Chwefror / February 2015

Similar documents
Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Summer Holiday Programme

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

NatWest Ein Polisi Iaith

PROSBECTWS YSGOL

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Bwletin Gorffennaf 2016

W39 22/09/18-28/09/18

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Holiadur Cyn y Diwrnod

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

offered a place at Cardiff Met

e-bost/ Rhif testun yr ysgol/school s text no:

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

W46 14/11/15-20/11/15

April 2016 Bulletin. Hau i Fedi.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

W42 13/10/18-19/10/18

Gair o r Garth Garth Grapevine

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

October Half Term. Holiday Club Activities.

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

POBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Products and Services

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

National Youth Arts Wales Auditions 2019

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Cyffredinol Lliwiau Rhifau Anifeiliaid Y Dref Hamdden Y Nadolig Ffrindiau Yr Ysgol

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Beirniadu i ddechrau yn brydlon am 9.00 y bore. Judging to commence at 9.00 am prompt. ADRAN Y COB CYMREIG WELSH COB SECTION

tafod eláie Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Na i doriadau Rh. C.T Ymweld â Swdan Crochendy Nantgarw

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

Dachrau n Deg Flying Start

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Ysgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn:

Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

PAPUR DRE BE SY YN Y PAPUR? Angharad Thomas (stori ar dudalen 5) DOLIG DRE. Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr Papur Dre.

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

Newyddion yr ysgol gan y disgyblion.. / School news from the pupils.. RHYBUDD!!!! Mae wedi bod yn 3 wythnos brysur!!!

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Canlyniadau Arholiad / Examination Results

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Adolygiad Blynyddol 2007/08

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Adroddiad Blynyddol 2017

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

BEFORE Tuesday 11th November, no bookings will be taken after this date.

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Transcription:

Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Chwefror / February 2015 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Mawrth / Tuesday 10.03.2015 3.45-5.45 Dydd Mawrth / Tuesday 24.03.2015 3.45-5.45 Dydd Llun / Monday 13.04.2015 Dydd Gwener / Friday 08.05.2015 Cyfarfod Rhieni Blwyddyn 10 Year 10 Parents Evening Cyfarfod Rhieni Blwyddyn 12/13 Year 12/13 Parents Evening Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd Ni fydd ysgol i r disgyblion. Training Day for Teachers No school for pupils. Arholiadau TGAU yn cychwyn GCSE Examinations start Categoreiddio Ysgolion / Schools Categorization Penderfynodd Llywodraeth Cymru osod pob ysgol yng Nghymru mewn un o 4 categori gwyrdd, melyn, oren neu goch yn ddibynnol ar sut mae r ysgol yn perfformio ar hyn o bryd a pha gefnogaeth sydd ei hangen ar yr ysgol i wella. Ysgol Dyffryn Ogwen oedd yr unig ysgol uwchradd yng Ngwynedd a Môn i gael ei gosod yn y categori gwyrdd sydd yn dweud fod yr ysgol eisoes yn perfformio n rhagorol, ac nad oes angen unrhyw gymorth allanol i wella. Mae hyn yn gryn glod i bawb sy n ymwneud â r ysgol yn Llywodraethwyr, staff a disgyblion. The Welsh Government decided to place every school in Wales in one of four categories - green, yellow, amber or red - depending on how the school is performing at the moment and what support is needed to improve the school. Ysgol Dyffryn Ogwen was the only secondary school in Gwynedd and Anglesey to be placed in the green category - which means that the school is already performing very well, and does not need any outside help to improve. This is a major achievement for everyone involved in the school - Governors, staff and pupils.

GWASANAETH COFFÁU R HOLOCOST / HOLOCAUST MEMORIAL SERVICE Bu Bethan Hughes, Alys Haf, Sioned Carran a Thalia Lichtenstein mewn gwasanaeth i goffáu r Holocost yng Nghaernarfon ar ddydd Mawrth, 27 Ionawr 2015, er mwyn cofio r bobl ddiniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad. Yn ogystal, cynhaliwyd gwasanaethau arbennig yma yn yr ysgol i gofio ac i ysgogi pobl i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd yr Holocost fyth yn cael eu hanghofio. Bethan Hughes, Alys Haf, Sioned Carran and Thalia Lichtenstein attended a memorial service commemorating the Holocaust in Caernarfon on Tuesday, January 27, 2015 to remember the innocent people who have suffered as a result of genocide. In addition, special services were also held in the school to remember and to motivate people to make sure that the horrendous events of the Holocaust will never be forgotten or repeated. TE PRYNHAWN NADOLIG 2015 / CHRISTMAS AFTERNOON TEA 2015 Eto eleni bu r te prynhawn yn llwyddiant. Croesawyd dros 90 o r henoed lleol i r ysgol am brynhawn o luniaeth ysgafn ac adloniant. Roedd y lluniaeth wedi cael ei baratoi gan grŵp Lletygarwch blwyddyn 10, a bydd eu cyfraniad yn ystod y prynhawn yn cyfrif tuag at eu cymhwyster lefel 2 BTEC. Diolch o galon i fusnesau lleol am gyfrannu tuag at y bwyd a r raffl sef Caffi Seren, Mabinogion, Serena, Tesco, Becws Dwyran, Bwydydd Harlech, Cigydd Dafydd Jones Caernarfon a r Dyn Llysiau. Heb eu cyfraniad ni fuasem wedi gallu cynnal y te Nadolig. Again this year the afternoon tea was a great success. Over 90 local elderly people were welcomed to school for an afternoon of light refreshments and entertainment. The refreshments had been prepared by the year 10 Hospitality group, and their contribution during the afternoon will count towards their BTEC level 2 qualification. Many thanks to local businesses for donating food and raffle prizes :- Caffi Seren, Mabinogion, Serena, Tesco, Dwyran Bakery, Harlech Food, David Jones, Butcher - Caernarfon and the Vegetable Man. Without their contributions we would not have been able to prepare the Christmas Tea.

GWAITH ELUSENNOL / CHARITY WORK Diolch yn fawr i chi am gefnogi sawl ymgyrch yn ystod y tymor diwethaf. Cefnogwyd sawl achos da gan yr ysgol, gan gynnwys Plant Mewn Angen, Achub y Plant, Tŷ Gobaith, Macmillan, TEAMS4U, RSPCA, Action Aid. Gwerthfawrogir gwaith caled a chefnogaeth disgyblion a rhieni. Thank you for supporting a number of campaigns during the last term. Several good causes have benefited, including Children in Need, Save the Children, Hope House, Macmillan, TEAMS4U, RSPCA, Action Aid. The hard work and support of pupils and parents are greatly appreciated. GWISG YSGOL Diolch am eich cydweithrediad er mwyn sicrhau cysondeb a pharch tuag at reolau gwisg ysgol. Hoffwn eich atgoffa o r canlynol:- Bechgyn Genethod Crys chwys nefi yr ysgol Crys chwys nefi yr ysgol Crys polo gwyn Crys polo glas golau Trowsus du plaen Trowsus/sgert nefi/du plaen (nid gwaelod tracwisg) Esgidiau du Esgidiau du SCHOOL UNIFORM Thank you for your co-operation in ensuring consistency and respect for the school uniform rules. We would like to remind you of the following:- Boys Girls Navy School Sweatshirt Navy School Sweatshirt White polo shirt Light blue polo shirt Plain black trousers Black/navy plain trousers/skirt (not tracksuit bottoms) Black shoes Black shoes PANTOMEIM / PANTOMIME Bu holl ddisgyblion blwyddyn 7 yn gweld perfformiad o r pantomeim Cinderella yn Llandudno yn ystod yr wythnos olaf cyn gwyliau r Nadolig. Roedd yn berfformiad lliwgar, bywiog a swnllyd yn unol â thraddodiad y pantomeim Nadoligaidd ac fe gafodd y disgyblion a r aelodau staff fore difyr iawn. Diolch i r adran Saesneg am drefnu. All pupils in year 7 went to see a performance of the pantomime 'Cinderella' in Llandudno during the final week before the Christmas holidays. The performance was colourful, lively and noisy in true Christmas pantomime fashion and the pupils and staff had a very enjoyable morning. Thanks to the English department for organizing the trip.

CÔR YR YSGOL / SCHOOL CHOIR Ar nos Sul, Rhagfyr 21 cafodd yr ysgol wahoddiad i ymuno yn nathliadau r gymuned yn y gwasanaeth carolau yng Nghapel Jerusalem. Cyflwynodd y côr iau ddwy gân ac roedd ensemble hefyd yn canu. Fe ganodd y côr hŷn gân deimladwy gan Eric Whitacre o r enw Hwiangerdd y Morlo. Daeth y gwasanaeth i ben yn fawreddog gyda r corau yn cyd-ganu Bachgen a Aned o Teilwng yw r Oen gyda Chôr y Penrhyn a Chôr y Dyffryn. Roedd hyn yn brofiad gwefreiddiol i r disgyblion. On Sunday evening, 21 st December the school choir were invited to join the community in the carol service at Capel Jerusalem. The junior choir sang two songs and a vocal ensemble also performed. The senior choir sang a moving song by Eric Whitacre called Hwiangerdd y Morlo '. The service came to a majestic end as the school choir joined Côr y Penrhyn and Côr y Dyffryn to sing 'Bachgen a Aned' from 'Teilwng yw r Oen'. This was a thrilling experience for the pupils. RHIENI BLYNYDDOEDD 11/12/13 Mae 2015 yn flwyddyn bwysig iawn i ddisgyblion sy n sefyll arholiadau allanol eleni. Mae llawer o Asesiadau dan reolaeth ac Arholiadau Ymarferol sydd yn cyfrannu i raddau terfynol cymwysterau Lefel Mynediad/TGAU/UG/Safon Uwch yn cael eu cynnal yn ystod gwersi o fis Ionawr 2015 hyd at Fai 2015. Mae presenoldeb y disgyblion ym mhob un o u gwersi yn allweddol os ydynt am wneud y defnydd gorau o r cyfle i gyrraedd eu potensial. Gofynnir am gydweithrediad rhieni i sicrhau lefel uchel o bresenoldeb yn yr ysgol drwy gydol y cyfnod pwysig hwn. Mae gan y disgyblion hefyd gyfle i ennill llawer iawn o farciau drwy gyflwyno gwaith cwrs o r safon uchaf bosibl a hynny n brydlon. Fel yr ydych yn ymwybodol, ni ddylid dod â ffôn symudol i r ysgol mae hyn yn cynnwys yr ystafell arholiad. Mae gan y byrddau arholi reolau llym a byddant yn dileu marciau r disgybl am bapur penodol neu hyd yn oed y gyfres gyfan o arholiadau os byddant yn cael eu dal gyda ffôn yn eu meddiant. YEAR 11/12/13 PARENTS 2015 will be a very important year for pupils taking external examinations this year. Many controlled assessments will be held during lessons from January 2015 until May 2015. Attendance in every lesson is extremely important if the pupils are to fulfil their potential. Parental support is requested to ensure a high level of attendance throughout this very important period. Pupils also have an opportunity to gain valuable marks by presenting coursework assignments on time and to the highest possible standard. As you are aware, mobile phones should not be brought into school this includes the examination room. The examination boards have strict rules and pupils will not receive any marks for the paper or, in some cases, the whole series of examinations if they take a mobile phone into an examination room.

PRYDLONDEB / PUNCTUALITY Mae disgwyl i bawb fod yn yr ysgol erbyn 8:45yb er mwyn rhoi dechrau trefnus i r diwrnod. Gofynnwn am gydweithrediad rhieni gyda r mater yma. Bydd disgyblion sy n cyrraedd yn hwyr yn gyson yn y bore, neu sy n hwyr ar gyfer eu gwersi yn cael eu cadw i mewn amser cinio ac yna ar ôl ysgol. All pupils are expected to be in school by 8:45am to ensure an orderly start to the day. We ask for parents co-operation with this. Pupils who regularly arrive late in the morning or who are late for their lessons will be kept in at dinner time and then after school. ABSENOLDEB DISGYBLION / PUPILS ABSENCE Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol os yw r disgyblion i fanteisio n llawn ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt. Er mwyn cynnal a gwella presenoldeb yn yr ysgol gofynnwn yn garedig i chi gysylltu ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb eich plentyn. 1. Cysylltwch â r ysgol, rhwng 8:30 a 9:00, ar y bore cyntaf y mae eich plentyn yn absennol: Ffonio 01248 600291. 2. Os na fydd yr ysgol wedi derbyn galwad ffôn rhwng 8:30 a 9:00 o r gloch yn dweud wrthym pam nad yw eich plentyn yn yr ysgol, yna bwriedir cysylltu gyda neges testun i r rhiant. 3. Gofynnir i chi nodi rheswm yr absenoldeb yn nyddiadur eich plentyn. Regular attendance at school is essential if the pupils are to take full advantage of the educational opportunities available to them. In order to maintain and improve attendance levels at the school we would kindly ask you to contact us on the first day of your child s absence. 1. Please contact the school between 8:30 and 9:00 on the first morning that your child is absent:- Telephone 01248 600291. 2. If the school has not received a telephone call between 8:30 and 9:00 o clock telling us why your child is not at school, we will then try to contact the parent with a text message. 3. You are requested to note the reason for the absence in your child s diary. CLWB GWAITH CARTREF / HOMEWORK CLUB Mae r Clwb Gwaith Cartref ar agor bob dydd Llun i ddydd Iau o 3:20 hyd at 4:20 mewn ystafell gyda chyfrifiaduron. Mae hyn yn gyfle ardderchog i ddisgyblion gael cymorth gyda u gwaith ysgol. The Homework Club is open every day from Monday to Thursday from 3:20 to 4:20 in a room with computers. This is an excellent opportunity for pupils to get help with their school work. EIDDO PERSONOL / PERSONAL PROPERTY Fe ch atgoffir mai cyfrifoldeb y disgybl yw eiddo personol. Ni ddylid gadael unrhyw beth gwerthfawr o amgylch yr ysgol. Gellir gadael unrhyw arian neu unrhyw beth o werth yn y swyddfa hyd ddiwedd y dydd, os dymunir. You are reminded that personal property is the individual pupil s responsibility. Valuables should not be left lying around school. Money and valuables can be left in the office until the end of the day if necessary.

CINIO YSGOL AM DDIM Efallai fod eich plentyn yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim os ydych yn derbyn un o r isod:- Cymorth Incwm Lwfans Chwilio am Waith Credyd Treth Plant (yn unig) Gwarant Credyd Pensiwn Cysylltwch gyda r Adran Fudd-daliadau yng Nghaernarfon ar 01286 682689. FREE SCHOOL MEALS Your child may be entitled to free school meals if you receive any of the following:- Income Support Job Seekers Allowance Child Tax Credit (only) Pension Credit Guarantee Contact the Benefits Department in Caernarfon on 01286 682689. DIWRNOD Y LLYFR / WORLD BOOK DAY Cynhelir Diwrnod y Llyfr eleni ar ddydd Iau, 5ed o Fawrth. Fel arfer, bydd pob disgybl yn derbyn tocyn llyfr gwerth 1. Byddant yn cael eu rhannu ddechrau mis Mawrth a gellir eu defnyddio mewn unrhyw siop sy n cymryd rhan yn y cynllun. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i annog eich plentyn i ddarllen. World Book Day is to be held this year on Thursday, 5th March. As usual, every pupil will receive a 1 book token. The tokens will be distributed at the beginning of March and they can be used at any participating bookshop. We appreciate your continued support in encouraging your child to read. YSGOLORIAETH CYMDEITHAS CYFREITHWYR GWYNEDD/ GWYNEDD LAW SOCIETY SCHOLARSHIP Dyma Adam Hughes, un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, yn derbyn yr ysgoloriaeth gan y Barnwr Merfyn Hughes, yn y Llys Sirol yng Nghaernarfon. Enillodd Adam yr ysgoloriaeth ar sail ei ganlyniadau lefel A, ac mae bellach yn astudio r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. This picture shows Adam Hughes, a former pupil at the school, receiving the scholarship from Judge Merfyn Hughes, in the County Court in Caernarfon. Adam won the scholarship on account of his A level results and is now studying law at Cardiff University.

PRIFYSGOL RHYDYCHEN / OXFORD UNIVERSITY Llongyfarchiadau mawr iawn i ddau fyfyriwr o r 6ed Dosbarth sydd wedi cael cynnig lle yn Rhydychen. Mae Bethan Hughes wedi cael cynnig lle yng Ngholeg Merton i astudio Saesneg, a Gwynfor Rowlinson wedi cael cynnig lle yng Ngholeg yr Iesu i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Gwynfor ydi r drydedd genhedlaeth o r teulu i ennill lle yn Rhydychen yn dilyn ei dad Paul a i nain a i daid cyn hynny. Dair blynedd yn ôl cafodd Henri Williams ei dderbyn i astudio Mathemateg yng Ngholeg yr Iesu. O gofio mai llond llaw o ddisgyblion drwy Ogledd Cymru sy n cael eu derbyn bob blwyddyn i Gaergrawnt a Rhydychen, mae Bethan a Gwynfor wedi cyflawni tipyn o gamp; mae hynny n glod i r addysg y maent wedi ei derbyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen a chyn hynny yn Ysgol Llanllechid. Congratulations to two students from the 6th Form who have been offered a place at Oxford. Bethan Hughes has been offered a place at Merton College to study English, and Gwynfor Rowlinson has been offered a place at Jesus College to study Philosophy, Politics and Economics. This is the third generation of Gwynfor s family to win a place at Oxford - following his father Paul and his grandparents before. Three years ago Henri Williams was accepted to study Mathematics at Jesus College. As only a handful of pupils across North Wales are usually offered places each year at Cambridge and Oxford, this is no mean feat that Gwynfor and Bethan have achieved. It is a credit to the education they have received at Ysgol Dyffryn Ogwen and before that at Ysgol Llanllechid. GWOBR RHAGORIAETH GWAITH IEUENCTID / YOUTH WORK EXCELLENCE AWARD Llongyfarchiadau i r disgyblion canlynol: Katie Humphreys, Ceri Ellen Speddy, Lois Ashton a Shannon Williams sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr mewn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd ym mis Chwefror. Mae r pedair wedi cael eu henwebu am greu ap cyfrifiadurol o dan y categori Prosiect eithriadol mewn ysgol Pob lwc genod! Congratulations to the following pupils: Katie Humphreys, Ceri Ellen Speddy, Lois Ashton and Shannon Williams who have been nominated for an award at the Youth Work Wales Excellence Awards ceremony in Cardiff in February. The four have been nominated for the creation of a computer 'app' under the category 'Outstanding school based project' Good luck girls! Llongyfarchiadau i n technegydd cyfrifiaduron, Mr Andrew Speddy sydd wedi cael ei enwebu gan Ms Ellen Rowlands, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd ar gyfer Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol Cenedlaethol am ei waith yn ei rôl fel gweithiwr ieuenctid rhan amser yn y gymuned ac am gyflwyno gwaith ieuenctid o ansawdd uchel iawn trwy ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc yng Nghlwb Ieuenctid Bethesda. Pob lwc Mr Speddy! Congratulations to our computer technician, Mr Andrew Speddy who has been nominated by Ms Ellen Rowlands, Gwynedd Youth Service for 'National Outstanding Youth Worker' for his work and role as a part time youth worker in the community, delivering high quality youth work by inspiring and supporting young people in the Bethesda Youth Club. Good luck Mr Speddy!

CYSTADLEUAETH BIN IT / BIN IT COMPETITION Gweithdy oedd Bin It yn cael ei redeg gan gwmni Wrigleys wedi ei selio ar sbwriel ayb. Llenwodd pawb holiadur a rhoi eu barn ar y gweithdy. Daeth enwau Siwan Lewis a Holly Heaton allan o r het ac ennill 10 o daleb Amazon! Bin It was a workshop held by the Wrigleys company in regards to litter etc. Everyone completed a questionnaire and gave their views on the workshop. Siwan Lewis and Holly Heaton s names were pulled out of the hat and they received a 10 Amazon Voucher! LLWYDDIANNAU / SUCCESS Cofiwch gysylltu â r ysgol er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwybod am lwyddiant neu gyfraniad arbennig disgyblion unigol neu grwpiau o ddisgyblion. Gofynnir i chi adael y wybodaeth a/neu luniau yn y swyddfa neu gydag aelod o staff er mwyn i ni gael rhannu r newyddion ac ymfalchïo yn llwyddiant ein disgyblion. Please remember to contact the school with information about individual pupils, or groups of pupils achievements. The information and/or pictures can be left in the office or given to a member of staff and will enable us to share news of successes and achievements with others. SIOE GERDD / MUSICAL Ar Ragfyr 17eg bu nifer o ddisgyblion blynyddoedd 8, 9 a 10 ar daith i weld sioe gerdd Shrek yn y Palace Theatre ym Manceinion. Cafodd y disgyblion gyfle i siopa a chael cinio yng Nghanolfan Siopa Trafford yn ystod y bore, ac wedyn ymlaen i fwynhau r sioe gerdd enwog gan William Steig yn ystod y prynhawn. On 17 th of December, a number of pupils in years 8, 9 and 10 went on a trip to see the musical 'Shrek' at the Palace Theatre in Manchester. They enjoyed shopping and had lunch at the Trafford Shopping Centre during the morning, and had an unforgettable experience during the afternoon enjoying the famous musical by William Steig. GWISG ADDYSG GORFFOROL / PHYSICAL EDUCATION KIT Gofynnwn am eich cydweithrediad i sicrhau bod disgyblion yn dod â r wisg briodol i bob un o u gwersi Addysg Gorfforol. We ask for your co-operation in ensuring that pupils bring the correct PE kit to every lesson.

CYSTADLEUAETH GYMNASTEG / GYMNASTICS COMPETITION Llongyfarchiadau i Nia George (B9) am ddod yn gyntaf mewn cystadleuaeth gymnasteg yng nghlwb gymnasteg Eryri yn ddiweddar. Bydd Nia a i chwaer Erin ynghyd â Sophie Pipe yn cynrychioli r ysgol ym mis Ionawr yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd yn Eryri. Pob lwc i chi ferched! Congratulations to Nia George (Y9) on coming first in a gymnastics competition held at the Eryri gymnastics club recently. Nia and her sister Erin together with Sophie Pipe will represent the school in January at the Urdd Eryri gymnastics competition. Good luck girls! GALA NOFIO R URDD / URDD SWIMMING GALA Llongyfarchiadau i Esme Crowe a ddaeth yn 2il yng ngala nofio r Urdd, rowndiau Eryri yn ddiweddar. Mae Esme yn hyfforddi gyda chlwb Caernarfon yn gynnar yn y bore a gyda r nos ar nifer o ddyddiau yn ystod yr wythnos ac mae n arbenigo yn y dull broga. Congratulations to Esme Crowe for coming in 2nd in the Eryri rounds of the Urdd swimming gala recently. Esme trains with the swimming club in Caernarfon early in the morning and in the evening on several days each week and specializes in breaststroke. RYGBI / RUGBY Mae r tîm rygbi merched yn mynd o nerth i nerth gyda tua 30 o ferched yn mynychu r ymarferion yn y clwb ar nos Fercher. Dydd Iau, Rhagfyr 18fed cafodd y garfan iau gyfle i chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Ysgol Tryfan gyda nifer o chwaraewyr newydd o flwyddyn 7. Y sgôr derfynol oedd 20-5 i Ysgol Dyffryn Ogwen gyda Sophie Ellis yn sgorio pedwar cais. The girls rugby team is going from strength to strength with around 30 girls attending training at the club on Wednesday evenings. On December 18 th the younger squad played their first game against Ysgol Tryfan with a number of new members from year 7. The final score was 20-5 to Ysgol Dyffryn Ogwen with Sophie Ellis scoring four tries. Canlyniad tîm rygbi bechgyn dan 14 (rownd 32 olaf Cwpan Cymru) Under 14 boys rugby result (last 32 of the Welsh Cup) Ysgol Dyffryn Ogwen 31-15 Ysgol Llanfyllin Ceisiadau gan Mathew Buchanan, Kieran Briggs x3, Dafydd Williams. Ben Williams - 3 throsgais. Bydd y tîm nawr yn chwarae yn rownd 16 olaf Cymru. Ysgol Dyffryn Ogwen 31-15 Ysgol Llanfyllin Tries by Matthew Buchanan, Kieran Briggs x3, Dafydd Williams. Ben Williams - 3 conversions. The team will now play in the last 16 of the Welsh cup.

AMSERLEN 5X60 / 5X60 TIMETABLE