Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Talu costau tai yng Nghymru

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

W46 14/11/15-20/11/15

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

W39 22/09/18-28/09/18

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Iechyd a r defnydd o wasanaethau iechyd

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Holiadur Cyn y Diwrnod

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Addysg Oxfam

Dadansoddiad ex-ante o effeithiau diwygiadau Iles Llywodraeth y DU ar y cyflenwad Ilafur yng Nghymru

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

W44 27/10/18-02/11/18

Hawliau Plant yng Nghymru

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

E-fwletin, Mawrth 2016

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

NatWest Ein Polisi Iaith

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

offered a place at Cardiff Met

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

W28 07/07/18-13/07/18

Summer Holiday Programme

W42 13/10/18-19/10/18

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau. De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Gorffennaf 2017

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Datganiad Technegol Rhanbarthol

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Dod drwy r gwaethaf? Golwg ar wasanaeth cyhoeddus gwledydd bychain mewn cyfnod o lymder. Crynodeb. Jennifer Wallace, Megan Mathias a Jenny Brotchie

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

W16 13/04/19-19/04/19

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

ASESIAD LLES TORFAEN 1 ASESIAD LLES TORFAEN

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Appointment of BMC Access

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Swim Wales Long Course Championships 2018

Asesiad Lles Wrecsam

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Papur Cefndir 16. Twristiaeth

GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Cyrsiau Courses.

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Pysgota / Angling. Ceredigion

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Transcription:

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Rhif Papur: 16-049 Cysylltwch â ni Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Tŷ Hywel Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA q: 0300 200 7393 E: Christian.Tipples@Cynulliad.Cymru y: Cynulliad.Cymru/Pigion a: @SeneddYmchwil a: Cynulliad.Cymru/Ymchwil Hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Ceir atgynhyrchu testun y ddogfen hon am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol na difrïol. Rhaid cydnabod mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen.

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Mae r papur briffio misol hwn yn rhoi trosolwg ystadegol o r farchnad lafur. Caiff gwybodaeth am etholaethau r Cynulliad, Cymru a chenhedloedd y DU ei chynnwys. Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil

Papur briffio ar y farchnad lafur Caiff ystadegau ar y farchnad lafur eu cyhoeddi n fisol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff y papur hwn ei ryddhau n fuan wedi i ddata r Swyddfa Ystadegau Gwladol gael eu cyhoeddi. Nod y papur yw darparu crynodeb o r sefyllfa ddiweddaraf o ran y farchnad lafur yng Nghymru a r Deyrnas Unedig. Mae r papur hwn yn cynnwys gwybodaeth gymharol am ddiweithdra, cyflogaeth ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru a r gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, darperir y prif ffigurau ar gyfer etholaethau Cymru. Gall y Gwasanaeth Ymchwil ddarparu dadansoddiadau manylach o ddiweithdra a thueddiadau hirdymor y farchnad lafur ar gais i Aelodau'r Cynulliad a'u staff. Os hoffech inni wneud hyn, cysylltwch â Christian Tipples drwy ffonio 0300 200 7393 neu drwy anfon e-bost at Christian.Tipples@cynulliad.cymru.

Diffiniadau o'r termau allweddol sy'n gysylltiedig â bod â gwaith a heb waith Pan fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi ystadegau ar y farchnad lafur, caiff pobl eu dosbarthu'n un o dri grŵp. Y grwpiau hynny yw pobl â gwaith, pobl ddi-waith neu bobl economaidd anweithgar. Pobl â gwaith yw'r rhai 16 oed a throsodd a oedd yn gwneud gwaith am dâl (boed yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig), y rhai a oedd â swydd ond a oedd wedi cefnu arni dros dro, y rhai ar raglenni hyfforddiant a chyflogaeth a gynorthwyir gan y llywodraeth, a'r rhai sy'n gwneud gwaith didâl gyda'r teulu; Pobl sy'n cael eu dosbarthu n ILO ddi-waith yw pobl 16 oed a throsodd sydd heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn ystod y pedair wythnos diwethaf, ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn ystod y pythefnos nesaf, neu sy'n ddi-waith ac yn aros i ddechrau swydd newydd yn ystod y pythefnos nesaf; a Pobl sy'n cael eu dosbarthu n economaidd anweithgar yw pobl 16 oed a throsodd sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn ystod y pedair wythnos diwethaf ac/neu sydd heb fod ar gael i ddechrau gweithio yn ystod y pythefnos nesaf. Y prif grwpiau economaidd anweithgar yw myfyrwyr, pobl sy'n gofalu am y teulu a'r cartref, pobl anabl neu bobl sy n sâl dros dro neu am dymor hir, a phobl sydd wedi ymddeol. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio dau brif ddull i fesur diweithdra. Yn ogystal â'r mesur ILO uchod, mae modd mesur nifer y bobl sy n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a Chredyd Cynhwysol. Mae n is na diffiniad yr ILO, oherwydd nid oes gan rai pobl sy n ddi-waith yr hawl i gael budd-dal, neu maent yn dewis peidio â gwneud cais amdano. Dyma'r ffordd fwyaf cyfredol o fesur diweithdra. Er mwyn ystyried y gwahaniaethau rhwng nifer y bobl mewn grwpiau oedran ac ardaloedd daearyddol gwahanol, caiff y ffigurau yn y papur hwn eu mynegi n bennaf fel cyfraddau yn hytrach na nifer y bobl. Data sy'n cael eu haddasu'n dymhorol a data nad ydynt yn cael eu haddasu'n dymhorol Caiff prif ddata ILO ar ddiweithdra a'r rhai sy'n hawlio budd-dal diweithdra ar gyfer Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig eu haddasu'n dymhorol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Golyga hyn fod yr ystadegau'n cael eu haddasu er mwyn hepgor ffactorau tymhorol fel gwyliau a phatrymau recriwtio'r farchnad lafur. Er enghraifft, yn ystod yr haf, mae nifer fawr o bobl yn gadael addysg amser llawn ac yn ymuno â'r farchnad lafur. Er mwyn ei gwneud yn haws i adnabod tueddiadau'r farchnad lafur, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn addasu'r data hyn yn dymhorol. Ni chaiff data eraill am ddiweithdra, er enghraifft data yn ôl grŵp oedran ac Etholaethau Seneddol, eu haddasu'n dymhorol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Diweithdra yng Nghymru Mae'r adran hon yn rhoi penawdau'r wybodaeth am gyfraddau diweithdra ILO a nifer yr hawlwyr yn y DU. Mae hefyd yn edrych ar ddiweithdra yn ôl oedran. Ymhlith y pwyntiau allweddol o'r rhan hon o'r papur mae'r canlynol: Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai'r gyfradd ddiweithdra ILO yng Nghymru oedd 4.3% rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016, y gyfradd isaf o blith gwledydd y DU a'r isaf ers 2005. (ffigur 1.1) Bu gostyngiad yng nghanran yr hawlwyr ledled Cymru a gwledydd eraill y DU yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Yng Ngogledd Iwerddon yn unig y cafwyd cyfradd hawlwyr uwch na Chymru am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, a r ffigur oedd 2.9% ym mis Gorffennaf 2016. (ffigur 1.2); Mae cyfraddau diweithdra ieuenctid ledled Cymru yn uwch nag ar gyfer grwpiau oedran eraill, ac maent wedi gostwng dros y pum mlynedd diwethaf i 15.6% rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016. (ffigur 1.3); Gan edrych ar draws yr etholaethau, Blaenau Gwent oedd â'r gyfradd ddiweithdra ILO uchaf, sef 9.7%, ac Aberconwy oedd â'r gyfradd isaf, sef 2.7%, rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016. O ran yr ystadegau 'answyddogol' am ganran yr hawlwyr, a gyfrifwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil, Blaenau Gwent oedd â'r gyfradd uchaf ym mis Gorffennaf 2016, sef 5.5%, a Brycheiniog a Sir Faesyfed oedd â'r gyfradd isaf, sef 1.1%. Ffigur 1.1: Y gyfradd ddiweithdra ILO yng Nghymru a gwledydd eraill y DU (wedi'i haddasu'n dymhorol) Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, - Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur Awst 2016 Prif ddangosyddion ar gyfer pob rhanbarth ac Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur gan NOMIS 1

% of economically active workforce Ffigur 1.2: Cyfradd yr hawlwyr yng Nghymru a gwledydd eraill y DU (wedi i haddasu n dymhorol) Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur gan NOMIS Ffigur 1.3: Y gyfradd ddiweithdra ILO yng Nghymru yn ôl oedran (heb ei haddasu'n dymhorol) 25 23.9 22.1 20 20.1 19.0 15 15.6 10 16-24 25-49 50-64 5 6.2 6.6 5.0 4.7 5.9 5.0 4.2 4.3 4.2 3.0 0 Apr 2011-Mar 2012 Apr 2012-Mar 2013 Apr 2013-Mar 2014 Apr 2014-Mar 2015 Apr 2015-Mar 2016 Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Swyddogol y Farchnad Lafur gan NOMIS 2

Cyflogaeth a swyddi Mae'r rhan hon o'r papur yn edrych ar y cyfraddau cyflogaeth ledled y DU ar gyfer pobl o oedran gweithio (16-64 oed). Mae hefyd yn edrych ar y newidiadau mewn cyflogaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Mae prif gasgliadau'r adran hon yn cynnwys: Mae'r gyfradd gyflogaeth oedran gweithio yng Nghymru wedi cynyddu dros y pum mlynedd ddiwethaf, a'r gyfradd gyfredol yw 72.2% rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016. (ffigur 2.1); Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru wedi bod yn uwch na Gogledd Iwerddon, ond yn is na'r gwledydd eraill y DU. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, hyd at chwarter cyntaf 2016, mae cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi cynyddu 10.5%, tra bod cyflogaeth yn y sector cyhoeddus wedi gostwng 9.1% (ffigur 2.2); ac O edrych ar y data fesul etholaeth, roedd 80.1% o bobl 16-64 oed yn Sir Drefaldwyn mewn gwaith rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016, sef y gyfradd uchaf o blith etholaethau Cymru. Yn etholaeth Aberafan, roedd 63.5% o bobl 16-64 oed mewn gwaith, sef y gyfradd isaf o blith etholaethau Cymru. Ffigur 2.1: Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru a gwledydd eraill y DU (wedi'i haddasu'n dymhorol) Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur - Awst 2016 Prif ddangosyddion ar gyfer pob rhanbarth ac Ystadegau'r Farchnad Lafur - Awst 2016 Crynodeb o Ystadegau'r Farchnad Lafur [Saesneg yn unig] 3

Percentage change in employment between quarter 4, 2010 and quarter 4, 2015 Ffigur 2.2: Canran y newid mewn cyflogaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat dros y pum mlynedd ddiwethaf (heb ei haddasu'n dymhorol) 15 10.5 10.8 10.5 11.0 10 5.8 5.8 6.5 7.4 8.0 5 3.1 0 Scotland Wales Northern Ireland UK England Public sector Private sector Total -5-6.2-4.7-5.7-5.5-10 -9.1-15 Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyflogaeth y Sector Cyhoeddus, Chwarter 1 2016 Anweithgarwch Economaidd Mae'r rhan hon o'r papur yn edrych ar bobl y tu allan i'r farchnad lafur, y rhai sy'n cael eu dosbarthu'n economaidd anweithgar. Mae hyn yn cynnwys pobl rhwng 16 a 64 oed sydd heb waith, sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, ac/neu sydd heb fod ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf. Mae'r graffiau isod yn dangos y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl o oedran gweithio ledled y DU, ac mae'n edrych ar y rhesymau pam mae pobl yng Nghymru yn economaidd anweithgar. Ymhlith y pwyntiau allweddol o'r rhan hon o'r papur mae'r canlynol: Mae Cymru wedi bod â chyfradd anweithgarwch economaidd uwch na chyfartaledd y DU ymhlith pobl o oedran gweithio trwy gydol y pum mlynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi amrywio dros y pum mlynedd diwethaf, a r ffigur oedd 24.4% rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016 (ffigur 3.1); Y prif resymau a roddwyd gan bobl economaidd anweithgar yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016 oedd salwch dros dro a salwch tymor hir (31.5%), bod yn fyfyriwr (24.0%) a gofalu am y teulu/cartref (20.2%) (ffigur 3.2) ; ac Ar lefel etholaeth, yn Sir Drefaldwyn y cafwyd y gyfradd anweithgarwch economaidd isaf ymhlith pobl o oedran gweithio rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016, sef 16.9%, ac yn etholaeth Canol Caerdydd y cafwyd y gyfradd uchaf, sef 31.9%. Y nifer uchel o fyfyrwyr prifysgol sy'n byw yn etholaeth Canol Caerdydd sy n rhannol gyfrifol am hyn. 4

Ffigur 3.1: Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru a gwledydd eraill y DU (wedi'i haddasu'n dymhorol) Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur - Awst 2016 Prif ddangosyddion ar gyfer pob rhanbarth ac Ystadegau'r Farchnad Lafur - Awst 2016 Crynodeb o Ystadegau'r Farchnad Lafur [Saesneg yn unig] Ffigur 3.2: Y rhesymau dros anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru, mis Ebrill 2015 - mis Mawrth 2016 (fel %) Temporary/long-term sick 31.5% Student 24.0% Looking after family/home 20.2% Retired 15.3% Other 8.6% 0.0% 5.0% 10.0% 15.0% 20.0% 25.0% 30.0% 35.0% Percentage of people stating reason for economic inactivity Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur - Gorffennaf 2016 Prif ddangosyddion Cymru 5

Beth sy'n digwydd yn eich etholaeth? Mae Tabl 4.1 yn dangos ystadegau diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer etholaethau Cymru. Mae'r etholaethau a gyflawnodd orau ar gyfer pob newidyn yn felyn, ac mae'r etholaethau a gyflawnodd waethaf yn llwyd. Mae gwybodaeth ychwanegol am y farchnad lafur yn eich etholaeth, gan gynnwys cymariaethau dros gyfnod o amser, ar gael ar dudalennau cymorth etholaethol y Gwasanaeth Ymchwil. Tabl 4.1: Penawdau ystadegau'r farchnad lafur fesul etholaeth, Ebrill 2015 Mawrth 2016 Ffigurau diweithdra'r ILO 16+ Cyfradd answyddogol y bobl sy'n hawlio budd-dal diweithdra (Gorffennaf 2016) Y gyfradd gyflogaeth 16-64 oed Y gyfradd anweithgarwch economaidd 16-64 oed Etholaeth Aberafan 8.0 3.6 63.5 30.8 Aberconwy 2.7 2.6 70.9 27.0 Alun a Glannau Dyfrdwy 3.4 1.9 76.5 20.7 Arfon 7.4 3.3 66.5 27.8 Blaenau Gwent 9.7 5.5 64.3 28.6 Bro Morgannwg 3.4 2.5 74.7 22.5 Brycheiniog a Sir Faesyfed 3.6 1.1 74.7 22.4 Caerffili 5.6 3.9 73.0 22.6 Canol Caerdydd 3.9 3.3 65.4 31.9 Castell-nedd 6.1 3.2 69.5 25.9 Ceredigion 4.6 1.4 65.6 31.0 Cwm Cynon 6.8 4.0 67.9 26.9 De Caerdydd a Phenarth 6.3 3.7 66.5 28.9 De Clwyd 3.7 2.2 74.1 23.0 Delyn 2.8 2.2 71.2 26.6 Dwyfor Meirionnydd 4.6 1.5 73.1 23.1 Dwyrain Abertawe 7.7 4.0 69.3 24.7 Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 5.8 2.3 69.6 25.9 Dwyrain Casnewydd 6.0 3.9 69.0 26.5 Dyffryn Clwyd 4.2 3.3 71.0 25.7 Gogledd Caerdydd 8.6 1.8 75.4 17.5 Gorllewin Abertawe 5.7 4.0 69.0 26.7 Gorllewin Caerdydd 5.5 3.5 72.4 23.2 Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 4.4 2.6 72.4 23.9 Gorllewin Casnewydd 4.6 4.1 70.5 26.0 Gorllewin Clwyd 5.9 2.6 73.8 21.3 Gŵyr 5.1 1.8 72.9 23.1 Islwyn 7.7 3.7 65.7 28.7 Llanelli 5.2 3.0 70.5 25.5 Merthyr Tudful a Rhymni 6.7 4.4 66.0 29.2 Mynwy 3.3 1.6 78.0 19.1 Ogwr 7.2 3.2 71.0 23.3 Pen-y-bont ar Ogwr 5.3 2.6 74.9 20.8 Pontypridd 5.2 2.2 72.3 23.6 Preseli Sir Benfro 4.1 2.7 72.8 23.9 Rhondda 8.7 4.7 67.6 25.8 Sir Drefaldwyn 3.4 1.5 80.1 16.9 Torfaen 5.8 3.4 71.8 23.7 Wrecsam 3.6 2.3 77.6 19.4 Ynys Môn 4.5 3.8 74.9 21.5 Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Ystadegau Rhanbarthol y Llafurlu Awst 2016: Tabl L102 Dangosyddion Lleol ar gyfer Etholaethau Seneddol ac Ystadegau Rhanbarthol y Farchnad Lafur Awst 2016: Tabl CC02 Nifer yr Hawlwyr fesul Etholaethau Seneddol 6