Mai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
|
|
- Kathleen Stanley
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro Mai 2017 Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau r Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL
2 Amdan y Comisiynydd Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru n llais annibynnol ac yn bencampwr dros bobl hŷn ar draws Cymru, gan sefyll i fyny drostynt a siarad ar eu rhan. Mae n gweithio i sicrhau bod y rhai sy n agored i niwed ac mewn perygl yn aros yn ddiogel gan sicrhau bod gan bob person hŷn lais sy n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo n ynysig na bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn a u bod yn derbyn y cymorth a r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae gwaith y Comisiynydd wedi i sbarduno gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd bwysicaf iddynt ac mae eu lleisiau wrth galon popeth y mae n ei wneud. Mae r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru n wlad dda i fynd yn hŷn ynddi nid dim ond i rai ond i bawb. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. Yn annog arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru. Yn adolygu r gyfraith sy n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. 2
3 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Cymru Dylunio Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau gan gynnwys y Metro 1. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwyf yn croesawu r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gymru a r Gororau 1. Mae n adeiladu ar fy ymateb i r ymgynghoriad yn , fy mlaenoriaethau fel rhan o Banel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru a'r Panel Trafnidiaeth Hygyrch 3 newydd, fy ffocws ar drafnidiaeth cyfeillgar i oed yn y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru 4, ac yn rhoi cyfle arall i dynnu sylw at y problemau allweddol sy n wynebu pobl hŷn wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd. Adran A Cymru a r Gororau Trenau i gwrdd ag anghenion teithwyr 2. Yng nghyd-destun gwneud y mwyaf o r cyfleoedd a ddaw gyda phoblogaeth sy n heneiddio, bod angen symud tuag at ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau r Dyfodol (Cymru) a thynnu sylw at fodelau ataliol sy n grymuso a galluogi pobl hŷn ac eraill i fyw bywydau iach ac egnïol yn y gymuned, mae datblygu gwasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed yng Nghymru'n hanfodol bwysig. Mae dyluniad trenau n bwysig i gael pobl hŷn i fod yn fwy hyderus i ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd a sicrhau bod eu profiad ar fwrdd y trên yn un da fel eu bod yn defnyddio'r trên yn rheolaidd a chyson. 3. Mae r awgrymiadau a wneir i gyd yn bwysig i bobl hŷn, yn enwedig lle i roi bagiau, lle i fyrddau ar wahân a mwy o le i goesau. Mae n hollbwysig bod pobl hŷn yn gallu dod ar y trên a chadw eu bagiau n ddidrafferth a dod o hyd i sêt gyffyrddus gyda digon o amser a lle ar gael, pethau hanfodol wrth ddatblygu trenau tion_for_wales_borders_rail_consultation_response_cym.sflb.ashx /Welsh_Government_Public_Transport_Users_Advisory_Panel_PTUAP.aspx#.WRxMSOvyuM
4 cyfeillgar i oed. Mae gwelededd o ffenestri a threfn y seti hefyd yn bwysig gan dawelu meddyliau pobl hŷn o ran eu trefniadau eistedd. I bobl hŷn gyda nam ar eu synhwyrau neu nam gwybyddol, mae r pethau hyn a phethau eraill, e.e. arwyddion sy n gymorth i bobl gyda dementia, yn bwysicach fyth. 4. Mae datblygu a hyrwyddo dulliau egnïol o deithio ac annog pobl hŷn i gerdded a beicio i r orsaf drenau ac yn ôl yn bwysig i w hiechyd a u lles corfforol a meddyliol 5. Mae n anodd taro cydbwysedd priodol rhwng lle i deithwyr a lle i feics ac mae n bwnc sydd wedi i gysylltu i r drafodaeth am ehangu r stoc gerbydau rheilffordd. Mae dysgu o arferion da mewn mannau eraill hefyd yn bwysig, fel y parthau hyblyg ar drenau yng ngwlad Denmarc lle darperir seti sy n plygu a rhaciau i feics o dan y seti O ran defnyddio ail aelod o staff i helpu gyda diogelwch personol ac eiddo, i roi gwybodaeth ac i werthu tocynnau, mae hyn yn hanfodol i nifer o bobl hŷn. Mae n rhoi hyder iddynt ac yn tawelu eu meddyliau o ran defnyddio r trên gan gynnig cyswllt personol sydd taer ei angen i ateb unrhyw ymholiadau a chwestiynau ar y trên ac yn yr orsaf a helpu i atgyfnerthu'r ymrwymiad i drenau cyfeillgar i oed. Mae hefyd yn hollbwysig bod staff rheilffyrdd yn cael eu hyfforddi i helpu pobl gyda nam ar eu synhwyrau ac sy n byw gyda dementia, ac yn gwybod beth i w wneud i helpu pobl gyda dementia sy n mynd ar goll. Mae hyn eto n tawelu meddyliau pobl ac yn cynnig empathi a dealltwriaeth i rai sy n gyndyn efallai o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd pryderon am hygyrchedd. Rhaid hefyd ystyried pobl sydd angen mynediad i gadair olwyn arnynt a digon o le ar y trên, a dylai pobl hŷn ac eraill ddisgwyl gallu defnyddio toiledau glân, dibynadwy a hygyrch. Gorsafoedd i deithwyr a r gymuned 6. O ran datblygu gorsafoedd rheilffordd cyfeillgar i oed, unwaith eto mae n anodd blaenoriaethu rhai awgrymiadau'n hytrach nag eraill. Nid yw pobl hŷn yn un grŵp unffurf mawr, mae ganddynt wahanol anghenion ac amgylchiadau. Mewn gorsafoedd bach a mawr, mae
5 staff yn yr orsaf, pwyntiau cymorth, teledu cylch-cyfyng, lle i aros dan do, cyfleusterau i brynu tocynnau a phethau eraill, toiledau, lle parcio, arosfannau bws a phwyntiau gwybodaeth i gyd yn elfennau hanfodol wrth ddatblygu gorsafoedd cyfeillgar i oed. Dyma r gwasanaethau, y cyfleusterau a r seilwaith y mae pobl hŷn ei eisiau a'i angen mewn gorsafoedd rheilffordd ac maen nhw'n hanfodol i'w hannog i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. I bobl hŷn sy n defnyddio gwasanaethau digidol, mae cyfleusterau cysylltu i dderbyn data symudol a phwyntiau gwefru hefyd yn greiddiol ar gyfer derbyn gwybodaeth ddiweddar a dibynadwy a gallu cysylltu gyda ffrindiau a theulu. 7. Rhaid cael trafnidiaeth integredig oherwydd mae rhai pobl hŷn yn poeni am y diffyg cydgysylltu rhwng amserlenni bws a thrên lleol. Mae rheilffyrdd cyfeillgar i oed yn hanfodol i roi profiad da o ddrws i ddrws fel bod pobl hŷn yn gallu cyrraedd, a dod oddi ar, y bws yn yr orsaf rheilffordd. Mae hefyd yn hollbwysig bod teithwyr yn teimlo n ddiogel a hyderus ac mae angen i bobl hŷn deimlo n ddiogel wrth ddefnyddio r trenau, yn enwedig gyda r nos. Mae darparu teledu cylch-cyfyng a sicrhau bod staff yn yr orsaf yn bwysig iawn yn hyn o beth. Mae pobl yn disgwyl toiledau ac eto, mae'n rhoi hyder i bobl hŷn ac eraill o ran gallu defnyddio gwasanaethau rheilffordd. 8. O ran cyfleusterau ychwanegol mewn gorsafoedd, mae cyhoeddiadau clyweledol, digon o le i eistedd dan do a thu allan, lifftiau hygyrch a chyfleus er mwyn gallu cyrraedd a gadael y platfform, a digon o ganllawiau i afael ynddynt, hefyd yn bwysig 78. Mae hefyd yn bwysig ystyried anghenion pobl sy n byw gyda dementia, a cheir enghreifftiau o arferion da mewn mannau eraill fel yng ngorsaf drenau Efrog, yr orsaf gyntaf i fod yn gyfeillgar i ddementia yn y Deyrnas Unedig Mae cysylltiadau gyda chymunedau lleol hefyd yn bwysig ac rwyf yn croesawu unrhyw ymdrech i roi r orsaf drenau wrth galon y gymuned. Dylid dylunio gorsafoedd rheilffordd cyfeillgar i oed
6 gyda, ac nid ar gyfer, pobl hŷn ac eraill yn y gymuned. Mae angen ymgysylltu ac ymgynghori n rheolaidd ac ystyrlon i wella r amgylchedd a chyfleusterau a dylai r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffordd fanteisio ar y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn, yr 'arbenigwyr drwy brofiad' sydd yn y sefyllfa orau i fesur pa mor effeithiol fyddai dyluniad gorsaf. 10. Gall gorsafoedd rheilffordd gyda chyfleusterau siopa a chaffis hefyd weithredu fel canolfannau cymunedol gan annog gweithgareddau sy n pontio r cenedlaethau (a chysylltu i gartrefi gofal ac ysgolion lleol er enghraifft) a rôl ar gyfer cynghorau tref / cymuned ynghyd â fforymau a grwpiau cymunedol eraill. O ran talu i ariannu gwelliannau i gapasiti, ansawdd a diogelwch cyfleusterau parcio, er y gallai hyn fod yn dderbyniol i deithwyr hŷn, efallai na fyddai n opsiwn i deithwyr eraill. Mae angen i bobl weld gwasanaethau rheilffordd fel opsiwn cost-effeithiol, hygyrch a hawdd ei ddefnyddio, gan gynnwys pobl hŷn ac eraill o ardaloedd mwy difreintiedig. Gallai talu am barcio mewn gorsafoedd rheilffordd gymell rhai i beidio â defnyddio r trên ac mae angen mwy o ymchwil gyda theithwyr o bob oed cyn cyflwyno rhywbeth fel hyn. Gwasanaethau gwell 11. O ran pa mor aml y mae gwasanaethau n rhedeg, unwaith eto mae gan bobl hŷn wahanol anghenion ac amgylchiadau ynghyd ag ystod o flaenoriaethau o ran gwasanaethau brig a llai prysur, trenau cynt a hwyrach etc. Ar y cyfan, gorau'n byd yw r gwasanaethau rheilffordd o ran argaeledd, pa mor aml y maent yn rhedeg, amseroedd siwrne cynt a bod yn ddibynadwy, y mwyaf tebygol y bydd pobl hŷn o'u defnyddio. Mae gwasanaethau mwy uniongyrchol yn ffactor pwysig arall oherwydd gallai gorfod newid trenau a phlatfform gymell rhai pobl hŷn i beidio â defnyddio'r trên. 12. Fel y pwysleisiwyd yn flaenorol, mae cyswllt di-dor â gwasanaethau trên a bws eraill yn greiddiol gan helpu i ddatblygu dull trafnidiaeth cyfeillgar i oed mwy holistig yng Nghymru. Yn achos rhai pobl hŷn gyda nam gwybyddol neu drafferthion 6
7 symudedd, mae angen mynediad ar yr un lefel i drenau a bysiau ynghyd â staff sydd wedi eu hyfforddi i helpu pobl gyda nam ar eu synhwyrau ac sy'n byw gyda dementia, er enghraifft. Mae arwyddion clir a gwybodaeth mewn fformat hygyrch yn hynod bwysig i roi hyder i bobl hŷn o ran ble i fynd ac a oes ganddynt ddigon o amser i gyrraedd y trên / bws, ac wrth ddod oddi arnynt. Gwasanaethau trawsffiniol: Gwasanaethau a gorsafoedd yn Lloegr 13. O ran trosglwyddo cyfrifoldebau am reoli gorsafoedd, fy mlaenoriaeth yw sicrhau na chaiff pobl hŷn yng Nghymru eu heffeithio pan drosglwyddir cyfrifoldebau. Dylid aflonyddu cyn lleied â phosib wrth drosglwyddo perchnogaeth unrhyw gyfleusterau a sicrhau bod cynlluniau yn eu lle i liniaru unrhyw effaith bosib ar deithwyr. Ymddengys mai peth call fyddai trosglwyddo r cyfrifoldeb am orsafoedd trên yn Lloegr i weithredwyr trenau sy n gweithredu n llwyr neu n rhannol yn Lloegr, gan felly sicrhau bod ffocws Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a r Gororau ar ddatblygu gorsafoedd cyfeillgar i oed yng Nghymru. Fel y pwysleisiwyd yn flaenorol, mae n bechod bod y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru n anghyflawn ac nad yw n bosib cael siwrne gron o gwmpas Cymru. Dylai r fasnachfraint ystyried gwella r rhwydwaith yng Nghymru fel bod pobl hŷn o bob rhan o Gymru n gallu defnyddio r rheilffyrdd. Prisiau a thocynnau i hwyluso teithio ar y trên 14. Mae pobl hŷn yn gytûn ynghylch y pedwar opsiwn tocynnau a byddwn yn croesawu n arbennig y cynigion i gael tocynnau mwy integredig â dulliau trafnidiaeth eraill fel bysiau, a threfn docynnau symlach. Mae tocynnau integredig yn greiddiol bwysig ac mae angen cadw pethau'n syml i bobl hŷn wrth ddefnyddio'r trenau a'r bysiau. Byddai un tocyn a chynllun prisiau consesiynol integredig yn annog pobl hŷn i ddefnyddio amryw o ddulliau trafnidiaeth. Rwyf yn croesawu bod pobl yn cydnabod y dylid parhau i gael tocynnau papur yn ogystal â rhai digidol: er y byddai technoleg ddigidol ac apiau ar-lein yn apelio at rai pobl hŷn, byddai angen opsiynau 7
8 tocyn mwy traddodiadol ar eraill nad ydynt yn gyfarwydd â digidol; mae hyblygrwydd felly n hanfodol. Darparu gwybodaeth well 15. Mae darparu gwybodaeth ddiweddar a dibynadwy i bobl hŷn ac eraill, mewn nifer o wahanol fformatau, yn bwysig iawn. Unwaith eto, rhaid ystyried amrywiaeth anghenion pobl hŷn: i rai, mae gwybodaeth ddigidol drwy apiau, e-byst, gwefannau a'r cyfryngau cymeithasol yn bwysig. I bobl hŷn eraill nad ydynt yn defnyddio technolegau digidol, mae gwybodaeth yn yr orsaf ei hun, ar y trên a chan staff yn yr orsaf yn greiddiol bwysig. Mae gwybodaeth ddwyieithog mewn gwahanol fformatau hefyd yn bwysig. Fel gydag agweddau eraill ar wasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed, mae cydnabod bod gan deithwyr wahanol anghenion ac amgylchiadau n hollbwysig. Adran B Metro De Cymru 16. Mae datblygu r Metro yn ne Cymru'n bwysig ac mae ganddo'r potensial i wella ansawdd bywydau pobl hŷn yn y rhanbarth yn sylweddol. Mae r materion y tynnais sylw atynt ynglŷn â phobl hŷn hefyd yn berthnasol i r Metro, a byddwn yn ychwanegu r sylwadau canlynol: - Mae angen toiledau ar drenau ac yn yr orsaf. Mae mynd i'r toiled pan fo angen yn un o'n hawliau dynol mwyaf sylfaenol ac yn annog pobl hŷn ac eraill i ddefnyddio'r Metro'n hyderus; - Dylai fod gan bob platfform trenau fynediad lefel at drenau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl hŷn gyda nam ar eu synhwyrau a / neu symudedd; - Ni ellir pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw cael staff yn bresennol yn yr orsaf ac ar fwrdd y trên. I rai pobl hŷn mae n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran hyder, tawelu meddyliau a chynnig empathi a theimlad o ddiogelwch drwy gael cyswllt gyda phobl; - O ran Trafnidiaeth gyhoeddus well i bawb, mae r cynigion a gynigir i gyd yn berthnasol i bobl hŷn. Mae integreiddio a 8
9 thocynnau sy n integredig â thrafnidiaeth gyhoeddus arall yn allweddol, mae hefyd angen cyfleusterau parcio a theithio mewn gorsafoedd i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â siop un stop' i roi gwybodaeth am docynnau ac amserlenni etc drwy ddulliau digidol a thraddodiadol. 17. Gyda phoblogaeth sy n heneiddio, bydd mwy a mwy o bobl hŷn eisiau neu n wir bydd angen iddynt weithio am hirach ac mae'n hanfodol bod ganddynt drafnidiaeth gyhoeddus integredig, ddibynadwy ac effeithiol i fynd i ac o'r gweithle. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos gweithwyr hŷn sydd efallai heb gar neu fynediad at gar. I bobl hŷn sydd wedi ymddeol, mae'r un dull yn berthnasol o ran gallu manteision ar gyfleoedd hamdden a diwylliannol, amwynderau a gwasanaethau ac i ymweld â ffrindiau a theulu. Yn unol ag amcanion lles cenedlaethol a r agenda atal, y nod yw cael pobl i ddefnyddio llai ar eu ceir a datblygu canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy i bobl o bob oed, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel yn greiddiol i hyn. Casgliad 18. Rwy n gobeithio bod y sylwadau hyn yn ddefnyddiol a phwysleisiaf pa mor bwysig yw datblygu gwasanaethau rheilffordd cyfeillgar i oed a dementia yng Nghymru. Hoffwn gyfeirio at rai o nodweddion allweddol rheilffyrdd cyfeillgar i oed yn ôl ein cydweithwyr yn y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR): rhaid i drenau fod yn hygyrch; rhaid cael system docynnau integredig a syml; staff cyfeillgar a pharod i helpu; rhaid i drenau fod yn ddiogel i bawb, h.y. teithwyr yn, ac yn teimlo'n ddiogel; cael ei weld fel gwasanaeth deniadol h.y. glân ac wedi i gyflwyno'n dda; a system ddeallus seiliedig ar wybodaeth Mae gan bobl hŷn, fel rhai o bob oed, hawl i ddisgwyl gwasanaethau rheilffordd diogel, glân, prydlon a dibynadwy, sy n ymateb yn effeithiol i bob tywydd, yn ceisio lleihau amseroedd siwrne, yn cysylltu pobl ag amwynderau pwysig, sydd â age_friendly_rail_travel 1_.pdf 9
10 chyfleusterau addas i bob oed ac sy'n cynnig gwerth am arian. Er i nifer y teithwyr ar drenau dyfu n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, o 60 oed ymlaen mae llai'n defnyddio'r rheilffyrdd. Mae hyn yn awgrymu bod angen marchnata wedi i dargedu ynghyd ag ymgysylltu ac ymgynghori â phobl hŷn i hyrwyddo manteision gwasanaethau rheilffordd, er mwyn deall y pryderon a r rhwystrau a u hannog i ddefnyddio r trenau yng Nghymru n gyson. 20. Drwy r paneli uchod a thrwy Heneiddio n Dda yng Nghymru, edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn llawn yng Ngwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau, o'i ddylunio i'w ddarparu, a bod y fasnachfraint newydd yn gweithredu ar ei hymrwymiadau cyfeillgar i oed drwy ymateb i anghenion ac amgylchiadau r genhedlaeth bresennol o bobl hŷn, a rhai i ddod. 10
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY:
ON TRACK FOR THE 21 ST CENTURY: A DEVELOPMENT PLAN FOR THE RAILWAYS OF WALES AND THE BORDERS Railfuture Cymru/Wales calls on Assembly election candidates to push for radical improvements to Welsh rail
More informationGwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016
Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016 Cynnwys Cyflwyniad... 2 Disgrifiad o'r rhwydwaith... 2 1 Crynodeb o r polisi... 3 2 Cymorth i deithwyr... 3 3
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationBwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationBrexit a Hawliau Plant yng Nghymru i
Brexit a Hawliau Plant yng Nghymru i CYFLWYNIAD Mae plant yn cynrychioli chwarter o boblogaeth y DU sy'n cynnwys 718,248 o blant a phobl ifanc 0-19 oed sy'n byw yng Nghymru 1. Mae Plant yng Nghymru yn
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationYmateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru
Ymateb Passenger Focus i Ddrafft Ymgynghori Network Rail o Strategaeth Defnyddio Llwybrau (RUS) yng Nghymru Awst 2008 Passenger Focus yw r corff cenedlaethol annibynnol sy n diogelu buddiannau defnyddwyr
More informationWe need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the M4, Magor to Castleton
Welcome We need your help to shape a strategy to reduce traffic congestion on the, Magor to Castleton croeso Mae angen eich help chi arnom i lunio strategaeth i leihau tagfeydd traffig ar yr, Magwyr i
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationTalu costau tai yng Nghymru
Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationCyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42
Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationHawliau Plant yng Nghymru
Hawliau Plant yng Nghymru Hawliau Plant yng Nghymru Hydref 18 Cyflwyniad Mae ychydig dros 550,000 o blant 0-15 oed yn byw yng Nghymru, ac mae 350,000 arall rhwng 16 a 24 oed. 1 Gan mai fi yw, fy rôl i
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationStrategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru
Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru 2018-2023 1 CYNNWYS 1. Rhagymadrodd gan Gefnogwr Rhanbarthol Atal Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais
More informationWales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report
Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report Published: July 2015 260-119555 Date Page 2 of 108 Foreword Background This publication is the main results report from the 2014 Welsh Outdoor Recreation
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationStrategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin Crynodeb Gweithredol
CWM RHAEADR CRYCHAN FOREST LLANDOVERY Carmarthen to Newcastle Emlyn Merlin Druid Route BRECHFA NCN 47 Carmarthen to Brechfa Merlin Wizard Route CARMARTHEN ST. CLEARS LLANDYBIE CROSS HANDS NCN 4 KEY: NCN
More informationCanllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Ionawr 2018 Hawlfraint y Goron 2018 WG33909 ISBN digidol 978-1-78903-394-6 Cynnwys Rhif
More informationSafonau Iechyd a Gofal. Ebrill 2015
Safonau Iechyd a Gofal Ebrill 2015 Rhagair Rhagair gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ar 9 Gorffennaf 2013 fe roddon ni ymrwymiad i adolygu a diweddaru r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationCEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU
CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationBe part of THE careers and skills events for Wales
Be part of THE careers and skills events for Wales VENUE CYMRU LLANDUDNO 5 & 6 OCTOBER 2016 MOTORPOINT ARENA CARDIFF 12 & 13 OCTOBER 2016 www.skillscymru.co.uk Join the conversation @skillscymru Organised
More informationGweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad
Rhif: WG33010 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018 Camau i w cymryd:
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationManiffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Maniffesto 2016 y Gynghrair Cefn Gwlad ar gyfer Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyfathrebu Digidol Mae twf digidol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru, ac felly mae angen polisïau arloesol i
More informationCynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu
Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 n Croeso Croeso Mae Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu 2015-2018 yn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer sicrhau
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationTaro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg
Rhif: WG32353 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori ar y Papur Gwyn Taro r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 31 Hydref 2017
More informationAdroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.
Adroddiad yn dilyn monitro Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY Dyddiad yr ymweliad: gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Hawlfraint
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationDysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion
Medi 2013 Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion Arolwg o ysgolion i werthuso effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru Cynnwys Crynodeb gweithredol tudalen 3 Cyflwyniad tudalen 5 Yr arolwg
More informationCymorth i Ferched Cymru Fersiwn 5 Cymorth i Ferched Cymru Rhoi Merched a Phlant yn Gyntaf
Cymorth i Ferched Cymru Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig Arbenigol Dogfen Gyflwyno Fersiwn 5 Chwefror 2018 Cymorth i Ferched Cymru Welsh Women s Aid Rhoi
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationBil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol
Bil yr Amgylchedd (Cymru) Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a r Nodiadau Esboniadol Mai 2015 1 BIL YR AMGYLCHEDD (CYMRU) Memorandwm Esboniadol i Fil yr Amgylchedd (Cymru)
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationRwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau
Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationDarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd. Gwledydd y DU a'u rhanbarthau Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2015 1 Y ddogfen hon Fel rhan o Adolygiad Ofcom o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus,
More informationDatblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru
Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru Ebrill 2010 CYNNWYS I II Crynodeb gweithredol Cefndir, pwrpas a dulliau Cyflwyniad Cefndir Methodoleg Cydnabyddiaethau Strwythur yr Adroddiad III IV V VI
More informationASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005
ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO Hydref Rhagfyr 2005 Wedi ei baratoi ar gyfer: S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru Cyswllt y cleient: Carys
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationAdolygiad Blynyddol Newid gêr
Adolygiad Blynyddol 2016-17 Newid gêr Cymerodd 1,693 o ysgolion ran yn Y Big Pedal 2017 Ynglŷn â Sustrans Sustrans yw r elusen sy n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio. Rydym yn beirianwyr, yn addysgwyr,
More informationCyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd
Cyfarfod Grŵp Cyswllt Prosiect Wylfa Newydd Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyswllt Wylfa Newydd a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Hydref yn Ystafelloedd Eleth a Eilian. Yn bresennol Enw Geraint Hughes Jac Jones Jean
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationPOLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON
POLISI AMDDIFFYN PLANT YSGOL GYNRADD ABERAERON Adolygwyd y polisi: Cadeirydd y Llywodraethwyr: Pennaeth: 1 Cafodd Gweithgor Diogelu ERW'r dasg o greu polisi amddiffyn plant safonol i'w defnyddio mewn ysgolion
More informationAsesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r
Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r ddogfen ymgynghori 12 Rhagfyr 2016 Asiantaeth yr Amgylchedd
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationAsesiad Lles Wrecsam
Wrecsam Iachach Ffordd o Fyw Gordewdra Chwaraeon Iechyd Meddwl Unigedd Dementia Gofalwyr Talu Cyflogaeth Iechyd Addysg Diogelwch Personol Cynrychiolaeth Wrecsam Mwy Cyfartal Balchder Gwirfoddoli Ysbryd
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationTeimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel
Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationGWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol
GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol Ymchwil gan Brifysgol Northampton 2007-2009 Rhagair Sut bydd Gwobr
More informationAdolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol
Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2017 Gair am y ddogfen hon Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o r broses o reoleiddio r Post Brenhinol. Cafodd
More information