Y BONT. Canllawiau i Diwtoriaid. Phyl Brake
|
|
- Frederick Hardy
- 6 years ago
- Views:
Transcription
1 Y BONT Canllawiau i Diwtoriaid Phyl Brake pjb@aber.ac.uk
2 Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd: t. 6 Aseiniad t. 6 Cronfa ddata t. 6 Adborth t. 6 Fforwm t. 6 Cwis t. 6 Ffeil t. 6 Ffeil sain t. 7 Plygell t. 7 URL t. 7 Quizlet t. 8 Hot Potatoes t. 8 Modiwlau gweithgaredd ar waith: t. 8 Cwis t. 8 Quizlet t. 10 Hot Potatoes t. 11 Gweithgareddau o r Bont Genedlaethol t. 11 Rhestr ddarllen pellach t. 12 1
3 Y Bont Canllawiau i Diwtoriaid Rhagair Mae Y Bont ( nawr yn rhan o safle rhyngweithiol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae n cynnwys cyrsiau 1 pwysig o r hen Bont Fach a ddatblygwyd gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru, sydd nawr yn dod dan y pennawd Prifysgol Aberystwyth : Cofrestru Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn eich enw defnyddiwr ar gyfer Y Bont ( Mae r enw defnyddiwr yn seiliedig ar ran gyntaf eich cyfeiriad e-bost gyda Phrifysgol Aberystwyth ar ôl y rhagddodiad yb_. Er enghraifft, pjb@aber.ac.uk yw fy nghyfeiriad e-bost i, felly yb_pjb yw fy enw defnyddiwr i. Ar hafan Y Bont ( fe welir y neges isod: 1 Cwrs y gelwir modiwl ar-lein Moodle. 2
4 Wrth ymweld â r Bont (( am y tro cyntaf, bydd gofyn ichi ddilyn y cyfarwyddiadau uchod. Wrth gyrraedd y sgrin isod: dewiswch yr opsiwn cyntaf. (Os nad ydych chi n gwybod beth yw eich enw defnyddiwr, cysylltwch â mi [pjb@aber.ac.uk].) ***PWYSIG*** Gellwch gyrchu adnoddau r Bont fel gwestai, ond wrth fewngofnodi, byddwch yn gweld adnoddau sydd ddim ar gael i ddysgwyr. Mae modd cadw eich manylion mewngofnodi ar eich cyfrifiadur pen bwrdd, gliniadur neu ddyfais. Felly, y tro nesaf y mewngofnodwch, fe welwch sgrin fel hon: Ar ôl mewngofnodi, eir â chi at eich hafan fel y gwelir yma: 3
5 Cyrchu Adnoddau Dysgu Er mwyn cyrchu r adnoddau dysgu sy n cyd-fynd â chyrsiau Prifysgol Aberystwyth, cliciwch ar Prifysgol Aberystwyth dan y pennawd CATEGORÏAU R CWRS ar ochr dde uchod. Wrth wneud, eir â chi at y dudalen hon: Mynediad Dwys yw r cwrs cyntaf mewn rhestr o gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Y rhestr lawn yw: 1. Beginners Fast-track / Mynediad Dwys 2. Foundation Fast-track / Sylfaen Dwys 3. Canolradd Dwys / Intermediate Fast-track 4. Cwrs Uwch Ceredigion /Ceredigion Advanced Course: Part 1 5. Cwrs Meistroli / Ceredigion Advanced Course: Part 2 6. Cymraeg Graenus 1 / Welsh Proficiency Course (Academic): Part 1 7. Cymraeg Proffesiynol 1 / Welsh Proficiency Course (Vocational): Part 1 Wrth glicio ar Mynediad Dwys, eir â chi at yr adnoddau dysgu sy n cyd-fynd â r cwrs: 4
6 Moodle Platfform e-ddysgu ffynhonnell agored 2 yw Moodle. Fe i datblywyd yn ôl egwyddorion pedagogaidd, ac fe i defnyddir ar gyfer dysgu cyfunol, dysgu o hirbell mewn ysgolion, prifysgolion a gweithleoedd. Mae Moodle yn cynnwys nifer o adnoddau dysgu rhyngweithiol fel: Aseiniad Cronfa ddata Adborth Fforwm Cwis Ffeil Ffeil sain Plygell URL Ac mae adnoddau dysgu rhyngweithiol allanol wedi eu datblygu i w defnyddio gyda Moodle hefyd, yn enwedig Hot Potatoes. Mae HotPot yn cynnwys set o chwe rhaglen greu adnoddau dysgu ar-lein, a grewyd gan ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada. Cyfeiriad gwe r adnoddau ar-lein i gyd-fynd â r cyrsiau cenedlaethol newydd yw: 2 Yn agored i unrhyw un i w ddefnyddio ac i w ddatblygu. 5
7 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd Aseiniad Mae aseiniad yn caniatáu i athrawon gasglu gwaith gan ddysgwyr, ei adolygu a darparu adborth gan gynnwys graddau. Mae r gwaith y mae dysgwr yn ei gyflwyno yn weladwy i r athro yn unig ac nid i ddysgwyr eraill. Cronfa Ddata Mae cronfa ddata yn caniatáu r athro a/neu r dysgwyr i adeiladu, arddangos a chwilio trwy fanc o gofnodion yn ymwneud â phwnc penodol. Gall y cofnodion hyn gynnwys delweddau, ffeiliau, URLau, rhifau a thestun. Adborth Mae adborth yn galluogi r athro i greu a chynnal arolygon i gasglu adborth. Mae n galluogi r athro i ysgrifennu ei gwestiynau ei hunan, yn hytrach na dewis o restr o gwestiynau a ysgrifennwyd ymlaen llaw, a gellir hefyd greu cwestiynau heb radd. Fforwm Mae fforwm yn rhoi r cyfle i ddysgwyr ac athrawon i gyfnewid syniadau trwy bostio sylwadau. Mae yna bedwar math o fforwm sylfaenol. Cwis Mae cwis yn caniatáu r athro i ddylunio ac adeiladu cwisiau sy n cynnwys amrywiaeth fawr o fathau o gwestiynau, gan gynnwys atebion amlddewis, gwir-ffug, atebion byr a llusgo a gollwng delweddau a thestun. Cedwir y cwestiynau hyn yn y Banc Cwestiynau, a gellir eu hailddefnyddio mewn cwisiau gwahanol. Ffeil Mae ffeil yn galluogi r athro i wneud deunyddiau darllen fel arfer ar ffurf ffeiliau PDF i r gael i r dysgwyr ar ffurf electronig y gellir ei lawrlwytho. 6
8 Ffeil sain Crëir ffeil sain yn union fel ffeil, ond mae n golygu fod dysgwyr a thiwtoriaid yn gallu gwrando ar, a lawrlwytho, ffeiliau sain sy n cyd-fynd â r cwrs y maen nhw n ei ddilyn/gyflwyno. Plygell Mae plygell (folder) yn galluogi r athro i gynnwys mwy nag un ffeil mewn trefn gyda i gilydd. Mae hyn y ddefnyddiol iawn yn achos ffeiliau sain: URL Mae URL (Universal Resource Locator) yn galluogi athro i gyfeirio r dysgwyr at adnodd dysgu allanol fel, er enghraifft, fideo Youtube: Quizlet Rhaglen astudio ar-lein yw Quizlet. Mae n helpu i hyfforddi dysgwyr trwy gyfrwng fflachgardiau a gwahanol gemau a phrofion. 7
9 Crëwyd Quizlet gan Andrew Sutherland ym mis Hydref 2005, a i ryddhau i r cyhoedd ym mis Ionawr Hot Potatoes (HotPot) Mae r gyfres meddalwedd o r enw Hot Potatoes, neu ynteu HotPot, yn cynnwys pum rhaglen a all greu ymarferion ar gyfer y we fyd-eang, yn enwedig Moodle. Yr arfau hyn yw JCloze, JCross, JMatch, JMix a JQuiz. Ceir chweched rhaglen hefyd o r enw The Masher, sy n rhoi holl ymarferion HotPot mewn un uned. Crëwyd meddalwedd HotPot gan Dîm Ymchwil a Datblygu yr Adran Cyfrifiadureg a Chanolfan y Cyfryngau ym Mhrifysgol Victoria, Vancouver, Canada. Modiwlau gweithgaredd ar waith Cwis Ceir enghraifft o r defnydd o cwis yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad ( Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon: Ac wedyn: 8
10 Ar ôl cwblhau pob cwestiwn, eir â chi at y sgrin hon: Ar waelod y dudalen, gwelir botwm ac arno Submit all and finish. Cliciwch arno, a gwelir y sgrin hon: Lle ceir yr atebion, ynghyd ag adborth defnyddiol. 9
11 Quizlet Ceir enghraifft o sut mae Quizlet yn gweithio yng nghwrs Mynediad Dwys: Uned 1: Cyfarch ( Wrth glicio ar CLICK TO FLIP, gwelir un a chlywir llais yn dweud un : Ac ymlaen nes cyrraedd
12 Yn ogystal, mae modd eich eich profi eich hunan trwy glicio Play a chlywed rhifau ar antur trwy glicio ar Shuffle. Hot Potatoes (HotPot) Ceir enghraifft o r defnydd o HotPot yng nghwrs Cymraeg Proffesiynol 1: Uned 1: Confensiynau sillafu; llunio llythyr o werthfawrogiad ( Wrth glicio ar yr eicon/ysgrifen uchod, eir at y sgrin hon: Defnyddir bysellfwrdd eich dyfais i ysgrifennu yn y bwlch: Os nad oes modd i chi greu acenion â ch dyfais, gellir clicio ar y llythrennau arbennig mewn blychau ar waelod y sgrin. Ceir adborth a sgôr trwy glicio r blwch Gwiriwch : Gweithgareddau o r Bont Genedlaethol Mae r Bont ( newydd hefyd yn cynnwys adrannau o r hen Bont Genedlaethol, gan gynnwys: 11
13 Banc Gweithgareddau Opera sebon Rhyd-y-bont Cilpiau sain o raglen Radio Cymru Beti a i Phobol Adnoddau tiwtor Un, dau, tri hwyl a sbri Rhestr ddarllen pellach Dvorak, D. (2011). Moodle for Dummies. Hoboken, New Jersey: John Wiley & Sons Inc. Managing a Moodle Course. Ar gael o: [cyrchwyd 02/11/2017]. Moodle Manuals. Ar gael o: [cyrchwyd 02/11/2017] Teacher Quick Guide (Moodle). Ar gael o: [cyrchwyd 02/11/2017] 12
Y BONT. Canllawiau i Fyfyrwyr. Phyl Brake
Y BONT http://ybont.org/course/ Canllawiau i Fyfyrwyr Phyl Brake pjb@aber.ac.uk Cynnwys Rhagair t. 2 Cofrestru ar Y Bont t. 2 Cyrchu adnoddau dysgu t. 4 Moodle t. 5 Diffiniadau o fodiwlau gweithgaredd:
More informationRegulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016
Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016 Focus / Ffocws Lead / Arweinydd Time / Amser Setting the
More informationAPIAU CYMRAEG. C.Phillips
APIAU CYMRAEG C.Phillips Tric a Chlic Mae Tric a Chlic yn un o r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi i gyhoeddi Tric a Chlic Tric a Chlic is one of the most popular resources that Canolfan
More informationArolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru Canlyniadau rhanbarth Cymru/Prif ganfyddiadau Prif ganfyddiadau yn ôl rhanbarth Boddhad cyffredinol gyda r daith (%) Y Canolbarth
More informationSTADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS
CWESTIWN ENGHREIFFTIOL 1 (Lefel Sylfaenol) Rydych chi n gwneud gwaith prosiect ar Stadiwm y Mileniwm. Rydych chi wedi cael manylion y stadiwm. Darllenwch y manylion yn ofalus. You are doing a project on
More informationLlyfr Croeso Dysgu Cymraeg
Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg 2 Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg Initially I joined the class to learn Welsh to help my three-year-old build his language skills for school and at home. The real bonus is that the
More informationHoliadur Cyn y Diwrnod
LEGO Bowling Holiadur Cyn y Diwrnod Eich Oedran? Dewiswch eich oedran o'r opsiynau isod: a) 11 b) 12 c) 13 d) 14 e) 15 neu Hŷn 0 0 0 0 0 11 12 13 14 15&or&Older Datrys Problemau'n dda? Ydych chi'n meddwl
More informationCyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau
Taflen Ffeithiau Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau Os oes gennych broblem sydd heb ei datrys gyda r Gronfa Diogelu Pensiynau (GDP) mae help ar gael i ddatrys y broblem. Yn gyntaf, rhaid
More informationEMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales
cyllid myfyrwyr cymru student finance wales EMA Education Maintenance Allowance 2017/18 The little book of EMA All you need to know about EMA for academic year 2017/18 sound advice on STUDENT FINANCE EMA
More informationBeth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations
Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations The Wales Institute of Social and Economic Research, Data and Methods
More informationWales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form
Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form This competition is organised by the Engineering Education Scheme Wales on behalf of the Welsh Government to recognise the exciting
More informationCymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb
Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb o syniadau sydd ar y ddalen hon. Am fanylion pellach a syniadau eraill gweler
More informationPolisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.
Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd. Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationSwim Wales Long Course Championships 2018
Swim Wales Long Course Championships 2018 Closed event March 30 th April 2 nd 2018 #SWLC18 Meet Summary Swim Wales National Long Course Championships is a level 1 Closed Long Course (50m) meet aimed at
More informationMae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.
Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi www.cymru.gov.uk Cyfranogiad: Mae ym mhobman! Mae cyfranogiad yn destun sy n cael ei drafod fwyfwy mewn addysg. Beth mae hyn
More informationDysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU
Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Gwybodaeth am Alwad 2018 2 Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU Am Erasmus+ Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer
More informationSummer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events
Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events IPC registered and approved Monday 30 th July Sunday 5 th August 2018 #SWSO18 1 Meet summary Swim Wales is proud to present
More informationA booklet for children and young people who are going to be witnesses in court
5051688011791 A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court This booklet belongs to: Children like you go to court every day to be witnesses. It s a very important job.
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 21 May/Mai 19-25, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Drag Artist 3 Wales in Four Seasons: Winter 4 Dementia: Making a Difference 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd
More informationDyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson
Dyfodol Llwyddiannus Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson Cyflwyniad Nod yr adolygiad yw creu dyfodol llwyddiannus a chyffrous i blant
More information14-19 Exams Bulletin
Final Biling Bulletin Sum-Aut 2010:Layout 1 22/6/10 18:42 Page 1 www.cbac.co.uk Mae Hugh Lester newydd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol (CC), Datblygu Busnes. Erbyn hyn felly mae saith aelod i'r tîm
More informationdysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent
Cynnwys Contents Welcome Croeso What level? Pa lefel? How often? Pa mor aml? What type of course? Pa fath o gwrs? Examinations Arholiadau Supporting Learners Cefnogi Dysgwyr How to enrol? Sut i gofrestru?
More informationTechnoleg Cerddoriaeth
Edexcel CE Technoleg Cerddoriaeth Uwch yfrannol Uned 1: Portffolio Technoleg Cerddoriaeth 1 Dyddiad rhyddhau: Dydd wener 11 Medi 2009 Amser: 60 awr Cyfeirnod y Papur 6MT01/01 Rhaid bod gennych: Copi o
More informationAMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016
AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016 Rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu ffilm a theledu Cymru. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd Sinemaes yn dangos rhai o glasuron S4C fel Hedd
More informationCommitted workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering
Committed workforce Volunteers are vital to the running of Welsh sport, and will be vital to delivering our Vision for Sport in Wales. The economic value of volunteering in sport in Wales is over 160m
More informationoffered a place at Cardiff Met
UCAS Teacher Training Congratulations on being offered a place at Cardiff Met We re delighted that you ve selected us as one of your University choices and we hope to see you in September 2015. In the
More informationCANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH
CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC 1 CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH 1 Ysgrifennwyd gan Pat Smail Mewn cydgysylltiad â: Anna Skeels a Mererid Lewis, Uned Cyfranogaeth a Jane Peffers,
More informationNational Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack
National Youth Orchestra of Wales Auditions 2019 Violin Audition Pack Contents: 2019 Music Ensemble Audition Information Violin Audition Requirements Set Orchestral Excerpts (Violin) Example Marksheet
More informationCylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau
Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr 2018 + Cynnwys T2: Newyddion a digwyddiadau T4: Diweddariadau cyffredinol T5: Cwrdd â r tîm Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd Blwyddyn Newydd Dda i n darllenwyr i
More informationRhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Rhif: WG25772 Llywodraeth Cymru Dogfen Ymgynghori Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2015 Camau i w cymryd: Ymatebion erbyn 18 Rhagfyr 2015
More information+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor
+ Cynnwys T1: Digwyddiadau T2: Yr offer holi T3: Cipolwg T4: Cwrdd â r tîm T5: Hwyl fawr a helo T6: Cysylltu â ni + Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor Yn ddiweddar, bu Dawn Knight, Paul Rayson a Steve
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2017 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners Eisteddfod Genedlaethol
More informationYsgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11
Ysgol Dyffryn Conwy Llyfryn Gwybodaeth Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11 Calendr Dyddiadau Pwysig MEDI 2017 HYDREF 2017 TACHWEDD 2017 1 HMS 1 1 Hanner Tymor 2 2 2 Hanner Tymor 3 3 3 Hanner Tymor 4 HMS 4
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 22 May/Mai 26-1 June/Mehefin, 2012 Pages/Tudalennau: 2 Rhod Gilbert s Work Experience: Policeman 3 Discovering Welsh Towns: Monmouth 4 BBC National Orchestra of Wales 5 Pobol y Cwm Places
More informationHelo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.
BBC Bitesize: Cymraeg Ail Iaith Welsh Version (English version below) Holidays - Gwyliau Warm-up Exercise Ceri: Aled ydw i. Dw i n hoffi gwyliau gwersylla. Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau
More informationNational Youth Arts Wales Auditions 2019
National Youth Arts Wales Auditions 2019 Flute Audition Pack Contents: 2019 Musical Ensemble Audition Information Flute Audition Requirements Set Orchestral and Wind Orchestral Excerpts (Flute) Example
More informationFull-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:
Full-time career focused learning programmes for 14-16 year olds The new way to your future In partnership with: www.cµvc.µc.uk THE NEW WAY TO YOUR FUTURE FULL-TIME CAREER FOCUSED LEARNING PROGRAMMES FOR
More informationTempled Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer
Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy Marks & Spencer Ymwadiad Darparwyd y Templed Polisi Iaith Gymraeg hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Serch hynny, nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol
More informationSut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig
Sut i Ddisgleirio Adeg y Nadolig Val Edgar Hyderwn y gwnewch chi a ch dosbarth fwynhau defnyddio r llyfr hwn. Llyfrau eraill yn y gyfres yw: Teitlau Mathemateg Sut i Ddisgleirio mewn Bondiau Rhif 978 1
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i ein Cylchlythyr Gaeaf. Rydym yn gobeithio fod chi wedi cael Nadolig hyfryd ac yn edrych ymlaen at y tymor prysur ymlaen. Tipyn bach o newyddion
More informationNewyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru
Newyddion Ansawdd Rhifyn 29 Gorffennaf 2011 Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru Mynychwyr yn y digwyddiad CRAE Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Cymru o addysg, mae Safonau fel arfer
More informationPECYN ADNODDAU I ATHRAWON
PECYN ADNODDAU I ATHRAWON BBC CYFLWYNIAD Doctor Who - The Doctor and the Dalek Gêm ydy hon sy n cynnig cyfle i ddisgyblion hynaf yr ysgol gynradd a disgyblion ieuengaf yr ysgol uwchradd i ddysgu a chymhwyso
More informationBeth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners
********************************************************************************************************* Beth amdani? 2016 Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners 2 Beth amdani? 3 Croeso
More informationCanllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth
Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth Canllaw Rhieni Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg 2017 MD-923 Ionawr 2016 Cynnwys UCAS 2016 Cedwir pob hawl.
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Primary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 3 Year 4 Year 5 Year 6 How old are
More informationStori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.
Stori gefndirol Cafodd Griffith Morgan neu Guto Nyth Brân (1700-1737) ei eni yn Llwyncelyn ger Pontypridd. Roedd yn byw ar fferm fach ei rieni ac yn gweithio yno fel bugail. Dywedir ei fod yn gallu rhedeg
More informationTASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY
TASG 2 1 I : Bob ysgol yng Nghymru FFERM FOLLY FFERM FOLLY Ydych chi n gallu helpu creu logo newydd i r We ar gyfer Fferm Folly os gwelwch yn dda? Mae syniadau newydd gyda ni ac mae map newydd gyda ni.
More informationciwb Beth ydych chi n feddwl o...?
ciwb Beth ydych chi n feddwl o...? Beth ydych chi n feddwl o...? siocled poeth cacen / teisen siocled grawnfwyd siocled creision siocled past dannedd siocled Os ydych chi n hoffi siocled, mae mis Hydref
More informationSESIWN HYFFORDDI STAFF
SESIWN HYFFORDDI STAFF i Mae r canlynol yn ymarferion i staff eu defnyddio i baratoi i gyflawni rhaglen. Gellir defnyddio ymarferion fel rhan o ddiwrnod HMS/hyfforddiant. Mae n bosibl y byddwch eisiau
More informationCyrsiau Courses.
rsiau yrsia Cyrsiau Courses 2017 www.nantgwrtheyrn.org Croeso Pentref hudolus Nant Gwrtheyrn wedi i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru yw cartref
More informationNatWest Ein Polisi Iaith
NatWest Ein Polisi Iaith Page 1 of 6 Cyflwyniad = Mae NatWest yn aelod o The Royal Bank of Scotland Group (RBS), un o r sefydliadau bancio ac ariannol mwyaf yn y byd. Mae Grŵp RBS yn cyflogi rhyw 118,600
More informationAdolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu
Adolygiad o r Cynnwys i Blant Gwahoddiad i gyfrannu Adolygiad: Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017 Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb: 31 Ionawr 2018 Gair am y ddogfen hon Mae r ddogfen hon yn egluro cynlluniau
More informationGWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History
GWERS 90 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Cyflwyno 'I prefer...' Geirfa rygbi -rugby pêl droed - soccer cig eidion -beef persawr - perfume bwyd llysieuol -vegetarian anrheg - present food cawl - soup, broth
More informationGwybodaeth am Hafan Cymru
PECYN RECRIWTIO Gwybodaeth am Hafan Cymru Pwy ydym ni Cymdeithas Tai Gofrestredig yw Hafan Cymru, a r un darparwr mwyaf o wasanaethau ynghylch trais yn erbyn menywod, dynion a phlant sy n gweithredu ledled
More informationFollow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales
Week/Wythnos 9 March/Mawrth 1-7, 2014 Pages/Tudalennau: 2 Iolo s Welsh Sea 3 The Country Midwives 4 Police 24/7 5 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb: Aberystwyth 2 Bangor 2 Cardiff/Caerdydd
More informationPolisi Prevent. 30 Ionawr Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid. Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau
Polisi Prevent Adol. Dyddiad Pwrpas y Cyhoeddiad / Disgrifiad o r Newid Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau 1. Chwefror 2016 Cymeradwyaeth Gychwynnol 11 Chwefror 2016 2. Ionawr 2016 Adolygu
More informationPolisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch
Polisi Cwynion CCAUC Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch info@hefcw.ac.uk. Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC): Polisi Cwynion Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi
More informationGwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work
Archwiliad Chwefror 2015 / February Review Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work 1 Mae r Tîm Ansawdd I Denantiaid yn cynnwys tenantiaid o Partneriaeth Tenantiaid a Phreswylwyr CCG. Pwrpas y
More informationCadwyn 52 Gaeaf Gwanwyn Cynnwys - Contents Tudalen/Page
Cadwyn 52 2/11/06 15:31 Page 1 Cadwyn 52 Gaeaf 2006 - Gwanwyn 2007 Cynnwys - Contents Tudalen/Page 1 Nod Cyd/Cyd s Aim 2 Swyddogion Cyd Cyd Officers Ymweld â r theatre Trips to the theatre Gwefan Cyd Cyd
More informationAdroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia
TP TP PT 5 PT Y FP gan: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia 1. Cyflwyniad Yn ei gyfarfod cychwynnol ar 11 Gorffennaf 2007, penderfynodd y Pwyllgor Menter
More informationW42 13/10/18-19/10/18
W42 13/10/18-19/10/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Match of the Day Wales 4 Tourist Trap 5 Stand Up at BBC Wales 6 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Ammanford / Rhydaman 2 Bridgend
More informationFforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru
Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Adroddiad Blynyddol 2009 2010 Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru Grŵp cydweithredol o holl lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru yw WHELF
More informationMAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu
Yr MAWR Your guide your to getting hool primary sc involved w i gael a l l n a c h c i E radd n y g l o g s y eich i gyfrannu with gyda The BIG Raise lots with spots and help change the lives of disadvantaged
More informationCANLLAWIAU BEIRNIADU DAWNSIO GWERIN A CHLOCSIO
CYMDEITHAS GENEDLAETHOL DAWNS WERIN CYMRU THE WELSH NATIONAL FOLK DANCE SOCIETY CANLLAWIAU BEIRNIADU DAWNSIO GWERIN A CHLOCSIO GUIDELINES FOR THE ADJUDICATION OF WELSH FOLK AND CLOG DANCING Gan Weithgor
More informationSummer Holiday Programme
Summer Holiday Programme for Flintshire Leisure Centres Our fantastic summer holiday programme for each of our four leisure centres www.flintshire.gov.uk Like Follow us Deeside Leisure Centre - 01352 704200
More informationRhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16
Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16 Awdur Linda Bailey: Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus / Gwybodaeth Iechyd Tynnu data Louise Richards (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) Dadansoddi data Mari Jones (Dadansoddwr
More informationGollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068
Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068 Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig
More informationYMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH
CYNLLUN GWASANAETH BETH YW? NODAU: Rhoi cyflwyniad i r Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Ysgolion. Cynnig cipolwg cychwynnol ar awtistiaeth. GWAITH PARATOI I R ATHRO: Edrychwch ar A Teen s Guide To Autism
More informationGWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)
GWERS 86 CYFLWYNYDD: BASIL DAVIES NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60) Geirfa llyfrgell f - library oriel f - gallery eglwys(i) f - church(es) pont(ydd) f - bridge(s) eglwys - cathedral
More informationCanllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid
Etholiad cyffredinol Senedd y DU Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid Rhan 6 o 6 - Ar ôl datgan y canlyniad Tachwedd 2018 Mae'r ddogfen hon yn berthnasol i etholiad cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain
More informationNUT. Cyfnod Sefydlu CANLLAW ANG
NUT CANLLAW ANG 2015-16 Cyfnod Sefydlu Cymwys i addysgu yn 2015? Cewch aelodaeth lawn tan 2017 am 1 Ffoniwch neu ewch ar lein er mwyn uwchraddio o aelodaeth myfyriwr i aelodaeth lawn o r NUT. Llinellau
More informationThe Life of Freshwater Mussels
The Life of Freshwater Mussels Where do they live? What do they eat? Do they taste good? Why are they dying out? How do we get baby mussels? This American mussel has a piece of tissue outside its shell
More informationWeek/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:
Week/Wythnos 41 October/Hydref 11-17 Pages/Tudalennau: The Devil s Vice Lucy Owen: Working Mum Sex Love and Cwtches Cwmderi: Dathlu Deugain Pobol y Cwm at 40 Pobol y Cwm Places of interest/llefydd o ddiddordeb:
More informationCYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU
WHC/2017/014 CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU Dyddiad Cyhoeddi 29 Mawrth 2017 STATWS: GWYBODAETH CATEGORI: ANSAWDD A DIOGELWCH Teitl: Gwybodaeth i gleifion ynghylch trefniadau Gweithio i Wella Dyddiad dod i ben
More informationY Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth
Y Gorau o Brydain Alan Parkinson Adnodd addysgu Daearyddiaeth Cyfnod Allweddol 3 http://digimapforschools.edina.ac.uk Adnoddau Daearyddiaeth Digimap for Schools Canllaw ar gyfer athrawon yw r adnoddau
More informationPwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!
Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA! Erbyn hyn, mae pwyllgor newydd yn gyfrifol am y cylchgrawn, sef Bethan, Rhian, Steffan a Betsan. Gwnaethon nhw gyflwyniad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Hydref er mwyn
More informationYMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS
YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn
More informationWelcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID
Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID YOUR FUNDRAISING pack! EICH PECYN CODI ARIAN! BBC Children in Need is back. And this year we re partnering with Lloyds Bank to bring you Champions
More informationThe. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from
The CAMPSITE toolkit A rough guide to setting up a new campsite Produced by and with support from We are Creative Rural Communities; the Vale of Glamorgan Council s Rural Regeneration initiative. In short
More informationW46 14/11/15-20/11/15
W46 14/11/15-20/11/15 Pages/Tudalennau: 2 Children in Need Wales: The Best Bits 3 Casualty 4 X-Ray 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Holywell / Treffynnon 2 Llandudno 2 Merthyr Tydfil
More informationSCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools
SCHOOL SPORT SURVEY 2011 Participation questionnaire Secondary schools About you Q1 Q2a Q2b Q3a Are you a boy or a girl? Boy Girl Which year are you in at school? Year 7 Year 8 Year 9 Year 10 Year 11 How
More informationARWEINLYFR I FYFYRWYR
ARWEINLYFR I FYFYRWYR HŶN Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG Ffôn: 01248 351151 www.bangor.ac.uk www.facebook.com/prifysgolbangor @prifysgolbangor Mae r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i
More informationClecs. Rhifyn 6. Defnyddiwch eich Cymraeg
Clecs Rhifyn 6 Defnyddiwch eich Cymraeg 2 Cynnwys Contents 2 Croesair Crossword 3 Cadw mewn cysylltiad dros yr haf Keep in touch over the summer 3 Ble i gael gwybodaeth Where to get information 4 Cyfleoedd
More informationSUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL
SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL I bobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth Yn cefnogi cyfle, dewis a llwyddiant Yn Consensus
More informationW44 27/10/18-02/11/18
W44 27/10/18-02/11/18 2 Help! We re Having a Baby 3 Tourist Trap 4 The Tuckers 5 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Blaenau Gwent 2 Cardiff / Caerdydd 2 Machen 2 Newport / Casnewydd
More informationPecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack
Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Urdd National Eisteddfod Business Pack Beth yw Eisteddfod yr Urdd? Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl flynyddol sy n ddathliad o r iaith Gymraeg, y diwylliant a
More informationBwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter
Ffonio.Casglu.Cysylltu Phone.Collect.Connect 01239 801 601 www.bwcabus.info Mawrth March 2013 Bwcabus Llythyr Newyddion Newsletter Gwella mynediad ar gyfer ein cymunedau gwledig Improving access for our
More informationCymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:
Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau ac Ymarfer i Brifysgolion helpu Myfyrwyr sy n Gofalu gael Mynediad i a Llwyddo mewn Addysg Uwch Cymru Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu: Syniadau
More informationProducts and Services
Products and Services The Widdershins Centre Widdershins is an exciting Ageing Well Resource Centre, ideally located in the centre of Torfaen, offering a wide range of services and facilities. The centre
More informationBI-LINGUAL LANGUAGE POLICY
Appendix 11 Staff Handbook BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY INTRODUCTION Antur Teifi s aim is to follow good practice under the Welsh Language Act 1993 and this policy applies to all our business activities.
More informationProses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol
1 Sefyllfaoedd a gweithdrefnau Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol Mae'r ddogfen hon ar gyfer pobl sy'n bwriadu cofrestru plaid wleidyddol neu sydd am newid manylion plaid wleidyddol gofrestredig
More informationAstudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan
Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil
More informationAnnual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme
Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme 1. INTRODUCTION 1.1. This report covers the period from October to the end of October 2011. 1.2. The Legal Services
More informationSesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd?
www.xfam.rg.uk/educatin Sesiwn Gymraeg: Bywydau cydradd neu anghydradd? Ystd ed: 9 14 ed Amlinelliad Bydd y dysgwyr yn chwarae'r gêm Gwybd ble mae eich lle i'w helpu i ddeall beth yw ystyr anghydraddldeb
More informationDOGFEN HUNAN-WERTHUSO
DOGFEN HUNAN-WERTHUSO Cyflwyniad gan Brifysgol Bangor i r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Chwefror 2012 2 CYNNWYS Tudalen 1. CEFNDIR, HANES A STRWYTHUR 7 1.1 Hanes 8 1.2 Y Brifysgol Heddiw 8 1.3 Strwythur Academaidd
More informationW39 22/09/18-28/09/18
W39 22/09/18-28/09/18 2 Rhondda Rebel 3 Back In Time for the Factory 4 Pobol y Cwm Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: Newport / Casnewydd 2 Usk / Brunbuga 2 1 Follow @BBCWalesPress on Twitter to
More informationSymud T^y. Gweithgaredd. Wrth i rym bwyso ar adeilad bydd yn anffurfio: Beth sydd ei angen arnoch
Gweithgaredd Symud T^y Dylai r sesiwn lenwi dau slot amser clwb fel prosiect byr (neu gellir ei defnyddio fel rhan o brosiect hirach o gynnwys yr elfennau ychwanegol). Oeddech chi n gwybod bod adeiladau
More informationCefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!
Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant! Croeso i'n cylchlythyr Gwanwyn. Mae cymaint wedi digwydd ers ein cylchlythyr olaf- gobeithio eich wedi bod yn cadw i fyny gyda'r rhan fwyaf ohono
More informationBil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i DOGFENNAU SY N MYND GYDA R BIL Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân. Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r
More informationPawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus
Hud Cyfrifiadureg Pawb yn gwylio... Casgliad o ryfeddodau hudol sy n trin camgymeriadau r meddwl yn ddireidus Cyflwynwyd gan Peter McCowan, Paul Curzon a Jonathan Black o Ysgol Peirianneg Electronig a
More information