CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD Cyflwyno S4C Awdurdod darlledu cyhoeddus yw S4C. Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981 i ddarparu gwasanaeth teledu Cymraeg a aeth ar yr awyr gyntaf ym mis Tachwedd 1982. Darlledwr sy n comisiynu cynnwys o gwmnïau cynhyrchu yw S4C, yn hytrach nag un sy n cynhyrchu rhaglenni. Yn ogystal, mae dyletswydd statudol ar BBC Cymru i ddarparu o leiaf 10 awr o raglenni'r wythnos i w darlledu ar wasanaethau S4C. Ei amcan corfforaethol yw darparu gwasanaeth teledu Cymraeg cynhwysfawr, o safon uchel, sy n adlewyrchu a chyfoethogi bywyd yng Nghymru. Mae S4C yn darlledu r gwasanaethau canlynol ar hyn o bryd: Enw r gwasanaeth Natur y Gwasanaeth Platfform Argaeledd S4C Rhaglenni Cymraeg o 7.00 y bore tan yn hwyr. Yn oriau r nos - yn ystod sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru trafodaethau a digwyddiadau r dydd o r Cynulliad. Telewerthu yn ystod oriau r nos pan nad yw r Cynulliad yn cwrdd. Freeview, Virgin TV a Clirlun yng Nghymru. Ar gael hefyd ar Freesat a Sky yng Nghymru a gweddill y DU. Mae S4C ar gael ar: Sky 104 yng Nghymru Freeview ar 4 yng Nghymru Virgin TV ar 167 yng Nghymru Freesat 104 yng Nghymru Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Freesat 120 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Mae Clirlun ar gael ar Freeview HD ar 53 yng Nghymru s4c.co.uk/clic Mae modd gwylio gweddarllediad cydamserol o wasanaeth S4C. Ar-lein DU a (lle bo hawliau n caniatáu) ar draws y byd. Hefyd ffenestr 35 diwrnod fel arfer ar gyfer gwylio ar alw. Ffrydio ychwanegol o ddigwyddiadau pwysig yng Nghymru. 1
Enw r gwasanaeth Natur y Gwasanaeth Platfform Argaeledd s4c.co.uk Gwefan S4C yn cynnig safleoedd chwaraeon, cerddoriaeth, drama, ffeithiol, digwyddiadau byw ac adloniant. Ar-lein Ar gael ar draws y byd Manylion ynghylch yr amserlen. Hyrwyddiadau rhaglenni a gwasanaethau. Gwybodaeth tywydd, gwasanaeth i ddysgwyr, i gynhyrchwyr a gwybodaeth gorfforaethol. Safle Caban sy n rhannu r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni a gweithgareddau S4C. Nifer o wefannau ychwanegol sy n cael eu creu gan gyflenwyr annibynnol ac sy n mynd y tu hwnt i ofynion rhaglenni teledu. Mae r gofynion statudol ar S4C, ei gwasanaethau a i gweithgareddau wedi i gosod allan yn bennaf yn y Ddeddf Darlledu 1990, y Ddeddf Darlledu 1996 a r Ddeddf Gyfathrebiadau 2003. Manylion cefndir am S4C Mae S4C yn cael ei ariannu ar hyn o bryd yn bennaf o grant gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghyd â chyllid sy n cael ei greu gan weithgareddau ei his-gwmnïau masnachol. Cyfeiriwch at Adroddiad Blynyddol S4C am fwy o fanylion. Mae n fwriad gan Yr Ysgrifennydd Gwladol i S4C gael ei ariannu o 2013/14 ymlaen yn bennaf allan o Ffi r Drwydded. Ers Deddf Gyfathrebiadau 2003, mae cynnwys rhaglenni S4C yn cael ei reoleiddio yn bennaf gan Ofcom (gan gynnwys cydymffurfiaeth rhaglenni r gwasanaeth, cwotâu ar gyfer cynnyrch rhanbarthol ac annibynnol, Cod Ymarfer a Thelerau Masnach ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol). Mae Awdurdod S4C yn awdurdod darlledu annibynnol ac yn gyfrifol am bolisi strategol y corff. Mae r Awdurdod yn gorff annibynnol yn gyfrifol am atebolrwydd i r cyhoedd am wariant arian cyhoeddus. O ddydd i ddydd rheolir S4C gan y Prif Weithredwr a r Tîm Rheoli. Gellir cael manylion pellach drwy ddilyn y linciau canlynol:- Gwybodaeth am Ymgynghoriad 2012+ http://www.s4c.co.uk/ymgynghoriad/ 2
Adolygiad o ddatganiad Polisi Rhaglenni S4C 2010 http://www.s4c.co.uk/abouts4c/authority/pdf/c_adolygiad_datganiad_polisi_rhaglenni_2010.pdf Datganiad Polisi Cynnwys 2012: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/authority/pdf/c_datganiad_polisi_cynnwys_2012.pdf Cynllun Gwaith S4C ar gyfer 2012: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/authority/pdf/c_work_plan_2012.pdf Adroddiad blynyddol 2010: http://www.s4c.co.uk/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2010.pdf Y swydd Bydd y Cynorthwy-ydd yn atebol i Ysgrifennydd yr Awdurdod, a bydd yn darparu cymorth a chefnogaeth weithredol i Gadeirydd ac Ysgrifennydd yr Awdurdod. Bydd hefyd yn cydlynu gydag adrannau eraill o fewn S4C er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i Awdurdod S4C. Ymysg dyletswyddau r swydd fydd:- Cynorthwyo r Ysgrifennydd i baratoi a darparu gwybodaeth i Gadeirydd ac Aelodau Awdurdod S4C, gan gynnwys cynorthwyo i baratoi cofnodion cyfarfodydd a phwyllgorau r Awdurdod, a chyfarfodydd gyda chyrff allanol; Cynorthwyo r Ysgrifennydd i baratoi a darparu dogfennau fydd yn cyflwyno gwaith yr Awdurdod i randdeiliaid a r cyhoedd; Cydlynu gwaith asesu perfformiad gwasanaethau S4C ar gyfer yr Awdurdod; Cydweithio gyda r Adran Cyfathrebu a Phartneriaethau i drefnu gweithgareddau cyhoeddus yr Awdurdod; Paratoi ac ysgrifennu deunydd yn Gymraeg a Saesneg at ddibenion mewnol ac allanol, gan gynnwys dogfennau briff a chofnodion; Delio gydag ymholiadau, sylwadau a cheisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth; Unrhyw waith rhesymol arall. Yn ogystal bydd disgwyl i chi:- Gydweithio gyda chyd-aelodau staff ac eraill i sicrhau bod S4C yn cyrraedd ei hamcanion corfforaethol. Sicrhau bod S4C yn gweithredu n effeithiol ac yn gyson â r ymrwymiadau statudol a strategol. Hybu cyfathrebu effeithiol er mwyn cyrraedd yr amcanion corfforaethol. 3
Gyfrannu at drafodaethau a chyfarfodydd sydd yn ymwneud yn benodol â ch cyfrifoldebau unigol ac yn fwy eang lle mae budd i S4C yn gyffredinol. Gyd-weithio mewn modd sydd yn cyd-fynd â nod S4C i ddarparu awyrgylch gwaith parchus, urddasol a diogel ar gyfer eich cyd-weithwyr. Sicrhau eich bod yn gweithredu yn unol â r Polisi Iechyd a Diogelwch ac yn gweithredu argymhellion asesiadau risg. Gefnogi nodau S4C mewn perthynas ag amrywiaeth, gan gynnwys anabledd, ac yn hybu ymarfer da. Manylion Eraill LLEOLIAD: CYFLOG: CYTUNDEB: ORIAU GWAITH: CYFNOD PRAWF: IECHYD: Lleolir y swydd hon yn swyddfeydd S4C yng Nghaerdydd, ond disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro. 25,000-30,000 yn unol â phrofiad. 2 flynedd i gychwyn. Oriau arferol swyddfa yw 9.00am - 5.15pm ar Ddydd Llun i Ddydd Iau ac o 9.00am - 4.45pm ar Ddydd Gwener ond oherwydd natur y swydd disgwylir peth hyblygrwydd ar adegau, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae n bosibl y bydd angen i chi weithio. Mae gofyn i bob un a benodir gan S4C fod ar brawf am gyfnod o chwe mis er mwyn i r cyflogwr gael adolygu perfformiad, ymddygiad, a phresenoldeb yn y gwaith. Diogelir hawl S4C i derfynu r cytundeb yn ystod y cyfnod prawf gydag 1 wythnos o rybudd. Disgwylir i staff newydd gael archwiliad meddygol gan feddyg S4C ar ddechrau'r cyfnod cyflogaeth. Cedwir cofnod o bob absenoldeb oherwydd afiechyd. GWYLIAU: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl yn ystod pob blwyddyn wyliau, y cyfryw flwyddyn i redeg o ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth gydag S4C. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth byddai hawl gennych i 2 ddiwrnod ychwanegol o wyliau, ynghyd â diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn wedi hynny hyd at uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 9 mlynedd o wasanaeth. PENSIWN: Bydd hawl gennych i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro ar ôl dri mis o gyflogaeth. Os byddwch yn ymuno â r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o ch cyflog sylfaenol i r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Ceisiadau Dylid anfon ceisiadau erbyn 17:00 ar 28 Mehefin 2012 at Carys Hedd Paschalis, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C, Parc Ty^ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU. 4
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu gefndir economaidd cymdeithasol, oedran, sefyllfa deuluol, statws priodasol, gweithwyr rhan neu lawn amser, crefydd, gwleidyddiaeth, tueddfryd rhywiol, defnydd o iaith neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall ac mae'n ymroddedig i ystyried amrywiaethau mewn modd positif. Mae S4C yn croesawu ac yn cymell ceisiadau am swyddi oddi wrth grwpiau allai fod wedi eu tangynrychioli gan gynnwys merched, pobl dduon ac o leiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth agored a theg a phenderfynir ar benodiadau ar sail teilyngdod. This is a job description for the post of Assistant to the Secretary to the Authority. The ability to speak Welsh fluently is essential for this post. 5