Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i bedair gwlad y Deyrnas Unedig: dilyniant 2015 a 2016 i adolygiad 2008 Tachwedd 2016 Getting the best out of the BBC for licence fee payers
Cynnwys Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd: Sylw newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith i Casgliadau r Ymddiriedolaeth 3 Ymateb Gweithredol i'r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd 5 Tachwedd 2016
Casgliadau r Ymddiriedolaeth Un o brif themâu gwaith Ymddiriedolaeth y BBC dros y deng mlynedd ddiwethaf fu sicrhau bod gwasanaethau rhwydwaith y BBC yn gwasanaethu ac yn adlewyrchu pedair Gwlad Teyrnas Unedig sy'n fwyfwy datganoledig yn well. Yn 2008 cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth adolygiad didueddrwydd o ddarllediadau rhwydwaith Newyddion a Materion Cyfoes y BBC ynghylch y Gwledydd. Roedd yr adolygiad hwnnw'n asesu swm, eglurder a dyfnder y sylw ac yn defnyddio dadansoddiad pwrpasol o'r cynnwys gan Brifysgol Caerdydd. Yn dilyn hynny, parhaodd yr Ymddiriedolaeth i fonitro cynnydd, gan gomisiynu dadansoddiad pellach o gynnwys yn 2010 yn ogystal ag adroddiadau rheolaidd gan Weithrediaeth y BBC. Y llynedd, gofynnodd Ymddiriedolaeth y BBC unwaith eto i Brifysgol Caerdydd gynnal dadansoddiad cynnwys. Awgrymwyd yn y dadansoddiad, er bod swm y darllediadau newyddion rhwydwaith am Ogledd Iwerddon a'r Alban ac am ddatganoli fel mater i gyd wedi cynyddu ers yr adroddiad blaenorol yn 2010, roedd materion i'w nodi o hyd ynghylch cywirdeb y ffordd roedd storïau yn cael eu hamlinellu a'u cyflwyno i gynulleidfaoedd. Mewn un ffordd bwysig - y tebygolrwydd y byddai cynulleidfaoedd newyddion ar deledu rhwydwaith yn cael gwybodaeth glir am y Gwledydd roedd eitemau newyddion unigol yn berthnasol iddyn nhw - roedd yn ymddangos fod sylw wedi llithro n ôl mewn cymhariaeth â'r astudiaeth wreiddiol. Mewn ymateb, rhoddodd Gweithrediaeth y BBC amrywiaeth o fesurau penodol ar waith ym mis Ionawr 2016 i sicrhau goruchwyliaeth systematig a r ffocws penderfynol roedd yr Ymddiriedolaeth yn dymuno ei weld. Yn ogystal, comisiynodd yr Ymddiriedolaeth Brifysgol Caerdydd i gynnal un rhaglen olaf o ddadansoddi cynnwys yn y gwanwyn, fel y gallai canlyniadau samplau 2015 a 2016 gael eu cyhoeddi ochr yn ochr. Er bod nifer o raglenni allweddol wedi cael eu dadansoddi dros nifer o wythnosau, mae r cyfnodau sampl yn parhau i fod yn gipluniau yn unig, ac ni ellir cyfleu darlun cyflawn o r sylw a roddir i'r Gwledydd gan newyddion rhwydwaith y BBC. Fodd bynnag, maen nhw n darparu data defnyddiol sydd o gymorth wrth asesu tueddiadau a nodi materion. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu'r cynnydd a wnaed rhwng 2015 a 2016. Yn benodol, noda'r gyfran uchel o eitemau newyddion sy n berthnasol i Loegr yn unig, neu i Gymru a Lloegr, sydd bellach yn ei gwneud yn glir, naill ai drwy gyfeiriadau ymhlyg neu benodol, ar y wlad neu'r gwledydd lle mae r stori n gymwys. Mae hyn ar ei lefel uchaf ers i'r Ymddiriedolaeth roi sylw i'r mater gyntaf. Canfu'r dadansoddiad diweddaraf fod 78% o'r eitemau newyddion rhwydwaith yn awr yn glir yn hyn o beth - sy n welliant sylweddol ac ymhell ar y blaen i r prif ddarlledwyr eraill. Mae'r Ymddiriedolaeth yn croesawu hyn, ond mae'n credu fod gan gynulleidfaoedd hawl i ddisgwyl cywirdeb yn hyn o beth yn ddieithriad, felly rydym yn disgwyl i'r BBC barhau i wella ar y ffigur hwn. Ar y llaw arall, awgrymodd dadansoddiad 2016 ostyngiad cyffredinol mewn cymhariaeth â'r llynedd yng nghyfran yr eitemau newyddion rhwydwaith am storïau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ymddengys hefyd fod gostyngiad cyffredinol wedi bod yng nghyfran yr eitemau gan ohebwyr ar leoliad yn y Gwledydd hyn. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwbl glir fod yn rhaid i raglenni newyddion fod yn seiliedig ar farn olygyddol ar y diwrnod, heb fyth fod yn seiliedig ar gwotâu na thargedau hyd yn oed. Noda r Ymddiriedolaeth fod y gyfran uwch o straeon a oedd yn deillio o San Steffan yn sampl 2016, yn hytrach nag o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, yn cuddio'r ffaith fod llawer o "straeon San Steffan" yn Tachwedd 2016 1
gymwys, neu o leiaf yn berthnasol ac yn bwysig, i gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Fodd bynnag, mae'r Ymddiriedolaeth yn disgwyl i olygyddion y BBC gadw disgwyliadau priodol cynulleidfaoedd ym mhob un o'r pedair Gwlad ar flaen eu meddyliau, sef eu bod yn cael gweld a chlywed eu digwyddiadau a u pryderon allweddol eu hunain yn cael eu gwyntyllu a'u rhannu ar lefel y rhwydwaith. Mae datganoli yn un o'r ffyrdd allweddol mae amrywiaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu, ac mae pob rheswm i gredu y bydd hyn yn her gynyddol i gynhyrchwyr cynnwys wrth geisio gwasanaethu'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'n her y mae'n rhaid i'r BBC roi sylw iddi ac mae n rhaid i'r BBC arwain y diwydiant darlledu wrth fynd i r afael â hyn. Noda'r Ymddiriedolaeth mai Cymru oedd yr un Wlad ddatganoledig i gael cyfran fwy o sylw yn sampl 2016. Gallai hyn fod wedi bod o ganlyniad i ymdrechion y Weithrediaeth i gyflwyno gwelliannau penodol yn dilyn sampl 2015. Mae'r Ymddiriedolaeth yn disgwyl gweld ffocws tebyg ar yr holl Wledydd ac mae n croesawu'r newidiadau strwythurol mae'r Weithrediaeth wedi eu gwneud i'w dulliau casglu newyddion ac allbwn, gan gynnwys penodi Golygydd yr Alban, mewnbwn dyddiol golygyddion newyddion o gwmpas y Gwledydd mewn cynadleddau rhaglenni, a throsolwg strategol a chyfrifoldeb y Golygydd Newyddion, Newyddion a Materion Cyfoes y BBC, o ran cyflawni yn y maes hwn. Ym marn yr Ymddiriedolaeth, er mwyn parhau n gwbl effeithiol fel darlledwr newyddion rhwydwaith mewn Teyrnas Unedig fwyfwy datganoledig, mae'n rhaid i newyddiaduraeth y BBC yn gynyddol roi sylw i wahanol heriau a blaenoriaethau pob un o'r pedair gwlad, eu deall, eu hamlygu a u cyferbynnu. Rhaid i'r BBC helpu pawb ohonom i ddysgu oddi wrth ein gilydd, yn ogystal ag am ein gilydd. Mae'r arwyddair Nation Shall Speak Peace Unto Nation yn egwyddor arweiniol ddefnyddiol, hyd yn oed o fewn cyd-destun y Deyrnas Unedig yn unig. Yn olaf, ac wrth i'r Ymddiriedolaeth baratoi i wneud lle ar gyfer cyfundrefn reoleiddio a llywodraethu newydd, roeddem yn croesawu n fawr y pwyslais yn y drafft o'r Siarter Frenhinol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, ar rwymedigaethau r BBC i adlewyrchu'r Deyrnas Unedig gyfan yn ei rhaglenni a'i chynnwys arall. Credwn y bydd hyn yn rhan sylfaenol o'r BBC yn y dyfodol. O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd craffu mewnol ar berfformiad y BBC yn fater i Fwrdd Unedol newydd. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd camau heb eu tebyg o'r blaen i fonitro darllediadau newyddion y Gwledydd ar y rhwydwaith yn systematig. Bu r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd a dadansoddiad dilynol o'r cynnwys yn amhrisiadwy wrth olrhain ac asesu perfformiad y BBC dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Rydym yn annog y Bwrdd Unedol i barhau i ddal y Weithrediaeth i gyfrif yn gadarn ar y mater hollbwysig hwn, ac i gynnal (a chyhoeddi) asesiadau annibynnol o berfformiad y BBC. Tachwedd 2016 2
Ymateb Gweithredol i'r Adolygiad o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd Mae'r BBC yn croesawu gwaith craffu r Ymddiriedolaeth ar newyddion am bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn newid. Felly, hefyd, mae disgwyliadau'r gynulleidfa. Mewn ymateb, mae BBC News wedi bod yn newid hefyd: rydym wedi buddsoddi mewn adrodd, gwella'r broses o rannu gwybodaeth rhwng golygyddion, datganoli'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch casglu newyddion, mynnu bod straeon yn cael eu labelu'n glir a darllediadau newyddion estynedig o bob un o'r pedair gwlad. Mae BBC News yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb, gan adrodd am y newyddion sy'n bwysig yn y byd, ar draws Prydain, ym mhob Gwlad ac yn y gymuned. Mae cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn yn un o'r tasgau canolog i olygyddion a gohebwyr. Wrth gwrs, mae hon yn dasg nad yw byth yn cael ei chwblhau. Mae'n fater o farn olygyddol annibynnol. Ac, yn y Deyrnas Unedig ddeinamig, ddatganoledig rydym yn byw ynddi, mae'n bwysicach nag erioed. Mae adolygiad yr Ymddiriedolaeth yn canmol allbwn y BBC ac yn nodi lle mae mwy i'w wneud. Gadewch i ni ymdrin â'r ganmoliaeth yn gyntaf, yn gyflym. Daw astudiaeth 2016 gan Brifysgol Caerdydd i'r casgliad fod y BBC yn cyfathrebu newyddion am y pedair Gwlad yn fwy rheolaidd ac yn fwy eglur na darlledwyr eraill. Dywedir fod y BBC yn llawer mwy cywir wrth gyfathrebu perthnasedd daearyddol eitemau newyddion na chystadleuwyr. Y pwynt pwysicaf a godwyd gan adolygiad yr Ymddiriedolaeth yw'r angen i barhau i wella r ffordd mae storïau yn cael eu labelu. Mae'n hanfodol fod cynulleidfaoedd yn gwybod sut mae stori yn effeithio arnyn nhw, neu'n wir a yw stori yn effeithio arnyn nhw. Er bod yr Ymddiriedolaeth yn nodi'r cynnydd sylweddol a pharhaus o ran yr agwedd hon, mae'r BBC yn cydnabod fod yn rhaid iddi fod yn ddidrugaredd: mae perthnasedd yn hanfodol, o ran adrodd straeon yn glir a barnu lle dylent ymddangos yn y drefn ddarlledu. Ymatebodd y BBC i ganfyddiadau cychwynnol yr adolygiad ym mis Ionawr, (yn seiliedig ar astudiaeth 2015) a oedd yn tanlinellu fod yn rhaid i ni weithio'n galetach ar labelu. Canfu astudiaeth 2016 fod cyfran eitemau r BBC a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig neu i Gymru a Lloegr, a oedd yn cyfleu eu perthnasedd daearyddol, yn 78%, sef y lefel uchaf mewn unrhyw un o'n hastudiaethau. Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Newyddion gyfarwyddyd i atgoffa r holl staff newyddion am y gofyniad i bennu straeon datganoledig yn y system gynllunio ac ar yr awyr. Mae system adborth yn ei lle a gofynnir i r Gwledydd amlygu gwallau i'r Golygydd Newyddion. Mae'r BBC yn trin y pryderon a godwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn yr adolygiad hwn fel mater difrifol. Byddai hefyd yn hoffi cydnabod y gwaith gwerthfawr a wnaed gan aelodau o bob un o Gynghorau Cynulleidfa r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. O ganlyniad i waith craffu r Ymddiriedolaeth ac yn dilyn cyfarfodydd y Cynghorau Cynulleidfa, mae'r BBC: Tachwedd 2016 3
Wedi cyflwyno "gwregys newyddion y gwledydd" ar y rhaglen News at Six, gan warantu proffil ar gyfer straeon o amgylch y Deyrnas Unedig pan nad ydyn nhw n croesi'r trothwy i gael eu cynnwys yn y nifer fach o straeon sy'n cael triniaeth lawnach. Mae'r fformat newydd wedi ffitio'n ddi-dor i'r rhaglen heb unrhyw adwaith anffafriol gan gynulleidfaoedd. Mae cynulleidfaoedd News at Six, mewn gwirionedd, wedi bod yn hynod gadarn. Ar ôl cyfnod prawf cychwynnol, mae'r dull newydd wedi ei gadarnhau ar sail barhaol. Mae swydd newydd Golygydd yr Alban wedi cael ei chreu i godi proffil newyddion yr Alban, o ystyried y newid sylweddol diweddar yn y dirwedd gyfansoddiadol a gwleidyddol. Mae Penaethiaid Newyddion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bresennol yn y gynhadledd newyddion am 9 y bore drwy gynhadledd fideo, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Newyddion. Felly, hefyd, y mae cynrychiolydd o ranbarthau Lloegr. Maen nhw n cynnig straeon o'r Gwledydd a'r rhanbarthau ac yn cynghori golygyddion allbwn ar sut mae'r ddarpariaeth yn cael ei gweld a'i chlywed ym mhob un o'r pedair gwlad. Mae r prif gyfarfod cynllunio newyddion wythnosol wedi mabwysiadu r un model erbyn hyn. Mae golygyddion newyddion o Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr yn rhoi mwy o broffil i ddigwyddiadau sydd ar ddod, yn darparu amser ar gyfer paratoi, yn tynnu sylw at ddatblygiadau sylweddol yn y tymor hwy ac yn cyflwyno cyfleoedd i drin straeon mewn modd cymharol rhwng y Gwledydd. Rydym yn disgwyl i r datblygiad hwn atgyfnerthu pwysigrwydd adrodd yn drylwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r BBC yn cydnabod pwysigrwydd gwerthuso academaidd cynnyrch, ond, fel mae'r awduron yn nodi'n glir, nid yw dull meintiol yr astudiaeth hon yn casglu'r barnau newyddion a wnaed mewn ymateb i agenda newyddion benodol y cyfnod dan sylw. Yn 2014, cynhaliwyd refferendwm yn yr Alban; yn 2015, cafwyd Etholiad Cyffredinol; ac yn 2016, cafwyd y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd. O ddur Tata i feddygon iau yn Lloegr, i berfformiad Gogledd Iwerddon a Chymru (ac am resymau gwahanol, Lloegr) yn Ewro 2016, cafwyd straeon a gipiodd y penawdau ac a gafodd le blaenllaw yn y bwletinau gan fod golygyddion yn gwbl briodol o'r farn eu bod nhw n ddiddorol a phwysig. Mae dadansoddi cynnwys yn trin pob munud o newyddion yr un fath heb ystyried yr ystyr; mae'n cymharu un cyfnod ag un arall, ni waeth beth sy'n digwydd. Risg hyn yw newyddion drwy ddidueddrwydd ticio blychau, ac felly rydym yn croesawu datganiad Prifysgol Caerdydd nad yw dadansoddiad meintiol yn awgrymu y dylai sylw gael ei yrru gan gwotâu neu nifer y cyfeiriadau. Mae'r gofyniad i ddarparu adroddiadau cywir a llawn gwybodaeth i gynulleidfaoedd, sy'n adlewyrchu r Deyrnas Unedig gyfan i'r Deyrnas Unedig gyfan, wedi dod yn fwy pwysig yn dilyn y bleidlais mewn refferendwm ynghylch y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan hyn oblygiadau gwahanol i wleidyddiaeth a r gymdeithas yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon o bosibl. Yn dilyn y bleidlais Brexit, buom yn adrodd ar rai o'r goblygiadau yn y Gwledydd, gan gynnwys symudiadau Llywodraeth yr Alban tuag at y posibilrwydd o ail refferendwm ar annibyniaeth, y cwestiynau yng ngogledd Iwerddon ynghylch statws y ffin â r Weriniaeth yn y dyfodol a galwadau Sinn Fein am refferendwm, pryderon gan Brif Weinidog Cymru Tachwedd 2016 4
ynghylch disodli cronfeydd presennol yr Undeb Ewropeaidd ac adroddiadau o ardaloedd yn Lloegr oedd yn mynegi cefnogaeth gref i Brexit dros bryderon am fewnfudo ac allgáu economaidd. Bydd adrodd ar ddimensiynau gwleidyddol a chyfansoddiadol proses Brexit yn parhau i ffurfio rhan sylweddol o wasanaeth y rhwydwaith wrth i'r broses fynd rhagddi. Yn fwy cyffredinol, bydd BBC News yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i adrodd am y newyddion ar draws Teyrnas Unedig sy'n fwyfwy datganoledig. Tachwedd 2016 5