Bwletin Gorffennaf 2016 Hau i Fedi www.ysgoluwchraddbodedern.org @YUBoded
Boded a Bale Gydag ymgyrch llwyddiannus tîm pêl droed Cymru wedi bod yn un mor gyffrous, mae r ysgol fel gweddill Cymru wedi dilyn y twrnament yn ofalus iawn. Ar ddechrau'r gystadleuaeth, roedd cyfle i r disgyblion wylio'r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Theatr Bro Alaw. Roedd yr awyrgylch yn y theatr yn wych. Fel y gwelwch isod, roedd y disgyblion a r staff yn cefnogi drwy wisgo coch. Defnyddiwyd llwyddiant tîm Cymru fel thema ar gyfer un o weithgareddau'r wythnos sgiliau. Diolch i drefniadau Mr Arwyn Roberts, cynhyrchwyd y murlun isod gan ddisgyblion blwyddyn 9 a r arlunydd graffiti Andy Birch. Cafwyd ymateb rhagorol i r lluniau ar gyfrif trydar yr ysgol, gyda degau o filoedd o bobl ar draws Cymru yn dweud eu bod yn hoffi r gwaith. @YUBoded Ond ni ddaw r stori i ben yn y fan yna. Roedd disgyblion Bodedern hefyd yn Ffrainc yn ystod y twrnament yn ymweld â meysydd y gad y rhyfel mawr a diwylliant Paris. Deallwyd fod y criw wedi gwneud sioe dda iawn o u hunain wrth wylio'r gem yn y gwesty, gan sicrhau fod pawb yn gwybod mai Cymry oeddynt!
F24 - Pŵer Gwyrdd Mae hanes cystadleuaeth y ceir yn hen gyfarwydd i ddarllenwyr y bwletin erbyn hyn. Diolch i r holl rieni, disgyblion a Mr Llion Francis a Mr Eurwyn Hughes am eu oriau o waith a diolch arbennig i Mr a Mrs Philips o Anglesey Commercial Spares Ltd am noddi'r gwaith. Daeth y diwrnod mawr i rasio yn erbyn sefydliadau addysgol eraill yn Nhrac Môn ac roedd tîm cynhyrchu'r rhaglen Heno gyda Gerallt Pennant yn cofnodi'r digwyddiadau yn fyw. Mi wnaeth tîm Boded yn Bwled Boded 1 a Bwled Boded 2 sioe dda iawn o u hunain, yn arbennig o ystyried bod yr ail gar wedi i adeiladu mewn wythnos! Dyma r hogia gyda Mr Hughes yn paratoi o flaen y camerâu ac wedyn yn y pit stop ar y Trac! Mae hi n fwriad i barhau gyda r cynllun y flwyddyn nesaf mae r cyffro wedi cydio!
Pysgota Wrth i ddiwedd y tymor agosáu, mae r ysgol wedi ail lansio'r Clwb Pysgota, a'r flwyddyn hon aeth criw o flynyddoedd 7 a 8 i bysgota yn Eisteddfa, Criccieth. Diolch i Mr Huw Edwards, Mr Gwyn Jones, Mr Llion Pritchard a Mr Stan Jones am y gwaith trefnu. Mae hi n amlwg bod pawb wedi mwynhau. Dyma Harvey a Moi yn mentro!
Mae r cwrs Phoenix yn gyfle blynyddol erbyn hyn i ddisgyblion flwyddyn 9 gael profi bywyd yn y Frigâd Tan. Nod yr wythnos yw datblygu sgiliau cyfathrebu, dyfalbarhau a pharch. Roedd y criw wedi ymateb yn wych gan ennyn cryn ganmoliaeth am eu hymdrechion. Cafwyd arddangosfa o r hyn a ddysgwyd ganddynt ar ddiwedd yr wythnos i rieni a ffrindiau yng ngorsaf dân Amlwch. Dyma r criw ar ddiwedd yr arddangosfa wedi derbyn eu tystysgrifau haeddiannol.
Fel man cychwyn, daeth Manon i weithio gyda disgyblion blwyddyn 9 yn ystod yr wythnos sgiliau ar y prosiect Gwreiddiau. Bydd y gwaith a gynhyrchwyd yn ystod yr wythnos yn gychwyn ar y cywaith. Bwriad Manon yw dychwelyd ac adeiladu ar yr hyn a grëwyd yn ystod yr wythnos. Eisteddfod Genedlaethol 2017 Mae r ysgol wedi dechrau ei pharatoadau ar gyfer yr eisteddfod, ac wrth i r testunau gael eu cyhoeddi a r safle yn cael ei baratoi, mae'r disgyblion hefyd yn dechrau gwneud eu marc. Croesawyd un o gyn ddisgyblion yr ysgol, Manon Awst yn ôl i r adran gelf yn ystod yr wythnos sgiliau. Mae Manon wedi cyrraedd brig y byd celf rhyngwladol wrth gyd arddangos a i phartner Benjamin Walther. Mae llwyddiant Manon wedi cael ei gydnabod gan yr Eisteddfod, wrth iddi gael ei gwadd i greu arddangosfa arbennig yn y Safle Celf yn ystod yr ŵyl.
Haelioni Disgyblion Un o gymeriadau blwyddyn 11 yw Jac Lynes, ac wrth ffarwelio gyda r ysgol mae Jac a i deulu wedi penderfynu trefnu naid rith yng nghamp yr awyrlu'r Fali. Diolch i Mrs Hughes mam Jac a Mr Griffiths am gymryd yr her o r naid. Hoffai r ysgol ddiolch am groeso gwresog yr awyrlu ac amynedd ein hyfforddwr Andy o Borthmadog. Yn dilyn haelioni'r gymuned a gwaith trefnu Jac, mae r teulu eisoes wedi codi 230 ar gyfer yr adran dysgu ychwanegol yn yr ysgol ac mae mwy ar ei ffordd. Dyma Mrs Hughes yn paratoi ar gyfer y naid rith a Mrs Hughes, Jac, Andy, Tom a Mr Griffiths yn yr ystafell baratoi.
Zoe Adamkiewicz Un arall sydd wedi dangos ei haelioni, yw Zoe o flwyddyn 10. Yn dilyn damwain ddychrynllyd bu raid i Zoe gael triniaeth fawr yn Ysbyty Alder Hey. Erbyn hyn mae Zoe yn gwella, ac er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad o r gofal arbennig a gafodd yn Alder Hey rhedodd y ras 500m yn athletau Môn. Mae r gefnogaeth i Zoe gan yr ysgol a r gymuned ehangach wedi bod yn enfawr, a thrwy gyfranogiadau hael, mae Zoe wedi codi 760 hyd yma ac mae n dal i gasglu arian. Llongyfarchiadau!
Haydn Dean Fel ysgol rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein disgyblion, ac yn ddiweddar roedd yr ysgol yn hynod falch o glywed am lwyddiannau Haydn a adawodd yr ysgol I ddilyn gyrfa gyda r llynges. Mae Haydn newydd orffen ei rhan gyntaf o r hyfforddiant ac yn amlwg mae wedi creu argraff. Dyma ddatganiad y llynges am waith Haydn. A 16-year-old from Holyhead has completed his transformation from a civilian into a Royal Navy sailor and is now one step closer to a career at sea. Trainee Chef Haydn Dean arrived at HMS Raleigh, the Royal Navy s training base in Cornwall, in April. During a 10-week course he has been given a thorough induction into the Royal Navy, learning skills that he will rely upon throughout his time in the Service. The course culminates with the passing-out-parade attended by families and friends. The former pupil of Ysgol Uwchradd Bodedern said: I joined the Royal Navy to travel the world and get a good career. I ve met a great bunch of lads while I ve been at Raleigh. Overall training is really tough, but with the right attitude, achievable. Rydym yn falch iawn ohono, dyma lun o Haydn o r archif ac un ohono yn ystod ei hyfforddiant!
Wythnos Sgiliau 28/06/16 01/07/16 Diolch yn fawr i ddisgyblion, staff -yn arbennig Mr Arwyn Roberts- hyfforddwyr a darparwyr am wythnos sgiliau llwyddiannus unwaith eto eleni. Nod y 4 diwrnod oedd i r disgyblion gael profi diwylliant a dod i adnabod eu cynefin yn well gyda ffrindiau yn y Gymraeg. Roedd rhai o r gweithgareddau yn cynnwys ymweld â Nant y Pandy, Llangefni, gweithdy graffiti, sesiwn saethyddiaeth yn yr ysgol, beicio a gweithgareddau awyr agored, gwersi Mandarin, datrys problemau i flwyddyn 7. Bu blwyddyn 8 yn ymweld â Betws-y-Coed, cerdded rhan o arfordir Môn, dawnsio gwerin, gweithdai addysg alcohol a chyffuriau, Gweithdy Masnach Deg, gweithdy gwyddonol. I baratoi ar gyfer blwyddyn 10, bu blwyddyn 9 yng ngweithdai gwyddoniaeth (STEM) yn Llanberis, gweithdy creadigol dan arweiniad yr adran Gymraeg yn yr ysgol, gwaith menter y BAC, Ymweliad â choedwig Llwyn-Onn, Brynsiencyn a gweithdy celf a graffiti. Dyma rhai o ddelweddau r wythnos.
Cyngerdd dathlu llwyddiannau plant Môn yn Eisteddfod yr Urdd 7.7.16 Gwych oedd cael cyfle i fwynhau doniau perfformio ieuenctid Môn, wrth i r Urdd drefnu noson i bawb a gafodd lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol yr urdd 2016, Sir Fflint. Roedd dau nod i r noson sef dathlu a chodi arian ar gyfer eisteddfod yr Urdd a r Eisteddfod Genedlaethol. Diolch i holl ddisgyblion yr ysgol a gymrodd ran yn y noson. Diolch i Glesni, Elain, Erin, Annest a Thea yn arbennig. Rydym yn falch iawn mai Ysgol Uwchradd Bodedern a gafodd yr ail uchaf o farciau drwy r sir.
Noson Gwobrwyo Chwaraeon Ieuenctid Môn a Gwynedd Ymhlith y degau ar ddegau o ddisgyblion sy n cynrychioli eu hysgolion drwy Wynedd a Môn, daeth tri enw o Ysgol Uwchradd Bodedern i r brig yn Noson Gwobrwyo Chwaraeon nos Iau 7fed o Orffennaf yng nghanolfan tenis Caernarfon. Daeth Gemma Thomas a Becky Hartshon yn ail am eu llwyddiannau ym myd pêl-fasged a karate. Seren y noson oedd Kieran, a enillodd y wobr gyntaf. Dawn Kieran yw chwarae pêl fasged cadair olwyn. Mae n gapten tîm ieuenctid pêl-fasged cadair olwyn a bydd hefyd yn mynychu sesiwn hyfforddi dros yr haf. Cawn fwy o i hanes ym mwletin mis Medi.
Diolch yn fawr!! Mae r ysgol yn ymfalchïo yn ein cysylltiad gyda r gymuned. Un o gwmnïau'r fro sydd wedi bod yn hynod o garedig yw garej Bryn Eira, Bodedern sef busnes A. W Roberts a i Fab. Diolch i r cwmni am noddi crysau rygbi bechgyn o dan 16 a 14. Dyma Catrin Roberts o A.W.Roberts a'i fab gyda'i brawd William o flwyddyn 8 yn cyflwyno'r crysau i r bechgyn.
Eleni buom yn lwcus iawn o gael cwmni merch 20 oed o r enw Perle Magaly o ynys Guadeloupe fel cynorthwyydd iaith fodern yn y gwersi Ffrangeg. Myfyrwraig Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yw Perle a i hoff fodiwlau yw Shakespeare a Dickens. Fel rhan o i gradd roedd yn dod i Ysgol Uwchradd Bodedern unwaith yr wythnos am ddau dymor. Mwynhaodd ei hamser yma n fawr drwy helpu r disgyblion iau a hŷn hefo u gwaith ysgrifenedig a llafar. Rhoddodd gyflwyniad inni ar ei hynys sydd dros 5,000 o filltiroedd o Gymru yn Ne Môr y Caribî lle nad ydi r tymheredd prin yn mynd o dan 20 C. Roedd hi n teimlo braidd yn oer yma ar adegau a dweud y lleiaf! Gwelsom hefyd luniau o garnifal sy n cael ei gynnal yno bob blwyddyn a rhai o r anifeiliaid, coed a blodau sydd i w gweld yno. Mae Perle yn siarad Ffrangeg a Saesneg ac mae hi n hoff iawn o ganu traddodiadol ei hynys. Ei gobaith y flwyddyn nesaf yw parhau i astudio ar gyfer bod yn athrawes iaith. Pwy a ŵyr, efallai y byddwn yn ei gweld eto ar lawr dosbarth! A la prochaine, Perle! Ymwelydd egsotig â Bodedern
Flash Mob Mae cyffro'r Eisteddfod yn ymestyn i r gymuned hefyd, wrth i gyn ddisgybl arall Llio Angharad (Taylor) drefnu flash mob gyda chymorth yr adran Gerdd. Mae Llio bellach yn gweithio yn adain Yr iaith Gymraeg o dan y gweinidog Alun Davies yn y senedd. Cynhaliwyd y flashmob fel rhan o ymgyrch #Pethau Bychain y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth y fro o ymweliad yr Eisteddfod genedlaethol yn Tesco Caergybi. Daeth y perfformiwr a r cyfansoddwr Mei Gwynedd i gyd arwain y trefniadau gyda Ms Awel Glyn. Roedd dros 150 o ddisgyblion wedi cymryd rhan. Dyma'r criw yn ymarfer gyda Mei Gwynedd yn yr ysgol.
Roedd y trip i Ffrainc yn brofiad bythgofiadwy! Roedden ni yng nghanol ffrindiau a chwmni da a dyma wnaeth y daith yn werth chweil. Roedd ein dreifar bws, Chris Davies, yn ofnadwy o glên ac yn ddrefiar da a llwyddodd i gylchu r Arc de Triomphe ddwywaith. Cawsom gyfle i ymweld â rhai mynwentydd y Somme, Y Louvre, Tŵr Montparnasse, Tŵr Eiffel, Arc de Triomphe, La Défense i wario, y Champs Elysées, Notre Dame, cwch ar yr Afon Seine, Disneyland, hyd yn oed mwy o wario! Roedd yno llawer o hwyl i w gael hefo r athrawon hefyd. Roedd y siwrne yno braidd yn hir ac yn ddiflas ond ar y ffordd adref roedd pawb wedi cynhyrfu yn dilyn gêm Cymru y noson cynt yn erbyn Gwlad Belg. Roedden ni n falch o fod yn Gymry. Roedd yr awyrgylch yn grêt, roedd pawb wedi cyffroi, yn enwedig ein athro hanes! Ond roedd hi hefyd yn braf cael dod adref i n gwelyau ni n hunain. Buasem yn hoffi diolch i r athrawon am eu hamynedd hefo ni i gyd ac am drefnu r trip. Cafodd bawb amser grêt. Diolch! Milly McCarrick, Sophie Begley a Megan Thomas
Y criw o flaen y gofeb i r Milwyr Cymreig yng Nghoed Mametz Mynwent Almeinig Bedd Hedd Wyn
O flaen pyramid y Louvre Yr hogiau n trio dynwared un o gerfluniau r Arc de Triomphe Yn dilyn y gêm
Mae n dymor profiad gwaith a bydd blwyddyn 10 a 12 yn ennill y profiad o sut mae r byd mawr yn gweithio. Bydd nifer ohonynt yn profi lleoliadau cyffrous a diddorol o ysgolion y fro i wersyllfa Llangrannog, eraill yn ennill profiad gwerthfawr o gael gweithio mewn diwydiant, gan gynnwys Wylfa. Pob lwc i 4 o flwyddyn 12 a fu ar gwrs Codi ymwybyddiaeth o r sector niwcliar, sef Sïon Emlyn, Jack Lander, Emyr Owen a Louie Williams. Llongyfarchiadau i Elain Rhys o flwyddyn 12 a enillodd y nifer fwyaf o bwyntiau gan fyfyriwr Ysgol Gerdd William Mathias. Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn hynod brysur i Elain a Bodedern wrth iddi gael ei dewis yn un o gyfeilyddion telyn yr ŵyl. I gyd fynd â r Eisteddfod Genedlaethol, pleser mawr oedd cael cymaint o ddisgyblion yr ysgol yn ein cynrychioli yn seremoni Cyhoeddi r eisteddfod yng Nghaergybi ar y 25ain o Fehefin. Er siom y tywydd, roedd awyrgylch y dydd yn wresog. Ymhlith y nifer fawr o ddisgyblion a fu n dangos eu doniau ar lwyfan Menter iaith ar y stryd fawr, roedd yr ysgol yn falch iawn o ddwy ferch yn arbennig sef Eurgain Lloyd Blwyddyn 12 fel Merch y Fro a Mared Williams cyn-ddisgybl o Lannerch-y-medd fel Mam y Fro.
Ffarwel Hoffai cymuned yr ysgol ddymuno'r gorau i r canlynol wrth iddynt symud ymlaen i gyfnodau newydd: Annwen Morgan ei dyrchafu n Brif Weithredwr Cynorthwyol i Gyngor Môn (ers Tachwedd 15) Mrs Brenda Bull ymddeol Pasg 2016 Carwyn Edwards sefydlu ei fusnes ei hun fel saer Iona Thomas Ysgol y Gader Grug Jones Ysgol Aberconwy Awen Mair Ysgol Dyffryn Ogwen Dewi Prys Davies ymuno â heddlu cymunedol Owain Glyn Jones cychwyn cwrs TAR Lois Owen cychwyn cwrs MA mewn gwaith cymdeithasol Heulwen Jones - ymddeol Carol Rees ymddeol Eilir Evans ymddeol Dymuniadau gorau iddynt gyd, a diolch am eu holl wasanaeth ac ymroddiad i Ysgol Uwchradd Bodedern. Bydd y Pennaeth yn cynnal gwasanaeth ffarwelio fore Mawrth 19eg o Orffennaf.
Dyddiadau Pwysig! 1.09.16 Ysgol yn ail ddechrau i staff 5.09.16 Ysgol yn ail ddechrau i r holl ddisgyblion 14.09.16 Tynnu llun ysgol gyfan 27.09.16 Noson agored i flynyddoedd 4,5,6 a 7