrdd o hysbysebu llwyddiant pobl amlwg sydd â dyslecsia. Ymchwilio ymhellach i r hyfforddiant sydd ar gael i gynorthwywyr dysgu i w help nhw i helpu plant â dyslecsia a rôl bosibl cynorthwywyr dysgu a nyrsys ysgol yn y broses o adnabod dyslecsia n gynnar, gan gynnwys gweinyddu profion sgrinio ar gyfer dyslecsia. Trafod rôl llywodraethwyr ysgol a r canllawiau sydd ar gael iddynt.
Atodiad A Cyfeiriwch at yr Adroddiad Saesneg ar gyfer Atodiad A.