DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau ynddi. Beth yw stori draddodiadol? Stori a grëwyd gan gymuned yn hytrach nag awdur unigol. Mae n chwedl a ddatblygodd o ganlyniad i gael ei hadrodd a i hailadrodd. Mae ofnau, dyheadau ac obsesiynau cymdeithas yn rhan greiddiol o straeon traddodiadol. Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora? Cywair - mŵd - yw r gwahaniaeth mawr. Mae stori Jac yn chwareus ac ailadroddus. Mae stori Blwch Pandora yn fwy dirgel ac yn gwneud i chi feddwl. Yr un gwahaniaeth ydyw â r gwahaniaeth rhwng jôc a stori o r Beibl. Mae un yn ceisio difyrru a r llall yn gwneud i chi feddwl. Mae Daniel yn casglu ac yn ailysgrifennu straeon traddodiadol. Nid yw n dyfeisio r digwyddiadau. Allwn ni ddweud o hyd ei fod yn awdur? Mae storïau traddodiadol yn sail i lawer o weithiau llenyddol mawr. Roedd Shakespeare yn defnyddio straeon a oedd eisoes yn bodoli. Roedd Chaucer yn ailadrodd straeon gwerin. Mae JK Rowling a JRR Tolkien yn tynnu ysbrydoliaeth o straeon traddodiadol. Sut aeth Daniel ati i ddefnyddio symudiad yn ei berfformiad? Allwch chi feddwl am foment lle defnyddiodd Daniel symudiad yn lle geiriau? Pam wnaeth e hynny? Weithiau gall gweithred gorfforol gyfleu gwybodaeth mewn ffordd fwy cryno na pharagraff o eiriau. Mae meim Daniel o r gof yn curo r diafol â morthwyl yn dyfnhau ein dealltwriaeth o gymeriad y gof - ei nerth a i ddiléit mewn achosi poen - yn ogystal â datblygu r plot. Sut ddefnyddiodd Daniel oslef ( intonation ) a thempo? Pryd ddewisodd e siarad yn araf, pryd ddewisodd e siarad yn gyflym? Yn uchel, yn dawel? Pam? Mae modiwleiddio r llais yn helpu i ddangos hwyliau person ac i gynyddu tensiwn. Sut oedd clywed y stori yn wahanol i w darllen? Beth yw manteision gwahanol ffurfiau celfyddydol? Mae perfformiad Daniel yn drafodaeth rhwng y stori ei hun a r sawl sy n ei chlywed. Mae Daniel yn byw yn ei gymeriadau am gyfnod, fel ein bod cael syniad cliriach o u personoliaethau. Mae cyfathrebu di-eiriau defnydd Daniel o symudiad, ystumiau, goslef a chyflymder yn rhoi llawer iawn o wybodaeth i r gynulleidfa heb iddyn nhw sylweddoli. Dyw Daniel ddim yn gallu dod adre gyda chi ond fe allwch chi fynd â llyfr adre gyda chi ar ddiwedd y sioe a mwynhau r stori pryd a ble bynnag yr hoffech chi! Fe allwch chi stopio r stori a i hailddechrau pan fynnwch.
ERIC NGALLE CHARLES Dw i n teimlo n gartrefol oddi cartre Mae Eric yn disgrifio siwrne heriol ei fywyd a r rhesymau dros iddo orfod gadael Camerŵn pan oedd yn 17 oed. Disgrifiwch chwech o bethau y bydden nhw n bwysig iawn i chi ar daith hir a pham y byddech chi n mynd â nhw gyda chi. Trafodwch y blaenoriaethau ar gyfer y chwe pheth hynny a r gwahaniaeth rhwng dewisiadau ymarferol a dewisiadau sentimental. Disgrifiwch un peth y byddech chi n ei gymryd gyda chi pe bai n rhaid i chi adael eich cartref yn sydyn a byth yn cael dychwelyd. Os dewisoch eich ffôn, ystyriwch eto pa wrthrych fyddech chi n ei gymryd gyda chi heblaw eich ffôn. Dychmygwch eich hun yn sefyllfa Eric am ddiwrnod, pan oedd e n 17 oed, efallai, ac yn gorfod gadael Camerŵn yn sydyn, neu pan oedd yn byw ar y stryd yn Rwsia. Disgrifiwch mewn barddoniaeth neu ryddiaith sut brofiad fyddai hynny, meddyliwch am y siwrne y strydoedd a r arogleuon, y tymheredd, y synau, y bobl y gallech chi gwrdd â nhw a sut i ymddwyn er mwyn bod yn ddiogel. EMPATHI - CLOUDS OVER SIDRA Gwyliwch y ffilm fer hon am ferch 12 oed o Syria o r enw Sidra sy n byw yng ngwersyll ffoaduriaid Za atari yn yr Iorddonen http://dragons.org/creators/chris-milk/work/the-united-nations-clouds-over-sidra/ (os yw r ap gennych https://www.with.in gallwch wylio fersiwn rithwir o r ffilm) Cafodd y ffilm hon ei chomisiynu yn rhan o waith eiriol y Cenhedloedd Unedig yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos a oedd yn cynnwys arweinwyr cenhedloedd a busnesau. Mae n bersbectif unigryw ar fywydau pobl fwyaf bregus y byd. Dychmygwch taw Sidra ydych chi a defnyddiwch eich holl synhwyrau i ddisgrifio diwrnod yn ei bywyd. Ar ôl gwylio r ffilm, esboniwch beth sy n eich helpu chi i ddeall beth mae rhywun arall yn teimlo. Beth allai eich atal chi rhag deall beth mae rhywun arall yn ei deimlo neu n ei brofi? Ydy hi n fwy anodd teimlo hynny os yw r person yn dod o ddiwylliant gwahanol?
STEVEN CAMDEN Adeiladu Stori Erbyn diwedd y sesiwn, bydd myfyrwyr wedi creu cefndir eu cymeriad ac wedi trafod eu syniadau n helaeth. Mae hi n bwysig bod y dull anffurfiol hwn yn cael ei gynnal yn y dosbarth. Mae r rhain i gyd yn ymarferion a fydd yn eich galluogi i ddechrau eich stori eich hun a i gwneud yn fwy bywiog. Rydych chi n adnabod eich cymeriadau erbyn hyn. Maen nhw n real ac yn solet. A chofiwch, gallwch fynd yn ôl atynt a dechrau eto os hoffech chi. Cofiwch does dim angen i chi rwystro syniadau rhag cyrraedd, wrth ichi aros am rywbeth rhyfeddol. Hyd yn oed os na fyddwch chi n gwbl hapus â syniad, gall hwnnw fod yn gam tuag at syniad gwell. 1. MAP Lluniwch fap sy n dangos y lleoedd y mae eich cymeriad yn ymweld â nhw n rheolaidd: ysgol, cartref, tŷ ffrind, tŷ Mam-gu, parc, siopau neu unrhyw leoedd eraill. Lluniwch y map ar ddarn o bapur sy n ddigon mawr i chi adael gofod rhwng y gwahanol fannau. Tynnwch luniau bach i gynrychioli pob lle ac i roi syniad o r hyn y mae eich cymeriad yn ei feddwl amdano. Sut mae hi/ef yn teithio o gwmpas y lle? Ar fws, ar droed, mewn trên neu gar? Unwch y lleoedd â i gilydd trwy dynnu llinellau rhyngddynt er mwyn gweld gwe o symudiadau. Ychwanegwch fannau eraill, mannau y byddwch chi n eu dyfeisio a u creu. Cors. Tŷ gwag. Trac rhedeg. Tŷ r gelyn pennaf. Beth bynnag yr hoffech chi. Gallwch ddefnyddio r map fel cyfeirnod ar gyfer y stori ar unrhyw adeg. Weithiau, gall cael trosolwg o r byd fod yn help i greu syniadau. Fan na, ger y pwll nofio, beth sydd yno? Tynnwch lun rhywbeth yno. Bag. Ci. Llaw... Mae eich cymeriad yn darganfod y peth yma. Sut gyrhaeddodd y peth y fan hon? Beth yw ei ystyr? Beth fydd yn digwydd nesaf? 2. PHONE Mae ffôn eich cymeriad yn canu. Mae ef / hi yn ei ateb. Dim ond hanner y sgwrs ddilynol a glywn ni. Defnyddiwch eich llaw fel ffôn gan esgus mai eich cymeriad ydych. Bydd angen i chi benderfynu pwy sy n ffonio ac yna ddyfeisio r sgwrs wrth fynd. Ydych chi n cerdded yn ôl ac ymlaen? Ydych chi n symud eich dwylo? Ydych chi n sefyll yn stond? Yn eistedd i lawr? Sut ydych chi n siarad? Rhowch gynnig arni unwaith neu ddwy, chwaraewch gyda r syniad. Yna, pan fyddwch chi n hoffi r hyn sydd gennych, ysgrifennwch ef i lawr. ee. Beth? Pryd? Na! Ond fe ddywedodd e nad oedd angen i ni orffen cyn dydd Mawrth! Be wna i? Fydda i byth wedi gorffen mewn pryd! Bydd hyn yn rhoi tri pheth i chi: cymeriad a pherthynas arall i w harchwilio, problem bosib y bydd angen i ch cymeriad ddelio â hi, a syniad o r ffordd y mae eich cymeriad yn siarad go iawn. Daliwch ati tan i chi deimlo bod yr hyn sydd gennych yn ddiddorol ac yn gwneud i chi eisiau gwybod mwy. Beth fydd yn digwydd nesaf?
3. SYNAU HWYR Y NOS Mae eich cymeriad yn ei (h)ystafell. Mae hi n hwyr, ond dyw r cymeriad ddim yn cysgu. Neu maen nhw wedi cysgu ond mae rhywbeth wedi eu deffro. Rhyw sŵn rhyfedd. Mae popeth yn dawel. Maen r cymeriad yn trio clywed y sŵn eto ond does dim siw na miw; dim ond synau r tŷ tawel. Beth all y cymeriad ei weld? Ydy ef neu hi n cofio r golau? Disgrifiwch y pethau sydd i w gweld wrth iddynt edrych o gwmpas. Gweadau. Lliwiau. Manylion. Dyna fe eto. Y sŵn. Beth yw e? O ble mae e n dod? Rhowch eich hun yno ym meddwl eich cymeriad. Gorweddwch i lawr os yw hynny n help. Chi yw eich cymeriad. Beth allwch chi ei glywed? 4. CROESHOLI Bydd yr ymarfer hwn yn gweithio orau gyda phartner neu mewn grŵp, ond gallwch chi baratoi cwestiynau a defnyddio drych os byddwch chi ar eich pen eich hun. Eisteddwch mewn cadair sy n wynebu ch partner neu weddill y grŵp. Chi yw eich cymeriad. Mae rhywbeth wedi digwydd. Rhywbeth pwysig. Rydych chi n cael eich cyfweld. Rydych chi n cael eich croesholi. Mae yna lawer o gwestiynau ac mae n rhaid i chi ateb fel y byddai eich cymeriad yn ateb. e.e. Beth weloch chi? A roddodd y dyn rywbeth i chi cyn iddo ddiflannu? Beth oedd yn y bag? Ydych chi n gelwyddgi da? The less organised the questions are, the better. That way unusual ideas will pop up and at some point, something interesting will happen, a certain question, a certain answer. Whatever grabs you and makes you want to know more, take that as your startingpoint. Mwyaf anhrefnus fydd y cwestiynau, gorau i gyd. Fel yna, bydd syniadau anarferol yn ymddangos, bydd rhywbeth diddorol yn digwydd, cwestiwn penodol, ateb penodol. Defnyddiwch beth bynnag sy n hoelio eich sylw ac yn gwneud i chi eisiau gwybod mwy hwn fydd fel eich man cychwyn. Ysgrifennwch hynny i lawr. Beth fydd yn digwydd nesaf? Ar ôl cwblhau r camau uchod, cymrwch le eich partner/grŵp fel bod pawb yn cael cyfle i chwarae r ddwy rôl. 5. TEULU Mae hwn yn gyfle i chwarae rôl. Byddwch chi a ch partner neu ch grŵp yn chwarae rolau gwahanol. Os oes yna ddau ohonoch chi, mae n bosib y bydd rhaid i r ddau ohonoch chi chwarae sawl rôl. Os ydych chi ar eich pen eich hun, mae hynny n sicr! Pryd bwyd teuluol. Pwy sydd yno? Dewiswch eich cymeriadau. Ydy r achlysur yn un arbennig? Faint o r gloch yw hi? Ble maen nhw? Chi sy n gosod yr olygfa. Mae eich cymeriad (chi) yn hwyr. Ry ch chi n cerdded i fewn. Beth sy n digwydd? Chwaraewch yr olygfa heb sgript. Pwy sy n gwylltio? Pwy sy n dweud dim? Beth sy n digwydd? Dadl? Tensiwn? Tawelwch? Beth bynnag sy n digwydd, ar ryw adeg mae rhywun yn dweud rhywbeth nad oedd neb yn disgwyl ei glywed. Pwy sy n dweud y peth hwnnw? Beth sy n cael ei ddweud? A beth mae hynny n ei olygu i ch cymeriad chi? Beth fydd yn digwydd nesaf?
GEMMA CAIRNEY Take The Irl Vs Url Quiz Pan fyddwch chi n rhoi eich ffôn neu ddyfais symudol i lawr ar ôl trio llenwi cyfnod o ddiflastod, rydych yn sylweddoli eich bod wedi bod yn edrych ar y sgrin ers... A Llai na hanner awr B Rhwng hanner awr ac awr C Mwy nag awr Eich ffôn a chi ar eich gwyliau... A Mae r ffôn i ffwrdd am ran fwyaf yr amser ac ry ch chi n cael brêc. B Mae r ffôn yn mynd i bobman gyda chi ond dim ond nawr ac yn y man y byddwch chi n edrych arno C Ry ch chi n dweud wrth eich ffrindiau drwy r amser ba mor anhygoel yw r bwyd, pa mor bert yw r lle, ac yn anfon lluniau ohonoch chi ar y traeth mewn posys gwyliau perffaith Pan fyddwch chi ar-lein, rhan fwyaf yr amser rydych chi... A Ar y cyfryngau cymdeithasol yn siarad gyda ch ffrindiau ac yn edrych ar gŵn ciwt B Yn gwneud (a) ac yn archebu stwff diangen C Yn gwneud (a) a (b) ac hefyd yn clicio n ddi-ben-draw, sy n eich arwain ichi at bethau sy n gwneud i chi deimlo ychydig yn rhyfedd Pa ddatganiad sydd fwyaf addas i chi wrth ddisgrifio eich agwedd at rannu pethau ar-lein (hyd yn oed mewn negeseuon preifat)? A Fyddwn i byth yn postio unrhyw beth na fyddwn i n fodlon ei ddweud ar lafar nac unrhyw beth na fyddwn i eisiau i fy nheulu ei weld B Weithiau dw i n difaru gorgyffroi neu rantio C Dw i n bendant wedi postio delweddau, negeseuon neu sylwadau dw i n difaru eu rhannu. Petai rhywun yn ysgrifennu rhywbeth cas amdanoch chi ar-lein, fe fyddech chi... A Yn eu riportio nhw ar unwaith B Yn teimlo n ofidus, yn ateb y person ac yna n ceisio anghofio am y peth C Meddwl yn hir am y sylwadau a dechrau meddwl y gallai r geiriau cas fod yn wir Sawl tab sydd ar agor gennych chi fel arfer ar eich cyfrifiadur? A 1-5 B 5-10 C Mwy
Ydych chi wedi sylwi, wrth chwilio am rywbeth ar-lein, bod hysbysebion ar gyfer pethau tebyg yn ymddangos yn nes ymlaen, ar wefannau hollol wahanol weithiau? A Ydych, ry ch chi n gwybod bod cwcis yn storio gwybodaeth am eich ymweliadau a bod hysbysebwyr yn defnyddio r wybodaeth honno er mwyn eich targedu chi B Ry ch chi wedi sylwi ond ry ch chi n trio peidio â meddwl gormod am y peth C Doedd gennych chi DDIM syniad Gyda ch ffrind gorau, ry ch chi n hoffi... A Mynd i r sinema. B Siarad ar Skype mae n haws dod o hyd i amser C Mae llawer o ffrindiau gorau gyda chi ac ry ch chi n cadw mewn cysylltiad â nhw mewn sgyrsiau WhatsApp di-ben-draw. BETH OEDD EICH SGÔR? Atebion A gan mwyaf - Ry ch chi n byw yn y byd go iawn! Ry ch chi n ymddiddori mewn pethau yn y byd go iawn gan mwyaf ac yn teimlo bod gennych ddealltwriaeth iach o r ffordd y gall y rhithfyd effeithio arnoch chi. Ry ch chi n gwarchod eich hun ac yn rheoli eich amser a ch perthnasoedd ar-lein yn ofalus. Dy ch chi ddim yn deall pam mae pobl yn cyffroi gymaint am bethau ar-lein. Atebion B gan mwyaf - Chi yw r cyfrifiadurwr cyffredin! Ry ch chi n debygol o aros mewn twll ar-lein am ychydig yn hirach nag yr hoffech chi weithiau, ond ry ch chi n awyddus i ddysgu mwy am dechnoleg sy n datblygu n barhaol. Ewch i www.bbc.co.uk/webwise i weld atebion i lawer o gwestiynau ac i weld ffeithiau am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Atebion C yn bennaf - Rydych chi mewn Gwe pry cop! Mae n siŵr eich bod chi n treulio ychydig gormod o amser ar-lein ac yn teimlo n isel weithiau heb wybod pam. Ry ch chi n ymddwyn yn fyrbwyll ar-lein heb feddwl bob amser am effeithiau r hyn ry ch chi n ei bostio. Mae n bryd peidio â dibynnu ar eich ffôn neu eich dyfais symudol am gwmni. Ailgysylltwch â r byd go iawn a heriwch eich hun. Peidiwch â chadw eich ffôn wrth eich ochr pan fyddwch chi n bwyta gyda phobl. Darllenwch lyfr o glawr i glawr. Treuliwch ddydd Sul cyfan heb eich ffôn a heb gyswllt â chyfrifiadur neu ddyfais ar-lein. Byddai n syniad da hefyd i chi fynd i www.bbc.co.uk/webwise i ddarllen am faterion ar-lein er mwyn parhau i gael hwyl wrth syrffio.