Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
|
|
- Linda Richard
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau ynddi. Beth yw stori draddodiadol? Stori a grëwyd gan gymuned yn hytrach nag awdur unigol. Mae n chwedl a ddatblygodd o ganlyniad i gael ei hadrodd a i hailadrodd. Mae ofnau, dyheadau ac obsesiynau cymdeithas yn rhan greiddiol o straeon traddodiadol. Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora? Cywair - mŵd - yw r gwahaniaeth mawr. Mae stori Jac yn chwareus ac ailadroddus. Mae stori Blwch Pandora yn fwy dirgel ac yn gwneud i chi feddwl. Yr un gwahaniaeth ydyw â r gwahaniaeth rhwng jôc a stori o r Beibl. Mae un yn ceisio difyrru a r llall yn gwneud i chi feddwl. Mae Daniel yn casglu ac yn ailysgrifennu straeon traddodiadol. Nid yw n dyfeisio r digwyddiadau. Allwn ni ddweud o hyd ei fod yn awdur? Mae storïau traddodiadol yn sail i lawer o weithiau llenyddol mawr. Roedd Shakespeare yn defnyddio straeon a oedd eisoes yn bodoli. Roedd Chaucer yn ailadrodd straeon gwerin. Mae JK Rowling a JRR Tolkien yn tynnu ysbrydoliaeth o straeon traddodiadol. Sut aeth Daniel ati i ddefnyddio symudiad yn ei berfformiad? Allwch chi feddwl am foment lle defnyddiodd Daniel symudiad yn lle geiriau? Pam wnaeth e hynny? Weithiau gall gweithred gorfforol gyfleu gwybodaeth mewn ffordd fwy cryno na pharagraff o eiriau. Mae meim Daniel o r gof yn curo r diafol â morthwyl yn dyfnhau ein dealltwriaeth o gymeriad y gof - ei nerth a i ddiléit mewn achosi poen - yn ogystal â datblygu r plot. Sut ddefnyddiodd Daniel oslef ( intonation ) a thempo? Pryd ddewisodd e siarad yn araf, pryd ddewisodd e siarad yn gyflym? Yn uchel, yn dawel? Pam? Mae modiwleiddio r llais yn helpu i ddangos hwyliau person ac i gynyddu tensiwn. Sut oedd clywed y stori yn wahanol i w darllen? Beth yw manteision gwahanol ffurfiau celfyddydol? Mae perfformiad Daniel yn drafodaeth rhwng y stori ei hun a r sawl sy n ei chlywed. Mae Daniel yn byw yn ei gymeriadau am gyfnod, fel ein bod cael syniad cliriach o u personoliaethau. Mae cyfathrebu di-eiriau defnydd Daniel o symudiad, ystumiau, goslef a chyflymder yn rhoi llawer iawn o wybodaeth i r gynulleidfa heb iddyn nhw sylweddoli. Dyw Daniel ddim yn gallu dod adre gyda chi ond fe allwch chi fynd â llyfr adre gyda chi ar ddiwedd y sioe a mwynhau r stori pryd a ble bynnag yr hoffech chi! Fe allwch chi stopio r stori a i hailddechrau pan fynnwch.
2 ERIC NGALLE CHARLES Dw i n teimlo n gartrefol oddi cartre Mae Eric yn disgrifio siwrne heriol ei fywyd a r rhesymau dros iddo orfod gadael Camerŵn pan oedd yn 17 oed. Disgrifiwch chwech o bethau y bydden nhw n bwysig iawn i chi ar daith hir a pham y byddech chi n mynd â nhw gyda chi. Trafodwch y blaenoriaethau ar gyfer y chwe pheth hynny a r gwahaniaeth rhwng dewisiadau ymarferol a dewisiadau sentimental. Disgrifiwch un peth y byddech chi n ei gymryd gyda chi pe bai n rhaid i chi adael eich cartref yn sydyn a byth yn cael dychwelyd. Os dewisoch eich ffôn, ystyriwch eto pa wrthrych fyddech chi n ei gymryd gyda chi heblaw eich ffôn. Dychmygwch eich hun yn sefyllfa Eric am ddiwrnod, pan oedd e n 17 oed, efallai, ac yn gorfod gadael Camerŵn yn sydyn, neu pan oedd yn byw ar y stryd yn Rwsia. Disgrifiwch mewn barddoniaeth neu ryddiaith sut brofiad fyddai hynny, meddyliwch am y siwrne y strydoedd a r arogleuon, y tymheredd, y synau, y bobl y gallech chi gwrdd â nhw a sut i ymddwyn er mwyn bod yn ddiogel. EMPATHI - CLOUDS OVER SIDRA Gwyliwch y ffilm fer hon am ferch 12 oed o Syria o r enw Sidra sy n byw yng ngwersyll ffoaduriaid Za atari yn yr Iorddonen (os yw r ap gennych gallwch wylio fersiwn rithwir o r ffilm) Cafodd y ffilm hon ei chomisiynu yn rhan o waith eiriol y Cenhedloedd Unedig yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos a oedd yn cynnwys arweinwyr cenhedloedd a busnesau. Mae n bersbectif unigryw ar fywydau pobl fwyaf bregus y byd. Dychmygwch taw Sidra ydych chi a defnyddiwch eich holl synhwyrau i ddisgrifio diwrnod yn ei bywyd. Ar ôl gwylio r ffilm, esboniwch beth sy n eich helpu chi i ddeall beth mae rhywun arall yn teimlo. Beth allai eich atal chi rhag deall beth mae rhywun arall yn ei deimlo neu n ei brofi? Ydy hi n fwy anodd teimlo hynny os yw r person yn dod o ddiwylliant gwahanol?
3 STEVEN CAMDEN Adeiladu Stori Erbyn diwedd y sesiwn, bydd myfyrwyr wedi creu cefndir eu cymeriad ac wedi trafod eu syniadau n helaeth. Mae hi n bwysig bod y dull anffurfiol hwn yn cael ei gynnal yn y dosbarth. Mae r rhain i gyd yn ymarferion a fydd yn eich galluogi i ddechrau eich stori eich hun a i gwneud yn fwy bywiog. Rydych chi n adnabod eich cymeriadau erbyn hyn. Maen nhw n real ac yn solet. A chofiwch, gallwch fynd yn ôl atynt a dechrau eto os hoffech chi. Cofiwch does dim angen i chi rwystro syniadau rhag cyrraedd, wrth ichi aros am rywbeth rhyfeddol. Hyd yn oed os na fyddwch chi n gwbl hapus â syniad, gall hwnnw fod yn gam tuag at syniad gwell. 1. MAP Lluniwch fap sy n dangos y lleoedd y mae eich cymeriad yn ymweld â nhw n rheolaidd: ysgol, cartref, tŷ ffrind, tŷ Mam-gu, parc, siopau neu unrhyw leoedd eraill. Lluniwch y map ar ddarn o bapur sy n ddigon mawr i chi adael gofod rhwng y gwahanol fannau. Tynnwch luniau bach i gynrychioli pob lle ac i roi syniad o r hyn y mae eich cymeriad yn ei feddwl amdano. Sut mae hi/ef yn teithio o gwmpas y lle? Ar fws, ar droed, mewn trên neu gar? Unwch y lleoedd â i gilydd trwy dynnu llinellau rhyngddynt er mwyn gweld gwe o symudiadau. Ychwanegwch fannau eraill, mannau y byddwch chi n eu dyfeisio a u creu. Cors. Tŷ gwag. Trac rhedeg. Tŷ r gelyn pennaf. Beth bynnag yr hoffech chi. Gallwch ddefnyddio r map fel cyfeirnod ar gyfer y stori ar unrhyw adeg. Weithiau, gall cael trosolwg o r byd fod yn help i greu syniadau. Fan na, ger y pwll nofio, beth sydd yno? Tynnwch lun rhywbeth yno. Bag. Ci. Llaw... Mae eich cymeriad yn darganfod y peth yma. Sut gyrhaeddodd y peth y fan hon? Beth yw ei ystyr? Beth fydd yn digwydd nesaf? 2. PHONE Mae ffôn eich cymeriad yn canu. Mae ef / hi yn ei ateb. Dim ond hanner y sgwrs ddilynol a glywn ni. Defnyddiwch eich llaw fel ffôn gan esgus mai eich cymeriad ydych. Bydd angen i chi benderfynu pwy sy n ffonio ac yna ddyfeisio r sgwrs wrth fynd. Ydych chi n cerdded yn ôl ac ymlaen? Ydych chi n symud eich dwylo? Ydych chi n sefyll yn stond? Yn eistedd i lawr? Sut ydych chi n siarad? Rhowch gynnig arni unwaith neu ddwy, chwaraewch gyda r syniad. Yna, pan fyddwch chi n hoffi r hyn sydd gennych, ysgrifennwch ef i lawr. ee. Beth? Pryd? Na! Ond fe ddywedodd e nad oedd angen i ni orffen cyn dydd Mawrth! Be wna i? Fydda i byth wedi gorffen mewn pryd! Bydd hyn yn rhoi tri pheth i chi: cymeriad a pherthynas arall i w harchwilio, problem bosib y bydd angen i ch cymeriad ddelio â hi, a syniad o r ffordd y mae eich cymeriad yn siarad go iawn. Daliwch ati tan i chi deimlo bod yr hyn sydd gennych yn ddiddorol ac yn gwneud i chi eisiau gwybod mwy. Beth fydd yn digwydd nesaf?
4 3. SYNAU HWYR Y NOS Mae eich cymeriad yn ei (h)ystafell. Mae hi n hwyr, ond dyw r cymeriad ddim yn cysgu. Neu maen nhw wedi cysgu ond mae rhywbeth wedi eu deffro. Rhyw sŵn rhyfedd. Mae popeth yn dawel. Maen r cymeriad yn trio clywed y sŵn eto ond does dim siw na miw; dim ond synau r tŷ tawel. Beth all y cymeriad ei weld? Ydy ef neu hi n cofio r golau? Disgrifiwch y pethau sydd i w gweld wrth iddynt edrych o gwmpas. Gweadau. Lliwiau. Manylion. Dyna fe eto. Y sŵn. Beth yw e? O ble mae e n dod? Rhowch eich hun yno ym meddwl eich cymeriad. Gorweddwch i lawr os yw hynny n help. Chi yw eich cymeriad. Beth allwch chi ei glywed? 4. CROESHOLI Bydd yr ymarfer hwn yn gweithio orau gyda phartner neu mewn grŵp, ond gallwch chi baratoi cwestiynau a defnyddio drych os byddwch chi ar eich pen eich hun. Eisteddwch mewn cadair sy n wynebu ch partner neu weddill y grŵp. Chi yw eich cymeriad. Mae rhywbeth wedi digwydd. Rhywbeth pwysig. Rydych chi n cael eich cyfweld. Rydych chi n cael eich croesholi. Mae yna lawer o gwestiynau ac mae n rhaid i chi ateb fel y byddai eich cymeriad yn ateb. e.e. Beth weloch chi? A roddodd y dyn rywbeth i chi cyn iddo ddiflannu? Beth oedd yn y bag? Ydych chi n gelwyddgi da? The less organised the questions are, the better. That way unusual ideas will pop up and at some point, something interesting will happen, a certain question, a certain answer. Whatever grabs you and makes you want to know more, take that as your startingpoint. Mwyaf anhrefnus fydd y cwestiynau, gorau i gyd. Fel yna, bydd syniadau anarferol yn ymddangos, bydd rhywbeth diddorol yn digwydd, cwestiwn penodol, ateb penodol. Defnyddiwch beth bynnag sy n hoelio eich sylw ac yn gwneud i chi eisiau gwybod mwy hwn fydd fel eich man cychwyn. Ysgrifennwch hynny i lawr. Beth fydd yn digwydd nesaf? Ar ôl cwblhau r camau uchod, cymrwch le eich partner/grŵp fel bod pawb yn cael cyfle i chwarae r ddwy rôl. 5. TEULU Mae hwn yn gyfle i chwarae rôl. Byddwch chi a ch partner neu ch grŵp yn chwarae rolau gwahanol. Os oes yna ddau ohonoch chi, mae n bosib y bydd rhaid i r ddau ohonoch chi chwarae sawl rôl. Os ydych chi ar eich pen eich hun, mae hynny n sicr! Pryd bwyd teuluol. Pwy sydd yno? Dewiswch eich cymeriadau. Ydy r achlysur yn un arbennig? Faint o r gloch yw hi? Ble maen nhw? Chi sy n gosod yr olygfa. Mae eich cymeriad (chi) yn hwyr. Ry ch chi n cerdded i fewn. Beth sy n digwydd? Chwaraewch yr olygfa heb sgript. Pwy sy n gwylltio? Pwy sy n dweud dim? Beth sy n digwydd? Dadl? Tensiwn? Tawelwch? Beth bynnag sy n digwydd, ar ryw adeg mae rhywun yn dweud rhywbeth nad oedd neb yn disgwyl ei glywed. Pwy sy n dweud y peth hwnnw? Beth sy n cael ei ddweud? A beth mae hynny n ei olygu i ch cymeriad chi? Beth fydd yn digwydd nesaf?
5 GEMMA CAIRNEY Take The Irl Vs Url Quiz Pan fyddwch chi n rhoi eich ffôn neu ddyfais symudol i lawr ar ôl trio llenwi cyfnod o ddiflastod, rydych yn sylweddoli eich bod wedi bod yn edrych ar y sgrin ers... A Llai na hanner awr B Rhwng hanner awr ac awr C Mwy nag awr Eich ffôn a chi ar eich gwyliau... A Mae r ffôn i ffwrdd am ran fwyaf yr amser ac ry ch chi n cael brêc. B Mae r ffôn yn mynd i bobman gyda chi ond dim ond nawr ac yn y man y byddwch chi n edrych arno C Ry ch chi n dweud wrth eich ffrindiau drwy r amser ba mor anhygoel yw r bwyd, pa mor bert yw r lle, ac yn anfon lluniau ohonoch chi ar y traeth mewn posys gwyliau perffaith Pan fyddwch chi ar-lein, rhan fwyaf yr amser rydych chi... A Ar y cyfryngau cymdeithasol yn siarad gyda ch ffrindiau ac yn edrych ar gŵn ciwt B Yn gwneud (a) ac yn archebu stwff diangen C Yn gwneud (a) a (b) ac hefyd yn clicio n ddi-ben-draw, sy n eich arwain ichi at bethau sy n gwneud i chi deimlo ychydig yn rhyfedd Pa ddatganiad sydd fwyaf addas i chi wrth ddisgrifio eich agwedd at rannu pethau ar-lein (hyd yn oed mewn negeseuon preifat)? A Fyddwn i byth yn postio unrhyw beth na fyddwn i n fodlon ei ddweud ar lafar nac unrhyw beth na fyddwn i eisiau i fy nheulu ei weld B Weithiau dw i n difaru gorgyffroi neu rantio C Dw i n bendant wedi postio delweddau, negeseuon neu sylwadau dw i n difaru eu rhannu. Petai rhywun yn ysgrifennu rhywbeth cas amdanoch chi ar-lein, fe fyddech chi... A Yn eu riportio nhw ar unwaith B Yn teimlo n ofidus, yn ateb y person ac yna n ceisio anghofio am y peth C Meddwl yn hir am y sylwadau a dechrau meddwl y gallai r geiriau cas fod yn wir Sawl tab sydd ar agor gennych chi fel arfer ar eich cyfrifiadur? A 1-5 B 5-10 C Mwy
6 Ydych chi wedi sylwi, wrth chwilio am rywbeth ar-lein, bod hysbysebion ar gyfer pethau tebyg yn ymddangos yn nes ymlaen, ar wefannau hollol wahanol weithiau? A Ydych, ry ch chi n gwybod bod cwcis yn storio gwybodaeth am eich ymweliadau a bod hysbysebwyr yn defnyddio r wybodaeth honno er mwyn eich targedu chi B Ry ch chi wedi sylwi ond ry ch chi n trio peidio â meddwl gormod am y peth C Doedd gennych chi DDIM syniad Gyda ch ffrind gorau, ry ch chi n hoffi... A Mynd i r sinema. B Siarad ar Skype mae n haws dod o hyd i amser C Mae llawer o ffrindiau gorau gyda chi ac ry ch chi n cadw mewn cysylltiad â nhw mewn sgyrsiau WhatsApp di-ben-draw. BETH OEDD EICH SGÔR? Atebion A gan mwyaf - Ry ch chi n byw yn y byd go iawn! Ry ch chi n ymddiddori mewn pethau yn y byd go iawn gan mwyaf ac yn teimlo bod gennych ddealltwriaeth iach o r ffordd y gall y rhithfyd effeithio arnoch chi. Ry ch chi n gwarchod eich hun ac yn rheoli eich amser a ch perthnasoedd ar-lein yn ofalus. Dy ch chi ddim yn deall pam mae pobl yn cyffroi gymaint am bethau ar-lein. Atebion B gan mwyaf - Chi yw r cyfrifiadurwr cyffredin! Ry ch chi n debygol o aros mewn twll ar-lein am ychydig yn hirach nag yr hoffech chi weithiau, ond ry ch chi n awyddus i ddysgu mwy am dechnoleg sy n datblygu n barhaol. Ewch i i weld atebion i lawer o gwestiynau ac i weld ffeithiau am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Atebion C yn bennaf - Rydych chi mewn Gwe pry cop! Mae n siŵr eich bod chi n treulio ychydig gormod o amser ar-lein ac yn teimlo n isel weithiau heb wybod pam. Ry ch chi n ymddwyn yn fyrbwyll ar-lein heb feddwl bob amser am effeithiau r hyn ry ch chi n ei bostio. Mae n bryd peidio â dibynnu ar eich ffôn neu eich dyfais symudol am gwmni. Ailgysylltwch â r byd go iawn a heriwch eich hun. Peidiwch â chadw eich ffôn wrth eich ochr pan fyddwch chi n bwyta gyda phobl. Darllenwch lyfr o glawr i glawr. Treuliwch ddydd Sul cyfan heb eich ffôn a heb gyswllt â chyfrifiadur neu ddyfais ar-lein. Byddai n syniad da hefyd i chi fynd i i ddarllen am faterion ar-lein er mwyn parhau i gael hwyl wrth syrffio.
7
STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationCatchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37
Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37 Key language Byth/Erioed Am Mae arna i New Words Erbyn hyn Hollol farw Dod â Ymddygiad Gollwng Tywallt Stido (NW) Creulon Ffwdanu Yn barod Canlyniadau r profion
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationAddewid Duw i Abraham
Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children
More informationPECYN ADNODDAU CREADIGOL
PECYN ADNODDAU CREADIGOL CYFLWYNIAD Y TÎM CREADIGOL Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad yn 2014, roeddem yn gweld bod y broses o ddyfeisio ar y cyd hefo ysgolion wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77 Key Language Mor + mutation Ar fin Moyn i /eisiau i New Words Straen Wedi blino n lân Anrhegion Treulio Osgoi Cwpla Cymhleth Argol! Gwneud lles i rywun Cymdeithasu
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationBeth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationCymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb
Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler
More informationY BANC Y BANC. Hyfedredd
Y Gymraeg a r Gyfraith 1 amddiffynydd ar sail cyfartal arwyddocaol blaenoriaeth dylanwad gwahardd * gweinyddiaeth gwireddu addewidion hawl * hawl llwyr hwyluso hyrwyddo y Ddeddf Uno ymgyrchu Nodyn i r
More informationTeimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel
Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 110
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 110 Key Language go iawn i ble? wnewch chi? New Words alaru hysbysebu dod o hyd i na bw na be rhydd dof i wyneb yn wyneb mentro lol talon ni draw Ysgol Feithrin lludw
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar
More informationOs byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!
Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 103
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 103 Key Language verbs ending in -ai llyw / lliw anhygoel o / andros o etc. New Words sefydlu siarad trwy dy het gyda llaw gwarchod shwt fyr rybudd (SW) ta beth ffaelu
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationStraeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach
Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach Gwaith cartref y draenogod bach Roedd Han wedi cyffroi yn lân. Roedd e n mynd i r ysgol. Dim babi bach oedd yn gorfod aros gartref gyda i fam oedd e mwyach.
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More information2004: Ysbyty Brynaber - Week 66
2004: Ysbyty Brynaber - Week 66 Key Language Dod â/mynd â to bring/to take Clywed NW/SW plurals: -oedd or au? New Words and Phrases Gweiddi to shout Casáu to hate Ai peidio? or not? Triniaeth treatment
More informatione.e. nofio/to swim Rydw i n nofio Rwyt ti n nofio Mae e n nofio Mae hi n nofio Mae John yn nofio
Iaith Bob Dydd Everyday Language Yr Amser Presennol The Present Tense You must be able to: Use the present tense with confidence Talk about yourself and your interests and those of other people Ask Present
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri High Speed Plastics, Llandygái 1970-2; AustinTaylors, Bethesda 1972-1998 Cyfwelai: VN054 Sandra Owen Dyddiad: 28:07:2014 Cyfwelydd: Shan
More informationCatchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75
Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75 Key Language The prefix cam- Comparative forms New Words Rhoi help llaw Disglaid Bisgedyn Camddeall Chwerthin ar fy mhen Gwyllt Gwyllt uffernol Agoriad Allwedd Bishi
More informationP-aC4 LANGUAGE PATTERNS
P-aC4 LANGUAGE PATTERNS CYNNWYS / CONTENTS Tudalen / Page Patrymau iaith / Language patterns 3 Iaith bob dydd / Everyday language 4 Gweithgareddau / Activities 17 Mynegi barn / Expressing opinions 18 Siarad
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationCanllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide
Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl Y canllaw canser The Cancer Guide Ynglyˆn Ynglŷn â r llyfryn hwn 1 Ynglŷn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu i ddeall beth mae canser yn ei
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationTaith Iaith 3. Gwefan
Taith Iaith 3 Gwefan Mae r gweithgareddau sy ar y wefan yma yn rhan o waith Taith Iaith. Maen nhw wedi eu rhannu yn: ADRAN A: Llyfr Cwrs ADRAN B: Llyfr Gweithgareddau ADRAN C: Sgriptiau r cryno ddisg 1
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationyr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!
yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! croeso... I rifyn gwanwyn / haf Cwtsh. Rydym yn dal i gael ein syfrdanu
More informationOs hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk
Trawiad ar y galon 2 GAIR AM Y BRITISH HEART FOUNDATION A ninnau n elusen calon y genedl, rydym wedi bod yn ariannu gwaith ymchwil arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Ond mae sefyllfa
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationSesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?
www.xfam.rg.uk/educatin Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd? Ystd ed: 9 14 ed Amlinelliad Bydd y dysgwyr yn chwarae'r gêm Gwybd ble mae eich lle i'w helpu i ddeall beth yw ystyr anghydraddldeb
More informationMawl y Pasg! Easter Praise! Pupil s Wordbook. Llyfr Geiriau r Disgybl. Sheila Wilson REDHEAD MUSIC WORDBOOK EPR113
English Welsh Easter Praise! Pupil s Wordbook Mawl y Pasg! Llyfr Geiriau r Disgybl Sheila Wilson REDHEAD MUSIC WORDBOOK EPR113 With lyrics, actions and narration/play Key Stage 1 + extra material for KS2
More informationTWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol
4 YDD ARGRAFFIAD TWYLL MAWR Yn NatWest byddwn yn defnyddio technegau soffistigedig i adnabod twyll, sylwi ar weithgarwch amheus a helpu i ddiogelu ein cwsmeriaid. Rydym yn gweithio gyda Friends Against
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationPecyn Athrawon Hoof and Safety Nuzzle a Scratch
Pecyn Athrawon Hoof and Safety Nuzzle a Scratch i Cynnwys Cyflwyniad 1 Teitlau r Rhaglen 1 Pethau poeth: bod yn ofalus gyda phethau poeth 2 2 Gofal mewn gerddi: bod yn ofalus yn yr ardd 3 3 Ych a fi: bod
More informationF U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!
... o t e m o c l e W e g n a h C f o s n o i Champ CROESO I... NEWID R Y W P M A C N E B BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions of Change
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationPawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus
Hud Cyfrifiadureg Pawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus Cyflwynwyd gan Peter McCowan, Paul Curzon a Jonathan Black o Ysgol Peirianneg Electronig a
More informationCanllaw Gwylio Cymylau
Canllaw Gwylio Cymylau Croeso Alexander Armstrong Carol Kirkwood Chris Hollins ii Yn y wlad hon rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chymylau, felly mae Tîm Tywydd Gwych Prydain wedi ffurfio r canllaw hwn.
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationGoleudy ar Werth! Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Paula Owens. Cynradd. Goleudai a r arfordir
Goleudy ar Werth! Goleudai a r arfordir Paula Owens Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cynradd Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Teitl: Goleudy ar werth! Lefel Cyd-destun Lleoliad Cynradd Goleudai a
More informationCwm Creigiog Ystâd Piper / DACS John Piper. Mynyddoedd Cymru. Adnodd Addysg. 1
Cwm Creigiog Ystâd Piper / DACS 2015 John Piper Mynyddoedd Cymru Adnodd Addysg www.amgueddfacymru.ac.uk/caerdydd/addysg 1 Cynnwys Cyflwyniad 2 Bywyd John Piper John Piper a gogledd Cymru 3 Dulliau a Thechneg
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationGalwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015
Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 15 Lent 15 Adnodd ieuenctid Youth resource The English-language follows the Welsh-language version 3 Adnodd Ieuenctid RHAN 1: DECHREUADAU DARLLENIAD YR WYTHNOS
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationAnhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol
More informationCatchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 34
Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 34 Key language Fe/Mi Pa fath o Pa un/p un New Words Fel mae hi n digwydd Barus Anodd Amau Drewi Cur pen (NW) Dim syniad Lles Dathlu Drygioni Cawod Anodd Coelio
More informationCatchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 3
Catchphrase 2002: Ysbyty Brynaber - Week 3 Key Language (f)y ngweld i, dy weld, di ei gweld hi,etc Dyma Mor + adjective New words eiliad - second gwenu - to smile yn gwella - improving yn ara bach - slowly
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationPeripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)
North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationTaith Iaith 3. Gwefan
Taith Iaith 3 Gwefan Mae r gweithgareddau sy ar y wefan yma yn rhan o waith Taith Iaith. Maen nhw wedi eu rhannu yn: ADRAN A: Llyfr Cwrs ADRAN B: Llyfr Gweithgareddau ADRAN C: Sgriptiau r cryno ddisg 1
More informationY Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth
Y Gorau o Brydain Alan Parkinson Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol 3 http://digimapforschools.edina.ac.uk Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Canllaw ar gyfer athrawon yw r adnoddau
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationLLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri Smiths/Ingersoll Watches and Clocks, Gurnos Works, Ystradgynlais.
LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri Smiths/Ingersoll Watches and Clocks, Gurnos Works, Ystradgynlais. Fatri Tic Toc Cyfwelai: VSW016 Mrs Catherine Evans Dyddiad: 20: 11: 2013
More informationGWERS 91. Cyflwyno'r ffurfiau dyfodol cryno (Introducing the concise future tense forms).
GWERS 91 CYFLWYNYDD: CENNARD DAVIES NOD: Cyflwyno'r ffurfiau dyfodol cryno (Introducing the concise future tense forms). Geirfa penderfynu - to decide trefnu - to arrange, gweld - to see to organise archebu
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More information