Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Size: px
Start display at page:

Download "Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb"

Transcription

1 Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler y tudalennau dilynol.. Crynodeb Cofiwch y bydd plentyn dyslecsig wedi cael diwrnod caled yn yr ysgol oherwydd ei anawsterau. Yn y cartref mae n bwysig cyfnerthu r broses ddysgu mewn ffordd hamddenol a hwyliog. Peidiwch byth â gadael i chi na r plentyn fod dan straen gan y byddai hynny n wrthgynhyrchiol.. Gweithgareddau Hybu hunan-barch eich plentyn. Dywedwch wrth y plentyn am bobl enwog sy n ddyslecsig. Chwarae gemau fel Mi welai â m llygad bach i (I Spy) i helpu gyda seiniau neu Scrabble i helpu efo sillafu. Darllen gyda ch plentyn darllen pâr. Gofyn cwestiynau am y testun i annog dealltwriaeth. Defnyddiwch lyfrau llafar. Weithiau mae rhoi gorchudd lliw tryloyw ar y testun yn helpu plentyn dyslecsig. Trïo ffyrdd newydd i ddysgu sillafu, fel ysgrifennu geiriau mewn tywod neu gydag ewyn siafio. Mae cofeiriau (mnemonics) yn gallu helpu plant i ddysgu geiriau anodd. Dyma enghraifft Saesneg, Big Elephants Can Always Upset Small Elephants -> because Chwaraewch gemau syml i ymarfer dilyniant gyda ch plentyn, er enghraifft, drwy ailadrodd rhifau ffôn neu rifau cofrestru car a cheisio eu dysgu ar y cof. Hefyd gallech ddefnyddio ffyrdd syml er mwyn gwella r cof, er enghraifft, ydy r plentyn yn cofio beth wnaethoch chi brynu yn y siop ddoe? Edrychwch ar ddyddiadur gwaith cartref eich plentyn a i helpu i roi trefn ar bethau sy n angenrheidiol fel y llyfrau cywir, distawrwydd i weithio a.y.b. Anogwch eich plentyn i ymarfer tasgau syml fel clymu carrai esgidiau, chwarae gemau efo pêl a thriciau i wella cydbwysedd. Mae yna wahanol fathau o raglenni cyfrifiadurol all helpu plentyn dyslecsig. Page 1 of 5

2 Help gyda hunan-barch Gallwch roi hwb i hunan-barch eich plentyn drwy drafod y bobl enwog oedd, neu sydd, yn ddyslecsig fel: Leonardo da Vinci, Richard Branson, Orlando Bloom, Einstein, Jamie Oliver a Keira Knightley i enwi dim ond ychydig. Gweithgareddau a awgrymir Mae r gweithgareddau a awgrymir isod yn cynnig syniadau i chi. Ni does raid i chi weithio drwyddynt yn y drefn hon. Yn hytrach, dewiswch y rhai sydd fwyaf addas i anghenion neu anawsterau eich plentyn. Mae n bwysig eich bod chi a ch plentyn yn mwynhau r broses a bod gan y plentyn ymdeimlad o hunan-barch ac o hunanwerth; teimladau nad yw hwyrach wedi eu profi yn ystod y dydd yn yr ysgol. Help gyda seiniau Dewiswch sain y dydd (fel st, ch ) a defnyddiwch weithgareddau fel Mi welai â m llygad bach i (I Spy) i ymarfer y sain o ch dewis. Darllenwch gerddi a chwiliwch am odlau. Mae hyn yn sefydlu patrymau sillafu ac yn helpu gydag ymwybyddiaeth ffonig. Yn achos geiriau sydd ddim yn gweithio n dda yn seinegol - gosodwch y rhain o gwmpas y tŷ a gofynnwch i r plentyn chwilio amdanynt a u darllen i chi. Neu fe allech ddewis nifer o eiriau bob dydd i r plentyn eu hadnabod. Byddai rhoi gwobr i'r plentyn yn gwneud y dasg yn fwy deniadol! Help gyda darllen Mae darllen pâr neu gyd-ddarllen yn brofiad positif i r plentyn ac i r rhiant. Gellir delio â hyn mewn amryw ffyrdd. Gallwch ddewis darllen yn uchel gyda ch gilydd neu ddarllen paragraff neu ddau un ar ôl y llall. Hefyd gallwch benderfynu ymlaen llaw os ydych chi am ddweud gair petai r plentyn yn baglu neu os yw r plentyn am wneud cynnig yn gyntaf. Gallech ofyn i r plentyn gyffwrdd eich llaw petai angen help. Gofynnwch gwestiynau i r plentyn am y testun a ddarllenwyd er mwyn datblygu dealltwriaeth. Darllenwch lyfrau gyda thapiau sain/cryno ddisgiau neu e-lyfrau. Mae hyn yn diogelu rhediad y stori ac yn annog y plentyn i ddarllen ar rythm naturiol. Arbrofwch gyda gorchudd lliw tryloyw. Mae rhai plant dyslecsig yn perfformio n llawer gwell wrth ddarllen efo gorchudd lliw (pinc a gwyrdd yw r mwyaf effeithiol). Os bydd plentyn yn cwyno fod y print yn aneglur neu n symud o gwmpas mae gorchudd lliw tryloyw yn atal hyn. Page 2 of 5

3 Help gyda geirfa a sillafu Ceisiwch ddysgu sillafu geiriau newydd drwy ddulliau amlsynhwyraidd: ysgrifennu geiriau ar fwrdd gwyn, mewn tywod, mewn ewyn siafio neu ewyn bath. Rhowch ymarferion copïo i ch plentyn. Yn achos plant ieuanc gallai hyn fod yn eiriau unigol i ddechrau gan arwain wedyn at frawddegau byrion. Mae gemau geiriol yn hwyl ac yn brofiad addysgol da ar gyfer dysgu sillafu, darllen a datblygu geirfa. Mae r rhan fwyaf o blant yn mwynhau Scrabble ac mae llawer o adnoddau eraill ar gael i w prynu neu eu llawr lwytho o r we. Yn achos geiriau anodd eu sillafu, defnyddiwch gofeiriau (mnemonics) fel: Big Elephants Can Always Upset Small Elephants -> because Can Oliver Understand Long Division -> could. Gellir annog plant hŷn i greu rhai eu hunain ac felly gael boddhad yn ogystal â u cofio n well. Mae gemau sy n cysylltu geiriau yn effeithiol er mwyn datblygu meddwl dargyfeiriol. Er enghraifft, coeden - coedwig - bwyell fforest blaidd. Ar y dechrau hwyrach y bydd y plentyn yn cynnig geiriau sy n rhy agos at y gair gwreiddiol fel coeden gwair llwyn a.y.b. Anogwch syniadau ehangach. Dechreuwch chi r grŵp, a gofyn i r plentyn roi r gair nesaf ac ymlaen felly bob yn ail. Gall grŵp gynnwys rhwng 5 ac 20 gair yn ôl oedran ac aeddfedrwydd y plentyn. Help gyda chyfarwyddiadau a dilyniant Rhowch dasgu sy n gofyn am ddilyn cyfarwyddiadau i ch plentyn. Gallech chwi adrodd y cyfarwyddiadau ac wedyn annog eich plentyn i w hysgrifennu yn y drefn gywir. Gallai dilyn cyfarwyddiadau fod yn dasg syml fel llunio cylch gyda sgwâr yn y canol neu dynnu llinell 10 centimedr o hyd gyda llinell 8 centimedr o hyd uwch ben ac un 12 centimedr oddi tanodd. Mae digon o bosibiliadau yma. Hefyd gofynnwch i ch plentyn roi cyfarwyddiadau i chi. Dilynwch hwy n union ac os nad ydynt yn gywir gall eich plentyn weld yr angen i fod yn fanwl gywir. Gallech ymarfer dilyniant fel hyn: o dilyniant llythrennau, geiriau neu frawddegau o ffurfio dilyniant stori o luniau wedi u torri allan a u gosod yn y drefn anghywir ac angen eu hail drefnu er mwyn gwneud synnwyr. o chwarae gêm rhifau cofrestru ceir. Pwyntiwch at gar a llefarwch y llythrennau a r rhifau ac wedyn gofynnwch i r plentyn eu hailadrodd yn gywir. o gêm y rhifau ffôn: rhowch rif i r plentyn a gofyn iddo/iddi ei ailadrodd. Anogwch y plentyn ei gofio mewn rhaniadau byr o r rhif cyfan. Er enghraifft, mae yn haws i w gofio fel hyn: Page 3 of 5

4 Gwella r cof Dyfeisiwch gemau cofio. Gallai hyn fod y nifer o eiriau y gall eich plentyn gofio o r dydd blaenorol neu pa eitemau wnaethoch chi eu prynu ar y dydd blaenorol. Help gyda gwaith cartref/arholiadau Edrychwch ar ddyddiaduron gwaith cartref a helpwch eich plentyn i fod yn drefnus ar gyfer y sesiwn: y llyfrau cywir, distawrwydd i weithio a.y.b. Hefyd sicrhewch fod pethau n barod ar gyfer y diwrnod canlynol - bod popeth sydd ei angen yn y bag ar gyfer yr ysgol! Mae rhai ysgolion yn rhoi caniatâd i riant fod yn amanuensis i r plentyn; hynny yw caniatáu i r rhiant ddarllen y cwestiynau ac ysgrifennu r atebion a roddir gan y plentyn. Mae bod yn rhydd o orfod canolbwyntio ar ddarllen a sillafu yn caniatáu i r plentyn roi atebion helaethach neu n rhoi cyfle i ymestyn y dychymyg. Helpwch blant hŷn i ddefnyddio diagramau ( spidergrams neu mind maps ) i drefnu eu syniadau ar gyfer ysgrifennu traethodau. Astudio ar gyfer arholiadau: Nodwch y pwyntiau allweddol ar gyfer adolygu a gofynnwch i r plentyn ymhelaethu ar lafar (gellir cofnodi hyn er mwyn cyfeirio atynt yn ddiweddarwch). Mae adnabod y pwyntiau allweddol yn arwain at ddysgu llawer mwy effeithiol Syniadau eraill Mae cadw dyddiadur yn effeithiol ar gyfer pob agwedd o ddysgu - o ddarllen ac ysgrifennu i amgyffred dilyniant a threfn. Mae hefyd yn help i gofio dyddiau r wythnos, misoedd y flwyddyn a.y.b. Gallech ddefnyddio lluniau sy n berthnasol i weithgareddau r dydd ac yna ychwanegu brawddeg neu ddwy er mwyn datblygu diddordeb. Mae clock digidol sy n dangos y cloc 24 awr yn help i ddysgu sut i ddweud yr amser. Er mwyn helpu gyda mathemateg a dileu r boen o ddysgu tablau, tasg sy n aml bron yn amhosibl i blentyn dyslecsig, gofalwch bod eich plentyn yn gallu defnyddio sgwâr rhifau ( number square ). Gellir gwella cyd-symudedd drwy ymarfer clymu carrai esgidiau neu chwarae gemau Troi i r dde, troi i r chwith. Mae chwarae gemau pêl a thriciau cydbwysedd yn effeithiol iawn hefyd. Page 4 of 5

5 Defnyddio technoleg i helpu Ystyriwch y defnydd o raglen gyfrifiadurol sy n gallu ynganu geiriau ac ysgrifennu dros eich plentyn. Anogwch eich plentyn i ddysgu sut i gyffwrdd-deipio. Mae nifer o raglenni ar gael ar y We i helpu, er enghraifft Dance Mat gan y BBC. Gall gemau sillafu ar gyfrifiadur fod yn hwyl. Mae gan rhai fel Wordshark a Spellmate y fantais ychwanegol o fod yn addas i w haddasu i r Gymraeg. Mae cwblhau chwilair neu groesair yn ffordd dda o ddatblygu sillafu a geirfa. Mae llawer o raglenni creu chwileiriau a chroeseiriau ar gael ar y We yn rhad ac am ddim. Page 5 of 5

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant

More information

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court 5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.

More information

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism

More information

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid

More information

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with: Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR

More information

Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig

Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig Val Edgar Hyderwn y gwnewch chi a ch dosbarth fwynhau defnyddio r llyfr hwn. Llyfrau eraill yn y gyfres yw: Teitlau Mathemateg Sut i Ddisgleirio mewn Bondiau Rhif 978 1

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

The Life of Freshwater Mussels

The Life of Freshwater Mussels The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell

More information

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref

More information

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

PECYN ADNODDAU CREADIGOL

PECYN ADNODDAU CREADIGOL PECYN ADNODDAU CREADIGOL CYFLWYNIAD Y TÎM CREADIGOL Yn dilyn llwyddiant y cynhyrchiad Cwpwrdd Dillad yn 2014, roeddem yn gweld bod y broses o ddyfeisio ar y cyd hefo ysgolion wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog

More information

SESIWN HYFFORDDI STAFF

SESIWN HYFFORDDI STAFF SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions

More information

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig

More information

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora? DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau

More information

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005 ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How

More information

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N! ... o t e m o c l e W e g n a h C f o s n o i Champ CROESO I... NEWID R Y W P M A C N E B BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions of Change

More information

Y BONT. Canllawiau i Fyfyrwyr. Phyl Brake

Y BONT.  Canllawiau i Fyfyrwyr. Phyl Brake Y BONT http://ybont.org/course/ Canllawiau i Fyfyrwyr Phyl Brake pjb@aber.ac.uk Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd:

More information

Technoleg Cerddoriaeth

Technoleg Cerddoriaeth Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o

More information

CYMRAEG CLIR CANLLAWIAU IAITH CEN WILLIAMS

CYMRAEG CLIR CANLLAWIAU IAITH CEN WILLIAMS CYMRAEG CLIR CANLLAWIAU IAITH CEN WILLIAMS Argraffiad cyntaf: Ionawr 1999 Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol: 1 898817 49 9 h Cen Williams Mae hawlfraint ar y deunyddiau hyn ac ni ellir eu hatgynhyrchu na

More information

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED. DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED

More information

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,

More information

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi. Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn

More information

Y BONT. Canllawiau i Diwtoriaid. Phyl Brake

Y BONT.  Canllawiau i Diwtoriaid. Phyl Brake Y BONT http://ybont.org/course/ Canllawiau i Diwtoriaid Phyl Brake pjb@aber.ac.uk Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd:

More information

Addysg Oxfam

Addysg Oxfam Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd

More information

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help

More information

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Symud T^y. Gweithgaredd. Wrth i rym bwyso ar adeilad bydd yn anffurfio: Beth sydd ei angen arnoch

Symud T^y. Gweithgaredd. Wrth i rym bwyso ar adeilad bydd yn anffurfio: Beth sydd ei angen arnoch Gweithgaredd Symud T^y Dylai r sesiwn lenwi dau slot amser clwb fel prosiect byr (neu gellir ei defnyddio fel rhan o brosiect hirach o gynnwys yr elfennau ychwanegol). Oeddech chi n gwybod bod adeiladau

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter

More information

Cyrsiau Courses.

Cyrsiau Courses. rsiau yrsia Cyrsiau Courses 2017 www.nantgwrtheyrn.org Croeso Pentref hudolus Nant Gwrtheyrn wedi i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru yw cartref

More information

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi

More information

Pawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus

Pawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus Hud Cyfrifiadureg Pawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus Cyflwynwyd gan Peter McCowan, Paul Curzon a Jonathan Black o Ysgol Peirianneg Electronig a

More information

Y BANC Y BANC. Hyfedredd

Y BANC Y BANC. Hyfedredd Y Gymraeg a r Gyfraith 1 amddiffynydd ar sail cyfartal arwyddocaol blaenoriaeth dylanwad gwahardd * gweinyddiaeth gwireddu addewidion hawl * hawl llwyr hwyluso hyrwyddo y Ddeddf Uno ymgyrchu Nodyn i r

More information

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners ********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol

More information

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination

More information

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion

More information

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral

More information

offered a place at Cardiff Met

offered a place at Cardiff Met UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the

More information

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 3 : 1.

Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 3 : 1. Nodiadau cynllunio athrawon. Cyfnod Allweddol 3 : 1. AMCANION ADDYSGU Lefel geiriau 14: diffinio a defnyddio geiriau n fanwl gywir, gan gynnwys eu hunion synnwyr o fewn y cyd-destun; Lefel brawddegau 18:

More information

October Half Term. Holiday Club Activities.

October Half Term. Holiday Club Activities. October Half Term Holiday Club Activities Hoffi Dilynwch ni Like Follow us www.aura.cymru www.aura.wales BUCKLEY SWIMMING ACTIVITIES 4 YEARS AND OLDER Activity Description Dates of Activity Activity Start

More information

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau

More information

1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...

1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle... YMARFER 3: Sylwadau This year I have done much walking in Snowdonia, and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle 1 to remind me 2 that

More information

The National Basic Skills Strategy for Wales The Basic Skills Agency on behalf of the Welsh Assembly Government

The National Basic Skills Strategy for Wales The Basic Skills Agency on behalf of the Welsh Assembly Government Laptime2005 2005 Amser Chwarae Inside Lots of rhymes, songs and activities to enjoy with your child. Y Tu Mewn Llawer o rigymau, caneuon a gweithgareddau i w mwynhau gyda ch plentyn. Photo supplied by

More information

Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr

Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda Llawlyfr i Rieni/Gofalwyr 2017-2018 Pennaeth: Mrs Ceren Lloyd 01248 600375 Ffacs / Fax: 01248 600375 ebost/email : CerenLloyd@gwynedd.gov.uk Mae'r llawlyfr hwn wedi ei gynhyrchu

More information

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:

More information

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny

More information

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014 Mathemateg Rhifedd UNED 1 Haen Canolradd EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014 Cweswn Marc Uchaf Marc yr 1. 6 2. 6 3. 8 4. 5 5. 3 6. 8 7. 4 8. 2 9. 6 10. 5 11. 5 12. 4 13. 2 14. 4 15.

More information

TGAU CYMRAEG AIL IAITH CWRS LLAWN/CWRS BYR ASESU MEWNOL (GWAITH CWRS) Deunyddiau Enghreifftiol a Chynlluniau Marcio

TGAU CYMRAEG AIL IAITH CWRS LLAWN/CWRS BYR ASESU MEWNOL (GWAITH CWRS) Deunyddiau Enghreifftiol a Chynlluniau Marcio TGAU CYMRAEG AIL IAITH CWRS LLAWN/CWRS BYR ASESU MEWNOL (GWAITH CWRS) Deunyddiau Enghreifftiol a Chynlluniau Marcio 2005 TGAU Ca 2005 Asesiad Mewnol Gwaith Cwrs 1 Asesu Mewnol - Gwaith Cwrs Cymraeg Ail

More information

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol

More information

CYNLLUNIAU MARCIO TGAU

CYNLLUNIAU MARCIO TGAU CYNLLUNIAU MARCIO TGAU CYMRAEG AIL IAITH HAF 2012 RHAGARWEINIAD Y cynlluniau marcio a ganlyn yw'r rhai a ddefnyddiwyd gan CBAC ar gyfer arholiad Haf 2012 TGAU CYMRAEG AIL IAITH. Penderfynwyd arnynt yn

More information

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation

More information

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short

More information

TGAU CYNLLUNIAU MARCIO CYMRAEG AIL IAITH CYMHWYSOL (MANYLEB NEWYDD)

TGAU CYNLLUNIAU MARCIO CYMRAEG AIL IAITH CYMHWYSOL (MANYLEB NEWYDD) TGAU CYNLLUNIAU MARCIO CYMRAEG AIL IAITH CYMHWYSOL (MANYLEB NEWYDD) HAF 2011 RHAGARWEINIAD Y cynlluniau marcio a ganlyn yw'r rhai a ddefnyddiwyd gan CBAC ar gyfer arholiad Haf 2011 TGAU CYMRAEG AIL IAITH

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information

Addewid Duw i Abraham

Addewid Duw i Abraham Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i

More information

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,

More information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!

More information

TASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY

TASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY TASG 2 1 I : Bob ysgol yng Nghymru FFERM FOLLY FFERM FOLLY Ydych chi n gallu helpu creu logo newydd i r We ar gyfer Fferm Folly os gwelwch yn dda? Mae syniadau newydd gyda ni ac mae map newydd gyda ni.

More information

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson Y Gorau o Brydain Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson Adnodd addysgu Daearyddiaeth Uwchradd Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Canllaw ar gyfer athrawon yw r adnoddau hyn er

More information

W42 13/10/18-19/10/18

W42 13/10/18-19/10/18 W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend

More information

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol

More information

GWERS 78. Adolygu this...', 'that...', 'these...' a 'those...'.

GWERS 78. Adolygu this...', 'that...', 'these...' a 'those...'. GWERS 78 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Adolygu this...', 'that...', 'these...' a 'those...'. Geirfa plât - plate platiau - plates teisen f - cake teisennau/od - cakes cacen(nau) f - cake(s) cwpan(au) -

More information

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community

More information

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting

More information

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent Cynnwys Contents Welcome Croeso What level? Pa lefel? How often? Pa mor aml? What type of course? Pa fath o gwrs? Examinations Arholiadau Supporting Learners Cefnogi Dysgwyr How to enrol? Sut i gofrestru?

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl! Os byddwch yn colli r rhain, byddwch yn colli r hwyl! Swansea Bay this Easter At last! With a hint of spring in the air, and the days getting longer, the Easter Bunny is almost ready to make his annual

More information

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport #amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau

More information

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75 Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75 Key Language The prefix cam- Comparative forms New Words Rhoi help llaw Disglaid Bisgedyn Camddeall Chwerthin ar fy mhen Gwyllt Gwyllt uffernol Agoriad Allwedd Bishi

More information

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Canllaw Rhieni Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg 2017 MD-923 Ionawr 2016 Cynnwys UCAS 2016 Cedwir pob hawl.

More information

Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?

Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd? www.xfam.rg.uk/educatin Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd? Ystd ed: 9 14 ed Amlinelliad Bydd y dysgwyr yn chwarae'r gêm Gwybd ble mae eich lle i'w helpu i ddeall beth yw ystyr anghydraddldeb

More information

Bwletin Arholiadau Cymraeg i Oedolion. Rhagfyr 2017 Rhifyn 15 Adroddiad ar Arholiadau Cymraeg i Oedolion 2017

Bwletin Arholiadau Cymraeg i Oedolion. Rhagfyr 2017 Rhifyn 15 Adroddiad ar Arholiadau Cymraeg i Oedolion 2017 Bwletin Arholiadau Cymraeg i Oedolion Rhagfyr 2017 Rhifyn 15 Adroddiad ar Arholiadau Cymraeg i Oedolion 2017 Bwletin Arholiadau Cymraeg i Oedolion Rhagfyr 2017 Rhifyn 15 Adroddiad ar Arholiadau Cymraeg

More information

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS

More information

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach RM2160_10085_RMX12_DL_Bi.indd 16 Dosbarthu mwy Arweiniad i ch gwasanaethau post dros y Nadolig 2011 13/10/2011 09:38 Fe wyddom pa mor anodd y gall fod yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond does dim rhaid i ch

More information

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion

More information