Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Holiadur Cyn y Diwrnod

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Addysg Oxfam

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Talu costau tai yng Nghymru

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

The Life of Freshwater Mussels

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Hawliau Plant yng Nghymru

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Dadansoddiad ex-ante o effeithiau diwygiadau Iles Llywodraeth y DU ar y cyflenwad Ilafur yng Nghymru

Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Bocsys Bwyd Iach. Healthy Lunch Boxes. Menter Ysgolion Iach

Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Summer Holiday Programme

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Adroddiad Blynyddol 2014

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

SESIWN HYFFORDDI STAFF

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

NatWest Ein Polisi Iaith

Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r

Y newid sydd ei angen Cymru rymus a democrataidd

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Ymgynghoriad ar y meini prawf dyrannu arfaethedig ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau 2015

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol

Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu

Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol

PRIFYSGOL BANGOR GWAITH CRAFFU A SICRHAU ANNIBYNNOL AR RAGOLYGON TRETHI DATGANOLEDIG I GYMRU

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

SENEDD SY N GWEITHIO I GYMRU. Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Newyddion REF2014. Ein Hymchwil Ragorol. Cyfrol 21 Rhif 2

GRŴP GWYDDONIAETH PYSGODFEYDD A CHADWRAETH

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Transcription:

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru n cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru. Maen nhw n cael eu hethol gan bobl Cymru i w cynrychioli nhw a u cymunedau, i wneud cyfreithiau ar gyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru ac i wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn. Hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 Ceir atgynhyrchu testun y ddogfen hon am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol na difrïol. Rhaid cydnabod mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen.

Pecyn Adnoddau i Fyfyrwyr Her Fer Dinasyddiaeth Fyd Eang CA4 Diodydd llawn siwgr Mae siwgr, yn bennaf oherwydd ei gynnwys ffrwctos uchel, yn cael ei ystyried fel un o r prif bethau sy n achosi gordewdra, clefyd cardiofasgwlaidd a diabetes math 2. Prif ffynonellau siwgr yn y deiet yw diodydd melys, grawnfwyd, melysion a sudd ffrwythau. Mae gwleidyddion, diwydiant ac unigolion wrthi n trafod ffyrdd o atal y pwysau hyn ar wasanaethau iechyd ledled y byd. Yn yr her hon, byddwch yn: Datblygu dealltwriaeth fanwl o r mater byd-eang o fwyta ac yfed siwgr, yn enwedig yng Nghymru a r DU. Dadansoddi ystod o ffynonellau i ymchwilio i r mater a deall gwahanol safbwyntiau. Dadansoddi materion gan ddefnyddio PESTLE. Gwerthuso atebion gwahanol gan ddefnyddio dull SWOT. Datblygu a chyfleu eich safbwynt personol eich hun. Myfyrio ar y broses o feddwl beirniadol a datrys problemau. Disgrifiad o r gweithgareddau: 01. Deall maeth: Edrych ar ddeiet gwahanol ar draws y byd. 02. A yw siwgr yn niweidio ein hiechyd? Dadansoddiad PESTLE. 03. Ffeithiau a barn am siwgr. 04. Y ddadl ar dreth siwgr yng Nghymru a r DU: o blaid ac yn erbyn. 05. Dadansoddiad SWOT o atebion posibl. 06. Safbwynt personol. 07. Codi ymwybyddiaeth. 08. Myfyrio gan ddefnyddio dadansoddiad PESTLE.

Gweithgaredd 1: Deall maeth Ffynhonnell 1: Dyfyniadau gan sefydliadau Maeth yw r bwyd a fwyteir a ystyrir mewn perthynas ag anghenion deietegol y corff. Maeth da deiet cytbwys a digonol wedi i gyfuno ag ymarfer corff rheolaidd yw conglfaen iechyd da. Gall maeth gwael arwain at imiwnedd llai, mwy o dueddiad o gael clefydau, nam ar ddatblygiad corfforol a meddyliol a chynhyrchiant llai. Sefydliad Iechyd y Byd Healthguidance.org Maeth yw cyfanswm y prosesau a ddefnyddir i gymryd bwyd i mewn a i ddefnyddio er mwyn tyfu, gwella a chynnal a chadw r corff. Mae n cynnwys llyncu, treulio, amsugno a chymhathu. Caiff maetholion eu storio yn y corff mewn ffyrdd amrywiol a u defnyddio pan nad yw r bwyd sy n dod i mewn yn ddigonol. Geiriadur Rhydychen Y broses o ddarparu neu gael y bwyd sydd ei angen ar gyfer iechyd a thwf

Ffynhonnell 2: Ffigurau o fideo Buzzfeed Daily diets vary around the world Safle Gwlad Swm y pen / dydd 1 Brazil 152g 2 Rwsia 108g 3 Mecsico 104g 4 Yr Undeb Ewropeaidd 100g 5 Yr Aifft 94g 6 UDA 90g 7 Pacistan 62g 8 Indonesia 62g 9 India 58g 10 Tsieina 33g A yw hyn yn syndod? Pam eich bod yn credu bod Brazil yn bwyta cymaint o siwgr? A ellir gwneud unrhyw gysylltiad rhwng llawer o siwgr a gwahanol ddiwylliannau/cymdeithasau?

Ffynhonnell 3: Ffeithiau am siwgr Mae arbenigwyr ar faeth yn dweud na ddylai fwy na 5% o galorïau dyddiol ddod o siwgr wedi i ychwanegu - tua 7 llwy de. Mae r rhan fwyaf o bobl yn bwyta tua dwywaith yr uchafswm hwn. Gall un can o pop gynnwys 9 llwy de gyda hyd at 40 llwy de mewn potel dwy litr. Gormod o ddiodydd llawn siwgr yw un o r rhesymau pam bod plant yn ordew. Mae r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 40% o blant 7-11 oed yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau. Mae bod dros bwysau yn cynyddu r tebygolrwydd o gael diabetes. Dros flwyddyn, bydd plentyn rhwng 4 a 10 oed yn bwyta tua 5,500 ciwb siwgr tua tair a hanner stôn - sef cyfartaledd pwysau plentyn pum oed. Deunydd darllen pellach: BBC Newyddion. Arbenigwyr gwyddonol yn dweud y dylid haneru faint o siwgr a fwyteir. http://www.bbc.co.uk/news/health-33551501 Newyddion ITV. Ffigurau newydd yn dangos bod bron i hanner y plant 7-11 oed yn ordew. http://www.itv.com/news/wales/update/2015-01-12/new-figures-show-nearly-half-of-7-11-year-olds-are-obese/ NHS Choices. Sut mae siwgr yn ein deiet yn effeithio ar ein hiechyd? http://www.nhs.uk/livewell/goodfood/pages/sugars.aspx Sugar Nutrition UK. Cwestiynau cyffredin. http://www.sugarnutrition.org.uk/factsmyths/sugar-faqs-2/

Gweithgaredd 2: A yw siwgr yn niweidio ein hiechyd? Gwleidyddol Economaidd Cymdeithasol Technolegol Cyfreithiol Amgylcheddol

Gweithgaredd 3: Ffeithiau a barn am siwgr Ffynhonnell 4: Cyfartaledd y siwgr a fwyteir gan blant, YouGov, 4 Ionawr 2016 Grŵp oedran Swm (gramau) Nifer y ciwbiau siwgr 4 i 6 19g 5 7 i 10 24g 6 11 neu n hŷn 30g 7 Ffynhonnell 5: darnau o lythyr a ysgrifennwyd gan Jamie Oliver at David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, 26 Tachwedd 2015 Gan ei bod yn frawychus faint o blant sydd dros eu pwysau neu n ordew erbyn hyn, a bod sefydliadau meddygol yn siarad fel un i alw am weithredu yn erbyn hyn, mae n gwbl glir bod yr amser i lusgo traed ynghylch iechyd ein cenedl yn y dyfodol wedi hen fynd. Mae Prydain angen polisi cadarn, strategol ac effeithiol ar frys, gyda thargedau llym i fesur cyflawniad dros yr 20 i 30 mlynedd nesaf, ac mae mynd i r afael â r broblem gymhleth hon yn gofyn am gyfres o ymyriadau cymdeithasol. Er mwyn ennill y frwydr yn erbyn gordewdra ymhlith plant, mae n rhaid i Lywodraeth y DU roi hyn ar frig ei hagenda. I r perwyl hwn, mae cyfres resymegol ac ymosodol o bolisïau ataliol sy'n alinio pob sector o gymdeithas busnes, llywodraeth, diwydiant a r cyhoedd yn hanfodol i sicrhau llwyddiant o ran amddiffyn plant ifancaf a mwyaf difreintiedig Prydain. Bydd hyn hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd rydym yn ei feithrin i n cymunedau yn ffafriol i wneud dewisiadau iachach yn llawer haws ac yn fwy fforddiadwy. Dywedodd Comisiwn Rhoi Terfyn ar Ordewdra Ymhlith Plant (ECHO) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO): Ni ddylid ystyried gordewdra ymhlith plant fel canlyniad i ddewisiadau r plentyn o ran ffordd o fyw. Mae gan Lywodraeth a chymdeithas gyfrifoldeb moesol i weithredu ar ran y plentyn i leihau r risg o ordewdra. Mae angen i ni fynd i r afael â gordewdra ymhlith plant drwy bolisïau, mentrau, cymhellion ac ymyriadau cymunedol o bob ongl, fel bod pawb yn gyfrifol am wneud Prydain yn lle hapusach, iachach a mwy llewyrchus, gan weithio gyda n gilydd i wneud hynny. Mae n hollbwysig bod pwyllgor atal

gordewdra ymhlith plant pwrpasol yn arddull COBRA yn cael ei sefydlu ar unwaith i arsylwi pob agwedd ar yr ymdrech sy n gysylltiedig. Mae r un mor bwysig bod pob plaid yn cymeradwyo polisïau r pwyllgor gan y byddant yn amcanion hirdymor a fydd yn parhau hyd yn oed gydag unrhyw newidiadau yn y llywodraeth. Mae angen i ni hefyd fod yn fwy eglur a dewr gyda busnes a diwydiant ynghylch beth yw iechyd da, fel na allant ddibynnu ar hunan-reoleiddio gwirfoddol mwyach. Yn olaf, mae angen i ni addysgu a rhoi grym i bob unigolyn i wneud dewisiadau gwell ac iachach o ran eu ffordd o fyw. Nid oes un ateb perffaith a fydd yn cyflawni r dasg yn iawn mae angen cyfuniad o weithredoedd pwysig ar wahân arnom a all, gyda i gilydd, greu offeryn pwerus ar gyfer newid. Nodir rhai o r mesurau mewn bold isod, ond dim ond penawdau ydynt mewn llu o waith sydd angen ei wneud er mwyn gwneud newid ystyrlon ac arwyddocaol. Er enghraifft, rhestrodd McKinsey Global Institute 44 o fentrau ar wahân y mae n ystyried sydd werth eu gweithredu yn y frwydr yn erbyn gordewdra. Rwyf wedi rhoi r fenter sydd agosaf i m calon fel pennawd fy nghynnig i gael treth ar bob diod meddal gyda siwgr wedi i ychwanegu, a allai leihau faint o bobl sy n eu hyfed yn sylweddol gan y bydd gwell ymwybyddiaeth, yn ogystal â chyfrannu arian ar gyfer strategaeth ataliol. Mae n un o sawl maes ar gyfer gweithredu a amlinellwyd yn adroddiad Public Health England, Sugar Reduction: The evidence for action sydd hefyd yn pwysleisio r angen am nifer o liferi sydd eu hangen er mwyn creu rhaglen eang a strwythuredig i leihau faint o siwgr a fwyteir. Fel y mae r adroddiad yn ei amlinellu, ni fydd un cam gweithredu yn gweithio ar ei ben ei hun. Wrth sôn am labelu diodydd meddal gyda siwgr ychwanegol, dylai r DU annog pob gweithgynhyrchydd i nodi cynnwys y siwgr yn glir mewn llwyau te ar eu cynnyrch, a dylai arwain trafodaethau i wneud hyn yn fenter orfodol yn yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid rhoi rhaglen hirdymor orfodol ar waith i ailffurfio pob cynnyrch bwyd a diod sydd â lefelau eithriadol o uchel o siwgr. Yn y pen draw, dylid cosbi unrhyw gwmnïau bwyd sy n methu â chyrraedd y targedau. Rhaid i Asiantaeth Safonau Bwyd annibynnol wedi i ailsefydlu gael grym i weinyddu r fargen newydd a dylai fod yn atebol i bwyllgor yn arddull COBRA. Dylai r DU fod ar flaen y gad ymhlith gwledydd Ewropeaidd o ran mynnu bod Brwsel yn caniatáu i siwgr rhydd gael ei nodi ar wahân. Yn ogystal, dylai labelu goleuadau traffig ar flaen y pecyn fod yn orfodol. Dylid deddfu ar feintiau dognau, lle y bo n briodol. Dylid cynnal adolygiad trylwyr o r Safonau Bwyd Ysgol ar ddechrau 2016, gan ystyried y canllawiau maeth newydd ar gyfer siwgr, a dylid cynnal adolygiadau bob blwyddyn. Dylai r safonau fod yn orfodol i bob ysgol, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd sydd wedi eithrio ar hyn o bryd a darpariaeth blynyddoedd cynnar. Mae n rhaid i addysg bwyd barhau i fod yn flaenoriaeth. Mae cyflwyno cynllun prynu un, cael gostyngiad ar un arall ar gyfer cynnyrch bwyd iachach yn un cynnig y gallai manwerthwyr ei wneud, yn ogystal â rhoi gwell amlygrwydd i gynnyrch

iach yn y siop a helpu i wella ansawdd, amrywiaeth a nifer o fwydydd a diodydd iach sydd mewn siopau presennol. Rhaid hefyd rhoi rheoliadau marchnata digidol cadarn ar waith hefyd i amddiffyn plant ddydd a nos. Os bodlonir yr holl argymhellion uchod, bydd y DU rywfaint yn agosach i gyflawni ei nod o leihau lefel gordewdra ymhlith plant erbyn 2020. Amlinellwyd targed y llywodraeth yn 2007. Roedd yn datgan: ein nod yw bod y wlad fawr gyntaf i wrthdroi r cynnydd mewn gordewdra a gorbwysau yn y boblogaeth drwy sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni a chynnal pwysau iach. Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar blant: erbyn 2020, rydym yn anelu at leihau cyfran y plant gordew a thros eu pwysau i lefelau 2000. Roedd hynny n ofyn mawr yn 2007, ac mae n ofyn hyd yn oed mwy heddiw, gyda lefelau y plant gordew a thros eu pwysau yn codi i r entrychion. Serch hynny, er mwyn cenedlaethau r dyfodol, mae wirioneddol angen i ni weithredu a gweithio i gyflawni r nod hwn. Ffynhonnell 6: Briff Treth Siwgr Cynghrair y Trethdalwyr, 13 Ionawr 2016 Crynodeb: Y llynedd, diystyrodd y Prif Weinidog a r Ysgrifennydd Iechyd osod treth siwgr ar ddiodydd a bwydydd sy n cynnwys llawer o siwgr. Mae r rhesymeg y tu ôl i r gwrthwynebiad i ddefnyddio offeryn ariannol trwsgwl i fynd i r afael â gordewdra yn parhau i fod mor gadarn heddiw ag yr oedd 12 mis yn ôl: Byddai treth siwgr yn gam yn ôl ac yn aneffeithiol. Mae cynnydd clir yn lleihau cynnwys siwgr mewn bwydydd eisoes wedi i wneud drwy weithio gyda chwmnïau bwyd a diod drwy gynlluniau gwirfoddol. Serch hynny, mae ymgyrchwyr iechyd y cyhoedd wedi parhau i alw am dreth siwgr. O ystyried y cymhlethdodau gweinyddol a chyfreithiol enfawr y byddai gosod treth siwgr ar fwydydd yn eu creu, mae cynigion gan sefydliadau fel y BMA ar hyn o bryd yn gyfyngedig i dreth ar ddiodydd melys llawn siwgr a fyddai n cynyddu eu pris o leiaf 20 y cant. (Cymdeithas Feddygol Prydain, 2015) Maent yn honni y byddai treth o r fath yn gam cyntaf defnyddiol, sy n arwydd o dueddiad pryderus ymysg nifer o sylwebyddion ac ymgyrchoedd i droi dreth fel y cam cyntaf. Yn llawer rhy aml maent yn methu â gwerthfawrogi r ymatebion ymddygiadol cymhleth y gall newidiadau mewn treth eu creu a r canlyniadau anfwriadol a allai ddeillio o u cynigion. Bydd Cynghrair y Trethdalwyr yn gwrthwynebu n gryf unrhyw symudiad i osod treth siwgr ac mae n gobeithio y bydd gwleidyddion yn ystyried y corff helaeth o dystiolaeth sy n dangos bod treth siwgr yn ddiangen ac nad oes neb ei heisiau.

Casgliadau: Mae ystadegau o r Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dangos bod canran y plant yr ystyrir eu bod yn rhy drwm neu n ordew yn is yn 2014 nag yr oedd ar ei anterth ddegawd yn ôl (Arolwg Iechyd Lloegr, 2014, 2015). Mae Jeremy Hunt wedi nodi hyn fel rheswm pam ei fod yn gwrthwynebu treth ar siwgr (Telegraph.co.uk 2014, fel ar 07/01/2016). Mae ymgyrchoedd gwybodaeth iechyd y cyhoedd wedi bod yn llwyddiannus yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o broblemau iechyd penodol (Asiantaeth Datblygu Iechyd, 2004) ac mae n llawer gwell ganddynt fesurau ariannol a rheoliadol, a r canlyniadau anfwriadol sy n deillio n anochel o hynny. Yn wir, casgliad adroddiad Iechyd Cyhoeddus Lloegr yw bod cynnydd mewn prisiau ar gynnyrch sy n uchel mewn siwgr yn llai effeithiol na mesurau nad ydynt yn rhai ariannol i leihau faint o siwgr a gaiff ei fwyta a ddioddefodd fwyaf o r cynnydd mewn TAW yn 2010, sef treth y mae r llywodraeth eisoes yn ei rhoi ar fwydydd afiach. O ystyried y diffyg tystiolaeth gadarn y byddai treth siwgr yn fuddiol i r bobl hynny y mae fod i w helpu yn ariannol ac o ran maeth, dylai r llywodraeth ymwrthod ag unrhyw gynigion i osod treth. Byddai treth siwgr yn gam yn ôl, ac o ystyried y dystiolaeth yn erbyn ei heffeithiolrwydd, gallai ymddangos yn ymgais i gasglu rhagor o arian gan gartrefi incwm isel. Dyma r union grŵp incwm a ddioddefodd fwyaf o r cynnydd mewn treth yn 2010, sef treth y mae r llywodraeth eisoes yn ei rhoi ar fwydydd afiach.

Ffynhonnell 7: Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol (rhaglen dreigl) 2008-2012 80 Y siwgr sy'n cael ei fwyta bob dydd yn ôl grŵp oedran (g) 70 74.2 60 50 60.8 58.8 51.6 40 30 36.1 20 10 0 1.5-3 oed 4-10 oed 11-18 oed 19-64 oed 65+ oed 45 40 35 30 25 20 15 10 5 0 Y siwgr sy'n cael ei fwyta bob dydd yn ôl ffynonellau bwyd (%) 1.5-3 oed 4-10 oed 11-18 oed 19-64 oed 65+ oed Diodydd meddal grawnfwyd, teisennau, bisgedi sigwr, melysion, jamiau cynnyrch llaeth Alcohol arall

Ffynhonnell 8: The Telegraph, 20 Ionawr 2016, Laura Donnelly, Golygydd Gwnaeth treth ar siwgr ym Mecsico leihau y diodydd llawn siwgr a gafodd eu gwerthu gan 12 y cant. Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal yn dod i r casgliad bod cyflwyno treth o 10 y cant ar ddiodydd llawn siwgr yn arwain at ostyngiad o 12 y cant yn y nifer a werthir. Yn y cyfamser, roedd cynnydd o 4 y cant yn nifer o ddiodydd heb eu trethu a gafodd eu gwerthu yn bennaf gan fod mwy yn prynu poteli o ddŵr plaen. Roedd y gostyngiad mwyaf yn y cartrefi rhataf, lle gwnaeth nifer y diodydd melys a gafodd eu prynu bob mis leihau 17 y cant. Mae r ymgyrch newydd gan Public Health England (PHE) yn rhybuddio na ddylai plant pump oed fwyta neu yfed cyfwerth â phum ciwb o siwgr y dydd. Ar gyfartaledd, mae plant yn cael tair gwaith eu huchafswm dyddiol a argymhellir, sy n codi i chwe chiwb i blant 6-10 oed, a saith ciwb i unrhyw un dros 11 oed. Ffynhonnell 9: Dyfyniadau gan sefydliadau Mae n anghredadwy bod y llywodraeth yn gwrthod trafod treth ar siwgr yn y DU hyd yn oed pan allai r gost o drin gordewdra a i glefydau cysylltiedig ddod â r GIG i w gliniau. Tam Fry, llefarydd, Fforwm Gordewdra Cenedlaethol. O rawnfwyd yn y bore hyd at bwdin gyda r nos, heb sôn am y diodydd a r byrbrydau llawn siwgr, mae popeth yn cyfrif. Gall gormod o siwgr olygu bod ein plant yn wynebu bywyd o iechyd gwael, o ordewdra, diabetes math 2 hyd at broblemau deintyddol. Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru, Ionawr 2015.

Nid oes tystiolaeth bod trethi bwyd yn effeithio ar ordewdra. Yn 2013, diddymodd Denmarc ei threth ar fraster oherwydd ei heffaith economaidd ac anghofiodd am ei chynlluniau i osod treth ar siwgr. Mae tystiolaeth o Ffrainc yn dangos, er bod gwerthiant diodydd meddwl wedi lleihau i ddechrau ar ôl cyflwyno treth yn 2012, ei fod wedi cynyddu ers hynny. Ym Mecsico, effaith treth ar ddiodydd meddal oedd dim ond 6.2 calori y dydd - 0.2% o r deiet dyddiol a byddai treth debyg yn y DU yn arwain at leihad o 4 calori y person y dydd. Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain, Tachwedd 2015

Ffynhonnell 10: Canlyniadau ar bleidlais ar y cynnig a r gwelliannau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (9 Rhagfyr 2015) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm 38 0 10 48 Ffynhonnell 11: Melys Moes Mwy? Trafod treth siwgr Cymreig, 8 Rhagfyr 2015. Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher, bydd Aelodau r Cynulliad yn cymryd rhan mewn dadl ar gyflwyno treth siwgr. Mae r cynnig anllywodraethol i w drafod a gyflwynwyd gan Elin Jones, yn cynnig bod: Treth Siwgr Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr. Mae treth siwgr yn golygu cynyddu pris bwydydd a/neu ddiodydd llawn siwgr, fel diodydd meddal, gyda r nod o leihau r defnydd o gynnyrch o r fath. Mae nifer o wledydd Ewrop eisoes wedi cyflwyno trethi ychwanegol ar fwydydd llawn siwgr neu fwydydd brasterog. Mae treth ychwanegol ar losin, siocled, cynhyrchion sy n seiliedig ar goco, hufen iâ a lolipops rhew wedi bod yn ei lle yn Y Ffindir ers 2011, yn ogystal â threth ychwanegol ar wahân ar ddiodydd meddal. Yn yr un flwyddyn, cyflwynodd Hwngari dreth ychwanegol ar gynhyrchion fel diodydd meddal, diodydd egni a chynhyrchion wedi u melysu sydd wedi u pecynnu ymlaen llaw, byrbrydau hallt a chonfennau. Cyflwynodd Ffrainc dreth ar yr holl ddiodydd gyda siwgr ychwanegol neu felysyddion artiffisial yn 2012.

Cymru Ar hyn o bryd, nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer cyffredinol i osod trethi newydd, megis y dreth siwgr. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi r pŵer i Lywodraeth Cymru gyflwyno trethi datganoledig newydd, ond dim ond gyda chytundeb ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU, drwy Orchymyn yn y Cyngor. Felly, gallai Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, ddefnyddio ei phwerau ariannol newydd fel modd o gyflwyno treth siwgr yng Nghymru. Mae r syniad o siwgr neu treth pop wedi denu rhywfaint o gefnogaeth gan randdeiliaid gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn ei adroddiad Food for Thought, a r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) yn ei faniffesto Child Health Matters yn ogystal â r cogydd enwog Jamie Oliver. Yn ystod trafodaeth ar ordewdra yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2015, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod treth siwgr yn syniad diddorol, ond na fyddai n ddigon ar ben ei hun, er mwyn ymdrin â r broblem o ordewdra ymhlith plant. Safbwynt y DU Ym mis Hydref 2015 cyhoeddodd Public Health England (PHE) adolygiad o r dystiolaeth sy n ymwneud â mesurau i leihau r defnydd o siwgr. Mae r adolygiad, Sugar Reduction: the evidence for action, yn dod i r casgliad bod amrywiaeth o ffactorau yn cyfrannu at fwyta mwy o siwgr, a bod angen ystod gyfatebol eang o fesurau i ymateb i hynny, fel gweithredu i fynd i r afael â r canlynol: cynigion pris mewn siopau a bwytai marchnata a hysbysebu cynhyrchion sy n uchel mewn siwgr i blant faint o siwgr sydd yng nghynnyrch bwyd a diod bob dydd, a maint dognau Yn ogystal mae r adolygiad yn ystyried treth neu ardoll, fel ffordd o leihau r siwgr sy n cael ei fwyta, ond yn awgrymu y gallai mynd i r afael â marchnata, prisio a chynnwys bwyd fod yn fwy effeithiol. Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol ar Iechyd Tŷ r Cyffredin adroddiad, Childhood Obesity Brave and Bold Action, a oedd yn argymell cyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr. Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, Dr Sarah Wollaston AS: A full package of bold measures is required and should be implemented as soon as possible. We believe that a sugary drinks tax should be included in these measures with all proceeds clearly directed to improving our children s health. Yn dilyn trefnu deiseb, gyda dros 100,000 o lofnodion, yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, cafodd y mater ei drafod gan Senedd y DU ar 30 Tachwedd 2015. Mewn ymateb i r ddeiseb a r drafodaeth, cadarnhaodd Llywodraeth y DU: The Government has no plans to introduce a tax on sugar-sweetened beverages. Mae achosion gordewdra yn gymhleth. Caiff ei achosi gan nifer o ffactorau deietgol, ffordd o fyw,

amgylcheddol a geneteg, a bydd angen dull eang a chynhwysfawr er mwyn trechu r broblem. Felly, mae r Llywodraeth yn ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer mynd i r afael â gordewdra ymysg plant a r cyfraniad y gall Llywodraeth ei wneud, ynghyd â diwydiant, teuluoedd a chymunedau. Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer mynd i r afael â gordewdra ymysg plant erbyn diwedd y flwyddyn. Yn nghyllideb Llywodraeth y DU Mawrth 2016, cyhoeddwyd y byddai ardoll ar ddiodydd llawn siwgr (treth pop) yn cael ei chyflwyno fel cyfraith erbyn 2017 Llywodraeth Cymru Un o r materion y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw ato ar hyn o bryd i fynd i r afael â gordewdra yw hysbysebion sy n marchnata bwyd a diod sy n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr i blant. Mae r cyn Weinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wahardd hysbysebion am fwyd brasterog a llawn siwgr rhag cael eu darlledu cyn 9pm. Yn ôl y cyn Weinidog: Mae hysbysebu diodydd meddal, siocled, melysion eraill a grawnfwydydd llawn siwgr i gyd yn cyfrannu n sylweddol at lefelau siwgr plant. Mae r holl sectorau bwyd hyn yn cael eu marchnata n gyson yn ystod egwyliau hysbysebu r rhaglenni teledu rydyn ni n gwybod bod ein plant a n pobl ifanc yn eu gwylio.

Fynhonnell 12: Crynodeb o drawsgrifiad o r Cofnod barn gan bob un o r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru (9 Rhagfyr 2015) Gadewch i ni ailadrodd rhai o r ffeithiau am yfed diodydd ysgafn ac iechyd. Nododd y Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol ar Faeth fod yfed diodydd sy n llawn o siwgr yn arwain at fagu pwysau a mynegai màs y corff uwch ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau a phlant. Mae plentyn gordew 80 y cant yn fwy tebygol o fod yn oedolyn gordew. Mae bod dros bwysau yn ystod blaenlencyndod yn gysylltiedig â mwy o risg o ganser y coluddyn yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae pobl ifanc yn eu harddegau sydd dros bwysau yn mynd ymlaen i wynebu dwywaith y risg o ganser y coluddyn. Mae yfed can o Coke y dydd yn cynyddu r risg o ddatblygu diabetes 22 y cant. Eto trethir diodydd llawn siwgr ar gyfradd safonol o TAW. Nid ydynt yn denu unrhyw drethiant neu doll ychwanegol sy n adlewyrchu r risgiau a r costau iechyd sy n gysylltiedig â u hyfed. Felly, rwy n annog yr Aelodau yma y prynhawn yma i gefnogi r broses o gyflwyno treth ar bop yng Nghymru, ac i ni yma arwain ar wneud i r newid hwn ddigwydd er lles iechyd ein cenedl. Elin Jones AM Plaid Cymru

Nid treth Tango yw r ateb i r argyfwng iechyd y cyhoedd sy n tyfu yma yng Nghymru. Er bod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â r galwadau i roi sylw cynyddol i r defnydd o siwgr ar draws y wlad, rwy n meddwl bod yn rhaid i ni roi pethau mewn cyd-destun. Y realiti yw mai 3 y cant yn unig o r calorïau a fwyteir yma yng Nghymru sy n dod o ddiodydd meddal mewn gwirionedd 3 y cant yn unig. Felly, os ydym yn meddwl ein bod yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr drwy drethu pethau fel diodydd llawn siwgr, yna rydym yn gwneud camgymeriad mawr. Ac nid wyf yn credu y byddwn byth yn gweld, yn sgil hynny, y math o newid mawr yn y defnydd o siwgr y mae Elin Jones, yn gwbl briodol, yn ceisio i sicrhau yma yng Nghymru. Gadewch i mi ddweud wrthych fod rhai diodydd sudd ffrwythau yn cynnwys mwy o siwgr na phop swigod. A ydych eisiau trethu r rheini? A ydych yn awyddus i gael trethi ychwanegol ar gynhyrchion llaeth llawn siwgr? Rydych yn ysgwyd eich pennau. Felly, rydych am annog pobl i beidio ag yfed diodydd ffrwythau, sudd ffrwythau ydych? Rydych yn awyddus i annog pobl i beidio ag yfed rhywbeth y profwyd ei fod yn creu peth lles i iechyd a threthu diwydiant sydd eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol i leihau cynnwys siwgr ei ddiodydd. Rwy n credu mai dyna r ffordd gwbl anghywir o fynd ati. Os ydych yn credu o ddifrif fod ychwanegu ceiniogau at gost can o bop yng Nghymru yn mynd i atal pobl ifanc ar draws y wlad rhag prynu r Coke achlysurol neu ambell Fanta neu r Lilt achlysurol neu beth bynnag arall y maent yn ei brynu, rwy n meddwl eich bod yn gwneud camgymeriad mawr yn wir. Darren Millar AC Ceidwadwyr

Rwy n credu bod ysgolion eisoes yn gwneud gwaith da ar hyrwyddo bwyta n iach i blant, ac mae r ymgyrch ffeirio siwgr Newid am Oes yn hyrwyddo awgrymiadau ar sut i leihau faint o siwgr mae pobl yn ei fwyta. Felly, mae yna bethau eraill pwysig iawn y gallwn ei wneud. Rwy n sylweddoli nad yfed pop yn unig sy n achosi gordewdra ymysg plant. Rwy n credu bod codi pris diodydd llawn siwgr yn cyfleu r neges gywir i deuluoedd â phlant a phobl ifanc sy n ffurfio arferion oes ar y pwynt hwn yn eu bywydau. Rwy n credu ei bod yn bwysig iawn i ni wneud hyn, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd o ran deintyddiaeth hefyd. Rwyf am gloi gyda r pwynt hwn ynghylch deintyddiaeth. Pan ddeuthum i r Cynulliad hwn gyntaf, roedd pwyllgor y plant yn edrych ar fater dannedd plant yng Nghymru, ac roedd yn hollol erchyll beth oedd yn digwydd ar y pryd. Rwy n meddwl y byddai hyn yn helpu llawer gyda hynny. Julie Morgan AC Llafur Hoffwn weld y dreth hon yn cael ei defnyddio, fel y dywedais, yn rhan o weithredu ar y cyd ac ymgyrch ar y cyd gan y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd a Llywodraeth Cymru i ddarbwyllo Llywodraeth San Steffan i weithredu ar farchnata a hysbysebu cynnyrch llawn siwgr, yn enwedig i blant, yn ogystal â cheisio rhoi pwysau ychwanegol ar y diwydiant bwyd i fynd i r afael â r cynnwys siwgr a maint dogn bwydydd bob dydd, oherwydd, er ein bod yn gweld gostyngiad yng ngwerthiant siwgr cyffredin, mewn gwirionedd mae ein cynnwys siwgr yn codi oherwydd y siwgr cudd sydd mewn cymaint o gynhyrchion nad yw pobl yn ymwybodol eu bod yn ei fwyta. Kirsty Williams AC Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Rwy n credu ei fod yn bwysig mae llawer o bobl wedi dweud y prynhawn yma mai un arf yn unig o r arfau polisi sy n agored i ni i fynd i r afael â phroblem diodydd llawn siwgr yw trethiant. Mae gennym eisoes ystod eang o fesurau ar waith i gefnogi ac annog deiet iach a byw n iach a gwneud mwy o ymarfer corff. Mae n bwysig cofnodi r rhain eto: Llwybr Gordewdra Cymru gyfan, fframwaith ar gyfer y gwasanaethau a r gefnogaeth a ddarperir gan fyrddau iechyd, gan weithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill; y gwaith sy n cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu ei raglen 10 cam i fynd i r afael â gordewdra ymhlith plant, ac mae honno n canolbwyntio ar sut y gall rhieni fabwysiadu arferion iach gyda u plant ar oedran cynnar; Dewch i Gerdded Cymru, prosiectau wedi u targedu at oedolion anweithgar nid plant yn unig; y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio pobl i wneud ymarfer corff, sy n targedu cleientiaid sy n datblygu neu sydd wedi datblygu cyflwr cronig; Newid am Oes Cymru; a Cymru Iach ar Waith. Ac wrth gwrs, rydym wedi siarad cryn dipyn am addysg y prynhawn yma mae rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgolion iach yn arbennig o bwysig ar gyfer annog datblygiad cynlluniau ysgolion iach lleol. Jane Hutt AC, Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 13: Cyllideb Llywodraeth y DU 2016 Yn y gyllideb ar 16 Mawrth 2016, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynigion ar gyfer treth newydd ar y diwydiant diodydd meddal wedi i thargedu at rai sy n cynhyrchu a mewnforio diodydd meddal sy n cynnwys siwgr ychwanegol. Y prif bwyntiau yw: Mae hyn yn ceisio annog cwmnïau i leihau faint o siwgr a ychwanegir yn y diodydd maent yn gwerthu. Mae adroddiad y gyllideb yn nodi y gallai hyn olygu cynnydd o 18 ceiniog neu 24 ceiniog y litr yn ôl cynnwys y siwgr. Os bydd cynhyrchwyr yn newid eu hymddygiad, byddant yn talu llai o dreth. Disgwylir i r dreth godi 520 miliwn yn y flwyddyn gyntaf. Yn Lloegr, bydd yr arian o r dreth yn cael ei ddefnyddio i ddyblu r arian ar gyfer addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion cynradd o 160 miliwn y flwyddyn i 320 miliwn y flwyddyn o fis Medi 2017. Bydd y diodydd â r mwyaf o siwgr yn talu r lefel uchaf o dreth, gydag eithriad i weithredwyr bach, sudd ffrwythau pur a diodydd llaeth. Bydd ymgynghoriad ar fanylion y dreth yn cael ei gynnal yn ystod haf 2016 ar gyfer deddfu yn 2017 a gweithredu ym mis Ebrill 2018. Cafwyd ymateb amrywiol ar gyfer y dreth arfaethedig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU ac elusennau iechyd fel Diabetes UK ac Ymchwil Canser y DU wedi croesawu r cynnig. Dywedodd ymgyrchoedd eu bod yn gobeithio bod y dreth yn arwydd y byddai strategaeth gordewdra ymysg plant y Llywodraeth y mae oedi o ran ei chyhoeddi yn cynnwys mesurau cryf tebyg eraill. I r gwrthwyneb, mae r diwydiant bwyd a diodydd meddal wedi beirniadu r cynnig, gyda Chymdeithas Diodydd Meddal Prydain yn dweud ei bod yn siomedig eithriadol gyda r dreth arfaethedig. Gan fod iechyd wedi i ddatganoli, mae n siŵr y bydd trafodaethau pellach ar y dreth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gweithgaredd 4: Y ddadl ar dreth siwgr yng Nghymru a r DU O blaid Yn erbyn

Gweithgaredd 5: Dadansoddiad SWOT Oes yna ateb? Cryfderau Gwendidau Cyfleoedd Bygythiadau

Gweithgaredd 6: Safbwynt personol

Gweithgaredd 7: Codi ymwybyddiaeth

Gweithgaredd 8: Myfyrdod personol Canlyniad Gallaf ddefnyddio PESTLE i feddwl am fater Rwyf wedi dechrau datblygu r sgil hwn Rwy n hyderus fy mod wedi cyflawni r canlyniad hwn Gallaf asesu amrywiaeth o ffynonellau yn feirniadol Gallaf ystyried amrywiaeth o safbwyntiau ar fater Gallaf ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio SWOT Rwyf wedi datblygu safbwynt personol ar dreth siwgar a diodydd llawn siwgr Gallaf greu syniadau priodol a realistig ar gyfer codi ymwybyddiaeth

1