y ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig.

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

NatWest Ein Polisi Iaith

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Addysg Oxfam

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Holiadur Cyn y Diwrnod

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

W46 14/11/15-20/11/15

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Talu costau tai yng Nghymru

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

E-fwletin, Mawrth 2016

Cronfa Buddsoddi Cymunedol

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

W39 22/09/18-28/09/18

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Datganiad Polisi Rhaglenni S4C 2005

Adolygiad Blynyddol 2007/08

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg

Summer Holiday Programme

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

The Life of Freshwater Mussels

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Esbonio Cymodi Cynnar

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Newyddion diweddaraf a chyfleoedd gwiroddoli y tu mewn

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Be part of THE careers and skills events for Wales

Products and Services

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

INC Noddir gan/sponsored by Ceir Cymru. Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ

W42 13/10/18-19/10/18

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Adroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored Dysgu sy n Newid Bywydau

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Transcription:

Yn sicr, nid yw bywyd yn undonog yn BT ac mae r rhifyn diweddaraf yma n dangos hynny n glir wrth drafod amrediad eang o weithgareddau. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael brecwast ar fws BT Infinity yng Nghaerffili a chynnal gweithdy yn y Senedd ar waith BT ym maes anabledd ar gyfer staff a chwsmeriaid. Gwyrdd oedd thema canolfan data Caerdydd wrth dderbyn achrediad gostwng ynni Sefydliad Ymchwil Ewrop y ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig. Mae r wythnosau diwethaf wedi profi n llwyddiannus iawn i fenywod o fewn BT, gyda chydnabyddiaeth o waith ardderchog Sarah Woodrow a Rachel Ellis, ynghyd â phobl ffantastig BT sy n gwirfoddoli i gefnogi achosion da fel apêl Lesotho. Ar ôl edrych ar ddulliau cymunedol o ddarparu band llydan mewn ardaloedd gwledig gyda chynllun Cilcennin a bothau cyswllt mewn swyddfeydd post, roeddwn yn falch iawn o glywed am fwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio gwasanaethau cenedlaeth nesaf i daclo r ardaloedd hynny ble na fydd yn bosibl darparu atebion masnachol. Fel un o gwmnïau blaenllaw, mae BT yn awyddus i gefnogi r ymdrechion hynny. Ann Beynon Cyfarwyddwraig BT Rhagair BT yn croesawu oes newydd teledu tâl BT yn lledu band llydan i gymunedau gwledig Esbonio rhaglenni band llydan BT Gweithdy Anabledd BT yn cynnwys pawb BT yn croesawu oes newydd teledu tâl Mae penderfyniad diweddar gan Ofcom wedi profi n newyddion da i gwsmeriaid, oherwydd bydd rheolau cystadlu llymach yn hwyluso cael y chwaraeon gorau am y prisiau isaf. Yn dilyn y penderfyniad, bydd rhaid i Sky werthu Sky Sports 1 a Sky Sports 2 ar y farchnad gyfanwerthu i gystadleuwyr fel BT, gan agor cyfnod cystadleuol newydd ym maes teledu tâl - mewn da bryd ar gyfer dechrau tymor newydd Uwchgynghrair Pêl-droed Lloegr ar 14 Awst. Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan BT, byddai cymaint â 4 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn hoffi gwylio sianeli chwaraeon Sky Sports, ond yn methu eu fforddio. Gyda BT Vision mae cwsmeriaid yn gallu cael Sky Sports 1 neu Sky Sports 2 am 6.99 y mis, neu r ddau am 11.99 y mis. Mae r prisiau hyn yn golygu gellid cynnig y gwasanaethau i lawer o gwsmeriaid newydd, oedd yn y gorffennol yn eu hystyried yn rhy ddrud. Ar ben hynny, bydd pecynnau newydd BT yn golygu na fydd cwsmeriaid bellach yn gorfod gwastraffu arian yn talu am sianeli eraill os am wylio chwaraeon yn unig, felly bydd dilynwyr chwaraeon wrth eu bodd. Yn ogystal â gemau r Uwchgynghrair a Chynghrair Pencampwyr Ewrop, bydd y sianeli newydd yn cynnig profion rhyngwladol criced a rygbi r undeb. Mae modd archebu r pecynnau amrywiol ar gontractau misol hyblyg, a r gobaith yw bydd yn denu llawer mwy o ddilynwyr chwaraeon i roi cynnig arni! Manylion pellach yn www.bt.com/vision BT yn cyfrannu 1 miliwn at gymunedau Canolfan Data Caerdydd yn ennill gwobr werdd BT yn cefnogi apêl Lesotho Gweithwyr BT Openreach yn dangos y ffordd Gwobrau Seen & Heard BT

BT yn lledu band llydan i gymunedau gwledig Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bydd pobl yn ardaloedd Caerdydd a Chaerffili ymhlith y cyntaf yn y wlad i brofi gwasanaeth band llydan uwchgyflym yn seiliedig ar rwydwaith ffeibr cenedlaethol. Bydd yn cynnig cyflymderau llwytho hyd at 40Mb/s, a r potensial i godi i 60Mb/s yn y dyfodol. Yn ôl Wayne David, AS Caerffili mae n ddatblygiad pwysig iawn ac yn gyfle i bobl a busnesau lleol elwa o r dechnoleg gyffrous. Trefnwyd cyfle i drigolion Caerdydd a Chaerffili brofi r dechnoleg newydd pan ymwelodd bws BT Infinity â r ardaloedd yn ddiweddar. Aeth y bws i Heol Eglwys Fair, canol Caerdydd, ar 18 Mehefin a deuddydd yn ddiweddarach ymwelodd â chanolfan siopa Llys y Castell, Caerffili er mwyn rhoi cyfle i bobl brofi grym band llydan uwchgyflym. Cafodd busnesau a Bws BT Infinity theuluoedd gyfle i weld sut allai band llydan ffeibr optig gynnig teledu HD, gêmau, rhydweithiau cymdeithasol a rhannu ffeiliau mawr ar yr un pryd. Ac enillodd un teulu danysgrifiad 18 mis i BT Infinity! Gallai BT Total Broadband Fibre gael effaith bositif iawn ar gynhyrchiant busnes, gyda BT yn addo darparu llwybr cyflym ar gyfer busnesau lleol fydd yn hwyluso defnyddio rhaglenni cymhleth ar yr un pryd. Dywedodd Ann Beynon, cyfarwyddwraig BT: Gyda gwasanaethau ar-lein yn esblygu a datblygu, bydd band llydan ffeibr BT yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cartrefi ble mae aelodau r teulu n cystadlu am gysylltiad rhyngrwyd. Erbyn hyn mae r gwaith i uwchraddio cyfnewidfeydd Caerdydd a Chaerffili bron ar ben, gyda r ddwy ardal yn cynrychioli dechrau yn unig ar gynlluniau BT i ymestyn band llydan ffeibr ar draws y wlad. Mae BT yn gobeithio buddsoddi hyd at 2.5 biliwn yn y dechnoleg ar draws y Deyrnas Unedig erbyn 2015 os bydd yr hinsawdd economaidd yn caniatáu. Cyfnewidfa Penarth fydd un o r nesaf i ymuno â r chwyldro band llydan. Yn ddiweddar, croesawyd y newyddion bod 20,000 cartref a busnes pellach ar draws y wlad am gael cyfle i dderbyn band llydan cyflym ar y rhwydwaith copr. parhau ar y dudalen nesaf Esbonio rhaglenni band llydan BT Band llydan ffeibr uwchgyflym (SFBB - superfast broadband) Dyma raglen fwyaf cyffrous BT ar hyn o bryd, sy n darparu cyflymderau llwytho hyd at 40Mb/s - llawer uwch na rhwydweithiau llinellau copr, ynghyd ag anfon data n gyflymach. Wrth ddefnyddio ffeibr a chopr, bydd modd diweddaru r dechnoleg yn y dyfodol i ddarparu cyflymderau hyd at 60Mb/s, ac mae r profion diweddaraf wedi cyrraedd cyflymderau hyd at 100Mb/s. Mae ffeibr yn cynnig cyflymder gwarantedig, felly ni fydd cwsmeriaid yn wynebu problemau gydag ansawdd llinellau neu gyflymderau is os yn bellach o r gyfnewidfa. Band llydan bond copr cenhedlaeth nesaf (WBC - Wholesale Broadband Connect) Bydd uwchraddio r rhwydwaith copr yn gallu darparu cyflymderau band llydan cenhedlaeth nesaf hyd at 24 Mb/s - mwy na dwywaith y cyflymderau uchaf posibl yn achos y rhan helaeth o gartrefi a busnesau r DU. Cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol (RIBS - Regional Innovative Broadband Support) Rhaglen Llywodraeth Cynulliad a gefnogir gan BT. Mae n taclo ardaloedd gwledig nad ydynt yn gallu derbyn band llydan, gan ddefnyddio atebion copr i ddarparu band llydan sylfaenol. Acronymau cyffredin ADSL = Assymetric Digital Subscriber Line = band llydan cyffredin WBC = Wholesale Broadband Connect = band llydan cyflymach dros rwydwaith copr SFBB = Super-Fast Broadband = band llydan uwchgyflym dros rwydwaith ffeibr & copr

yn swyddfa r post y Bontnewydd ar Wy er mwyn cynnig mynediad i wasanaethau ar-lein i drigolion lleol, yn cynnwys Wi-Fi di-dâl yn y siop. Enillodd un o r trigolion ifanc Kate Evans ipod newydd sbon ar ôl llenwi ffurflen werthuso ar y gwasanaeth cyfrifiadur a band llydan. Dywedodd Kate: Roedd yn dipyn o sioc i ennill yr ipod. Byddaf yn defnyddio r cyfrifiadur yn y siop yn eitha aml i helpu gyda gwaith cartref oherwydd mae r rhyngrwyd yn ddefnyddiol iawn wrth ymchwilio pethau. Ceri Fitzpatrick (BT ) yn cyflwyno 1,500 i aelodau cymuned Cilcennin Bydd ardaloedd Bwcle, Penarlâg & Treffynnon yn elwa o fand llydan cenhedlaeth nesaf erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, yn dilyn uwchraddiad o r rhwydwaith. Bydd yn darparu cyflymderau llwytho hyd at 24 Mb/s - dros ddwywaith yr uchafswm cyflymder blaenorol sy n agored i r rhan helaeth o gartrefi a busnesau r Deyrnas Unedig. Mae n dilyn y newyddion yn rhifyn diwethaf bod 60,000 cartref yn ardaloedd Cei Connah, yr Wyddgrug, y Rhyl a Wrecsam wedi u diweddaru i gysylltu â rhwydwaith band llydan 21ain ganrif BT. Wrth ddarparu cyflymderau uwch o r cyfnewidfeydd hyn, mae Ann Beynon yn gobeithio bydd yn chwarae rôl bwysig mewn helpu ein cenedl i ddenu a chadw mewnfuddsoddiad. Pentref Cilcennin yw r diweddaraf i elwa o raglen Cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol, Llywodraeth y Cynulliad gyda chymorth BT. Mae rhodd o 1,500 gan BT wedi galluogi neuadd y pentref i osod llinell band llydan a phrynu cyfrifiadur newydd, gan fachu ar holl gyfleoedd yr uwchdraffordd wybodaeth! Yn awr bydd grwpiau cymunedol, megis y gymdeithas hanes, yn gallu defnyddio r cyfleusterau i gefnogi eu gweithgareddau, a rhagwelir bydd y gwasanaethau newydd yn atyniad i seminarau busnes. Fel un o r chwe chymuned i w diweddaru n ddiweddar gan BT a Llywodraeth y Cynulliad fel rhan o r Rhaglen, erbyn hyn bydd pentref Cilcennin yn gallu ymuno â r chwyldro band llydan a defnyddio gwasanaethau megis fideo-gynadledda, teledu digidol ac e-fusnes. Yn gynharach yn y mis, cadarnhawyd y pedair ardal wledig nesaf i elwa o ymestyn y rhwydwaith band llydan, sef Beulah, Powys, Cil-y-Cwm a Llanfynydd yn sir Gâr, ac Ystrad Meurig, Ceredigion. Nod BT yw cysylltu r pedair cymuned erbyn diwedd yr haf fel rhan o raglen barhaus, wedi i chyllido gan Lywodraeth y Cynulliad a BT, i ostwng nifer yr ardaloedd heb wasanaeth. Dywedodd y dirprwy brif weinidog a gweinidog economi & trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones AC: Bydd cysylltu â r byd digidol yn hanfodol o fewn yr economi byd-eang ac ni allwn fforddio gadael unrhyw un ar ôl Rwyf am weld cymunedau gwledig yn rhannu r buddion llawn. Fel rhan o i raglen hyrwyddo band llydan, mae BT wedi parhau â r fenter ar y cyd â Swyddfa r Post i wella mynediad i fand llydan mewn ardaloedd gwledig. Cynhaliwyd un peilot yn y Bontnewydd ar Wy, a brofodd yn llwyddiannus iawn, yn arbennig i un unigolyn! Mae r prawf both band llydan wedi rhedeg ers Gorffennaf 2009, gan ddarparu offer technoleg gwybodaeth Nod y fenter yw cefnogi ymrwymiad BT i wella mynediad i fand llydan mewn ardaloedd gwledig, a chynnal gwerth swyddfeydd post lleol wrth wneud hynny. Roedd y gymuned wedi bod yn gefnogol iawn a dywedodd yr isbostfeistres Sarah Mason: Rhaid dweud bod y gymuned gyfan wedi cefnogi r fenter - o r hen i r ifanc! Mae hefyd yn galonogol gweld nifer o ffermwyr yn defnyddio r cyfrifiadur a gobeithio bydd hynny n parhau. Mae swyddfa r post yn elfen ganolog o r pentref ac mae r gwasanaeth gwerthfawr yma n atgyfnerthu hynny. Ar hyn o bryd, BT yw r unig gwmni n buddsoddi mewn amrediad o dechnolegau band llydan yng Nghymru. Rhagwelir datblygiadau pellach dros y misoedd nesaf, felly cadwch olwg allan am rifyn nesaf. Ceri Fitzpatrick (BT ) yn cyflwyno ipod i Kate Evans, gyda Mike O Shea (Llywodraeth y Cynulliad), isbostfeistres Sarah Mason a Heulyn Gwyn Davies (Post Office Ltd) yn swyddfa r post y Bontnewydd ar Wy.

Gweithdy Anabledd BT yn cynnwys pawb Ym mis Mawrth trefnodd BT weithdy anabledd & cynhwysiad yn y Senedd, gan wahodd Aelodau Cynulliad, cynrychiolwyr o r sector gwirfoddol a r cyhoedd i drafod y posibiliadau o ran creu cymdeithas ble bydd pawb yn gallu cyfranogi. Roedd y gweithdy n rhan o ymgyrch Cynnwys Chi BT, yn ymgorffori r holl elfennau polisi cynhwysiad, o gynllunio cynnyrch i arferion gwaith a pholisïau pobl. Roedd arbenigwyr wrth law o BT, ynghyd â phartner gyrff fel Scope, Barnardo s, Remploy ac Age, i ateb cwestiynau a thrafod beth oedd BT a i bartneriaid yn gwneud i greu a gwella gwasanaethau ar gyfer Ann Beynon (BT ) a Mark Isherwood AC yn profi ffonau cynhwysol BT pobl gydag anableddau. Gwahoddwyd y gwesteion i brofi offer arloesol BT, a ddyfeisiwyd i helpu pobl hŷn ac anabl i gyfathrebu a chael hyd i wybodaeth, a dangos sut allai pethau edrych yn y dyfodol. Noddwyd y gweithdy gan yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood, sydd ei hun yn defnyddio cymorth clyw. Roedd wedi gwirioni cymaint ag offer cynhwysol BT fel yr aeth ag un o r ffonau adref! Yn y gweithdy, dywedodd cyfarwyddwraig BT, Ann Beynon: Rydym yn credu n gryf yn y maes hwn ac mae rhesymau busnes da am hynny. Yn syml, rhaid cael gweithlu amrywiol ac offer a gwasanaethau cynhwysol os am fod yn gyflenwr dethol i amrediad eang o gwsmeriaid. Yn gynharach eleni, daeth BT yn gydradd gyntaf wrth asesu meincnod safon anabledd y Fforwm Cyflogwyr ar Anabledd, gyda sgôr o 97% o gymharu â sgôr cyfartalog y sector o 57%. A bydd yn edrych i wneud hyd yn oed mwy yn y dyfodol er mwyn cyrraedd y sgôr perffaith. BT yn cyfrannu 1 miliwn at gymunedau Rydym wedi trafod cynlluniau cymunedol dyfeisgar BT yn yn y gorffennol. Cynlluniau megis BT Internet Rangers, sy n cydweithio ag ysgolion i alluogi pobl ifanc i weithio fel tiwtoriaid technoleg gwybodaeth o fewn eu cymunedau, a gwobrau Cysylltiadau Cymunedol BT, sy n rhoi cyfle i grwpiau cymunedol gynnig am offer technoleg gwybodaeth a chysylltiad band llydan. Erbyn hyn, rydym yn falch o gyhoeddi bod BT wedi cyfrannu dros 1 miliwn drwy gyfrwng rhaglenni tebyg, fel rhan o i ymrwymiad i gefnogi cymunedau Cymreig a r iaith Gymraeg. Yn ogystal â chynlluniau cymunedol, bydd y cwmni n darparu cymorth ymarferol ar gyfer mentrau Cymraeg, gan hyrwyddo, cyllido a chefnogi amrediad eang o brojectau arloesol. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae BT yn cefnogi r Urdd gyda rhaglen Gymraeg arloesol i ddiogelu pobl ifanc ar y rhyngrwyd, fydd yn cysylltu â chanolfannau r Urdd a chlybiau ar draws y wlad. Ar ben hynny, mae BT wedi datblygu cysylltiadau â chyrff fel Tudno FM, yr Eisteddfod Genedlaethol, Fforwm Dwyieithog y Gogledd, y rhwydwaith Papurau Bro, a llawer mwy. Mae BT hefyd yn dangos y ffordd gyda i gynllun iaith Gymraeg, wrth weithio n galed i ddarparu gwasanaeth dwyieithog cyson a dibynadwy ar gyfer ei gwsmeriaid. Yn benodol, mae BT yn falch o fod yr unig gwmni cyfathrebu i gynnig timau gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg (0800 800 288), gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn (118404) a gwasanaeth biliau Cymraeg. Mae ymrwymiad BT i r Gymraeg yn dechrau yn y gweithle, wrth gymell staff i ddefnyddio r iaith a mynnu statws cyfartal i r Gymraeg ar bob amser. Mae BT yn gyflogwr blaenllaw yn ardal Gymraeg y gogledd orllewin; gan gyflogi dros 130 yng nghanolfan gwasanaeth cwsmeriaid Bangor ac yn agos at 100 o beirianwyr maes. Yn ogystal crëwyd 10 swydd safon uchel ar gyfer pobl leol yn swyddfa Busnes Lleol newydd BT, Parc Menai (01248 670 475), sy n darparu gwasanaeth Cymraeg ar gyfer cwsmeriaid busnes yn ardal Bangor. Fel un o brif gyflogwyr y wlad, mae BT wedi ymrwymo i gefnogi iaith, diwylliant a chymunedau. Byddwn yn gweithio n broactif gyda chymunedau ac i ddatblygu partneriaethau newydd, a r nod yw parhau i wneud hynny.

Hysbys: Canolfan Data Caerdydd yn ennill gwobr werdd Yn y rhifyn diwethaf, clywsom gan aelod o fwrdd BT, Dave Edwards, pennaeth canolfannau data byd-eang am waith y canolfannau wrth gyflwyno mesurau gwyrdd. Yn awr, rydym yn falch o gyhoeddi bod canolfan data BT, Bae Caerdydd, wedi i chlodfori fel un o r mwyaf gwyrdd yn Ewrop gan y Comisiwn Ewropeaidd - y ganolfan ddata gyntaf i ennill y wobr nodedig. Agorwyd y ganolfan ddata ddatblygedig gan y prif weinidog ar y pryd Rhodri Morgan AC saith mlynedd yn ôl ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan dderbyn buddsoddiad pellach o 6 miliwn gan BT yn 2008-9. Profodd yn fuddsoddiad buddiol iawn. Wrth gystadlu n erbyn 20 canolfan ddata yn y Deyrnas Unedig, a dros 1,000 safle ar draws Ewrop, aseswyd y Ganolfan fel yr un mwyaf ynni effeithiol yn ôl Cod Ymarfer Effeithiolrwydd Canolfannau Data Ewrop - datblygiad y cefnogodd y tîm nôl yn 2008. Mae r wobr gan Sefydliad Ynni Canolfan Ymchwil Ewrop yn ffrwyth ymrwymiad parhaus gan dîm Dave Edwards dros 18 mis i ostwng defnydd ynni ac allyriadau carbon. Fodd bynnag, nid yw r gwaith hwnnw wedi dod i ben. Dywedodd Dave: Wrth fabwysiadu r arferion gorau ac ailgynllunio prosesau, llwyddwyd i wella ynni effeithiolrwydd oddeutu 20% dros y 18 mis diwethaf a byddwn yn edrych am ostyngiad pellach o 5% dros y flwyddyn nesaf. Wrth ddilyn model Caerdydd, mae BT eisoes wedi cyflwyno r arferion hyn yn ei ganolfannau data eraill yn y DU, gan arbed tua 500,000 y flwyddyn. Mae Peter Davies, comisiynydd, Comisiwn Datblygu Cynaladwy r DU, wedi cymell cwmnïau technoleg gwybodaeth eraill yng Nghymru i efelychu BT a thaclo r newid hinsawdd. Wyddoch chi gallwch gysylltu â BT yn Gymraeg? Os am drafod bil, prynu cynnyrch, neu hysbysu nam ar eich llinell, galwch 0800 800 288, Llun i Sadwrn 8am - 6pm. Ymholiadau llyfr ffôn galwch ni ar 118 404*, 24 awr y dydd. *Galw 118404 yn costio 1.16 y funud neu ran o funud, a phris cysylltu o 49c yr alwad o linell sefydlog BT (ac eithrio ffonau talu BT). Prisiau o rwydweithiau symudol ac eraill yn amrywio. Prisiau'n gywir Mai 2010. BT yn cefnogi apêl Lesotho Dros y misoedd diwethaf darparodd BT adnoddau i gefnogi nifer o ddigwyddiadau codi arian o bwys, gan helpu i godi miliynau o bunnoedd ar gyfer amryw achosion da. Yn eu plith oedd apêl ITV ar gyfer Lesotho ym mis Gorffennaf. Tîm Caerdydd yn cefnogi apêl Plant mewn Angen Yn dilyn cais gan yr Aelod Cynulliad ar y pryd Mike German, darparodd BT ei blatfform edonate yn gwbl ddi-dâl er mwyn derbyn cyfraniadau ar-lein. Yn ogystal, trefnodd y rhif ffôn ar gyfer cyfraniadau ac adnoddau rheoli rhwydwaith ar ran Dolen, elusen annibynnol sydd wedi gweithio i ddatblygu cysylltiadau ymarferol rhwng a Lesotho ers 1985. Ei Fawrhydi Tywysog Harry yw noddwr yr elusen. Dros y misoedd diwethaf mae BT wedi hwyluso codi miliynau o bunnoedd wrth ddarparu cyfleusterau i gefnogi telethons, yn cynnwys Wild Night In y BBC, pan dderbyniwyd dros 28,000 galwad gan 60 gwirfoddolwr BT, gan helpu i godi 500,000 ar gyfer Cronfa Bywyd Gwyllt y BBC - a hynny ar yr un diwrnod ag apêl lwyddiannus Lesotho! Tîm yng Nghaerdydd sy n cefnogi platfform edonate ar gyfer telethons. Hyd yma mae wedi casglu 139.7 miliwn mewn cyfraniadau!

Gweithwyr BT Openreach yn dangos y ffordd Cydnabuwyd cyfraniad neilltuol dwy o weithwyr BT Openreach wrth ennill gwobrau nodedig. Enillodd Rachel Ellis, hyfforddwraig datblygu prentisiaid yng Nghaerdydd, wobr o 100 fel rhan o fenter Diwrnod Menywod Rhyngwladol wedi i threfnu gan BT. Enwebwyd Rachel am y wobr gan reolwraig ranbarthol BT Ceri Fitzpatrick ar ôl cynnal project lleoli gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal (neu wedi bod). Fel rhan o r project gweithiodd chwe pherson ifanc gyda phrentisiaid Openreach dros gyfnod o bythefnos, gan brofi n llwyddiant mawr diolch i ymroddiad pawb a gymrodd ran yn y fenter. Roedd Rachel yn falch iawn bod yr ymwelwyr ifanc a r prentisiaid wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn y project. Ychwanegodd, Roeddwn yn hynod falch o dderbyn gwobr am gyfannu at broject mor werth chweil. Yn ogystal, roedd cynllun prentisiaeth BT Openreach yn y newyddion am resymau eraill dros y misoedd diwethaf, pan gyflwynwyd gwobr perfformiad uchel i Sarah Woodrow. Dyma r diweddaraf o gyfres o gampau gan Sarah yn ystod ei chyfnod ar y cynllun, wrth gyfrannu at raglen fentora BT, gweithio ar brojectau mynediad cenhedlaeth nesaf a derbyn gwobrau am helpu i adfer safonau gwasanaeth cwsmeriaid. Gwobrau Seen & Heard BT Mae dau berson ysbrydoledig yn y de yn dathlu ennill gwobrau Seen & Heard BT. Sefydlwyd y gwobrau er mwyn cydnabod cyfraniadau nodedig oedolion a r ifanc, ac eleni cyflwynwyd i Lauren Bjegovic (17) a i ffrindiau yn y Barri. Cydnabuwyd y grŵp am eu gwaith diflino wrth geisio codi morâl milwyr yn Affganistan. Gyda i brawd a ffrindiau yn gwasanaethu yno, ac ar ôl i gymydog ddychwelyd oddi yno gydag anaf, roedd Lauren yn benderfynol o geisio codi calon ein milwyr yn Helmand a gwella ymwybyddiaeth o u gwaith yn ei hardal. Aeth ati i werthu bandiau braich i w cyd-ddisgyblion ac athrawon, ac fe drefnwyd diwrnod dillad cyffredin yn yr ysgol. Yna, trefnodd Lauren a i ffrindiau 75 pecyn yn cynnwys eitemau moethus i w dosbarthu n ddienw i r milwyr yn Lauren Bjegovic yn derbyn gwobr Seen & Heard Affganistan; ymdrech a werthfawrogwyd yn fawr gan y milwyr. Yn ogystal, derbyniodd Linda James wobr debyg am sefydlu ac ymroi i gynnal elusen BulliesOut. Ar ôl darganfod bod ei mab yn cael ei fwlio yn yr ysgol, sylweddolodd y niwed mae n gallu achosi a defnyddiodd ei chynilion i sefydlu grŵp yn 2006, sydd bellach yn elusen gofrestredig. Dros y pedair blynedd dilynol gweithiodd Linda n hynod galed yn cynnal gweithdai a gwneud cyflwyniadau, hyfforddi mentoriaid a chodi arian, ynghyd â recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Erbyn hyn, mae r elusen wedi helpu miloedd o bobl ifanc.