Ysgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn:

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Holiadur Cyn y Diwrnod

PROSBECTWS YSGOL

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Summer Holiday Programme

Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.

NatWest Ein Polisi Iaith

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

offered a place at Cardiff Met

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Safonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

e-bost/ Rhif testun yr ysgol/school s text no:

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Pennaeth Mr Dewi Owen Headteacher

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

The Life of Freshwater Mussels

POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Gwybodaeth am Hafan Cymru

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

October Half Term. Holiday Club Activities.

NUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

YSGOL DAFYDD LLWYD ADRODDIAD BLYNYDDOL Y LLYWODRAETHWYR 2014/15

Addysg Oxfam

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD

Welsh Language Scheme

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Talu costau tai yng Nghymru

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

W46 14/11/15-20/11/15

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Tour De France a r Cycling Classics

Chwefror / February 2015

Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus

W39 22/09/18-28/09/18

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS

Dachrau n Deg Flying Start

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Transcription:

Ysgol Bro Banw Adran y Cyfnod Sylfaen Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn: 01269 592481 Ysgol Bro Banw Adran Iau Heol Walter Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 2NS Ffôn: 01269 592481 Ebost: admin@banw.ysgolccc.org.uk Ebost: admin@banw.ysgolccc.org.uk www.brobanw.com YSGOL BRO BANW PROSBECTWS

Neges gan y Pennaeth Annwyl Riant, Mae n bleser gennyf gyflwyno i chi rywfaint o wybodaeth am Ysgol Bro Banw drwy r prosbectws hwn. Diben yr wybodaeth yw eich galluogi chi i ddeall bywyd ac ethos yr ysgol. Fy nod yw ein bod ni, fel ysgol, yn darparu amgylchedd gofalgar i ch plentyn. Rydyn ni n gwneud ymdrech i sicrhau bod pob plentyn yn cael manteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, er mwyn gallu tyfu i fod yn oedolion annibynnol a chyfrifol. Yma yn Ysgol Bro Banw, rydyn ni n deall bod perthynas gynhyrchiol rhwng y cartref a r ysgol yn hanfodol, er mwyn meithrin ymdeimlad o bartneriaeth rhwng rhieni ac athrawon a sicrhau r amgylchedd dysgu gorau bosib i ch plentyn. Rydyn ni felly n ymdrechu drwy r amser i gyflawni hyn. Mae Ysgol Bro Banw yn ysgol hapus, ac mae hyn yn deillio o r cyfleoedd sydd ar gael i bawb. Mae cyfranogi a llwyddo mewn llawer o fentrau n galluogi disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr, y gymuned a r Awdurdod Addysg Lleol i ymfalchïo yn eu cysylltiad â r ysgol. Rwy n edrych ymlaen at eich croesawu chi a ch plentyn i Ysgol Bro Banw ac yn gobeithio y bydd y blynyddoedd y byddwch yn eu treulio gyda ni yn rhai hapus a buddiol. Os hoffech gael unrhyw wybodaeth arall ar ôl darllen y prosbectws hwn, mae croeso i chi gysylltu â fi yn yr ysgol. Yn gywir, Mrs. L Bates

Staff Ysgol Bro Banw Cyfrwng Saesneg Pennaeth Cynorthwyol Miss M Jones Meithrin/Derbyn Mrs S Pearce Blwyddyn 1 Miss A Evans Blwyddyn 1 /2 Mrs A Rees Blwyddyn 2 Mrs V Thomas Staff Addysgu Adran y Cyfnod Sylfaen Cyfrwng Cymraeg Derbyn /Blwyddyn 1 Miss M Davies Blwyddyn 1 / 2 Mrs F Archer Dosbarthiadau Arbennig Uned Asesu 1 Mrs T Davies Uned Asesu 2 Mr G Jones Uned Iaith Miss D Yelland Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs Emma Williams

Staff Ysgol Bro Banw Blwyddyn 3 a 4 Cyfrwng Saesneg Mrs. C Edwards Miss C John Mrs D Saunders Staff Addysgu Adran Iau Cyfrwng Cymraeg Blwyddyn 3 a 4 Mrs L Rees Blwyddyn 5 a 6 Cyfrwng Saesneg Mrs J Arnold Mrs J Jones Mrs N Morris (Mr T Williams) Mr B Jones-Davies Blwyddyn 5 a 6 Mrs O Rees

Staff Cymorth Ysgol Bro Banw Staff Cymorth Adran y Babanod: Mrs K.Pugh, Mrs J. Bray, Mrs C.Roberts, Mrs D. Williams, Mrs G. Woodall, Mrs V. Thomas, Mrs S. Stephens, Mrs D. Quigley, Mrs L. Spowart, Mrs S.J. Davies, Miss G. Harries, Miss R. Snelgrove, Miss A. Mainwaring, Mrs V Thomas, Mrs N Jones, Mrs R Downing, Staff Cymorth Adran Iau: Mrs S Wigley, Mr R Walters, Mr R Jones, Miss S Howells, Mrs H Laye, Miss R Miles, Mr J Davies, Mrs C Rosser, Mrs S Squires, Mrs K Williams, Mrs A Thomas Rheolwr Safle: Mr D Coslett Uwch Swyddog Cymorth Ysgol : Mrs S Jones Swyddog Gweinyddol: Mrs E James-Davies Cynorthwyydd Gweinyddol: Mrs E Davies, Mrs Denise Jones Cyswllt Teuluoedd: Mrs A Fayle Llywodraethwyr Mae llywodraethwyr yn debyg i fwrdd o gyfarwyddwr ac yn gwneud penderfyniadau am y ffordd y caiff yr ysgol ei rhedeg. Maen nhw n cyfarfod o leiaf unwaith y tymor yn yr ysgol. Caiff llywodraethwyr eu penodi i n helpu ni i benderfynu beth sy n cael ei ddysgu, gosod safonau ymddygiad, cyfweld a dethol staff a phenderfynu sut y caiff cyllideb yr ysgol ei gwario. Mae gan lywodraethwyr ysgol ddyletswyddau, pwerau a chyfrifoldeb cyfreithiol. Mae ein Corff Llywodraethu n cynnwys rhieni, athrawon, cynrychiolwyr o r cyngor lleol a chynrychiolwyr o r gymuned. Mrs L Bates, Mrs E Williams (Chair of Governors), Cllr D Harries, Mrs E Jones, Mrs H James, Ms E Leyshon, Mr J Gwynfryn-Evans, Mrs R Bullions, Mr I Llewellyn, Mr C Jones, Mrs A Fayle a Dosbarthiad yr Ysgol Cynradd A / B

Gwybodaeth Gyffredinol Lleoliad a Diogelwch Adran y Cyfnod Sylfaen: ar Heol Walter, sy n ardal breswyl dawel, i ffwrdd o ganol dref brysur Rhydaman. Mae ein disgyblion yn ffodus i gael holl fanteision ardal dysgu a chwarae awyr agored fawr a diogel. Mae r ardd yn cynnwys ardal laswelltog helaeth lle cynhelir chwaraeon a gweithgareddau gemau rheolaidd ac sydd â golygfa o goed a chaeau yn y cefn. Mae rhan o r ardal laswelltog wedi i dynodi n ardal bywyd gwyllt ar gyfer arsylwi ac ymchwiliadau gwyddonol. Mae coed brodorol, yn ogystal â llwyni a bylbiau wedi u plannu ac mae r plant yn gofalu am botiau a gwelyau planhigion. Ceir amrywiaeth o arwynebau ar y mannau chwarae, ac mae gemau wedi u peintio ar y tarmac. Mae ardaloedd chwarae ar wahân i r plant iau lle gallan nhw chwarae gyda theganau mawr. Mae ardal chwarae awyr agored y plant wedi i ffensio n ddiogel ar bob ochr. Cyfyngir mynediad i r ysgol drwy r drws blaen, sydd â system ddiogelwch. Ceir mynediad i r ysgol drwy r gât ochr fach a r drws blaen. Gofynnir i rieni beidio â pharcio yn arhosfa r bysiau, na gyrru ceir i faes parcio r staff. Gall rhieni sy n parcio yng arhosfa r bysiau dderbyn tocyn parcio gan yr heddlu. Rhaid cymryd gofal arbennig i barcio n ddiogel wrth y palmant, er mwyn sicrhau nad yw r plant mewn perygl o gael damwain ddifrifol. Adran Iau: mewn ardal ddymunol iawn yn agos i ganol tref Rhydaman. Gellir cyrraedd y brif fynedfa drwy faes parcio mawr y Cooperative o Stryd Margaret. Gofynnir i rieni beidio â gyrru eu ceir i faes parcio r staff na pharcio eu ceir ym mynedfa r maes parcio. Mae prif adeilad yr ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, Ystafelloedd Cyfrifiadurol a Neuadd, a ddefnyddir ar gyfer gwasanaeth y bore ac addysgu. Yn ogystal mae gan yr ysgol swyddfeydd gweinyddol a cheir Ffreutur ar wahân. Mae ystafelloedd dosbarth y plant wedi u hailwampio i sicrhau eu bod o r safon gorau, rhywbeth mae pawb yn ei werthfawrogi. Mae pob ystafell ddosbarth a r ystafell cyfrifiaduron bellach yn cynnwys sgrin cyfryngau rhyngweithiol, ac mae gan bob disgybl Ipad yr un, sy n sicrhau bod y plant i gyd yn gallu manteisio ar y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg addysg. Ceir tri maes chwarae penodol, gydag amrywiaeth o arwynebau a gemau wedi u peintio ar y tarmac. Trefnir egwyl y bore ar sail amserlen, gyda Blwyddyn 3 a 4 yn chwarae ar adeg wahanol i Flwyddyn 5 a 6. Mae hyn yn sicrhau nifer llai o blant ar y meysydd chwarae ar unrhyw adeg, gyda phob plentyn yn cael cymaint â phosib o ofod i chwarae. Cyfyngir mynediad i r ysgol i ymwelwyr drwy r prif fynedfeydd, sydd â system ddiogelwch a recordio camera cylch cyfyng. Gofynnir i bob ymwelydd â r ysgol eu cyflwyno eu hunain yn swyddfa r gweinyddydd

Oriau Ysgol: Adran y Cyfnod Sylfaen Bydd drysau r ysgol yn agor am 8.40 a.m Disgwylir i r plant i gyd fod yn yr ystafell ddosbarth cyn canu r gloch am 8.50a.m Caiff unrhyw blentyn sy n cyrraedd ar ôl 8.50 a.m ei gofnodi n hwyr ar y gofrestr ar wahân i blant yr uned sy n cyrraedd erbyn 8.55 am. Helpwch eich plentyn i sefydlu arferion prydlondeb da. Prif ffrwd: 8.50 a.m - 11.50 a.m / 12.40 p.m - 2.40 p.m Unedau: 8.55 a.m - 11.50 a.m / 12.40 p.m - 2.55 p.m Gofynnir i rieni aros y tu allan i r adeilad yn y prynhawn tan fod y gloch yn canu am 2.40 p.m. Oriau Ysgol: Adran Iau Bydd drysau r ysgol yn agor am 8.30 a.m Disgwylir i r plant i gyd fod yn yr ystafell ddosbarth cyn canu r gloch am 8.40a.m Caiff unrhyw blentyn sy n cyrraedd ar ôl 8.40 a.m ei gofnodi n hwyr ar y gofrestr. Helpwch eich plentyn i sefydlu arferion da o ran prydlondeb. Mae r gofrestr yn cau am 9am a bydd unrhyw blentyn sy n cyrraedd ar ôl yr amser hwn yn cael ei nodi n absennol. Prif ffrwd: 8.40 a.m - 11.50 a.m / 12.40 2.55p.m Dyddiadau Tymor: Pennir dyddiadau r tymhorau n flynyddol a hysbysir rhieni ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Ceir manylion ar Wefan Cyngor Sir Caerfyrddin ac ar wefan yr ysgol www.brobanw.com. Hefyd gweler yr atodiad. Clybiau ar ôl Ysgol: Mae adran y Cyfnod Sylfaen yn rhedeg nifer o glybiau ar ôl ysgol tan 3.50pm: ADRAN Y Cyfnod Sylfaen Llun Mawrth Mercher Iau Gemau Bwrdd Ymarfer Corff Clwb Cymraeg Celf Mae r adran Iau yn rhedeg nifer o glybiau ar ôl ysgol tan 4.00pm: Llun Mawrth Mercher Iau ADRAN IAU Gemau Bwrdd Celf a Lego Urdd / MAT / TGCh Ymarfer corff / ECO / Canu Bydd taliad untro o 30 ar ddechrau r flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn talu costau deunyddiau ac aelodaeth unrhyw gymdeithasau.

Cenhadaeth a Gweledigaeth yr Ysgol: Paratoi r Ffordd ar Gyfer Arloeswyr y Dyfodol Yma yn Ysgol Bro Banw rydyn ni n Paratoi r Ffordd ar Gyfer Arloeswyr y Dyfodol mewn oes ddigidol. Rydyn ni n gwneud hyn drwy greu amgylchedd dysgu heriol sy n annog disgwyliadau uchel ar gyfer llwyddiant, drwy gyfarwyddyd digidol, datblygiadol ac arloesol sy n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau ac arddulliau dysgu unigol. Mae ein hysgol yn hyrwyddo amgylchedd diogel, trefnus, gofalgar a chefnogol lle caiff hunanbarch pob disgybl ei feithrin gan berthynas gadarnhaol gyda r staff. Rydyn ni n ymdrechu i sicrhau bod ein rhieni, athrawon ac aelodau o r gymuned yn cyfrannu n weithredol at ddysg ein plant. Rydyn ni n anelu at ddarparu cymuned gefnogol o fewn amgylchedd hapus, lle caiff disgyblion eu cymell a u herio i gyflawni eu potensial. Rydyn ni n credu y bydd ein pwyslais ar ansawdd a safonau uchel, o ran gwaith ac ymddygiad, yn rhoi agwedd gadarnhaol i n plant at fywyd a sylfaen gref ar gyfer eu dysg yn y dyfodol. espect ourselves and others. Yn ein hysgol ni rydyn ni n credu y dylen ni wneud y canlynol... I osod llais a chyfranogiad y plentyn yng nghalon yr addysgua bywyd yr ysgol. I gynnwys teuluoedd a r gymuned yng ngwaith yr ysgol I ddarparu amgylchedd cynhwysol, gofalga ac hapus lle mae pob plentyn yn teimlo n ddiogel ac yn werthfawr. I ddarparu amgylchedd ddysgu heriol sy n hybu disgwyliadau uchel o lwyddiant drwy ddatblygiad digidol a chyfarwyddid arloesol. I annog pob plentyn I ymdrechu I fod yn ddysgwr digidol cymwys a dawnus sydd â agwedd cadarnhaol ac iachus ac sy n cymryd cyfrifoldeb am ei addysg a r camau llwyddiant. I ysbrydoli pob plentyn I fod yn arloeswyr trwy annog lefel uchel o ddyhead ac agwedd gadarnhaol. I ddatblygu ysgol sydd â ethos cryf o Gymreictod a lle mae pob plentyn yn filch I ddefnyddio r iaith Gymraeg I annog ac ymdrechu I gyrraedd presenoldeb o 100%

Yn ein hysgol bydd ein staff yn... Anelu at greu pobl ifanc annibynnol a dibynadwy. Ymgeisio i ddatblygu eu potensial yn academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol drwy ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Drwy hunanwerthuso parhaus, darparu addysgu rhagorol ar gyfer cyfleoedd dysgu a bod â r disgwyliadau uchaf. Cydnabod bod partneriaethau cadarnhaol rhwng rhieni, gofalwyr a staff yn hanfodol ar gyfer codi safonau. Datganiad Cenhadaeth Paratoi r Ffordd ar Gyfer Arloeswyr y Dyfodol Paving the Way For Future Pioneers

Athrawon a rhieni n gweithio mewn partneriaeth Cytundeb Ysgol / Cartref Caiff partneriaeth glos rhwng rhieni a r ysgol ei hannog. Disgwylir i rieni lofnodi a chydymffurfio â chytundeb cartref / ysgol i gydweithio gyda r ysgol er lles y disgyblion. Mae croeso bob amser i rieni drafod materion gyda r Pennaeth neu r athro dosbarth. Os hoffech gael cyfarfod estynedig, gwmewch drefniant i gael cyfarfod hirach ar adeg sy n gyfleus i bawb. Cynnydd: Mae croeso i rieni ddod i r ysgol i drafod cynnydd eu plentyn. Gwnewch apwyntiad os hoffech drafodaeth hirach, er mwyn osgoi amharu ar y dosbarth. Caiff rhieni eu hysbysu n llawn am gynnydd eu plant a gellir gofyn iddyn nhw ddod i r ysgol i drafod unrhyw faterion pwysig. Cynhelir nosweithiau bob tymor i drafod a gwahoddir rhieni i ddod. Mae rhieni n derbyn adroddiad ysgrifenedig blynyddol ar ddiwedd tymor yr haf. Gwaith cartref: Gosodir gwaith cartref er mwyn i rieni gael dealltwriaeth o r ffordd mae eu plant yn dysgu. Nod yr ysgol yw cynnig cyfle i bob plentyn ei fynegi ei hun mewn amrywiol ffyrdd drwy r gwaith cartref. Defnyddir Cofnodion Dysgu fel offeryn i hysbysu athrawon a rhieni o ddealltwriaeth a gallu r disgyblion. Gellir cwblhau r Cofnodion mewn ffyrdd sy n addas i ddiddordebau a gallu r unigolyn. Maen nhw n hybu menter, cydweithio ac annibyniaeth. Nosweithiau Cwricwlwm: Cynhelir nosweithiau rhifedd, llythrennedd a chwricwlwm yn gyfnodol i alluogi rhieni i ganfod sut i gefnogi eu plentyn gyda gwaith rhif, darllen, ysgrifennu a datblygu sgiliau

Prydau Ysgol: Nodwch: aiff llaeth ei ddarparu am ddim Mae pryd canol dydd ar gael i r plant. Nid oes gan yr ysgol gegin ac felly anfonir y prydau o r Gegin Ganolog. Telir am y bwyd ar ddydd Llun. Rhaid gosod yr arian cywir mewn amlen gydag enw a dosbarth y plentyn yn glir arni. Os oes angen newid ar rieni, rhaid aros i weld y clerc cinio am 9.a.m. ddydd Llun. Nid oes gan athrawon yr amser na r modd i roi newid. Os oes absenoldeb, caiff yr arian ei gario ymlaen i r wythnos nesaf. Mae darpariaeth i blant ddod â phecyn cinio o gartref. Er diogelwch, ni chaniateir diodydd poeth mewn fflasgiau na photeli gwydr yn yr ysgol. Darperir prydau am ddim i r plant hynny y mae eu rhieni n gymwys. Ceir cyngor am brydau am ddim a ffurflenni gan ein swyddog cyswllt teuluoedd. Anogir plant i fwyta n iach, felly ni chaniateir losin yn yr ysgol. Peidiwch â darparu siocled, bisgedi, creision a pop i ch plentyn eu bwyta amser egwyl, ond anogir ffrwythau. Mae siop ar gael hefyd i blant brynu ffrwythau bob dydd.. Cyfathrebu : Caiff rhieni eu hysbysu o flaen llaw mewn lythyrau drwy law r plant am unrhyw gyngerdd, nosweithiau rhieni a digwyddiadau cymdeithasol.. Mae r rhain hefyd ar wefan yr ysgol. Cau r Ysgol: Cau r Ysgol: Os am unrhyw reswm (tywydd drwg ac ati) bydd rhaid cau r ysgol am y dydd, caiff neges ei hanfon drwy Radio Sir Gaerfyrddin, Group Call a gwefan yr Ysgol. Cymdeithas Rhieni Athrawon: Ceir cymdeithas fywiog sy n cefnogi gwaith yr ysgol ac mae r plant wedi elwa n sylweddol o r adnoddau a r gweithgareddau a gyllidir gan y Gymdeithas Rhieni Athrawon. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â r ysgol Iechyd a Diogelwch: Fel ysgol rydyn ni n ymrwymo i sicrhau iechyd a diogelwch yr holl ddisgyblion a staff. Caiff pob mynedfa ei chloi ac i ddod i mewn ceir system cod mynediad. Bydd aelod allweddol o staff yn cyfarfod ag unrhyw ymwelydd â r adeilad a bydd yn ei hebrwng at y lle priodol. Ceir cofnod ymwelwyr ar gyfer pob ymweliad â r ysgol. Mae gan yr ysgol swyddog cymorth cyntaf dynodedig. Os ceir damwain yn yr ysgol, yna bydd yr ysgol yn anfon slip damwain at y rhieni yn eu hysbysu a oes angen sylw meddygol. Cedwir cofnod damweiniau. Mae r ysgol yn cydymffurfio â holl weithdrefnau r AALl o ran hysbysu am ddigwyddiadau ar safle r ysgol. Er diogelwch, dim ond ceir staff a gaiff ddod ar safle r ysgol

Clwb Brecwast: Rydyn ni n trefnu Clwb Brecwast o 7.45-8.30 a.m i r holl ddisgyblion. Mae r clwb hwn am ddim a chaiff ei redeg gan aelodau o staff. Cysylltwch â r ysgol am ffurflen. Rhaid i r plant gyrraedd yr ysgol cyn 8.20 a.m. Gwisg ysgol: Ceir polisi gwisg ysgol cadarn a disgwylir i r holl blant gydymffurfio drwy wisgo gwisg ysgol lawn bob dydd. Am resymau iechyd a diogelwch, ni chaniateir unrhyw emwaith ar wahân i oriawr. Bechgyn - Crys polo lelog, Crys chwys du, Trowsus/siorts du Merched - Crys polo lelog, Crys chwys du, Sgert neu ffrog binaffor ddu. Haf: Ffrog gingham neu streipiau lelog a gwyn. Ymarfer corff - Gymnasteg / Dawns / Gemau: Crys polo gwyn Tracwisg / siorts Du Trainers Mae crysau chwys a pholo gyda logo r ysgol ar gael gan gyflenwyr yr ysgol Eirllyn Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gallu gwisgo a dadwisgo n annibynnol. Anogir plant i fynychu gwersi nofio a newid i siorts a chrysau t ar gyfer ymarfer corff. Cofiwch labelu pob dilledyn yn enwedig cotiau. Cyfle cyfartal: Mae r ysgol yn rhoi gwerth ar gyfraniad pob dinesydd beth bynnag eu hanabledd, rhyw, hil, tarddiad ethnig, iaith neu grefydd. Gall yr holl blant fanteisio ar gwricwlwm eang a chytbwys. Caiff plant ag anghenion addysgol arbennig eu hintegreiddio fel bo n briodol yng ngweithgareddau prif ffrwd yr ysgol. Oherwydd anabledd efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai plant i fanteisio ar y cwricwlwm llawn. Mae r ysgol yn cymryd pob cyfle i addysgu am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ymwneud ag anabledd, rhyw a hil drwy r cwricwlwm ABCh. Mae r staff a r llywodraethwyr yn ceisio datblygu pob plentyn fel unigolyn, beth bynnag ei oed, rhyw, hil, crefydd neu anabledd. Rydym ni n gwerthuso pob safle n rheolaidd i sicrhau eu bod yn addas ac yn hygyrch i bob disgybl. Rydym yn ceisio ymateb yn amserol i anghenion unigolion ag anabledd. Polisi Diogelu Plant: Mae Polisi Diogelu Plant yr Ysgol yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol. Yr aelod dynodedig o staff ar gyfer diogelu plant yw Mrs L Bates. Mae aelod dynodedig o r corff llywodraethu hefyd yn gyfrifol am gadw trosolwg o ddiogelwch yr holl ddisgyblion. Mae r holl aelodau o staff yn ymwybodol o r Canllawiau ar Ddiogelu Plant. Rhaid iddynt weithredu yn ôl y canllawiau hyn.

Bwlio: Mae polisi r ysgol ar fwlio n seiliedig ar y dybiaeth ganlynol: bod y mwyafrif o ddigwyddiadau ymosodol rhwng plant o r oedran hwn yn rhan o u datblygiad cymdeithasol. Fodd bynnag caiff unrhyw achos o fwlio h.y. aflonyddu parhaus, boed yn eiriol neu n gorfforol, ei drin ar unwaith a bydd gofyn i rieni r ymosodwr ddod i r ysgol i drafod y mater. Disgwylir i rieni gefnogi r ysgol yn yr achosion hyn drwy osod cosbau yn y cartref. Bydd y dioddefwr yn cael cymorth drwy gydol y cyfnod. Caiff strategaeth briodol ei chytuno, yn yr ysgol a gartref. Yn yr ysgol, gallai hyn gynnwys colli amser chwarae, peidio â chymryd rhan mewn hoff weithgaredd, neu golli trip ysgol. Os ceir digwyddiad ar fws yr ysgol ni fydd y Pennaeth yn caniatáu i r ymosodwr deithio ar y bws. Gweithgareddau Chwaraeon Mae Addysg Gorfforol yn cynnwys gemau tîm a chystadleuol a gweithgareddau chwaraeon yn ogystal â gymnasteg a dawns. Yn ôl eu gallu, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn cystadlaethau Ardal a Thraws Gwlad. Cynhelir Diwrnod Chwaraeon blynyddol, a gwahoddir rhieni i hwn. Mae disgyblion B2 yn dysgu sgiliau sylfaenol rygbi, pêl-droed, pêlrwyd, tennis byr a dawnsio gwerin. Caiff disgyblion Blwyddyn 2 y cyfle i ddatblygu eu gallu nofio yn ystod sesiynau nofio wythnosol yn y pwll nofio lleol. Ymweliadau Addysgol: Mae ymweliadau addysgol yn gysylltiedig â thema r tymor ac yn gymorth gwerthfawr i gymhelliant a dysg y plant. Gall ymweliadau gynnwys mynd am dro yn y cyffiniau neu ymhellach. Caiff pob ymweliad ei oruchwylio gan staff gan gydymffurfio â r cymarebau oedolion:plant statudol. Diogelwch yw r brif flaenoriaeth bob tro. Cewch eich hysbysu o flaen llaw bob tro pan fydd eich plentyn yn gadael safle r ysgol a bydd angen cwblhau slipiau caniatâd. Llais y Disgybl Yn Ysgol Bro Banw rydyn ni n credu bod llais y disgybl yn hynod o bwysig. Mae gennym ni bwyllgorau ysgol gweithredol gan gynnwys Cyngor Ysgol a chyngor Ysgol Eco. Hefyd mae gennym ni Arweinwyr Digidol a Llysgenhadon Ysgol

Derbyn Plant Caiff plant eu derbyn i Adran y Cyfnod Sylfaen ar ddechrau r tymor pan fyddan nhw n 4 oed. Gellir ymgeisio drwy Wefan Derbyn Sir Gaerfyrddin. Er bod dyddiadau r tymhorau n gallu amrywio, y dyddiadau derbyn yw 1 Ebrill, 1 Medi ac 1 Ionawr. Gwahoddir plant a gofrestrir gyda u rhieni i ymweld â r ysgol yn ystod y tymor cyn derbyn. Bydd plant yn pontio i r adran Iau yn ystod mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 7. Bydd plant yn pontio i addysg uwchradd yn ystod mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11. Disgyblaeth a Rheolau r Ysgol Y Pennaeth sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am ddisgyblaeth yr ysgol, ond mae hefyd yn fater i r holl staff a rhieni. Rydyn ni n ceisio cyflawni awyrgylch cadarnhaol, cyfeillgar a disgybledig ar sail system teilyngdod, gyda chymorth amser cylch, ein gwerthoedd a systemau SEAL. Am resymau diogelwch, ni chaniateir unrhyw geir (ar wahân i geir staff a thacsis yr uned) oddi mewn i gatiau r ysgol. Mae teganau n gallu cael eu colli neu eu torri felly mae n well eu gadael gartref. Yr unig emwaith a ganiateir yw oriawr. Atgyfnerthu Caiff cynnydd da, yn gymdeithasol a./neu academaidd, ei wobrwyo â phwyntiau teilyngdod gan yr athro dosbarth. Mae goruchwylwyr cinio hefyd yn eu rhoi am ymddygiad da

amser cinio. Caiff gwasanaeth bore Gwener ei ddefnyddio i wobrwyo gwaith caled ac ymddygiad cadarnhaol. Caiff tystysgrifau wythnosol am Seren yr Wythnos a Siaradwr yr Wythnos eu cyflwyno i r plant sydd wedi dangos y gwelliant mwyaf neu sydd wedi gweithio n arbennig o galed. Caiff plant eu henwebu gan eu hathrawon dosbarth. Bydd plant sy n camymddwyn yn ystod amser chwarae ac amser cinio yn cael eu gosod i eistedd ar ochr y maes chwarae am 5 munud i wylio plant eraill yn chwarae n gydweithredol. Os yw r digwyddiad yn ddifrifol caiff y Pennaeth neu r Dirprwy eu hysbysu. Os yw n briodol, gall y Pennaeth neu r Dirprwy atal y disgybl rhag ymuno â r lleill yn ystod amser chwarae am gyfnod penodol. Statws Ysgol Eco gan gynnwys Achrediad Ysgol Iach Mae r ysgol yn ymrwymo n llawn i Faner Eco Werdd Ewrop, Statws Ysgol Eco a statws Ysgol Iach. Rydyn ni n annog y plant i feddwl am yr amgylchedd a chadw at ein cod eco. Hefyd mae gennym ni god eco rydyn ni n ei argymell i rieni. Cod Eco ein hysgol Diffodd y tapiau Diffodd y golau pan nad oes ei angen Rhoi ysbwriel yn y bin Defnyddio papur yn ofalus y ddwy ochr Gofalu am y planhigion yn yr ardd Cerdded i r ysgol os yw n bosib. Cod Eco yn y cartref: Sefydlu ardal ailgylchu yn y cartref Casglu papurau newydd, blychau grawnfwyd, gwydr, dillad, tuniau a u gosod yn y biniau ailgylchu yn Tesco Dŵr: torri lawr ar ddŵr, cael cawod yn lle bath, golchi r car gyda bwced ac nid peipen, gosod bric yn sistern y toiled i leihau r defnydd o ddŵr Inswleiddio: inswleiddio drysau, ffenestri, yr atig a silindrau dŵr poeth Arbed ynni ac arian: trowch y gwres i lawr, defnyddiwch y llinell i sychu dillad nid y sychwr trydan. y car arbed tanwydd: Mae rhesel/blwch ar y to n gwneud car yn llai effeithlon. Gostyngwch y cyflymder mae n well i r amgylchedd, yn arbed petrol ac mae n fwy diogel; gadewch y car adref ac ewch am dro! Ysgol iach: Helpwch ni i gadw ysgol iach drwy ddarparu potel ddŵr (poteli ysgol ar werth) i ch plentyn ei defnyddio yn yr ysgol, darparu cinio iach e.e. dim diodydd pefriog, losin na siocled. Peidio â rhoi losin/siocled i ch plentyn ar gyfer amser egwyl.

Cwricwlwm Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen (3 7 oed) Rydyn ni n dilyn Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen sy n seiliedig ar ddatblygu sgiliau r plant yn y 7 Maes Dysgu: 1. Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol 2. Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu 3. Datblygiad Mathemategol 4. Datblygu r Gymraeg 5. Gwybodaeth a Dealltwriaeth o r Byd 6. Datblygiad Corfforol 7. Datblygiad Creadigol Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn modd trawsgwricwlaidd drwy chwarae ac ymgysylltu gweithredol. Rydyn ni n defnyddio dull thematig ar gyfer dysgu ac addysgu, drwy roi profiadau uniongyrchol i r plant sy n eu galluogi i arbrofi ac archwilio, datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Rydyn ni n defnyddio r awyr agored fel estyniad o r amgylchedd dysgu ac yn cynnig cyfleoedd i r plant fod yn greadigol, dychmygus, cymryd risgiau a chael hwyl wrth ddysgu. Cwricwlwm ar sail Sgiliau yng Nghyfnod Allweddol 2 (7 11 oed) Bydd sgiliau hanfodol cyfathrebu, rhif, TGCh a Meddwl yn treiddio drwy r meysydd pwnc craidd a sylfaen. Cyflwynir y cwricwlwm mewn thema integredig lle bydd yn ystyrlon ac yn berthnasol.. Anogir y plant i ddatblygu drwy ein rhaglen sgiliau meddwl:- Hunan hyder Annibyniaeth dysgu Cydweithio Damcaniaethu Metawybyddiaeth Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Asesu Rydyn ni n asesu r plant wrth iddyn nhw gyrraedd gydag Asesiad Sylfaenol. Yna mae r broses asesu n parhau drwy gydol cyfnod y disgyblion yn yr ysgol.. Caiff pob lefel cyrhaeddiad ei dracio. Nodir tueddiadau cyflawni ac amlygir unrhyw newid o ran canlyniadau, a defnyddir y strategaethau ymyrryd priodol. Yn Ysgol Bro Banw caiff sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a TGCh eu hybu a u rhoi ar waith ar draws y cwricwlwm cyfan. Caiff pob plentyn o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6 ipad yn y dosbarth i gynorthwyo r dysgu.

Dwyieithrwydd Cymhwysedd dwyieithog yw ffocws canolog ein cwricwlwm a chaiff y disgyblion eu ffrydio n ieithyddol yn ôl dewis y rhieni. Dysgir Cymraeg i r holl ddisgyblion fel ail iaith yn unol â r Cyfnod Sylfaen a r Cwricwlwm Cenedlaethol ac anogir defnydd o Gymraeg bob dydd ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol. Rydyn ni n ceisio hybu a datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg. Drwy ethos Y Cwricwlwm Cymreig bydd plant yn datblygu angerdd a dealltwriaeth o u hetifeddiaeth a u diwylliant Cymreig. Anogir dwyieithrwydd drwy Eisteddfod Draddodiadol, Clwb yr Urdd, Cwricwlwm Cymreig, Dawnsio Gwerin, ymweliadau Preswyl â Llangrannog, gwersi iaith penodol a Chymraeg llafar achlysurol Anghenion dysgu ychwanegol plant Mae darpariaeth AAY yr ysgol yn cydymffurfio â r canllawiau a geir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Adnabod ac Asesu Anghenion Addysgol Arbennig a gyflwynwyd gan Ddeddf Addysg 1993. Mae gan yr ysgol gofrestr o blant sydd angen cymorth ychwanegol gyda u gwaith, gan gynnwys plant mwy abl a thalentog. O fewn yr ysgol ceir arbenigedd sylweddol ac ymrwymiad i addysgu plant sy n profi anawsterau wrth ddysgu. Gwahoddir. unrhyw rieni sydd â phryderon am ddatblygiad eu plentyn i drafod y broblem gyda r Pennaeth a all atgyfeirio at asiantaethau eraill os bydd angen. Cynhelir archwiliad blynyddol o blant sy n profi anawsterau, er mwyn gwneud darpariaeth briodol iddynt. Mae rhieni n ymwneud yn agos â r holl benderfyniadau. Ceir rhagor o fanylion yn y Polisi Anghenion Arbennig y gellir ei gael drwy wneud cais. Uned Arbennig: Nod yr Uned Arbennig yw darparu addysg i blant sydd angen lefel uwch o fewnbwn i w datblygiad addysgol. Gweler Prosbectws yr Uned Arbennig am ragor o fanylion. Uned Iaith: Yn adran y Babanod ceir canolfan adnoddau Sir Gaerfyrddin ar gyfer darpariaeth iaith a lleferydd i blant rhwng 3 a 7 oed. Caiff mynediad i r Uned Iaith ei ystyried drwy Banel Derbyn. Uned Arsylwi ac Asesu: Ceir dau ddosbarth Arsylwi ac Asesu ar safle r Babanod. Caiff mynediad i r Uned ei ystyried drwy Banel Derbyn. Fel mae r enw n ei awgrymu, gosodir plant yn yr uned hon os oes angen asesiad dyfnach o u hanghenion. Yna gellir pennu r ddarpariaeth fwyaf priodol iddyn nhw a hefyd gellir ymgeisio am Ddatganiad o Anghenion Addysgol os yw n briodol. Integreiddio: Caiff holl blant yr uned eu hintegreiddio, fel bo n briodol i w hanghenion, mewn gweithgareddau prif ffrwd. Caiff plant sydd ag anghenion addysgol arbennig eu cynnwys ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a r cwricwlwm. Adolygu: Caiff yr holl blant sydd â datganiadau eu hadolygu o leiaf bob blwyddyn. Cynhelir adolygiadau bob tymor i blant ar y Gofrestr AAA ac anogir rhieni i gyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau. Cynhelir cyfarfodydd amlddisgyblaethol yn gyfnodol i blant yn yr unedau. Ni chaiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud heb gytundeb rhieni. SENCO - Mr A May / Mrs T Davies

Gofal a goruchwylio bugeiliol Goruchwylio: Rhowch wybod i r athro dosbarth os bydd rhywun ar wahân i chi n casglu eich plentyn o r ysgol. Caiff plant eu goruchwylio gan aelodau o staff, yn eu dosbarthiadau, ar ddechrau r diwrnod ysgol o 8.40a.m, yn ystod egwyl y bore a hyd nes caiff y plant eu casglu ar ddiwedd Davies y diwrnod ysgol. Mae goruchwylwyr cinio n cynnal yr oruchwyliaeth amser cinio. Salwch yn yr ysgol: Mae r ysgol yn cadw cofnod o gyfeiriad a rhifau ffôn cyswllt. Cyfrifoldeb y rhieni yw hysbysu r ysgol ar unwaith am unrhyw newidiadau. Os yw plentyn yn sâl neu n cael damwain, gwneir pob ymdrech i gysylltu â r cyswllt brys ond os yw hyn yn methu, byddwn yn cymryd pa bynnag gamau sydd eu hangen, gyda lles gorau r plentyn yn flaenoriaeth. Mae cynlluniau gofal brys yn weithredol ar gyfer unrhyw blentyn sydd â chyflwr meddygol difrifol. Caiff mân ddamweiniau eu trin yn yr ysgol ond os ceir digwyddiad mwy difrifol, caiff rhieni alwad ffôn i fynd gyda r plentyn i r feddygfa neu r ysbyty. Os ceir achos brys, caiff ambiwlans ei alw. Yna caiff rhieni eu hysbysu. Os nad yw rhieni n cyrraedd mewn pryd, bydd aelod o staff yn mynd gyda r plentyn yn yr ambiwlans. Apwyntiadau meddygol: Bydd y nyrs ysgol yn ymweld â r ysgol yn gyfnodol. Hysbysir rhieni am yr ymweliadau hyn ac fe u hanogir i ddod i r apwyntiadau. Cysylltir â rhieni os bydd angen triniaeth neu apwyntiadau pellach. Ceisiwch hysbysu r athrawon dosbarth o flaen llaw am apwyntiadau deintydd neu ysbyty. Hysbyswch yr athro dosbarth am unrhyw fater a allai effeithio ar ddysgu eich plentyn. Caiff cyfrinachedd ei barchu bob amser. Meddyginiaeth: Os oes angen meddyginiaeth ar eich plentyn, rhaid trafod hyn gyda r pennaeth. Os cytunir i roi meddyginiaeth yn yr ysgol, rhaid i rieni gwblhau r ffurflen briodol. Dim ond meddyginiaeth ar bresgripsiwn gaiff ei derbyn yn yr ysgol a rhaid i label fferyllydd ddangos enw r plentyn. Llau pen: Yn anffodus mae llau pen yn broblem ym mhob ysgol o dro i dro a hoffem bwysleisio nad cyfrifoldeb yr ysgol yw archwilio gwallt. Edrychwch ar ben eich plentyn yn aml a chribo n drylwyr ac yn rheolaidd. Absenoldeb o r ysgol: Os yw eich plentyn yn absennol o r ysgol rhaid darparu nodyn gan y rhiant neu neges ffôn yn egluro r absenoldeb. Rhaid hysbysu r pennaeth neu r athro dosbarth os bydd angen nôl plentyn cyn diwedd y diwrnod ysgol. Ni fydd plant yn gadael safle r ysgol yn ystod oriau ysgol heb ganiatâd yr athro dosbarth neu r pennaeth. Plant sy n derbyn gofal - Mrs A Fayle yw r aelod dynodedig o staff sy n gyfrifol am blant sy n derbyn gofal. Mae n mynychu pob cyfarfod ac yn cydweithio n agos gyda r holl asiantaethau. Ceir polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod plant sy n derbyn gofal yn cael cymorth a bod eu cyflawniad addysgol yn cael ei hybu.

Sut rydyn ni n defnyddio eich gwyboaeth: Caiff pob gwybodaeth bersonol ei chadw n unol â Deddf Diogelu Data 1998. O ganlyniad rydyn ni n cymryd camau priodol i ddiogelu yn erbyn colled neu brosesu heb awdurdod. Gan ddibynnu ar y diben y cawsom yr wybodaeth, a r defnydd y bwriedir iddi, gellir rhannu gwybodaeth gyda chyrff eraill. Mae r daflen Addysg: Sut rydyn ni n defnyddio eich Gwybodaeth (ar gael o r ysgol) yn egluro hyn yn fanylach ac yn cynnwys manylion cyswllt perthnasol pe bai angen rhagor o wybodaeth arnoch chi. Codi a pheidio â chodi tâl Gellir ystyried gosod safle r ysgol at ddefnydd y gymuned. Gall y caeau chwarae a r adeiladau, gan gynnwys y cyfleusterau canlynol fod ar gael:- i) Neuadd ii) Ystafell(oedd) dosbarth iii) Piano Caiff ceisiadau gan grwpiau / cyrff cymunedol eu hystyried y tu allan i oriau ysgol arferol h.y. rhwng 4.00p.m. a 9.00p.m. yn ystod yr wythnos a thrwy drefniant ar benwythnosau. Bydd y tâl am logi r cyfleusterau n seiliedig ar bolisi gosod yr ALl, a cheir manylion yn swyddfa r ysgol. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Polisi Codi a pheidio â chodi tâl. Addysg gyrfaoedd ac arweiniad i r byd gwaith Yn Ysgol Bro Banw, rydyn ni n cydnabod bod plant yn dechrau eu taith gyda ni yma, yn y gobaith y gwnaiff eu harwain at ddod yn ddinasyddion cyfrifol, sy n defnyddio eu sgiliau a u galluoedd i wneud cyfraniad llwyddiannus i gymdeithas fel oedolion. Gyda hyn mewn golwg rydyn ni n ceisio rhoi gwybodaeth a phrofiadau byd gwaith i bob plentyn. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau Menter, ymweliadau gan oedolion mewn gwahanol swyddi ac ymweliadau â gweithleoedd gwahanol Ethos a Gwerthoedd yr Ysgol Ein nod yw meithrin amgylchedd dysgu tawel lle gall ein disgyblion ddatblygu safonau uchel o ymddygiad, creu perthynas dda a chyfrifoldebau moesegol. Mae ein hysgol yn rhoi gwerth ar bob plentyn fel unigolyn, gan godi hunan-barch a chreu amgylchedd cadarnhaol i gydweithio. Addoli ar y cyd Cyflwynir Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd mewn ffordd gytbwys fel rhan o r profiad dysgu integredig rydyn ni n ei gynnig i blant. Mae plant a staff yn ymuno â i gilydd am weithred ddyddiol o addoli. Yn fras mae hwn yn Gristnogol o ran cynnwys gyda phwyslais ar foesau ac ymddygiad da yn seiliedig ar y Rheolau Aur. Dan Ddeddf Diwygio Addysg 1998, mae gan rieni hawl i dynnu eu plant allan o Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd. Bydd y disgyblion hyn yn mynychu sesiynau anenwadol gydag aelod o staff yn seiliedig ar y Polisi Gwerthoedd Addysg

ABCh Mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn bwnc cwricwlwm ac yn rhan hanfodol o ethos a bywyd cymunedol yr ysgol. Defnyddir Amser Cylch fel modd o gyflwyno r cwricwlwm ABCh. Caiff unrhyw gwestiynau am addysg rhyw eu trin gyda gonestrwydd ac yn sensitif o fewn cyd-destun bywyd teuluol. Mae n seiliedig ar bolisi r Awdurdod Lleol a chaiff ei gyflwyno mewn modd sympathetig. Bydd disgyblion hŷn yn derbyn gwybodaeth gan ein nyrs cyswllt am oblygiadau newidiadau glasoed a thyfu lan. Caiff plant eu cyflwyno i addysg cyffuriau ac alcohol mewn modd sy n briodol i w hoed gan ddilyn canllawiau sirol. Caiff materion sensitif eu trafod yn ystod Amser Cylch a thrafodir ffyrdd i ddatrys problemau gyda r plant. Mae r pwyslais ar yr angen i bawb fod yn ymwybodol o bobl eraill. Caiff plant sy n ei chael yn anodd iawn trin pobl eraill yn deg eu cynnwys ar gofrestr ymddygiad yr ysgol a chaiff Cynllun Addysg Unigol ei roi ar waith i gynorthwyo i wella ymddygiad. Bydd y Corff Llywodraethu n trafod disgyblion sy n parhau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae eithrio n bosibl. Presenoldeb Mae presenoldeb yn yr ysgol yn bwysig iawn. Rydyn ni wedi gweithio n galed i gynnal ffigurau presenoldeb da ac rydyn ni n gwybod bod amser i ffwrdd o r ysgol yn effeithio n sylweddol ar ddysg y plentyn. Ffigurau presenoldeb 2015 / 16: 94.1% Absenoldebau heb awdurdod: 1.1% Gweithdrefn Gwyno Absenoldebau gydag awdurdod: 5.2% Yn unol ag Adran 29 Deddf Addysg 2002, mae r ysgol yn dilyn y weithdrefn gwyno a awgrymwyd gan Awdurdod Addysg y Sir. Os oes gan riant gŵyn am unrhyw beth, y drefn arferol yw siarad â r athro, ac yna r Pennaeth, a fydd yn cyfeirio r mater at y Llywodraethwyr os na chaiff ei ddatrys yn foddhaol. Gellir cael copi o r Weithdrefn Gwyno lawn drwy wneud cais i r Pennaeth neu o r wefan

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data 2016 ar gyfer gwybodaeth gymharol yr ALl a Chymru Ysgol Bro Banw Sir Gaerfyrddin Rhif yr ALl/Ysgol:669/2392 Gwybodaeth gymharol yr ysgol: Deilliannau'r Cyfnod Sylfaen 2016 gyda meincnodi Canran o fechgyn, merched a disgyblion yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig, o leiaf (Deilliant 5+): Bechgyn Merched Disgyblion Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 PSD 95 92 92 100 97 97 98 95 94 LCW 100 86 87 100 94 94 100 90 91 LCE 95 80 84 96 86 92 95 83 88 MDT 95 88 87 100 91 93 98 90 90 DCS 95 83 83 97 89 91 96 86 87 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 100 Canran o ddisgyblion yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig (Deilliant 5+) 90 80 70 60 50 40 30 20 10 0 PSD LCW LCE MDT DCS PSD LCW LCE MDT DCS PSD LCW LCE MDT DCS Bechgyn Merched Disgyblion Perfformiad yr ysgol dros amser (2012-2016) Canran o ddisgyblion yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig (Deilliant 5+) 100 80 60 40 20 0 PSD LCW LCE MDT DCS Gwybodaeth gyd-destunol Wedi'i meincnodi yn erbyn ysgol â chanran debyg o ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim Nodwyd canlyniadau'r ysgol yn y blychau llwyd. Mae penawdau'r colofnau yn cyfeirio at: Chwarter 1 Mae'r ysgol ymhlith y 25% uchaf Chwarter 2 Mae'r ysgol ymhlith y 50% uchaf ond nid y 25% uchaf Grŵp Prydau Ysgol am Ddim Chwarter 3 Mae'r ysgol ymhlith y 50% isaf ond nid y 25% isaf 16% neu fwy a hyd at 24% yn Chwarter 4 Mae'r ysgol ymhlith y 25% isaf gymwys i gael Pryd Ysgol am Ddim Chwarter 4 Chwartel Chwartel Chwarter 3 Canolrif Chwarter 2 Isaf Uchaf Chwarter 1 PSD 94 98 98 100 LCW 82 89 97 100 LCE 86 91 94 95 MDT 87 92 96 98 DCS 83 88 93 96 Mae'r meincnodau wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfartaledd tair-mlynedd data Prydau Ysgol am Ddim. Nodiadau: 1. - = Dim data hanesyddol ar gael 2. Meysydd Dysgu: PSD = Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol; LCW = Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (yn y Gymraeg); LCE = Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (yn Saesneg); MDT = Datblygiad mathemategol; DCS = Dangosydd y Cyfnod Sylfaen. Er mwyn ennill y DCS, rhaid i ddisgybl gyrraedd y deilliant disgwyliedig (Deilliant 5+), o leiaf, yn PSD ac MDT ill dau a naill ai LCW neu LCE. 3. Os nad oedd unrhyw ddisgyblion yn gymwys i'w hasesu mewn pwnc ar gyfer blwyddyn benodol bydd y graff yn terfynu a dangos bwlch ar gyfer y flwyddyn honno.

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data 2016 ar gyfer gwybodaeth gymharol yr ALl a Chymru Ysgol Bro Banw Sir Gaerfyrddin Rhif yr ALl/Ysgol:669/2392 Gwybodaeth gymharol yr ysgol: Asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol 2016 gyda meincnodi Cyfnod Allweddol 2 Canran y bechgyn, merched a disgyblion sy'n cyflawni'r lefel disgwyliedig o leiaf (Lefel 4+): Bechgyn Merched Disgyblion Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Saesneg 71 90 88 89 92 93 80 91 90 Cymraeg 100 87 88 100 90 93 100 88 91 Mathemateg 82 91 89 93 92 93 87 92 91 Gwyddoniaeth 82 93 90 93 93 94 87 93 92 DPC 71 88 86 89 90 91 80 89 89 Ysgol 2016 ALl 2016 Cymru 2016 Canran disgyblion sy'n cyflaw ni'r lefel disgw yliedig (Lefel 4+) 100 90 80 70 60 50 40 30 20 10 0 Saesneg Cymraeg Mathemateg Gwyddoniaeth DPC Saesneg Cymraeg Mathemateg Gwyddoniaeth DPC Saesneg Cymraeg Mathemateg Gwy ddoniaeth DPC Bechgyn Merched Disgyblion Perfformiad yr ysgol dros amser (2012-2016) 100 Canran disgyblion sy'n cyflaw ni'r lefel disgw yliedig (Lefel 4+) 80 60 40 20 0 Saesneg Cymraeg Mathemateg Gwyddoniaeth DPC Gwybodaeth gyd-destunol Wedi'i meincnodi yn erbyn ysgol â chanran debyg o ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim Nodwyd canlyniadau'r ysgol yn y blychau llwyd. Mae penawdau'r colofnau yn cyfeirio at: Chwarter 1 Mae'r ysgol ymhlith y 25% uchaf Chwarter 2 Mae'r ysgol ymhlith y 50% uchaf ond nid y 25% uchaf Grŵp Prydau Ysgol am Ddim Chwarter 3 Mae'r ysgol ymhlith y 50% isaf ond nid y 25% isaf 16% neu fwy a hyd at 24% yn Chwarter 4 Mae'r ysgol ymhlith y 25% isaf gymwys i gael Pryd Ysgol am Ddim Chwarter 4 Chwartel Chwartel Chwarter 3 Canolrif Chwarter 2 Isaf Uchaf Chwarter 1 Saesneg 80 86 92 96 Cymraeg 79 91 97 100 Mathemateg 87 87 93 99 Gwyddoniaeth 87 87 94 100 DPC 80 84 90 95 Mae'r meincnodau wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfartaledd tair-mlynedd data Prydau Ysgol am Ddim. Nodiadau: 1. Mae'r ffigurau ar gyfer Cymraeg yn cyfeirio at gyrhaeddiad Cymraeg iaith gyntaf yn unig 2. DPC = Dangosydd Pynciau Craidd. I sicrhau DPC, mae'n rhaid i ddisgybl gyflawni o leiaf lefel 4 disgwyliedig mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf 3. Os nad oedd unrhyw ddisgyblion yn gymwys i'w hasesu mewn pwnc ar gyfer blwyddyn benodol bydd y