Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Erbyn hyn, mae pwyllgor newydd yn gyfrifol am y cylchgrawn, sef Bethan, Rhian, Steffan a Betsan. Gwnaethon nhw gyflwyniad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref er mwyn gofyn am arian i wneud y cylchgrawn. Diolch iddyn nhw ac i Fwrdd yr Iaith, mae r cylchgrawn yma wedi bod yn bosib eleni eto! Oes gennych chi erthyglau ar gyfer rhifyn newydd y cylchgrawn ym mis Ebrill? Anfonwch nhw at y pwyllgor trwy e-bostio rhiane.jones@colegsirgar.ac.uk. Mae r un criw yn gwneud rhaglen radio Gymraeg bob mis. Maen nhw wrthi n paratoi r rhaglen gynta nawr. Os oes gan unrhyw un eitemau diddorol ar gyfer y rhaglen radio, cysylltwch â ni i ni gael trefnu cyfweliad, meddai Steffan, sy n fyfyriwr Cyfryngau yn y Graig. Bydd mwy o wybodaeth am y rhaglen radio gynta allan cyn bo hir. Y tymor diwetha, lansiwyd cynllun Tocyn Iaith yn y coleg: Enillydd y Tocyn Iaith ar gyfer tymor yr Hydref 2011 yw RHUNEDD MORGAN, GOFAL PLANT. Cofiwch am y cyfle y tymor yma os ydych chi eisiau siawns i ennill 100! Os wyt ti n fyfyriwr sy n siarad Cymraeg ac yn gwneud unrhyw waith yn y Gymraeg yn y coleg, mae 6 bocs i w llenwi ar gefn y tocyn iaith, i nodi beth wyt ti wedi ei wneud yn Gymraeg. Unwaith i ti lanw r 6 bocs, anfona r tocyn at Rhian Jones yn y Graig neu ei roi i th diwtor personol er mwyn iddyn nhw ei basio fe ymlaen at Rhian (Swyddog Dwyieithrwydd y coleg). Mae 100! ar gael bob tymor i w roi i un myfyriwr yn y coleg sy n anfon y tocyn iaith at Rhian.
Geirfa: Trin Gwallt Hairdressing Harddwch Beauty cymryd rhan take part mis Tachwedd November arddangos display creu create steiliau gwallt hair styles Dewisodd y myfyrwyr The students chose efelychu copy/imitate pobl enwog famous people enwogion - celebrities Buodd myfyrwyr Trin Gwallt a Harddwch o gampws Pibwrlwyd a champws y Graig yn cymryd rhan yn yr Wythnos Gymraeg ym mis Tachwedd. Buon nhw n arddangos posteri a therminoleg dwyieithog ac yn creu steiliau gwallt Cymreig! Dewisodd y myfyrwyr bobl enwog o Gymru a gwneud ymchwil arnyn nhw i weld sut daethon nhw n enwog. Roedd hyn yn rhoi cyfle i r myfyrwyr fod yn greadigol wrth efelychu steiliau gwallt yr enwogion hyn. Mae hyn wedi ysbrydoli nifer o fyfyrwyr i fod yn enwog eu hunain yn y dyfodol! Roedd gwaith tîm yn allweddol yn ystod yr Wythnos Gymraeg wrth i fyfyrwyr ymestyn eu gwybodaeth o derminoleg ddwyieithog. Dywedodd Cerys sy n astudio PLQ Lefel 1 Mae n wych fod yr iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod. Dywedodd Chloe sydd hefyd yn astudio PLQ Lefel 1 Doing this activity has taught me more Welsh words in Hair and Beauty. Yn y llun... Myfyrwyr Trin Gwallt a Harddwch Pibwrlwyd gyda u harddangosfa ddwyieithog a u steiliau gwallt enwog!
Weloch chi Stig draw ym Mhibwrlwyd yn ystod yr Wythnos Gymraeg ym Tachwedd? Treuliodd e r wythnos yn eistedd ar bwys arddangosfa wych y myfyrwyr Peirianneg Modurol. Roedd gan yr adran Beirianneg arddangosfa ddwyieithog wych yn y Graig hefyd. Weloch chi? Did you see? draw over yn ystod during arddangosfa exhibition treuliodd e He spent yn eistedd sitting ar bwys near Peirianneg Modurol Mechanical Engineering Mae grŵp o fyfyrwyr brwdfrydig y Diploma Estynedig mewn Ffasiwn o gampws Ffynnon Job wedi cael cyfle i ddylunio iwnifform i weithwyr Gwesty r Ddraig yn Abertawe. Mae r gwesty yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac maen nhw wedi gwahodd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i ddylunio gwisg iddynt yn defnyddio Abertawe a i hanes fel ysbrydoliaeth. Bydd gwaith y myfyrwyr yn cael ei arddangos yn nerbynfa r gwesty ar ddiwedd Tachwedd. Gwisg i r Gwesty an uniform for the hotel Ffasiwn Fashion campws Ffynnon Job Job s Well campus dylunio inwifform design an uniform dathlu celebrate hanner can mlynedd 50 years eleni this year maen nhw wedi they have gwahodd invite(d) myfyrwyr students
Y tymor diwethaf, aeth myfyrwyr o r Gelli Aur, Rhydaman a r Graig ar daith i weld y sioe Jonathan yn cael ei recordio ar gyfer S4C. Roedd y trip yn dda yn ôl myfyrwyr Uwch Gyfrannol o r Graig, roedd e n grêt cwrdd â rhai o r siaradwyr Cymraeg o gampysau eraill. Bydd taith arall tua mis Chwefror cadwch lygad mas am yr hysbysebion! Geirfa: Y tymor diwethaf last term yn ôl according to yn cael ei recordio being recorded taith arall another trip myfyrwyr students roedd e n dda it was good cwrdd â meet with mis Chwefror February Stacey yn seren bêl-droed Mae un o n myfyrwyr Safon Uwch ni wedi cael ei dewis i ymuno â sgwad pêldroed dan 17 oed Cymru. Y tymor yma, buodd hi n cynrychioli Cymru yn Moldofa! Roedd e n brofiad gorau fy mywyd i, meddai Stacey, mwynheuais i chwarae yn erbyn timau rhyngwladol fel Ffrainc a hefyd mwynheuais i ochr gymdeithasol y daith. Geirfa: Safon Uwch A level Mae...wedi cael ei dewis...has been chosen sgwad - squad pêl-droed - football cynrychioli represent mwynheuais i I enjoyed yn erbyn against timau teams rhyngwladol international yr ochr gymdeithasol the social side
Erthygl gan Rhian George, myfyrwraig Gwyddor Chwaraeon Blwyddyn 2, sy n rasio beic modur ar lefel ryngwladol. Dechreuais i rasio Moto-x pan oeddwn yn 13 mlwydd oed. Fe ddes i i rasio beiciau oherwydd roedd dad yn Bencampwr Prydain. Rydw i wedi rasio ym Mhencampwriaeth Cymru a Phrydain a rydw i wedi dod yn y 3 cyntaf yn y rasys plant. Rydw i n reidio i E.T.James Ktm ac wedi reidio gyda nhw am 3 blynedd. Cyraeddiadau 2007: Pencampwriaethau Moto-x ac Enduro Rasio Prydain a Chymru (20 uchaf). 2008: Pencampwriaethau Moto-x ac Enduro Rasio Prydain a Chymru (10 uchaf); Merch Orau yn Ynys Manaw; 50 uchaf yn Weston Beach Race o dros 300 o reidwyr. Nawdd gan E.T.James Ktm/Suzuki. 2009: Pencampwriaeth Putoline ac Enduro, y ferch gyntaf i w ennill. Pencampwriaethau Moto-x ac Enduro Rasio Prydain a Chymru (3 uchaf). 2010: Pencampwriaethau Moto-x ac Enduro Rasio Prydain a Chymru (2 uchaf). Hyfforddi gyda sgwad Cymru. Aur mewn mwtra 4 awr. Pencampwraig Byd Rasio Merched. 2011: Symud lan i ddosbarth oedolion ym Mhencampwriaeth Enduro Prydain a Chymru. Yr unig ferch i gael lle ym Mhencampwriaethau Prydain; 7fed a 3ydd ym Mhencampwriaeth Enduro Cymru. Ennill gwobr perfformiad ardderchog yn ras enduro dau ddiwrnod Cymru. Ennill y ferch orau yn ras enduro r Dyfi. Cael fy ngofyn i fynd i r Ffindir gyda sgwad Cymru am chwech diwrnod. Rydw i n mynd i wneud pencampwriaeth Ffrainc y flwyddyn nesaf i rasio yn erbyn y merched mwyaf clou yn y byd. Os bydd hyn i gyd yn mynd yn iawn, rwy n gobeithio mynd i rasio Pencampwriaeth Ewrop gyda fy nhîm. Y llynedd fe ges i le ar sgwad Cymru i fynd i r Ffindir. Rydw i n hyfforddi nawr i gael lle yn y ras enduro chwech diwrnod rhyngwladol, y ras fwyaf pwysig yn y math yma o chwaraeon. Anafiadau! Torri pelfis Torri ysgwydd x2 Torri arennau x2 Torri bys x3 Slipio disg yn fy nghefn i x2 Rhwygo tenynnau yn fy mhen-glin Cyfergyd difrifol Cleisio r ysgyfaint Yn y llun: Rhian yn cymryd rhan yn un o r cystadlaethau rasio beic modur.
Mae myfyrwyr Ffasiwn o Ffynnon Job wedi bod yn gwneud dillad ar gyfer y sioe deledu Y Lle Gwisgo ar S4C. Mae r myfyrwyr Ffasiwn Diploma Estynedig wedi gweithio ar ddyluniadau a gwneud eu gwisgoedd eu hunain ar gyfer y sioe ffasiwn boblogaidd. Saron Hughes-Jones, darlithydd yn y coleg, sydd wedi trefnu r eitemau ar gyfer y rhaglen. Dywedodd Saron: Mae myfyrwyr wedi cael eu cyfweld ac wedi cael camerâu fideo i recordio u gwaith. Bydd y gwaith terfynol yn cael ei ddangos ar frigdrawst (catwalk) y sioe. Mae Deian Jones, 17, myfyriwr Ffasiwn yn y coleg, yn gweithio ar ei ddilledyn. Dw i n edrych ymlaen at weld fy ngwisg i n cael ei modelu ar y sioe deledu, meddai Deian. Geirfa: myfyrwyr Ffasiwn Fashion students gwneud dillad make clothes ar gyfer for sioe deledu t.v.show dyluniadau designs gwisgoedd garments Rhagfyr December Yn ddiweddar, buodd yr artist adnabyddus Iwan Bala yn siarad â myfyrwyr yn y Graig am ei waith. Mae Iwan yn arddangos ei waith ar draws Prydain, wedi darlledu ar y teledu ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gelf gweledol. Yng ngeiriau Iwan Bala: "Mae fy ngwaith yn ymdrin a thirwedd; tirwedd diwylliant, cof, dychymyg. Tirwedd hunaniaith. Rwyf yn ymdrechu i ymchwilio ac i greu ryw fath o fap o'r tirwedd personol yma, fy ynys fechan, er mwyn ei lleoli o fewn tirwedd ehangach y byd mawr".
Bois bach, dylech chi fod wedi bod yn y cantîn yn y Gelli Aur yn ystod yr Wythnos Gymraeg! Buodd na gystadlaethau corau yno rhwng y myfyrwyr Amaeth a r myfyrwyr Peirianneg gyda r corau n canu caneuon fel Sosban Fach, Nid wy n Gofyn Bywyd Moethus ac Yma o Hyd. Watshwch mas Only Men Aloud! Mary Richards yn Hayley Parry yn barod Sarah Bennett yn dangos y ffordd! i fynd amdani! cyrraedd y brig! Ar ddiwedd y tymor diwethaf, buodd y band Cymraeg Jac y Do yn canu draw ar gampws Rhydaman a rhoi cyfle i r myfyrwyr ymuno yn y canu. Diolch i Roy am y lluniau!
- O ble wyt ti n dod Marc? Mae Marc Griffiths neu Marky G fel mae pobl yn ei adnabod - yn DJ ar Radio Cymru. Yn ystod yr Wythnos Gymraeg, daeth e draw i r coleg i siarad â myfyrwyr yn y Gelli Aur a Rhydaman am sut mae r Gymraeg wedi bod yn gymaint o fantais iddo fe yn ei yrfa. Buodd e hefyd yn recordio rhai o r myfyrwyr DJs y dyfodol falle.? - Rwy n dod o bentref bach o r enw Llanybydder ger Llanbed. - Ble ddechreuest ti weithio ar y radio? - I ddechrau, ar ôl gadael yr ysgol, ces i gyfle i gyflwyno a recordio rhaglenni ar Radio Ceredigion. Dw i wedi actio ar S4C hefyd, ar raglenni fel Tafarn y Gŵr Drwg a Llafur Cariad ac mewn ambell ffilm. - Pryd wyt ti ar Radio Cymru? - Mae fy rhaglen i ymlaen bob nos Sadwrn, rhwng 7 a 10 o r gloch. - Beth arall sy gyda ti ar y gweill? - Yn ogystal â r rhaglen radio, mae gen i gwmni o r enw Stwidiobox sy n trefnu gweithgareddau darlledu fel gweithdai radio. GEIRFA O ble wyt ti n dod Where do you come from? Ble ddechreuest ti? Where did you start? ar ôl gadael yr ysgol after leaving school ces i gyfle I had an opportunity cyflwyno to present Dw i wedi actio hefyd I have acted too yn ogystal â as well as Mae gen i I ve got cwmni a company
Yn ystod yr Wythnos Gymraeg, buodd myfyrwyr Gofal Plant yn Rhydaman yn creu arddangosfeydd Cymraeg ar ddiwylliant Cymru. Dyma r canlyniadau ar y chwith! Geirfa: gwledd a feast i r llygaid for the eyes yn ystod during Wythnos Gymraeg Welsh Week Gofal Plant Child Care creu create arddangosfeydd displays diwylliant Cymru Welsh culture dyma r here are the canlyniadau - results Daeth y canwr Cymraeg Al Lewis a r DJ Glyn Wise draw i r coleg yn ddiweddar. Buodd Al Lewis yn perfformio ar gampws Ffynnon Job a Glyn Wise yn siarad am sut mae r iaith Gymraeg wedi i helpu yn ei yrfa. Glyn Wise gyda myfyrwyr Arlwyo Al Lewis yn perfformio i fyfyrwyr Ffasiwn a Chelf
Fy enw i yw Briony Cutler ac rydw i n 18 oed. Rydw i wedi cwblhau blwyddyn ar gwrs Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau yn y coleg. Ar hyn o bryd rwy n astudio yn y coleg ar gyfer Lefel 3 mewn Diploma mewn Gofal Ceffylau. Yn fy amser hamdden dros y pum mlynedd diwethaf rydw i wedi bod yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn cystadlaethau dressage. Rydw i wedi cystadlu yng nghanolfan David Broome nifer o weithiau yn rowndiau terfynol a phencampwriaethau Prydain. Rwy n mwynhau hyfforddi fy ngheffylau fy hun ac yn aml yn dod â nhw i r coleg i gymryd rhan mewn gwersi a chystadlaethau dressage yma. Ar ddechrau r flwyddyn, ymunais i â Chlwb Marchogaeth Cwmaman. Ces i fy newis ar gyfer dau dîm ar gyfer Pencampwriaethau Clybiau Marchogaeth Prydain. Yn sgil ein llwyddiant gyda hyn, aethon ni drwyddo i gystadlu yn Maes Sioe Lincoln. Er bod y gystadleuaeth yno n un frwd a chystadleuwyr wedi teithio o bell, des i n bedwerydd yn un o m prif gystadlaethau ac roeddwn i wrth fy modd gyda pherfformiad fy ngheffyl, Meg! Geirfa: llwyddiant - success Rydw i wedi cwblhau I have completed blwyddyn a year Gofal Ceffylau Horse Care ar hyn o bryd at the moment astudio study amser hamdden leisure time dros over pum mlynedd diwethaf last five years cymryd rhan take part cystadlaethau competitions pencampwriaethau - championships
Ysgoloriaethau am astudio cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gyda chanran uchel o gyrsiau r Brifysgol yn gyrsiau cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog. Os ydych yn ystyried ymgeisio i astudio cwrs gradd yn y Drindod Dewi Sant, yna mae nifer o gyfleoedd i chi i dderbyn arian am wneud hynny drwy ymgeisio am Ysgoloriaethau amrywiol sydd ar gael; Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog - Ysgoloriaeth o hyd at 600 y flwyddyn ( 50 am bob modiwl 10 credyd sydd yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg neu n ddwyieithog.) Ysgoloriaethau Addysg Bellach - Mae r Brifysgol hefyd yn cynnig Ysgoloriaeth o hyd at 500 y flwyddyn i fyfyrwyr sydd yn dod i astudio yn y Brifysgol o Golegau Addysg Bellach. Ysgoloriaethau r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - mae nifer o gyrsiau cyfrwng Cymraeg y Drindod Dewi Sant yn rhan o Gynllun Ysgoloriaethau r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae dau fath o Ysgoloriaethau, sef Prif Ysgoloriaethau (dyddiad cau 15 Ionawr 2012) ac Ysgoloriaethau Cymhelliant (dyddiad cau 4 Mai 2012). Am wybodaeth bellach am y rhain ewch i www.mantais.ac.uk. Os ydych yn dymuno derbyn mwy o fanylion, mae croeso i chi gysylltu a Gruff Ifan, Cydlynydd Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y Drindod Dewi Sant ar 01267 676 618, neu g.ifan@ydds.ac.uk Rhestr o Gyrsiau Cyfrwng Cymraeg y Drindod Dewi Sant Rhestr Cyrsiau sy n gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol X311 Addysg Blynyddoedd Cynnar BA X123 Addysg Gynradd gyda SAC BA X320 Astudiaethau Addysg Gynradd BA L491 Cynhwysiant Cymdeithasol BA L591 Gwaith Ieuenctid a Chymuned BA PW33 Cerdd a'r Cyfryngau BA W390 Cerddoriaeth Broffesiynol BA W400 Y Celfyddydau Perfformio BA W411 Yr Actor a'r Celfyddydau BA P306 Y Cyfryngau Creadigol BA V600 Crefydd a Chymdeithas BA W102 Celf a Dylunio BA Rhestr Cyrsiau sy n gymwys am Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol XC96 Addysg Gorfforol BA X390 Addysg Awyr Agored BA N200 Rheolaeth Busnes BA