Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
|
|
- Merilyn Fields
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol dermau sy'n cael eu defnyddio gan bobl a gweithwyr proffesiynol. Weithiau gall y gwahaniaethau rhwng terminoleg achos dryswch. Mae'r holl dermau uchod yn disgrifio problemau plant sy'n orfywiog ac yn cael trafferth wrth ganolbwyntio. Beth yw ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd)? Anhwylder ymddygiadol yw ADHD sydd yn aml yn dod yn amlwg yn ystod plentyndod cynnar. Mae'r ymddygiadau oherwydd problemau sylfaenol sef sylw gwael, gorfywiogrwydd a bod yn fyrbwyll. Mae llawer o blant, yn enwedig rhai dan bump oed, heb fod yn talu sylw ac yn aflonydd. Nid yw hyn yn golygu eu bod yn dioddef gan ADHD o angenrheidrwydd. Bydd y diffyg talu sylw neu orfywiogrwydd yn mynd yn broblem pan fyddant yn ormodol, o'u cymharu â phlant eraill o'r un oed, a phan fyddant yn effeithio ar y plentyn, ei (h)ysgol, ei fywyd/bywyd cymdeithasol a'i fywyd/bywyd teulu. Pa mor gyffredin ydyw? Gall oddeutu 2% - 5% o blant oedran ysgol ddioddef gan ADHD. Mae'n effeithio ar fechgyn yn fwy cyffredin na merched. Beth sy'n achosi ADHD? Nid ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi'r anwylderau hyn. Gall ADHD redeg mewn teuluoedd. Mae'n fwy tebygol mewn plant sydd wedi cael profiadau trawmatig arwyddocaol fel plentyn. Weithiau bydd rhieni yn teimlo eu bod yn cael eu beio am beidio â rheoli eu plentyn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bod rhiantu gwael yn achosi ADHD yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod rhieni yn gallu chwarae rôl hanfodol wrth helpu a rheoli plentyn ag ADHD. Beth yw'r symptomau? Gall ADHD achosi gwahanol ymddygiadau gan ddibynnu ar yr oedran, sefyllfa (h.y. ysgol, cartref, cae chwarae) a hyd yn oed cymhelliad (e.e. wrth wneud gweithgaredd neu rywbeth mae plentyn yn hoffi). Ni fydd pob plentyn yn profi'r holl symptomau. Mae hyn yn golygu gall rhai cael problemau â sylw gwael yn unig, ac mae rhai eraill yn orfywiog yn bennaf. Gall plant â phroblemau â sylw ymddangos yn anghofus, wedi drysu, ymddangos i beidio â gwrando, anhrefnus, cymryd oesoedd i ddechrau gwneud hynny ac yna eu gorffen yn anaml. Bydd plant â gorfywiogrwydd yn ymddangos yn aflonydd, diamynedd, llawn egni, bob amser ar fynd. Efallai y byddant yn ymddangos yn uchel, swnllyd ac yn parablu yn gyson. Bydd plant â symptomau byrbwylltra yn gwneud pethau heb feddwl. Byddant yn cael anhawster wrth aros am eu tro mewn gemau neu mewn ciw, ac yn torri ar draws pob mewn sgwrs.
2 Pa broblemau eraill gall unigolyn ag ADHD eu cael? Gall plant ag ADHD gael problemau eraill fel anawsterau dysgu, awtistiaeth, anhwylder ymddygiad, pryder ac iselder. Hefyd gall problemau niwrolegol fel ticiau, syndrom Tourette ac epilepsi fod yn bresennol. Gall plant ag ADHD gael problemau â chyd-drefniant, sgiliau cymdeithasol ac ymddangos i fod yn anhrefnus. Am ba mor hir bydd ganddo/ganddi ADHD? Gall oddeutu 1 ymhob 3 plentyn â diagnosis ADHD dyfu allan o'r cyflwr ac ni fydd angen unrhyw driniaeth arnynt pan fyddant yn oedolion. Gall y mwyafrif sy'n derbyn triniaeth arbenigol, wedi'i theilwrio i'w hanghenion, gael budd sylweddol. Byddant wedi gallu dal i fyny â'u dysgu, gwella eu perfformiad yn yr ysgol a gwneud ffrindiau. Mae rhai yn gallu ymdopi trwy addasu eu gyrfaoedd a bywyd cartref. Fodd bynnag, gall rhai ohonynt gael problemau mawr, hyd yn oed fel oedolion, sydd angen triniaeth. Efallai y byddant yn cael trafferth ag anawsterau mewn perthnasau, yn y gwaith, o ran eu hwyliau a defnyddio cyffuriau neu alcohol. Sut mae'n cael diagnosis? Nid oes un prawf syml, pendant ar gyfer ADHD. Mae gwneud diagnosis yn gofyn am asesiad arbenigol, sydd fel arfer yn cael ei wneud gan seiciatrydd plant neu baediatregydd arbenigol. Mae'r diagnosis yn cael ei wneud trwy adnabod patrymau ymddygiad, arsylwi'r plentyn, cael adroddiadau am ei (h)ymddygiad yn y cartref ac yn yr ysgol. Weithiau efallai y bydd prawf cyfrifiadurol yn cael ei wneud i gynorthwyo'r diagnosis. Hefyd bydd angen profion arbenigol ar rai plant gan seicolegydd clinigol neu addysgol. Sut mae'n cael ei drin? Mae plentyn sy'n dioddef gan ADHD angen triniaeth ar draws pob sefyllfa lle mae'r anawsterau'n digwydd. Mae hyn yn golygu cefnogaeth a help yn y cartref, yn yr ysgol, gyda ffrindiau ac yn y gymuned. Yn gyntaf, mae'n bwysig iawn bod y teulu, athrawon a gweithwyr proffesiynol yn deall cyflwr y plentyn a sut mae'n effeithio arno/arni. Wrth iddo/iddi dyfu mae angen i'r unigolyn ifanc fod yn ymwybodol o'i gyflwr/chyflwr a sut i'w reoli. Efallai y bydd angen i blant a rhieni ddefnyddio strategaethau rheoli ymddygiad fel siartiau gwobrwyo. Efallai y bydd rhaglenni hyfforddi rheini yn ddefnyddiol i rieni/teuluoedd, yn enwedig wrth reoli'r ymddygiadau heriol sy'n gallu codi oherwydd gorfywiogrwydd y plentyn. Yn yr ysgol, mae plant angen cynlluniau a chefnogaeth addysgol penodol i helpu â'u gwaith bob dydd yn yr ystafell dosbarth a hefyd gwaith cartref. Hefyd efallai y bydd angen help arnynt i adeiladu eu hyder, datblygu eu sgiliau cymdeithasol. Mae'n bwysig bod cyfathrebu da rhwng y cartref, yr ysgol a'r gweithwyr proffesiynol sy'n trin y plentyn er mwyn sicrhau bod symptomau'r ADHD yn cael eu trin gystal â phosibl, a bod y plentyn yn cyflawni hyd eithaf ei (g)allu. Gall meddyginiaeth chwarae rôl bwysig wrth reoli ADHD cymedrol i ddifrifol. Gall meddyginiaeth helpu i leihau gorfywiogrwydd a gwella canolbwyntio. Mae'r gwell canolbwyntio yn rhoi'r cyfle a'r amser i'r plentyn ddysgu ac ymarfer sgiliau newydd. Yn aml bydd plant yn dweud bod meddyginiaeth yn eu helpu i ddod ymlaen â phobl, i feddwl yn fwy clir, i ddeall pethau yn well a theimlo bod ganddynt fwy o reolaeth ar eu hunain. Ni fydd pob plentyn ag ADHD angen meddyginiaeth.
3 Beth alla i wneud? Gall plentyn ag ADHD gael ymddygiadau anodd iawn yn y cartref, yn yr ysgol neu'r tu allan. Fodd bynnag, byddant yn dal i fod angen ffiniau a disgyblaeth. Nid yw cael ADHD yn golygu eu bod yn gallu eich anufuddhau neu ymddwyn yn amhriodol (e.e. rhegi neu fod yn dreisgar). Gall ffordd o fyw iach â diet cytbwys a gweithgareddau helpu. Gall plant ag ADHD fynd yn rhwystredig yn hawdd oherwydd eu cyfnod canolbwyntio gwael a lefelau egni uchel. Gall rhai o'r pethau canlynol helpu i reoli'r anawsterau hyn: Rhowch gyfarwyddiadau syml. Sefwch ger y plentyn, edrychwch arno/arni a dywedwch wrtho/wrthi yn araf ac yn ddigyffro beth ydych eisiau iddo/iddi ei wneud, yn hytrach na gweiddi ar draws yr ystafell Canmolwch eich plentyn pan fydd ef/hi wedi gwneud yr hyn sy'n ofynnol, waeth pa mor fach yw hyn Os bydd angen, ysgrifennwch restr o bethau i'w gwneud a rhowch y rhestr yn rhywle gellir ei gweld yn glir (e.e. drws ei (l)lofft, ystafell ymolchi) Torrwch unrhyw dasg, fel gwaith cartref neu eistedd ger bwrdd bwyd, yn gyfnodau byrrach o amser fel munud Rhowch amser a gweithgareddau iddo/iddi ddefnyddio ei (h)egni fel pêl fasged, nofio Newidiwch ei (d)diet ac osgowch ychwanegion. Mae rhywfaint o dystiolaeth am effaith diet ar rai plant. Efallai y byddant yn sensitif i rai lliwiau ac ychwanegion bwyd. Os bydd y rheini yn sylwi bod rhai bwydydd yn gwaethygu gorfywiogrwydd, gellir osgoi'r rhain. Y syniad gorau yw trafod hyn â'ch doctor neu ddietegydd arbenigol Mae llawer o rieni yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol mynychu rhaglenni rhiantu, waeth a yw'r plentyn yn cael triniaeth ar gyfer ADHD ai peidio. Mewn rhai ardaloedd, cynigir rhaglennu rhiantu a grwpiau cefnogi yn benodol ar gyfer rhieni plant ag ADHD. Sut alla i gael help? Gall eich Meddyg Teulu, athro neu nyrs ysgol eich cyfeirio i arbenigwr i gwblhau 'asesiad' a chynnig triniaeth. Efallai y byddant yn eich cyfeirio i baediatregydd (doctor plant) neu'r gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (GIMPPI). Gwybodaeth ychwanegol am feddyginiaeth ar gyfer ADHD Pa feddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio wrth drin ADHD? Mae'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin ADHD yn perthyn i ddau grŵp yn fras: Symbylyddion fel methylffenidat a decsamffetamin Meddyginiaeth nad yw'n symbylyddion fel atomocsetin Effaith symbylyddion yw gwneud i bobl deimlo yn fwy gwyliadwrus, egnïol, ac effro. Os amheuir bod unigolyn yn dioddef gan ADHD, gallant wella sylw a lleihau gorfywiogrwydd. Ymhlith y symbylyddion a ddefnyddir i drin ADHD mae methylffenidat (a arferai gael ei alw yn 'ritalin yn gyffredin) a decsamffetamin. Mae methylffenidat ar gael mewn gwahanol ffurfiau. Mae methylffenidat rhyddhau di-oed (immediate release methylphenidate) yn weithredol am gyfnod byr. Mae'n cael ei ddefnyddio oherwydd ei bod yn hyblyg o ran dosys a gellir ei ddefnyddio i bennu'r lefel cywir wrth newid dos.
4 Mae methylffenidat rhyddhau araf neu wedi'i addasu (slow or modified release methylphenidate) yn gweithio am 8 12 awr a gellir ei roi unwaith y dydd. Mae'n fwy cyfleus, oherwydd nid oes angen i'r plentyn gymryd dos yn yr ysgol, sy'n lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r anhwylder hwn. Yn ôl eu natur, nid yw meddyginiaeth nad yw'n symbylyddion yn gwneud pobl yn wyliadwrus neu fywiog. Fodd bynnag, yn achos ADHD, gallant wella symptomau diffyg sylw a gorfywiogrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau fel atomocsetin. Weithiau bydd meddyginiaethau eraill yn cael eu defnyddio i helpu â phroblemau â chwsg ac ymddygiad heriol sy'n gysylltiedig ag ADHD. Sut mae'r rhain yn gweithio? Mae meddyginiaethau'n gweithredu ar rai cemegion yn yr ymennydd o'r enw noradrenalin. Ymddengys eu bod yn effeithio ar y rhannau o'r ymennydd sy'n rheoli sylw ac yn trefnu ein hymddygiad. Nid ydynt yn gwella ADHD. Maent yn helpu i reoli symptomau sylw gwael, gorfywiogrwydd neu fyrbwylltra. Pa feddyginiaeth fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer fy mhlentyn? Fel arfer bydd meddyginiaeth symbylydd, methylffenidat, yn cael ei rhoi ar bresgripsiwn yn gyntaf. Bydd y math o symbylydd sy'n cael ei roi ar bresgripsiwn yn dibynnu ar nifer o bethau fel symptomau eich plentyn, eich dewis o driniaeth, pa mor hawdd yw rhoi'r feddyginiaeth a hyd yn oed argaeledd / cost y feddyginiaeth. Os bydd methylffenidat yn achosi sgil-effeithiau annymunol neu os nad yw'n gweithio, efallai y bydd symbylydd arall (decsamffetamin) neu feddyginiaeth nad ydynt yn symbylyddion yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn. Weithiau bydd plentyn yn ymateb i wahanol ffurf o fethylffenidat. Sut fydda i'n gwybod ei bod yn gweithio? Byddwch yn darganfod: bod eich plentyn yn canolbwyntio yn well bod ei deimladau/theimladau aflonydd neu or-weithgaredd yn llai bod eich plentyn yn rheoli ei hun yn well Weithiau bydd yr ysgol neu athrawon yn sylw ar y gwelliant cyn i chi wneud. Beth yw'r sgil-effeithiau? Fel yn achos y rhan fwyaf o feddyginiaeth, efallai y bydd rhai effeithiau di-eisiau. Fodd bynnag, ni fydd pawb yn cael sgil-effeithiau ac mae'r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn ac yn diflannu wrth barhau i gymryd y feddyginiaeth. Mae sgil-effeithiau yn llai tebygol os bydd y dos yn cael ei gynyddu'n raddol pan fydd y tabledi'n cael eu cymryd am y tro cyntaf. Bydd rhai rhieni yn poeni am gaethiwed i feddyginiaeth, ond nid oes unrhyw dystiolaeth dda i awgrymu bod hyn yn broblem.
5 Dyma rai o sgil-effeithiau cyffredin methylffenidat: diffyg awydd bwyd anhawster wrth fynd i gysgu penysgafnder Ymhlith y sgil-effeithiau llai cyffredin i edrych amdanynt mae: cael gormod o ffocws, bod yn dawel a syllu - gall hyn fod yn arwydd bod y dos yn rhy uchel pryder, nerfusrwydd, tymer flin neu ddagreuoldeb poenau bol neu deimlo'n sâl cur pen, pendro neu syrthni ticiau neu blyciau Yn y tymor hir, weithiau bydd tyfiant yn arafu pan fydd plant yn cymryd methylffenidat. Mae ymchwil yn dangos y gall taldra oedolyn gael ei ostwng gan 2.5 cm trwy gymryd methylffenidat. Nid yw'r rhestr hon o sgil-effeithiau yn hollgynhwysol. Os byddwch yn sylwi unrhyw beth anarferol, mae'n bwysig cysylltu â'ch doctor ar unwaith. A oes unrhyw beth y mae angen i mi wybod cyn rhoi'r feddyginiaeth? Cyn i chi roi unrhyw feddyginiaeth, dywedwch wrth eich doctor am: alergeddau gallai fod gan eich plentyn unrhyw feddyginiaeth eraill mae ef/hi'n cymryd, gan gynnwys fitaminau neu ychwanegion yn achos merched hŷn, os yw'n debygol y byddant yn mynd yn feichiog os ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu yn dioddef gan broblemau iechyd corfforol, yn enwedig pwysedd gwaed uchel, problemau â'r galon a symudiadau ailadroddus (sef ticiau) A oes unrhyw brofion arbennig cyn cymryd y meddyginiaethau, neu wrth eu cymryd? Cyn cymryd y feddyginiaeth, dylai'ch plentyn gael ei (g)wirio yn gorfforol yn enwedig o ran cyfradd ei galon/chalon, pwysedd gwaed, tyfiant ac unrhyw broblemau meddygol eraill. Weithiau efallai y bydd angen prawf gwaed neu brawf olrhain y galon i fesur gweithgaredd trydanol y galon, sef electrocardiogram (ECG). Wrth gymryd y feddyginiaeth, bydd eich doctor yn monitro cyfradd galon eich plentyn, ei bwysedd/phwysedd gwaed, pwysau a thaldra yn rheolaidd ynghyd â gwirio am unrhyw sgileffeithiau. Beth y mae angen i mi wybod cyn rhoi'r feddyginiaeth? Rhai pethau defnyddiol i'w gwybod: Cofiwch Rhoi'r feddyginiaeth ar yr amseroedd mae'ch doctor neu fferyllydd wedi dweud wrthych Cadw apwyntiadau ar gyfer adolygu meddyginiaeth yn rheolaidd Storio'r feddyginiaeth yn ddiogel Sicrhau bod eich plentyn yn llyncu'r feddyginiaeth, ddim yn ei chnoi neu falu'n fân Gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn yfed digon, yn enwedig mewn tywydd poeth ac wrth wneud ymarfer corff
6 Peidiwch â Dyblu'r dos os bydd eich plentyn yn methu dos o'r feddyginiaeth Stopio rhoi'r feddyginiaeth heb drafod hyn â'r doctor Rhoi'r feddyginiaeth i unrhyw un arall, hyd yn oed os byddwch yn teimlo bod ei (h)anawsterau yn debyg i'ch plentyn chi Am ba mor hir mae angen iddo/iddi gymryd meddyginiaeth? Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc angen y feddyginiaeth nes iddynt orffen eu haddysg, neu gyfnod yn yr ysgol, o leiaf. Efallai y bydd angen i nifer fach ohonynt ei chymryd pan fyddant wedi tyfu i fyny hyd yn oed. Mae rhai plant angen meddyginiaeth ar amseroedd penodol yn unig, er enghraifft wrth fynychu ysgol, ac nid oes angen iddynt ei chymryd ar benwythnosau neu wyliau ysgol. Byddai eich doctor yn gwirio yn rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn, a oes angen iddo/iddi barhau i gymryd y feddyginiaeth. Gall cymryd y meddyginiaethau hyn effeithio ar yrru a hyd yn oed rhai gyrfaoedd fel ymuno â'r fyddin. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn ymwybodol o hyd a bydd angen trafod hyn â'i (d)doctor wrth iddo/iddi dyfu. Efallai y bydd angen esboniadau a chefnogaeth ar bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny, am gymryd y feddyginiaeth. Gall stopio cymryd y feddyginiaeth achosi symptomau i ddychwelyd, a gall rhai pobl ifanc roi eu hunain mewn risg o ran eu haddysg, eu gwaith ac yn gymdeithasol trwy fod yn fyrbwyll a chymryd alcohol neu gyffuriau. Cofiwch: os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach am y feddyginiaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â'ch doctor neu fferyllydd. Gwybodaeth bellach Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth ADD (ADDISS) Yn darparu gwybodaeth ac adnoddau am ADHD i unrhyw un sydd angen cymorth. Young Minds Llinell gymorth i rieni: : ar gyfer unrhyw oedolyn sydd â phryderon am emosiynau ac ymddygiad plentyn neu unigolyn ifanc. Adnoddau ADD Gwefan sy'n cynnig erthyglau am ddim a ddewiswyd yn ofalus i helpu oedolion ag ADD/ADHD a rhieni plant ag ADD/ADHD, cysylltiadau â gwefannau eraill sy'n gysylltiedig ag ADHD, a mwy. Electronic Medicines Compendium (emc) Yn cynnwys gwybodaeth am feddyginiaethau â thrwydded yn y DU.
7 Darllen ymhellach Ar gyfer rheini/gweithwyr proffesiynol ADD / ADHD Behaviour Change Resource Kit: Ready-to-Use Strategies and Activities for Helping Children with Attention Deficit Disorder, Grad A Flick, Clawr papur, 1998, Jossey Bass Publishers, Wiley Print. ADHD Handbook - For Parents and Professionals. Dr Alison Munden a Dr Jon Arcelis. Jessica Kingsley Publishers Ar gyfer plant Everything a child needs to know about ADHD (2006), Dr C R Yemula, ADDISS publications, 2007, ail argraffiad. Ar gyfer plant 6-12 oed Putting on the Brakes: Young People s Guide to Understanding Attention Deficit Hyperactivity Disorder. Ar gyfer plant 8 12 oed. Awdur: Patricia O. Quinn, Judith M. Stern. Cyfeiriadau Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol: Attention deficit hyperactivity disorder (ADHD). Clinical Guideline (Medi 2008); Attention deficit hyperactivity disorder: Diagnosis and management of ADHD in children, young people and adults. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol: Methylphenidate, atomoxetine and dexamfetamine for attention deficit hyperactivity disorder (ADHD) in children and adolescents: Technology Appraisal 98, Pelsser LM, Frankena K, Toorman J, et al; Effects of a restricted elimination diet on the behaviour of children with Lancet Chwefror 5;377(9764): Rutter, M. a Taylor, E. (eds) (2008) 'Child and Adolescent Psychiatry' (5ed argraffiad). Llundain: Blackwell. British National Formulary; 62ain Argraffiad (Medi 2011) Cymdeithas Feddygol Prydain a Chymdeithas Fferyllol Brenhinol Prydain Fawr, Llundain. Adolygwyd gan Fwrdd Golygyddol Addysg Gyhoeddus Plant a Theuluoedd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Golygydd y Gyfres: Dr Vasu Balaguru Mae'r daflen hon yn adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ei hysgrifennu. Mawrth I'w hadolygu Mawrth Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gall y daflen hon gael ei llwytho i lawr, ei hargraffu, ei llungopïo a'i dosbarthu am ddim, cyn belled â bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cael clod priodol ac ni fydd ei defnyddio yn arwain at unrhyw elw. Rhaid cael caniatâd y Pennaeth Cyhoeddiadau i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw ffordd arall. Nid yw'r Coleg yn caniatau ailbostio ei thaflenni ar wefannau eraill, ond mae'n caniatau cysylltiadau uniongyrchol atynt.
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationBeth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny
More informationTeimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel
Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster
More informationCanllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide
Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl Y canllaw canser The Cancer Guide Ynglyˆn Ynglŷn â r llyfryn hwn 1 Ynglŷn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu i ddeall beth mae canser yn ei
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationPeripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)
North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationCynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan
Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationOs hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk
Trawiad ar y galon 2 GAIR AM Y BRITISH HEART FOUNDATION A ninnau n elusen calon y genedl, rydym wedi bod yn ariannu gwaith ymchwil arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Ond mae sefyllfa
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationEnwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationOpen Learn Works. Gofalu amdanoch chi eich hun. Hawlfraint (h) 2016 Y Brifysgol Agored
Open Learn Works Gofau amdanoch chi eich hun Hawfraint (h) 2016 Y Brifysgo Agored Contents Cyfwyniad 3 Canyniadau dysgu 4 1 Pam y mae eich es mor bwysig 4 1.1 Beth yw es? 4 1.2 Gwea es meddw 4 1.3 Gwea
More informationCadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationCynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol
Rhif: WG33656 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Cynnig deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018 Ymatebion erbyn: 2 Ebrill 2018 Hawlfraint y Goron 1 Trosolwg Mae
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationCymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb
Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationCEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationSafonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015
Safonau Iechyd a Gofal Ebrill 2015 Rhagair Rhagair gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ar 9 Gorffennaf 2013 fe roddon ni ymrwymiad i adolygu a diweddaru r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd
More informationRhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on
Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationMai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn,
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationPOLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON
POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON Adolygwyd y polisi: Cadeirydd y Llywodraethwyr: Pennaeth: 1 Cafodd Gweithgor Diogelu ERW'r dasg o greu polisi amddiffyn plant safonol i'w defnyddio mewn ysgolion
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationY Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth. Uwchradd. Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson
Y Gorau o Brydain Cynlluniwch lwybr i gyrchfan twristiaid Alan Parkinson Adnodd addysgu Daearyddiaeth Uwchradd Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Canllaw ar gyfer athrawon yw r adnoddau hyn er
More informationSesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?
www.xfam.rg.uk/educatin Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd? Ystd ed: 9 14 ed Amlinelliad Bydd y dysgwyr yn chwarae'r gêm Gwybd ble mae eich lle i'w helpu i ddeall beth yw ystyr anghydraddldeb
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationDatrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch
Datrys y dirgelwch.. Drwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Prifysgol Texas, Prifysgol Texas yn Austin tlodi. Mae Tanzania yn wlad fawr yn nwyrain Affrica. Mae ganddi boblogaeth o dros 40 miliwn (mae gan y DU
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationY Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth
Y Gorau o Brydain Alan Parkinson Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol 3 http://digimapforschools.edina.ac.uk Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Canllaw ar gyfer athrawon yw r adnoddau
More informationyr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!
yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! croeso... I rifyn gwanwyn / haf Cwtsh. Rydym yn dal i gael ein syfrdanu
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationCyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42
Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationLlawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus Canllaw ymarferol i bolisi ac ymarfer da yr eglwysi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc,
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationEsbonio Cymodi Cynnar
Sut all Acas helpu Esbonio Cymodi Cynnar inform advise train work with you Beth mae ACAS yn ei wneud? Acas yw r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Rydym yn sefydliad annibynnol sy n derbyn arian
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationCanser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales
Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationTROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL
Comisiwn y Gyfraith Papur ymgynghorol Rhif 213 TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL Crynodeb ar gyfer y rhai nad ydynt yn arbenigwyr CYFLWYNIAD 1.1 Mae hwn yn grynodeb o'n papur
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationAnnual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017
Annual Report PERIOD: 1 st March 2016 28 th February 2017 Principal address of the charity: DASH (Disabilities and Self Help) Min y Mor Bungalow Wellington Gardens ABERAERON Ceredigion SA46 0BQ Tel. (01545)
More information