LLANDUDNO Y CANLLAW POCED

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Summer Holiday Programme

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

October Half Term. Holiday Club Activities.

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Holiadur Cyn y Diwrnod

Rheilffordd Ffestiniog

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

e SCa P e To DIHanGWCH I 7.5 ml ; 12.0 km 4 : 00 pen y fan pond Country Park car park pwll pen-y-fan Maes parcio Parc Gwledig So

Photography / Lluniau: Martin Lyons, Wales On View, Prifysgol Bangor University

W39 22/09/18-28/09/18

Pysgota / Angling. Ceredigion

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Cardiff Castle Group Visits 2015

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

W46 14/11/15-20/11/15

Cardiff Castle. Castell Caerdydd. What s On Digwyddiadau

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cycling in Denbighshire

Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs

official programme RHAGLEN SWYDDOGOL

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W44 27/10/18-02/11/18

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

HERITAGE NEWS NEWYDDION TREFTADAETH

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Coed-y-bryn - Castell Newydd Emlyn/Newcastle Emlyn Bwcabus 611 drwy/via Rhydlewis - Brongest Yn weithredol/effective from 10/03/2013

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

The Life of Freshwater Mussels

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Cyrsiau Courses.

o gwmpas 2014 AM DDIM AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a chefn gwlad Sir Ddinbych hwyl, cerdded a beicio i r teulu a llawer mwy

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Booking Line Llinell Archebu

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson

Croeso mawr i r Ŵyl Gomedi

G ^wyl Gerdded Cymoedd Cymru 2015 Wales Valleys Walking Festival 2015

TASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY

Pennaeth Mr Dewi Owen Headteacher

W42 13/10/18-19/10/18

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

NatWest Ein Polisi Iaith

CYMOEDD THE VALLEYS CROESO I R GORFFENNAF - MEDI WELCOME TO JULY - SEPTEMBER. Yn cynnwys. Including

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Room Configurations and Capacities Trefn a Chapasiti Ystafelloedd

Appointment of BMC Access

Products and Services

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Swim Wales Long Course Championships 2018

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Addewid Duw i Abraham

Arfordir Ceredigion Pen Llŷn Parc Cenedlaethol Eryri

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

Walking & Cycling. Cerdded & Beicio. In Rural Swansea. Yn Abertawe Wledig. visitswanseabay.com dewchifaeabertawe.com

Clecs. Rhifyn 6. Defnyddiwch eich Cymraeg

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Gair o r Garth Garth Grapevine

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

Dachrau n Deg Flying Start

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

E-fwletin, Mawrth 2016

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

P-aC4 LANGUAGE PATTERNS

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

To Create. To Dream. To Excel

Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol

Transcription:

Y CANLLAW POCED 2017 BLWYDDYN CHWEDLAU BLWYDDYN CHWEDLAU

CHWEDLONOL Yn 2017, rydym yn dathlu n Blwyddyn Chwedlau. Cewch ddigon o brofiadau epig yng nghyrchfan glan môr mwyaf a gorau Cymru. Dyma rai i chi gychwyn arnynt. Mae Llandudno wedi arfer creu arwyr a chwedlau. Darganfyddwch pa gysylltiadau sydd gan y dref gyda chwedl enwog fyd-eang Alys yng Ngwlad Hud, ar Lwybr Alys. Neu ymlaciwch ar wyliau traeth Prydeinig clasurol (maen nhw'n ffasiynol eto erbyn hyn, wyddoch chi). Mae'n pier arbennig, yr hiraf yng Nghymru, ar lan môr tywodlyd lle ceir y traddodiadau glan môr i gyd fel cadeiriau glan môr, reid ar gefn mul, a Punch a Judy. 04 12 Y STORI YN LLAWN 04 Chwarae plant 08 Eich antur fawr nesaf 12 Turio i r gorffennol 14 Atyniadau ac adloniant 15 Beth sy n digwydd yn 2017 18 Atyniadau 22 Map stryd a mynegai Ymchwiliwch hen hanes Mwyngloddiau Copr Y Gogarth, sef mwyngloddiau copr Oes Efydd hynaf y byd. Maent ar fynydd bychan arbennig Llandudno. Pentir creigiog yw r Gogarth lle mae cefn gwlad gwyllt yn gyfleus o agos at y dref. Gallwch fynd i ben y Gogarth, sy n 679 troedfedd / 207 medr o uchder, ar droed, mewn car cebl neu ar dram hanesyddol ac mae cyfle yno i gael tro ar weithgareddau sy n amrywio o wylio bywyd gwyllt i sgïo neu fynd ar sled. UN O R GORAU YN Y BYD Gogledd Cymru yw'r pedwerydd lle gorau yn y byd i ymweld ag ef. Na, nid dim ond ni sy'n dweud. Daeth i r pedwerydd safle ar gyfer rhanbarthau Best In Travel 2017 y cyhoeddwr teithio amlwg Lonely Planet. 18 COFIWCH! Mae r symbol hwn yn nodi atyniadau sydd fel arfer yn agored trwy r flwyddyn. Tra byddwch yma, ewch i Ganolfan Croeso Llandudno ar Mostyn Street. Gall y staff cyfeillgar eich helpu gyda phethau fel archebu tocynnau a chynllunio diwrnodau. Ac, os nad ydych wedi dod o hyd i rywle i aros yn barod, gallant eich helpu i ddewis o'n amrediad eang o letyau hefyd. Ond cofiwch, yr hiraf y byddwch yn aros, y mwyaf o amser fydd gennych i fwynhau Llandudno! DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 3

Teithiau ar gefn mul Alice in Wonderland CHWARAE PLANT Bwced a rhaw. Tywod rhwng eich bodiau. Ceisio gwneud synnwyr o r geiriau yn eich india roc. Yr addewid o hufen iâ cyn gwely. BETH SYDD DDIM I W HOFFI AM? Mae ein hamrywiaeth o atyniadau yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd. Ewch am daith cwch o amgylch y Gogarth, gweld y golygfeydd o fws to agored a dod i adnabod yr anifeiliaid yn Fferm Bodafon. I hel atgofion, ewch am reid ar Dramffordd y Gogarth. Neu mewn cyferbyniad llwyr, darganfyddwch gyswllt Alice in Wonderland â Llandudno gyda dau app llwybr tref cyffrous. 4 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK Teithiau cwch Llandudno TRAETH Y GOGLEDD A R PROMENÂD Does dim eiliad ddiflas ar Draeth y Gogledd! Mae r pob un o'r ffyrdd hen-ffasiwn gorau o fwynhau ein harfordir hardd yma. Sioeau Punch a Judy, reidiau asyn ar y tywod, hufen iâ ar y pier, cerddoriaeth fyw o'r bandstand. Heb anghofio syrthio i gysgu yn eich cadair gynfas! Hefyd, mae man chwarae, pwll padlo a byrbrydau ar ochr ddwyreiniol y Prom. BAND TREF Cyf Map:D7 Yn dal i chwythu n gryf ar ôl dros 100 mlynedd. Mae r band yn perfformio yn fyw o safle r seindorf ar y promenâd bob dydd Sul, ac ar ddydd Llun ar gyfer cyngerdd cerddoriaeth boblogaidd, gan gychwyn ar 28 Mai a gorffen ar 28 Awst - 7:30pm-8:30pm (yn dibynnu ar y tywydd). TEITHIAU CWCH Cyf Map:C6 Y Jeti, Traeth y Gogledd, Llandudno 07961 561589 Un o'r ffyrdd gorau o weld Llandudno yw ar gwch. Neidiwch ar fwrdd y Sea-Jay ar gyfer taith olygfaol ar y d ŵr i weld Trwyn y Fuwch a'r Gogarth; neu daith bysgota môr hirach ar Starfish o Gonwy ar sail siarter, lle gallwch fwynhau r arfordir ysblennydd yn y gobaith o ddal eich cinio eich hun. BIG SHIP LTD Cyf Map:C6 Y Jeti, Traeth y Gogledd, Llandudno 01492 877458 Neidiwch ar fwrdd un o'r cychod cyflym a gwibiwch heibio r Gogarth a Thrwyn y Fuwch trwy chwistrell o dd ^wr a halen. Llawer o hwyl! Ar agor rhwng y Pasg a diwedd mis Medi (os yw r tywydd yn caniatáu). Traeth y Gogledd TRÊN TIR Cyf Map:C5 Traeth y Gogledd, Llandudno 01492 877458 Does dim llawer o ddulliau teithio eraill yn gwneud i deithwyr na gwylwyr wenu cymaint na thrên tir Llandudno. Mae'r awydd i chwifio ar y tyrfaoedd, wrth i'r injan amryliw bwffian ei ffordd rhwng Traeth y Gogledd a Phenmorfa, yn ormod i'w wrthsefyll. Hefyd, mae teithiau 1 awr o amgylch Marine Drive. Yn rhedeg o fis Ebrill i fis Hydref. PUNCH AND JUDY PROFESSOR CODMAN Cyf Map:C5 07900 555515 Mae'r teulu Codman wedi bod yn perfformio r ffefryn glan môr hwn am dros 150 o flynyddoedd ger y pier ar Bromenâd Traeth y Gogledd. Bydd sioeau dyddiol yn digwydd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau r ysgol (os yw'r tywydd yn caniatáu) rhwng y Pasg a mis Medi. Mae perfformiadau am 2pm a 4pm a hefyd am 12:30pm yn ystod anterth y tymor ac ar Wyliau Banc. Gwneir perfformiadau ychwanegol ar gyfer grwpiau ysgol drwy drefniant. PENMORFA Mae gan draeth tawelach Llandudno ardaloedd chwarae i blant ac oedolion hefyd. Hefyd, mae pwll perffaith ar gyfer cychod model. Edrychwch allan dros geg Aber yr Afon Conwy i weld rhai o'r golygfeydd gorau o gwmpas, ac (os yw eich amseru yn dda) cewch weld y machlud mwyaf ysblennydd. DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 5

TEITHIAU MARINE DRIVE Cyf Map:C5 01492 879133 Ewch ar hen fws am daith un awr ar hyd Marine Drive a mwynhau golygfeydd syfrdanol o Ynys Môn, Eryri ac allan dros Fôr Iwerddon. Bydd y daith yn gadael bob dydd trwy gydol y flwyddyn o fynedfa'r pier am 11am, 1pm a 3pm. CITY SIGHTSEEING Cyf Map:C5 01492 879133 city-sightseeing.com Nid yw gweld y golygfeydd erioed wedi bod yn gymaint o hwyl! Cymerwch daith bws heb do o amgylch Llandudno a Chonwy. Teithiau yn cychwyn yn North Parade ger y pier, gyda bysiau bob awr o 10.15am (bob 30 munud yn ystod y tymor brig) 4 Mawrth - 29 Hydref. CINEWORLD Cyffordd Llandudno 0871 200 2000 cineworld.co.uk Cewch weld y ffilmiau diweddaraf, yn ogystal â ffilmiau clasurol a dangosiadau arbennig wythnosol yn y sinema 9 sgrin hon. System dolen clyw. Parcio am ddim. 02 PARC FFERM BODAFON Cyf Map:F12 Ffordd Bodafon, Llandudno 01492 549060 bodafonfarmpark.com Dewch i ymweld â fferm go iawn. Crwydrwch o amgylch padogau, bwydo geifr a cheirw, a gweld yr adardai helaeth sy'n cynnwys tylluanod ac adar trofannol. Ewch am dro ar hyd llwybr treftadaeth y fferm neu fwynhau taith tractor neu ferlen. Ar agor drwy'r flwyddyn 10am tan 9pm yn yr haf. 10am tan 5pm yn y gaeaf. COFIWCH! Gall amseroedd agor a chyfleusterau newid heb rybudd felly cysylltwch â'r atyniadau unigol cyn cychwyn. 6 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK ALICE IN WONDERLAND Mae'n addas iawn bod gan stori hudol fel Alice in Wonderland gysylltiad agos â Llandudno. Cafodd ei awdur, Lewis Carroll, ei ysbrydoli gan Alice go iawn, Alice Liddell. Daeth y teulu Liddell i Landudno yn gyntaf yn 1861 gan aros yng Ngwesty St Tudno. Roeddent yn hoffi'r ardal cymaint cawsant adeiladu t ŷ ym Mhenmorfa a threuliodd Alice lawer o hafau ei phlentyndod yma. Roedd y teulu yn ffrindiau gyda Charles Dodgson, sy'n fwy adnabyddus fel Lewis Carroll. LLWYBRAU ALICE Mae dau app llwybr tref cyffrous wedi cael eu datblygu - y Gwningen Wen a Drych Alice. Mae'r profiadau digidol 3D anhygoel yn eich galluogi i ddilyn anturiaethau Alice drwy Wlad Hud. Ar gyfer y rhai sydd ddim mor dechnegol, mae map llwybr tref a chanllaw swfenîr, ac mae'r llwybr cyfan yn hawdd i'w defnyddio - dim ond dilyn olion traed efydd y Gwningen Wen trwy Llandudno. alicetowntrails.co.uk 27 CAR CEBL Cyf Map:B6 Gerddi y Fach, y Gogarth, Llandudno 01492 877205 Reidiwch ar gar cebl hiraf y DU yr holl ffordd i gopa'r Gogarth, 679 troedfedd i fyny. Mwynhewch olygfeydd anhygoel Bae Llandudno, Trwyn y Fuwch, Aber yr Afon Conwy a milltiroedd a milltiroedd allan dros Fôr Iwerddon. 29 CANOLFAN YMWELWYR PARC GWLEDIG Y GOGARTH Cyf Map:A1 01492 874151 conwy.gov.uk Mae arddangosfeydd rhyngweithiol a chlyweledol yn disgrifio hanes, daeareg a bywydd gwyllt y Gogarth, a chewch edrych yn agosach ar adar y môr ar y clogwyni gan ddefnyddio 'camera adar y môr'. Ar agor bob dydd rhwng 10am a 5.30pm 25 Mawrth to 29 Hydref (5pm ym mis Hydref neu mewn tywydd gwael). 28 CAMERA OBSCURA Cyf Map:B6 Camera Hill, Y Fach 07788 450445 camobscura.co.uk Mae r atyniad unigryw hwn, a agorwyd i ddechrau yn 1860, yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar olygfeydd panoramig gorau Llandudno. Ar agor rhwng Ebrill a Medi, dydd Gwener - dydd Sul o ganol bore, yn ddyddiol yn y prif dymor (yn ddibynnol ar y tywydd a staff). Car Cebl Llandudno 20 PIER Cyf Map:B6 01492 876258 llandudnopier.com Agorodd Pier Llandudno ym 1878, ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr byth ers hynny. Yn ymestyn 2,295 troedfedd allan dros y môr, dyma r pier hiraf yng Nghymru, ac un o'r gorau yn y DU. Gyda'i siopau, peiriannau chwarae, caffis a bariau mae'n dal i fod yn un o brif atyniadau Llandudno. Ar agor bob dydd rhwng 10am a 10pm yn ystod yr haf a dydd Iau i ddydd Sul 10am-6pm yn y gaeaf, yn dibynnu ar y tywydd. (Ar gau ar ddydd Nadolig). 21 CANOLFAN HWYL BONKERZ Cyf Map:C4 Llewelyn Avenue, Llandudno 01492 871666 bonkerzfuncentre.co.uk Mae'r ardal chwarae meddal ar thema castell canoloesol yn llawn pyllau peli, sleidiau a digon o gyfleoedd dringo. Ar agor bob dydd rhwng 10am a 6pm drwy gydol y flwyddyn. Canolfan hwyl Bonkerz Canolfan ymwelwyr parc gwledig y gogarth DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 7

Canolfan Sgïo ac Eirafyrddio Llandudno EICH ANTUR FAWRNESAF YR AWYR AGORED Ewch allan i fwynhau r antur. Prynhawn hamddenol ar y cwrs golff, rhywbeth i'r teulu cyfan ei fwynhau, neu chwaraeon eithafol i gyflymu r galon. Mae cymaint o ffyrdd o fod yn anturus, dan do ac yn yr awyr agored, ar y d ŵ r neu ar dir sych. Ac mae Llandudno yn ganolfan wych ar gyfer archwilio mynyddoedd ac arfordir Eryri, hefyd. FELLY PAM AROS? 8 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 20 PIER Cyf Map:A7 01492 876258 Mae tocynnau dydd ar gael ar gyfer pysgota drwy r flwyddyn o bier Llandudno. PYSGOTA AR Y LAN Gallwch bysgota o'r lan ym Mae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, Llandudno, Deganwy, Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan. PYSGOTA MÔR Rhagor o wybodaeth ar gael o Swyddfa'r Harbwr ar 01492 596253 Ewch am daith ar gwch siarter gyda chapten profiadol (yn dibynnu ar y tywydd, wrth gwrs!). Yn dibynnu ar y tymor, gallwch bysgota r glannau am wyniaid y môr, penfras, draenogiad y môr, macrell a mwy. Neu mentrwch ymhellach allan am forlas, penfras, congren a celog. 22 CLWB HWYLIO Cyf Map:E9 01492 549900 llandudno-sailing-club.org.uk O'r t ŷ clwb ar y promenâd, mae r clwb hwylio dingi teuluol hwn yn cynnal rhaglen gymdeithasol a rasio llawn, yn ogystal â sesiynau hyfforddi i ddechreuwyr. Clwb hwylio Llandudno LLITHRFEYDD LANSIO ARFORDIROL Swyddfa r Harbwr, Conwy 01492 596253 Gallwch lansio eich cwch o sawl lleoliad ar hyd yr arfordir, gan gynnwys Llithrfa Porth Eirias, Bae Colwyn (cychod p ŵ er yn unig gan gynnwys PWC), Llithrfa Aberhod, Llandrillo-yn-Rhos (cychod heb b ŵ er yn unig), Llandudno (cychod heb b ŵ er a badau cyffredinol, dim jetsgis) a Llithrfa Beacons Morfa Conwy (pob math). Mae ffioedd yn daladwy a bydd angen yr yswiriant priodol arnoch. I gael rhagor o fanylion ewch i: conwy.gov.uk SYRFFIO BARCUD A BYGIO Swyddfa r Harbwr, Conwy 01492 596253 Ar Arfordir Gogledd Cymru rydym yn ffodus bod gennym lawer o draethau tywodlyd mawr. Perffaith ar gyfer syrffio barcud a bygio. Mae gan y traeth ym Mhenmorfa fan lansio pwrpasol yn ogystal ag ardaloedd hedfan a glanio. Ewch i swyddfa'r harbwr yng Nghei Conwy i gael eich trwydded. PŴER PEDAL Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yw ei enw swyddogol, ond rydym ni n ei adnabod fel y daith feicio arfordirol rhwng Llanfairfechan a Bae Cinmel. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr heb draffig, a gallwch ymuno ar wahanol bwyntiau ar hyd y ffordd. Dyma un o'r ffyrdd gwyrddaf o weld ein harfordir a'n cefn gwlad. Mynnwch gopi o Fap Llwybrau Beicio Conwy o Ganolfannau Croeso Llandudno neu Gonwy neu lawrlwythwch o conwy.gov.uk DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 9

EGNIOL DAN DO 11 LLOGI BEICIAU Cyf Map:D6 St. George s Place, Llandudno 07496 455188 llandudnobikehire.com Llogwch feic trydan a phrofi treftadaeth Llandudno a'r arfordir dramatig yn rhwydd ar ddwy olwyn. Hefyd ar gael i w llogi mae beiciau tref hawdd i w reidio, beiciau hybrid ysgafn, beiciau plant iau a r Raleigh Chopper eiconig. Diwrnod llawn, rhan o'r diwrnod neu'n hirach os oes angen. Helmed a chlo wedi u cynnwys. 09 CLWB GOLFF (MAESDU) Cyf Map:I5 Llandudno, 01492 876450 maesdugolfclub.co.uk Mae'r cwrs parcdir pencampwriaeth 18 twll yn manteisio o leoliad arfordirol hardd gyda golygfeydd panoramig o Fae Conwy, y Gogarth ac Eryri ac Ynys Môn. Mae gwersi ar gael, ac mae'r clwb yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr ac aelodau. 10 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 15 CLWB GOLFF GOGLEDD CYMRU Cyf Map:H4 Penmorfa, Llandudno 01492 875325 northwalesgolfclub.co.uk Profwch eich sgiliau a mwynhewch olygfeydd gwych o Aber yr Afon Conwy, Ynys Môn ac Eryri o r cwrs pencampwriaeth 18 twll hwn. Mae 'na faes ymarfer, ac mae hyfforddiant proffesiynol ar gael. CLWB GOLFF A GOLFF TROED SILVER BIRCH Betws yn Rhos, 01492 680690 silverbirchgolfclub.co.uk Gellir cyfuno'r ddau gwrs 9 twll, sydd wedi'u lleoli mewn cefn gwlad prydferth rhwng Abergele a Bae Colwyn, i ffurfio rownd 18 twll. Hefyd mae r cwrs golff troed 18 twll cyntaf yng Nghymru. Mae ar agor drwy'r flwyddyn ac wedi'i gynllunio ar gyfer dechreuwyr. Gallwch dalu a chwarae, a llogi clybiau a throlïau, felly mae'n berffaith ar gyfer ymwelwyr sy'n chwarae golff. 24 CLWB BOWLIO Cyf Map:E3 Yr Oval, Oddi ar Gloddaeth Avenue, Llandudno, 01492 870517 Mae'r clwb bowlio lawnt yn cynnal gemau sirol a chenedlaethol, ac mae ar agor o fis Ebrill i fis Hydref. Mae yna hefyd lawntiau bowlio yng Nghraig-y-Don, Conwy a Deganwy. 35 CANOLFAN SGÏO AC EIRAFYRDDIO Cyf Map:A4 Y Gogarth, Llandudno 01492 874707 jnlllandudno.co.uk Mae'r ganolfan yn rhoi cyfle i sgiwyr, eirafyrddwyr a rolwyr ar bob lefel i ymarfer, dysgu sgiliau newydd neu ddechrau o'r dechrau. Rhowch gynnig ar eira-diwbio (cylchoedd mawr gwynt) i lawr y bryn, naill ai ar eich pen eich hun neu wedi ch cysylltu ag eraill. A peidiwch â cholli'r Cresta. Yn 750 medr o hyd, dyma r daith tobogan hiraf yng Nghymru! Delfrydol ar gyfer pen-blwyddi a diwrnodau allan i'r teulu. Mae hyfforddiant arbenigol ar gael gan hyfforddwyr, ac mae'r ganolfan ar agor trwy gydol y flwyddyn 10am tan 10pm. Mae'n syniad da i ffonio ymlaen llaw gan fod rhai gweithgareddau yn dibynnu ar y tywydd. CERDDED: GWASANAETH CEFN GWLAD CONWY 01492 575200 conwy.gov.uk Cerdded yw'r ffordd orau i ddarganfod ein trefi, coedwigoedd, traethau a choetir. Ac mae taith gerdded trwy ein tirwedd yn gyfle ddim i w golli i weld ein bywyd gwyllt. Mae teithiau cerdded a theithiau tywys, yn ogystal â chasgliad o gyhoeddiadau ar gael o r Canolfannau Croeso. Felly gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch amdani. COFIWCH! Gall amseroedd agor a chyfleusterau newid heb rybudd felly cysylltwch â'r atyniadau unigol cyn cychwyn. 12 CANOLFAN NOFIO Cyf Map:E8 Mostyn Broadway 01492 575900 conwy.gov.uk Ffefryn cadarn ar gyfer pob oedran a gallu. Edrychwch ar y wefan am sesiwn sy'n addas i chi, o nofio lonydd i sesiynau hwyl i'r teulu. Neu beth am ymarfer eich cyhyrau yn y gampfa gyda r offer diweddaraf. Ar agor drwy'r flwyddyn - amseroedd yn amrywio. CANOLFAN HAMDDEN CYFFORDD Ychydig oddi ar yr A55 Cyffordd, 01492 577925 conwy.gov.uk Dewch i ymarfer yn y ganolfan hamdden boblogaidd hon gyda neuadd chwaraeon amlddefnydd, wal ddringo ac ystafell ffitrwydd. Mae'r ganolfan yn cynnal dosbarthiadau ymarfer corff rheolaidd ac yn cynnig gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc. Ar agor drwy gydol y flwyddyn. Dydd Llun i ddydd Iau 7am tan 10pm, Dydd Gwener 7am tan 9pm, dydd Sadwrn 10am tan 4pm, a dydd Sul 10am tan 6pm. LLWYBR ARFORDIR CYMRU walescoastpath. gov.uk Gwisgwch eich esgidiau a dewch i gerdded. Mae r Llwybr Arfordir Cymru enwog yn ymestyn am 870 milltir o amgylch arfordir cyfan Cymru. Ein rhan ni - y 34½ milltir rhwng Bae Cinmel a Llanfairfechan sy n cynnwys llawer o uchafbwyntiau. DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 11

Mwyngloddiau Oes Efydd Y Gogarth TURIO I'R GORFFENNOL HANES BYW Yn gryno. Pier a phromenâd Fictoraidd a, goeliech chi bod mwyngloddiau cynhanesyddol ar y pentir uwchben? I gael trosolwg o daith hanesyddol hir Llandudno galwch i mewn i Amgueddfa Llandudno, a r Home Front Experience, sy'n dwyn i gof y bywyd sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 36 TRAMFFORDD Y GOGARTH Cyf Map:C4 Church Walks, Llandudno 01492 577877 greatormetramway.co.uk Dewch i brofi sut mae pobl wedi bod yn teithio ers dros 100 mlynedd yn yr atyniad unigryw a hanesyddol hwn yn Llandudno. Tramffordd y Gogarth, sydd wedi bod yn swyno ymwelwyr ers 1902, yw r unig dramffordd cebl ym Mhrydain sy'n teithio ar ffyrdd cyhoeddus. Wrth deithio drwy Barc Gwledig y Gogarth a'r Warchodfa Natur, gallwch eistedd ac ymlacio tra'n mwynhau'r golygfeydd godidog gogledd Cymru a thu hwnt. Mae r tramiau yn rhedeg bob 20 munud, 7 diwrnod yr wythnos. Ar agor ddiwedd mis Mawrth tan ddiwedd mis Hydref 10am-6pm (yn cau 5pm Mawrth a Hydref yn unig). 30 MWYNGLODDIAU OES EFYDD Y GOGARTH Cyf Map:A1 Y Gogarth, Llandudno 01492 870447 greatormemines.info Dewch i ddarganfod y llwybrau sy'n 4000 oed ac ogof danddaearol anhygoel yn y mwynglawdd hwn o'r oes efydd, y mwynglawdd hynafol hynaf yn y byd y gwyddwn amdano. Canolfan Ymwelwyr gydag arteffactau ac arddangosfeydd yn dangos y mwyngloddio, mwyndoddi a bywyd yn yr Oes Efydd. Ar agor bob dydd o 15 Mawrth hyd at 3 Tachwedd o 10am. Mynediad olaf 4.30pm. 26 HOME FRONT EXPERIENCE Cyf Map:D5 New Street, Llandudno 01492 871032 homefrontmuseum.co.uk Ewch yn ôl mewn amser i r Ail Ryfel Byd yn yr amgueddfa hanes byw hon. Dewch i ddarganfod yr hyn sydd i w weld a chlywed ar y ffrynt cartref trwy arddangosfeydd siop ac ystafelloedd wedi u hail-greu. Tramffordd y Gogarth Ar agor bob dydd o ganol mis Mawrth tan ganol mis Tachwedd rhwng 10am a 4:30pm (10am tan 2pm ar ddydd Sul). 33 MARINE DRIVE Cyf Map:A5 Y Gogarth, Llandudno 01492 576622 Gyrrwch ar hyd un o dollffyrdd hiraf y DU. Mae Marine Drive yn mynd o amgylch y Gogarth ac mae golygfeydd syfrdanol o Ynys Môn, Eryri ac allan dros Fôr Iwerddon. Mae n fan gwych ar gyfer gwylio'r haul yn machlud! 10 AMGUEDDFA Cyf Map:D4 Gloddaeth Street, Llandudno 01492 876517 llandudnomuseum.co.uk Darganfyddwch stori ddiddorol Llandudno o gynhanes i'r presennol drwy arddangosfeydd parhaol ac arddangosfeydd dros dro, gan gynnwys archaeoleg, hanes naturiol, daeareg, ac arteffactau o'r gorffennol diweddar, yn ogystal ag arddangosfeydd celfyddyd gain. Ar agor o'r Pasg tan ddiwedd mis Hydref, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn a Gwyliau Banc, 10.30am tan 1pm a 2pm tan 5pm. Dydd Sul 2.15pm tan 5pm. Tachwedd tan y Pasg, dydd Mawrth i ddydd Sadwrn 1.30 tan 4.30pm (Ar gau ym mis Ionawr). Home Front Experience 12 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 13

04-06/11 Opera Cenedlaethol Cymru CELFYDDYDAU AC ADLONIANT Yn gryno. Edrych yn dda, swnio'n dda. Rydym yn awyddus i gyffroi pethau drwy gyflwyno cymysgedd o gelf gyfoes ac adloniant i'r teulu, darluniau da iawn a chomedi, cynyrchiadau enw mawr a rhaglen lawn o wyliau a digwyddiadau. GWYLIAU A DIGWYDDIADAU 2017 Peidiwch â meddwl ein bod yn mynd i gysgu pan fydd yr haf drosodd. Mae ein rhaglen lawn o wyliau a digwyddiadau yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn. Dyma flas o'r hyn sy'n digwydd yn 2017. I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau yn Sir Conwy ewch i dewchilandudno.org.uk 25 VENUE CYMRU Cyf Map:E9 Y Promenâd, Llandudno 01492 872000 venuecymru.co.uk Mae prif leoliad adloniant a chelfyddydau Gogledd Cymru yn cynnwys theatr 1500 sedd, canolfan gynadledda ac arena. Mae'r theatr yn dangos popeth o opera a bale, dawns a drama, comedi, bandiau byw a phanto tymhorol. Mae arddangosfeydd celf rheolaidd a digwyddiadau, hefyd. Ar agor drwy'r flwyddyn. 16 MOSTYN Cyf Map:E7 Vaughan Street, Llandudno 01492 879201 / mostyn.org O'r grisiau pensaernïol trawiadol i'r galeri hardd, golau ac agored sy n arddangos y gorau mewn celf gyfoes ryngwladol, mae MOSTYN yn lle trawiadol i'w archwilio. Mae siop gwych sy'n gwerthu crefftau unigryw gan wneuthurwyr talentog o Gymru a thu hwnt, a chaffi golau a modern i fyny'r grisiau. Ar agor dydd Mawrth dydd Sul 10.30am i 4pm. Mynediad am ddim. Gwanwyn 15 EBRILL Ras Bromenâd 5k Llandudno dros y Pasg 01797 229955 29 EBRILL TAN 1 MAI Ecstrafagansa Fictoraidd Llandudno victorian-extravaganza.com 29 EBRILL TAN 1 MAI Gŵyl Drafnidiaeth Llandudno Caeau Bodafon, Llandudno www.llantransfest.co.uk 29/04-01/05 21 MAI Ceir Porsche ar y Prom, Llandudno,10am to 3pm 01928 735 357 29/04-01/05 14 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 15

Haf 03 MEHEFIN Diwrnod Prom Deganwy facebook.com/deganwypromday Hydref / Gaeaf 09 MEHEFIN Tarian y Tri Castell, Llandudno three-castles.co.uk 02 MEDI Gorymdaith Golau Goldwing Llandudno llandudnolightparade.co.uk 06-19 MEDI Hwyliadau ar MV Balmoral o Bier Llandudno whitefunnel.co.uk 15-17 MEDI Llawn05 Penwythnos Celfyddydau Llandudno, llawn.org 26-29 HYDREF Rali Cymru GB walesrallygb.com 03-05 TACHWEDD 15-17/09 Gwyl ^ Gorawl Gogledd Cymru Venue Cymru, Llandudno northwaleschoralfestival.com 16-19 TACHWEDD 24-25 MEHEFIN Y Twrnamaint Conwy Mae 2017 yn Flwyddyn Chwedlau Cymru. Does unman gwell i ddathlu nag yng Nghonwy chwedlonol, y dref ganoloesol a ddylanwadwyd gan ei chastell Treftadaeth y Byd. Mae r Twrnamaint, ein prif ddigwyddiad am y flwyddyn yn addo golygfa ar raddfa hael. ytwrnamaint.cymru 24 MEHEFIN 04 GORFFENNAF 15-19 GORFFENNAF Hwyliadau ar MV Balmoral o Bier Llandudno whitefunnel.co.uk 25 MEHEFIN Triathlon Môr Llandudno Ffit Conwy xtramileevents.com 25/06 28-30 GORFFENNAF Gwyl ^ Jazz Llandudno llandudnojazzfestival.com 07788 181750 20 AWST Ras MG Eryri Promenâd, Llandudno llandudnomgoc.org MV Balmoral Lluniwyd y rhestr hon yn ystod mis Mawrth 2017 ac efallai y bydd manylion wedi newid, felly gwiriwch ddyddiadau ac amseroedd os ydych yn bwriadu mynychu digwyddiad. DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 02 RHAGFYR Gorymdaith Nadolig Llandudno llandudno.gov.uk Ras 5k Siôn Corn Llandudno, Promenâd, Dechrau 11.00am bespokefitnessandevents.co.uk 09-31 RHAGFYR Pantomein Peter Pan Venue Cymru, Llandudno venuecymru.co.uk 16-19/11 Neuadd y Dref, Lloyd Street, Llandudno SIOE ARBENNIG GLAN MÔR Elusen blant yn cyflwyno... DATE 26-29/10 09 RHAGFYR Happy Faces COFIWCH! 16 Ffair Nadolig Llandudno llandudnochristmasfyare.co.uk Bob dydd Mercher o 24 Mai tan 4 Hydref Bob dydd Iau o 11 Mai tan 5 Hydref. YR HEN DDYDDIAU DA Mae drysau r ddwy sioe yn agor am 7.15pm ac mae r sioe n dechrau am 8pm. Tocynnau 7 i Oedolion 6 i Blant Bydd yr elw n mynd i helpu plant sâl ac anabl yng Ngogledd Cymru. Ffôn: Ray - 07968 957177 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 17

ATYNIADAU COACHES Mae Llandudno & Chonwy City Sightseeing yn ffordd wych o grwydro'r 2 dref hanesyddol a phrydferth. Hyd at 14 taith y dydd o fis Mawrth tan ddiwedd mis Hydref gyda thocynnau Camu ymlaen a Chamu i ffwrdd yn ddilys am 24 awr. Taith Cylchdro r Gogarth, ewch ar daith dywys ar fwrdd ein bws moethus hanesyddol o amgylch y Gogarth godidog. Mae'r daith awr o hyd yn gadael Pier Llandudno 3 gwaith y dydd, 7 diwrnod yr wythnos PROFIAD Y FFRYNT CARTREF YN YR AIL RYFEL BYD PROFWCH OLYGFEYDD A SYNAU BYWYD SIFIL YN YSTOD YR AIL RYFEL BYD YN YR ATYNIAD UNIGRYW DAN DO HWN NEW STREET LL30 2YF Alpine Travel, Prif Swyddfa, Builder Street West, Llandudno, Gogledd Cymru, LL30 1HH Ffôn: 01492 879133 Rhadffôn: 0800 0432452 E-bost: info@alpine-travel.co.uk Gwefan: www.alpine-travel.co.uk Cylchdro r Gogarth, Llandudno Mae'r ffordd olygfaol 4 milltir hon yn ymdroelli o gwmpas y Gogarth ac yn cynnwys golygfeydd ysblennydd o'r môr a golygfeydd godidog o r rhan hon o arfordir Gogledd Cymru. Ar agor drwy'r flwyddyn. Prisiau: 3.00 y daith ar gyfer ceir 1.50 fesul beic modur Tocynnau Tymor 20.00 am flwyddyn Cysylltwch â r Gwasanaethau Parcio am fanylion 01492 576622 18 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK DEWCHILANDUDNO.ORG.UK 19

ATYNIADAU Canolfan Pen y Gwylfryn Y Gogarth Llandudno Siop Anrhegion a Hynodion Bwyty a Chaffi Bar Randolph Turpin Hen Bictiwrs Fictoraidd Golff Antur Rocky Pines Ar Agor Bob Dydd: Diwedd mis Mawrth tan ddiwedd mis Hydref Ewch i Ben y Gwylfryn mewn car (digon o le parcio), ar y dramffordd, mewn car cebl neu ar droed Ffôn: (01492) 860963 Mwyngloddiau Oes Efydd byd-enwog y Gogarth yn Llandudno Rhyfeddod go iawn o r Byd Hynafol Canolfan Ymwelwyr, Ffilm gyflwyniadol, Twneli 4,000 mlwydd oed Mwynglawdd Brig, Lloches Mwyndoddi Siop, llyfrau ail-law a lluniaeth Dilynwch yr arwyddion Mwynglawdd Hynafol o Landudno www.greatormemines.info 20 DEWCHILANDUDNO.ORG.UK

TOWYN 2017 YD BETWS-Y-COED DYFFRYN CONWY CONWY Y CANLLAW DY N C H W E POCED BLW BLWY YN CHWED DD DYN CHWE YD 2017 DD Er mawr lawenydd i deuluoedd pm Yn ystod gwyliau r ysgol 017 3 I wirio manylion neu i archebu seddi Photographic Credits: Conwy County Borough Council, Martin Lyons, Dennis Oliver, PM Photography, David Roberts Photography, Dan Struthers Photography, Visit Britain, Crown Copyright (2017) Visit Wales, Welsh National Opera, Matt Wilcox. Designed by: View Creative 37 Rhos Road, Rhos-on-Sea, Conwy, LL28 4RS. t: 01492 542400 www.viewcreative.co.uk Visit: www.rhosfynach.co.uk Rhos on Sea, Conwy LL28 4NG ABBEY RD Tel: 01492 548185 RA ZY GOL www.puppetshow.info - Ffon 01492 548166 ^ D DE EW WC CH H II C CH HW WA AR RA AE E Golff Gwirion G GY YD DA A T TH HR RO O M MO OR RW WR RO OL L!! RHOS POINT MARINE DRIVE U LA L Y C BAE CINME W POCED Y CANLLA PYPEDAU A HUD Hwyliwch draw i Llandrillo yn Rhos. Bydd yr hwyl ar dir y Rhos Fynach gyferbyn a Rhos Point. AU LLANDRILLO DL Promenad Cayley, Llandrillo-yn-Rhos, LL28 4EP ^ -YN-RHOS YN BAE COLW B LW Published by: Tourism Marketing Team Community Development Service Conwy County Borough Council Library Building, Mostyn Street Llandudno, LL30 2RP t: 01492 575945 / 575950 Conwy County Borough Council When you have finished with this guide please recycle it or pass to a friend. Whilst Conwy County Borough Council has made every effort to ensure accuracy in this publication, the Council cannot accept responsibility for any errors, inaccuracies or omissions or for any matter in any way connected with or arising out of the publication of the information contained within this brochure. RHOS ON SEA Set sail for Rhos on Sea. The fun is in the grounds of Rhos Fynach opposite Rhos Point. RHOS POINT MARINE DRIVE WITH A NAUTICAL TWIST! CRAZY GOLF C O M E A N D P L AY www.puppetshow.info - PHONE 01492 548166 3pm Why not leave your car behind, relax and enjoy the scenery by using our network of buses and trains. Full details in the Public Transport Guide available at TICs. Or view on our website: conwy.gov.uk/publictransport Or call Traveline Cymru on 0800 464 00 00 GETTING AROUND tourism@conwy.gov.uk during school holidays CHECK DETAILS OR BOOK SEATS CAYLEY PROMENADE, RHOS-ON-SEA, LL28 4EP HARLEQUIN PUPPET THEATRE www.conwyrailwaymuseum.co.uk Our large site offers fun for all the family. A scenic train ride on our narrow gauge railway with steam locomotives. Museum and large model shop. Buffet coach café. Dodgem cars. Ample car parking. R AR YE A PUPPETS & MAGIC To delight the family YE THEATR BYPEDAU HARLEQUIN Adeiladau Muriau, Stryd Rosehill, LL32 8LD. ffôn: (01492) 577566 ffacs: (01492) 577563 e-bost: conwytic@conwy.gov.uk AU DL IAL POCKET THE ESSENT O F LEG 2017 R E S OF LEGEN KINMEL BAY OF LEGE THE ESSENTIA L POCKET GUID GUIDE Y COLWYN BA EA RHOS-ON-S OF LEGEN 2017 AR DS CONWY www.conwyrailwaymuseum.co.uk W A Adeilad y Llyfrgell, Mostyn Street, LL30 2RP. ffôn: (01492) 577577 ffacs: (01492) 577578 e-bost: llandudnotic@conwy.gov.uk BL YE Page 2 Ffôn: (01690) 710568 Ewch i: www.rhosfynach.co.uk Llandrillo yn Rhos, Conwy LL28 4NG 16:06 Os ydych angen rhagor o wybodaeth wrth gynllunio eich gwyliau neu ar ôl i chi gyrraedd yma, cysylltwch neu ewch i n Canolfannau Croeso. Rydym gyferbyn â gorsaf y brif linell reilffordd. Ffon: 01492 548185 27/2/06 U LA ND YE S TIC logo boards 400x400_AW.qxp Mae ein safle mawr yn cynnig hwyl i r teulu cyfan. Taith drên olygfaol ar ein rheilffordd gul gyda locomotifau stêm. Amgueddfa a Siop fodelau mawr. Caffi yn y cerbyd bwffe. Ceir taro. Digonedd o le parcio. F 017 DS ND CANOLFANNAU CROESO Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy Betws-y-Coed YN CH WED Os ydych yn chwilio am wybodaeth am Landrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn neu Gonwy a Dyffryn Conwy, codwch gopi o r Canllawiau Poced Hanfodol hyn yn y Canolfannau Croeso neu e-bostiwch: tourism@conwy.gov.uk TEITHIO O AMGYLCH YR ARDAL Beth am adael eich car ar ôl, ymlacio a mwynhau r golygfeydd drwy ddefnyddio ein rhwydwaith o fysiau a threnau. Ceir manylion llawn yn y Canllaw Trafnidiaeth Cyhoeddus yn y Canolfannau Croeso. Neu edrychwch ar ein gwefan: conwy.gov.uk/cludiantcyhoeddus Neu ffoniwch Traveline Cymru ar 0800 464 00 00 LLANDRILLO YN RHOS FFORDD YR ABATY Cyhoeddwyd gan: Tîm Marchnata Twristiaeth Gwasanaeth Datblygu Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Adeilad y Llyfrgell, Mostyn Street Llandudno, LL30 2RP ffôn: 01492 575945 / 575950 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y cyhoeddiad hwn, ni all y Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw wallau, camgymeriadau neu hepgoriadau nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â neu n codi o gyhoeddi r wybodaeth yn y llyfryn hwn. Dyluniwyd gan: View Creative 37 Rhos Road, Llandrillo-yn-Rhos, Conwy, LL28 4RS. ffôn: 01492 542400 www.viewcreative.co.uk Pan fyddwch wedi gorffen gyda r llyfryn hwn cofiwch ei ailgylchu neu ei basio i ffrind. Diolchiadau am y lluniau: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwyl, Martin Lyons, Dennis Oliver, Opera Cenedlaethol Cymru, PM Photography, David Roberts Photography, Dan Struthers Photography, Visit Britain, Hawlfraint y Goron (2017) Croeso Cymru, Matt Wilcox. E Looking for information on Rhos-on-Sea & Colwyn Bay or Conwy & the Conwy Valley, then pick up a copy of these Essential Pocket Guides at TICs or email: CONWY BETWS-Y-COED TOWYN THE CONWY VALLEY Muriau Buildings, Rosehill Street, LL32 8LD. t: (01492) 577566 f: (01492) 577563 e: conwytic@conwy.gov.uk CONWY Library Building, Mostyn Street, LL30 2RP. t: (01492) 577577 f: (01492) 577578 e: llandudnotic@conwy.gov.uk If you need further information while you re planning your holiday or once you are here, contact or visit one of our Tourist Information Centres. TOURIST INFORMATION CENTRES TIC logo boards 400x400_AW.qxp 27/2/06 16:06 Page 2

CHURCH WALKS CRAIG-Y-DON PARADE VICTORIA STREET VICTORIA AVE MOSTYN AVENUE ROSEBERY AVE Llwybr Beicio Cenedlaethol / National Cycle Route DARESBURY CL DUCHESS CL MARIAN RD MARIAN PL MAES BERLLAN CARPENTER AVE GWYDYR GDN HARLECH RD RHUDDLAN AVENUE BLAEN CWM QUEENS ROAD FAIRWAYS A I J 0 graddfa / scale 0.25 A470 B5115 MAESDU AVENUE A546 milltiroedd / miles 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 ALEX MUNRO WAY B C D E F G H Y Gogarth / The Great Orme Y Fach Happy Valley Glanfa i Gychod Boating Jetty Cae Pêl-droed Football Ground Pier MARINE DRIVE TŶ GWYN ROAD WYDDFYD ROAD PYLLAU ROAD PROSPECT TERRACE CROMLECH RD TŶ GWYN ROAD LLWYNON RD Bae Llandudno Bay HAPPY VALLEY RD TABOR HILL ROFFT PL ST. BUENO S ROAD CYLL TER TŶ COCH ROAD PLAS RD TŶ GWYN ROAD HILL TERRACE OLD RD TY N-Y-COED ROAD NORTH PARADE VARDRE LANE WATER ST OLD RD LLWYNON GDNS UPPER MOSTYN STREET TUDNO STREET BODLONDEB HILL LLEWELYN AVE PRINCE EDWARD SQ CWLACH RD CWLACH ST Safle Seindorf Bandstand Llithrfa Dingi Dinghy Slipway TREVOR ST SOUTH PARADE GLAN-Y-MOR PARADE BODHFYRYD RD RECTORY LANE CHURCH WALKS ANGLESEY RD Cae Rygbi Rugby Ground Traeth y Gogledd North Shore TY ISA RD ARVON AVE GDN ST GLODDAETH AVE A546 GLODDAETH ST CLEMENT AVE NEW ST CHAPEL ST SCHOOL LANE ZIG ZAG PATH YORK RD JAMES ST MARKET ST ST GEORGE S ST GEORGE S PL SOMERSET ST GEORGE ST REFORM TALIESIN ST GLODDAETH CLONMEL ST ST SALISBURY RD ABBEY ROAD SALISBURY PASSAGE INVALIDS WALK (LOVERS WALK) MOSTYN DEGANWY AVE BODAFON ST A D E MOSTYN ST BACK MADOC ST NEVILL P R O M E N MADOC ST CLIFTON ROAD BROOKES ST LLOYD STREET BRETON ST MAELGWYN RD SALISBURY CT ABBEY CT ABBEY PL PENRHYN VAUGHAN STREET TRINITY SQ STEPHEN ST MOON ST BEDFORD CAROLINE RD LLYS MAELGWYN Craig-y-Don Caeau BODAFON Fields EAST PARADE TUDOR RD ADELPHI ST JOHN ST TRINITY SQ CARROL PL. MOSTYN BROADWAY ST ANDREW S PL MANOR PARK GOGARTH RD CLARENCE RD TY N-Y- FRITH RD IRVING RD GREAT ORMES ROAD NANT-Y-GAMAR ROAD TUDOR CRES CONWAY RD VAUGHAN ST CHARLTON ST AUGUSTA ST EDWARD ST ST MARY S RD CLAREMONT RD LLOYD PASS THE OVAL ST SEIRIOL S RD MORFA RD PROMENADE CLARENCE CRES B5115 ST SEIRIOL S RD TRINITY AVE ST ANDREW S AVE GREAT ORMES RD QUEENS ROAD TAVERNERS COURT Gorsaf Bad Achub Lifeboat Station Yn cau Medi 2017 Closes September 2017 PLEASANT ST MOSTYN BROADWAY MOSTYN BROADWAY GARAGE ST ST DAVID S PL ALBERT ST ARGYLL RD ST DAVID S RD CHARLOTTE ROAD LLOYD ST WEST ERYL PL DOLYDD WEST PARADE A470 TAN-Y-BRYN RD DENNESS PL HERKOMER RD DINAS RD TRINITY CT Gorsaf Reilffordd Railway Station Gorsaf Heddlu Police Station JUBILEE ST OXFORD RD NORMAN RD NORMAN WAY CENTRAL PL HOWARD RD DAVIES WAY BUILDER STREET FORDD PENRHYN HOWARD PL FFORDD MORFA JACKSON ST HYWEL PL COUNCIL ST WEST KING S AVE FFORDD TUDNO CANOL CREUDDYN CWM ROAD WINLLAN AVE BRYNIAU ROAD CHURCH CR HERKOMER CRES GREAT ORMES ROAD DALE RD BELVEDERE PLACE ELIZABETH VILLAS ERNESTINE VILLAS CLARE VILLAS ELAN RD PARC BODNANT FFORDD ELISABETH FFORDD YSBYTY BRIDGE ROAD FRANK VILLAS LLYS BRIERLY MAENAN RD POWYS RD BEAUMARIS DR BODNANT ROAD Mc INROY CLOSE CWM ISAF BODNANT CRES CRICCIETH CL MAESDU PL ELWY GDNS CWM HOWARD LA MAES-Y-CWM VINCENT AVE FFORDD-YR-ORSEDD FFERM LANE VICARAGE AVE BODNANT RD EWLOE DRIVE VICARAGE RD ERDDIG CL PLAS NEWYDD VICARAGE GDNS ST HILARY S RD HANOVER CT CLARENCE DRIVE ROUMANIA KING S PL KING S DR BALFOUR RD FFORDD DEWI CWM FFORDD DWYFOR FFORDD GWYNEDD DYFFRYN RD PLACE MOWBRAY RD TRINITY CRES FFERM BACH ROAD ALEXANDRA RD KINGS RD LEES RD KNOWLES RD HARCOURT RD BUILDER STREET WEST CAE MAWR LÔN CYMRU FFORDD DULYN LLYS GWYLAN GWYNANT CT CONWAY RD BRYNIAU PL PENNANT CT QUEEN ELIZABETH COURT ROUMANIA DODGSON CLOSE GDNS MEADOW LIDDELL DRIVE KINGSWAY QUEENSWAY ALBERT GDNS CLARENCE ROAD EMERY DOWN CUFFNELL CL ALICE GDNS LEWIS CL LORINA GR ISIS CL QUEENS GDNS PRIMROSE PASS SYLVA GROVE SYLVA GDNS NORTH ROSLIN GDNS CARMEN SYLVA RD CURZON RD SYLVA GDNS STH PARK AVE MORLEY RD MAES CLYD RIVIERE AVE ST MARGARET S DR ROUMANIA DRIVE PARK LANE CAE CLYD CLARENCE GDNS PRINCE S DR Maes Parcio i Fysiau Coach Park LÔN GWALIA GWYDYR ROAD MAESDU ROAD Penmorfa West Shore Ysgol Gogarth Canolfan Cyn-filwyr Dall y DU Blind Veterans UK Centre (A55) Conwy 5m Bangor 22m Betws-y-Coed 19m Caer/Chester 48m ATYNIADAU A LLEFYDD O DDIDDORDEB 1 Llwybr Alice yn dechrau tu allan i.canolfan Groeso Landudno...D6 2 Parc Fferm Bodafon...F12/13 3 Man Chwarae i Blant...F2 4 Canolfan Cyngor ar Bopeth...F4 5 Gorsaf Fysiau...E8 6 Parc Craig-y-Don... G11 7 Cae Chwarae Craig-y-Don (Bowls a Thennis)... G10 8 Llyfrgell a Chanolfan Groeso...D6 9 Clwb Golff Llandudno (Maesdu)...I5 10 Amgueddfa Llandudno...D4 11 Llogi Beiciau Llandudno...D6 12 Canolfan Nofio Llandudno...E8 13 Llyn Cychod Model...E1 14 Ardal Gemau Amlddefnydd...F5 15 Clwb Golff Gogledd Cymru, Penmorfa...H4 16 Mostyn (Oriel Gelf)...E7 17 Mostyn Champneys (Parc Manwerthu)...F9 18 Pwll Padlo a Man Chwarae...E12 19 Parc Llandudno (Parc Manwerthu)...E8 20 Pier...A7 21 Canolfan Chwarae - Bonkerz...C4 22 Clwb Hwylio...E9 23 Archfarchnad...F7 24 Cae Hamdden The Oval (Criced a Chlwb Bowlio Llandudno)...F3 25 Venue Cymru (Canolfan Gynadledda,. Theatr ac Arena)...E9 26 Yr Ail Ryfel Byd - Profiad y Ffrynt Cartref...D5 20 Atyniad / Lle o Ddiddordeb Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr Swyddfa Bost Stryd Unfforddd Maes Parcio Talu ac Arddangos Y GOGARTH 27 Car Cebl...B6 28 Camera Obscura...B6 29 Parc Gwledig y Gogarth...A1 30 Mwynglawdd Hynafol y Gogarth...A1 31 Gerddi r Fach...B5 32 Gerddi Haulfre...C3 33 Marine Drive...A5 34 Cwrs Golff Bach...C2 35 Canolfan Sgïo ac Eirafyrddio a Llwybr Toboganau...A4 36 Gorsaf Dramiau...C4 Parcio Glan y Môr Talu ac.arddangos 10am-4pm Dydd Llun i ddydd Sul yn.gynhwysol Parcio AM DDIM rhwng 4pm-10am Toiledau. Toiledau gyda gweithiwr (tâl) Toiled hygyrch gyda chlo.cynllun Allwedd Cenedlaethol RADAR) EGLWYSI A MANNAU ADDOLI 12 (Nifer mewn cromfachau n cyfeirio at eglwysi) Bedyddwyr...(5) G3 Bedyddwyr / Efengylaidd Annibynnol...(7) G4 Eglwys Gristadelffaidd... (2) E7 Eglwys yng Nghymru...(1) A1,(3) E6,(6) E10 Uniongred Goptaidd...(12) F5 Efengylaidd Annibynnol...(8) F10 Tystion Jehofa...(9) G4 Methodistaidd...(10) E11, (11) D6 Pentecostaidd...(13) D5 Presbyteraidd / Eglwys Ddiwygiedig Unedig...(14) D5 Catholig...(16) E5 Eglwys Unedig Cymru...(15) D4 Synagog... (4) C4 8 Toiledau gyda gweithiwr (tâl) Meddygfa Gorsaf Betrol Eglwys / Man Addoli 0.5m Gorsaf Hanner Ffordd / Halfway Station Hosbis Dewi Sant St David's Hospice Neuadd y Dref Town Hall Canolfan Hamdden JOHN BRIGHT Leisure Centre Llys Ynadon Magistrates Court Ysbyty Cyffredinol General Hospital ST TUDNO S ROAD 29 30 1 4 15 14 16 13 11 11 3 I Fae Colwyn / To Colwyn Bay 13 3 34 32 5 24 7 15 4 35 36 9 21 10 31 26 14 33 27 28 12 8 1 16 20 23 2 19 5 Arosfan Trên Tir, City Sightseeing, Taith Marine Drive ac Alpine Land Train, City Sightseeing, Alpine & Marine Drive Tour Stop 12 25 17 22 6 7 8 6 43701 sticker_sticker 25/02/2015 10:41 Page 1 Cadwch lygad am y logo yma wedi i ddangos mewn sefydliadau gyda thoiledau cyhoeddus Look out for this logo displayed by establishments with toilets for use by members of the public. Gorsaf Bad Achub newydd yn agor Medi 2017 New Lifeboat Station opens September 2017 10 18 2 9