8th March 2018 The thirteenth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Institute, Pontarddulais

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

W46 14/11/15-20/11/15

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cyngor Cymuned Llandwrog Community Council

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

The Life of Freshwater Mussels

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Swim Wales Long Course Championships 2018

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Addysg Oxfam

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Swyddfa r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth. National Park Office, Penrhyndeudraeth. Y Cynghorwyr /Councillors : Eurig Wyn, Elizabeth Roberts;

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Cyngor Cymuned Llandwrog

E-fwletin, Mawrth 2016

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

W39 22/09/18-28/09/18

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Technoleg Cerddoriaeth

CYNGOR CYMUNED LLANDYSUL COMMUNITY COUNCIL

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Cofnodion Fforwm Mynediad Lleol De Eryri a gynhaliwyd Dydd Llun 10fed Mawrth 2014 am 5.45 yp Yng Ngwesty r Llew Coch, Dinas Mawddwy

Adviceguide Advice that makes a difference

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Sir Ddinbych / Denbighshire. Sir y Fflint / Flintshire. Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Vicky Thomas (VT) Ernie Galsworthy (EG)

RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Holiadur Cyn y Diwrnod

Appointment of BMC Access

Esbonio Cymodi Cynnar

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer

W44 27/10/18-02/11/18

Cronfa Buddsoddi Cymunedol

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Talu costau tai yng Nghymru

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

W6 02/02/19-08/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm

Cloddio Caerau. Prosiect Treftadaeth CAER

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Summer Holiday Programme

Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Papur Cefndir 16. Twristiaeth

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Symud T^y. Gweithgaredd. Wrth i rym bwyso ar adeilad bydd yn anffurfio: Beth sydd ei angen arnoch

offered a place at Cardiff Met

NatWest Ein Polisi Iaith

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

EXPLANATORY STATEMENT

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Transcription:

8th March 2018 The thirteenth meeting of the Mynydd y Gwair Wind Farm Community Liaison Group Institute, Pontarddulais Attendees Cllr Paul Northcote, Mawr Community Council Emma North, Planning, City and County of Swansea Sgt. Philip Morris, South Wales Police (SWP) Matt Collins, SWP Bryony Kamratov Jones, SWP Christopher Watts, SWP David Owen, Planning Dept. City and County of Swansea Alun Thomas, Highways, City and County of Swansea Cllr. Kevin Griffith, Pontarddulais Town Council Paul Newman, Pontlliw and Tircoed Community Council Cllr Wyn Morgan Penllergaer Community Council David Flatley, Farrans Brigitte Rowlands, WGCA Philip McDonnell, Chair Tim James, Construction Project Manager, Innogy Renewables UK Ltd Angharad Davies, Cadno Communications Ltd 1. Welcome and introductions The chair welcomed the group and asked everyone to introduce themselves, as there were new attendees present, including a number of PCSO s, attending as part of their induction. 2. Apologies 2.1 Cllr Robert Jones, Mawr Community Council, has informed AD that he is stepping down from the Community Council. PN (Mawr) confirmed that the Council would be nominating a replacement representative at their next meeting. 2.2 Jenny Cowley, Community Liaison Manager, Innogy Renewables UK Ltd 3. Minutes & matters arising 3.1 The WGCA has now erected fencing near to the cattle grid, and this matter is now closed. 3.2 The Chair asked members whether they were passing correspondence on to Jenny Cowley, following the discussion at the last meeting (4.2), and members confirmed that they were doing so. 3.3. Litter accumulating behind fences at the site entrance is being regularly cleared by Farrans (action 5.9). 3.4 KG commented on how little had been raised with him by constituents since the last meeting. 3.5 AT confirmed that he had carried out a site visit to look at road safety (5.14 ARUP report) and is satisfied that a small number of issues can be remedied quite easily. 3.6 An update on the community benefit fund (7.9) will be provided later in the meeting. 3.7 The minutes were agreed as a true record of the previous meeting. Proposed by EN and seconded by WM. 4. Correspondence 4.1 KG had received an item of correspondence and passed this on to JC. TJ will cover this during his update. 1

5. Update from Tim James 5.1 Work is gathering pace, and the welfare facilities and compound are up and running. TJ commented that they are amongst the best facilities he has seen on any project he has worked on. 5.2 Approximately 15km of fencing has been erected by local contractor, Joe Jones, and this is out of a total of 24km. 5.3 The surface water drainage ditches are being installed, and revegetation is being carried out in tandem, as this helps with drainage, and it means that the area can be restored more quickly. 5.4 Thus far, Farrans have completed approximately 2,300 metres of swales, and 2,100 metres of road. 5.5 A helicopter is being used to move 70km of duct across the site more quickly. This also has the advantage of reducing the number of vehicle movements on the ground. 5.6 Cable plough will be mobilised next week. 5.7 Excavation for the turbine foundations will have begun by the time of the next CLG meeting. The soil that is excavated is kept in close proximity to the excavation site and will be re used as topsoil and to re vegetate the area. 5.8 TJ informed BR that fencing the drive of local residents, Mr and Mrs Williams, was due to take place in mid March. This has been an ongoing issue, and BR was pleased that the fencing was now scheduled to take place. 5.9 TJ has instructed Farrans to reinstate the layby at Five Roads, and DF confirmed that, weather permitting, this work would be carried out in two weeks. 5.10 After successfully keeping the roads free of mud for some time, there has been an unfortunate step backwards, with more debris appearing on local roads. This is probably due to the fact that Farrans changed their stone supplier, and the new drivers are having to be instructed afresh on the expected standards. Farrans has spoken to the haulier and will continue to monitor the situation. 5.11 TJ has asked Farrans to put in more passing places along the route. 5.12 Unfortunately, the original location for the dry wheel cleaning facility is too steep, and for health and safety reasons it cannot be installed. Other options are being looked at, and in the meantime, a pressure washer is being used on site. 5.13 Local Authority planning officers and highways officers have been on site to inspect progress. 5.14 It was noted that a 4x4 which had been used for joy riding on the common and had got stuck, had now been removed. 5.15MC commented that anti social behaviour by off road bikers was a persistent problem, and SWP were monitoring this very closely. The matter of anti social use of the local roads and common is a long standing problem and will need to be discussed at future meetings. It is thought that the construction presence may prevent some from using the common for this sort of anti social activity. 5.16 There is 24/7 security on site. 5.17 PN (Pontlliw) commented that Community Councillors has raised the issue of construction vehicles travelling on Bolgoed Road at speed. The speed limit is 40 mph, and PN has advised Councillors to note the number plate of speeding vehicles in future. He has also noted that some loads are not covered by sheeting to prevent spills on the road. TJ confirmed that drivers are conditioned to sheet their loads. 5.18 A local resident has contacted innogy about the noise caused by lorries passing her property. Innogy has carried out noise monitoring and the levels do rise to between 2 3 DB when a lorry passes by. It is thought that potholes on the road, causing the empty wagons to bounce and rattle, may be the cause of the higher than normal noise, and as a result, Farrans are temporarily filling in these potholes. Unfortunately, they cannot do a permanent fix as yet, because Wales and West Utilities have not pinpointed the location of their 450mm gas pipeline that runs along the route. 6. Written update from Jenny Cowley 6.1 JC has received an update on progress with the community fund from Kathryn Harris, innogy s community investment manager: The Mawr consultation is being organised. There is no progress to report on fund set up, and this is not due to start in earnest until the autumn, at which point 2

representatives will be sought to sit on the panel. In the meantime, anyone looking for support to develop ideas, should contact SCVS directly. 6.2 Concerns have been reported about the speed of vehicles coming up the track. Farrans have spoken to the supplier. 6.3 There has been one report of lorries coming through the village. Again, Farrans have spoken to the drivers. 6.4 KG passed on correspondence regarding fly tipping. It transpires that the fly tipping is on an area of land associated with the neighbouring flood alleviation scheme and Dawnus (the floodalleviation contractor) has been notified. 6.5 The Local Authority Public Rights of Way (PRoW) Officer has received correspondence from local residents complaining that PRoWs have closed, claiming that the closures are not necessary. Unfortunately, the closures are necessary, as there will be a significant number of large vehicles using these tracks and it is unsafe for members of the public to be on them. All PRoW closures were planned properly in advance. 7. AOB 7.1 The Chair mentioned the availability of Rural Development Plan funding as a means of helping communities to develop good projects, in advance of the wind farm community benefit fund becoming available. Some members had not had a good experience of submitting applications for funding and they felt that the focus of the RDP funding was commercial, rather than community focussed. 7.2 PN (Mawr) queried whether blasting techniques would be used when creating foundations for the turbines. Farrans confirmed that there was no need for them to blast, and they would only be using excavation machinery. As discussed earlier, the soil will be re used for re vegetation purposes and the objective is to blend the turbine foundations in to the local landscape as much as possible. 7.3 Members were asked to note that Llangyfelach Road is due to close on Thursday and Friday so that Highways could mend potholes. This work is not related to the wind farm. 7.4 BR has been asked to obtain some digital files submitted as part of the planning process. DO will respond to the request. 8. Next meeting: 8.1 The next meeting will be held at 6 pm on Thursday 19 th April at Tircoed Village Hall (subject to availability). 8.2 The meeting concluded at 7.00 pm. 1

8fed Mawrth 2018 Trydydd cyfarfod ar ddeg o Grŵp Cyswllt Cymunedol Fferm Wynt Mynydd y Gwair yn Yr Institiwt ym Mhontarddulais Mynychwyr Y Cynghorydd Paul Northcote, Cyngor Cymuned Mawr Emma North, Adran Gynllunio, Dinas a Sir Abertawe Sarsiant Philip Morris, Heddlu De Cymru (HDC) Matt Collins, HDC Bryony Kamratov Jones, HDC Christopher Watts, HDC David Owen, Adran Gynllunio, Dinas a Sir Abertawe Alun Thomas, Adran Briffyrdd, Dinas a Sir Abertawe Y Cynghorydd Kevin Griffith, Cyngor Tref Pontarddulais Paul Newman, Cyngor Cymuned Pontlliw a Thircoed Y Cynghorydd Wyn Morgan, Cyngor Cymuned Penllergaer David Flatley, Farrans Brigitte Rowlands, CCGM Philip McDonnell, Cadeirydd Tim James, Rheolwyr Prosiectau Adeiladu, Innogy Renewables UK Cyf. Angharad Davies, Cadno Communications Cyf. 1. Croeso a chyflwyniadau Croesawyd y grŵp gan y cadeirydd a gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain, oherwydd bod rhai mynychwyr newydd yn bresennol, yn cynnwys nifer o SCCHau, a oedd yn mynychu r cyfarfod fel rhan o u cwrs cynefino. 2. Ymddiheuriadau 2.1 Mae r Cynghorydd Robert Jones, o Gyngor Cymuned Mawr, wedi rhoi gwybod i AD ei fod yn rhoi r gorau i w ddyletswyddau gyda r Cyngor Cymuned. Cadarnhaodd PN (Mawr) y byddai r Cyngor yn enwebu cynrychiolydd yn ei le yn eu cyfarfod nesaf. 2.2 Jenny Cowley, Rheolwr Cyswllt Cymunedol, Innogy Renewables UK Cyf 3. Cofnodion a materion sy n codi 3.1 Mae CCGM yn awr wedi adeiladu ffens wrth ymyl y grid gwartheg, ac mae r mater hwn yn awr wedi cau. 3.2 Gofynnodd y Cadeirydd i r aelodau a oedden nhw n pasio gohebiaeth ymlaen at Jenny Cowley, yn dilyn y drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf (4.2), a chadarnhaodd yr aelodau eu bod yn gwneud hynny. 3.3. Mae sbwriel sy n casglu y tu ôl i r ffensys wrth fynedfa r safle yn cael ei glirio yn rheolaidd gan Farrans (cam gweithredu 5.9). 3.4 Tynnodd KG sylw at y ffaith fod cyn lleied wedi cael ei godi gydag ef gan etholwyr ers y cyfarfod diwethaf. 3.5 Cadarnhaodd AT ei fod wedi cynnal ymweliad â r safle er mwyn edrych ar ddiogelwch y ffyrdd (adroddiad ARUP 5.14) ac mae ef yn fodlon y gall nifer fechan o broblemau gael eu cywiro yn eithaf hawdd. 3.6 Bydd diweddariad ynglŷn â r gronfa budd cymunedol (7.9) yn cael ei ddarparu yn ddiweddarach yn y cyfarfod. 3.7 Cytunwyd bod y cofnodion yn wir gofnod o r cyfarfod blaenorol. Cynigiwyd gan EN ac eiliwyd gan WM. 4. Gohebiaeth 4.1 Roedd KG wedi derbyn eitem o ohebiaeth ac wedi i rhoi i JC. Bydd TJ yn ymdrin â hyn yn ystod ei ddiweddariad. 2

5. Diweddariad gan Tim James 5.1 Mae r gwaith yn cyflymu, ac mae r cyfleusterau lles a r cwrt yn barod. Tynnodd TJ sylw at y ffaith eu bod ymysg y cyfleusterau gorau y mae wedi u gweld mewn unrhyw brosiect y mae ef wedi gweithio arno. 5.2 Codwyd oddeutu 15km o ffensys gan gontractwr lleol, sef Joe Jones, ac mae hyn allan o gyfanswm o 24km. 5.3 Mae r ffosydd draenio dŵr ar y wyneb yn cael eu gosod, ac mae aildyfu yn digwydd ochr yn ochr â hyn, oherwydd ei fod yn helpu gyda draenio, ac yn golygu y gellir adfer yr ardal yn gyflymach. 5.4 Hyd yma, mae Farrans wedi cwblhau oddeutu 2,300 metr o bantiau a 2,100 metr o ffyrdd. 5.5 Mae hofrennydd yn cael ei ddefnyddio i symud 70km o bibell ar draws y safle yn gyflymach. Mae mantais yn ogystal i hyn, sef lleihau r nifer o symudiadau gan gerbydau ar y tir. 5.6 Bydd aradr cebl yn cael ei ddefnyddio wythnos nesaf. 5.7 Bydd cloddio ar gyfer sylfeini r tyrbinau wedi dechrau erbyn amser y cyfarfod GCC nesaf. Mae r pridd sy n cael ei gloddio yn cael ei gadw yn agos at safle r cloddio a bydd yn cael ei ailddefnyddio fel pridd uchaf ac ar gyfer aildyfu yn yr ardal. 5.8 Rhoddodd TJ wybod i BR fod dreif y preswylwyr lleol, Mr a Mrs Williams, ar fin cael ei ffensio yng nghanol mis Mawrth. Bu hwn yn fater parhaus, ac roedd BR yn falch o ddweud bod y ffensio yn awr am gael ei wneud. 5.9 Mae TJ wedi rhoi cyfarwyddiadau i Farrans adfer y gilfan yn Five Roads, a chadarnhaodd DF y byddai r gwaith, os yw r tywydd yn caniatáu, yn cael ei wneud mewn pythefnos. 5.10 Ar ôl cadw r ffyrdd yn llwyddiannus heb fwd am ychydig amser, bu cam anffodus yn ôl, gyda mwy o rwbel yn ymddangos ar ffyrdd lleol. Mae n debyg bod hyn oherwydd y ffaith fod Farrans wedi newid ei gyflenwr cerrig, ac mae r gyrwyr newydd yn gorfod cael eu cyfarwyddo o r newydd ynglŷn â r safonau disgwyliedig. Roedd Farrans wedi siarad â r cludwr a bydd yn parhau i fonitro r sefyllfa. 5.11 Gofynnodd TJ i Farrans roi mwy o leoedd ar gyfer pasio ar hyd y ffordd. 5.12 Yn anffodus, mae r lleoliad gwreiddiol ar gyfer y cyfleuster sych ar gyfer glanhau olwynion yn rhy serth, ac oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, ni ellir ei osod. Mae dewisiadau eraill yn cael eu hystyried, ac yn y cyfamser, mae golchwr pwysedd uchel yn cael ei ddefnyddio ar y safle. 5.13 Mae swyddogion cynllunio a swyddogion priffyrdd wedi bod ar y safle er mwyn archwilio r cynnydd. 5.14 Nodwyd bod cerbyd 4 x 4 a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer jolihoetio ar y comin ac wedi mynd yn sownd, yn awr wedi cael ei dynnu oddi yno. 5.15 Tynnodd MC sylw at y ffaith bod ymddygiad gwrthgymdeithasol gan feicwyr oddi ar y ffordd yn broblem barhaus, ac roedd HDC yn monitro hyn yn agos iawn. Mae r broblem o ddefnyddio ffyrdd lleol a r comin yn wrthgymdeithasol yn hen broblem, a bydd angen ei thrafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Tybir bod presenoldeb y gwaith adeiladu yn gallu atal rhai i ddefnyddio r comin ar gyfer y math hwn o weithgaredd gwrthgymdeithasol. 5.16 Mae diogelwch 24/7 ar y safle. 5.17 Tynnodd PN (Pontlliw) sylw at y ffaith bod Cynghorwyr Cymuned wedi codi r mater o gerbydau adeiladu yn teithio yn gyfym ar Ffordd Bolgoed. Y terfyn cyflymder yw 40 mya, ac mae PN wedi cynghori Cynghorwyr i nodi rhif cofrestru r cerbydau sy n goryrru yn y dyfodol. Nododd hefyd nad yw rhai llwythi yn cael eu gorchuddio er mwyn osgoi gorlifiadau ar y ffordd. Cadarnhaodd TJ fod gyrwyr wedi arfer gorchuddio eu llwythi. 5.18 Mae preswyliwr lleol wedi cysylltu ag Innogy ynglŷn â r sŵn a achosir gan lorïau sydd yn pasio ei thŷ. Mae Innogy wedi monitro r sŵn ac mae r lefelau yn codi rhwng 2 3 db pan mae lori yn pasio. Tybir bod tyllau ar y ffordd, sy n achosi r cerbydau gwag i fownsio a ratlo, a gall hyn fod yr achos bod y sŵn yn uwch na r arferol, ac o ganlyniad, mae Farrans yn llenwi r tyllau dros dro. Yn anffodus, ni allan nhw wneud hyn yn barhaol eto, oherwydd nid yw Wales and West Utilities wedi nodi lleoliad eu pibell nwy 450mm a fydd yn rhedeg ar hyd y ffordd. 6. Diweddariad ysgrifenedig gan Jenny Cowley 6.1 Mae JC wedi derbyn diweddariad ynglŷn â r cynnydd gyda r gronfa gymunedol gan Kathryn 3

Harris, rheolwr buddsoddi cymunedol Innogy: Mae ymgynghoriad Mawr yn cael ei drefnu. Nid oes unrhyw gynnydd i w adrodd ynglŷn â sefydlu r gronfa, ac nid yw hwn i fod i ddechrau o ddifrif tan yr hydref, pan fyddwn yn chwilio am gynrychiolwyr i eistedd ar y panel. Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sy n chwilio am gefnogaeth i ddatblygu syniadau, gysylltu â CGGA yn uniongyrchol. 6.2 Mae pryderon wedi cael eu hadrodd ynglŷn â chyflymdra r cerbydau sy n teithio i fyny r trac. Mae Farrans wedi siarad gyda r cyflenwr. 6.3 Bu un adroddiad ynglŷn â lorïau yn dod drwy r pentref. Unwaith eto, mae Farrans wedi siarad gyda r gyrwyr. 6.4 Pasiodd KG ohebiaeth ymlaen ynglŷn â thipio anghyfreithlon. Ymddengys bod y tipio anghyfreithlon ar ddarn o dir sy n gysylltiedig â chynllun lliniaru llifogydd cyfagos ac mae Dawnus (y contractwr lliniaru llifogydd) wedi cael eu hysbysu. 6.5 Mae Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) yr Awdurdod Lleol wedi derbyn gohebiaeth gan breswylwyr lleol yn cwyno bod HTCau wedi cau, gan hawlio nad yw r cau yn angenrheidiol. Yn anffodus, mae r cau yn angenrheidiol, oherwydd bydd nifer sylweddol o gerbydau mawr yn defnyddio r traciau hyn ac mae n anniogel i aelodau o r cyhoedd gerdded arnyn nhw. Roedd cau r holl HTCau wedi cael ei gynllunio yn iawn ymlaen llaw. 7. UFA 7.1 Crybwyllodd y Cadeirydd yr argaeledd o gyllid Cynllun Datblygu Gwledig fel modd o helpu cymunedau i ddatblygu prosiectau da, cyn i gronfa budd cymunedol y fferm wynt fod ar gael. Nid oedd rhai aelodau wedi cael profiad da wrth gyflwyno ceisiadau am gyllid ac roedden nhw n teimlo bod ffocws y cyllid CDG yn fasnachol, yn hytrach nag yn canolbwyntio ar y gymuned. 7.2 Holodd PN (Mawr) a fyddai technegau ffrwydro yn cael eu defnyddio wrth greu sylfeini ar gyfer y tyrbinau. Cadarnhaodd Farrans nad oedd unrhyw angen iddyn nhw ffrwydro, a bydden nhw n defnyddio peiriannau cloddio yn unig. Fel y trafodwyd yn gynharach, bydd y pridd yn cael ei ailddefnyddio ar gyfer dibenion aildyfu a r amcan yw ymdoddi sylfeini r tyrbinau yn y dirwedd leol cymaint ag sy n bosibl. 7.3 Gofynnwyd i aelodau nodi bod Ffordd Llangyfelach ar fin cau ar ddydd Iau a dydd Gwener fel y gallai r Priffyrdd atgyweirio r tyllau. Nid yw r gwaith hwn yn gysylltiedig â r fferm wynt. 7.4 Gofynnwyd i BR ddod o hyd i rai ffeiliau digidol a gyflwynwyd fel rhan o r broses gynllunio. Bydd DO yn ymateb i r cais. 8. Cyfarfod nesaf: 8.1 Cynhelir y cyfarfod nesaf am 6pm ddydd Iau, 19 eg Ebrill yn Neuadd Bentref Tirgoed (yn amodol ei bod ar gael). 8.2 Daeth y cyfarfod i ben am 7.00pm. 4