Esbonio Cymodi Cynnar
|
|
- Margery Stafford
- 5 years ago
- Views:
Transcription
1 Sut all Acas helpu Esbonio Cymodi Cynnar inform advise train work with you
2 Beth mae ACAS yn ei wneud? Acas yw r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu. Rydym yn sefydliad annibynnol sy n derbyn arian cyhoeddus i hyrwyddo cysylltiadau cyflogaeth da ac i helpu datrys anghydfodau cyflogaeth. Os bydd gan rywun anghydfod yn y gwaith a bydd y person hwnnw neu ei gyflogwr yn gofyn am help gennym, gallwn weithio gyda nhw i geisio canfod datrysiad sy n dderbyniol i bawb, er mwyn iddynt allu osgoi r angen am hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth. Gelwir y broses yn Cymodi. Cyhoeddwyd cyflwyniad Cymodi Cynnar yn rhan o r Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio Mae r daflen hon yn esbonio sut fydd y gwasanaeth Cymodi Cynnar yn gweithio. Os oes gennych chi anabledd, rhowch wybod i ni os oes angen i ni wneud unrhyw drefniadau arbennig ar eich cyfer wrth ddelio â ch achos. Os ydych chi angen defnyddio cyfieithydd, gallwn drefnu cyfathrebu trwy Language Line, sy n wasanaeth cwbl gyfrinachol a diduedd. Gellir hefyd darparu r daflen hon ar ffurfiau amgen. Anfonwch e-bost at Acas Publications yn acas@ecgroup.co.uk am ragor o fanylion. 2 Sut all Acas helpu
3 Beth yw Cymodi Cynnar? Bydd Cymodi Cynnar ar gael o fis Ebrill Mae hyn yn golygu y gall Acas gynnig Cymodi Cynnar i helpu setlo r anghydfod heb fynd i r llys. Ar gyfer hawliadau tribiwnlys a gyflwynwyd ar neu wedi 6 Mai 2014, mae hyn yn ofyniad cyfreithiol, oni bai y ceir eithriad, i hawlydd fod wedi gwneud hysbysiad cymodi cynnar i Acas. Ni fyddwn yn derbyn hawliadau tribiwnlys oni bai fod y gŵyn wedi ei chyfeirio at Acas ac y cyhoeddwyd tystysgrif cymodi. Mae r dystysgrif hon yn cadarnhau y bodlonwyd gofynion cymodi cynnar. Beth yw prif nodweddion cymodi cynnar? Mae n wirfoddol er ei bod yn ofynnol i hawlwyr posibl gysylltu â ni cyn gwneud hawliad tribiwnlys, does dim ond angen iddynt drafod y mater gyda ni a cheisio ei ddatrys os ydynt eisiau a gallan nhw neu r cyflogwr stopio r broses ar unrhyw adeg. Mae am ddim ni chodir tâl am ein gwasanaeth. Rydym yn ddiduedd nid yw Acas yn cynrychioli r cyflogai na r cyflogwr. Rydym yn annibynnol nid yw Acas yn rhan o system y Tribiwnlys. Mae n gyfrinachol dim ond os ydych chi n cytuno y bydd yn ddefnyddiol wrth geisio setlo ch achos allwn ni drafod yr hyn a ddywedwch wrthym. Ni ellir defnyddio beth bynnag a drafodir yn ystod cymodi gan y naill ochr na r llall mewn gwrandawiad tribiwnlys. Esbonio Cymodi Cynnar 3
4 Beth am Gynrychiolaeth? Nid oes unrhyw reidrwydd i gael cynrychiolydd ar gyfer Cymodi Cynnar. Os byddwch chi n penodi cynrychiolydd i weithredu ar eich rhan, byddwn yn cymodi trwyddynt. Gall cynrychiolydd fod yn rhywun o ch dewis chi a gallai gynnwys swyddog undeb llafur, cyfreithiwr, neu rywun o Ganolfan y Gyfraith neu Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Gallai ch cynrychiolydd gytuno ar setliad ar eich rhan. Gan fod setliadau yn rhwymol gyfreithiol, mae n bwysig sicrhau fod eich cynrychiolydd yn deall eich gofynion yn llawn, bod ganddo eich caniatâd penodol i ddod i gytundeb ar eich rhan, ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda chi fel eich bod yn ymwybodol o unrhyw gynnydd yn eich cymodi. A oes unrhyw eithriadau? Mae r gofyniad i hysbysu Acas yn berthnasol i bron i bob hawliad tribiwnlys arfaethedig gyda nifer fechan o eithriadau. Er enghraifft, os yw r hawliwr posibl yn un o nifer o bobl sy n hawlio yn erbyn yr un cyflogwr a bod un eisoes wedi gwneud cais i Acas yn yr un anghydfod, efallai na fydd angen i r hawlwyr eraill posibl wneud hynny. Ceir rhagor o wybodaeth am eithriadau ar wefan Acas yn earlyconciliation. Wrth gwrs, ble ceir eithriad posibl, bydd hawlwyr yn dal i allu dewis rhoi cynnig ar Gymodi Cynnar os y dymunant. 4 Sut all Acas helpu
5 Sut mae gwneud cais am Gymodi Cynnar? Y ffordd gyflymaf a symlaf yw trwy r ffurflen hysbysiad Cymodi Cynnar ar wefan Acas yn earlyconciliation. Neu, os nad oes gan rywun fynediad i r rhyngrwyd, gall drafod ei opsiynau trwy ffonio Mae r ffurflen hysbysu yn gofyn am fanylion cyswllt sylfaenol ar gyfer yr hawliwr a r cyflogwr. Dylai hawlwyr ofalu eu bod yn cynnwys yr enw cywir ar gyfer eu cyflogwr. Os gwneir hawliad wedi hynny i r tribiwnlys, bydd angen i enw r cyflogwr ar yr ET1 gyfateb i r enw ar y ffurflen hysbysiad cymodi cynnar. Os yw r enwau n wahanol, gallai hyn arwain at wrthod yr hawliad gan y tribiwnlys. Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu defnyddio Cymodi Cynnar os ydynt yn credu fod yna anghydfod gweithle sy n debygol o arwain at achos tribiwnlys. Cewch wybod mwy ar wefan Acas yn Os ydych chi n cynrychioli neu yn cynghori hawlydd sy n bwriadu dwyn hawliad tribiwnlys, neu os ydych yn cynrychioli grŵp o hawlwyr yn erbyn yr un cyflogwr/ cyflogwyr gallwch gael rhagor o wybodaeth yma: Beth sy n digwydd i gais Cymodi Cynnar? Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth i r hawliwr yn gyntaf, a hynny ar-lein, trwy e-bost neu trwy r post yn ddibynnol ar sut y gwnaethpwyd yr hysbysiad i Acas. Esbonio Cymodi Cynnar 5
6 Beth sy n digwydd i gais Cymodi Cynnar? Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth i r hawliwr yn gyntaf, a hynny ar-lein, trwy e-bost neu trwy r post yn ddibynnol ar sut y gwnaethpwyd yr hysbysiad i Acas. Yna rydym yn anelu at ffonio r hawliwr erbyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol fan bellaf i wirio r wybodaeth a ddarparwyd, i gael gwybod beth yw testun yr hawliad ac i esbonio Cymodi Cynnar. Wedi gwneud hyn bydd yr hawliwr yn derbyn galwad gan gymodwr Acas. Dim ond wedi i r cymodwr sefydlu cyswllt â r hawliwr ac esbonio r camau nesaf, ac y bydd yr hawliwr yn cytuno ei fod am fwrw ymlaen â Chymodi Cynnar y bydd yn cysylltu â r cyflogwr. Bydd y cymodwr yn ceisio sefydlu cyswllt gyda r ddau barti erbyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol. Os na allwn sefydlu cyswllt gyda r hawliwr dros gyfnod rhesymol o amser, neu os yw r hawliwr yn dynodi nad yw eisiau cymodi cynnar, byddwn yn cau r achos ac yn cyhoeddi tystysgrif cymodi cynnar. Anfonir hyn trwy e-bost neu r post fel fo n briodol. 6 Sut all Acas helpu
7 Sut all Cymodi Cynnar helpu? Mae n hysbysu. Gall y partïon gael gwell syniad o gryfderau a gwendidau r achos posibl, ac archwilio r opsiynau i ddatrys eu gwahaniaethau. Mae n arbed amser ac arian. Os gall partïon setlo eu hanghydfod, bydd hyn yn arbed yr amser, cost, risg a straen o fynd i dribiwnlys. Rydych yn rheoli r sefyllfa. Mae cytundebau i osgoi Tribiwnlys ar delerau a benderfynwyd gan y partïon, nid rhai a orfodwyd gan dribiwnlys. Gall canlyniadau a gytunir gynnwys pethau nad ydynt ar gael mewn tribiwnlysoedd, megis geirda neu ymddiheuriad, er enghraifft. Mae n gyfrinachol. Gellir cadw popeth yn gyfrinachol nid yw Acas yn siarad ag unrhyw un tu allan i r broses, tra bod gwrandawiadau tribiwnlys yn gyhoeddus. Gall adfer ymddiriedaeth. Os yw r Hawliwr yn dal yn gyflogedig, mae n cynyddu r tebygolrwydd o osgoi dirywiad parhaol yn y berthynas cyflogaeth os mai dyma beth mae r ddwy ochr eisiau cyflawni. Gall fod yn ddatrysiad cyflym. Gellir delio â nifer o achosion gydag ambell alwad ffôn, gan weithredu r deilliannau a gytunwyd yn fuan iawn wedyn. Esbonio Cymodi Cynnar 7
8 Beth fydd fy Nghymodwr yn wneud? Mae gan Gymodwyr Acas brofiad helaeth o ddelio ag anghydfodau rhwng cyflogwyr a chyflogeion. I archwilio sut y gellir datrys hawliad posibl, bydd y Cymodwr yn trafod y materion gyda r cyflogwr a r cyflogai. Bydd hyn yn digwydd yn bennaf dros y ffôn, ond weithiau gallai cyfarfod, a gadeirir gan y Cymodwr, fod yn ddefnyddiol. Bydd y Cymodwr hefyd, ble fo n briodol, yn: esbonio r broses gymodi annog defnydd o weithdrefnau mewnol megis gweithdrefnau disgyblaethol a chwyno os ydynt ar gael esbonio sut mae tribiwnlysoedd yn mynd ati i wneud eu penderfyniad a beth fyddant yn ystyried trafod yr opsiynau sydd ar gael, er enghraifft, penodi Canolwr annibynnol dan gynllun Canoli Acas mewn achosion priodol helpu partïon i ddeall dehongliad yr ochr arall o r materion trafod unrhyw gynigion gan y naill ochr neu r llall i ddatrys y mater. 8 Sut all Acas helpu
9 Beth yw ffiniau rôl y Cymodwr? Y Cymodwr... Ni all wybod beth fyddai canlyniad gwrandawiad tribiwnlys pe byddai n cael ei gynnal Ni all gynghori r naill ochr na r llall p un a ddylai dderbyn unrhyw gynigion ar gyfer datrysiad Ni all gefnogi un ochr, cynrychioli r naill barti neu r llall na helpu paratoi achos ar gyfer tribiwnlys nac amddiffyniad i hawliad Ni all ddatgan barn ar rinweddau hawliad na chynghori ar a ddylid gwneud hawliad. Am ba hyd fydd Cymodi Cynnar yn parhau? Bwriedir i gyfnod cychwynnol Cymodi Cynnar barhau am hyd at un mis calendr, a dyma pam ein bod yn ceisio cysylltu â r ddau barti mor fuan wedi derbyn y cais. Fodd bynnag, os yw r ddau barti yn cytuno fod angen mwy o amser, gellir ymestyn y cyfnod, unwaith yn unig, am 14 niwrnod arall. Os nad yw r mater yn dal wedi ei ddatrys wedi r cyfnod hwn, bydd y Cymodwr yn terfynu r Cymodi Cynnar a bydd yr hawliwr yn rhydd i gyflwyno hawlio mewn tribiwnlys. Bydd y dystysgrif ffurfiol fod Cymodi Cynnar wedi gorffen yn cynnwys cyfeirnod unigryw y bydd angen i r hawliwr ddarparu wrth gyflwyno hawliad i r Tribiwnlys Cyflogaeth. Esbonio Cymodi Cynnar 9
10 Beth sy n digwydd os nad yw cymodi Acas yn llwyddiannus? Os ceir datrysiad trwy Acas, bydd y Cymodwr yn cofnodi beth a gytunwyd arno ar y ffurflen Acas (a elwir yn COT3). Cytundeb COT3 yw r term a ddefnyddir mewn dogfen setliad Acas. Bydd y ddau barti yn llofnodi hyn fel cofnod ffurfiol o r cytundeb. Bydd y COT3 yn gontract rhwymol gyfreithiol sy n golygu na fydd yr hawliwr yn gallu gwneud hawliad tribiwnlys ar y mater hwnnw. Beth os na allwn ddod i gytundeb? Os na all y ddau barti setlo r mater, bydd y Cymodwr yn dod â Chymodi Cynnar i ben. Yna bydd yr Hawliwr yn rhydd i gyflwyno hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Bydd y gydnabyddiaeth ffurfiol yn cynnwys cyfeirnod unigryw y bydd angen i r Hawliwr ddarparu wrth gyflwyno ei hawliad i r tribiwnlys. Os bydd hawliwr yn colli ei gydnabyddiaeth ffurfiol, gall ofyn am gopi dyblyg. Bydd copi o r gydnabyddiaeth ffurfiol hon fod Cymodi Cynnar wedi dod i ben hefyd yn mynd i r cyflogwr ond dim ond os bu n cymryd rhan. Os yw r ddau barti eisiau parhau i drafod wedi Cymodi Cynnar, gall Acas ddal i gymryd rhan ar gais, ac os gwneir hawliad tribiwnlys bydd y Cymodwr unwaith eto yn cynnig helpu r ddau barti i ddatrys eu gwahaniaethau heb fod angen mynd i wrandawiad tribiwnlys. 10 Sut all Acas helpu
11 A yw cymodi Cynnar yn effeithio ar yr amserlen i wneud hawliad tribiwnlys? Er mwyn caniatáu digon o amser i Gymodi Cynnar ddigwydd, gwnaethpwyd newidiadau i r terfyn amser i gyflogai ddod â hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth unwaith y bydd y broses Cymodi Cynnar wedi dechrau. Gelwir y terfynau amser hyn yn gyfnodau cyfyngiad. Yn gyffredinol, mae r cyfnodau cyfyngiad ar gyfer cyflwyno hawliadau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth naill ai n dri neu chwe mis calendr yn dibynnu ar natur yr hawliad. Felly, er enghraifft, os yw rhywun wedi ei ddiswyddo, byddai ganddo dri mis calendr o ddyddiad y diswyddiad i wneud hawliad am ddiswyddiad annheg. Pan fydd yr hawliwr yn cysylltu ag Acas, bydd hyn yn oedi y terfyn ar gyfer cyflwyno i hawliad i dribiwnlys. Gall yr oediad hwn fod am hyd at un mis calendr, ac 14 niwrnod arall os oes angen mwy o amser. Bydd y terfyn amser yn dechrau rhedeg eto pan fydd yr Hawliwr yn derbyn ei gydnabyddiaeth ffurfiol (y Dystysgrif) fod Cymodi cynnar wedi gorffen. Unwaith y bydd Cymodi Cynnar wedi dod i ben, bydd gan yr hawliwr o leiaf un mis calendr i gyflwyno ei gais. Fodd bynnag, dylid cofio os oedd yr hawliwr eisoes yn hwyr yn cyflwyno cais i r tribiwnlys wrth ofyn am Gymodi Cynnar, bydd ef neu hi yn dal yn hwyr wedyn. Yr hawliwr sy n gyfrifol am sicrhau y cyflwynir unrhyw hawliad mewn pryd, a dim ond tribiwnlys all benderfynu a yw r hawliad mewn pryd neu beidio. Ni all cymodwr benderfynu na chynghori yn hyn o beth. Esbonio Cymodi Cynnar 11
12 Ble alla i gael rhagor o gyngor a gwybodaeth? Os ydych chi eisoes wedi siarad â chymodwr Acas, fe welwch y gall eich helpu i nodi ffynonellau cyngor a gwybodaeth sy n briodol i ch sefyllfa. Os nad, efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol: Gall Llinell Gymorth Acas ar roi gwybodaeth a chyngor am hawliau cyflogaeth, ond ni all eich helpu i baratoi neu gyflwyno hawliad i r tribiwnlys. Gallwch ffonio r Llinell Gymorth Cyflog a Hawliau Gwaith am gyngor am ddim ac i adrodd camddefnydd o r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, yr Isafswm Cyflog Amaethyddol, Asiantaethau Cyflogaeth, cyfyngiadau Oriau Gwaith, a gweithio ar gyfer Meistr Gang. Y rhif ffôn yw , neu ffôn testun a Gall Equality Direct ( ) roi cyngor am ddim a gwybodaeth i gyflogwyr (yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd) ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac arfer da. Gall y Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) roi cymorth a chyngor am ddim parthed cyflog cyfartal a gwahaniaethu mewn cyflogaeth. Ffôn Ffôn testun E-bost adviceline@equalityadvisoryservice.com 12 Sut all Acas helpu
13 Gall Undebau Llafur a chymdeithasau cyflogwyr ddarparu cyngor a chymorth i w haelodau. Gall Swyddfeydd Cyngor ar Bopeth, Cyfreithwyr, Canolfannau r Gyfraith a rhai ymgynghorwyr arbenigol ddarparu cyngor a chynrychiolaeth ar bob mater yn ymwneud â hawliau cyflogaeth a hawliadau posibl. Llinell Ymholiadau Cyhoeddus y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (ffôn / minicom ) am wybodaeth ar sut mae tribiwnlysoedd yn gweithio. Ni allant roi cyngor cyfreithiol. Gweler y wefan Deddf Diogelu Data 1998 Os ydych yn gysylltiedig i Gais Cymodi cynnar, byddwn yn rhoi rhywfaint o r wybodaeth a roddwch i ni ar ein cronfa ddata gyfrifiadurol. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i fonitro cynnydd ac i gynhyrchu ystadegau dienw. Gellir datgelu gwybodaeth a gasglwn yn y cyd-destun hwn i r Adran Busnes Arloesedd a Sgiliau (BIS) i gynorthwyo ymchwil i ddefnydd o ac effeithiolrwydd Acas....ac yn olaf Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu safon uchel o wasanaeth ar bob adeg, ond os nad ydych yn fodlon â r gwasanaeth a dderbynioch, dylech gyfeirio eich cwyn at: Cwynion Delivery Directorate Acas National Euston Tower 286 Euston Road London NW1 3DP E-bost: complaints@acas.org.uk Esbonio Cymodi Cynnar 13
14 Mae r wybodaeth yn y llyfryn hwn wedi ei diwygio hyd at ddyddiad yr argraffiad diwethaf gweler y dyddiad isod. I gael gwybodaeth fwy cyfredol ewch i wefan Acas www. acas.org.uk. Darperir yr wybodaeth gyfreithiol fel arweiniad yn unig, ac ni ddylid ei ystyried i fod yn ddatganiad awdurdodol o r gyfraith, sy n bosibl trwy gyfeiriad at yr amgylchiadau penodol sy n berthnasol yn unig. Felly, efallai y byddai n ddoeth ceisio cyngor cyfreithiol. Nod Acas yw gwella sefydliadau a bywyd gwaith trwy well cysylltiadau cyflogaeth. Rydym yn darparu gwybodaeth gyfredol, cyngor annibynnol, hyfforddiant o safon ac yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogeion i ddatrys problemau a gwella perfformiad. Rydym yn sefydliad annibynnol, a ariennir gan gyllid cyhoeddus ac mae nifer o n gwasanaethau am ddim. Mawrth 2014
15 Swyddfeydd Acas: Cenedlaethol Llundain Dwyrain Canolbarth Lloegr Nottingham Dwyrain Lloegr Bury St Edmunds, Suffolk Yr Alban Glasgow De-ddwyrain Lloegr Fleet, Hampshire De-orllewin Lloegr Bryste Llundain Gogledd-ddwyrain Lloegr Newcastle upon Tyne Gogledd-orllewin Lloegr Manceinion Gogledd-orllewin Lloegr Lerpwl Cymru Caerdydd Gorllewin Canolbarth Lloegr Birmingham Swydd Efrog a r Humber Leeds Llinell Gymorth Cyfnewid Testun Llinell Gymorth Acas I weld rhestr lawn o gyhoeddiadau Acas ewch i publications Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Acas sy n gallu darparu manylion gwasanaethau a hyfforddiant yn eich ardal, neu ewch i am gwestiynau ar reoli cydraddoldeb yn y gweithle 03/14
Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationAdviceguide Advice that makes a difference
Ceir ail-law Pan fyddwch chi n prynu car ail-law, bydd eich hawliau n dibynnu a ydych wedi prynu r car oddi wrth ddeliwr, gwerthwr preifat, mewn ocsiwn neu dros y rhyngrwyd. Prynu oddi wrth ddeliwr- beth
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationCanllaw cyflogwyr i ailddilysu
Canllaw cyflogwyr i ailddilysu CYNNWYS BETH MAE R DDOGFEN HON YN EI WNEUD?...3 BETH YW AILDDILYSU?...5 Y BROSES AILDDILYSU A I GOFYNION... 7 RÔL CYFLOGWYR YN Y BROSES AILDDILYSU...10 CYNORTHWYO NYRSYS
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationoffered a place at Cardiff Met
UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationMesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg
Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18 Cyhoeddwyd yn unol ag adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Awst 2018 Dyma grynodeb o adroddiad sicrwydd 2017-18 adroddiad
More informationCanllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]
Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009] Cynnwys RHAN A Cyflwyniad ar ddiogelu data A1 Elfennau sylfaenol diogelu data A2 Rôl Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth A3 - Diffiniadau allweddol yn y Ddeddf
More informationDiweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018
Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018 Mae'r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth a gafwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng nghyfarfod bwrdd crwn CHC a DWP, cyfarfod Strategol Landlordiaid Sector
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationTour De France a r Cycling Classics
Tour De France a r Cycling Classics - 2014-2016 Mae S4C wedi sicrhau r hawliau i ddarlledu rhaglenni Cymraeg o r Tour de France a rhai o rasys y Cycling Classics am y tair blynedd nesaf 2014, 2015 a 2016.
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationTeimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel
Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1 Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster
More informationProses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol
1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig
More informationCanllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide
Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl Y canllaw canser The Cancer Guide Ynglyˆn Ynglŷn â r llyfryn hwn 1 Ynglŷn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu i ddeall beth mae canser yn ei
More informationBondiau Premiwm Dyddiau difyr!
Bondiau Premiwm Dyddiau difyr! Buddsoddwch mewn Bondiau Premiwm a gallwch ennill o 25 hyd at 1 miliwn pan fyddwn ni n tynnu gwobrau n bob mis. A gallwch fuddsoddi hyd at 50,000 Beth sydd y tu mewn 2 Yn
More informationBeth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide
Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser Y canllaw CANSeR Y canllaw canser The cancer guide Ynglyn â r llyfryn hwn Ynglyn â r llyfryn hwn Nod y llyfryn hwn yw eich helpu chi, a r rheiny
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationNUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG
NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau
More informationAnnual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme
Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationGwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach
RM2160_10085_RMX12_DL_Bi.indd 16 Dosbarthu mwy Arweiniad i ch gwasanaethau post dros y Nadolig 2011 13/10/2011 09:38 Fe wyddom pa mor anodd y gall fod yn y cyfnod cyn y Nadolig, ond does dim rhaid i ch
More informationAddysg Oxfam
Tir pwy? Cardiau cymeriad cynradd Rydych yn gweithio i r llywodraeth. Nid oes gan unrhyw un arall bapurau sy n dweud mai nhw yw perchnogion y tir, felly rydych yn meddwl ei fod yn eiddo i chi Chi sydd
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2016/036 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi: 30 Medi 2016 Teitl: Tystysgrif Nam ar y Golwg Cymru STATWS: CYDYMFFURFIO CATEGORI: POLISI Dyddiad dod i ben / Adolygu Amherthnasol I w weithredu
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationDŴr cymru COD YMARFER WWM 0151 AR GYFER CWSMERIAID Â MESURYDDION
DŴr cymru COD YMARFER WWM 0151 ELW i gymru AR GYFER CWSMERIAID Â MESURYDDION er ein lles ni gyd NID ER ELW Tri gair bach sy n gwneud gwahaniaeth mawr. Ni yw r unig gwmni dŵr o i fath yn y DU. Rydym yn
More informationLlawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus Canllaw ymarferol i bolisi ac ymarfer da yr eglwysi wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc,
More informationAdolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol
Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol Datganiad Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2017 Gair am y ddogfen hon Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o r broses o reoleiddio r Post Brenhinol. Cafodd
More informationE-fwletin, Mawrth 2016
Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru E-fwletin, Mawrth 2016 Aelodau Staff Newydd yn NWDA Mae dau aelodau newydd wedi ymuno Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru. Hoffem eu croesawu'n gynnes i'r tîm ac yn eu cyflwyno
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More informationPeripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)
North Wales Cancer Service Information Leaflet Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line) This leaflet has been written to give you some general information about PICC lines. It is a guide to help
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More informationSamplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu
Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu Adroddiad ar yr ymgynghoriad Ynglŷn â r ymgynghoriad hwn Mae r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o r ymatebion i r ymgynghoriad ar samplo cofnodion
More informationCynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1
Cynllun Strategol 2018-2021 Tudalen 1 Cynnwys 1. Crynodeb 2. Swyddogaethau 3. Gweledigaeth a gwerthoedd 4. Amcanion strategol Amcan 1 dylanwadu ar bolisi Amcan 2 ehangu hawliau pobl i ddefnyddio r Gymraeg
More informationGwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016
Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016 Cynnwys Cyflwyniad... 2 Disgrifiad o'r rhwydwaith... 2 1 Crynodeb o r polisi... 3 2 Cymorth i deithwyr... 3 3
More informationStudent Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm
Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm Students present: Callum Smith Chiron Hooson David Hooson Emlyn Pratt Esyllt Lewis Jake Smith James Daly Jordan Martin Joshua Green Marcus Connolly Matthew
More informationCanllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Ionawr 2018 Hawlfraint y Goron 2018 WG33909 ISBN digidol 978-1-78903-394-6 Cynnwys Rhif
More informationDiweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol
Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost Y flwyddyn ariannol 2016-17 Diweddariad ar y farchnad Dyddiad Cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017 Gair am y ddogfen hon Mae r adroddiad hwn yn cynnwys y prif ddata
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationPwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16
Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16 Aelodau Yn Bresennol / Members Present Cyngh / Cllr Eryl Jones Williams (EJW) O.G Thomas
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationCylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad
Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad I SYLW: PENAETHIAID A CHYDLYNWYR ADYaCh Croeso i Rifyn yr Hydref (2017) o Gylchlythyr ADYaCh. Mae llawer o brysurdeb wedi bod dros y misoedd diwethaf
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationBriff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur
Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur Awdur: Christian Tipples Dyddiad: Awst 2016 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw r corff sy n cael ei ethol
More informationCod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru
Mai 2017 Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru Sut y dylid cymhwyso Cytundebau Rheoli Rhywogaethau a Gorchmynion Rheoli Hawlfraint y Goron 2017 WG31285 ISBN digidol: 978 1
More informationCYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD
CYNORTHWY-YDD I YSGRIFENNYDD YR AWDURDOD Cyflwyno S4C Awdurdod darlledu cyhoeddus yw S4C. Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981 i ddarparu gwasanaeth teledu Cymraeg a aeth ar yr awyr gyntaf ym
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationPerchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb
Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb Papur Ymgynghori 238 20 Medi 2018 PERCHNOGAETH AR DAI LESDDALIAD: PRYNU EICH RHYDD-DDALIAD NEU YMESTYN
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationCanllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth
Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Canllaw Rhieni Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg 2017 MD-923 Ionawr 2016 Cynnwys UCAS 2016 Cedwir pob hawl.
More informationCost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI)
Cost unioni cam: y gwersi i w dysgu o r sgandal ynghylch camwerthu Yswiriant Gwarchod Taliadau (PPI) Mae n hanfodol hefyd bod banciau a rheolyddion yn dysgu gwersi PPI er mwyn sicrhau na fydd modd i sgandal
More informationDydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh
Senedd Myfyrwyr Hysbysir aelodau Senedd y Myfyrwyr y cynhelir y cyfarfod nesaf fel y dangosir isod: Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh Agenda Cysylltwch â Thîm Llais
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationAnhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)', Anhwylder Gorginetig' a Gorfywiogrwydd' yn wahanol
More informationGwybodaeth i Rieni Parent Information
Gwybodaeth i Rieni Parent Information Gwybodaeth i Rieni Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr
More informationYSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:
YSGOL DYFFRYN CONWY Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau: Arholiadau Llafar, Ymarferol & Asesiadau Dan Reolaeth: 01/01/16-16/05/16 TGAU Haf 2016: 13/05/16-28/06/16 External GCSE Exams Examination
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationTWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol
4 YDD ARGRAFFIAD TWYLL MAWR Yn NatWest byddwn yn defnyddio technegau soffistigedig i adnabod twyll, sylwi ar weithgarwch amheus a helpu i ddiogelu ein cwsmeriaid. Rydym yn gweithio gyda Friends Against
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationGweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad
Rhif: WG33010 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol Gweithio gyda chymunedau a allai fod yn fodlon cynnig lleoliad Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018 Camau i w cymryd:
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationRoedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.
Mae r llyfryn hwn wedi i anelu at ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a r Alban. Oni nodir yn wahanol, mae r wybodaeth yn berthnasol i r tair gwlad. Lluniwyd y llyfryn hwn gan Ofgem, Cyngor ar Bopeth a Chyngor
More informationOs hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk
Trawiad ar y galon 2 GAIR AM Y BRITISH HEART FOUNDATION A ninnau n elusen calon y genedl, rydym wedi bod yn ariannu gwaith ymchwil arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Ond mae sefyllfa
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationCadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: Arfer gorau Cynnwys Tudalen Cyflwyniad 2 Dogfennau a gwybodaeth allweddol 3 1. Senarios 4 Sioe gerdd ysgol 4 Grŵp ieuenctid 6 Teledu 8 Rhaglen realiti 10 2. Materion
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 26 June/Mehefin 23-29, 2012 Pages/Tudalennau: 2 The Exhibitionists 3 Crimewatch Roadshow 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth
More informationEnwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?
DANIEL MORDEN Straeon dirgel o Gymru Beth yw straeon? A pham mae angen inni eu hadrodd? Mae stori yn ffrâm neu n gyd-destun defnyddiol i brofiad. Mae adrodd stori yn ein galluogi ni i archwilio r digwyddiadau
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationAsesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r
Asesu dyluniadau gorsafoedd niwclear newydd Asesiad Dyluniad Generig Adweithydd Dŵr Berw Uwch y DU Hitachi-GE Nuclear Energy Limited Crynodeb o'r ddogfen ymgynghori 12 Rhagfyr 2016 Asiantaeth yr Amgylchedd
More informationVOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)
VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua) 1978 1990 Cyfwelai: VSW066 Enid Mary Thomas Dyddiad Geni: 20.9.1937 Dyddiad: 4.9.14 Cyfwelydd:
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationPARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES
Mawrth 2018 PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES Newyddlen Yn y rhifyn hwn: Helo a chroeso i rifyn y gwanwyn o gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy. Croeso i Gylchlythyr Partneriaeth Pobl Conwy!!
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationNetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Welsh Ambulance Services NHS Trust Listening to our patients NetworkNEWS Pictured: Staff and partners launching our Dementia Plan. Dementia Friendly Community
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 17 April/Ebrill 21-27, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Elizabeth s Wales 3 They Sold A Million: Ricky Valance 4 Connie s People 5 Scrum V Live: Blues v Edinburgh 6 BBC National Orchestra of Wales
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More information