Taith i fro Ann Griffiths

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

NatWest Ein Polisi Iaith

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Addewid Duw i Abraham

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Newyddion Capel Y Waen

W46 14/11/15-20/11/15

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Holiadur Cyn y Diwrnod

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Summer Holiday Programme

Bwletin Gorffennaf 2016

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

ANRHEGU ANN RHEOLWR SAFLE NEWYDD DIFFIBRILIWR I R PENTREF

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W42 13/10/18-19/10/18

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Andrew Lenny Cymynrodd

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

Gair o r Garth Garth Grapevine

W39 22/09/18-28/09/18

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

E-fwletin, Mawrth 2016

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

12 Y Tyst Rhagfyr 25, Ionawr 1, 2015

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

The Life of Freshwater Mussels

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Chwefror / February 2015

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37

Safle Treftadaeth Byd i ardal y Chwareli Llechi?

W44 27/10/18-02/11/18

Cynnwys. 1. Cyflwyniad. 2. Manylion Cyswllt Radio Cymru. 3. Comisiynau Llwyddiannus Y Gynulleidfa

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

W28 07/07/18-13/07/18

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

PAPUR DRE BE SY YN Y PAPUR? Angharad Thomas (stori ar dudalen 5) DOLIG DRE. Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr Papur Dre.

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cyngor Cymuned Llandwrog Community Council

October Half Term. Holiday Club Activities.

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

EISTEDDFOD GADEIRIOL DYFFRYN OGWEN

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

POBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Cadwyn 52 Gaeaf Gwanwyn Cynnwys - Contents Tudalen/Page

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Transcription:

1 www.gwe-bethlehem.org (trydar): @GweBethlehem Gwaelod-y-garth Haf 2015 Trefn yr Oedfaon gydag Efail Isaf Gorffennaf 26 - Oedfa ym Methlehem (10.30) Awst 2 - Oedfa yn Efail Isaf (10.45) 9 - Bethlehem (10.30) 16 - Efail Isaf (10.45) 23 - Bethlehem - Dr. Ian Hughes (10.30) 30 - Efail Isaf (10.45) O'r diwedd! Llwyddwyd i orffen rhifyn arall o'r Bwletin un sy'n cwmpasu Dr Who a Dr Alun! Taith i fro Ann Griffiths Gan fod hwn yn cynnwys hanesion cyfnod o chwe mis, fe gewch flas ac atgofion o'r gaeaf, gwanwyn a'r haf fel Dr Who yntau, cewch yn neidio o dymor i dymor o dudalen i dudalen. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, boed erthygl neu lun. Mae yma gofnod o weithgareddau o fewn y Tŷ Cwrdd ac deithiau a digwyddiadau ar hyd a lled Cymru. Ymddiheuriadau ymlaen llaw os na chyfeiriwyd at rywbeth. Ysgrifennwch i ddweud neu anfonwch e-bost at tycnau@aol.com. Bu i n cyn-weinidog gadw ei addewid i dywys criw Drws Agored ar daith i fro Ann Griffiths ym mis Mai. Mae pob taith yn dechrau hefo paned a chacen yntydi, ac yng Ngregynog, yn heulwen braf y bore y cawsom ein croesawu i sir Drefaldwyn. Ac wedyn, ffwrdd a ni i berfeddwlad y tir a r fro a gyflwynodd i ni y danbaid fendigaid Ann. Dechrau yn Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert, a chael ein swyno gan ddiwyg a theimlad y lle, yn ogystal â r oedfa fer a gyflwynwyd gan Alun. Cawsom ein cyfle cyntaf yma i ganu geiriau Ann O am fywyd o sancteiddio ar don Grangetown o waith Ieuan Wyn. Ymlaen wedyn i Lanfihangel-yng-Ngwynfa i sefyll wrth gof golofn Ann, gan ddychmygu ei gweld yn ifanc yn dawnsio i fyny r llwybr at borth yr eglwys i fynychu r gwasanaethau yno. Ciniawa yno ar fin y ffordd yng nghysgod y gofeb i blant yr ardal a fu n ymladd yn Rhyfel Mawr 1914/18, gan synnu at y niferoedd o ardal mor wledig a listiodd bryd hynny. Cyrraedd Dolwar Fach yn y man gan eto deimlo gwres a phresenoldeb Ann yn estyn croeso i ni i w chartref. Sylw Pwt yn drawiadol aros yn y cof mae r gorwel mor agos waeth i ba gyfeiriad yr edrychwn. Cawsom ein hail gyfle yma i ganu emyn Ann! Aeth rhan olaf y daith a ni i Gapel Coffa Ann Griffiths yn Nolanog, a chafodd Alun gyfle i gloi r daith gyda myfyrdod byr, a r criw, bellach yn sicrach eu tonyddiaeth, yn canu r emyn yn deimladwy am y trydydd tro! Taith i w gwerthfawrogi a'i thrysori, a r criw, Delyth Evans, Delyth a Pwt, Heulwen a Wyn, Judith a Ken, Joy ac Eifion, Ann a Rhodri, yn hynod eu gwerthfawrogiad o Alun am ei ofal a i wasanaeth trwy r dydd. Aeth nifer o r criw i oedfa yn yr Hen Gapel yn Llanbrynmair ar y Sul i gefnogi Alun tra 'roedd yntau ar ymweliad a bro ei febyd. RhGJ

Awst 2 Efail Isaf 9 Bethlehem 16 Efail Isaf 23 Bethlehem - Dr. Ian Hughes 30 Efail Isaf Suliau: Awst - Rhagfyr 2015 Tachwedd 1 Dr. Hefin Jones 8 Y Parchg. Dafydd Owen - Oedfa Gymun 15 Oedfa dan ofal Alwyn Harding Jones 22 Y Parchg. Glyn Tudwal Jones 29 Y Parchg. Hywel Wyn Richards 2 Medi 6 Y Parchg. Lona Roberts - Oedfa Gymun 13 Wil Morus Jones yn sôn am Bangla Cymru 20 Y Parchg. Aled Edwards 27 Cwrdd Diolch y Plant Hydref 4 Y Parchg. Dafydd Andrew Jones 11 Y Parchg. Robin Samuel - 18 Y Parchg. Ddr. R. Alun Evans 25 Sul Adferiad - Wynford Ellis Owen Cyfeiriad yr Ysgrifennydd: Ysgrifennydd: Rhodri-Gwynn Jones, Ffôn: 029 20 89 00 39 Rhagfyr 6 Ymarfer Plant (bore) Naw Llith a Charol (nos) 13 (bore) Ymweld a Chartre r Henoed (nos) Y Parchg. Cynwil Williams - Cymun 20 Gwasanaeth Nadolig y Plant 27 Dim trefniant eto. e-bost: rhodrigj@tiscali.co.uk Y Cwrdd Merched ym Maesyronnen Maesyronnen yw un o r capeli anghydffurfiol cynharaf yng Nghymru i gael ei gofrestru. Gwnaed hyn ym 1697. Mae dechreuadau r achos braidd yn niwlog. Roedd yr ardal o gylch Maesyronnen wedi gweld llawer o ddatblygiadau ymhlith yr anghydffurfwyr yn ystod gweinidogaeth Vavasor Powell (pregethwr gyda r Bedyddwyr o Dref y Clawdd yn y 1640au) a ffurfiwyd yr eglwys yn gangen o r eglwysi Bedyddwyr yn Llanigon a r Gelli Gandryll. Roedd gweinidog enwog o r enw Henry Maurice, pregethwr didrwydded a adwaenir fel Apostol Brycheiniog wedi pregethu mewn adeilad a elwir Y Beudy ac mae n debygol mai dyma r adeilad ddaeth yn ddiweddarach i fod yn gapel Maesyronnen. Roedd hanes yr anghydffurfwyr yn amrywio o gyfnod i gyfnod yn ôl pwy oedd mewn grym. Ambell waith fe i goddefid e.e. cyfnod Oliver Cromwell, ond brydiau eraill byddent yn cael eu herlid. Yr Eglwys Wladol gyda r cyswllt rhyngddi a r wladwriaeth oedd yr unig eglwys swyddogol a gwae unrhywun na fyddai n derbyn hynny. Dyna paham roedd y cynulleidfaoedd anghydffurfiol yn cwrdd mewn mannau anghysbell neu yn crwydro o fan i fan ac weithiau yn cwrdd yn yr awyr agored. Ond yng nghyfnod William of Orange ym 1689 pasiwyd Deddf y Goddefiad oedd yn rhoi r hawl i gofrestru addoldai anghydffurfiol ac o fewn llai na 10 mlynedd wedi hynny cofrestrwyd Maesyronnen. Roedd ar dir Charles Lewis Lloyd, Maesllwch - un o gefnogwyr Vavasor Powell - ac ym 1720 trosglwyddodd y teulu'r adeilad a r tir i r eglwys am byth. Mae ar ffurf tŷ hir traddodiadol gyda r annedd-dŷ ar un pen a r addoldy'r pen arall. Bach iawn sydd wedi newid y tu fewn ers ei sefydlu. Mae r adeilad - y tŷ a r capel - wedi ei gofrestru yn Radd I gan CADW oherwydd ei bwysigrwydd yn hanes annibyniaeth cynnar yng Nghymru. (Delyth Evans, Croes Cwrlwys) [Rhagor am y Cwrdd Merched ar Dudalen x]

Ymddeoliad? Pa ymddeoliad? 3 Hwyrach i rai gredu i'n cyn-weinidog, y Parchedig Ddr R. Alun Evans, ymddeol gyda throad y flwyddyn. Wel do a naddo! Dacw fe ar y dde, yn troedio tua'r drws ar ei fore swyddogol olaf ym Methlehem. Ond mae e cyn brysured ag erioed. Ystyriwch, mewn difri mae bellach yn ddoctor dwbl gan i Brifysgol Cymru ddyfarnu gradd doethuriaeth arall iddo. Y disgrifiad swyddogol oedd: 'Doethur mewn Llên honoris causa, am wasanaethau'n hyrwyddo diwylliant ac iaith Cymru, fel darlledwr ac fel hyrwyddwr ar ran Eisteddfod Genedlaethol Cymru'. Pan ddaeth y newydd am y ddoethuriaeth, meddai Alun: 'Rwy'n ei hystyried hi'n fraint fawr i dderbyn y radd hon gan Brifysgol Cymru i gydnabod cyfraniad i ddarlledu ac i ddiwylliant fy ngwlad. Yn 1963 cyflwynwyd yr un radd i'm rhagflaenydd yn y BBC yng ngogledd Cymru, Dr Sam Jones. Mae'r anrhydedd hwn yn fy ngwneud innau, fel Sam hanner canrif yn ol, yn "ddyn hapus dros ben." Edrychaf ymlaen at gael rhannu'r achlysur gyda'r teulu.' Roedd e eisoes wedi ennill PhD ar ôl ymddeol o'r BBC ym Mangor am ei waith ymchwil ar Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru. Un o aelodau Bethlehem, Arwel Ellis Owen, oedd yn ei gyflwyno yn y seremoni ar gyfer ei radd, gan seilio'i eiriau ar anerchiad Alun i Undeb yr Annibynwyr y llynedd (a llwyddo hefyd i awgrymu nad ydy'r doethur yn gwbl ddi-duedd pan ddaw hi'n fater o gefnogi tîm pêl-droed Yr Elyrch!). Fis Awst, fe fydd Alun yn Llywydd yr Wyl, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a r Gororau, ac yn annerch cynulleidfa r Pafiliwn o r llwyfan ym Meifod. Fel gwyddom, cafodd Alun ei fagu yn Llanbrynmair gan dderbyn ei addysg ysgol uwchradd yn Nyffryn Dyfi. Llongyfarchiadau iddo ar y radd ac ar yr anrhydedd eisteddfodol. Mae hefyd yn parhau'n brysur fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac fel y gwelwch ar ddalennau eraill yn y rhifyn hwn, mae'n parhau i weinyddu priodasau, bedyddiadau a'r cymun ym Methlehem. Ond tybed oes ganddo uchelgais gudd arall? Ar y daith drwy fro Ann Griffiths, gwelodd ein dyn camera bod Alun (ar y dde) yn llygadu'r lluniau "Oriel yr Annibynwyr Cymreig" ar y pared. 'Na!' doedd llun R. Alun ddim yn y ffrâm. Amynedd, piau hi, Dr Alun! (chwith) Bore Sul olaf swyddogol Alun yn y pulpud fel ein gweinidog.

Gair gan ein hysgrifennydd Nodiadau Rhodri 4 Yn rhinwedd fy swydd fel Ysgrifennydd Bethlehem, derbyniaf ohebiaeth gyson oddiwrth Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg, a rhoi i r corff hwnnw ei enw llawn. Y pecyn diweddaraf i gyrraedd oedd Adroddiad y Cyfarfodydd Blynyddol 2014 a gynhaliwyd yn y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr, ar Fehefin 26-28, 2014, ac hefyd Rhaglen y Cyfarfodydd Blynyddol 2015 dan wahoddiad Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd, ac a gynhaliwyd (erbyn hyn) yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn ar Orffennaf 2-4, 2015. Mae 'na ystyr arbennig i r cyntaf i ni ym Methlehem, oherwydd dyna r pryd yr urddwyd ein cyn-weinidog, y Parchedig Ddr R. Alun Evans, yn Llywydd yr Undeb am y cyntaf o i ddwy flynedd wrth y llyw. Mae cofnod o r achlysur yn yr Adroddiad, ac hefyd gopi o i anerchiad cyntaf fel Llywydd dan y teitl Iesu r Cymod. Dymunwn yn dda iddo yn ystod ei ail flwyddyn, a diolchwn iddo am ei haelioni i ni fel eglwys yn ystod y cyfnod ers ei ymddeoliad mae cael ei gwmni yn y seddi cefn o Sul i Sul yn galondid, a gwerthfawrogwn ei barodrwydd i ymgymryd a dyletswyddau yn ôl y galw mewn oedfa, gweini r cymun, priodas a bedydd. Tawel yw hi ar lwybr olynydd iddo ar hyn o bryd, ond rydym fel eglwys yn hynod o ddiolchgar i bawb, yn aelodau a chyfeillion, sydd wedi gwirfoddoli i gymeryd cyfrifoldeb am ambell i Sul. Mae n diolch pennaf ni i Eirlys Davies (Radur) am fod yn llawn o awgrymiadau a syniadau am themau perthnasol i w cynnig, hyd yn oed os ydi ambell ddathliad yn go amheus ar adegau! Ond yn ol at Adroddiad 2014, a r materion a drafodwyd bryd hynny [gyda pheth diweddariad o Raglen 2015]:- Cofrestru bydd yn ofynnol i bob eglwys gofrestru gyda r Comisiwn Elusennau erbyn Mawrth 2021 (mae mwyafrif llethol o eglwysi sy n perthyn i r Undeb yn syrthio o fewn y dosbarth hwnnw o elusennau sydd wedi eu heithrio o r angen i gofrestru am gyfnod penodol.) Mae r eithriad o gofrestru yn golygu nad oes angen i eglwysi gyflwyno ffurflenni blynyddol i r Comisiwn Elusennau, ond ar wahan i hynny, mae r Comisiwn yn eu rheoleiddio yn union fel elusennau cofrestredig, ac mae n rhaid i eglwysi gydymffurio a r gyfraith elusennau. Golyga hyn fod rhaid i bob eglwys baratoi cyfrifon blynyddol a u cyflwyno i r aelodau o fewn tri i bedwar mis o ddiwedd y flwyddyn ariannol. At hynny, o ran arfer da a rheolaeth dryloyw o r elusen, dylid sicrhau fod ail berson yn bwrw golwg drostynt. Gall y comisiwn Elusennau ofyn, unrhyw amser, am gopi o gyfrifon unrhyw eglwys sydd yn syrthio o fewn y dosbarth o elusennau sydd wedi eu heithrio. Rhodd Cymorth mae cyfrifoldeb ar yr Awdurdod Cyllid a Thollau i annog elusennau i fanteisio ar y Cynllun Rhodd cymorth, y Cynllun Rhodd Cymorth ar gyfraniadau bach a r Lwfans Cyflogaeth. Diogelwch Pobl Fregus cyflwynwyd canllawiau newydd a ddarparwyd gan y Panel Diogelwch Cydenwadol, ac mae copi o r ddogfen ar gael yn y Festri er gwybodaeth. Pwysleisir fod pob eglwys i ddilyn y canllawiau, ac hefyd y dylid penodi swyddog i fod yn gyfrifol am y gwaith o sicrhau fod y canllawiau yn cael eu dilyn. Rhaglen Datblygu 2 [fe gofiwch i r rhaglen gyntaf ymestyn o 2009 hyd 2014]. Mae Cynllun Datblygu Medrau, sef cynllun cynnig hyfforddiant i unigolion sy n awyddus i feithrin eu doniau a gwasanaethu eglwys, wedi datblygu n naturiol i fod yn rhan amlwg o ddyfodol y Rhaglen Datblygu 2. [Mae Ebeneser, Caerdydd eisioes yn dilyn y trywydd yma.] Mae hyd at 3000 ar gael i gyfundebau i w cynorthwyo gyda phrosiect neu gynllun fydd yn hwb i ddatblygiad a thystiolaeth yr eglwysi yn eu hardal, ac mae anogaeth daer ar i eglwysi barhau i gyflwyno ceisiadau am brosiectau newydd a gwreiddiol. Cynnal Priodasau un rhyw os oes eglwysi sydd heb drafod a phenderfynu, yna eu dewis hwy yw hynny, a bydd yn rhaid iddynt fyw gyda r canlyniadau, os bydd rhai oedd sylw Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb yn ei Adroddiad Blynyddol. Noder, o r 2 il o Fawrth 2015, fod y gyfraith sy n ymwneud a r cyfnod hysbysu priodas wedi newid rhaid yn awr adael 28 diwrnod rhwng hysbysu priodas yn swyddfa r Cofrestrydd, a r gwasanaeth priodas. Isafswm cydnabyddiaeth 2015-23217 i weinidog llawn amser; lwfans tŷ 4065; treuliau teithio 45c y filltir am y 10000 milltir cyntaf, ac yna 25c y filltir am bob milltir dros hynny. Cydnabod y Weinidogaeth Achlysurol - 45 yr oedfa a chostau teithio yn ôl y raddfa uchod. Y cwota unol [cyfraniad at weithgarwch yr Undeb] - 3.60 yr aelod Noder fod ffigyrau gwerthiant y Tyst yn agos at 1600 y rhifyn ar gyfartaledd. (Parhad ar waelod y dudalen nesaf)

5 (uchod) Dr. Lowri Glyn, Pentyrch, a Chris Warlow, o ardal Aberdaugleddau (ddiwedd Rhagfyr) (dde uchod) Dr Elen Evans, Yr Eglwys Newydd, a Dr Scott Mitchell o Mansfield (ganol Ebrill) (dde) Rhian Mai Thomas, Yr Eglwys Newydd, a Michael James Smith, Yr Eglwys Newydd (ddechrau Mai) Nodiadau Rhodri (o'r dudalen flaenorol) Diolch bod gennym Drysoryddion a Chyfreithiwr (yn ogystal ac Ymddiriedolwyr a Diaconiaid) i n cadw ar y llwybr cywir mewn materion o r fath. Yn ogystal, penderfynwyd galw ar y Cyfundebau i ganfod pa fanciau bwyd sy n bodoli yn eu hardal, ac annog yr eglwysi lleol i gyfrannu atynt; cysylltu ag Undebau Credyd lleol i gynnig cymorth staffio gwirfoddol os oes angen; annog eglwysi i dynnu sylw n gyson mewn oedfaon at dlodi ac i weddio n gyson dros y tlawd; bod yn effro i bob cyfle posibl i gefnogi ymgyrchoedd o lobio ar lefel wleidyddol yn erbyn unrhyw ddeddfwriaeth sy n gwneud cam a r tlawd. Gobeithio nad wyf wedi eich llethu a materion busnes yn anad dim, ond onid dyna r byd sydd ohoni! Faint o farciau gaiff Bethlehem, Gwaelod-y-garth, tybed am gydymffurfio â phenderfyniadau Cynhadledd 2014? Bydd angen eich cymorth bob un ohonoch wrth i ni gamu tua r dyfodol. Yn y cyfamser, mwynhewch yr haf sydd ar ddod, a chofiwch am ein trefn o gyd-addoli gyda aelodau r Tabernacl, Efail Isaf, am yn ail Sul, gan ddechrau ar y 26ain o Orffennaf (ym Methlehem) ac ymestyn o hynny hyd ddiwedd Awst.

6 DWY DUDALEN DRAMA'R NADOLIG Teithiodd rhai... yn y Tardis! Teithiodd rhai... ar adenydd Teithiodd rhai... ar gamelod! Teithiodd rhai... ar droed!

7 Teithiodd rhai... ar 'Rhysi-jet'! Ac un ar ei gar llusg!

TRI BEDYDD BETHLEHEM CYDYMDEIMLO Rydyn ni fel eglwys yn cydymdeimlo â'r canlynol a'u teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar: 8 Peter Wyn Thomas, Rhiwbeina wedi colli ei fam a'i frawd yng nghyfraith. Eluned Davies Scott, Meisgyn - wedi colli ei mam. Ann Williams, Yr Eglwys Newydd wedi colli ei brawd. Gwenan Richards, Radur wedi colli ei modryb. Rhian Huws. Ffwrnes Blwm - wedi colli brawd yng nghyfraith. Gwenno Huws,Y Barri wedi colli ei mam Bedydd Gwen Beca Gomer Davies 28.12.14 Anfonwn ein cofion at... Nia Jones, Ystum Taf, sy'n gwella ar ôl ei chyfnodau diweddar yn cael llawdriniaeth yn yr ysbyty. Margaret Ellis Owen, Creigiau, sydd yn gwella ar ôl salwch diweddar. Bedydd Owain Dafydd - 12.04.15 Bedydd Wil Owen Wyatt - 05.04.15 Llongyfarchiadau i... Llŷr Wilson Price ar ennill ei radd Meistr o Brifysgol Aberystwyth, hefyd ar ddechrau swydd newydd gyda Action on Hearing Loss Cymru. Hefyd am ennill 10,000 wrth gymeryd rhan mewn cwis ar ITV ym mis Ionawr. Catrin Dafydd, ar gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf 'Random Births and Love Hearts'. Mae hon yn ddilyniant i'w ei nofel Saeneg flaenorol, 'Random Deaths and Custard gyhoeddwyd yn 2009. Sioned Catrin ar ei swydd newydd gyda Rolls Royce. Ifan Glyn, ar gael ei benodi'n Gyfarwyddwr FMB Cymru (Ffederasiwn yr Adeiladwyr) Holly ac Alun Evans ar enedigaeth Eluned Myfanwy, chwaer fach i Gruffudd. Esther a Matthew Wills ar enedigaeth Iolo. Luned a David Walters ar enedigaeth Esther Gwenllian, chwaer fach i Lea a Betsan. Heulwen Jones a Sian Osborne ar eu hymddeoliad. bob un sydd wedi graddio eleni ac i bawb nad ydyn ni wedi eu henwi sydd wedi cyflawni camp nad ydyn ni wedi clywed amdani eto!

BETHLEHEM MEWN LLUNIAU Mererid a'r Llyfr Gwyn Yr wyf i, drwy dorri fy enw yn y Llyfr Gwyn, yn ymrwymo i weithio dros heddwch yn y byd. Dyna'r geiriau ar ddechrau Llyfr Gwyn Caerfyrddin, ac ar ddiwedd ei hanerchiad ym Methlehem, gwahoddodd y Prifardd Mererid Hopwood yr aelodau i roi eu henwau ar y ddeiseb dros heddwch yn y byd. Mae'r papur newydd 'Peace News' wedi disgrifio'r llyfr fel "one of the most extraordinary peace movement projects in the world." 9 Rhagor o hanes Y Cwrdd Merched 2015 Blwyddyn newydd i'r cwrdd merched, sydd, erbyn hyn, yn mynd o nerth i nerth. Dilwyn Jones oedd ein siaradwr cynta ni, a chawsom sesiwn ddifyr yn gwrando ar straeon am ei waith fel cynhyrchydd Dau fu'n siarad â'r Cwrdd Merched yn ystod y gyda'r BBC ac S4C. Gwanwyn: (chwith) Dilwyn Jones, Creigiau, ac Elin Yn mis Chwefror, daeth Elin Tudur atom a diddorol oedd Tudur, Caerdydd, (dde) gyda Rhian Huws oedd yn ei clywed ei hanes fel gwraig gweinidog. chyflwyno. Yna fe ddaeth ein cyn-weinidog R.Alun Evans atom. 'Munud i Feddwl' oedd testun ei sgwrs, ac unwaith eto cawsom wledd wrth wrando ar hynt a helynt darlledu. I orffen y tymor, aethom ar daith i'r Gelli Gandryll, ac ar y ffordd ymweld a chapel Maesyronnen - capel hynafol mewn man hudolus, nid nepell o'r Gelli - mae'n werth i chi fynd yno! MJ COFIWCH! Bydd yr Ysgol Sul yn ail gychwyn ym mis Medi. Erbyn hynny, bydd y gwaith allanol yn y ffrynt (isod) ac o fewn y festri, i hwyluso mynediad i rai ag anabledd, wedi dod i ben. (Uchod) Gwaith celf tecstilau 2D buddugol Ffion Biggs yn cael ei arddangos ym Mhrifwyl yr Urdd yn Llancaiach. Llongyfarchiadau Ffion!

BETHLEHEM MEWN LLUNIAU 10 Yr Ysgol Sul yn dathlu Gŵyl Ddewi Diolch i Heulwen a'r athrawon a phawb fu'n helpu ac yn cymryd rhan. (Cofiwch y bydd Yr Ysgol Sul yn ail gychwyn ym mis Medi). BETHLEHEM MEWN LLUNIAU

11

BETHLEHEM MEWN LLUNIAU 12 Diolch i Peter am drefnu ac i bawb fu'n cyfrannu i'r achlysur.