Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach

Similar documents
Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Addewid Duw i Abraham

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

The Life of Freshwater Mussels

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 110

P-aC4 LANGUAGE PATTERNS

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 103

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 6

W46 14/11/15-20/11/15

Holiadur Cyn y Diwrnod

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

2004: Ysbyty Brynaber - Week 66

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

GWERS 78. Adolygu this...', 'that...', 'these...' a 'those...'.

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 3

Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 1

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

PECYN ADNODDAU CREADIGOL

Pecyn Athrawon Hoof and Safety Nuzzle a Scratch

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 34

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

P-aC 2 LANGUAGE PATTERNS

Taith Iaith 3. Gwefan

W39 22/09/18-28/09/18

Addysg Oxfam

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

W50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau:

W42 13/10/18-19/10/18

W7 09/02/19-15/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Scrum V Six Nations Special 3 Pitching In 4 Nightshifters 5 Pobol y Cwm

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

e.e. nofio/to swim Rydw i n nofio Rwyt ti n nofio Mae e n nofio Mae hi n nofio Mae John yn nofio

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Yr Eira Mawr Mim Twm Llai Crai (Sain) Pob cân gan Gai Toms heblaw am 5, 9, 10, 15. All songs by Gai Toms exept 5, 9, 10, 15.

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Summer Holiday Programme

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Y Wlad yn yr Haf. Glas yw y nen. Can adar uwchben, Gwenyn yn heidio. Pysgod yn neidio, Meysydd tan flodau. Gwartheg mewn caeau, Hwyaid ar afon

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

GLO PWLL MAWR: AMGUEDDFA LOFAOL GENEDLAETHOL CYMRU BIG PIT: NATIONAL MINING MUSEUM OF WALES. Bois Bevin Bevin Boys

1 Llawlyfr Gwyn Gogledd Cymru

O Bydded i r Hen Iaith Barhau

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

W44 27/10/18-02/11/18

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Y Wisg Ysgol. The School Uniform

Mawl y Pasg! Easter Praise! Pupil s Wordbook. Llyfr Geiriau r Disgybl. Sheila Wilson REDHEAD MUSIC WORDBOOK EPR113

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Meaningful Chocolate Pasg 2018 Pam wyau Pasg? CA1-2 NODIADAU

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda

Gair o r Garth Garth Grapevine

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Rhifyn 2. Melon sgwâr. Sliperi bara. Llaw Bwda. Tatws stwnsh lliwgar. Hufen iâ mewn esgid

CAMU MLAEN STEPPING FORWARD 2018/19 CROESO CYNNES I FLWYDDYN /19 A WARM WELCOME TO YEAR

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Yn y Gwres a r Stêm Cartref pilipalod Sara adeinhir yw coedwigoedd glaw yr Amazon, ac maen nhw n hedfan hanner ffordd i fyny r canopi,

Cyffredinol Lliwiau Rhifau Anifeiliaid Y Dref Hamdden Y Nadolig Ffrindiau Yr Ysgol

TASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri Smiths/Ingersoll Watches and Clocks, Gurnos Works, Ystradgynlais.

UN BORE MERCHER PENNOD TRI. Sgript Saethu Pinc 20/04/17. Gan. Matthew Hall. Cyfieithwyd gan Anwen Huws

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

Bocsys Bwyd Iach. Healthy Lunch Boxes. Menter Ysgolion Iach

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

GLO C O A L BIG PIT: AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU BIG PIT: NATIONAL COAL MUSEUM

Transcription:

Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach

Gwaith cartref y draenogod bach Roedd Han wedi cyffroi yn lân. Roedd e n mynd i r ysgol. Dim babi bach oedd yn gorfod aros gartref gyda i fam oedd e mwyach. Roedd e n ddraenog bach, ac yn mynd i Ysgol Feithrin Dant y Llew i ddysgu popeth am fod yn ddraenog. Snwffian ffwffian, gwichiodd Han. Dwi mor gyffrous. Roedd Ysgol Feithrin Dant y Llew ym mhen arall yr ardd wrth y blodau gwyllt. Dwi wrth fy modd yn mynd drwy r ardd, meddai Han wrth iddo gerdded i r ysgol gyda i ffrind Prickelena. Mae cymaint o bethau i w gweld yma, a llond gardd o ffrindiau i snwffian ffwffian gyda nhw. 2

Snwffian ffwffian gwenyn, meddai Han wrth gropian i glywed s ŵn hymian o r cwch gwenyn. Snwffian ffwffian robin, meddai Han wrth y robin goch a oedd yn pigo am fwyd o dan y bocs adar. Dere Han, meddai Prickelena. Fe fyddwn ni n hwyr i r ysgol feithrin os byddi di n aros i siarad gyda phawb yn yr ardd. Crawcian c ŵl! crawciodd Gus y llyffant, a neidio o r ffordd wrth i Han a Prickelena lusgo heibio ei gaws llyffant. 3

Mewn pant o fwsogl meddal ger y blodau gwyllt, roedd Mr Spikeball yn dysgu disgyblion Ysgol Feithrin Dant y Llew sut i rowlio n belen fach fach. Nawr, dychmygwch ei bod hi n storm o fellt a tharanau. 3, 2, 1 pawb i rowlio n belen. Ac ar unwaith, trodd chwe draenog bach yn belenni bach brown. Edrych ar yr holl bige na sibrydodd Han wrth Prickelena. Does dim posib adnabod neb. Mae pawb yn edrych yr un fath ar eu cefnau. 4 Sylwodd Mr Spikeball ar Han a Prickelena yn sefyll yng nghefn y dosbarth.

Tyrd i mewn Han, tyrd i mewn Prickelena. Mae n hen bryd i chi ddechrau dysgu rhywbeth hefyd, ac mae gen i wers bwysig i chi heddiw. Heddiw, mae n amser dysgu am drwmgwsg neu gysgu drwy r gaeaf. Mae fy nghefnder wedi sôn am drwm-gwsg wrtha i, meddai Prickelena. Mae r draenogod yn cyrlio n belen dros y gaeaf, yn aros gartref heb symud yr un blewyn na bwyta dim, tan fod y rhew a r eira a r oerni wedi diflannu a r ddaear yn gynnes braf unwaith eto. Da iawn Prickelena. Ti n iawn, clapiodd Mr Spikeball. Ac mae n hollbwysig fod draenogod yn chwilio am rywle diogel i gysgu drwy r gaeaf. Felly heddiw, dwi eisiau i bawb fynd i r ardd i chwilio am rywle da i gysgu drwy r gaeaf bydd angen rhywle clyd a chynnes, sych a diogel. Hmmmm, clyd a chynnes, sych a diogel, meddai Han yn araf deg. Mae e eisiau inni chwilio am guddfan i ddraenogod. Dwi n si ŵr mod i n gwybod am y llefydd gorau yn yr ardd felly fi yw r bos. Dewch, ddraenogod bach. Dilynwch fi. Neidiodd Han ar ei draed a gwibio allan o r ysgol. Cofiwch ddychwelyd cyn lleuad llawn! gwaeddodd Mr Spikeball wrth i r draenogod eraill ddilyn Han, gan wichian a snwffian yn gyffrous. 5

Nawr te, meddai Han ar ôl i bawb gyrraedd rhan fwyaf gwelltog yr ardd. Dwi n credu mai r lle gorau i gysgu drwy r gaeaf yw r bocs adar. Dwi n ffrindiau da gyda r robin goch, a dwi n si ŵr bydd e n fodlon symud os gwnaf i swnffian yn garedig. Paid â siarad dwli, meddai Prickelena. Wyt ti wedi gweld pa mor uchel yw r bocs adar? Dyw draenogod ddim yn gallu hedfan felly allwn ni ddim cyrraedd y bocs adar heb ysgol ddringo. A hyd yn oed wedyn, does dim sicrwydd bydd y robin goch yn fodlon symud allan! O! meddai Han. Wnes i ddim meddwl am hynny. Edrychodd o gwmpas yr ardd eto. Dwi n gwybod fod digonedd o le yn y cwch gwenyn. Gallwn ni i gyd gysgu yno. Ond, ochneidiodd Prickelena, mae n llawn gwenyn fel Bernie. Byddan nhw n cysgu drwy r gaeaf hefyd felly bydd dim lle i ddraenogod fel ni. 6 Wn i ddim wir, snwffiodd Han, wedi cael llond bol. Roeddwn i n meddwl y byddai hyn yn hwyl, ond dyw e ddim!

Yn sydyn, daeth cysgod mawr tywyll dros yr ardd. Trodd Han, Prickelena a r draenogod bach eraill yn belenni bach bach. Peidiwch â bod ofn, ddraenogod bach, dwi ddim am eich brifo chi, meddai llais bach tawel. Cat o Glwb y Fal ŵn Werdd ydw i. Roeddwn i ar fin rhoi ychydig o hadau ar y bwrdd adar pan glywais i chi n siarad. Ydy popeth yn iawn? Alla i helpu? gofynnodd Cat yn garedig. 7

Dadrowliodd Han a Prickelena eu hunain yn araf bach. Mae Mr Spikeball wedi gosod her go anodd i ni, sibrydodd Han. Mae hynny n swnio fel her Clwb y Fal ŵn Werdd a dwi n dda gyda r rheiny, meddai Cat. Beth sydd rhaid i chi ei wneud? Mae n rhaid i ni chwilio am le da i gysgu drwy r gaeaf, meddai Prickelena. Cuddfan draenogod, ychwanegodd Han. Ond mae n haf, atebodd Cat. Yn y gaeaf mae draenogod yn cysgu n drwm. Mae ein hathro eisiau i ni ymarfer chwilio am le i gysgu yn barod am y gaeaf, esboniodd Prickelena. Wel, meddai Cat, mae ch ffrind chi wedi dod o hyd i le addas o dan yr hen goeden hon. Gydag ychydig o help llaw, dwi n si ŵr y gallwn ni greu cuddfan wych i ddraenogod. Gawn ni helpu? snwffiodd ffrindiau eraill Han, gan agor eu hunain yn raddol unwaith eto. Wrth gwrs, chwarddodd Cat, Gallwn ni i gyd weithio gyda n gilydd. 8

Felly, aeth Cat a r draenogod bach ati ar unwaith gan ganu. Bob yn un fe gasglwn ni Bethau bach i greu ein t ŷ Priciau coed, dail a phridd Cuddfan glyd i chi a fi. Gan ddefnyddio u trwynau i snwffian drwy r ddaear, dechreuodd pawb gloddio brigau a gwiail a u gwthio o dan y goeden. Cyn hir, roedd pentwr digon mawr o frigau i ddraenog guddio yn eu canol nhw. Cer i mewn, Han, meddai Prickelena. 9

Snwffian ffwffian, am strach, cwynodd Han wrth gropian tu mewn. Aww! Mae r brigau n crafu a brifo. Dyw e ddim yn gyfforddus o gwbl. 10 Mae angen pridd a dail i w wneud yn feddal, meddai Cat. Sbiwch, mae swp o ddail o dan y goeden sycarmorwydden.

A dwi n gwybod sut i w casglu n gyflym, gwichiodd Han wrth fynd yn belen, a throi a throsi yng nghanol y dail. Dyma dric da! Mae r dail yn glynu n sownd i mhigau i. Gallwn ni i gyd gasglu dail fel hyn! Chwarddodd Prickelena wrth weld Han. Ti n edrych yn ddoniol ti n debyg i glawdd sy n symud. Dere beth am gario r dail i r guddfan. Tynnodd Prickelena bob deilen feddal yn ofalus o gefn pigog Han. Maen nhw n berffaith i du mewn y guddfan, meddai n llon. Wyt ti n cysgu drwy r gaeaf, Cat? holodd Han. Na, tydy pobl ddim yn cysgu drwy r gaeaf, atebodd Cat. Ond rydyn ni n treulio mwy o amser yn ein cartrefi yn y gaeaf er mwyn cadw n gynnes. A nawr, rydych chi n gwybod yn union ble i fynd i gadw n gynnes dros y gaeaf. 11

Bendigedig, snwffiodd Han. Mae n berffaith. Mae n glyd a chynnes, sych a diogel yn union fel ddywedodd Mr Spikeball. Diolch am ein helpu ni i greu cuddfan, Cat. Fe wnes i fwynhau helpu, gwenodd Cat, a dwi mor falch y byddwch chi n gyfforddus braf. Ond nawr, mae n rhaid i mi fynd yn ôl i r Fal ŵn Werdd, oherwydd mae r lleuad yn yr awyr. Brensiach y brigau, meddai r draenogod mewn un côr. Mae n rhaid inni fynd, neu bydd Mr Spikeball yn aros amdanon ni, eglurodd Prickelena. Snwffian sbort a sbri Cat, gwaeddodd Han wrth iddo redeg ar ôl y draenogod bach eraill tua Ysgol Feithrin Dant y Llew. Dwi n gobeithio y bydd Mr Spikeball yn hoffi ein Cuddfan Draenogod achos mae n snwffiantastig! 12

13

Straeon Natur cyfres o straeon hyfryd â darluniau i helpu plant 6 oed ac iau i ddysgu mwy am fyd natur. Mae pob stori n cynnwys gweithgareddau difyr i blant ac oedolion eu mwynhau gyda i gilydd. Casglwch holl straeon y gyfres trwy eu lawrlwytho fel stori sain neu stori a llun yn bbc.co.uk/breathingplaces Dylunio: red-stone.com Lluniau: Ben Scruton/Meiklejohn Illustration Awdur: Andrea Farley-Moore Golygydd: Angela Young Cyhoeddwyd gan BBC Learning 2009