YMDDIRIEDOLAETH ARCHAEOLEGOL CLYWD-POWYS cylchlythyr Hydref 2012 1 English version available on website
Gwaith pellach yn anheddiad canoloesol yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint C ynhaliwyd ail dymor o r prosiect gwaith cloddio cymunedol hwn ar y cyd rhwng Cadw a CPAT, â chymorth hollbwysig gwirfoddolwyr lleol am bythefnos yn rhan olaf mis Gorffennaf. Ailagorwyd y ddwy rych a gloddiwyd yn rhannol y llynedd mewn gwahanol rannau o r anheddiad canoloesol anghyfannedd er mwyn eu cwblhau, y naill ar draws clostir gwag, i bob golwg, a r llall ar draws llwyfan tŷ. Agorwyd rhych newydd ar draws pen isaf tŷ petryal hir. Mae n aml yn anodd pennu dyddiadau yn y math hwn o safle ond mae crochenwaith cysylltiedig yn awgrymu ei bod yn bosibl i r adeiladu ddechrau yng nghyfnod y Tuduriaid a bod yr adeilad wedi parhau i gael ei ddefnyddio i r 17eg ganrif ac efallai hyd yn oed i r 18fed ganrif. Ceir mwy o wybodaeth am y prosiect yn Hen Caerwys dig diary ar wefan CPAT. CPAT yn y Sioe Frenhinol... y ffermwyr cynharaf yng nghanolbarth Cymru Am y tro cyntaf y mis Awst hwn, roedd gan yr Ymddiriedolaeth stondin yn y Sioe Frenhinol, yn Llanelwedd, ag arddangosfa o r enw Yn ennill eu plwyf... y ffermwyr cynharaf yng nghanolbarth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar waith diweddar rydym wedi bod yn ei wneud i daflu goleuni ar y gyfres hynod o glostiroedd Neolithig ym masn Walton yn nwyrain Sir Faesyfed. Y gobaith yw y bydd yr arddangosfa i w gweld mewn amryw o leoedd eraill, gan gynnwys Amgueddfa Sir Faesyfed, Llandrindod. Ewch i n gwefan i gael copi o r llyfryn sy n cyd-fynd â r arddangosfa.. 2 Lluniau o arddangosfa sy n dangos (y llun uchaf ar y dde) arddulliau crochenwaith o ddechrau, canol a diwedd y cyfnod Neolithig a ddarganfuwyd ym Masn Walton ac (uchod) diagram sy n dangos sut codwyd pyst y gwahanol balisau. Ar y dde Nigel Jones o CPAT (ar y dde) gyda Mr a Mrs Goodwin o Fferm Hindwell yn ymweld ag arddangosfa r Ymddiriedolaeth yn y Sioe Frenhinol.. 3
Darganfod mwy am y celc o arian Rhufeinig yn Nhrefaldwyn Y n rhifyn Hydref 2011 o n Cylchlythyr, gwnaethom adrodd ar y celc o arian Rhufeinig roedd Adrian Simmons wedi i ddarganfod ger Trefaldwyn ac ar y gwaith y bu r Ymddiriedolaeth yn ei wneud i adfer y potyn a oedd yn cynnwys gweddill y celc a oedd dal wedi i gladdu yn y ddaear. Ers hynny, mae Edward Besley yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, wedi bod yn astudio r celc. Erbyn hyn, gwelir bod y celc yn cynnwys cyfanswm o 4,854 o ddarnau arian yn perthyn i flynyddoedd cythryblus y 3edd ganrif (gwelwch y ffotograff gyferbyn). Rhyddhawyd y rhai cynharaf gan yr ymerawdwr Rhufeinig Gordian III a oedd yn teyrnasu rhwng 238 244 OC. Rhyddhawyd y rhai diweddaraf gan yr ymerawdwr Aurelius a oedd yn teyrnasu rhwng 270 275 OC, ac mae n bur debyg mai yn ystod ei deyrnasiad ef y cafodd y celc ei gladdu. Mae r tabl isod yn crynhoi r cynnwys ac yn rhoi ciplun o r darnau arian a fyddai wedi bod ym mhwrs Brython Ambueddfa Cymru / National Museum Wales Uchod Rhai o r darnau arian yng nghelc Trefaldwyn. Sylwch fod yr ymerawdwyr ar y darnau arian, fel yn achos llawer o ddarnau arian o r drydedd ganrif, yn aml i w gweld yn gwisgo coron radiate. Ar y dde Y potyn coch y darganfuwyd y celc o arian ynddo. Roedd aradr wedi dal ymyl y potyn rywbryd yn y gorffennol, gan wasgaru rhai o r darnau arian yn y pridd a oedd wedi i aredig. 4 5
Rhufeinig yn y cyfnod hwn. Yn arwyddocaol ddigon, roedd bron i ddwy ran o dair o r darnau arian yn y celc yn perthyn i reolwyr yr ymerodraeth Galaidd-Rufeinig a oedd wedi torri n rhydd o r brif ymerodraeth ac a sefydlwyd gan y trawsfeddiannwr Posthumus yn 260 OC, ac a ddychwelodd yn y pen draw i r ymerodraeth Rufeinig ganolog yn 273 OC. Ar ôl i Grwner Powys gynnal cwêst yn y Trallwng ar ddechrau mis Mehefin 2012, datganodd fod y celc yn Drysor. Mae Amgueddfa Powysland yn y Trallwng yn gobeithio y bydd yn gallu cael y celc i w arddangos cyn gynted ag y bydd y darganfyddwr a r tirfeddiannwr wedi derbyn iawndal llawn am ei werth ar y farchnad. I gael gwybod mwy am yr hyn a ystyrir yn Drysor a r hyn y dylech ei wneud pe baech chi n darganfod trysor, gwelwch rifyn Gwanwyn 2010 o n Cylchlythyr (ar gael ar ein gwefan). heb eu hateb o hyd ynglŷn ag union gyddestun ei gladdu, er bod yna awgrymiadau ei fod yn gysylltiedig ag un o r clwstwr o ffermydd amgaeedig a ddarganfuwyd trwy awyrluniau yng nghyffiniau r gaer Rufeinig yng Nghaer Ffordun. Gyda chaniatâd caredig y tirfeddiannwr a chymorth ariannol oddi wrth Cadw, aeth yr Ymddiriedolaeth ati i wneud mwy o waith maes er mwyn ceisio cael gwell syniad o i darddiad. Awgrymodd arolwg geoffisegol o r caeau o amgylch (a welir yn y delweddau isod) fod y celc wedi i gladdu rhwng dau glostir petryal, Rhufeinig mae n debyg, a oedd yn gorgyffwrdd ac a oedd rhwng rhyw 45 a 65 metr ar draws, y lleiaf ohonynt o bosibl yn glostir diweddarach na r un mwy. Gwelwyd yn ystod gwaith cloddio ar raddfa fach bod y ddwy ffos a oedd wedi u torri i r graig ychydig dros fetr o led a hyd at hanner metr o ddyfnder, ac roedd y ddwy yn cynnwys darnau o grochenwaith Rhufeinig. Mae bellach yn eglur bod y potyn a oedd yn cynnwys y celc o arian wedi i gladdu mewn twll bas, naill ai wedi i dorri i mewn i fin allanol y clostir mwy neu, o bosibl, i mewn i gynffon y clawdd a oedd yn gysylltiedig â r clostir llai. Mae n bosibl bod ffosydd y clostiroedd petryal wedi amgáu fferm Rufeinig ond nid ydynt yn rhyw sylweddol iawn felly efallai nad ydynt fawr mwy na rhan o system gaeau Rufeinig fwy helaeth. Mae cyfliniad y system hon yn wahanol i r patrwm caeau cyfoes ond, yn ddiddorol ddigon, mae n rhannu r un cyfeiriad ag olion aredig tebygol sy n dyddio efallai o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig neu ddechrau r canol oesoedd a ddaeth i n sylw hefyd trwy r arolwg geoffisegol. f Ar ôl codi r potyn a oedd yn cynnwys y celc o arian o r ddaear roedd yna gwestiynau Uchod Richard Hankinson o CPAT yn gwneud gwaith arolwg geoffisegol gyda magnetomedr yn y cae o amgylch y lle y daeth y celc i r golwg. Ar y chwith Nodweddion Y llun uchaf ar y dde Gwaith cloddio ar claddedig a raddfa fach ar draws ffosydd y clostiroedd ddatgelwyd trwy r mae r saeth yn dangos y twll y daeth y arolwg geoffisegol. celc ohono. Uchod Cynllun deongliadol o r data geoffisegol sydd i w gweld ar y dudalen gyferbyn. 6 7 Adrian Simmons
O gwmpas gyda CPAT yn 2012 Gŵyl Archaeoleg Prydain 2012 Profiad Gwaith 2012 Gwnaethom benderfynu bod hyn yn gyfle rhy dda i w fethu, ac felly daeth yn ffocws ar gyfer lleoliadau profiad gwaith eleni. Ymhlith y sgiliau y gwnaeth y myfyrwyr eu dysgu oedd gwneud arolwg a chofnodi, gwneud arolwg geoffisegol, cloddio a hidlo, yn ogystal â thaflu dŵr allan ar ôl cenllif o law! I weld sut hwyl y cafodd y myfyrwyr ar bethau, ewch i w tudalennau gwe ar wefan yr Ymddiriedolaeth dan Profiad Gwaith 2012. Am wythnos ym mis Gorffennaf, bu r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda grŵp o chwech o bobl ifanc o ysgolion yn Llanfair Caereinion, y Trallwng, Trefyclo, Baschurch a Wem i ymchwilio i safle archaeolegol posibl yn Nhreberfedd. Roedd y tirfeddianwyr, Chris ac Alexa Bartram, wedi cysylltu â CPAT oherwydd eu bod mewn penbleth ynglŷn â charreg fawr roeddent wedi dod o hyd iddi wedi i chladdu ar eu tir. Fel rhan o Ŵyl Archaeoleg Prydain eleni, fe drefnodd yr Ymddiriedolaeth daith gerdded dywys o amgylch adfeilion Castell Trefaldwyn ym mis Gorffennaf, a daeth nifer dda o deuluoedd, yn cynnwys pobl o bob oedran, am dro gyda ni. Ar ôl y daith gerdded, manteisiodd rhai o r grŵp ar y cyfle i ymweld ag Amgueddfa r Old Bell yn Nhrefaldwyn, lle mae Ym mis Awst, gwnaethom gynnal Diwrnod Archaeoleg i r Teulu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn y ganolfan ymwelwyr ger Rhaeadr Gwy. Roedd hyn yn cynnwys crefftau ymarferol a gweithgareddau amrywiol y gwnaeth nifer dda o bobl o bob oedran ymuno â nhw. Ar y chwith Y tîm yn cael hoe fach, gan gynnwys Olly, Steph, Beth, Jacob, Michael a Lauren, gyda Mr Chris Bartram (ar y chwith) a Jeff Spencer o r Ymddiriedolaeth (ar y dde). Ym mis Gorffennaf, â chaniatâd y tirfeddianwyr, ymunodd yr Ymddiriedolaeth â Thwristiaeth Caersws i drefnu ymweliad â bryngaer Cefn Carnedd o r Oes Haearn. Mae r fryngaer, â i sawl gwahanol gyfnod, yn coroni bryn amlwg ychydig i r gogledd o Landinam, ac oddi yno ceir golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Hafren yn yr ardal o amgylch Caersws. 8 9 9
Trydydd tymor ym Mhen y Gaer, Sir Frycheiniog Aeth y trydydd tymor o waith cloddio y tu allan i gaer Rufeinig Pen y Gaer rhagddo yng nghanol mis Mehefin gyda chymorth gwirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Lleol Llangynidr, Cymdeithas Hynafiaethol Sir Fynwy, U3A Aberhonddu, a chydag arian oddi wrth Cadw. Mynachod a magnetomedrau yn abaty Ystrad Marchell Yn rhifyn Gwanwyn 2012 o n Cylchlythyr roedd gennym erthygl ar y gwaith arolwg maes a gynhaliwyd ar safle abaty canoloesol coll Ystrad Marchell yng Nghei r Trallwng, i r gogledd o r Trallwng, a sefydlwyd yn 1170 OC. Ers hynny, â chymorth arian oddi wrth Cadw a chaniatâd y tirfeddiannwr, rydym wedi gallu gwneud arolwg geoffisegol helaeth gyda gradiomedr magnetig. Gan gyfuno hyn â chanlyniadau arolwg geoffisegol o eglwys yr abaty gan Arolygon Geoffisegol Bradford, a gomisiynwyd gan Glwb Powysland yn 1990 (gwelwch y ddelwedd isod), mae swm sylweddol o wybodaeth newydd wedi dod i r fei ynglŷn â chynllun yr abaty, a cheir crynodeb o hyn ar y dudalen nesaf. Fel yn achos blynyddoedd blaenorol, targed y gwaith oedd ceisio darganfod graddau a chynllun yr anheddiad sifilaidd Rhufeinig a ddatblygodd ar hyd y ffordd yn rhedeg i r de o borth deheuol y gaer Rufeinig. Yn 2012, fe ailymwelodd y tîm â safle r gwaith cloddio cynharach, yn ogystal â mynd i r afael â dwy ardal newydd gerllaw r ffordd Rufeinig. Datgelwyd sylfeini carreg pellach dau adeilad a oedd gynt yn anhysbys, ac roedd un o r rhain yn cynnwys ffwrn fach, i bobi bara mae n debyg. Roedd yr adeiladau, a oedd â sylfeini carreg isel (sydd i w gweld yn y ffotograffau a ddangosir yma), wedi u hadeiladu, mae n debyg, o bren yn bennaf, gyda tho teils seramig. Ymhlith y darganfyddiadau oedd swm sylweddol o waith metel a chrochenwaith Rhufeinig, gan gynnwys tlws, darn arian a hoelion, a nifer o ddarnau o lestri gwydr. Uchod Canlyniadau cyfunol arolygon geoffisegol ym 1990 a 2012. Ar y dde Richard Hankinson o CPAT yn gwneud arolwg geoffisegol yn Ystrad Marchell ym mis Hydref 2012, gyda Bryniau Breidden yn y cefndir. 10 11
Cofnodi neuadd ffrâm bren yng Nglas-hirfryn, Llansilin Yn ystod yr haf a r hydref eleni bu r Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith cofnodi ar adeilad diddorol â ffrâm bren yng Nglas-hirfryn ym mhlwyf Llansilin, yn swatio yn y bryniau ar ymyl ddeheuol mynyddoedd y Berwyn. Roeddem wedi gwneud gwaith tebyg o r blaen ar gwpl o adeiladau pren cyfagos o ddiwedd y canol oesoedd yn Nhyddyn Llwydion ac, yn fwy diweddar, yn Nhŷ-draw (adroddwyd ar hyn yn rhifyn Gwanwyn 2010 o n Cylchlythyr) y ddau ohonynt yn dai neuadd â ffrâm nenfforch, gyda neuadd ganolog yn agored i r to ac aelwyd agored. Graham Moss, Moss Co. Abaty Sistersaidd Abaty Glyn y Groes ger Llangollen, a sefydlwyd ym 1201, rhyw 30 mlynedd ar ôl Ystrad Marchell. Prin iawn yw r olion o r hen abaty sydd i w gweld ar y tir heddiw, ond trwy gyfuno canlyniadau arolwg maes ac arolwg geoffisegol, rydym yn dechrau cael syniad gwell o lawer o gynllun cyffredinol y fynachlog. Mae n siŵr bod hwn, ar un adeg, yn debyg i abatai Sistersaidd Cymreig mwy adnabyddus, fel Abaty Glyn y Groes ac Ystrad Fflur. Mae yna ambell beth sy n dal i fod yn ansicr o ran dehongli a dyddio rhai o r strwythurau a nodwyd, ond gallwn ddechrau gwerthfawrogi n fwy eglur nid yn unig lleoliad eglwys yr abaty a i glawstrau ond hefyd ei gabidyldy, ei ystafelloedd cysgu a i geginau, a u perthynas â ffin y libart ar lannau afon Hafren. Un o r pethau sy n ddiddorol ynglŷn â Glas-hirfryn yw ei bod yn ymddangos mai olynydd cynnar i r tai neuadd cynnar hyn ydyw efallai n dyddio o gyfnod mor gynnar â chanol yr 16eg ganrif gan ei fod wedi i adeiladu o r dechrau ag ystafelloedd uwchben y neuadd ganolog, a chyda simnai. Yn anffodus, mae r tŷ wedi mynd yn adfail dros y blynyddoedd, ac mae rhannau o r adeilad wedi cwympo mewn gwyntoedd mawr yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae yna gynlluniau ar y gweill i adfer yr adeilad i gyflwr rhywbeth yn debyg i r hyn a fu. Bu r Ymddiriedolaeth yn gwneud gwaith cofnodi ar y darnau pren sydd wedi cwympo, ac yn 12 13 Y llun uchaf Darlun pensaer yn dangos sut olwg allai fod ar yr adeilad wedi i adfer. Y llun canol Yr adeilad wedi cwympo, yn ystod gwaith clirio ym mis Gorffennaf 2012. Y llun gwaelod Un o byst addurnol y wal.
gwneud gwaith cloddio ar ôl-troed yr adeilad i ddysgu mwy am ei gynllun cyn i r gwaith adfer ddechrau. Gwnaed y gwaith â chaniatâd y tirfeddianwyr a chydag arian oddi wrth Cadw, a gwaith ar y cyd ydyw â Chyngor Sir Powys a Cadw, y pensaer Graham Moss a r adeiladwyr, Manor Joinery. Mae staff y Comisiwn Brenhinol hefyd yn chwarae rhan yn y prosiect, a bydd yn comisiynu r gwaith dyddio cylchoedd pren a fydd, gobeithio, yn cadarnhau yn fwy manwl gywir pryd yn union yr adeiladwyd y tŷ. Roedd gwaith pren y tŷ wedi i gerfio n gymhleth ac wedi i addurno ar y tu mewn ac ar y tu allan. Roedd yn amlwg bod adnoddau sylweddol wedi u gwario ar adeiladu r fferm anghysbell hon ar ymylon yr ucheldiroedd, mae n debyg gan ffermwr cefnog a oedd yn rhyddddeiliad. Mae ymchwil hanesyddol ragarweiniol wedi datgelu enw perchennog y tŷ tuag at ddiwedd yr 16eg ganrif Maurice ap Dafydd a oedd wedi priodi aelod o deulu lleol blaenllaw, sef y teulu Wynn o Foelyrch. Gadawyd y tŷ fel annedd yn segur o r diwedd yn y 1960au, pan adeiladwyd y ffermdy presennol, ond mae n amlwg y gwnaed llawer o newidiadau yn ystod y tair canrif roedd pobl yn byw ynddo. yr adeilad pren wedi gorffwys ar waliau sil cerrig hyd at hanner metr o uchder a fyddai wedi ei wneud yn fwy trawiadol fyth o r tu allan. Er gwaethaf y cerfio cyfoethog mae n ddiddorol nodi mai pridd sathredig oedd y lloriau cynharaf, gyda brwyn wedi u gwasgaru drostynt ar un adeg, er ei bod yn amlwg bod teils carreg wedi u gosod i sicrhau bod y to yn dal dŵr. Roedd pobl yn dechrau dewis teils carreg yn lle gwellt i w gosod ar doeau tai lleol yn ystod yr 16eg ganrif. Teils to carreg graddoledig o r adeilad gwreiddiol, mae n debyg, a ailddefnyddiwyd mewn waliau yn ddiweddarach. Capsiwl amser Edwardaidd Darganfuwyd cysylltiad cyfareddol â rhai o r bobl fu n byw yn y tŷ yn y gorffennol pan roedd yn cael ei ddymchwel. Y tu ôl i r wensgot diweddarach yn wal ddwyreiniol y tŷ oedd bwndel o bapurau newydd wedi u clymu n daclus, yn cynnwys yr Oswestry and Border Counties Advertiser dyddiedig 9 Hydref 1907 a chopi o r Gwyliedydd (papur newydd Cymraeg y Methodistiaid Wesleaidd) dyddiedig 3 Hydref 1907. Roedd Mary Ann Jones, merch teulu Anghydffurfiol lleol blaenllaw, ac William Williams, Saer, a Margaret Jane Williams wedi llofnodi r bwndel. Mae gwaith yn parhau arno, ac mae manylion diddorol eisoes yn dechrau Y llun uchaf Un o byst y wal ar y llawr gwaelod, wedi i dod i r amlwg ynglŷn â gwahanol gerfio n gain, gyda philastr boglynnog wedi i addurno â gyfnodau ei hanes. Erbyn hyn, mae dail gwinwydd cerfiedig. Y llun canol Wrthi n gweithio yna awgrymiadau bod y tŷ efallai Cnap derw wedi i gerfio n gymhleth a ar y lloriau llechi a theils diweddarach y tu mewn i r tŷ. wedi bod yn fwy yn wreiddiol, gyda oedd arfer addurno canol y nenfwd yn y Y llun gwaelod Gwaith cloddio arbrofol islaw r trawst bae ychwanegol ar yr ochr waered. neuadd ar y llawr gwaelod yng Nglashirfryn, isaf (gwadn haearn) ym mhen dwyreiniol yr adeilad, yn A rhywbeth sy n amlwg nawr, er nad wedi i addurno â dail arddullaidd, datgelu r wal sil wreiddiol. oedd yn amlwg o r blaen, yw bod â rhosyn y Tuduriaid yn y canol. 14 15
Yr Ymddiriedolaeth yn diolch i David Rowlands Ar ôl deng mlynedd ar hugain o wasanaeth rhagorol fel Aelod o r Ymddiriedolaeth a hefyd fel Ymddiriedolwr, gwnaeth David Rowlands ymddeol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref 2012. Hoffai r Ymddiriedolaeth ddiolch i David am bopeth y mae wedi i wneud dros y blynyddoedd, bob amser yn fodlon rhoi o i amser er gwaethaf bywyd prysur ac ymrwymiadau i lawer o sefydliadau eraill. Y llun uchaf David ym mryngaer yr Ymddiriedolaeth yng Nghaer Digoll ger y Trallwng, sef un o r prosiectau y bu ei arbenigedd o fudd mawr iddo. Ar y chwith Gyda chymorth grant oddi wrth Cadw mae r Ymddiriedolaeth yn ddiweddar wedi gallu caffael llain o dir ychwanegol i r dwyrain, sydd i w weld yma yn edrych i r dwyrain i gyfeiriad Bryn Cornatyn a r Stiperstones. Mae r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i r holl dirfeddianwyr a roddodd eu caniatâd i ni gwblhau r prosiectau sydd wedi u disgrifio yn y Cylchlythyr ar eu tir, ac mae n ddiolchgar am gymorth grant oddi wrth Cadw ar ran Llywodraeth Cymru. The Newsletter can be downloaded from www.cpat.org.uk/news/newslets/newslets.htm Y clawr blaen: Alex, gwirfoddolwr ar y prosiect ar y cyd rhwng Cadw a CPAT yn yr Hen Gaerwys, Sir y Fflint, ym mis Gorffennaf 2012, gyda gên buwch. CPAT The Clwyd-Powys Archaeological Trust 41 Broad Street, Welshpool, Powys, SY21 7RR tel 01938 553670, fax 01938 552179 email trust@cpat.org.uk website www.cpat.org.uk Registered Charity 508301 Limited Company 1212455 16