Andrew Lenny Cymynrodd

Similar documents
Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Addewid Duw i Abraham

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

GWERS 95. Dysgu r trefnolion (ordinals) 21ain - 31ain. Geirfa

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Meaningful Chocolate Pasg 2018 Pam wyau Pasg? CA1-2 NODIADAU

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Rhed yrfa gref drwy ras y nef

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Yr Llyfr Gweddi Gyffredin i w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru T R E F N A R G Y F E R Y C Y M U N B E N D I G A I D

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Holiadur Cyn y Diwrnod

Newyddion Capel Y Waen

Addysg Oxfam

12 Y Tyst Rhagfyr 25, Ionawr 1, 2015

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

The Life of Freshwater Mussels

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W46 14/11/15-20/11/15

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

Chwefror / February 2015

Yr Ymofynnydd. Rhifyn Haf Beth ydy r cysylltiad rhwng y garreg hon ac Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012?

W42 13/10/18-19/10/18

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Bwletin Gorffennaf 2016

Capel Undodaidd, profiad ar fin marw, a stori hynod un dyn

EISTEDDFOD GADEIRIOL DYFFRYN OGWEN

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

W39 22/09/18-28/09/18

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

E-fwletin, Mawrth 2016

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Bad Achub y Borth. Twrnament pêl-droed. t.12. Dysgu Cymraeg yn Awstralia t.8. Llwyddiant rhyngwladol. t.5

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

PREGETHU O R EFENGYLAU GWELODD DUW YN DDA TRWY FFOLINEB YR HYN YR YDYM NI YN EI BREGETHU ACHUB Y RHAI SYDD YN CREDU.

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

STAFFIO: Estynnwn groeso cynnes i Mrs Emma Robertshaw (Athrawes newydd dosbarth Jac y Jwc).

Taith i fro Ann Griffiths

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Gair o r Garth Garth Grapevine

official programme RHAGLEN SWYDDOGOL

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

Cynnwys Rhifyn 3 (Mis Mehefin)

W44 27/10/18-02/11/18

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Papur Bro Community Newspaper

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Mawl y Pasg! Easter Praise! Pupil s Wordbook. Llyfr Geiriau r Disgybl. Sheila Wilson REDHEAD MUSIC WORDBOOK EPR113

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Seremoni a Gorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod 2008

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Newyddion Mis Medi. Sbarc Addoliad ac Undod Amrywiaeth 30 Medi 2012

W28 07/07/18-13/07/18

Summer Holiday Programme

Galwad i wasanaethu Called to serve Y Grawys 2015 Lent 2015

tafod eláie Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda Na i doriadau Rh. C.T Ymweld â Swdan Crochendy Nantgarw

Tafod Twrog. May/Mai June/Mehefin 2018

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

INC Noddir gan/sponsored by Ceir Cymru. Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ

ANRHEGU ANN RHEOLWR SAFLE NEWYDD DIFFIBRILIWR I R PENTREF

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

W7 09/02/19-15/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Scrum V Six Nations Special 3 Pitching In 4 Nightshifters 5 Pobol y Cwm

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri High Speed Plastics, Llandygái ; AustinTaylors, Bethesda

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 75

W2 6/1/18-12/1/18. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Brwydro yn Erbyn Blerwch

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

~ Y Feidr ~ Cylchgrawn Eglwys Annibynnol Capel Mair, Aberteifi Cyfrol vii, Rhifyn 29 Golygydd : Wynford Jones Hydref 2012

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

ECO r Wyddfa Rhif: 453

Taith Iaith 3. Gwefan

Llun trwy ganiatâd y BBC

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Ymweld â i Hen Gartref

Appointment of BMC Access

W6 02/02/19-08/02/19. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb: 2 Children s Ward 3 Six Nations Sin Bin 4 Secret Life of Farm Animals 5 Pobol y Cwm

Transcription:

Nodion Seion Pasg 2017 DATHLU R 30 Testun llawenydd ar Galan Ionawr 1987 fu cychwyn gwasanaeth Y Parchg. Andrew Lenny yn weinidog arnom, aelodau eglwys Iesu Grist, yn Seion. Cynhaliwyd yr Oedfa Sefydlu brynhawn Sadwrn, Mawrth 28ain, 1987. Felly, nodwn a dathlwn eleni iddo dderbyn yr alwad 30 o flynyddoedd yn ôl. Bu iddo fynegi r pryd hwnnw mai ei fraint a i gyfrifoldeb fyddai pregethu anchwiliadwy olud Crist o bulpud Seion. Diolchwn i r Arglwydd am ei gadw a i gynnal i gyhoeddi Efengyl gras Duw i ni yn ddi-dor gydol y blynyddoedd hyn. Diolch yn fawr i chi, Andrew, ac i Rosemary hefyd. Gair gan y Gweinidog Mewn nifer o oedfeuon ac yn y Dosbarth Beiblaidd yr ydym wedi cael maeth ysbrydol a bendith o fyfyrio yn emynau William Williams. Cofiwn eleni am ei enedigaeth union dri chan mlynedd yn ôl. Cawsom yn wir ein bendithio fel cenedl o gael emynau r Pêr Ganiedydd i n tywys i weld gogoniant Person Iesu a n galluogi, yn arweiniad yr Ysbryd Glân, i ddirnad, wrth fyfyrio yn ei emynau, ystyr marw aberthol Iesu drosom ar groes o bren. Dywedodd J.D. Vernon Lewis mai r llinell, Iesu, nid oes terfyn arnat o eiddo William Williams yw r llinell fwyaf ei hawgrym yn hanes holl emynau Cymru. Dywedodd yr Arglwydd Iesu Grist, Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim (Luc 21:33). To Catch an Angel, yw teitl hunangofiant Robert Russell. Collodd ei olwg yn bump oed ond ni wnaeth achwyn ei gŵyn o gwbl. Americanwr ydoedd. Llwyddodd i ennill gradd yn Rhydychen a chael ei ddyrchafu maes o law yn Athro Llenyddiaeth mewn Prifysgol yn Chicago. Ar un cyfnod bu r gŵr dall hwn yn byw ar ynys yng nghanol afon. Byddai n mynd i rwyfo ar yr afon yn feunyddiol trwy ddefnydd o system syml iawn. Wrth y polyn ar y lan, lle'r oedd yn clymu ei gwch, roedd ef wedi cysylltu cloch wrth ryw beiriant amseru. Roedd y gloch yn canu bob tri deg eiliad. Roedd e n medru rhwyfo i fyny ac i lawr yr afon, a bob tri deg eiliad yn medru synhwyro pa mor bell oedd ef o r ynys yn ôl sŵn y gloch. Wedi mwynhau orig o rwyfo roedd e n medru dychwelyd wedyn at y lan yn ôl llwybr sŵn y gloch. Meddai, Y mae r afon yno o fy mlaen, yn wahoddiad parhaus, yn sialens barhaus, a fy nghloch yw r llinyn o sain sy n fy ngalluogi i ddychwelyd i fangre tawel a diogel. Mae bywyd yn debyg i afon fawr. Mae Duw yn ein galw i fentro allan arni lle mae yna gyffro a pherygl. Er mwyn ein harbed rhag mynd ar goll wrth i ni fyw yn y byd mae angen cloch diogelwch arnom. Ein cloch diogelwch yw Gair Duw. Rhaid i ni wrando ar ei Air ac ar Iesu sydd ei hun yn Air Bywiol Duw. Pan yw afon bywyd yn wyllt a ninnau mewn perygl o fynd ar gyfeiliorn mae Gair Duw yn dod â ni adref i ddiogelwch dim ond i ni wrando ac ufuddhau yn nerth yr Ysbryd Glân. Ystyriwch un cyfarwyddyd o enau Iesu:

Rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, bendithiwch y rhai sy n eich melltithio, gwnewch ddaioni i r rhai sy n eich casáu a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid (Mathew 5:44). Ni ellir diddymu r cyfarwyddyd yna o enau r Arglwydd Iesu Grist. Mae ei eiriau yn dal i herio a dwysbigo. Cariad yw r unig rym sy n medru troi gelyn yn gyfaill dyna a ddywed Iesu, ac mae r gwirionedd yna yn oesol nid oes terfyn iddo. Nid oes twyll yng ngair yr Arglwydd ac ni all neb roi terfyn ar ei air a i addewidion. Dywedodd Iesu nifer o weithiau wrth ei ddisgyblion, Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda (Marc 9:31). Croeshoeliwyd Iesu fel ag y bu iddo ragfynegi. Claddwyd ef mewn bedd yn y graig yng ngardd Joseff o Arimathea. Aeth dwy noson heibio a demoniaid uffern yn llawenhau, a Satan a galluoedd y tywyllwch yn sicr eu bod wedi ennill buddugoliaeth fawr. Ar nos Wener ac ar ddydd Sadwrn bu r arweinwyr Iddewig ynghyd â r llywodraeth Rufeinig yn llongyfarch eu hunain ar eu cynllwyn cyfrwys yn cael gwared y Saer o Nasareth. Ond ar fore r Trydydd Dydd yn dawel a di-stŵr digwyddodd rhywbeth rhyfeddol a gwyrthiol. Dywed yr Apostol Paul wrthym yn gwbl glir bod grym anorchfygol Duw wedi bod ar waith mewn modd unigryw pan gyfodwyd Crist o feirw. Meddai, Cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad (Rhufeiniaid 6:4). Cyfeiriad at nerth Duw yw r gair gogoniant yn y fan yna. Rhyddhawyd Iesu o afael marwolaeth gan nerth Duw. Iesu, nid oes terfyn arnat. Llwyddodd dynion ei hoelio ar groes ond ni allasent ei gloi mewn bedd. Credodd y diafol fod pechod a marwolaeth wedi ennill y dydd ar ddydd Gwener y Groglith. Roedd y da a r daionus, y gorau a welodd y byd wedi ei groeshoelio gan ddynion cythreulig a i ladd. Ar fore r Trydydd Dydd gwelwyd bod grym Duw yn gryfach na grym y diafol. Nid yr un math o rym sydd gan Dduw â hwnnw o eiddo r Un Drwg. Grym sanctaidd cariad yw grym Duw, grym sy n gwbl absennol yn y Drwg. Grym cariad ein Gwaredwr yw r un nad oes terfyn arno. Pe byddai Iesu yn dal yn ei fedd ni allasai fod yn Waredwr i neb. Cyfododd Duw ef yn brawf ei fod wedi derbyn ei aberth yn iawn am ein pechodau ni. Iesu, nid oes terfyn arnat. Mae r Crist byw yn medru ein cyrraedd ni pan na all neb arall ein cyrraedd ni. Mae n cyrraedd y crediniwr sydd wedi derbyn ei aberth drosto ar y groes gyda balm ei faddeuant a i gariad, ei dangnefedd ac ymwybyddiaeth real o i gwmni. Edrychwn ymlaen at Sul y Pasg i uno gyda n gilydd i ddathlu atgyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist - y Crist byw nad oes terfyn arno sydd gyda ni drwy r Ysbryd Glân i n galluogi i fod yn sianelau cariad a daioni, brawdgarwch a heddwch mewn byd sy n dolurio ac mewn dirfawr angen am Waredwr all newid calon dyn. Pasg llawen i chi gyd, Andrew Lenny Cymynrodd Derbyniasom rodd o 20,000 yn ewyllys Mrs Gwenllian Meredith. Roedd Mrs Gwenllian Meredith yn un o blant yr eglwys ac roedd gwaith a thystiolaeth eglwys Seion yn agos iawn at ei chalon.

Ffyddloniaid a hunodd Miss Rhiannon Margaret Hughes (2:12:16) Mrs Nonna Edwards (29:12:16) Cydymdeimlwn ag aelodau a gollodd anwyliaid Mrs Rosemary Lenny (mam a modryb), Parchg. Andrew Lenny (mam yng nghyfraith), Mrs Mair Lenny Turner (mam-gu), Miss Llinos Hughes (chwaer), Mr David Griffiths (cefnder), Mr Glyn Griffiths Jones (cefnder), Dr Nia Garrero (ewythr), Mrs Ann Griffiths (cyfnither), Dr Richard Edwards (mam), Dr Dana Edwards (mam yng nghyfraith ac ewythr), Dr Dafydd Edwards (mam-gu), Miss Fflur Edwards (mam-gu), Mrs Elin Williams (tad), Mrs Barbara Thomas (mam), Yr Athro Dennis Thomas (mam yng nghyfraith), Mr Dewi a Mrs Valmai Jones (brawd yng nghyfraith). Yn yr ysbyty neu newydd dderbyn triniaeth Mrs Cassie Pugh, Mrs Eirian Gibson, Tirion Edwards, Mrs Joyce Evans, Mr Emyr James, Mr Dewi Jones. Llongyfarchiadau i Mr Dewi Jones ar ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed. i Siwan ac Elfyn Henderson ar enedigaeth Inigo Math, brawd i Osian ac ŵyr i Malcolm a Nona Davies. Hanes Seion, Aberystwyth 1878 2008 Bwriedir cyhoeddi'r gwaith hwn eleni. Bydd mewn dwy ran. Yn gyntaf, pymtheg pennod o hanes yr achos, yn cael ei ddilyn gan ddau ddwsin o atodiadau. Bydd y rhain yn rhestru r digwyddiadau a phersonau a fu ynglŷn â r hanes. Defnydd cyfeirlyfr fydd i r adran hon yn bennaf. Bydd yn ymddangos ar wefan Seion, ond gellir cael copi papur os dymunir. Bydd y gwaith ar gael i aelodau Seion yn ddi-dâl (un copi i bob teulu). Os am gael mynediad i r wefan neu archebu copi papur, a fyddech cystal â rhoi gwybod i r awdur, Glyn Lewis Jones, 27, Glan Rheidol, Aberystwyth SY23 3GG, neu ei ffonio ar 01970 624408, erbyn 20 Ebrill, 2017. Cwrs Alffa y Myfyrwyr Mae n hyfrydwch calon bod deg o fyfyrwyr ac ieuenctid yn dilyn y Cwrs Alffa bob nos Fercher. Ar hyd y blynyddoedd mae'r Cwrs Alffa wedi bod yn werthfawr iawn i lawer ohonom ac yn gyfrwng i gyflwyno sylfeini r Ffydd, i drafod, adnewyddu a herio'r hyn yr ydym ni yn ei gredu. Boed i ni weddïo am fendith Duw ar y rhai a ddaw ynghyd i festri Seion i ddilyn y Cwrs Alffa. Cynllun y Ffordd Daeth pymtheg ohonom i sesiwn cyntaf Cynllun y Ffordd ar nos Lun, 27 Chwefror, 2017. Mae r DVD yn broffesiynol ac mae r cwestiynau sydd wedi eu paratoi yn dreiddgar ac wedi creu trafodaethau dwys a bywiog ymhlith y tri grŵp yn y sesiwn cyntaf. Y Beibl ym mywyd yr eglwys heddiw yw teitl yr ail sesiwn. Cynhelir yr ail sesiwn ar nos Lun, 27 Mawrth am 7.00 o r gloch. Y Dosbarth Beiblaidd Mae r Dosbarth Beiblaidd yn dal i ddenu aelodau newydd. Cawsom fendith o bori yn emynau William Williams. Yn awr yr ydym yn canolbwyntio ar wisgoedd y Cristion yng ngoleuni 2 Pedr 1:5-7. Gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd, hunanddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad, brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch. Cwis y Capeli Llongyfarchiadau i dîm Seion (Gwenda James, Eifion Davies, Endaf a Sian Edwards) ar eu llwyddiant yng Nghwis y Capeli ym mis Ionawr. Cyfeiriad Newydd Dr Owain a Mrs Hawys Roberts, 4, Garreg Wen, Bow Street, SY24 5DG.

Dathlu r Nadolig yn Seion Oedfa Nadolig yr Ysgol Sul Baban Bethlehem, Ffoadur yn yr Aifft, Gwaredwr y Byd oedd thema Oedfa Nadolig yr Ysgol Sul ac roedd y plant a r ieuenctid ar eu gorau. Ni anghofir sgets y tair coeden Nadolig gan Ifan, Elinor a Gruffudd. Cawsom ein harwain drwy r digrif a r dwys i gofio ac i ddathlu mewn modd trawiadol y gwir reswm am fodolaeth y Nadolig - bod Gwaredwr wedi ei eni sy n Waredwr i bawb a ddaw ato. Cawsom fonolog Gwraig y Llety gan Lowri Steffan ynghyd â charol gan barti canu r mamau. Canwyd Emyn y Ffoadur o waith Mererid Jenkins ar y dôn Eleazar gan Ifan Thomas wrth i luniau trawiadol o Mair a Joseff, am yn ail â lluniau o ffoaduriaid heddiw, ymddangos ar sgrin y pwynt pŵer. Gwelsom fod Iesu Grist ei hun wedi bod yn ffoadur yn yr Aifft a i bod hi n rhan o n galwad ni fel Cristnogion i estyn mewn cariad at ffoaduriaid y byd heddiw. Derbyniwyd offrwm o 635 ar derfyn yr oedfa i gefnogi Apêl Ffoaduriaid Cymorth Cristnogol a r Groes Goch. Defnyddiwyd rhan o r arian i brynu teledu yn anrheg Nadolig i deulu o Aleppo yn Syria sydd newydd ddod i n plith. Yn dilyn yr oedfa, braf oedd croesawu Siôn Corn i barti r Ysgol Sul i rannu anrhegion i r plant. Oedfa Deuluol Bore Nadolig Braf iawn oedd ymgynnull yn Deulu r Ffydd ar fore dydd Nadolig i ddathlu genedigaeth yr Arglwydd Iesu Grist. Roedd rhan amlwg gan yr ieuenctid yn yr oedfa. Darllenwyd o r Ysgrythur gan Tomos Gruffudd Roberts Young, cawsom ddatganiad ar yr ewffoniwm gan Meleri Pryse ynghyd ag unawdau gan Sophie Rudge ac Ifan Thomas. Cafodd y plant hwyl wrth ddangos eu hanrhegion i r gweinidog cyn iddo yntau rannu neges am y Gwaredwr sy n newid calonnau.anrhegion i r plant.

Y Gymdeithas Ein siaradwr gwadd ar ddechrau gweithgareddau r Gymdeithas am 2017 oedd Dr Endaf Edwards. Brodor o Ystrad Meurig yw Endaf ac mae o a i wraig Sian yn aelodau o deulu Seion ers sawl blwyddyn. Drwy gyfrwng sgwrs a sleidiau cawsom hanes blwyddyn arbennig a hynod dreuliodd Endaf fel Maer Aberystwyth. Bu protestiadau, dathliadau ac achlysuron lleol a chenedlaethol yn gymysg a theithiau i r Iwerddon, Ffrainc a r Almaen yn britho 2015/2016. Yn amlwg, mae bywyd Maer yn amrywiol a phrysur iawn. Nos Fawrth, 14 Chwefror ein gŵr gwadd oedd Wynne Melville Jones. Testun Wynne oedd Syniadau ac aeth â ni ar daith o Ysgol Tregaron i Adran Gelf Coleg y Drindod, ymlaen i w gysylltiadau â r Urdd, sefydlu Llwybr Llên yn Llandre cyn ein hebrwng at ei syniad diweddaraf - i fynd yn ôl i arlunio wedi iddo ymddeol. Roedd gan Wynne props i w helpu i adrodd ei stori ac er bod rhai o leoliadau r peintiadau ddim mor gyfarwydd i ambell un o r gynulleidfa, roedd pawb yn adnabod Mistar Urdd. Dathlwyd Gŵyl Ddewi gyda thri o n haelodau yn datgan Beth yw bod yn Gymro/Gymraes. Y dewrion oedd June Griffiths, Leon Gibson a Nerys Llewelyn a chafwyd noson hwyliog a diddorol iawn yn gwrando ar y dylanwadau - yn deulu, cydnabod a chymdeithas, sydd wedi gwneud y triawd arbennig yma yr hyn ydynt. Rhannwyd hanesion dwfn a difyr a chafwyd cyfle ymysg ffrindiau i ddwyn i gof anwyliaid ac amser hudolus a diniwed ers talwm. Parhaodd y drafodaeth dros luniaeth blasus a baratowyd gan y gwragedd. Llawer o ddiolch i June, Leon a Nerys am fodloni i rannu eu profiadau. Bore Coffi r Gymdeithas Os ydych yn fodlon helpu yn achlysurol i baratoi'r bore coffi misol ar gyfer y Gymdeithas a fyddech cystal â rhoi gwybod i Gwenda James (Ysgrifennydd) os gwelwch yn dda (gwenda_llan@yahoo.co.uk). Oedfa Nadolig y Myfyrwyr Braint fawr i ni yn eglwys Seion ar hyd y blynyddoedd yw cael cwmni myfyrwyr yn cydaddoli â ni yn oedfeuon y Sul ac eleni eto cawsom oedfa Nadolig arbennig o dan eu harweiniad. O dan arweiniad grŵp offerynnol y myfyrwyr cawsom flas ar ganu emynau a charolau cyfoes. Cawsom gyfle i weld DVD eithriadol o afaelgar yn ein dwyn ni wyneb yn wyneb â gwir ystyr y Nadolig. Yn dilyn darlleniadau o r Gair a gweddïau, rhannodd un o r myfyrwyr ei dystiolaeth bersonol â ni. Rhannwyd neges o r Gair gan y Gweinidog yn seiliedig ar y geiriau, Anfonodd Duw ei Fab (Galatiaid 4:4). Bu r oedfa hon yn foddion gras i ffyddloniaid eglwys Seion ac i bawb oedd yn bresennol. Yn dilyn yr oedfa cawsom fwynhau swper blasus yng nghwmni ein gilydd wedi ei baratoi gan ferched Seion. Canu carolau o gylch Ysbyty Bronglais Braf iawn eleni eto oedd ymuno â Christnogion o wahanol eglwysi r dref i ganu carolau o gylch wardiau r ysbyty. Caiff hyn ei werthfawrogi n fawr gan gleifion a u teuluoedd ynghyd â r staff.

I ch Dyddiadur... Dydd Sul, Mawrth 19 10:00 Oedfa Deuluol yng nghwmni r plant a r ieuenctid i gofio tri chanmlwyddiant geni William Williams. Yn dilyn yr oedfa bydd paned yn y festri a chyfle i gyfrannu at Apêl Dioddefwyr De Swdan. Mae can mil o bobl mewn perygl o farw o newyn yno. 6.00 Oedfa r hwyr. Nos Fawrth, 21 Mawrth 7:00 Cyfarfod o Gymdeithas y Capel. Sgwrs gan Mr Gerallt Davies. Nos Lun, 27 Mawrth 7.00 Croeso i ail sesiwn Cynllun y Ffordd - Y Beibl ym mywyd yr eglwys heddiw. Dydd Mercher, 29 Mawrth 10:00 byddwn yn cynnal sesiynau i gyflwyno Profiad y Pasg i blant o ysgolion yr ardal. Bore Mercher, 5 Ebrill 10:30 Bore Coffi Cymdeithas y Capel Nos Iau Cablyd, 13 Ebrill 7:00 Oedfa Gymun Undebol yng Nghapel y Morfa Dydd Gwener y Groglith, 14 Ebrill 10:00 Oedfa Gymraeg Unedig ym Methel Bydd gorymdaith y Groglith yn dilyn am 11:15 o ben y Stryd Fawr (wrth y cloc) ac yn gorffen yn Stryd y Popty lle cynhelir oedfa fer a gweithgarwch amrywiol. Sul y Pasg, 16 Ebrill 10:00 Oedfa Deuluol i ddathlu r Atgyfodiad yng nghwmni r plant a r ieuenctid. Gweinyddir Ordinhad Swper yr Arglwydd. 6:00 Oedfa r hwyr. 17-20 Ebrill - Gŵyl Gristnogol Llanw yng Nghricieth. Bore Mercher, 3 Mai 10:30 Bore Coffi Cymdeithas y Capel Dydd Sul, 14 Mai 10:00 Oedfa Deuluol yng nghwmni plant ac ieuenctid Ysgolion Sul Gogledd Ceredigion yng Nghapel Bethel, Talybont. 5.30 Cymanfa Ganu Eglwysi Gogledd Ceredigion Methel, Talybont. Arweinydd: Mr Alwyn Evans 14-20 Mai Wythnos Cymorth Cristnogol a r casgliad o ddrws i ddrws. Dydd Mercher, 24 Mai Cynhelir Cwrdd Chwarter Cyfundeb Ceredigion yng Nghapel Troedyrhiw, Cribyn. 3:30 Cynhadledd 6:30 Y Gymanfa Bregethu Dydd Sul, 4 Mehefin 3:30 Byddwn yn cynnal oedfa yng Nghartref Tregerddan. Rihyrsals y Gymanfa Ganu Ebrill 5, 7pm Capel y Morfa Ebrill 12, 7pm Capel y Garn Ebrill 26, 7pm Bethel, Aberystwyth Mai 3, 6.30pm Seion, Stryd y Popty Mai 10, 7pm Bethel, Talybont Trefn Gwasanaethau r Cymun Sul y Pasg (bore), Mai 7 (hwyr), Mehefin 4 (hwyr) Pregethwyr 23 Ebrill Y Parchg. Euros Wyn Jones 30 Ebrill Y Parchg. Carwyn Siddall 28 Mai Karen Owen 25 Mehefin Y Parchg. Casi Jones Cynhelir y cyfarfod nesaf o Bwyllgor Nodion Seion ar Mai 22, 2017.