Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
|
|
- Cody Norton
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018
2 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae n rhedeg am saith mlynedd, o 2014 tan 2020, ac estynnir gwahoddiad i sefydliadau ymgeisio am gyllid bob blwyddyn er mwyn cyflawni gweithgareddau creadigol a gwerth chweil. Nod Erasmus+ yw moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid ar draws Ewrop. Mae n agored i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector dysgu gydol oes gan gynnwys addysg mewn ysgolion, addysg bellach ac uwch, addysg i oedolion a r sector ieuenctid. Darparir rhaglen Erasmus+ yn y DU gan Asiantaeth Genedlaethol y DU, sy n bartneriaeth rhwng British Council ac Ecorys UK. Mae r Asiantaeth Genedlaethol yn adrodd i r Adran Addysg (AA). Erasmus+ a Brexit Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn gyhoeddus bod y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i r cam o barhau i gyfranogi n llawn yn rhaglen Erasmus+ nes i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn tanysgrifennu ceisiadau llwyddiannus i Erasmus+ a gyflwynir tra bod y DU yn parhau i fod yn Aelod-wladwriaeth, hyd yn oed os na chânt eu cymeradwyo nes ar ôl i ni adael, a/neu os bydd y taliadau yn parhau ar ôl yr adeg pan fyddwn yn gadael. Trafodir manylion ymarferol ynghylch sut y gweithredir hyn gyda r Adran Addysg (Awdurdod Cenedlaethol Erasmus+ y DU). Yn y cyfamser, mae r Llywodraeth yn annog ymgeiswyr o r DU i barhau i ymgeisio am gyllid nes i ni adael UE. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth ar y dudalen ar y we am Brexit sef erasmusplus.org.uk/brexit-update
3 3 Ffeithiau a ffigurau allweddol Yn ystod ei chyfnod, mae gan Erasmus+ gyllideb gyffredinol o 14.7 biliwn er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae r ffeithlun hwn yn dangos sut y rhennir y gyllideb: Chwaraeon (1.8%) Jean Monnet (1.9%) Arall (8.8%) Ieuenctid (10%) Addysg uwch (43%) VET (22%) Addysg a hyfforddiant (77.5%) Addysg a Hyfforddiant Heb ei neilltuo (15%) Ysgolion (15%) Addysg i oedolion (5%) Bydd dwy rhan o dair o r cyllid yn darparu grantiau er mwyn galluogi dros bedair miliwn o bobl i astudio, hyfforddi, cael profiad gwaith neu wirfoddoli mewn gwlad dramor rhwng 2014 a Mae modd i r amser sy n cael ei dreulio mewn gwlad dramor amrywio o ychydig ddiwrnodau hyd at flwyddyn. Caiff bron i 1 biliwn ei neilltuo i r DU yn unig dros y saith mlynedd. Yn y DU, disgwylir y bydd oddeutu 250,000 o bobl yn cynnal gweithgareddau mewn gwlad dramor gyda r rhaglen. Yn wir, bob blwyddyn, disgwylir i dros 30,000 o bobl ifanc o r DU - sy n cyfateb â dros 70 o jymbo-jetiau llawn - i gael cyfleoedd i ehangu eu gorwelion dan y rhaglen. erasmusplus.org.uk
4 4 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Pa gyllid sydd ar gael? Mae r Asiantaeth Genedlaethol yn rheoli rhannau datganoledig y rhaglen: Symudedd, Partneriaethau Strategol, a Datblygiad Polisi. Cyllid ar gyfer Symudedd Mae Erasmus+ yn darparu cyllid i sefydliadau er mwyn iddynt allu cynnig cyfleoedd i bobl ifanc a myfyrwyr, athrawon a hyfforddwyr, dysgwyr a darparwyr, prentisiaid, gwirfoddolwyr, arweinwyr ieuenctid a r rhai sy n gweithio ym maes chwaraeon ar lawr gwlad. Gelwir y gweithgarwch hwn yn symudedd a hwn yw Cam Gweithredu Allweddol 1 y rhaglen. Cyllid ar gyfer Partneriaethau Strategol Yn ogystal, bydd y rhaglen yn cynorthwyo sefydliadau ar draws meysydd addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon i ddatblygu partneriaethau, rhannu arfer orau a chydweithio er mwyn helpu i wella r ddarpariaeth, rhoi hwb i dwf a chreu swyddi. Y gweithgarwch partneriaeth strategol hwn yw cam Gweithredu Allweddol 2 y rhaglen. Cyllid er mwyn datblygu polisi Dan Gam Gweithredu Allweddol 3 y rhaglen, mae modd i sefydliadau gymryd rhan mewn gweithgarwch datblygu polisi, gan gynnwys dwyn pobl ifanc a phenderfynwyr ynghyd er mwyn gwella polisi ieuenctid. Trowch at erasmusplus.org.uk/erasmus-in-the-uk am ragor o wybodaeth. Cyllid canoledig Mae rhywfaint o r cyllid yn gyllid canoledig, sy n golygu ei fod yn cael ei reoli n uniongyrchol gan yr Asiantaeth Weithredol Addysg, Clyweledol a Diwylliant (EACEA) ym Mrwsel, cangen weithredol o Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Addysg a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd. Mae gweithgareddau canoledig yn cynnwys Chwaraeon, rhaglen addysg uwch Jean Monnet, a Graddau Meistr ar y Cyd. Nid yw Asiantaeth Genedlaethol y DU yn ymwneud a r gwaith o hyrwyddo neu reoli rhannau canoledig o raglen Erasmus+, felly rhaid cyfeirio ymholiadau a cheisiadau at EACEA yn uniongyrchol. Am ragor o wybodaeth am gyllid canoledig, trowch at erasmusplus.org.uk/erasmusat-european-level.
5 5 Pam ddylid cymryd rhan? Newid bywydau, agor meddyliau Bydd Erasmus+ yn helpu cyfranogwyr yn ystod pob cam o u bywyd, o u cyfnod yn yr ysgol i r cyfnod pan fyddant yn oedolion, i ganlyn cyfleoedd ysgogol i ddysgu. Bydd yn eu helpu i feithrin y sgiliau bywyd gwerthfawr a r profiad rhyngwladol y mae angen iddynt ei sicrhau er mwyn llwyddo yn y byd sydd ohoni. Mae n cynnig cyfle unigryw i ddisgyblion, myfyrwyr, hyfforddeion, prentisiaid, pobl ifanc, oedolion, gweithwyr proffesiynol, darlithwyr, gweithwyr ieuenctid ac athrawon i gael addysg, hyfforddiant, datblygiad a phrofiad gwaith mewn gwlad Ewropeaidd arall a thu hwnt, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan i r ystafell ddosbarth. Mae r manteision yn cynnwys datblygiad personol a phroffesiynol, y cyfle i ehangu gorwelion diwylliannol, rhoi hwb i hyder, datblygu sgiliau ieithyddol a llawer mwy. Caiff y rhain eu teimlo ar lefel unigol a hefyd, yn systemau addysg, hyfforddiant a chymorth ieuenctid yr holl wledydd sy n cymryd rhan a u cymunedau ehangach. Myfyrwyr, hyfforddeion a phobl ifanc Bydd astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad dramor yn rhoi hwb enfawr i hunanhyder pobl ifanc, yn ogystal â u CV, a bydd hyn yn eu helpu i ragori yn y farchnad swyddi ac i lwyddo yn y farchnad ryngwladol a chystadleuol hon. Staff, athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr a gweithwyr ieuenctid Yn ogystal, mae addysgu neu hyfforddi mewn gwlad dramor yn galluogi staff i feithrin sgiliau newydd. Mae modd iddynt ddod i wybod am brosesau system addysg, hyfforddiant neu gymorth ieuenctid arall mewn ffordd uniongyrchol, gan ddysgu a rhannu syniadau newydd a darganfod arferion gorau i w defnyddio yn ôl yn y DU. Ysgolion, sefydliadau a mudiadau Mae cyfranogi yn cynnig manteision eang, y mae modd eu teimlo ar draws y sefydliad, yr ysgol a r mudiad cyfan. Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa unigryw i staff, y byddant yn teimlo n ysbrydoledig a u bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae hyn yn cynorthwyo datblygiad proffesiynol a chyfraddau cadw staff. erasmusplus.org.uk
6 6 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Beth mae modd i mi ei wneud? Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyfranogwyr o r DU i astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi mewn gwlad dramor yn Ewrop. Mae modd i sefydliadau addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector dysgu gydol oes wneud cais am gyllid ar gyfer eu staff a u dysgwyr. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yn helpu pobl i ddatblygu mewn ffordd bersonol a phroffesiynol; byddant yn cael profiad rhyngwladol gwerthfawr, byddant yn ehangu eu gorwelion, byddant yn profi diwylliannau newydd ac yn darganfod ffyrdd newydd o weithio. Mae o fudd arbennig i bobl ifanc sy n gallu dysgu sgiliau newydd er mwyn gwella u cyflogadwyedd, dysgu sgiliau bywyd a meithrin hyder. Astudio mewn gwlad dramor (Cam Gweithredu Allweddol 1) Mae Erasmus+ yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr addysg uwch i astudio mewn gwlad dramor yn Ewrop fel rhan o u gradd. Mae modd i fyfyrwyr o bob maes pwnc gymryd rhan ar unrhyw adeg yn ystod eu gradd (ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf), er y bydd hyn yn dibynnu ar strwythur y radd a r trefniadau rhwng y sefydliad addysg uwch a i bartneriaid. Trwy gyfrwng Symudedd Credyd Rhyngwladol (ICM), gall myfyrwyr dreulio rhwng tri a 12 mis yn astudio mewn SAUau mewn gwledydd y tu allan i Ewrop. Mae r rhanbarthau sy n cael eu cynnwys o fewn ICM yn cynnwys Affrica, Asia ac America.
7 7 Gweithio neu wirfoddoli mewn gwlad dramor (Cam Gweithredu Allweddol 1) Gall myfyrwyr a phobl ifanc weithio neu wirfoddoli mewn gwlad dramor dan raglen Erasmus+, gan sicrhau profiad gwerthfawr er mwyn gwella eu CV. Mae modd i brentisiaid a myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) fynd i wlad dramor er mwyn dilyn lleoliad hyfforddiant galwedigaethol mewn gwlad arall. Gall dysgwyr dreulio amser mewn gweithle er mwyn cael profiad o fywyd go iawn, neu mewn ysgol VET, lle y byddant yn treulio amser mewn diwydiant neu gyda sefydliad neu fenter berthnasol arall hefyd. Mae modd i fyfyrwyr addysg uwch o bob maes pwnc ddilyn hyfforddeiaeth Erasmus+ mewn gwlad dramor mewn menter Ewropeaidd. Mae modd iddynt gymryd rhan mewn hyfforddeiaeth ar unrhyw adeg yn ystod eu gradd (gan gynnwys y flwyddyn gyntaf), er y bydd hyn yn dibynnu ar strwythur y radd. Mae modd i bobl ifanc rhwng 17 a 30 oed ac y maent yn byw yn y DU gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli gan sicrhau profiad rhyngwladol gwerthfawr. Teithiau cyfnewid ieuenctid (Cam Gweithredu Allweddol 1) Mae teithiau cyfnewid ieuenctid yn caniatáu i grwpiau o bobl ifanc o wahanol wledydd i gyfarfod ac i fyw gyda i gilydd am gyfnod byr. Yn ystod taith gyfnewid ieuenctid, bydd cyfranogwyr yn cyflawni rhaglen waith ar y cyd (cymysgedd o weithdai, ymarferion, trafodaethau, gweithgarwch chwarae rôl, gweithgareddau yn yr awyr agored ac ati) a gynlluniwyd ac a baratowyd ganddynt cyn y daith gyfnewid. erasmusplus.org.uk
8 8 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Addysgu neu hyfforddi mewn gwlad dramor (Cam Gweithredu Allweddol 1) Mae modd i staff mewn ysgolion, sefydliadau addysg uwch, addysg a hyfforddiant galwedigaethol a sefydliadau addysg i oedolion addysgu neu hyfforddi mewn ysgol bartner arall, sefydliad neu fudiad yn Ewrop. Yn ogystal, mae modd i staff gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi neu weithgarwch cysgodi swydd/arsylwi/hyfforddiant mewn sefydliad perthnasol mewn gwlad dramor. Mae modd i weithwyr ieuenctid gyflawni gweithgarwch sy n cynorthwyo eu datblygiad proffesiynol megis cymryd rhan mewn seminarau, cyrsiau hyfforddi, digwyddiadau meithrin cysylltiadau, ymweliadau astudio; neu gyfnod cysgodi swydd/arsylwi mewn gwlad dramor mewn sefydliad sy n weithgar ym maes ieuenctid. Gwella addysg a hyfforddiant, ieuenctid neu arfer chwaraeon (Cam Gweithredu Allweddol 2) Mae modd i sefydliadau sy n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon weithio gyda chymheiriaid mewn gwledydd eraill er mwyn arloesi a moderneiddio arfer. Trwy gyfrwng Partneriaethau Strategol (Cam Gweithredu Allweddol 2), mae modd i sefydliadau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid gydweithio er mwyn gwella r ddarpariaeth i ddysgwyr ac er mwyn rhannu arferion arloesol, gan sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn cael y sgiliau y mae angen iddynt eu cael er mwyn llwyddo yn y byd sydd ohoni. Caiff gweithgareddau chwaraeon eu rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd yn ganolog. Fodd bynnag, mae modd i unrhyw brosiectau sy n defnyddio chwaraeon yng nghyddestun addysg a hyfforddiant neu weithgareddau ieuenctid, e.e. lleoliadau symudedd ar gyfer prentisiaid chwaraeon, gael eu hariannu dan Gam Gweithredu Allweddol 1 a Cham Gweithredu Allweddol 2. Trowch at ein gwefan i gael gwybod mwy am chwaraeon dan Erasmus+. Dylanwadu ar ddatblygiad polisi (Cam Gweithredu Allweddol 3) Trwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd a digwyddiadau trafod gyda llunwyr polisïau, bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i ymwneud yn fwy gyda bywyd democrataidd ac i rannu eu profiadau a u syniadau er mwyn gwella polisi ieuenctid.
9 9 Pwy sy n gallu cymryd rhan yn y DU? Caiff ceisiadau ar gyfer gweithgareddau eu gwneud ar lefel sefydliadol i Asiantaeth Genedlaethol y DU neu i r Comisiwn Ewropeaidd. Ar ôl i r sefydliad wneud cais llwyddiannus bydd modd i r bobl ganlynol gymryd rhan: Ysgolion a cholegau Staff a disgyblion mewn ysgolion sy n darparu addysg gyffredinol, galwedigaethol neu dechnegol ar unrhyw lefel o r oedran cyn ysgol i addysg uwchradd uwch; staff sy n ymwneud â gwaith partneriaeth o awdurdodau ysgol lleol/rhanbarthol. Staff a hyfforddeion mewn sefydliadau sy n ymwneud ag addysg a hyfforddiant galwedigaethol mewn ffordd weithredol, gan gynnwys prentisiaid, staff cymorth, rheolwyr a staff sy n cynnig cyfarwyddyd, yn ogystal ag athrawon a hyfforddwyr. Grwpiau ieuenctid Pobl ifanc rhwng 13 a 30 oed a gweithwyr ieuenctid o unrhyw oed o sefydliadau neu grwpiau yn y DU sy n ymwneud â gwaith ieuenctid mewn ffordd weithredol. Mudiadau gwirfoddol Pobl ifanc oed ac y maent yn byw yn y DU o fudiadau gwirfoddol sy n meddu ar achrediad dilys. Sefydliadau cyhoeddus neu breifat Unrhyw sefydliadau cyhoeddus neu breifat sy n weithgar ym maes addysg, hyfforddiant, ieuenctid neu chwaraeon, sy n gallu cynnwys, ond nid yw wedi i gyfyngu i, fentrau bach, canolig neu fawr, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, sefydliadau di-elw, cymdeithasau neu gyrff anllywodraethol. Sefydliadau addysg uwch Myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig sydd wedi cofrestru mewn prifysgol neu goleg sy n meddu ar Siarter Erasmus ar gyfer Addysg Uwch (ECHE) ac sy n cynnal astudiaethau sy n arwain at radd gydnabyddedig hyd at a chan gynnwys lefel doethuriaeth. Rhaid i fyfyrwyr sy n gwneud cais am Radd Meistr ar y Cyd feddu ar radd dosbarth cyntaf neu ddangos lefel ddysgu gyfatebol gydnabyddedig. Mae staff mewn sefydliadau ECHE yn rhai academaidd a gweinyddol, yn gymwys hefyd. erasmusplus.org.uk
10 10 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Sefydliadau addysg i oedolion Staff a dysgwyr mewn sefydliadau sy n ymwneud ag addysg i oedolion mewn ffordd weithredol. Sefydliadau Chwaraeon Mae modd i ystod eang o sefydliadau sy n ymwneud â chwaraeon gymryd rhan, fel cyrff chwaraeon cyhoeddus, mudiadau chwaraeon, cynghreiriau, a chlybiau ar unrhyw lefel. Am ragor o wybodaeth, trowch at ein gwefan. Dyddiadau cau er mwyn ymgeisio yn 2018 Cam Gweithredu Allweddol a gweithgarwch Cam Gweithredu Allweddol 1: Symudedd Dysgu Unigolion Sector Addysg uwch, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ysgolion, addysg i oedolion Ieuenctid Dyddiad cau (11am, amser yn y DU) 1 Chwefror Chwefror Ebrill Hydref 2018 Cam Gweithredu Allweddol 2: Partneriaethau Strategol Addysg uwch, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ysgolion, addysg i oedolion, a cheisiadau ar gyfer partneriaethau strategol mewn mwy nag un maes gan gynnwys ieuenctid Ieuenctid 21 Mawrth Chwefror Ebrill Hydref 2018 Cam Gweithredu Allweddol 3: Deialog Strwythuredig Ieuenctid 15 Chwefror Ebrill Hydref 2018
11 11 Cysylltwch â ni Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol, mae modd i chi gysylltu â British Council neu Ecorys UK fel a ganlyn: British Council Ff: Ecorys UK Ff: E: erasmusplus.enquiries@britishcouncil.org E: erasmusplus@ecorys.com Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am Erasmus+, gan gynnwys y camau nesaf ac adnoddau defnyddiol, trowch at dudalen Ymgeisio am gyllid ar ein gwefan. facebook.com/ukerasmusplus erasmusplus.org.uk
12 Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae Asiantaeth Genedlaethol y DU Erasmus+ yn bartneriaeth rhwng British Council ac Ecorys UK. Rhagfyr 2017
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationoffered a place at Cardiff Met
UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the
More informationGWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol
GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationDOGFEN HUNAN-WERTHUSO
DOGFEN HUNAN-WERTHUSO Cyflwyniad gan Brifysgol Bangor i r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Chwefror 2012 2 CYNNWYS Tudalen 1. CEFNDIR, HANES A STRWYTHUR 7 1.1 Hanes 8 1.2 Y Brifysgol Heddiw 8 1.3 Strwythur Academaidd
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationWelsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport
#amdani Y Gymraeg: Amdani! Defnyddio r Gymraeg mewn chwaraeon Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport Mae defnydd naturiol o r iaith yn hollbwysig boed mewn cynhadledd i r wasg neu ar grysau
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationBe part of THE careers and skills events for Wales
Be part of THE careers and skills events for Wales VENUE CYMRU LLANDUDNO 5 & 6 OCTOBER 2016 MOTORPOINT ARENA CARDIFF 12 & 13 OCTOBER 2016 www.skillscymru.co.uk Join the conversation @skillscymru Organised
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationDatblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru
Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationBuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru
Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit Diogelu Dyfodol Cymru Buddsoddi Rhanbarthol yng Securing Nghymru Wales ar ôl Future Brexit 1 2 Fair Movement Hawlfraint y of Goron People 2017 WG33593 ISBN
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationFforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru
Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Adroddiad Blynyddol 2009 2010 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Grŵp cydweithredol o holl lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru yw WHELF
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationLlwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016
Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016 1 Cynnwys Map Llwybrau Cyflogaeth Tudalen 5 Cyflwyniad Tudalen 6 Y Porth Sgiliau Tudalen 8 Rhaglenni Llwybrau Ymgysylltu
More informationYsgol Gyfun Cymer Rhondda
Ysgol Gyfun Cymer Rhondda CHWECHED DOSBARTH LLWYBRAU DYSGU ÔL-16 YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA PROSBECTWS 2016 2018 www.ysgolcymer.cymru LLWYBRAU DYSGU ÔL-16 YSGOL GYFUN CYMER RHONDDA Annwyl ddisgybl, Gyda
More informationRHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP)
RHAGLEN ARIANNU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (ROWIP) 2014-15 ADRODDIAD ALLBYNNAU DIWEDD Y FLWYDDYN. Mae r adroddiad hwn yn cynnwys yr adrannau canlynol: Adran Tudalen 1. Cefndir 3 2. Cyflawniadau Allweddol
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationStrategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol
CWM RHAEADR CRYCHAN FOREST LLANDOVERY Carmarthen to Newcastle Emlyn Merlin Druid Route BRECHFA NCN 47 Carmarthen to Brechfa Merlin Wizard Route CARMARTHEN ST. CLEARS LLANDYBIE CROSS HANDS NCN 4 KEY: NCN
More informationCronfa Buddsoddi Cymunedol
Cronfa Buddsoddi Cymunedol Adolygiad Blynyddol 2012/13 Gwnaeth Cartrefi Cymunedol Gwynedd ymrwymiad yn 2010 pan sefydlwyd y gymdeithas i chwarae rhan yn natblygiad cymunedau cynaliadwy yng Ngwynedd. Sefydlwyd
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationYMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS
YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationYSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID Annwyl Riant / Warcheidwad, Mae n fraint ac anrhydedd i mi fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol gyflwyno
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationCanllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth
Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Canllaw Rhieni Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg 2017 MD-923 Ionawr 2016 Cynnwys UCAS 2016 Cedwir pob hawl.
More informationExplore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship events for Wales
VENUE CYMRU, LLANDUDNO 17 October 5pm-7pm prospectsevents.co.uk 18 October 9:30am-3pm 10,000 VISITORS 100 EXHIBITORS Explore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship
More informationManiffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i
More informationRhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on
Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCanllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]
Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009] Cynnwys RHAN A Cyflwyniad ar ddiogelu data A1 Elfennau sylfaenol diogelu data A2 Rôl Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth A3 - Diffiniadau allweddol yn y Ddeddf
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationPROSBECTWS YSGOL
PROSBECTWS YSGOL 2014-2015 CYNNWYS 1. Cyffredinol 2. Ethos a Gwerthoedd yr Ysgol 3. Mynediad 4. Trefniadau Ymarferol 5. Lles yn yr Ysgol 6. Cysylltiadau gyda r gymuned 7. Polisïau Cyffredinol 8. Gwyliau
More informationTour De France a r Cycling Classics
Tour De France a r Cycling Classics - 2014-2016 Mae S4C wedi sicrhau r hawliau i ddarlledu rhaglenni Cymraeg o r Tour de France a rhai o rasys y Cycling Classics am y tair blynedd nesaf 2014, 2015 a 2016.
More informationCynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19 Crynodeb Gweithredol Datblygwyd cynllun ffioedd a mynediad Prifysgol Bangor gyda chydweithwyr o Undeb y Myfyrwyr, uwch reolwyr, a rheolwyr gwasanaethau allweddol sydd
More informationNUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG
NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau
More informationCadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion
More informationCylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf
More informationProses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru
Proses ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru Canllawiau i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol Canllawiau Cylchlythyr Llywodraeth Cymru rhif: 011/2014 Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014 Yn disodli cylchlythyr
More informationBrexit a Hawliau Plant yng Nghymru i
Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn
More informationNewyddion diweddaraf a chyfleoedd gwiroddoli y tu mewn
I gael gwybod rhagor ffoniwch 01437 769422 Cyfleodd Gwirfoddoli Datblygiad Personol Gyrfaoedd ac Addysg Mae Gwirfoddoli Sir Benfro yn cynnig gwasanaeth cyngor a gwybodaeth cyflawn ynglyn a r canlynol:
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationCEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationYsgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG.
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pencae Mae'r ysgol yn Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Ysgol Pencae Ffordd Graiglwyd Penmaenmawr LL34 6YG. Ffôn: Penmaenmawr (01492) 622219 Ffacs: (01492) 623732
More informationAdroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored Dysgu sy n Newid Bywydau
Adroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored 2013 2014 Dysgu sy n Newid Bywydau CYNNWYS 01 Croeso 03 Newyddion 08 Effaith ar ddysgu: Gavin Richardson, cyn-fyfyriwr 10 Agor addysg i bawb 13 Cefnogi myfyrwyr ar
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationPrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Adolygiad Sefydliadol (model hybrid) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Adolygiad Sefydliadol (model hybrid) gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch Mai 2014 Cynnwys Yr adolygiad yma... 1 Canfyddiadau allweddol... 2 Beirniadaethau ASA
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationAdolygiad Blynyddol 2007/08
Adolygiad Blynyddol 2007/08 gyrfacymru.com Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd Cynnwys 02 03 Rhagair y Cadeirydd 04 Ynglŷn â Gyrfa Cymru 05 Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol 07 Oedolion 09 Cyflogwyr 11 Partneriaethau
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationDIGIDOL I R DYFODOL. Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS
DIGIDOL I R DYFODOL Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS RHAGFYR 2018 Cynnwys Rhagair 5 Pennod 1: Cyflwyniad a Chrynodeb Gweithredol
More informationPOLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON
POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON Adolygwyd y polisi: Cadeirydd y Llywodraethwyr: Pennaeth: 1 Cafodd Gweithgor Diogelu ERW'r dasg o greu polisi amddiffyn plant safonol i'w defnyddio mewn ysgolion
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationTuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer
Tuesday 26th January 2016 Bryn Meadows Golf Club, Maesycwmmer Order of Ceremony - Trefn y Seremoni 6:15 Arrival 6:30 Welcome by Ben Hammond Kelly Davies Speech Young Volunteer of the Year award presented
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationCERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.
DEWCH I NI GERDDED I R YSGOL CERDDED I R YSGOL gyda Living Streets. MAE NEWID MAWR AR DROED. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. ˇ Mae r daith yn dechrau nawr. Helpwch ni i GREU CENEDL SY N CERDDED
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationLlawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus Canllaw ymarferol i bolisi ac ymarfer da yr eglwysi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc,
More information