Adroddiad Blynyddol 2017

Similar documents
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Holiadur Cyn y Diwrnod

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

e-bost/ Rhif testun yr ysgol/school s text no:

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Ysgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn:

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Summer Holiday Programme

NatWest Ein Polisi Iaith

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

POBL PENWEDDIG. Parêd Gŵyl Dewi. Pêl-droedwyr Penweddig yn Chwarae Dros Gymru.

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

PROSBECTWS YSGOL

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Bwletin Rhieni / Parents Bulletin Ebrill / April 2016 RHAI DYDDIADAU PWYSIG / SOME IMPORTANT DATES Dydd Llun / Monday

Bwletin Gorffennaf 2016

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Chwefror / February 2015

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

offered a place at Cardiff Met

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr

October Half Term. Holiday Club Activities.

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

National Youth Arts Wales Auditions 2019

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

W46 14/11/15-20/11/15

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

Hawliau Plant yng Nghymru

Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol Ysgolion Cynradd. National Primary Schools Sports Festival May Aberystwyth

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

DOGFEN HUNAN-WERTHUSO

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Adroddiad Blynyddol Annual Report for 1 Ebrill Mawrth 2017

Addysg Oxfam

Cyrsiau Courses.

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Adolygiad Blynyddol 2007/08

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Transcription:

Adroddiad Blynyddol 2017 Ysgol Gyfun Gŵyr Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe, SA4 3DB. Ffôn: (01792) 872403 Ffacs: (01792) 874197 Gwefan: www.yggwyr.org.uk E-bost: ysgol.gyfun.gwyr@swansea-edunet.gov.uk Pennaeth Interim: Mr Dafydd Jenkins BSc. Cadeirydd y Corff Llywodraethol: Miss Aldyth Williams Clerc: Ms Mari Jones

CANLLAWIAU STADUDOL DIWYGIEDIG I DDEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol diwygiedig i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 mewn perthynas â r cyfarfodydd Adrodd i Rieni Blynyddol. Mae r trefniadau newydd yn golygu nid oes gofyniad bellach ar gyrff llywodraethu ysgolion i gynnal cyfarfod blynyddol i rieni. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru o r farn y dylai rhieni fod â r gallu i drafod materion sydd o bwys iddynt a chyrff llywodraethu. 1. Mae n ofynnol o hyd i gyrff llywodraethu gynhyrchu a dosbarthu adroddiad blynyddol i r rhieni. 2. Os bydd 10% o rieni disgyblion cofrestredig yr ysgol neu rieni 30 o r disgyblion sydd wedi u cofrestru yn yr ysgol - pa un bynnag o r ffigurau sydd isaf - yn gofyn am gyfarfod â r llywodraethwyr, mae n ofynnol i gorff llywodraethu r ysgol gynnal cyfarfod. 3. Gall fod yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol gynnal hyd at 3 cyfarfod i rieni bob blwyddyn academaidd. Er gwybodaeth, nid oedd unrhyw fater wedi ei godi gan y rhieni i w drafod mewn cyfarfod gyda r Llywodraethwyr yn 2017/18. CYFANSODDIAD Y CORFF LLYWODRAETHOL 2017/18 Y mae r cyfansoddiad yn unol â r Erthyglau Llywodraethu perthnasol yn seiliedig ar 930 disgybl o Fedi 2017: 6 rhiant lywodraethwr, 5 llywodraethwr AALl, 2 athro lywodraethwr, 1 staff lywodraethwr, 5 llywodraethwr cyfetholedig a r Pennaeth = cyfanswm 20 Llywodraethwr Miss Aldyth Williams (Cadeirydd) A.A.Ll tan Gorff. 2021 Mr Dafydd Jenkins Pennaeth Gweithredol - Ms C Mari Jones Clerc - Parchg. Ddr Adrian Morgan (Is-gadeirydd) A.A.Ll tan Medi 2018 Mrs Susan Rodaway A.A.Ll. tan Gorff. 2021 Parch. Ddr. Ian Morris A.A.Ll. tan Gorff. 2021 Dr Robert Smith A.A.Ll. tan Awst 2020 Mrs Catrin Evans Rhiant tan Medi 2018 Mr David Anderson Thomas Rhiant tan Medi 2018 Mrs Susan Evans Rhiant tan Hydref 2020 Mrs Sian Files Rhiant tan Hydref 2020 Mr Philip Lott Rhiant tan Hydref 2020 Mrs M Hutchings Rhiant tan Medi 2018 Mr Steve Williams Cyf-ethol tan Tach. 2021 Mrs Rahel Williams Cyf-ethol tan Tach. 2018 Dr Richard Morgan Cyf-ethol tan Tach. 2021 Mr Steve Morris Cyf-ethol tan Medi 2019 Yr Athro Ceri Davies Cyf-ethol tan Medi 2020 Mr Rhodri Evans Athrawon tan Medi 2020 Mrs Jan Ohlsson Jones Athrawon tan Awst 2018 Mr Ben Roberts Staff tan Medi 2020 Lowri Haf Thomas, Harri Evans, Cyngor yr Ysgol tan Awst 2018 Ffion George, Rhian Hutchings. Ym mis Medi, gwelwyd cyfnodau llywodraethu r canlynol yn dirwyn i ben a diolchwn i Mr Elgan Davies Jones a Meleri Williams a Rhys Chambers am eu cyfraniad i waith y Corff Llywodraethol dros y sesiwn ddiwethaf. Croesawyd i n plith Mrs Susan Rodaway a dymunwn yn dda iddi gyda r gwaith.

GAIR GAN GADEIRYDD Y CORFF LLYWODRAETHOL Annwyl Gyfeillion, Mae n bleser eich cyfarch ar ôl blwyddyn arall llwyddiannus iawn yn hanes Ysgol Gyfun Gŵyr. Roedd canlyniadau arholiadau allanol yr ysgol eleni yn ardderchog tu hwnt gyda chanlyniadau TGAU, y gorau yn y Sir a gyda r goreuon oll yng Nghymru. Llongyfarchiadau cynnes i ddisgyblion a staff yr ysgol am yr holl waith caled! Ym mis Ionawr, cychwynnodd ein Pennaeth, Katherine Davies ar gyfnod secondiad dwy flynedd 2017-2019 gyda Llywodraeth Cymru i gynghori gweision sifil y Gweinidog Addysg ar faterion addysg cyfrwng Cymraeg. Penodwyd Dafydd Jenkins yn Bennaeth Gweithredol a Jeffrey Connick yn Ddirprwy Bennaeth Gweithredol am y cyfnod yn llawn. Bu n dipyn o her i gynnal busnes fel arfer yn dilyn ymadawiad Katherine Davies gyda chymaint o waith safle n yn mynd yn ei flaen ond llwyddwyd i lywio r ysgol yn gadarn dros gyfnod y newid. Rydym yn priodoli hyn wrth gwrs, i r cydweithio llwyddiannus a chlos a fu rhwng Katherine Davies a r Tîm Arweinyddiaeth dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Estynnwn ein diolchiadau mawr i Dafydd Jenkins a r Tîm Arweinyddiaeth am afael yn yr awenau mor effeithiol ag edrychwn ymlaen at gydweithio hwylus iawn dros y misoedd nesaf. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn trafod data r ysgol ac mae n debygol y bydd yr ysgol yn cael ei chategoreiddio n WYRDD gan Lywodraeth Cymru eleni eto. Diolchwn i staff a disgyblion am eu hymroddiad a u gwaith caled er sicrhau llwyddiant yn y meysydd allweddol. Dengys y broses categoreiddio fod yr ysgol yn llwyddo i gynnal safonau aruchel yn gyson, blwyddyn yn dilyn blwyddyn, ac ymfalchïwn yn fawr iawn yn y ffaith hon. Ym mis Medi 2017, dychwelwyd i r ysgol yn dilyn cyfnod o wyliau haf gyda heriau niferus yn ein hwynebu. Rydym bellach wedi cartrefu myfyrwyr Bl 12/13 yn gyfforddus iawn yn adeiladau Canolfan y Chweched Dosbarth gerllaw. Bu r gwaith i wireddu r weledigaeth yn fawr a diolchwn i bawb am eu mewnbwn aruthrol i greu canolfan astudio i r Chweched Dosbarth, ynghyd â lolfa a chaffi ar wahân, gydag ystafelloedd dysgu pynciau galwedigaethol (14-19) hyfryd iawn hefyd yn gynwysedig yn yr adeiladau newydd. Gwelwyd gwelliannau pellach ar y safle hefyd gydag agoriad ein Derbynfa newydd, sydd wedi effeithio i r ochr orau n barod, ar drefniadaeth a mesurau diogelwch yr ysgol. Agorwyd labordy newydd hefyd y tu mewn i adeilad yr hen Lolfa, sydd bellach y seithfed labordy ar y safle. Ar ddiwedd tymor yr haf, ffarweliwyd gyda nifer o aelodau r staff - Luke Clement, Jessica Owens, Torrey Stillman, Phill Appleton, a hefyd Anne Gimblett, athrawes a fu n addysgu yn yr ysgol am gyfnod hir o amser. Diolchwn iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr i waith yr ysgol a dymunwn yn dda iddynt i r dyfodol. Croesawyd nifer o staff newydd i n plith sef Catrin Jones (y Dderbynfa), Delyth Williams (Cynorthwydd Dysgu), Rhian Davies a Rhydian Davies (Mathemateg), Joseff Loft (Gwyddoniaeth), Lloyd Henry (Tech. Bwyd), Josh Hanbury (Daearyddiaeth), Llinos Davies (Cymraeg), Sioned Hancock (Iechyd a Gofal/Add. Gorfforol), Lowri Davies (Cymraeg/Drama/BAC) ac Eleri Davies (Saesneg). Estynnwn bob dymuniad da iddynt hwythau hefyd gyda u gwaith. Byddwn hefyd ym mis Ionawr 2018 yn ffarwelio gyda Llinos John, Pennaeth Cynorthwyol, wrth iddi ymddeol yn gynnar. Diolchwn o waelod calon i Llinos am ei gwaith aruthrol yn yr ysgol ers 1985. Byddwn yn gweld ei cholled yn fawr iawn a dymunwn yn dda iddi yn ei hymddeoliad. Rydym eisoes wedi penodi, yn dilyn cyfres o gyfweliadau, Mary Moses, i r swydd a dymunwn yn dda iddi hefyd gyda r gwaith heriol. Anodd fydd llenwi esgidiau Llinos ond rydym yn hyderus y bydd Ms Moses yn cyflawni r gamp yn gyflym. Croesawyd 930 o ddisgyblion yn ôl i r ysgol ym mis Medi, ac ymhell dros 100 o ddisgyblion Bryntawe hefyd i gael eu haddysgu ar ein safle ni fel rhan o Bartneriaeth y Chweched gyda n chwaer ysgol uwchradd. Er yn heriol, braf yw gweld twf yr ysgol a i llwyddiant yn denu disgyblion i addysg cyfrwng Cymraeg. Her y dyfodol fydd sicrhau adeiladau digonol ar gyfer twf niferoedd y dyfodol sy n dod atom o r sector gynradd. Byddwn y camu i gyfeiriad ffigurau dros 1,000 o ddisgyblion erbyn 2019! Cyn cloi, estynnwn ddiolch i chi, yn rhieni a gwarcheidwaid, unwaith yn rhagor am eich cefnogaeth a chydweithrediad parod, ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio hwylus yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Yn gywir Aldyth Williams Cadeirydd y Llywodraethwyr

CYNLLUN GWEITHREDU ÔL AROLWG Crynodeb o brif dargedau r cynllun fel ymateb i r adroddiad arolwg diwethaf: Lledaenu arfer orau mewn agweddau ar addysgu ac asesu Sicrhau bod gwybodaeth yn deillio o arsylwadau dosbarth a chraffu ar lyfrau yn arwain at bennu targedau gwella mewn cynlluniau datblygu adrannol CODI SAFONAU Mae r ysgol yn parhau i anelu am y safonau uchaf ym mhob Cyfnod Allweddol trwy sicrhau safonau dysgu ac addysgu cyson o safon uchel, trwy osod targedau heriol i bob disgybl, trwy dracio cynnydd disgyblion yn ofalus, trwy hybu cynnydd disgyblion mewn grwpiau targed gyda chymorth Anogwyr Dysgu a thrwy gydweithio yn agos gyda rhieni. Mae r ysgol yn parhau i hybu cyrhaeddiad grwpiau o ddysgwyr i ddatblygu sgiliau astudio cadarn fel eu bod yn cyrraedd yr un safonau â disgyblion eraill. Anelwn yn flynyddol i leihau r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched a hefyd i leihau effaith amddifadedd, neu anghenion dysgu ychwanegol, ar gyflawniad disgyblion fel bod pob disgybl yn gallu cyflawni ei botensial yn llawn. Symudwyd lleoliad Hafan Astudio ble mae staff yn cefnogi disgyblion sy n perthyn i grwpiau targed tangyflawni yn CA3/4 er mwyn eu cynorthwyo mewn modd rhagweithiol. Ychwanegwyd at staff yr Hafan er mwyn hyrwyddo hyn. Cynhelir sesiwn astudio yn yr Hafan ar ôl ysgol pob nos Lun i ddisgyblion ddal i fyny ȃ gwaith cartref na orffennwyd gyda chefnogaeth staff, a hefyd cynhelir sesiynau i CA3/4 yn ystod yr awr ginio. Mae r system neges destun i rieni am waith cartref na chyflwynwyd yn hybu cydweithio agos rhwng staff a rhieni. Mae'r Cymunedau Dysgu Proffesiynol wedi gweithio ar ddatblygu strategaethau i leihau effaith amddifadedd, a chynllunio cwricwlaidd mewn ymateb i adroddiad yr Athro Donaldson Dyfodol Llwyddiannus, a Llythrennedd Digidol. Yn ystod y flwyddyn nesaf, ffocws gwaith y Cymunedau Dysgu Proffesiynol yw hybu sgiliau addysgeg drwy ffocysu ar Grym Meddwl a mynd i r afael a thangyflawni bechgyn, Llythrennedd Digidol, disgyblion Mwy Abl a Thalentog, a datrys problemau Rrhifedd. Y DYSGU A R ADDYSGU Parheir i ddefnyddio r cynllun gwers pum cam sydd yn hybu r sgiliau a r cylch meddwl o gynllunio, datblygu a myfyrio. Rhoddir pwyslais mawr ar lunio gwersi sy n hybu r defnydd o sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh ac sy n codi safonau r sgiliau hyn trwy eu hymarfer ar draws y cwricwlwm mewn modd pwrpasol. Mae r ysgol wedi bod yn canolbwyntio ar gael cysondeb dealltwriaeth o beth yw nodweddion gwersi ardderchog. Mae r ysgol yn parhau i fod yn rhan o r Rhaglen Athrawon Rhagorol sydd yn annog rhannu arfer ardderchog o ran y dysgu a r addysgu o fewn yr ysgol. Y mae pob athro/athrawes yn arsylwi gwersi, neu yn cael eu harsylwi yn ystod y flwyddyn, er mwyn monitro safonau a rhannu arfer dda. Gweithia r athrawon mewn triawdau addysgu o fewn y Cymunedau Dysgu Proffesiynol i arsylwi ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Ein nod fel ysgol yw sicrhau gwersi o safon uchel yn gyson ar hyd y flwyddyn. Mae craffu ar lyfrau disgyblion pob Cam Allweddol yn rhan bwysig o brosesau hunan arfarnu r ysgol yn flynyddol. NEWIDIADAU I LAWLYFR YR YSGOL ERS EI GYHOEDDI Cynhwysir unrhyw newidiadau i lawlyfr yr ysgol ers ei gyhoeddi yn yr adroddiad hwn.

BLAENORIAETHAU CYNLLUN DATBLYGU 2017-20 Y prif dargedau ysgol gyfan fydd: parhau i godi safonau ac anelu am y safonau uchaf ym mhob Cyfnod Allweddol, gan leihau effaith amddifadedd ar gyflawniad disgyblion datblygu strwythurau bugeiliol er mwyn ffocysu ar les a chynnydd pob disgybl datblygu r ysgol fel sefydliad sy n dysgu (gwaith OECD) ymateb yn llawn i r gofynion ar gyfer cynllunio cwricwlaidd newydd yn CA3 a pharhau i weithredu gofynion y cyrsiau arholiadau newydd CA4 a CA5 gwreiddio elfennau r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm lledaenu arferion dysgu ac addysgu, ac asesu ar gyfer dysgu, ardderchog ar draws yr ysgol parhau i gydweithio gyda r Cyngor Sir i ddatblygu r safle Y DEFNYDD O R GYMRAEG Y Gymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol a disgwylir i staff a disgyblion ei defnyddio n unig ar dir yr ysgol, ag eithrio mewn gwersi megis: Saesneg, Gwyddoniaeth (pan y u haddysgir drwy gyfrwng y Saesneg) ac Ieithoedd Modern Tramor. Ar wahân i r Saesneg, addysgir pob pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn CA4 bydd yn bosib dewis astudio Gwyddoniaeth naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu r Saesneg. Yn CA5, addysgir y Gwyddorau drwy gyfrwng y Saesneg yng Ngŵyr ond mae n bosib eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mryntawe, dan drefniadaeth Partneriaeth Gŵyr-Bryntawe ôl 16. SGILIAU LLYTHRENNEDD A RHIFEDD Y mae r ysgol yn awyddus iawn i wella n barhaus sgiliau sylfaenol pob disgybl fel y gallant ddarllen, ysgrifennu a siarad yn y Gymraeg a r Saesneg a chymhwyso rhif i lefel sy n angenrheidiol i wneud cynnydd yn yr ysgol. Fel rhan o r gwaith pwysig hwn, y mae ffocws y cyfnodau bugeiliol ar lythrennedd a rhifedd wrth gyflwyno e.e. rheol iaith yr wythnos a phos rhifedd yr wythnos. Ochr yn ochr â hyn, y mae gwersi llythrennedd a rhifedd wedi eu gosod ar amserlenni disgyblion CA3 gyda r bwriad o hyrwyddo e.e. yr Wyth Ymddygiad Darllen a r Chwe Dull Ysgrifennu Anllenyddol. Ffocws cwricwlwm CA3 yn arbennig yw hyrwyddo sgiliau llythrennedd a rhifedd pob disgybl i ymateb i ofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Anogir rhieni a gwarcheidwaid i fynychu nosweithiau llythrennedd a rhifedd a drefnwyd gan yr ysgol er mwyn eu hyfforddi ar dechnegau hyrwyddo datblygiad sgiliau yn y meysydd allweddol hyn. ADOLYGU POLISÏAU R YSGOL Parhaodd y broses o ddiwygio polisïau r ysgol yn ôl y galw e.e. yn Haf 2017, fe ddiwygiwyd ein Polisi Dysgu ac Addysgu i adlewyrchu negeseuon addysgeg Dyfodol Llwyddiannus, sef gweledigaeth yr Athro Graham Donaldson a Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm ysgolion Cymru 2021 ymlaen.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY) Mae gan blant anghenion addysgol ychwanegol (ADY) os oes ganddynt anhawster dysgu sy n golygu ei fod yn ofynnol gwneud darpariaeth addysgol ychwanegol ar eu cyfer. Nod yr ysgol yw sicrhau gwerth cyfartal i bob disgybl ac i gyflawni hyn y mae r ysgol yn derbyn y dylai pob unigolyn gael y cyfle i gyfranogi o gwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol beth bynnag yw ei anghenion dysgu ychwanegol ac i ddatblygu hyd eithaf ei allu o fewn y cwricwlwm hwn. Seilir y polisi hwn ar yr egwyddor o gynhwysiant ac atgyfnerthir y polisi hwn gan bolisi cynhwysiant yr ysgol. I gyflawni hyn bydd yr ysgol yn: 1. integreiddio r disgyblion i sicrhau dosbarthiadau gallu cymysg ym Mlwyddyn 7 gan annog y defnydd o dasgau gwahaniaethol addas lle bynnag bo r angen yn codi a lle bynnag bo n bosib, 2. ar gyfer y pynciau craidd, sefydlu grŵp bach o Flwyddyn 8 ymlaen, sy n galluogi r disgyblion ag anawsterau i gael mwy o sylw a chefnogaeth, ac i weithio ar gyflymder mwy addas i w galluogi i gyflawni eu potensial, 3. cyflogi Cyd-gysylltydd ADY a fydd yn: 1. darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i r athrawon ar ddisgyblion penodol ag anawsterau addysgiadol amrywiol, 2. gwerthuso profiadau addysgol disgyblion ag anawsterau dysgu a monitro darpariaeth yr ysgol ar hyn, 3. gweithredu fel dolen-gyswllt rhwng y plant, y rhieni, yr ysgol a r holl weithwyr/asiantaethau arbenigol, 4. trefnu r system Cynlluniau Addysg Unigol, 4. cynnal dulliau asesu ar draws y cwricwlwm sy n cydnabod gwendidau a chryfderau disgyblion ag anghenion addysgol ychwanegol, tracio cynnydd y disgyblion hynny a gosod targedau addas er mwyn hyrwyddo datblygiad pellach, 5. cydnabod bod llais gan y disgybl unigol wrth drafod ei anghenion addysgol, 6. derbyn fod pob athro yn athro ADY a phob aelod o r staff â chyfraniad pwysig i addysg disgyblion ag ADY o fewn yr ysgol. Ar y foment, mae 245 o n disgyblion ar gofrestr ADY yr ysgol. Fe agorwyd Uned Addysg Arbennig o fewn yr ysgol ym Medi 2009. Mae r uned yma n cynnig darpariaeth i uchafswm o naw o ddisgyblion ag anawsterau dysgu cyffredinol. Nôd Y Tŷ, yw cynnig darpariaeth arbenigol, benodol i r disgyblion o fewn awyrgylch tawel, cartrefol, wrth hybu hyder ac annibyniaeth y disgyblion. Mae gan yr uned bolisi o integreiddio cryf, ac fe roddir pob cyfle i holl ddisgyblion Y Tŷ i ymgymryd â gwersi a gweithgareddau o fewn y prifffrwd. IECHYD A DIOGELWCH Trwy weithio mewn partneriaeth â r Awdurdod ac eraill, y mae r ysgol yn ffocysu ar gydymffurfio gyda holl ofynion statudol Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod disgyblion, staff ac ymwelwyr yr ysgol yn ddiogel ar bob achlysur. Y mae gan yr ysgol Bolisi Iechyd a Diogelwch sy n cael ei ddiwygio n flynyddol. Yn ogystal, mae r ysgol yn ymrwymo i bolisi o Fwyta n Iach, ac o ganlyniad rydym wedi lleihau ar argaeledd bwydydd megis sglodion yn y ffreutur. Hefyd, y mae r ffreutur yn cydymffurfio yn llwyr a chanllawiauy Bwyta n Iach Llywodraeth Cymru.

CHWARAEON Mae'r Llywodraethwyr o'r farn y gwireddwyd prif nodau chwaraeon yr ysgol yn ystod y flwyddyn, sef bod y disgyblion yn cael y cyfle i: 1. fwynhau amrediad eang o weithgareddau, gyda chyfleoedd cyfartal, 2. fagu hunan hyder wrth gyd-chwarae ag eraill, 3. ddatblygu eu sgiliau fel unigolion ac fel aelodau o dîm. Cynigir y gweithgareddau canlynol: pêl-rwyd, hoci, pêl-droed merched a bechgyn, rygbi merched a bechgyn, pêl-fasged, gymnasteg, dawns, nofio, traws gwlad, athletau, rownderi, pêl-fâs, tenis, criced, golff, pêl-bluen, pêl-foli, aml-gampfa, lacrosse, sgïo, gweithgareddau awyr agored. Penodwyd Gavin Lewis fel Swyddog Hybu Chwaraeon a Ffitrwydd yr ysgol, dan nawdd Llywodraeth Cymru, gyda r brîff penodol o gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd chwaraeon a gwneud y maes yn fwy deniadol fyth i gylch ehangach o ddisgyblion. Cyniga Mr Lewis amrediad eang o chwaraeon amgen, yn eu plith y canlynol: dringo, syrffio, mynydd-fwrddio, canŵio, sglef-fyrddio, ffensio, dodgeball, saethyddiaeth, golff a dawns. ANABLEDD Y mae r Llywodraethwyr yn ymroddedig i sicrhau cydraddoldeb i bob person anabl sy n defnyddio safle r ysgol. Yn sgil hyn, y mae gan yr ysgol Gynllun Cydraddoldeb Strategol gyda r bwriad o wella darpariaeth yr ysgol. Adolygir y Cynllun yn flynyddol a c o g a n l y n i a d y mae gan yr ysgol gofnod o anableddau rhanddeiliaid a gwnaed camau arwyddocaol wrth adnewyddu, trwy raglen barhaus, y drysau, adeiladau, rampiau mynediad, ac yn y blaen. Bwriada r ysgol barhau i weithio n ddyfal dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau mwy o gydraddoldeb anabledd. ADEILADAU A MATERION Y SAFLE Rydym bellach wedi catrefu myfyrywr Bl.12/13 yn adeiladau Canolfan y Chweched Dosbarth newydd gerllaw. Mae r adeiladau wedi eu haddasu i gynnwys canolfan astudio, ynghyd â Lolfa a chaffi ar wahân, gydag ystafelloedd dysgu pynciau galwedigaethol (14-19) hefyd yn gynwysedig yn yr adeiladau. Yn ogystal, rydym bellach wedi derbyn y caban dwbl newydd sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan y Chweched sydd yn gwasanaethu fel ystafelloedd addysgu Iechyd a Gofal a thiwtorial Addysg Gorfforol. Mae Caban Seicoleg hefyd ar y safle. Y mae swît TG hefyd wedi addasu ar dir prif adeilad yr ysgol fel dwy ystafell addysgu ac yn yr un modd ystafelloedd Mathemateg 2 a 3 bellach wedi eu rhannu gan wal barhaol i gymryd lle r pared symudol. Rydym hefyd wedi gosod camerâu CCTV ar draws y safle, dros 65 ohonynt, er mwyn gwella safonau diogelwch a gofal yn gyffredinol yn ogystal a gosod cloeon mag-lock ar y gatiau allanol er mwyn diogelu r safleoedd i gyd a chynnal sefyllfa ysgol dan glo yn ystod y diwrnod ysgol. Yn ychwanegol i hyn oll, rydym wedi agor ein derbynfa newydd, sef yr unig fynedfa bellach i'r safle gyda chaniatâd. Rydym wedi gwario ar wella ardal y MUGA, gwella sgert y cabanau ar y safle, ymgymryd â gwaith gwella a glanhau er mwyn datrys problem glendid ar y safle. Rydym hefyd wedi ymgymryd â gwaith i nenfydau a thoeon y dderbynfa newydd, toiledau r bechgyn a swyddfa y Dirprwy. Felly mae yna welliannau sylweddol yn cymryd lle, rhai wedi eu cwblhau ac eraill ar y gweill megis datblygu r ystafelloedd addysgu Bwyd. Diolchwn i bawb yr effeithir gan y newidiadau am eu cyfraniad a u hamynedd dros gyfnod anodd o waith. TOILEDAU R YSGOL/DŴR YFED Y mae gan yr ysgol nifer ddigonol o doiledau yn seiliedig ar niferoedd disgyblion. Lleolir toiledau yn y rhan fwyaf o brif flociau addysgu r ysgol. Y mae gan yr ysgol hefyd doiledau digonol i ymateb i nifer y staff. Glanheir y toiledau n ddyddiol gan Wasanaethau Glanhau r Awdurdod Lleol. Arolygir cyflwr y toiledau n ddyddiol gan lanhawyr a staff y safle. Darperir adnoddau toiled allan o gyllid yr ysgol. Y mae gan y rhan fwyaf o r toiledau sychwyr dwylo electronig. Hefyd, y mae ffynhonnell o ddŵr yfed glân ar gael i ddisgyblion a staff yr ysgol ar bob adeg o r diwrnod ysgol.

CYRCHNODAU DISGYBLION 16 oed Medi 2016/17 Cyrchnodau Disgyblion 16 oed 2015-16 Cyrchnodau Disgyblion 16 oed 2016-17 Nifer y disgyblion 15 oed 149 Parhau mewn addysg llawn amser - Ysgol 92 Parhau mewn Addysg Llawn Amser - Coleg 48 Cyflogedig 0 Wedi u cyflogi gydag hyfforddiant 2 Yn derbyn hyfforddiant ond heb eu cyflogi 7 Heb fod mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant 0 Nifer y disgyblion 15 oed 119 Parhau mewn addysg llawn amser - Ysgol 77 Parhau mew Addysg Llawn Amser - Coleg 40 Cyflogedig 0 Wedi u cyflogi gydag hyfforddiant 0 Yn derbyn hyfforddiant ond heb eu cyflogi 1 Heb fod mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant 1 YSTADEGAU SWYDDOGOL PRESENOLDEB DISGYBLION 11-16 YN 2016/2017 Blwyddyn Nifer y Disgyblion Presenoldeb (%) 7 159 96.0 8 144 96.0 9 156 95.6 10 127 95.5 11 119 93.8 Ysgol Gyfan 7-11 705 95.5 Absenoldeb Heb Awdurdod: 0.5% Pob Absenoldeb: 4.5% AMSERAU R DYDD Diwrnod Arferol 8.30 Cyfarfod Athrawon; 8.35 Bysiau n Cyrraedd; 8.40 Cofrestru/Bugeiliol/Gwasanaeth; 9.00 Gwers 1; 9.50 Gwers 2; 10.40 Egwyl; 11.00 Gwers 3; 11.50 Gwers 4; 12.40 Cinio; 1.40 Cofrestru a Gwers 5; 2.30 Gwers 6; 3.20 diwedd Gwers 6. DYDDIADAU TYMHORAU A GWYLIAU R YSGOL 2017/18 Gwyliau Hanner Tymor Tymor Dechrau o i Diwedd Diwrnodau Hydre f 2017 Gwanwyn 2018 Llun 4 Medi Mawrth 8 Ionawr Llun 30 Hydref Llun 19 Chwefror Gwener 3 Tachwedd Gwener 23 Chwefror Gwener 22 Rhagfyr Iau 29 Mawrth 75 54 Haf 2018 Llun 16 Ebrill Llun 28 Mai Gwener 1 Meh Gwener 24 Gorffennaf 66 Cyfanswm 195 Bydd yr ysgol ar gau ar y dyddiadau canlynol ar gyfer Hyfforddiant Mewn Swydd/Gwaith Paratoi ar:- 4 Medi 2017, 17 Tachwedd 2017, 16 Chwefror 2018, 23+24 Gorffenaf 2018 Bydd Gŵyl Calan Mai ar Llun, 7fed Mai 2018

MANYLION CYLLIDOL (Ebrill 2016 - Mawrth 2017) Am fanylion cyllideb yr ysgol yn 2016-17 gweler yr Atodiad sydd wedi ei ddarparu n uniaith Saesneg gan yr Awdurdod. Unwaith eto, ni hawliwyd unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth gan aelodau'r Corff Llywodraethol. Er hynny, dymuna r Llywodraethwyr estyn llawer o ddiolch i r ysgol am ddarparu lluniaeth ysgafn o de/coffi a bisgedi gogyfer â chyfarfodydd y Corff Llywodraethol gwerthfawrogir hyn yn fawr. Diolchwn i Ffrindiau Gŵyr am eu gwaith cyson i godi arian ac am eu cyfraniad rheolaidd gwerthfawr tuag at offer/adnoddau a brynwyd fel rhan o Gynllun Datblygu r ysgol. Hoffwn hefyd ddatgan ni dderbyniwyd unrhyw fuddiannau ariannol neu gymwynasau gan Lywodraethwyr/Staff yr ysgol yn 2016-17. ARHOLIADAU ALLANOL 2017 Llongyfarchiadau mawr i holl staff a disgyblion yr ysgol am yr holl waith caled a wnaed i ennill canlyniadau gyda r gorau yng Nghymru. Eleni, gweler yr Atodiad am fanylion llawn y canlyniadau fel ei gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. GORCHESTION DIWYLLIANNOL A CHWARAEON 2016-17 Estynnwn longyfarchiadau mawr i ddisgyblion yr ysgol ar eu gorchestion ysgubol ym meysydd diwylliannol a chwaraeon eto yn 2016/17. Diolchwn hefyd i r staff am eu gwaith caled iawn i hybu r holl weithgareddau ac am roi o u hamser prin, yn aml iawn ar ôl oriau arferol y diwrnod ysgol. Gweler yr Atodiad am fanylion llawn.

CCS Budget Monitoring NA SA Date:11-OCT-2017 11:14:58 CCS Services Current Period:ADJ117 Page:1 Currency: GBP Service=451 (Schools Delegated), Cost Centre=46872 (Ysgol Gyfun Gwyr) Natural Account Sub-Analysis --------------------------------------------- --------------------------------------------- Budget Actual Variance Budget Variance YTD YTD YTD Full Year Employees Detail 000001 Salaries Basic Pay 00000 n/a 0.00 432,326.95 (432326.95) 0.00 (432326.95) 000002 Salaries NI 00000 n/a 0.00 37,614.67 (37614.67) 0.00 (37614.67) 000003 Salaries Pension 00000 n/a 0.00 82,838.48 (82838.48) 0.00 (82838.48) 000004 Salaries Overtime 00001 Overtime @ 1 0.00 538.05 (538.05) 0.00 (538.05) 000004 Salaries Overtime 00004 Overtime @ 1.3333 0.00 1,091.42 (1091.42) 0.00 (1091.42) 000005 Salaries Sick 00000 n/a 0.00 51.07 (51.07) 0.00 (51.07) 000008 Additional Hours 00000 n/a 0.00 37,315.31 (37315.31) 0.00 (37315.31) 000041 Teachers Basic Pay 00000 n/a 0.00 2,027,691.67 (2027691.67) 0.00 (2027691.67) 000041 Teachers Basic Pay 00036 Ex Employees 0.00 3,135.18 (3135.18) 0.00 (3135.18) 000042 Teachers NI 00000 n/a 0.00 224,102.07 (224102.07) 0.00 (224102.07) 000043 Teachers Pension 00000 n/a 0.00 335,443.82 (335443.82) 0.00 (335443.82) 000045 Teachers Sick 00000 n/a 0.00 1,127.73 (1127.73) 0.00 (1127.73) 000051 Teachers Relief Teaching 00000 n/a 0.00 5,821.87 (5821.87) 0.00 (5821.87) 000053 Teachers Part Time 00000 n/a 0.00 257.01 (257.01) 0.00 (257.01) 000151 Employee Allowances 00000 n/a 0.00-182.00 182.00 0.00 182.00 EMPLOYEES 0.00 3,189,173.30 (3189173.30) 0.00 (3189173.30) Premises Detail 100001 Fixtures & Fittings Purchase 00000 n/a 0.00 3,955.94 (3955.94) 0.00 (3955.94)

100023 Premises Maintenance 00000 n/a 0.00 31,122.42 (31122.42) 0.00 (31122.42) 100044 Premises Security 00000 n/a 0.00 1,644.50 (1644.50) 0.00 (1644.50) 100065 Electricity 00000 n/a 0.00 21,608.61 (21608.61) 0.00 (21608.61) 100066 Gas 00000 n/a 0.00 6,165.25 (6165.25) 0.00 (6165.25) 100091 Water & Sewerage 00000 n/a 0.00 5,204.75 (5204.75) 0.00 (5204.75) 190021 Grounds Maint Recharges 00000 n/a 0.00 5,765.26 (5765.26) 0.00 (5765.26) PREMISES 0.00 75,466.73 (75466.73) 0.00 (75466.73) Transport Detail 200021 Vehicle Maintenance 00000 n/a 0.00 780.08 (780.08) 0.00 (780.08) 200045 Vehicle Fuel 00000 n/a 0.00 634.82 (634.82) 0.00 (634.82) 200047 Vehicle Licenses/Certificates 00000 n/a 0.00 633.00 (633.00) 0.00 (633.00) 200070 Car Allowances 00000 n/a 0.00 4,064.79 (4064.79) 0.00 (4064.79) 200071 Staff Transport Other 00000 n/a 0.00 28.20 (28.20) 0.00 (28.20) 200999 Schools Transport Delegated 00000 n/a 0.00 11,702.64 (11702.64) 0.00 (11702.64) TRANSPORT 0.00 17,843.53 (17843.53) 0.00 (17843.53) Supplies & Svcs Detail 300090 Hotel Accommodation 00000 n/a 0.00 15.75 (15.75) 0.00 (15.75) 300091 Staff Expenses 30603 Subsistence 0.00 174.05 (174.05) 0.00 (174.05) 300099 Telephone Rentals/Charges 00000 n/a 0.00 6,274.98 (6274.98) 0.00 (6274.98) 300109 Postage & Carriage 00000 n/a 0.00 2,914.27 (2914.27) 0.00 (2914.27) 300129 Books & Publications 00000 n/a 0.00 4,473.77 (4473.77) 0.00 (4473.77) 300151 Reprographic Services 00000 n/a 0.00 26,512.23 (26512.23) 0.00 (26512.23) 300433 Miscellaneous Expenses 00000 n/a 0.00 608,266.77 (608266.77) 0.00 (608266.77) SUPPLIES & SERVICES 0.00 648,631.82 (648631.82) 0.00 (648631.82) Internal Debits Detail 700001 Inter Service Debits 00000 n/a 0.00 150,707.40 (150707.40) 0.00 (150707.40) INTERNAL DEBITS 0.00 150,707.40 (150707.40) 0.00 (150707.40) GROSS EXPENDITURE 0.00 4,081,822.78 (4081822.78) 0.00 (4081822.78) Income Detail 800049 Grants Other Orgs 00000 n/a 0.00-115,373.95 115373.95 0.00 115373.95 800051 Grants WAG 00000 n/a 0.00-3,656.00 3656.00 0.00 3656.00

800072 Investment Income 00000 n/a 0.00-1,310.26 1310.26 0.00 1310.26 800236 Miscellaneous Income 00000 n/a 0.00-319,845.34 319845.34 0.00 319845.34 INCOME 0.00-440,185.55 440185.55 0.00 440185.55 NET EXPENDITURE 0.00 3,641,637.23 (3641637.23) 0.00 (3641637.23)

CCS Budget Monitoring NA SA Date:11-OCT-2017 11:12:12 CCS Services Page:1 Current Period:ADJ117 Currency: GBP Project=468872 (Ysgol Gyfun Gwyr) Natural Account Sub-Analysis --------------------------------------------- --------------------------------------------- Budget Actual Variance Budget Variance YTD YTD YTD Full Year Employees Detail 000001 Salaries Basic Pay 00000 n/a 0.00 68217.21 (68217.21) 0.00 (68217.21) 000002 Salaries NI 00000 n/a 0.00 797.45 (797.45) 0.00 (797.45) 000003 Salaries Pension 00000 n/a 0.00 10204.72 (10204.72) 0.00 (10204.72) 000005 Salaries Sick 00000 n/a 0.00 3810.80 (3810.80) 0.00 (3810.80) 000006 Salaries Maternity Pay 00000 n/a 0.00 164.44 (164.44) 0.00 (164.44) 000008 Additional Hours 00000 n/a 0.00 2616.43 (2616.43) 0.00 (2616.43) 000041 Teachers Basic Pay 00000 n/a 0.00 33.00 (33.00) 0.00 (33.00) 000042 Teachers NI 00000 n/a 0.00 1730.95 (1730.95) 0.00 (1730.95) 000043 Teachers Pension 00000 n/a 0.00 3336.22 (3336.22) 0.00 (3336.22) 000046 Teachers Maternity Pay 00000 n/a 0.00 7864.57 (7864.57) 0.00 (7864.57) 000201 Long Service Awards 00000 n/a 0.00 391.21 (391.21) 0.00 (391.21) 000231 Pensions 00034 Capitalised Pension 0.00 968.54 (968.54) 0.00 (968.54) 000293 Redundancy 00000 n/a 0.00 14391.93 (14391.93) 0.00 (14391.93) EMPLOYEES 0.00 114527.47 (114527.47) 0.00 (114527.47) Transport Detail 200095 Schools Transport 20302 Contracted Local Bus Services 0.00 37888.01 (37888.01) 0.00 (37888.01) 200095 Schools Transport 20303 Mainstream Contracts 0.00 471862.66 (471862.66) 0.00 (471862.66) 200095 Schools Transport 20304 Season Tickets 0.00 2198.00 (2198.00) 0.00 (2198.00) 200095 Schools Transport 20305 SEN Contracts 0.00 5407.08 (5407.08) 0.00 (5407.08) 200095 Schools Transport 20308 Other Statemented Pupils 0.00 31412.80 (31412.80) 0.00 (31412.80)

200095 Schools Transport 20310 STF Transport 0.00 2554.64 (2554.64) 0.00 (2554.64) TRANSPORT 0.00 551323.19 (551323.19) 0.00 (551323.19) GROSS EXPENDITURE 0.00 665850.66 (665850.66) 0.00 (665850.66) Income Detail 800113 Recharges External Services 81602 Cleaning External 0.00 (81248.54) 81248.54 0.00 81248.54 800212 Sales Income 83257 School Transport Spare Seats 0.00 (2929.96) 2929.96 0.00 2929.96 INCOME 0.00 (84178.50) 84178.50 0.00 84178.50 NET EXPENDITURE 0.00 581672.16 (581672.16) 0.00 (581672.16)

Cymwysterau Allanol a Gynigir Mae r ysgol yn cynnig dewis eang o gyrsiau TGAU, Safon Uwch, Uwch Gymhwysol a r BAC Cymreig yn ogystal â rhai cyrsiau Tystysgrif Llwybrau Mynediad a rhai Cyrsiau Galwedigaethol eraill. Polisi r ysgol yw i annog pob disgybl oed 16 i ennill tystysgrif TGAU neu gymhwyster cyfatebol ac ymfalchïwn yn y ffaith i agos i 100% lwyddo i wneud hynny yn rheolaidd. Y Canlyniadau Lefel Mynediad, TGAU, Lefel A, Galwedigaethol Yng Nghyfnod Allweddol 4 rydym yn cynnig cyrsiau sy n arwain at amrywiaeth o gymwysterau. Polisi r ysgol yw fod pob plentyn sy n dymuno gwneud hynny, yn cael sefyll arholiad TGAU. Nid ydym yn gweithredu polisi gwahaniaethu yn yr ysgol hon. Eleni, er enghraifft, roedd y disgyblion ar gyfartaledd wedi sefyll arholiadau mewn 10 pwnc TGAU. Cynigir amrywiaeth helaeth o bynciau Safon A ynghyd â chyrsiau Uwch Gymhwysol a Galwedigaethol ynghyd â r BAC Cymreig. Crynodeb o n Canlyniadau Canran y bechgyn, merched a disgyblion sy'n cyflawni'r lefel disgwyliedig o leiaf (Lefel 5+): Cyfnod Allweddol 3 Ysgol 2017 Bechgyn Merched Disgyblion ALl 2017 Cymru 2017 Ysgol 2017 ALl 2017 Cymru 2017 Ysgol 2017 ALl 2017 Saesneg 88 87 87 96 96 94 92 91 90 Cymraeg 96 95 91 96 96 96 96 95 94 Mathemateg 96 88 89 96 94 93 96 91 91 Gwyddoniaeth 94 89 91 96 95 96 96 92 94 Cymru 2017 DPC 92 84 84 96 93 91 94 88 87 26

Crynodeb o Gyrhaeddiadau Ysgol TGAU 2016/17 Ysgol 2016/17 Ardal ALl 2016/17 Cymru 2016/17 Gofrestrodd am o leiaf un cymhwyster Enillodd drothwy Lefel 1 Enillodd drothwy Lefel 2 Enillodd drothwy Lefel 2 gan gynnwys TGAU mewn Saesneg neu Cymraeg iaith gyntaf a mathemateg Sgôr bwyntiau gyfartalog 9 fesul disgybl wedi'i chapio (2) Sgôr bwyntiau gyfartalog ehangach fesul disgybl wedi'i chapio (2) Sgôr bwyntiau gyfartalog eang am bob disgybl 100 99 87 79 401 368 543 100 95 70 58 361 334 456 99 94 67 55 350 325 456 (2) Cyfrifir drwy ddefnyddio yr 8/9 canlyniad gorau. Lefel A 2016/17 Ysgol 2016/17 Ardal ALl 2016/17 Cymru 2016/17 Ysgol 15/16/17 Ysgol 14/15/16 Nifer y disgyblion 17 oed a oedd ar y gofrestr yn Ionawr 2017: 54 Canran y disgyblion 17 oed a gofrestrodd am gyfaint o ddysgu yn gyfartal i 2 lefel A ac yn ennill y trothwy Lefel 3 Sgôr bwyntiau gyfartalog eang am bob disgybl 17 oed Nifer y bechgyn 17 oed a oedd ar y gofrestr yn Ionawr 2017: 25 Canran y disgyblion 17 oed a gofrestrodd am gyfaint o ddysgu yn gyfartal i 2 lefel A ac yn ennill y trothwy Lefel 3 Sgôr bwyntiau gyfartalog eang am bob disgybl 17 oed Nifer y merched 17 oed a oedd ar y gofrestr yn Ionawr 2017: 29 Canran y disgyblion 17 oed a gofrestrodd am gyfaint o ddysgu yn gyfartal i 2 lefel A ac yn ennill y trothwy Lefel 3 Sgôr bwyntiau gyfartalog eang am bob disgybl 17 oed 100 767 100 657 100 861 95 693 94 630 96 762 97 733 96 683 98 776 99 868 97 796 100 936 99 897 98 859 100 929 28

Gorau Gŵyr 2016/2017

Dathlu Llwyddiannau Disgyblion Ysgol Gyfun Gwŷr Bu 2016 / 2017 yn flwyddyn arall o lwyddiannau ysgubol i ddisgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr mewn gweithgareddau allgyrsiol dirifedi. Diolch i r holl staff sy n gwirfoddoli ac yn ymroi mor ddiflinio i ddiogelu bod disgyblion ein hysgol yn cael mynediad i r fath amrediad cyfoethog ac eang o weithgareddau amrywiol. Cyfranna hyn gymaint at les emosiynol, hyder a datblygiad sgiliau ein disgyblion. Mae r llwyddiannau yn anhygoel a dyma flas i chi o dalent cynhenid ein plant ni! AR Y MAES CHWARAEON Y CWRT PÊL RWYD LEFEL CENEDLAETHOL A CHAP I GYMRU Rhian Evans Bl.11- Carfan Cymru dan 17eg oed Carys R.Evans ac Ellie Thomas Bl.11 Carfan Ddatblygu Cymru o dan 17eg oed LEFEL SIROL Lowri Haf Thomas Bl.12 Carfan dan 18 y Sir Abertawe Rhian Evans, Ellie Thomas, Carys R Evans, Rosa Humphreys, Megan Davies, Anna Melmouth, Molly James Carfan dan 16eg y Sir Tate Mellor, Laurel Hunt, Carys Underdown, Ellie Chahal, Alex Mcfadsean, Madison a Jamie Holland Carfan y Sir dan 14. Medi Thomas, Elin Griffith, Rosie Davies, Carys Underdown, Ellie Romanello, Emily Hardingham Carfan Datblygu dan 14 y Sir. TIMOEDD Tim dan 16 yr ysgol yn ennill Cwpan y Sir eto eleni gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru yng Nghwmbran (Carys Evans, Rhian Evans, Ellie Thomas, Ebony Brown, Rosa Humphreys, Elin Ohlsson Jones, Madryn N Scozzi, Anna Melmouth, Megan Davies) Enillodd tîm pêl rwyd dan 16 gystadleuaeth Cymru - Twrnament Anne Smart am yr ail flwyddyn yn olynnol. Tipyn o gamp. BYD GYMNASTEG Mari Davies Bl.12 - Tîm Acro (gymnasteg) Cymru.

Y CAE ATHLETAU ATHLETAU R SIR AFAN NEDD TAWE Tîm bechgyn Iau yr ysgol Bl.8 a 9 ail ym mhencampwriaeth y Sir. Tîm bechgyn canol yr ysgol Bl.10 a 11 ennill pencampwriaeth y Sir. Tîm merched Iau yr ysgol Bl.8 a 9 ennill pencampwriaeth y Sir. Tîm bechgyn canol yr ysgol Bl.10 & 11 ennill pencampwriaeth y Sir. Daeth Catrin Poole Bl.8 yn gyfartal â record y sir yn y clwydi a r naid hir a churodd Jamie Holland Bl.9 record y Sir yn y pwysau. CYSTADLEUAETH ATHLETAU Y NASUWT Bechgyn Iau Bl.7-8 - 3ydd ar 51 pwynt Merched Iau Bl.7-8 -1af ar 70 pwynt Bechgyn Canol Bl.9-10 - 2ail ar 60 pwynt Merched Canol Bl.9-10 - 2ail ar 61 pwynt Aeth y Merched Iau ymlaen i rownd derfynol y brif gystadleuaeth yn Aberhonddu. Aeth y Bechgyn a r Merched Canol Bl.9-10 drwyddo i'r rownd derfynol y Plât yn Aberhonddu. Dyma r trydydd tro yn olynol i 3 o n timau allan o 4 gamu ymlaen i r rownd derfynol yn Aberhonddu ac fel ysgol, dathlwn eu llwyddiant. MABOLGAMPAU YSGOL 2017 Unwaith eto eleni, cynhaliwyd mabolgampau rhyng-lysol yr ysgol ar faes athletau Prifysgol Abertawe yn Heol Ashleigh ar ddechrau mis Mehefin. Cafwyd gwledd o gystadlu wrth i r disgyblion gymryd rhan mewn ystod o gystadlaethau yn amrywio o rasys trac i gystadlaethau taflu a neidio. Ymhlith uchafbwyntiau r dydd oedd gweld nifer o r recordiau n cael eu torri. Roedd rhain yn cynnwys Ella Davies Bl.7-800 medr a r 300M Anna Melmoth Bl.10 - Naid Drifflyg Dylan Morgan Bl.7 - Naid Drifflyg Elliot Riordan Bl.7 - Naid Uchel Owain Clarke Bl.8-800 medr Joshua Wilton Bl.9 -Picell Joshua Wallace Bl.10-1500 medr Peter Anson Bl.10-400M Clwydi Jamie Holland Bl.9 -Pwysau Rhaid llongyfarch Carys Poole o flwyddyn 8 yn benodol hefyd. Llwyddodd i dorri pump record sef rasys y 200 a r 300 medr, y naid hir, y naid drifflyg a r clwydi 70 metr. Tipyn o gamp!!

Y MAES HOCI Ioan Wall Bl.12 - Carfan Ymarfer Hoci Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd nesaf sef Tokyo 2020. Ellie Chahal - Tîm Hoci y Sir o dan 15eg Eva Bankroft - Tîm Hoci y Sir o dan 14eg Cadi Poulton, Tim Hoci Sir Abertawe. Joseff Moyse a Nicholas Morgan, Tîm Hoci Cymru o dan 16 Edward Morgan, Tîm Hoci Cymru o dan 18. YN Y PWLL NOFIO Mi wnaeth y canlynol ennill cystadleuaeth y Sir i i ddiogelu lle haeddiannol ym Mhencampwriaethau Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd: UNIGOLION Aneurin Davies Ben Mainwaring (broga) Rhys Edwards (pili pala, cefn) Niamh Jones (broga 5ed a chefn 3ydd). TIMOEDD Tîm cymysg cyfnewid 7/8 Tîm merched cymysg cyfnewid 7/8 Tîm merched rhydd cyfnewid 7/8 Tîm merched cymysg cyfnewid 9/10 (2il yng Nghaerdydd), Tîm cymysg cyfnewid 9/10 Tîm merched cymysg cyfnewid 11-13 (ennill yng Nghaerdydd) Tîm merched rhydd cyfnewid 11-13 (ennill yng Nghaerdydd), AR Y CAE RYGBI UNIGOLION

Llyr Gealy a Josh Thomas Bl.12 - Tîm Rygbi Rhanbarthol y Gweilch o dan 18 Louis Rees Bl.11 - Carfan y Gweilch o dan 16eg Lloyd Eaton, Alex Medicke, Thomas Mages ac Elliott Hunt Bl.10 - Tîm Ysgolion Abertawe o dan 15eg Daniel Messer - Tîm hŷn, Carys Messer Tîm o dan 18 ac Anna Melmoth Tîm o dan 15eg cymysg aelodau o Dîm Rygbi Cyffwrdd Cymru tros wyliau'r haf. Caitlin Davies aelod o garfan 7 bob ochr Cymru. Caitlin Davies a Georgia Rossi aelodau o garfan Y Gweilch TIMOEDD Tîm o dan 18 yn ennill cynghrair ardal Gorllewin y Gweilch a hynny am 3 blynedd yn olynol a heb golli gem am fwy na 2 flynedd yn y gynghrair. O ganlyniad i ennill y gynghrair aeth y tîm ymlaen i chwarae yn rownd derfynol y Gweilch yn erbyn enillwyr ardal Ddwyrain y Gweilch. Brynteg oedd y gwrthwynebwyr yn Llandarcy. Roedd y rownd derfynol yn gêm agos eto rhwng dau dîm o safon uchel ac ar ôl brwydr anodd iawn, Gŵyr oedd yn fuddugol o 16-10. Cyrhaeddodd y tîm hefyd 4 olaf Cwpan Cymu gan golli mewn gem agos iawn yn erbyn Ysgol Bro Myrddin yn y rownd gyn-derfynnol. Tîm o dan 14eg yr Ysgol - llwyddwyd i guro Ysgol Gyfun Ystalyfera yn rownd derfynol ardal Gorllewin y Gweilch ac yna aethant ymlaen i'r rownd derfynol lle daethant yn fuddugol yn erbyn Ysgol Brynteg (sef enillwyr Dwyrain y Gweilch). Mewn gem agos a chystadleuol iawn yn Llandarcy fe wnaethant ennill 17-14. Cyrhaeddodd y tîm hwn hefyd 8 olaf Cwpan Cymru a chwarae yn erbyn Ysgol Caerleon yn y rownd go-gynderfynol. Cyrhaeddodd Tîm blwyddyn 7 rownd derfynol cwpan Abertawe ond colli i Ysgol Llandeilo Ferwallt bu r hanes, yn y rownd derfynol ar gae San Helen. Enillodd Tîm blwyddyn 11 gwpan Abertawe trwy guro Ysgol Llandeilo Ferwallt yn y rownd derfynol ar gae San Helen. Derbyniodd aelodau o r Tŷ hyfforddiant Rygbi gan hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru AR Y CAE CRICED

Ellie Chahal a Madison Evans aelodau o garfan Cymru. Ieuan Davies Bl.7 - cynrychioli tîm criced Gorllewin Morgannwg Ben Thomas, Rhys James, Jac Cross a Jack Gareth Rees Bl.8 - cynrychioli tîm criced Gorllewin Morgannwg Luc Rees Bl.9 - cynrychioli tîm criced Gorllewin Morgannwg Harri Turner, Ben Rees a Nicholas Morgan Bl.10 - cynrychioli tîm criced Gorllewin Morgannwg. Ieuan Davies Bl.7 - cynrychioli tim criced Cymru o dan 12. Bu Luc Rees Bl.9 - capten ar dîm criced Cymru o dan 14 ac e wedi ei ddewis i gynrychioli tîm Cymru o dan 15. Derbyniodd Ioan Martin hyfforddiant criced gan yr ECB, a chafodd Ioan ei ddewis i gynrychioli Cymru yn erbyn Essex, Warwicksire, Derbyshire, Northamptonshire a'r Ynys Wyth. Bu Ioan yn rhan o r garfan a gafodd ei hyfforddi yn Stadiwm SWALEC. Y CAE PÊL-DROED UNIGOLION Lewis Bell Bl.7 - Tîm Ysgolion Pel-droed Abertawe Ben Thomas Bl.8 - Tîm Ysgolion Pel-droed Abertawe - capten y tîm Luc Rees Bl.9 - Tîm Ysgolion Pel-droed Abertawe Joe Lloyd a Kaiden Wheeler Bl.10 - Tîm Ysgolion Pel-droed Abertawe Ethan Davies Bl.11 Tîm Ysgolion Pel-droed Abertawe. Lowri Baker - sgwad Cymru o dan 15 Carys Richards Evans - aelod o garfan y Elyrch. TIMOEDD Tîm pêl-droed o dan 18 yr ysgol yn cyrraedd 16 olaf Cymru am y tro cyntaf erioed. Er mai colli bu'r hanes yn erbyn tîm cryf iawn o'r Eglwys Newydd, mae'r tîm yn haeddu tipyn o glod am eu llwyddiant eleni wrth iddynt ennill pob un o'u pum gem yn arwain i fyny at rownd yr 16 olaf. Y TRAC TRAWS GWLAD

Caitlyn Gwyther ac Eluned King wedi cynrychioli Cymru o dan 15eg oed ym marathon bach Llundain am yr ail flwyddyn! Caitlyn wedi dewis i dîm traws gwlad Cymru o dan 17oed a hi ond ym mlwyddyn 9! Bu'r canlynol yn cynrychioli Sir ANT yng nghystadleuaeth Cymru yn Aberhonddu:- Blwyddyn 7 Ella Morgan 4ydd Aled Tumelty 53 Ieuan Davies 62 Osian Fitzgerald Davies 71 Enillodd tîm bechgyn blwyddyn 7 gystadleuaeth y Sir ym Mharc Margam. Daeth Bl.7 yn ail yn y ras sirol. Blwyddyn 8 a 9 Mirain Lloyd 54 Gabrielle Garcia 60 Blynyddoedd 10-13 Josh Wallace 35 Eluned King 2 Roseanne Garcia 63 Dewiswyd Aled Tumelty, Ieuan Davies, Osian Fitzgerald-Davies a Dylan Morgan Bl.7, Joshua Wallace Bl.10 a Joseph Garcia Bl.11 i dîm trawsgwlad y sir yn seiliedig ar eu perfformiad yn ras trawsgwlad y sir ym Mharc Margam gan iddynt ddod yn 12 cyntaf yn sir. Aethant ymlaen i gystadlu ym Mhencampwriaeth Trawsgwlad Cymru yn Aberhonddu. Y TRAC SEICLO

Eluned King - Cynrychioli Cymru ar Daith yr Alban dan16eg oed. Daeth yn AIL ym mhencampwriaeth Seicl Cross Prydain ac yn aelod talentog o Garfan Beicio Mynydd a Beicio Ffordd Cymru dan 16eg oed. AR Y CWRT BADMINTON Elis Richards Bl.13 - yng ngharfan Cymru YN Y SGWÂR JUDO Ffion Robinson yn nhîm Cymru o dan 16eg oed. Cynrychiolodd Ffion, Gymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad ar ddiwedd Mehefin. DAWNSIO GWYDDELIG Chloe Hopkins Bl.11 yn cynrychioli Cymru mewn Dawnsio Gwyddelig. GWOBR DUG CAEREDIN Cafwyd blwyddyn lwyddiannus unwaith eto gyda Grŵp Gwobr Dug Caeredin. Llwyddodd 65 o ddisgyblion bllwyddyn 10 i gwblhau r alldaith Efydd ar Benrhyn Gŵyr. Yn ogystal â r alldaith ymdrechwyd dros gyfnod o 6 mis i ddysgu sgiliau newydd, cyfranogi mewn gweithgareddau corfforol ac i wirfoddoli yn y gymuned. Ymrwymodd 19 o fyfyrwyr y Chweched i gyflawni r Wobr Aur eleni. Cafwyd y tywydd gwaethaf posib yn ystod yr alldaith ac roedd her yr alldaith yn dipyn o sialens. Serch hynny llwyddodd pawb i gwblhau r alldaith mewn amser ac ymddangosodd yr haul ar ddiwedd y diwrnod olaf! Maent wrthi n parhau i weithio ar gyflawni'r adrannau gwirfoddoli, gweithgareddau corfforol a sgiliau a chymer tua 18 mis i o ddycnwch a dyfalbarhad i gwblhau r wobr. Pob hwyl iddynt!

AR Y LLWYFAN DIWYLLIANNOL EISTEDDFOD YR URDD OGWR, TAF AC ELAÍ 2017 Cynrychiolodd pob un o r disgyblion isod yr Ysgol yn wych, gan roi o u gorau mewn cyd-destun cenedlaethol. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac aelodau o staff yr ysgol a fu wrthi yn ddygn yn paratoi y disgyblion am fisoedd. Carys Underdown (Telyn) Mirain Lloyd (Chwythbrennau) Criw ymgom Bl.9 Parti Bechgyn Iau Elin Griffiths (Llinynnol), Elin Roles (Piano), Mirain Francis (Llefaru) Matthew Lewis (Unawd Bechgyn), yr Ensemble Lleisiol Bl.10-13 Côr SA 7-9 Grwp Llefaru Bl.10-13 Cesia Rees (Telyn) Manon a Ffion Pirotte (Deuawd Cerdd Dant) Grwp Cerdd Dant Bl.10-13 Côr Gwerin Tri Llais odan 18oed Ensemble Offerynnol Blwyddyn 10+. Llwyddodd y Gân Actol 7 9 i gipio r 3edd wobr Cipiodd yr Ensemble Offerynnol y 3edd wobr Enillodd Imogen Edwards (Piano) y 3edd wobr. SERENNU AR Y SGRÎN INTO FFILM Ers blwyddyn a hanner, bu Molly James o Fl.11 yn ohebydd ifanc gyda INTO FILM ac yn ystod ei chyfnod gohebu gwnaeth Molly gyfweld gyda rhai o sêr mawr y diwydiant ffilm yn cynnwys Eddie Izzard ac Owen Wilson o r ffilm CARS 3. Yn ddiweddar bu n cyfweld â r actor Cymraeg enwog Rhys Ifans cyn cadeirio sesiwn holi ac ateb rhwng yr actor a 200 o bobl ifanc! Bwriad Molly nawr yw cychwyn clwc INTO FFILM yn yr ysgol er mwyn cynnig i eraill y profiadau bythgofiadwy a dderbyniodd hi.

BWLETIN YSGOL / SCHOOL REPORT Bob blwyddyn, mae r BBC yn cynnal diwrnod School Report, sy n rhoi cyfle i ddisgyblion i weithio fel newyddiadurwyr. Rhaid i r disgyblion chwilio am straeon addas, eu hymchwilio n fanwl a u hysgrifennu. Yna caiff y gwaith terfynol ei gyhoeddi ar wefan y BBC. Bu disgyblion Blwyddyn 9 yn ddiwyd iawn ar y diwrnod hwn, gan lunio nifer o erthyglau gwahanol. Gwahoddwyd nifer o bobl leol yn cynnwys Claire Scott o orsaf radio The Wave a Kate Jenkins, perchennog Gower Cottage Chocolate Brownies. Yn ogystal â hyn, cafwyd cyfweliad gyda r actorion Aled Bidder a Caryl Morgan (sydd hefyd yn rhai o n cyn-ddisgyblion). Cafodd pob un disgybl brofiadau hwylus dros ben. Y LLWYFAN YR ADRAN DDRAMA Ym mis Tachwedd bu r adran Ddrama unwaith eto yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Shakespeare genedlaethol i ysgolion dan arweiniad Lydia Jones, Pennaeth yr Adran Ddrama. Cyflwynwyd cynhyrchiad ardderchog o A Winter s Tale. Disgyblion talentog Bl.10 ac 12 a fu wrthi yn perfformio yn Theatr y Taliesin a rhaid eu llongyfarch hwy yn wresog ar berfformiad safonol iawn. EISTEDDFOD YSGOL GYFUN GŴYR Yn sicr, mae Eisteddfod Ysgol Gyfun Gŵyr yn un o uchafbwyntiau diwylliannol yr ysgol a doedd eleni ddim yn eithriad. Cynhaliwyd yr eisteddfod yng nghampfa r ysgol gyda r holl ddisgyblion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gystadlaethau r diwrnod. Cafwyd amrywiaeth eang o gystadlaethau yn cynnwys perfformiad o gân draddodiadol Gymreig, partïon llefaru amrywiol a phantomeim yn seiliedig ar chwedl Gymraeg tipyn o sbort! Yn ogystal â hyn, perfformiodd y corau llys gân y band Maharishi Ty ar y Mynydd. Y BYD CERDDOROL Dyma ddetholiad o weithgarwch diflino corau a cherddorfeydd yr ysgol ers dechrau Medi 2016: Côr Iau yn canu yn Gymanfa Ganu Hope Siloh, Pontarddulais Côr Iau - canu yng Ngwasanaeth Goffa Sir Abertawe - "Silence in the Square" - Sgwar y Castell Ensemble yn cyfrannu eitem i Wasanaeth Carolau Tre-gwyr, Eglwys St Ioan, Tre-gwyr Cyngerdd Nadolig Ysgol Gyfun Gwyr yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe Cyngerdd Ysgol Penybryn

Telynorion - Bore Coffi "Royal institute of South Wales" Amgueddfa Abertawe - Côr Iau ac Ensemble - Cyngerdd Gŵyl Dewi Sir Abertawe - Neuadd Brangwyn Parti Merched Iau - Canu yng Nghapel y Triniti, Sgeti. LLWYDDIANT LLENYDDOL AWDURES Y DYFODOL Daeth Ffion-Haf Davies, Bl.9, yn ail mewn cystadleuaeth ysgrifennu stori Saesneg ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 7 i 13. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn dathlu canmlwyddiant geni r awdur Roald Dahl. Ysgrifennodd Ffion stori yn dwyn y teitl Truth: The Real Ultimate Treasure Hunter a oedd yn amlwg wrth ddant y beirniaid. Cynhaliwyd seremoni a chyfres o ddigwyddiadau i longyfarch yr awduron buddugol yn y Senedd yng nghanol mis Tachwedd. SEREMONI GADEIRIO A THLWS SAESNEG EISTEDDFOD DYDD GŴYL DDEWI 2017 Cafwyd Seremoni Gadeirio ar gyfer y darn gorau o lenyddiaeth Gymraeg. Bethan Mair o Bontarddulais oedd ein beirniad a ddyfarnodd fod stori Meleri Williams Bl.13, ar y testun Dianc yn llawn haeddu r wobr gyntaf. Hefyd cyflwynwyd y Tlws Saesneg i Gwenno Robinson o Fl.9 am yr ail flwyddyn yn olynol, sy n dipyn o gamp. GWOBR GOFFA DAFYDD ROWLANDS Hyfryd yw medru cyhoeddi mai un o ddisgyblion ein hysgol a enillodd Gwobr Goffa Dafydd Rowlands am yr ail flwyddyn yn olynol. Mewn seremoni fawreddog ym Mhlasdy r Manor Park yng Nghlydach, gwobrwywyd Meleri Williams o Fl.13 am ei gwaith ysgrifenedig yn y Gymraeg. Yn wir, Meleri enillodd y wobr gyntaf o 500 a r ail wobr, gyda r beirniad T. James Jones (Jim Parc Nest) yn uchel iawn ei glod iddi. Ysgrifennodd Meleri gerdd ar y testun Y Ffin a oedd yn canolbwyntio ar sefyllfa ddybryd ffoaduriaid o Syria wrth iddynt ffoi rhag rhyfel a dioddefaint yn eu gwlad. Mae r llwyddiant hwn yn ychwanegol at y wobr a roddwyd iddi fel siaradwraig orau Cystadleuaeth y Rotary. Dymunwn bob llwyddiant i Meleri wrth iddi fynd i barhau a i hastudiaethau, yn astudio r Gymraeg a Newyddiaduraeth, ym Mhrifysgol Caerdydd.

LLENOR IFANC Y FLWYDDYN Pleser o r mwyaf yw medru llongyfarch un o n disgyblion blwyddyn 9, Elin Griffiths, ar ennill cystadleuaeth Llenor Ifanc y Flwyddyn. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol gan Glwb y Rotari a r pwnc eleni oedd darn o ryddiaith yn dwyn y teitl Byd o Harddwch. Mynychodd Elin seremoni fawreddog yn adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd ar ddiwedd Mehefin. Canmolwyd hefyd gwaith Rosa Humphreys Bl.11. LLWYDDIANT YNG NGHYSTADLAETHAU GWAITH CARTREF YR URDD Llongyfarchiadau gwresog i'r disgyblion canlynol am lwyddo'n genedlaethol yng nghystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr Urdd eleni. Elena Ruddy: 2il barddoniaeth a rhyddiaith Bl.7 Mirain Francis: 3ydd : barddoniaeth Bl.7 Anest Williams: 2il : barddoniaeth Bl.9 Ffion Haf Davies: 1af : Cyfansoddi sgript wreiddiol Bl.7-9 Lowri Thomas: 1af: barddoniaeth Bl.12 a 13 Dewi Roberts: 1af: barddoniaeth Bl.12 a 13 Efa Griffiths: 2il: rhyddiaith Bl.12 a 13 Rhian Hutchings: 3ydd: cyfres o ymsonau dan 19 oed Rhian Hutchings: 2il: Cerdd Rydd dan 25 oed DAWN AR DAFOD CYSTADLEUAETH SIARAD CYHOEDDUS CLWB Y ROTARI Llongyfarchiadau i dîm siarad cyhoeddus yr ysgol - Carys Havard, William Turner a Meleri Williams Bl.13 ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Clwb y Rotari. Cyrhaeddon nhw r rownd derfynol yng Nghaerdydd, sy n gamp nodedig. GWOBR EFYDD Y SIARTER IAITH Ers mis Medi 2016, bu r ysgol, dan arweiniad aelodau brwdfrydig y Clwb Cymreictod, yn brysur iawn yn cydweithio gydag ysgolion Cymraeg cynradd ac uwchradd y sir i lansio Siarter Iaith Tafod Tawe. Trefnwyd llawer o weithgareddau gan gynnwys sesiwn hyfforddi chwaraeon i flwyddyn 10, ymweliad theatr mewn cymeriad i

flwyddyn 7 a chafwyd cyfle i ymweld â'r Neuadd Fawr ar gampws newydd y bae ar gyfer y lansiad swyddogol ar yr 16eg o Fedi. Canlyniad yr holl ddycnwch bu ennill Tystysgrif Efydd y Siarter am ein Cymreictod. MAES PEIRIANNEG A THECHNOLEG Eleni eto cafodd, Tîm Peirianneg Bl.12 yr ysgol brofiadau bythgofiadwy yn cydweithio gyda chwmni lleol SCHAFFLER, dan arweiniad Mr Derrick Lewis, ar brosiect i leihau ar gostau egni r cwmni o Lanelli. Gorchfygwyd sawl her wrth iddynt ddylunio a chynhyrchu prototeip o ansawdd uchel at y perwyl hwn. Cafwyd adborth hynod ganmoladwy a chanmolwyd aeddfedrwydd a gallu technolegol a mathemategol y disgyblion. Bu disgyblion Bl.7 wrthi yn CREU ROBOT yng nghystadleuaeth Robotiaid y Sir. Bu n rhaid ymateb i r her fyw o adeiladau robot newydd, ei raglenni cyn ei rasio yn erbyn robotiaid eraill gan ddefnyddio cyfarwyddiadau a gorchmynion lleisiol yn unig!!! Pleser yw nodi i r tîm ifanc hwn ennill y ras yn erbyn disgyblion o flynyddoedd hŷn ysgolion eraill. Ar ddiwrnod Eisteddfod yr ysgol braf oedd cyflwyno Gwobr Goffa Dr. J.S. Davies i r Gwyddonydd mwyaf addawol, sef Menna Williams o Fl.12. CYRSIAU PRESWYL Yn flynyddol cynhelir llu o deithiau a chyrsiau preswyl i ddisgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr. Cyfleoedd bythgofiadwy sy n cyfoethogi profiadau, yn aeddfedu ein pobl ifanc a u paratoi ar gyfer y byd mawr tu allan i ffiniau r ysgol. Dyma flas ar rai o r teithiau: TAITH Y CÔR I LUGANO Cafwyd taith fendigedig i Lugano yn Ne r Swistir dan arweiniad aelodau o Adran Gerddoriaeth ysgol Gyfun Gŵyr ar ddiwedd tymor yr Haf. Perfformiodd y côr yng Ngŵyl Gerdd Lugano. Cafwyd cyfleon amrywiol i ymweld ȃ mannau diddorol hefyd yn cynnwys Milan a Llyn Como. TAITH I RUFAIN Bu taith i ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yr Adran Addysg Grefyddol i RUFAIN lle ymwelwyd â r Fatican, y Coliseum, a r Catacombs Cristnogol.

Y DAITH SGIO Bu disgyblion blwyddyn 8 a 12 ar daith sgio gofiadwy i Maria Alm yn Awstria lle cafwyd hwyl ar y llethrau a chyfleoedd amhrisadwy i flasu diwylliant y wlad tra n ymarfer eu Halmaeneg CWRS IAITH A THRAWSGWRICWLAIDD GLAN-LLYN BLWYDDYN 9 Eleni eto bu criw o ddisgyblion blwyddyn 9 yr ysgol yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn ar wythnos drawsgwricwlaidd. Cyfle anhygoel i werthfawrogi rhai o ardaloedd prydferthaf Cymru trwy ymweld â llefydd o ddiddordeb hanesyddol, diwydiannol a diwylliannol e.e. Ceudyllau Llechwedd, Llyn Celyn, Tref Porthmadog, Tref y Bala. Cafwyd hefyd ddigon o amser i fwynhau holl gyfoeth gweithgareddau Gwersyll yr Urdd Glan-Llyn yn ganwio, rafftio dŵr gwyn, dringo ac adeiladu rafftiau a r cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg! CYRSIAU AWYR AGORED RHOSILI Bu merched a bechgyn blwyddyn 8 yn mwynhau ffresni r awyr agored ym mhenrhyn Gŵyr ar ddechrau r tymor. Bu r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau anturus amrywiol yn yr awyr agored yn hynod werthfawr, gan ganiatáu i r disgyblion i fagu hyder a datblygu sgiliau datrys problemau a gweithio fel tîm. CWRS BLWYDDYN 12 AC 13 I LANLLYN Yng nghanol mis Tachwedd, cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 y cyfle i fynd i Wersyll yr Urdd Glan-llyn, ger y Bala am gyfres o ddarlithoedd ar wahanol elfennau o r cwrs Cymraeg Safon Uwch. Yn ogystal â darlithoedd hynod werthfawr, cafwyd llawer o hwyl a sbri yn gwneud amryw weithgareddau yn cynnwys Talwrn y Beirdd. Cafwyd cryn dipyn o lwyddiant hefyd wrth i r tîm ddod yn gydradd ail yn y talwrn ac wrth i Meleri Williams B13 gipio r Gadair. ADRAN IEITHOEDD MODERN - TAITH I FFRAINC MIS IONAWR 2017 Fe ymunodd 12 disgybl (Myfyrwyr Safon Uwch a blwyddyn 11) o Gŵyr gyda nifer o ddisgyblion o Ysgol Y Strade mewn cwrs carlam Ffrangeg am 5 diwrnod yn Normandy.Arweiniwyd y cwrs yn gyfan gwbl trwy r iaith Ffrangeg heb ddefnyddio gair o Saesneg na Chymraeg. Bu r myfyrwyr yn dringo, ffensio, aeroballe, pobi bara, ac yn ymweld â r farchnad, swyddfa dwristiaeth, gorsaf dân a Mont St Michel, ynghyd a gweithgareddau gyda r nos. Bu r profiad yn fythgofiadwy ac yn fodd i beri cynnydd hynod yn nealltwriaeth y myfyrwyr o r iaith Ffrangeg.

DIWRNODAU O DDATHLU TAITH I WYL AEAF Y GLANNAU Ar ddydd Llun olaf tymor yr hydref, aeth 7C ac 8B i Ŵyl y Gaeaf ar y Glannau fel rhan o wobr y Pwyllgor Cymreictod. Cafodd y disgyblion gyfle i sglefrio iâ a mwynhau amser rhydd yn y ffair er y tywydd. Llongyfarchiadau i'r ddau ddosbarth am ddal ati i fynnu siarad y Gymraeg yn eu gwersi. DIWRNOD SHW MAE SU MAI Ymunodd yr ysgol gyfan yn dathlu diwrnod Shw mae Su mai eleni. Gwisgodd y disgyblion a r athrawon goch, gwyn neu wyrdd er mwyn arddangos eu balchder yn eu Cymreictod. Diolch i n Cyd -Gysylltwyr Cymreictod am drefnu diwrnod o hwyl a sbri. TAITH I STIWDIOS Y BBC Ar nos Lun y 6ed o Fawrth, aeth criw o'r chweched i stiwdios y BBC yng Nghaerdydd i recordio rhaglen deledu Jonathan. Cafwyd tipyn o hwyl yng nghwmi'r cyflwynwyr â'r gwestai Shane Williams a Catrin Heledd. Cafodd Tenzin Perkins a Cai Owen y cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth. DIWRNOD ROALD DAHL Yng nghanol mis Medi eleni cynhaliwyd Diwrnod Roald Dahl ledled y wlad er mwyn annog oedolion a phlant i ddarllen mwy o lyfrau r awdur yn y Gymraeg a r Saesneg. Y 15fed o Fedi oedd dyddiad geni r awdur o Gymru ac felly yma yn Ysgol Gyfun Gŵyr, roeddem yn awyddus iawn i ddathlu r diwrnod. Penderfynwyd cynnal diwrnod gwisg anffurfiol ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol. Gwisgodd nifer o ddisgyblion fel rhai o gymeriadau enwocaf yr awdur tra bod y disgyblion eraill wedi gwisgo dillad melyn, sef hoff liw Dahl. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd cystadlaethau ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 i 9 megis cwis a helfa drysor.trwy gynnal y gweithgareddau, codwyd cannoedd o bunnoedd i elusen Roald Dahl hefyd, sef Bu r diwrnod yn hynod o lwyddiannus yn dangos i r disgyblion fod yna gyffro i w gael rhwng y cloriau!

DATHLU DIWRNOD SHAKESPEARE Bu r adran Saesneg yn brysur ddiwedd tymor y Nadolig yn dathlu 400 mlwyddiant marwolaeth Shakespeare. Trefnwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys helfa drysor, cystadleuaeth gwisg ffansi, gwledd Shakesperaidd yn y ffreutur, a thwmpath traddodiadol ar y lawnt. ELUSENNOL CEFNOGI CYD-DDYN Parhaodd gwaith elusennol yr ysgol dros y misoedd diwethaf gyda'i ffocws ar gefnogi hyrwyddo Cymreictod ac achosion sy'n ymwneud ag hybu lles plant, gan ein bod yn ysgol sy'n gweithio tuag at ennill cydnabyddiaeth fel Ysgol sy'n Parchu Hawliau Plant. O ran hyrwyddo'r iaith, fe godwyd dros 900 drwy weithgareddau megis dathlu Dydd Santes Dwynwen yn Ionawr, ac o ran elusennau plant, fe dargedwyd Sefydliad Roald Dahl ym Medi, Plant Mewn Angen yn Nhachwedd, a Chronfa Achub y Plant yn Rhagfyr a chodwyd yn agos at 1,500 drwy amrywiol weithgareddau. Llwyddodd staff a disgyblion ysgol Gyfun Gwŷr i godi 3,000 at ymgyrch MacMillan a hynny trwy gefnogi taith gerdded MacMillan 22 milltir o amgylch Penryn Gŵyr a thrwy gefnogi Bore Coffi MacMillan. YMWELIAD AG YSGOL PEN Y BRYN Un o ddyddiadau pwysicaf calendr yr ysgol adeg y Nadolig yw cael y cyfle i ymweld ag Ysgol Pen y Bryn i ganu carolau a chychwyn dathliadau'r ŵyl. Aeth 70 o ddisgyblion hŷn yr ysgol i ganu eleni a chafwyd deuawd hyfryd gan y chwiorydd Manon a Ffion Pirotte ynghyd a chân gan y côr bechgyn hŷn a r staff. Yna treuliwyd amser yn cymdeithasu gyda r disgyblion cyn rhoi anrheg y Nadolig yr un iddynt ffrwyth gwaith codi arain y 6ed. Diolch yn fawr iddynt am ein croesawu unwaith eto. PLANT MEWN ANGEN Ar fore Llun y 14eg o Dachwedd gwibiodd Aled Hughes, cyflwynydd Radio Cymru, heibio ar ei feic, wrth iddo ddechrau ar yr her o seiclo o Abertawe i Fangor a chodi arian ar gyfer Plant Mewn Angen. Roedd e hefyd yn wynebu'r her o alw mewn 50 o ysgolion ar ei ffordd. Aeth criw o flwyddyn 7 ac 8 allan i'w gefnogi a chael sgwrs ar sut y bydden ni yn cynnal diwrnod gwisg anffurfiol ac amrywiaeth o weithgareddau ar