Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Size: px
Start display at page:

Download "Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel"

Transcription

1 Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1

2 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster proffesiynol ac eraill wedi byw trwy gyfnodau o drallod mawr ein hunain. Rydym i gyd eisiau sicrhau eich bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi i gadw n ddiogel a sut i gael ato. Rydym yn gwybod eich bod efallai yn teimlo n hollol ddiymadferth rydym yn falch eich bod wedi cymryd amser i ddarllen hwn. Er gwaethaf teimlo nad oes gennych unrhyw reolaeth dros eich bywyd, efallai bod rhai pethau y gallwch chi ac eraill eu gwneud i wella r sefyllfa. Bydd pobl sydd wirioneddol eisiau eich helpu. Efallai eich bod yn eu hadnabod yn barod, fel eich teulu neu eich ffrindiau, neu efallai eu bod yn weithwyr proffesiynol nad ydych wedi u cyfarfod eto. Pan fydd pethau n mynd o chwith Mae pethau drwg yn digwydd i ni i gyd ond gall fod yn anodd siarad amdanyn nhw. Gall pobl eraill deimlo ei bod yn anodd helpu. Maent yn ei gweld hi n anodd gwybod beth i w ddweud wrth rywun sy n ei chael hi n anodd. Pan fydd pethau n mynd o chwith, mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol. Mae n bosibl i chi deimlo n gynhyrfus, mewn sioc neu n ddideimlad. Gallwch deimlo eich bod wedi 2

3 eich gorlethu â ch teimladau neu wedi ch datgysylltu ohonynt. Gallwch deimlo n unig iawn pan fyddwch mewn trallod. Rydym yn gobeithio y gall y daflen hon eich helpu i deimlo n llai unig, er gwaethaf eich gofidiau. Bywyd gwerth ei fyw Mae n hawdd teimlo fod pethau n ormod pan fo rhywbeth drwg yn digwydd. Efallai nad oes ateb syml neu bod y boen yn ormod i w dygymod. Efallai y byddwch yn teimlo nad yw eich bywyd werth ei fyw. Efallai mai dyma r amser i gael cymorth. Mae meddyliau hunan-laddol yn eithaf cyffredin, ond rydym yn tueddu i beidio â siarad amdanynt. Gall fod yn chwithig neu n frawychus dweud wrth rywun am feddyliau preifat o r fath. Ac mae r rhan fwyaf o bobl sydd â meddyliau hunan-laddol yn llwyddo i gadw eu hunain yn ddiogel. Bod yn onest â ch hunan yw r cam cyntaf i gadw ch hunan yn ddiogel. Os ydych yn darllen y daflen hon, gall fod yn ddefnyddiol rhannu eich pryderon a ch trallod â pherson arall. Nid yw byth yn rhy hwyr i weithredu, hyd yn oed os yw r sefyllfa n ymddangos yn anobeithiol. 3

4 All rhywun fy neall? Gall fod yn anodd rhannu meddyliau a theimladau preifat. Ond os rhannwch, gall helpu a gall fod yn fodd real o oresgyn cyfnod drwg. Sut bynnag y byddwch yn teimlo, a waeth pa mor bersonol mae n ymddangos, bydd eraill wedi mynd trwy brofiadau tebyg ac felly yn deall rhywfaint o r hyn yr ydych yn ei brofi. Dod o hyd i help Y cam cyntaf yw dod o hyd i rywun y gallwch ymddiried ynddo/ynddi. Efallai bod gennych rywun mewn sylw yn barod. Gall siarad a chael rhywun i wrando helpu i weld pethau n gliriach yn eich meddwl a theimlo n fwy gobeithiol. Weithiau mae n haws siarad am bethau gyda rhywun sydd ddim yn eich adnabod. Efallai y bydd yn anodd credu bod rhywun nad ydych wedi eu cyfarfod o r blaen yn pryderu amdanoch chi a ch sefyllfa, ond mae na bobl sydd yn pryderu amdanoch ac sydd eisiau gwrando. Os ydych chi n meddwl am niweidio eich hun mewn unrhyw ffordd, byddwn ni n eich annog i: ddweud wrth berthynas neu ffrind y gallwch ymddiried ynddo/ynddi trefnu apwyntiad i weld eich Meddyg Teulu cysylltu ag un o r sefydliadau a restrir yn y daflen hon 4

5 mynd i Adran Achosion Brys (D a AB gynt) yn eich ysbyty lleol. Helpu ch hun Gallwch helpu ch hun mewn sawl ffordd. Gallwch ddechrau trwy wneud cynllun diogelwch ar eich cyfer. Cynllun yw hwn i ch cadw n ddiogel bydd yn gweithio orau os byddwch chi wedi ei lunio eich hun, a dewis y math o gefnogaeth yr ydych yn meddwl fydd yn fuddiol. Dim ond chi all ddod o hyd i ch rhesymau personol dros fyw. Os ydych yn ei gweld hi n anodd meddwl am unrhyw ddyfodol, gall hyn fod yn amser i chi feddwl am adael i rywun arall eich helpu i ymdopi yn y cyfnod anodd. Gwneud Cynllun Diogelwch Gall cynllun diogelwch helpu i drefnu eich meddyliau, fel eich bod yn cael y gefnogaeth gywir ar adeg pan fyddwch ei hangen. Gwnewch restr syml o r pethau y gallwch eu gwneud dros eich hun a r bobl yr hoffech iddyn nhw eich cefnogi. Mae n haws os ydych yn gwybod efo pwy y byddwch yn gallu siarad cyn eich bod eu hangen. Efallai y byddwch eisiau gofyn i rywun eich helpu i lunio r cynllun. Efallai y bydd yn ddefnyddiol cynnwys nodiadau i ch atgoffa o bethau da mewn bywyd, a r pethau i edrych ymlaen atynt yn y dyfodol. 5

6 Gall cynllun diogelwch gynnwys: Gweithgareddau: cymryd rhan mewn chwaraeon neu fynd am dro gwrando ar gerddoriaeth sy n eich gwneud i deimlo n hapus chwarae offeryn neu hyd yn oed ddrymiau dychmygol cofnodi eich teimladau ar bapur edrych ar ôl anifail anwes neu fynd â chi ffrind am dro gwneud rhywbeth i helpu rhywun arall does dim byd gwell na gwybod bod gennych bwrpas mewn bywyd Enwau ffrindiau a theulu cefnogol Nodyn ar eich ffôn symudol neu yn eich poced, waled neu bwrs o r bobl a r pethau yr ydych yn eu caru; mae rhai pobl yn cario llun o rywun neu anifail sy n bwysig iddyn nhw Cefnogaeth broffesiynol Sefydliadau cefnogaeth gwirfoddol (gweler isod) Pethau i w gwneud os bydd y meddyliau hunan-laddol yn cryfhau neu eich bod yn methu eu hanwybyddu. Cadwch y daflen hon mewn man diogel. Does wybod pryd y byddwch chi neu rywun pwysig i chi ei hangen. 6

7 FY NGHYNLLUN DIOGELWCH

8 Awgrymiadau defnyddiol i w hystyried Mae miloedd o bobl bob dydd yn ei chael hi n anodd ymdopi... ond maent yn darganfod ffyrdd i ddod dros y teimladau cryf fel nhw, gallwch chi ddod trwy hyn Rhaid i chi ymdopi ag un diwrnod ar y tro. Gall eich trallod fod yn arwydd eich bod angen newid rhywbeth yn eich bywyd. Sefydliadau cefnogi i bobl sy n drallodus, yn cael meddyliau hunan-laddol neu sy n hunan-niweidio, a u teuluoedd Bydd popeth y byddwch yn ei ddweud yn gwbl gyfrinachol. Mae r gwirfoddolwyr yn bobl gyffredin ac ni fyddant yn eich barnu. Rhestrir rhai o r prif sefydliadau isod. Cewch gysylltu â faint fynnoch chi mae i fyny i chi ac mae n iawn cysylltu â mwy nag un. Samariad: Tel: (24/7); e-bost: jo@samaritans.org Gwasanaeth llinell gymorth 24/7 sy n darparu lle diogel i chi siarad am beth sy n digwydd, sut ydych yn teimlo a sut i ddod o hyd i ch ffordd ymlaen. Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn bobl gyffredin o bob lliw a llun sy n deall bod rhai pethau weithiau na allwch eu trafod gyda phobl sydd o ch cwmpas. Maent yn gwybod, yn aml gydag amser a lle, bod pobl yn gallu dod o hyd i w hatebion eu hunain. 8

9 PAPYRUS HOPELineUK Ffôn: ( Llun Gwener 10am 5pm a 7pm -10pm ac ar benwythnos 2pm 5pm). Nod PAPYRUS yw rhwystro pobl ifanc rhag lladd eu hunain. Mae r llinell gymorth â staff proffesiynol yn darparu cefnogaeth, cyngor ymarferol a gwybodaeth i bobl ifanc sy n poeni am eu hunain, ac i unrhyw un sy n poeni am berson ifanc a all hunan-niweido. Mae gan PAPYRUS nifer o adnoddau defnyddiol yn cynnwys cardiau cyswllt HOPELine UK. Ffoniwch neu Ffacsiwch am becyn sampl. Cymorth arbenigol i bobl sy n hunan-niweidio Get Connected: Ffôn: (1pm 11pm) Yn cynnig help dros y ffôn a thrwy e-bost i bobl ifanc (dan 25 oed) sy n hunan-niweidio. TheSite.org Mae TheSite.org yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bob unigolyn oed yn y DU. Mae n cynnwys cefnogaeth a chyngor penodol am hunan-niweidio. RecoverYourLife: Cymuned Gefnogi Hunan-Niwed y Rhyngrwyd. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth ar gyfer unrhyw broblem emosiynol, yn cynnwys hunan-niwed. 9

10 Cefnogaeth benodol ar gyfer plant a phobl ifanc Beatbullying: Mae Beatbullying yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y DU i atal bwlio ac mae n helpu pobl ifanc i gefnogi ei gilydd. ChildLine: Ffôn: Os wyt ti n poeni am unrhyw beth, gall fod yn rhywbeth mawr neu fach, paid â i gadw i ti dy hun. Gall siarad â rhywun wir helpu. Os oes rhywbeth ar dy feddwl, mae ChildLine yno i ti. Selfharm.co.uk: Gwefan ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed a affeithir gan hunanniwed. E-bost: info@selfharm.co.uk Mae YoungMinds: wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ganddynt lawer o wybodaeth Ffynonellau cefnogaeth eraill Big White Wall: Gwasanaeth dienw, diogel, ar lein i bobl dros 16 oed. Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth eraill sy n teimlo fel chi, 24/7, a dysgu ffyrdd i deimlo n well a sut i ymdopi â ch problemau 10

11 eich hun. Cadwch yn ddiogel trwy gefnogaeth 24/7 Tywysyddion Wal (Wall Guides) hyfforddedig. Breathing Space: Ffôn: (diwrnod gwaith: Llun Iau: 6pm -2am; Penwythnos: Gwener 6pm Llun 6am). Mae Breathing Space yn wasanaeth cyfrinachol ar y ffôn ac ar lein ac am ddim i bobl yr Alban sy n profi ysbryd isel, iselder neu bryder. Llinell gymorth CALL (Cymru): Ffôn: Gwasanaeth am ddim 24/7 yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion perthynol i bobl Cymru. Tecstiwch help i CALM: Campaign Against Living Miserably: Ffôn: Yn cynnig cymorth trwy r wefan a llinell gymorth i ddynion rhwng oed sy n isel eu hysbryd. Cynigir cefnogaeth a gwybodaeth i r sawl sy n ffonio. Mae r galwadau yn gyfrinachol, dienw ac am ddim. Mae r llinell gymorth ar agor o 5pm hanner nos, ddydd Sadwrn, Sul, Llun a Mawrth, bob 11

12 wythnos o r flwyddyn. Rhif Testun 07537, dechreuwch eich neges testun cyntaf gyda CALM1. Consumer Counselling Credit Services: Gwasanaeth cefnogi ar lein am ddim yn darparu cyngor ymarferol a dienw am faterion ariannol a dyled. CRUSE Bereavement Care: Linell gymorth: , e-bost: helpline@cruse.org.uk Depression Alliance: Ffôn: Gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth i bobl sy n dioddef gan iselder, ac i deuluoedd sy n dymuno helpu. Grwpiau hunangymorth, gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o iselder. E-bost: information@depressionalliance.org.uk Depression UK: Grŵp cyd-gymorth cenedlaethol i bobl sy n dioddef gan iselder. E-bost: info@depressionuk.org Drinksmarter: Linell gymorth: Ffoniwch yn rhad ac am ddim unrhyw bryd i siarad â rhywun yn gyfrinachol am alcohol. 12

13 Mind: Llinell wybodaeth: (Llun Gwener 9am-6pm) Darparu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys mathau o drallod meddyliol, lle i gael help ac eiriolaeth. Maent yn gallu darparu manylion cymorth a chefnogaeth i bobl yn eu hardal eu hunain. E-bost: info@mind.org.uk National Debtline: Ffôn: Cyngor cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim ar sut i ddelio â phroblemau dyled. Galw Iechyd Cymru: Ffôn: Am gyngor iechyd ac i dawelu meddwl, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. SANE: SANEline: pm (11pm); e-bost: san @sane.org.uk Cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth arbenigol i unrhyw un mae iechyd meddwl wedi eu haffeithio, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr. Mae SANE yn cynnig cefnogaeth 1:1 trwy linell gymorth ac e-bost a chefnogaeth cyfoedion trwy Fforwm Cefnogaeth ar-lein lle mae pobl yn rhannu eu teimladau a u profiadau o iechyd meddwl, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth am opsiynau cefnogaeth a thriniaeth. Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS): Llinell gymorth: (9am 9pm bob dydd). 13

14 UK National Drugs helpline: Ffôn: Gwasanaeth 24/7 yn cynnig cyngor a gwybodaeth dros y ffôn yn gyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sy n pryderu, neu sydd â chwestiynau, am gyffuriau. Grwpiau Cefnogi Manylion am sefydliadau cefnogi cleifion y DU, grwpiau hunangymorth, darparwyr gwybodaeth iechyd a chlefyd, ayyb... Mae pob cofnod yn cael ei groesgyfeirio a i wirio yn flynyddol. This leaflet has been endorsed by the College of Emergency Medicine and the Royal College of Nursing. 14

15

16 Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cynhyrchu: ystod eang o wybodaeth iechyd meddwl i gleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol daflenni gwybodaeth ar driniaeth yn seiciatreg, megis gwrthiselyddion a Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) llawer o'n taflenni a thaflenni ffeithiau wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill gan gynnwys Arabeg, Wrdw, Pwyleg a Ffrangeg. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer gofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl hefyd wedi cael ei gynhyrchu gan y 'Partneriaid mewn Gofal' ymgyrch. Gellir eu llwytho i lawr o I gael catalog o'n deunyddiau, cysylltwch â'r Adran Taflenni, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 17 Belgrave Square, Llundain SW1X 8PG. Ffôn 44 (0) est. 6259, Ffacs 44 (0) ; E-bost leaflets@rcpsych.ac.uk. Lluniwyd y daflen gan Fwrdd Golygyddol Addysg Cyhoeddus Goleg Brenhinol Seiciatryddion. Golygydd y Gyfres: Dr Philip Timms Prif Awduron: Dr Alys Cole-King, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol/Open Minds Alliance CIC gyda sylwadau gan yr Athro Stephen Platt, Dr Gill Green (STORM), Dr Chris Manning, Martin Seager o Fwrdd Ymgynghorol Iechyd Meddwl y Coleg Meddygaeth, Joe Ferns o r Samariaid, a Dr Philip Timms gyda chyfraniadau gan Fforwm Iechyd Meddwl RCGP/RCPsych. Illustration by Lo Cole: Mae r daflen yn adlewyrchu r dystiolaeth orau oedd ar gael adeg ei hysgrifennu. Cefnogir y daflen gan Goleg Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol Nyrsio. Awst I w hadolygu: Awst Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gellir lawr-lwytho r daflen, ei phrintio, ei llungopïo a i dosbarthu yn rhad ac am ddim cyn belled ag y cydnabyddir Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac na fydd unrhyw elw i w gael o i defnyddio. Rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu r daflen maen unrhyw ffurf arall gan y Pennaeth Cyhoeddiadau. mailto:djago@rcpsych.ac.uk Nid yw r Coleg yn caniatáu ail-bostio ei daflenni ar unrhyw safle arall, ond caniateir cyswllt uniongyrchol iddynt. DIM IECHYD HEB IECHYD MEDDWL The Royal College of Psychiatrists is a charity registered in England (228636) and in Scotland (SC038369).

SESIWN HYFFORDDI STAFF

SESIWN HYFFORDDI STAFF SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau

More information

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben

More information

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd

More information

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community

More information

Holiadur Cyn y Diwrnod

Holiadur Cyn y Diwrnod LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl

More information

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth

More information

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court 5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.

More information

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA

More information

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny

More information

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi

More information

W46 14/11/15-20/11/15

W46 14/11/15-20/11/15 W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil

More information

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus

More information

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl Y canllaw canser The Cancer Guide Ynglyˆn Ynglŷn â r llyfryn hwn 1 Ynglŷn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu i ddeall beth mae canser yn ei

More information

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora? DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau

More information

W39 22/09/18-28/09/18

W39 22/09/18-28/09/18 W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to

More information

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

ARWEINLYFR I FYFYRWYR ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i

More information

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant

More information

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help

More information

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the

More information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous. BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau

More information

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi. Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn

More information

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods

More information

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present

More information

Addysg Oxfam

Addysg Oxfam Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd

More information

Swim Wales Long Course Championships 2018

Swim Wales Long Course Championships 2018 Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at

More information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!

More information

The Life of Freshwater Mussels

The Life of Freshwater Mussels The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell

More information

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism

More information

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places

More information

Products and Services

Products and Services Products and Services The Widdershins Centre Widdershins is an exciting Ageing Well Resource Centre, ideally located in the centre of Torfaen, offering a wide range of services and facilities. The centre

More information

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau

More information

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y

More information

E-fwletin, Mawrth 2016

E-fwletin, Mawrth 2016 Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno

More information

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42 Cyfle i Aros Yn eu geiriau eu hunain Weithiau, pan fo pethau n wirioneddol anodd, rwy n teimlo fel gwneud rhywbeth gwirion, wyddoch chi? Rwy n teimlo fel cyflawni trosedd fach, dim byd mawr, dim ond rhywbeth

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion

More information

Talu costau tai yng Nghymru

Talu costau tai yng Nghymru Talu costau tai yng Nghymru Trosolwg Mae r papur hwn yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg 1 a gomisiynwyd ar y cyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yr haf diwethaf i bennu i ba raddau y mae pobl

More information

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

APIAU CYMRAEG. C.Phillips APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan

More information

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m

More information

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our

More information

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil

More information

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig

More information

Summer Holiday Programme

Summer Holiday Programme Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200

More information

Os hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk

Os hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk Trawiad ar y galon 2 GAIR AM Y BRITISH HEART FOUNDATION A ninnau n elusen calon y genedl, rydym wedi bod yn ariannu gwaith ymchwil arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Ond mae sefyllfa

More information

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:

More information

Esbonio Cymodi Cynnar

Esbonio Cymodi Cynnar Sut all Acas helpu Esbonio Cymodi Cynnar inform advise train work with you Beth mae ACAS yn ei wneud? Acas yw r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Rydym yn sefydliad annibynnol sy n derbyn arian

More information

Addewid Duw i Abraham

Addewid Duw i Abraham Beibl i Blant yn cyflwyno Addewid Duw i Abraham Awdur: Edward Hughes Lluniau gan: Byron Unger; Lazarus addaswyd gan: M. Maillot; Tammy S. Cyfieithydd: Catrin Roberts Cynhyrchwyd gan: Bible for Children

More information

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37

Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37 Catchphrase 2003: Ysbyty Brynaber - Week 37 Key language Byth/Erioed Am Mae arna i New Words Erbyn hyn Hollol farw Dod â Ymddygiad Gollwng Tywallt Stido (NW) Creulon Ffwdanu Yn barod Canlyniadau r profion

More information

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W40 1/10/16 7/10/16 Pages/Tudalennau: 2 Alfie s Angels 3 Cardiff Half Marathon 2016 Live 4 X-Ray 5 Fat v Carbs with Jamie Owen 6 Keeping the Euros dream alive 7 Gareth Thomas: Alfie s Angels 8 Pobol y

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are

More information

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr! croeso... I rifyn gwanwyn / haf Cwtsh. Rydym yn dal i gael ein syfrdanu

More information

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short

More information

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with: Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR

More information

offered a place at Cardiff Met

offered a place at Cardiff Met UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the

More information

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono

More information

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946 LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR Ffatri baco, Amlwch 1938-1942, a rhai misoedd yn c. 1946 Cyfwelai: VN056 Sali (Sarah) Williams Dyddiad: 17: 11: 2014 Cyfwelydd: Kate Sullivan ar

More information

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd

More information

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau

More information

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm W49 05/12/15-11/12/15 Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Aberfan 5 Bancyfelin

More information

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on Rhondda Cynon Taf Learning Festival Adult Learners Week 18-26 May 2013 Events are FREE! *unless otherwise stated What s on 800 fun learning events and taster sessions Wales-wide Over 20,000 people across

More information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr

More information

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref

More information

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter Awst August 2012 Bwcabus Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect Llythyr Newyddion Newsletter www.bwcabus.info Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our rural communities

More information

W42 13/10/18-19/10/18

W42 13/10/18-19/10/18 W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend

More information

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan Cynllun Sion s Plan Enw Llawn / Full Name: Sion Davies Dyddiad Geni / Date of Birth: 04.06.10 Lleoliad Addysgol / Educational Placement: Ysgol Tan

More information

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth

More information

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Gwybodaeth am Hafan Cymru PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled

More information

W44 27/10/18-02/11/18

W44 27/10/18-02/11/18 W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd

More information

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth

More information

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad

More information

W50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau:

W50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau: W50 12/12/15-18/12/15 Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 Wales in the Eighties: The Fight for Survival 4 Coming Home: Iwan Thomas 5 Welsh Sports Review 2015 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

More information

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How

More information

Adviceguide Advice that makes a difference

Adviceguide Advice that makes a difference Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth

More information

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77 Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77 Key Language Mor + mutation Ar fin Moyn i /eisiau i New Words Straen Wedi blino n lân Anrhegion Treulio Osgoi Cwpla Cymhleth Argol! Gwneud lles i rywun Cymdeithasu

More information

TWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol

TWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol 4 YDD ARGRAFFIAD TWYLL MAWR Yn NatWest byddwn yn defnyddio technegau soffistigedig i adnabod twyll, sylwi ar weithgarwch amheus a helpu i ddiogelu ein cwsmeriaid. Rydym yn gweithio gyda Friends Against

More information

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN Ffôn: 01239 891267. Ebost: head.eglwyswrw@pembrokeshire.gov.uk 19/10/18

More information

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400. Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg

More information

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu

More information

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W45 4/11/17-10/11/17 2 David Hurn: A Life in Pictures 3 James and Jupp 4 Wales Live 5 Shane: For the Love of the Game 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Port Talbot 3 Swansea / Abertawe

More information

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler

More information

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners ********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol

More information

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach RM2160_10085_RMX12_DL_Bi.indd 16 Dosbarthu mwy Arweiniad i ch gwasanaethau post dros y Nadolig 2011 13/10/2011 09:38 Fe wyddom pa mor anodd y gall fod yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond does dim rhaid i ch

More information

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015 Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 15 Lent 15 Adnodd ieuenctid Youth resource The English-language follows the Welsh-language version 3 Adnodd Ieuenctid RHAN 1: DECHREUADAU DARLLENIAD YR WYTHNOS

More information

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination

More information

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the

More information

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: W2 6/1/18-12/1/18 2 Match of the Day Wales: Newport County v Leeds United 3 The River Wye with Will Millard 4 The Miners Who Made Us 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenavon /

More information

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer

More information

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU ARWEINIAD ARFER GORAU Crown copyright 02/11 Registered charity number 219279 www.britishlegion.org.uk CYNNWYS Mae r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth galon

More information

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300

More information

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain

More information

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau Diolchiadau Hoffen ni ddiolch i r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma. Rydyn ni n arbennig o ddiolchgar i Gwyther Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol

More information

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd

More information

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent Cynnwys Contents Welcome Croeso What level? Pa lefel? How often? Pa mor aml? What type of course? Pa fath o gwrs? Examinations Arholiadau Supporting Learners Cefnogi Dysgwyr How to enrol? Sut i gofrestru?

More information

2004: Ysbyty Brynaber - Week 66

2004: Ysbyty Brynaber - Week 66 2004: Ysbyty Brynaber - Week 66 Key Language Dod â/mynd â to bring/to take Clywed NW/SW plurals: -oedd or au? New Words and Phrases Gweiddi to shout Casáu to hate Ai peidio? or not? Triniaeth treatment

More information

NatWest Ein Polisi Iaith

NatWest Ein Polisi Iaith NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600

More information