Y BONT http://ybont.org/course/ Canllawiau i Fyfyrwyr Phyl Brake pjb@aber.ac.uk
Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd: t. 6 Aseiniad t. 6 Cronfa ddata t. 6 Adborth t. 6 Fforwm t. 6 Cwis t. 6 Ffeil t. 6 Ffeil sain t. 7 Plygell t. 7 URL t. 7 Quizlet t. 8 Hot Potatoes t. 8 Modiwlau gweithgaredd ar waith: t. 8 Cwis t. 8 Quizlet t. 10 Hot Potatoes t. 11 Gweithgareddau o r Bont Genedlaethol t. 11 Rhestr ddarllen pellach t. 12 1
Y Bont Canllawiau i Ddysgwyr Rhagair Mae Y Bont (http://ybont.org/course/) nawr yn rhan o safle rhyngweithiol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae n cynnwys cyrsiau 1 pwysig o r hen Bont Fach a ddatblygwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, sydd nawr yn dod dan y pennawd Prifysgol Aberystwyth : Cofrestru Er mwyn cofrestru, mae angen clicio ar click here yn y neges Saesneg isod ar hafan Y Bont (http://ybont.org/course/) a dilyn y cyfarwyddiadau: 1 Cwrs y gelwir modiwl ar-lein Moodle. 2
dewiswch yr ail opsiwn. ***PWYSIG*** Gallwch gyrchu adnoddau r Bont fel gwestai, ond wrth fewngofnodi, byddwch yn cael mynediad i r holl ymarferion, gan gynnwys rhai Moodle cynhenid. Mae modd cadw eich manylion mewngofnodi ar eich cyfrifiadur pen bwrdd, gliniadur neu ddyfais. Felly, y tro nesaf y mewngofnodwch, fe welwch sgrin fel hon: Ar ôl mewngofnodi, eir â chi at eich hafan fel y gwelir yma: 3
Cyrchu Adnoddau Dysgu Er mwyn cyrchu r adnoddau dysgu sy n cyd-fynd â chyrsiau Prifysgol Aberystwyth, cliciwch ar Prifysgol Aberystwyth dan y pennawd CATEGORÏAU R CWRS ar ochr dde uchod. Wrth wneud, eir â chi at y dudalen hon: Mynediad Dwys yw r cwrs cyntaf mewn rhestr o gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Y rhestr lawn yw: 1. Beginners Fast-track / Mynediad Dwys 2. Foundation Fast-track / Sylfaen Dwys 3. Canolradd Dwys / Intermediate Fast-track 4. Cwrs Uwch Ceredigion /Ceredigion Advanced Course: Part 1 5. Cwrs Meistroli / Ceredigion Advanced Course: Part 2 6. Cymraeg Graenus 1 / Welsh Proficiency Course (Academic): Part 1 7. Cymraeg Proffesiynol 1 / Welsh Proficiency Course (Vocational): Part 1 Wrth glicio ar Mynediad Dwys, eir â chi at yr adnoddau dysgu sy n cyd-fynd â r cwrs: 4
Moodle Platfform e-ddysgu ffynhonnell agored 2 yw Moodle. Fe i datblywyd yn ôl egwyddorion pedagogaidd, ac fe i defnyddir ar gyfer dysgu cyfunol, dysgu o hirbell mewn ysgolion, prifysgolion a gweithleoedd. Mae Moodle yn cynnwys nifer o adnoddau dysgu rhyngweithiol fel: Aseiniad Cronfa ddata Adborth Fforwm Cwis Ffeil Ffeil sain Plygell URL Ac mae adnoddau dysgu rhyngweithiol allanol wedi eu datblygu i w defnyddio gyda Moodle hefyd, yn enwedig Hot Potatoes. Mae HotPot yn cynnwys set o chwe rhaglen greu adnoddau dysgu ar-lein, a grewyd gan ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada. ***PWYSIG IAWN*** Mae r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynhyrchu adnoddau dysgu ar-lein i gyd-fynd â r cyrsiau newydd y maen nhw n eu creu. Cyfeiriad gwe r adnoddau ar-lein i gyd-fynd â r cyrsiau cenedlaethol newydd yw: https://dysgucymraeg.cymru/cyrsiau/adnoddau/mynediad/: 2 Yn agored i unrhyw un i w ddefnyddio ac i w ddatblygu. 5
Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd Aseiniad Mae aseiniad yn caniatáu athrawon i gasglu gwaith gan ddysgwyr, ei adolygu a darparu adborth gan gynnwys graddau. Mae r gwaith y mae dysgwr yn ei gyflwyno yn weladwy i r athro yn unig ac nid i ddysgwyr eraill. Cronfa Ddata Mae cronfa ddata yn caniatáu r athro a/neu r dysgwyr i adeiladu, arddangos a chwilio trwy fanc o gofnodion yn ymwneud â phwnc penodol. Gall y cofnodion hyn gynnwys delweddau, ffeiliau, URLau, rhifau a thestun. Adborth Mae adborth yn galluogi r athro i greu a chynnal arolygon i gasglu adborth. Mae n galluogi r athro i ysgrifennu ei gwestiynau ei hunan, yn hytrach na dewis o restr o gwestiynau a ysgrifennwyd ymlaen llaw, a gellir hefyd greu cwestiynau heb radd. Fforwm Mae fforwm yn rhoi r cyfle i ddysgwyr ac athrawon i gyfnewid syniadau trwy bostio sylwadau. Mae yna bedwar math o fforwm sylfaenol. Cwis Mae cwis yn caniatáu r athro i ddylunio ac adeiladu cwisiau sy n cynnwys amrywiaeth fawr o fathau o gwestiynau, gan gynnwys atebion amlddewis, gwir-ffug, atebion byr a llusgo a gollwng delweddau a thestun. Cedwir y cwestiynau hyn yn y Banc Cwestiynau, a gellir eu hailddefnyddio mewn cwisiau gwahanol. Ffeil Mae ffeil yn galluogi r athro i wneud deunyddiau darllen fel arfer ar ffurf ffeiliau PDF ar gael i r dysgwyr ar ffurf electronig y gellir ei lawrlwytho. Ffeil sain Crëir ffeil sain yn union fel ffeil, ond mae n golygu fod dysgwyr a thiwtoriaid yn gallu gwrando ar, a lawrlwytho, ffeiliau sain sy n cyd-fynd â r cwrs y maen nhw n ei ddilyn/gyflwyno. 6
Plygell Mae plygell (folder) yn galluogi r athro i gynnwys mwy nag un ffeil mewn trefn gyda i gilydd. Mae hyn y ddefnyddiol iawn yn achos ffeiliau sain: URL Mae URL (Universal Resource Locator) yn galluogi athro i gyfeirio r dysgwyr at adnodd dysgu allanol fel, er enghraifft, fideo Youtube: Quizlet Rhaglen astudio ar-lein yw Quizlet. Mae n helpu i hyfforddi dysgwyr trwy gyfrwng fflachgardiau a gwahanol gemau a phrofion. Crëwyd Quizlet gan Andrew Sutherland ym mis Hydref 2005, a i ryddhau i r cyhoedd ym mis Ionawr 2007. Hot Potatoes (HotPot) Mae r gyfres meddalwedd o r enw Hot Potatoes, neu ynteu HotPot, yn cynnwys pum rhaglen a all greu ymarferion ar gyfer y we fyd-eang, yn enwedig Moodle. Yr arfau hyn yw JCloze, JCross, JMatch, JMix a JQuiz. Ceir chweched rhaglen hefyd o r enw The Masher, sy n rhoi holl ymarferion HotPot mewn un uned. Crëwyd meddalwedd HotPot gan Dîm Ymchwil a Datblygu yr Adran Cyfrifiadureg a Chanolfan y Cyfryngau ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada. Modiwlau gweithgaredd ar waith Cwis Ceir enghraifft o r defnydd o cwis yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad (https://ybont.org/course/view.php?id=47): 7
Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon: Ac wedyn: Ar ôl cwblhau pob cwestiwn, eir â chi at y sgrin hon: 8
Ar waelod y dudalen, gwelir botwm ac arno Submit all and finish. Cliciwch arno, a gwelir y sgrin hon: Lle ceir yr atebion, ynghyd ag adborth defnyddiol. Quizlet Ceir enghraifft o sut mae Quizlet yn gweithio yng nghwrs Mynediad Dwys: Uned 1: Cyfarch (https://ybont.org/course/view.php?id=470): Wrth glicio ar CLICK TO FLIP, gwelir un a chlywir llais yn dweud un : 9
Ac ymlaen nes cyrraedd 20. Yn ogystal, mae modd eich eich profi eich hunan trwy glicio Play a chlywed rhifau ar antur trwy glicio ar Shuffle. Hot Potatoes (HotPot) Ceir enghraifft o r defnydd o HotPot yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad (https://ybont.org/course/view.php?id=47#section-1): Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon: Defnyddir bysellfwrdd eich dyfais i ysgrifennu yn y bwlch: 10
Os nad oes modd i chi greu acenion â ch dyfais, gellir clicio ar y llythrennau arbennig mewn blychau ar waelod y sgrin. Ceir adborth a sgôr trwy glicio r blwch Gwiriwch : Gweithgareddau o r Bont Genedlaethol Mae r Bont (https://ybont.org/) newydd hefyd yn cynnwys adrannau o r hen Bont Genedlaethol, gan gynnwys: Banc Gweithgareddau Opera sebon Rhyd-y-bont Cilpiau sain o raglen Radio Cymru Beti a i Phobol Adnoddau tiwtor Un, dau, tri hwyl a sbri Rhestr ddarllen pellach Dvorak, D. (2011). Moodle for Dummies. Hoboken, New Jersey: John Wiley & Sons Inc. Managing a Moodle Course. Ar gael o: https://docs.moodle.org/33/en/managing_a_moodle_course [cyrchwyd 02/11/2017]. Moodle Manuals. Ar gael o: https://docs.moodle.org/24/en/moodle_manuals [cyrchwyd 02/11/2017] Teacher Quick Guide (Moodle). Ar gael o: https://docs.moodle.org/30/en/teacher_quick_guide [cyrchwyd 02/11/2017] 11