atgofion o dyfu sy n para am oes ein newyddion a straeon o tŷ hafan y tu mewn cylchlythyr hydref/gaeaf 2016 rhieni n dangos eu doniau t.

Similar documents
Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Holiadur Cyn y Diwrnod

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Addewid Duw i Abraham

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

The Life of Freshwater Mussels

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

LLEISIAU O LAWR Y FFATRI / VOICES FROM THE FACTORY FLOOR. Ffatri baco, Amlwch , a rhai misoedd yn c. 1946

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

Summer Holiday Programme

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Addysg Oxfam

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

F U N D RAISING pack! C O D I A RIA N!

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

W46 14/11/15-20/11/15

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

W39 22/09/18-28/09/18

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Products and Services

Catchphrase Ysbyty Brynaber - Week 77

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

NatWest Ein Polisi Iaith

Dachrau n Deg Flying Start

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Gair o r Garth Garth Grapevine

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Straeon Natur Gwaith cartref y draenogod bach

Bondiau Premiwm Dyddiau difyr!

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Pecyn Busnes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Urdd National Eisteddfod Business Pack

E-fwletin, Mawrth 2016

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Talu costau tai yng Nghymru

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

Swim Wales Long Course Championships 2018

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Penglais DATES FOR YOUR DIARY YR URDD

EAS Papur Ymarferol 2 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2014

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

TASG 2 FFERM FOLLY FFERM FOLLY

Pennaeth Mr Dewi Owen Headteacher

Calon. Celebrating Our First Birthday. Dathlu ein Penblwydd Cyntaf. Grŵp Cynefin. Cynefin

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

offered a place at Cardiff Met

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Transcription:

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan cylchlythyr hydref/gaeaf 2016 atgofion o dyfu sy n para am oes y tu mewn ein super sibs t.4 rhieni n dangos eu doniau t.11 stori max t.14

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org croeso Croeso i rifyn hydref/gaeaf cylchgrawn Cwtsh. Rydym ni i gyd yn rhan o Dîm Tŷ Hafan. Ein teuluoedd sy n defnyddio r gwasanaeth, ein haelodau staff sy n gweithio yn yr hosbis, yn ein pencadlys, yn y siopau neu yn y gymuned, a phawb sy n prynu tocyn loteri Crackerjackpot, sy n cael eu trochi mewn paent yn ystod Ras Enfys, sy n gosod heriau codi arian anhygoel i w hunain, sy n gwirfoddoli ar ein rhan neu sy n anfon rhodd i ni, un gymuned ydym ni. Mae Tŷ Hafan yn golygu cymaint i gynifer o bobl ledled Cymru ac mae n rhaid diolch i bob un o Dîm Tŷ Hafan am ein helpu i ddarparu gofal a chymorth i deuluoedd sy n gorfod byw â r posibilrwydd annirnadwy na fyddant yn gweld eu plentyn, eu hŵyr neu wyres neu frawd neu chwaer yn tyfu i fod yn oedolyn. Bob blwyddyn, cawn ein syfrdanu gan ymdrechion anhygoel pobl Cymru i sicrhau y gall Tŷ Hafan barhau i fod yno i bobl a helpu i wneud bywyd byr yn fywyd llawn. Rydym ni n gobeithio y bydd y rhifyn hwn o Cwtsh yn rhoi syniad i chi o sut y mae eich cymorth chi yn helpu a pham y mae n golygu cymaint i n teuluoedd. Diolch yn fawr iawn am eich cymorth. cynnwys prosiect gardd newydd a lansiwyd drwy daith feicio elusennol...02 ein super sibs anhygoel...04 parti chwedlonol tŷ hafan!...04 ein harcharwyr...05 diwrnod ym mywyd ymarferydd therapi ategol...06 mae tŷ hafan werth y byd i deuluoedd...09 lansio emporiwm tŷ hafan ar-lein...10 rhieni yn dangos eu doniau...11 haf llawn hwyl i dîm tŷ hafan...12 stori max...14 ein grŵp loteri o 385...16 raffl tŷ hafan...17 cardiau crafu newydd ar gyfer 2016...17 clecars nadolig...17 mae pob 1 yn gwneud gwahaniaeth...17 ymdrech codi arian llawn sêr...18 diolch i dîm tŷ hafan...19 gadael ein marc...20 maer caerffili yn torri record codi arian...20 plant yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau ar gyfer tîm tŷ hafan...21 mynd â r enfys ar y ffordd...22 prosiect gar a lansiwyd drw Cafodd Tŷ Hafan y tiroedd bendigedig lle mae r hosbis bellach yn sefyll yn ôl ym 1993. Mae r lleoliad prydferth, sy n swatio rhwng tir fferm gwyrdd ffrwythlon a Môr Hafren, wedi bod yn rhan fawr o r hyn sy n gwneud Tŷ Hafan yr hyn yr ydyw. Wrth edrych ymlaen at ein pen-blwydd yn 18 oed yn 2017, mae darparwr peirianneg Costain VINCI wedi ymuno â ni mewn partneriaeth newydd a byddant yn cynllunio ac yn adeiladu gardd newydd o r radd flaenaf ar dir yr hosbis. Bydd yr ardd newydd yn gweddnewid y safle presennol. Bydd plant yn parhau i gael eu coffáu yn yr ardd newydd ac mae Tŷ Hafan yn gweithio gyda theuluoedd i wireddu hyn. Bydd 2

hydref/gaeaf 2016 Bydd yr ardd yn darparu lle tawel a myfyriol i rieni ac aelodau staff. dd newydd y daith feicio elusennol yr ardal hefyd yn cynnwys elfennau therapiwtig a chymdeithasol i deuluoedd ac aelodau staff yr hosbis eu mwynhau. Meddai Carol Killa, Cyfarwyddwr Gofal Tŷ Hafan: Rydym yn helpu ac yn cefnogi mwy o blant flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae angen gwneud gwaith ar frys i ehangu a datblygu r rhan hon o n gardd. Bydd yr ardd yn darparu lle tawel a myfyriol i rieni ac aelodau staff yn ogystal â darparu lle llawn hwyl ac ysgogol i r plant a u brodyr a chwiorydd gael rhyngweithio yn ddiogel. Er mwyn dechrau codi arian ar gyfer y prosiect, aeth tîm o feicwyr o Costain VINCI ar daith feicio 370 milltir arwrol a gychwynnodd yn yr hosbis ac a ddaeth i ben ym Mharis, mewn pryd i r beicwyr allu dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru yn y gêm gogynderfynol yn erbyn Gwlad Belg ym mhencampwriaeth pêl-droed Euro 2016. Pedalodd 27 o feicwyr, gyda 6 gyrrwr cefnogol yn eu cynorthwyo, tua 120 milltir bob dydd ar eu ffordd i r llinell derfyn o dan y Tŵr Eiffel. Meddai Barry Woodman, Y Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer y Fenter ar y cyd Costain VINCI: Roedd gennym ni a n partneriaid cynllunio yn Arup ac Atkins y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gwireddu r cynnig i ail-ddylunio a datblygu yr ardd a r coetir amgylchynol yn Tŷ Hafan. Rydym ni n hynod falch o gefnogi r elusen ragorol hon i blant. Mae disgwyl i waith ar y prosiect gychwyn yn fuan, a bydd yn cynnwys gardd goffa, coetir hudolus, platfform gwylio a nodweddion synhwyraidd megis offerynnau cerddorol a meinciau pryfed. Er 1999, mae Tŷ Hafan wedi cefnogi 689 o blant sy n byw bywydau byr a u teuluoedd ledled Cymru. Mae Tŷ Hafan yn darparu cymorth yng nghartref y teulu hefyd ac y mae yno i helpu teuluoedd drwy bob cam o u taith annirnadwy. Er mwyn parhau i gynnig ei wasanaeth unigryw i deuluoedd, mae n dibynnu ar haelioni r cyhoedd, ei noddwyr corfforaethol a gwirfoddolwyr. 3

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org ein super sibs anhygoel Cynhaliwyd Wythnos Hosbis y Plant, yr unig wythnos codi arian a chodi ymwybyddiaeth yn y DU ar gyfer gwasanaethau hosbis i blant, rhwng 23 a 27 Mai. Mae mwy na 660 o deuluoedd wedi defnyddio gwasanaethau Tŷ Hafan ers iddi agor ei drysau ym 1999 ac mae Wythnos Hosbis y Plant yn hanfodol ar gyfer amlygu pwysigrwydd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar gyfer y teuluoedd hyn a r trafferthion y mae n rhaid iddyn nhw eu hwynebu bob dydd. Y thema ar gyfer Wythnos Hosbis y Plant eleni (Mai 23 29) yw rhoi teuluoedd yn gyntaf er mwyn amlygu sut y mae hosbisau megis Tŷ Hafan yn helpu teuluoedd i drysori eu hamser gwerthfawr gyda i gilydd. Mae cefnogi pob aelod o r teulu, gan gynnwys brodyr a chwiorydd, yn rhan o wasanaeth unigryw Tŷ Hafan. Mae rhai o n brodyr a n chwiorydd ysbrydoledig wedi rhannu eu sylwadau ynglŷn â sut yr ydym ni n eu cefnogi: Meddai Nathan Keen, 18, o Sain Tathan: Rwy n hoffi r super sibs y mae Tŷ Hafan yn eu cynnal, oherwydd i rywun fel fi sydd â brawd anabl, mae n fy helpu i anghofio am y trafferthion gartref. Rwyf wedi bod yn mynd i r diwrnodau hyn i frodyr a chwiorydd ers blynyddoedd bellach ac wedi cael llawer iawn o hwyl ac wedi cael atgofion anhygoel hefyd ac mae wedi gwneud i mi fagu gymaint o hyder. I mi, mae mynd i Tŷ Hafan yn golygu nad oes rhaid i chi wynebu ch trafferthion ar eich pen eich hun! Maent hefyd yn cefnogi r teuluoedd sydd â phlant sâl. Maent wedi fy nghefnogi i a m teulu drwy gydol yr holl amser yr ydym wedi bod yn mynd yno. Meddai Kelcea Sainsbury (7 oed o Lynebwy): Y rheswm pam rwy n hoffi dod i glwb super sibs yw oherwydd ei fod yn hwyl ac yn gyfle i gwrdd â brodyr a chwiorydd eraill y mae modd i mi siarad â nhw a deall sut maen nhw n teimlo. Mae n bwysig i mi gan fy mod yn gallu profi pethau newydd a gwybod nad wyf ar fy mhen fy hun wrth gael fy nghefnogi gan y Super Sibs. Meddai Faith a Teigen Matthews (sy n naw ac wyth oed o Gaerdydd): Rydym ni n mynd i Tŷ Hafan oherwydd bod gan ein brawd Rhys syndrom calon chwith hypoblastig (HPLH). Rydym yn mwynhau r clwb Super Sibs gan ei fod yn rhoi cyfle i ni gael hwyl gyda n gilydd ac mae aros yn Tŷ Hafan yn golygu ein bod yn cael mwy o amser ar ein pennau ein hunain gyda n mam, tra bod Rhys yn cael gofal. parti chwedlonol tŷ hafan! Mae Wythnos Hosbis y Plant bob amser yn brysur, bob amser yn llawer o hwyl a bob amser yn gorffen gydag un o n partis hosbis chwedlonol. Roedd rhai o r uchafbwyntiau eleni yn cynnwys perfformiad gwych gan fand iwcalili a brwydr ddŵr yn yr heulwen gyda seren y byd rygbi, Jamie Roberts, a gwesteion yn gwisgo gwisg ffansi, wrth gwrs! Hefyd, treuliodd plant a theuluoedd amser â seren y rhaglen Dirty Sanchez, Matthew Pritchard, y pencampwr Paralympaidd, Mark Colbourne, chwaraewr y Cardiff Devils, Jake Morissette, a r cyn chwaraewr Mark Smith a ymunodd yn hwyl y parti am y prynhawn. Meddai Jamie Roberts: Rwyf yma yn Tŷ Hafan yn Sili i ddathlu Wythnos Hosbis y Plant ledled y DU. Rwyf newydd fod mewn brwydr ddŵr rwy n credu mai colli wnes i! 4

hydref/gaeaf 2016 ein harcharwyr Rydych chi yn ôl pob tebyg wedi ein clywed ni n disgrifio r plant sy n defnyddio ein gwasanaethau fel archarwyr ac er gwaethaf y ffaith bod ganddynt gyflyrau sy n golygu eu bod yn annhebygol o dyfu n oedolion, yn aml mae ganddyn nhw r cryfder a r dewrder y byddech chi n eu gweld mewn ffilmiau a llyfrau comig. Mae gan Aaron Dutson, sy n byw yng Nghas-gwent, Ddystroffi r Cyhyrau Duchenne cyflwr sy n peri i r cyhyrau wanhau, ac sy n effeithio ar oddeutu 100 o blant yn y DU bob blwyddyn. Mae ei deulu wedi rhoi r llysenw Hulk iddo o ganlyniad i r steroidau y mae n eu cymryd ar gyfer ei gyflwr. Trawsnewidiwyd Aaron a phlant eraill a ddaeth i n Gŵyl Hwyl, i w personâu archarwrol eu hunain, diolch i waith y ffotograffydd Geraint Williams o Beny-bont ar Ogwr. Meddai mam Aaron, Cat Morris: Ein harcharwr bach ni yw Aaron ac rydym yn hynod falch ohono. Mae Aaron yn wynebu ei gyflwr â dewrder anhygoel ac mae n parhau i gyflawni cymaint mwy na r disgwyl. Mae n fachgen mor rhadlon a hyderus. Roedd ef a i frawd bach, Jacob, wrth eu boddau â r lluniau. Mae r lluniau yn wahanol iawn ac mae n atgof hyfryd arall y gallwn ni ei drysori o Tŷ Hafan. 5

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org diwrnod ym mywyd ymarferydd therapi ategol 6

hydref/gaeaf 2016 Yn Tŷ Hafan, rydym ni n defnyddio therapïau ategol megis tylino ac ymlacio ochr yn ochr â thriniaethau meddygol confensiynol er mwyn helpu i liniaru symptomau a hyrwyddo iechyd corfforol ac emosiynol. Cawsom sgwrs gyda r Therapydd Ategol, Abi Tong, i ddysgu ychydig mwy am ei swyddogaeth yn Tŷ Hafan. Rwyf wedi bod yn rhan o r tîm therapi ategol am y tair blynedd diwethaf. Rydym ni n cynnig triniaethau i r plant, y rhieni neu r gofalwyr ac i aelodau eraill o'r teulu. Darparir y sesiynau hyn yn yr hosbis neu yng nghartref y teulu, yn yr ysgol ac yn yr ysbyty. Rydym ni n addasu r sesiynau i fodloni anghenion yr unigolyn sy n cael y driniaeth. Un diwrnod, efallai y byddwn ni n lliniaru straen, ddiwrnod arall efallai y byddwn ni n canolbwyntio ar reoli symptomau neu ar ddiwrnod arall eto efallai y byddwn ni n canolbwyntio ar roi cyfle i blant arfer eu synhwyrau am y tro cyntaf y tu allan i gyd-destun meddygol. Mae n anodd iawn rhoi darlun cyffredinol o ddiwrnod o waith gan eu bod yn amrywio cymaint, ond ceisiaf roi rhyw fraslun cyffredinol i chi. Rwy n tueddu i gyrraedd y gwaith rhwng 8.00 ac 8.30am. Mae r rhan fwyaf o r teuluoedd preswyl yn dal yn cysgu bryd hynny felly mae n rhoi cyfle i mi ddarllen fy e-byst, ysgrifennu nodiadau a gwneud fy ngwaith gweinyddol y pethau diflas! Wedi i mi orffen hynny, ac oni bai fod gennym ni gyfarfod tîm neu ddigwyddiad i w gynllunio, rwy n ceisio mynd ati i weithio gyda r plant. Yn aml iawn gellir dod o hyd i mi yn crwydro gyda photel o olew a chasgliad o lieiniau dan fy nghesail. Mae n anodd pennu amser ar gyfer rhoi triniaeth i blant a phobl ifanc, oherwydd gall pethau newid yn gyflym iawn ac nid bob amser yn ôl y disgwyl - ond rwy n ceisio dangos mod i yno a chael syniad bras o r rhai hynny a fyddai n dymuno cael triniaeth. Gellid cynnal sesiynau yn y lolfa neu mewn ystafell wely - weithiau yn yr ystafell amlsynhwyraidd, ond y nod yw eu teilwra ar gyfer yr unigolyn. Gallai un sesiwn fod yn hynod fywiog a chwaraegar, ond gallai un arall fod yn fwy tyner ac ymlaciol. Os wyf i, am ryw reswm, yn brin iawn o amser, efallai y caiff sesiwn tylino mewn grŵp gan ddarllen stori ei awgrymu - triniaeth hyfryd gan ddefnyddio stori syml a strociau tylino cysylltiedig y mae pawb, yn fy mhrofiad i, wedi eu mwynhau. Gall fod aelodau teulu preswyl sy n dymuno derbyn triniaeth hefyd. Rydym ni n ceisio cynnwys pawb ac yn gyffredinol gellir pennu amser mwy pendant ar gyfer rhieni a gofalwyr gan fod ganddyn nhw amserlen fwy sefydlog. Os oes gennyf apwyntiad allgymorth, efallai y bydd yn rhaid i mi ohirio rhai triniaethau ar gyfer y diwrnod wedyn - ond rwyf bob amser yn gwneud fy ngorau glas i drin pawb sy n dymuno cael triniaeth. Caiff y sesiwn triniaeth ei ddarparu yn union yr un ffordd ag y byddai n fewnol, wedi i deilwra ar gyfer anghenion penodol yr unigolyn. Yn dibynnu ar ba bryd y cynhelir sesiwn allgymorth yn ystod y dydd, byddaf un ai n symud i leoliad arall gerllaw, yn mynd yn ôl i r hosbis neu n mynd yn syth adref. Rwy n gadael i fynd adref rhwng 4.00 a 4.30pm fel arfer. Rhyw bryd yn fras yng nghanol y cyfnod hwnnw rwy n ceisio bwyta fy nghinio. Mae bob dydd yn wahanol ac yn cyflwyno rhwystrau newydd ond rwyf wrth fy modd yn eu goresgyn hyd eithaf fy ngallu. Beth yw r peth gorau am eich swydd? Efallai ei fod ychydig yn ystrydebol, ond rwy n dysgu rhywbeth oddi wrth bob un o n teuluoedd ac yn teimlo fy mod yn cael cyfle i arfer fy sgiliau mewn amgylchedd lle maent yn cael eu gwirioneddol gwerthfawrogi gan y bobl y maent yn eu helpu. Beth yw r agwedd fwyaf heriol ar eich swydd? Ceir heriau yn amrywio o ran eu maint bob dydd, ond efallai mai r rhan anoddaf yw ceisio cysuro aelodau o r teulu sydd mewn galar. Mae Tŷ Hafan yn gyffredinol yn lle sy n ymwneud â bywyd a byw yn ystod yr adegau pan gawn ein hatgoffa am y tristwch a all fod yn gysylltiedig â r hyn yr ydym ni n ei wneud yma, gall effeithio arnoch yn annisgwyl. Beth fu r profiad mwyaf cofiadwy yn ystod eich amser yn Tŷ Hafan? Un o r adegau rwy n ei drysori fwyaf yw r tro cyntaf i blentyn ofyn i m gweld ei hun. Ef a m dewisodd i - nid oeddwn wedi bod i gynnig sesiwn eto, na hyd yn oed wedi gweld y plentyn y bore hwnnw, ond ar ôl derbyn triniaeth yn ystod ei ymweliad blaenorol, gofynnodd i m gweld eto. Ac roedd hynny yn arbennig iawn. 7

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org 8

hydref/gaeaf 2016 mae tŷ hafan werth y byd i deuluoedd Mae Ollie Taylor o Gaerdydd, sy n saith oed, wedi dangos ei fod yn frwydrwr da ar ôl iddo brofi r doctoriaid yn anghywir wedi iddynt ddweud na fyddai n byw mwy na dwy flynedd. Roedd ei fam, Sian, yn gwybod bod rhywbeth o i le yn gyntaf pan oedd hi 33 wythnos yn feichiog, pan amlygwyd annormaledd yn ymennydd Ollie yn dilyn sgan. Pan aned Ollie, nid oedd yn anadlu ac roedd yn rhaid ei ddadebru deirgwaith. Meddai Sian: Ni chefais erioed gyfle i w fwynhau pan oedd yn fabi. O r cychwyn cyntaf, roedd miloedd o apwyntiadau. Mae gan Ollie Syndrom Wolf-Hirschhorn cyflwr genetig a achosir gan ddeunydd yn cael ei ddileu yn y pedwerydd cromosom. Mae ei gyflwr yn effeithio arno mewn llawer iawn, iawn o ffyrdd, meddai Sian. Nid yw ei gyhyrau yn tynhau yn iawn. Nid yw n gallu bwyta na chnoi, ac nid yw ei lwnc yn dda. Mae ganddo dwll yn ei galon. Mae ei ben yn fach, mae n araf yn tyfu ac mae hefyd yn dioddef o epilepsi. Cynigwyd cymorth Tŷ Hafan i r teulu am y tro cyntaf yn 2010, gan ddarparu rhyddhad i Sian, ei gŵr Simon a u mab hynaf Isaac. Rwy n credu bod gwir angen seibiant arnom, gan nad oeddwn wedi bod yn cysgu n iawn ac wedi bod ar fy nhraed bob awr o r nos. Ers i Ollie gael ei eni, rydym ni wedi bod yn cadw golwg arno unwaith yr awr rhag ofn ei fod yn cael trawiad, yn ei fwydo n barhaus yn ogystal â gofalu am anghenion ei frawd tair blwydd oed. Roeddem ni yn sicr angen gorffwys, meddai Sian. Mae r gofal seibiant byr yn yr hosbis yn galluogi r teulu i dreulio amser gwerthfawr gyda i gilydd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ymlacio gan leihau r straen sy n rhan o ofalu am blentyn a chanddo anghenion cymhleth, bob awr o r dydd. Mae n ddiddiwedd. Drwy r dydd a r nos a thrwy gydol yr wythnos. Dyna pam mae ymweld â Tŷ Hafan mor bwysig i ni gan ei fod yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, meddai Sian. Ni allai Sian ddychmygu ei bywyd heb Tŷ Hafan yn eu bywydau. Mae werth y byd i deuluoedd, meddai. Rwy n credu ei fod yn achub priodasau. Mae n cadw teuluoedd yn eu hiawn bwyll ac mae n galluogi pobl i gynnal bywyd teuluol. Mae Tŷ Hafan yn helpu i greu atgofion cadarnhaol. Y gwir amdani yw bod ganddo gyflwr sy n cyfyngu ar fywyd. Dyma pam yr ydym eisiau i Ollie gyrraedd ei lawn botensial, beth bynnag fo hynny. Er gwaethaf ei broblemau, mae Ollie yn mwynhau bywyd ac yn swyno pawb mae n ei gyfarfod gyda i wên annwyl. Mae ganddo fywyd hapus ac mae n gwneud y bobl sydd o i gwmpas yn hapus, meddai Sian. Mae ganddo bersonoliaeth atyniadol iawn ac mae rhywbeth hynod annwyl ac arbennig amdano. Mae wir yn caru Tŷ Hafan. Mae aelodau r staff wedi gwirioni amdano ac mae n cael amser mor wych pan ei fod yno. Ni allwn ddiolch digon i Tŷ Hafan am bopeth y maent yn ei wneud i ni. Mae werth y byd i deuluoedd. Rwy n credu ei fod yn achub priodasau. Mae n cadw teuluoedd yn eu hiawn bwyll ac mae n galluogi pobl i gynnal bywyd teuluol. 9

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org lansio emporiwm tŷ hafan ar-lein Rydych chi n gyfarwydd â r teimlad. Y teimlad yr ydych chi n ei gael wrth i chi edrych ar silffoedd eich hoff siop elusen ac yn dod o hyd i rywbeth unigryw, rhywbeth yr ydych chi n sicr ei fod wedi ei roi yno i chi ddod o hyd iddo a dwlu arno. Rydym ni wrth ein boddau â r adegau hynny ac rydym ni bob amser yn cadw golwg am eitemau a chanddynt eu hanes unigryw eu hunain, sy n aros i gael eu darganfod. Wel, roeddem ni n awyddus i roi yr un teimlad i n cwsmeriaid wrth iddynt siopa ar-lein! Mae ein siop ebay wir yn drysorfa o r hen a r newydd ac mae ei llwyddiant wedi peri i ni ehangu ein darpariaeth ar-lein drwy lansio ein Emporiwm Ar-lein a n siopau Emporiwm Etsy. Mae ein siopau Emporiwm yn y Bont-faen, Y Fenni a Chaerdydd wedi eu canmol am eu harloesedd a u steiliau cain o r oes a fu ac mae gan yr Emporiwm Ar-lein yr un ymdeimlad bwtîg, gan gynnig amrywiaeth o nwyddau cynllunydd, retro ac o r oes a fu ochr yn ochr â thrugareddau anarferol. Ac er bod edrych drwy r silffoedd a chwilota drwy r rheiliau yn y siopau yn rhan o r swyn, bydd gallu dod o hyd i r bargeinion anhygoel hyn o ch cartref eich hun neu hyd yn oed wrth deithio gan wybod eich bod chi n cefnogi achos gwych ar yr un pryd, yn newid eich agwedd tuag at siopa ar-lein. Felly ewch i chwilota, efallai y byddwch chi n dod o hyd i drysor! Os oes gennych chi unrhyw eitemau retro, casgladwy neu eitemau o r oes a fu a fydd yn eich tyb chi yn berffaith ar gyfer ein siopau Emporiwm ar-lein, cysylltwch ag un o r tîm ar onlineshop@tyhafan.org, ewch i un o n 31 o siopau yng Nghymru neu ein canolfan ddosbarthu ar gyfer manwerthu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Dewch o hyd i'r Emporiwm ar-lein drwy ymweld â tyhafanshop.org 10

hydref/gaeaf 2016 rhieni yn dangos eu doniau Ar ôl cwrdd am y tro cyntaf mewn sesiwn ffotograffiaeth ffasiwn o r oes a fu yn yr hosbis, mae Micaela Turner a Catherine Morris wedi dod yn ffrindiau mawr drwy grŵp y mamau. Roedden nhw wrth eu boddau o gael manteisio ar y cyfle i ddangos eu doniau yn y sesiwn dangos dillad yng nghwmni rhieni eraill Tŷ Hafan, sef Emma Lidbury a i merch Mila, Emma Talbot, Brad Watson a Huw Liddel. Roedd y modelau yn ddigon o sioe yn eu gwisgoedd o r oes a fu o siopau elusennol Tŷ Hafan, yn ogystal â ffrogiau o r 1950au a gwisgoedd rocabili gan Cerys Closet ym Mynydd Cynffig. Meddai Micaela, o r Bont-faen: Roedd yn wych. Fe wnes i wirioneddol fwynhau cael fy maldodi ac roedd y gwisgoedd yn hyfryd. Roeddwn yn eithaf nerfus wrth ddangos y dillad ac roeddwn i n chwerthin drwy gydol y sioe! Roedd hi n wirioneddol hyfryd gallu rhannu r profiad â Catherine. Gwnaethom ni gwrdd yn sesiwn ffotograffiaeth ffasiwn Tŷ Hafan a dod yn ffrindiau da yn syth bin. Mae mor braf dod yn ffrindiau â rhywun sy n mynd drwy r un peth â chi ac sy n deall sut mae n teimlo i gael plentyn sy n byw bywyd byr. Mae mab Micaela, Cai, yn dioddef o Syndrom Vici, cyflwr anghyffredin sy n effeithio ar ddim ond 19 o bobl yn y byd, ac ef yw r plentyn hynaf sy n byw â r cyflwr. Mae Cai, sy n saith mlwydd oed, angen gofal bob awr o r dydd a r nos ac nid yw n gallu cerdded, siarad na bwyta ar ei ben ei hun, ond mae mor ddewr wrth wynebu ei gyflwr. Ef yw r plentyn hapusaf, meddai Micaela. Mae n chwerthin drwy r amser! Mae mor ddeallus ac yn cyfathrebu â ni gan ddefnyddio cyfrifiadur. Mae n dipyn o gymeriad bach. Mae wrth ei fodd â Tŷ Hafan. Maen nhw n gwneud cymaint o bethau ag ef pan fydd yn mynd yno. Mae n wych hefyd ar gyfer fy ngŵr a minnau gan mai dyna r unig adeg y gallwn ni fynd dramor ar ein gwyliau, gan wybod bod Cai yn cael gofal da. Mae gan fab Catherine, Aaron, sy'n saith mlwydd oed, Ddystroffi r Cyhyrau Duchenne, sef cyflwr sy n gwanhau r cyhyrau yn sylweddol. Mae tua 100 o fechgyn yn y DU yn cael eu geni â Dystroffi r Cyhyrau Duchenne bob blwyddyn ac mae tua 2,500 o fechgyn yn byw â r cyflwr ar unrhyw un adeg. Gall disgwyliad oes amrywio, ond nid oes llawer o fechgyn yn byw heibio eu harddegau. Meddai Catherine o Gas-gwent: Mae Aaron yn gwneud yn dda iawn ac mae n dal i reidio ei feic bob dydd. Mae n dipyn o gymeriad ac mae n hyderus iawn. Mae ganddo hefyd ochr ofalgar a sensitif. Rydym ni n falch iawn ohono. Os ydw i angen rhywbeth ar unrhyw bryd, rwy n gwybod bod Tŷ Hafan yno i mi bob amser, meddai Catherine. Mae Katie, sy n edrych ar ôl grŵp y mamau, yn wych ac yn hynod gefnogol. Mae hi n trefnu digwyddiadau ar gyfer y mamau, fel y teithiau siopa i Gaerfaddon, ac mae n ffordd wych i ni gyd ymlacio a chael hwyl. Mwynheais y sioe ffasiwn yn fawr iawn. Y rhan orau oedd cael ein codi a n troi o gwmpas yn ystod y sioe - roedd hynny n llawer iawn o hwyl! Mae wedi bod yn wych cwrdd â Micaela. Mae hi n anhygoel a chawsom amser gwerth chweil yn y sioe ffasiwn. Rydym eisoes wedi trefnu i gwrdd eto yn yr haf gyda r plant. Ychwanegodd Micaela: Mae llawer o bobl yn meddwl bod Tŷ Hafan yn darparu eu holl gymorth yn yr hosbis, ond mae n llawer mwy na hosbis. Mae agwedd llawn hwyl a chymdeithasol i Tŷ Hafan, fel grŵp y mamau er enghraifft. Mae wir yn ein helpu i deimlo ein bod yn cael cefnogaeth ac mae n fendigedig teimlo n rhan o deulu Tŷ Hafan. Cynhaliwyd y sioe ffasiwn yn Hi-Tide ym Mhorthcawl er mwyn codi arian ar ran Tŷ Hafan, Cŵn Tywys y Deillion, Paws a KRUF, sef elusennau r Maer eleni. Bydd yr arian a godwyd drwy r sioe ffasiwn a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn yn cael ei rannu rhwng y pedair elusen. 11

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org haf llawn hwyl i dîm tŷ hafan Mae wir rhywbeth i bawb mewn digwyddiad Tŷ Hafan. Mae her 3 chopa Cymru yn cyflwyno her ar gyfer y rhai sy n mwynhau antur, mae Rasys Enfys yn berffaith ar gyfer y rhai lliwgar yn ein plith a bydd Taith Taf yn eich gwthio chi a ch ysbryd tîm i r eithaf. Cynhaliwyd ein Ras Enfys gyntaf erioed yn Abertawe gan roi cychwyn gwych i r flwyddyn oherwydd bod 1,700 o redwyr, y nifer uchaf erioed, wedi llwyddo i redeg y 5 cilomedr, wedi u gorchuddio o u corun i w sawdl mewn paent ar ffurf powdr. Un o r cymeriadau lliwgar a gymerodd ran oedd Rod Hughes o Gastell-nedd, sy n 69 mlwydd oed: Meddai: Rwy n ŵr oedrannus sydd bron yn 70 oed a dyma r ras gyntaf i mi ei rhedeg ers i mi gael anaf difrifol chwe blynedd yn ôl. Roedd yn ddigwyddiad ardderchog rwy n dal i fethu â chredu pa mor anhygoel y gwnaeth i mi deimlo! Roedd fy ystafell ymolchi yn amryliw wedyn ond doedd dim ots o gwbl am hynny. Mae Tŷ Hafan yn elusen wych ac ni allaf ddisgwyl i gymryd rhan yn y ras nesaf. Cynhaliwyd y ras enfys nesaf yn Ynys y Barri - eto am y tro cyntaf yno. Un codwr arian a gymerodd ran oedd Claire Jones o r Barri. Mae ei merch Hallie Mae, sy n bump oed, yn dioddef o gyflwr genetig anghyffredin o r enw Syndrom Cri du Chat a chafodd ei hatgyfeirio i Tŷ Hafan yn 2013. Mae Hallie wrth ei bodd â r maes chwarae, y siglenni, yr ystafell chwarae ac mae hi n mwynhau cerddoriaeth, ffilmiau a dawnsio yn fawr iawn. Mae hi n cael amser bendigedig yn Tŷ Hafan. Mae hi i w gweld yn ymlacio yno ac mae hynny mor bwysig. Rwyf innau hefyd wrth fy modd yno. Rydym ni n cael ein difetha n lân ac mae fel petai rhywun yn gweini arnoch chi. Gallwn ni ymlacio ac mae n beth braf i Hallie oherwydd gall hithau ymlacio hefyd. Cymerodd y gantores a r gyflwynwraig Connie Fisher ran hefyd a disgrifiodd hi r digwyddiad fel un o hwyl anhygoel. Mae her 3 chopa Cymru, sydd bellach yn ei 18fed flwyddyn, yn ffefryn â grŵp y tadau. Ymunodd The Scrambled Legs, sef tîm yn cynnwys grŵp o dadau, ag 82 o dimau eraill i ddringo r Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan, y cwbl mewn llai na 15 awr. Brwydrodd y rhai a gymerodd ran yn erbyn tywydd gwaethaf Cymru ac eto cyrraedd gwaelod y mynydd olaf yn dal â gwên ar eu hwynebau. Meddai un o r tadau, Huw Liddell o r Barri: Roedd y digwyddiad yn brofiad gwych gan fy mod yn gallu gweld drosof fy hun yr holl bobl anhygoel a fentrodd ac a wthiodd eu cyrff a u meddyliau i r eithaf, y cyfan er mwyn gwneud Tŷ Hafan yn bosibl. Diolch yn fawr iawn i chi. Cynhaliwyd y Ras Enfys nesaf mewn lleoliad mewndirol i fyny r cwm ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar. Mae r lleoliad parc yn rhoi ymdeimlad cwbl wahanol i r digwyddiad o i gymharu â r rasys blaenorol ger y môr, ac fe wnaeth y gymuned wir groesawu r parti. Roedd ein Diwrnod Hwyl i r Teulu a oedd yn dilyn y thema Jungle Book yn gymysgedd rhagorol o weithgareddau teuluol gan gynnwys reidiau ffair, adrodd straeon a bod ymysg yr ymlusgiaid, ac yn gyfle gwych hefyd i arddangos y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i n teuluoedd. Mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous eto i w cynnal ar adeg ysgrifennu r darn hwn, gan gynnwys Her Seiclo Taith Taf, ein Ras Enfys ym Mhentywyn ac ailgyflwyno r digwyddiad Carolau yn y Castell, pryd y byddwn yn cychwyn gŵyl y Nadolig mewn steil drwy ddathlu yng Nghastell Caerdydd ar 1 Rhagfyr. 12

hydref/gaeaf 2016 13

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org stori max Pan oedd Martina a Glyn Harding yn codi arian ar ran Tŷ Hafan yn nyddiau cynnar eu perthynas, ni wnaethant erioed ddychmygu y byddent angen defnyddio gwasanaethau r elusen chwe blynedd yn ddiweddarach. Roedd y ddau ohonynt wrth eu boddau eu bod yn disgwyl eu hail blentyn ac nid oeddent yn gallu disgwyl rhoi brawd neu chwaer fach i w merch ddwyflwydd oed, Mila. Cafodd Martina feichiogrwydd normal ac ar 17 Ionawr 2016, croesawodd y ddau ohonynt babi Max i r byd digwyddiad annisgwyl ond hyfryd i r teulu gan eu bod wedi cael gwybod eu bod yn disgwyl merch. Ond newidiodd eu llawenydd yn bryder yn fuan iawn wrth i r ddau sylwi bod Max yn llipa ac yn cael trafferth anadlu. Roedd e fel petai allan o wynt. Roedd e n teimlo mor llipa yn fy mreichiau ac roedd ei lais hefyd yn wan, meddai Glyn. Pan archwiliwyd Max gan feddyg yn wyth wythnos oed, roedd y meddyg teulu n gwybod bod rhywbeth mawr o i le a galwyd am ambiwlans i w gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent. Meddai Glyn: Ffoniais Martina i ofyn sut aeth yr archwiliad a dywedodd fod Max wedi cael ocsigen ac wedi i gludo i r ysbyty ar frys. Roeddem ni n gobeithio nad oedd dim byd rhy ddifrifol o i le ar yr adeg honno. Roeddem ni n credu efallai ei fod angen steroidau ar gyfer broncitis. Aeth dros wythnos heibio cyn i r ddau ohonynt gael gwybod y newyddion trychinebus fod gan eu mab gyflwr sy n cyfyngu ar fywyd, nad oes modd ei wella, sef Atroffi Cyhyrau r Cefn (SMA). Roedd dysgu mwy am y cyflwr yn dorcalonnus, meddai Martina. Pan soniwyd wrthynt gyntaf am Tŷ Hafan, roedd y ddau ohonynt yn bryderus ynglŷn â derbyn cymorth gan hosbis, ond roedden nhw n awyddus i gael unrhyw gymorth a gynigiwyd iddynt. O r eiliad y camodd y teulu drwy r drysau, diflannodd eu hofnau. Meddai Glyn: Mae aelodau r staff yn anhygoel ac rydych chi n sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae n lle mor brydferth a gwnaed i ni deimlo mor gartrefol. Mae r elusen wedi helpu r teulu i greu atgofion gwerthfawr, y byddant yn gallu eu trysori am byth. Gorffennodd Martina ein Ras Enfys yn Nhredegar gyda llu o i theulu a i ffrindiau, gan godi r swm sylweddol o 3,319. Ar 9 Medi, seiclodd Glyn 180 o filltiroedd o Groesfan Hafren a chyrraedd Tŷ Hafan i gael ei groesawu gan aelodau r staff, a roddodd gwtsh a lluniaeth iddo, ac mae wedi codi dros 3,000 hyd yn hyn. Mae r pâr yn bwriadu parhau â u hymdrechion i godi arian ar ran Tŷ Hafan a SMA Support UK, gan enwi r fenter yn The Max Affect. Yn anffodus, collodd Max ei frwydr gydag Atroffi Cyhyrau r Cefn ym mis Mai eleni. Darllenwyd y deyrnged hyfryd hon, dan y teitl Our Journey a ysgrifennwyd gan Glyn, yn ystod seremoni i ddathlu ei fywyd. Our journey From the day he arrived, he brought so much joy. Our expected second daughter, born our beautiful blue eyed boy. A surprise so intense, like a punch that packs. We already had a name and that name was Max little Max. Our puzzle complete, a perfect pigeon pair. Such happiness, elation, could his big sister share. Life was perfect, the way it should be. It s what everyone wants, the ideal family. A disappointing introduction for Welsh Rugby s newest fan. His first six nations, disaster, an English Grand Slam. It s the way of life, happiness and sorrow but nothing could prepare us, for what was to follow. Max was ill, diagnosed, SMA type 1. Never heard of it, what is it and why our son! What now, what next, then, Tŷ Hafan calls. Its where care and cherished memories, floods its halls and its walls. Life is not about waiting for the storm to pass, but learning to dance through its rain. That s what the walls say. A place where a short life, is a full life, each and every day. An extended family, there, to guide you by, Helping you come to terms with that impossible question, why? Max continued without fuss, like an act of denial. With a glint in his eyes and that flirtatious smile. Time had come to not to continue the fight and take his place within the stars at night. Forever in our hearts and thoughts he ll remain. Knowing that someday we ll be together again. 14

hydref/gaeaf 2016 15

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org ein grŵp loteri o 385 Roeddem ni n falch iawn o wahodd grŵp arbennig iawn o chwaraewyr loteri i Tŷ Hafan ym mis Awst. Mae 385 o bobl wedi bod yn chwarae r loteri Crackjackpot ers i r rhifau gael eu tynnu am y tro cynaf yn ôl ym mis Gorffennaf 1998, gan gyfrannu dros 350,000 i Tŷ Hafan. Er mwyn cydnabod eu haelioni a u hymroddiad i Tŷ Hafan, gosodwyd afal aur arysgrifedig ar ein Coeden Rodd. 16

hydref/gaeaf 2016 raffl tŷhafan Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein Raffl Haf 2016. Cawsom ymateb gwych gyda mwy na 3,500 o bobl wedi prynu tocynnau, a gododd bron i 50,000 i Tŷ Hafan. Tynnwyd y tocynnau buddugol yn yr hosbis ar 23 Mehefin 2016 gan Sarah a James Griffiths, y mae eu merched, Molly, 13 ac Emily, 10 yn defnyddio gwasanaethau Tŷ Hafan. Llongyfarchiadau i Mrs Joan Lewis o Gydweli a enillodd y brif wobr o 3,000. clecars nadolig Ychwanegwch ychydig o gyffro i ch bwrdd Nadolig eleni gyda bocs o glecars Nadolig Tŷ Hafan. Yn ychwanegol at yr anrheg, yr het a r jôc arferol, mae dau glecar ym mhob bocs hefyd yn cynnwys cerdyn crafu Tŷ Hafan sy n rhoi cyfle i chi ennill hyd at 1,000. Ar gael yn ein siopau nawr. Mae Raffl y Nadolig ar agor! Prynwch docynnau ar-lein yn www.tyhafan.org/raffle cardiau crafu newydd ar gyfer 2016 Rydym ni newydd lansio gêm cerdyn crafu er mwyn helpu i godi arian i Tŷ Hafan. Mae r cardiau crafu, sy n rhoi r cyfle i chi ennill rhwng 1 a 1,000, yn hwyl ac yn ffordd hawdd o gefnogi Tŷ Hafan a cheir un cyfle ym mhob pedwar i ennill gwobr. Mae r cardiau crafu, sy n costio 1, yn hwylus iawn i w defnyddio fel anrhegion, i roi yn yr hosan Nadolig neu fel rhoddion i westeion mewn priodas! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.tyhafan.org/ scratchcards neu ffoniwch 029 2053 2300. mae pob 1 yn gwneud gwahaniaeth Diolch yn fawr iawn i bob un o n chwaraewyr loteri am eich cefnogaeth barhaus. Mae r 1 yr ydych chi n ei thalu bob wythnos i roi cynnig ar y loteri yn helpu Crackerjackpot i gyfrannu bron i 1 miliwn tuag at y 4 miliwn sydd ei angen ar Tŷ Hafan bob blwyddyn. Os hoffech chi chwarae r loteri, ewch i www.lottery.tyhafan.org org neu ffoniwch 029 2053 2300. 17

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org ymdrech codi arian llawn sêr Rydym ni n gofyn i n cefnogwyr wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau wrth iddynt godi arian i Tŷ Hafan. Pa un a ydych chi n gogydd o fri sy n dymuno agor eich bwyty eich hun neu n rhywun sy n mwynhau gwneud pethau peryglus sy n dymuno herio eich hun drwy blymio o r awyr neu abseilio, mae gan bob un ohonom dalentau unigryw a all helpu i godi arian i wneud bywyd byr yn fywyd gwerth chweil. Eleni, ffurfiodd grŵp o unigolion sy n dwlu ar hoci iâ dîm i gynrychioli Tŷ Hafan ym mhenwythnos Fforwm All Star y DU, cystadleuaeth elusennol ar gyfer chwaraewyr amatur, a defnyddio r arian a godwyd i dalu am ddiwrnod o ofal. Ar hyn o bryd, mae n costio 10,958 bob dydd i ddarparu gofal a chysur i blant a chanddynt gyflyrau sy n cyfyngu ar fywyd a u teuluoedd. Enwyd Tŷ Hafan fel eu helusen ddewisedig yn syth gan dîm All Stars Tŷ Hafan, a r capten James Pepper, ond fe u hysbrydolwyd i ymdrechu n galetach i godi arian ar ôl ymweld â r hosbis a chwrdd â merch fach hyfryd o r enw Scarlett. Meddai James: Cawsom hwb ychwanegol i godi arian, pe byddai ei angen, pan ddaeth ein masgot, yr annwyl Scarlett, i ymuno â ni. Mae Scarlett, ei mam Clair a i thad Chris yn ymweld â Tŷ Hafan yn rheolaidd ac ar ôl siarad â nhw am ba mor bwysig yw r hosbis iddyn nhw, aethom ati i ledaenu r neges. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i fy nghydaelodau o r tîm sydd wedi codi swm anhygoel o arian i Tŷ Hafan, gan wirfoddoli eu hamser i drefnu digwyddiadau codi arian a m cefnogi i pryd bynnag yr oedd hynny n bosibl. Felly cefnogwch y tîm pan fyddwch chi n ei weld ar yr iâ. Erbyn adeg y gystadleuaeth, roedden nhw eisoes wedi perfformio n wych, gan chwalu eu targed a chodi mwy na dwbl yr arian, sef y swm syfrdanol o 24,027.47 ar adeg ysgrifennu r erthygl hon. Cyflawniad anhygoel gan godwyr arian hynod dalentog. Cawsom hwb ychwanegol i godi arian, pe byddai ei angen, pan ddaeth ein masgot, yr annwyl Scarlett, i ymuno â ni. 18

hydref/gaeaf 2016 diolch i dîm tŷ hafan Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd arian i n Hapêl yr Haf. Mae eich cefnogaeth anhygoel yn golygu ein bod wedi llwyddo i godi r swm anhygoel o 13,568. Roedd eich negeseuon hyfryd, diffuant i n teuluoedd ar gefn eich llygaid y dydd yn ysbrydoledig ac rydym ni yn y broses o u huno nhw â i gilydd i greu cadwyn anferth o lygaid y dydd. Byddant yn cael eu harddangos yn yr hosbis er mwyn i deuluoedd, aelodau r staff ac ymwelwyr gael eu darllen a byddant yn sicr o godi gwên ar wynebau llawer o bobl. Rhannodd Clair, Chris a r annwyl Scarlett eu stori ar gyfer yr apêl hon, gan ddisgrifio sut y mae Tŷ Hafan yn eu helpu i ymdopi. Canfuwyd bod gan Scarlett drawsleoliad anghytbwys o gromosomau saith a deg, cyflwr sydd mor anghyffredin fel nad oes enw iddo. Mae ei chyflwr wedi achosi llawer iawn o anawsterau iddi ac wedi golygu treulio misoedd maith yn yr ysbyty oherwydd ei bod yn rhy wael i fynd adref. Pan oedd Clair a Chris o r diwedd yn gallu mynd â u merch fach adref am y tro cyntaf, roedden nhw n teimlo n fwy o ofalwyr na rhieni, gan dreulio eu holl amser yn ceisio ei chadw hi n fyw. Ar ôl iddynt gwrdd â Hayley, eu Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Tŷ Hafan, yn yr ysbyty, gwnaeth hi eu hannog i ymweld â r hosbis, a dyna bryd y gwnaethant ddechrau teimlo y bydden nhw n gallu ymdopi. Am y tro cyntaf, roedden nhw n teimlo fel teulu go iawn. Mae Scarlett, sydd bellach yn ddwyflwydd oed, wrth ei bodd yn ymweld â r hosbis ac mae hi n cael ei thrin fel tywysoges wrth i mam a dad gael cyfle i ymlacio, gael eu cefn atynt a chael rhywfaint o gwsg y mae nhw wedi gorfod byw hebddo. O ganlyniad i gefnogwyr gwych fel chi, rydym ni n gallu parhau i gefnogi teuluoedd, fel teulu Scarlett, yng Nghymru, a u helpu i fwynhau eu hamser gyda i gilydd a chreu atgofion a fydd yn para am oes. Diolch Mewn mwy o ffyrdd nag y gallaf ddweud, mae Tŷ Hafan yn golygu nad ydym ni ar ein pennau ein hunain mwyach. 19

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org gadael eich marc Mae r atgofion a rannwn yn creu argraff barhaus ond anghyffyrddadwy ar y rhai hynny yr ydym ni n rhannu ein bywydau â nhw. Pa un a yw r bywydau hynny n hir neu n fyr, mae pob un ohonom yn gadael ein marc. Yn anffodus, bu farw Philip Trevor Rogers, a fu n gefnogwr tîm pêl-droed Lerpwl drwy gydol ei oes ac yn gefnogwr Tŷ Hafan, ar 25 Awst 2015. Caiff ei gofio gan ei ffrindiau a i deulu am yr atgofion a rannodd gyda nhw, ond caiff ei gofio gan deulu Tŷ Hafan am ei haelioni anhygoel drwy adael rhodd o 124,862.79 i r elusen yn ei ewyllys. Mae eich rhoddion caredig yn cefnogi plant a chanddynt gyflyrau sy n cyfyngu ar fywyd ledled Cymru maer caerffili yn torri record codi arian Mae r Cynghorydd Leon Garner wedi txreulio ei flwyddyn o fod yn Faer Caerffili yn cefnogi Tŷ Hafan mewn modd hynod o frwd, fel un o i elusennau y flwyddyn. Roedd ei noson lansio elusennol yn hynod lwyddiannus, gan godi 4,000, ac ychwanegodd taith gerdded 1,800 arall at y cyfanswm. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau codi arian yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cyngherddau, rafflau a digwyddiadau gwerthu llyfrau, rhoddion gan grwpiau cymunedol lleol a gwerthu bathodynnau pin, gan helpu i gynyddu ei gyfanswm i 17,617.2, y swm uchaf erioed i gael ei godi gan Faer Caerffili, ac ychydig dros 8,800 ohono yn mynd i Tŷ Hafan. Meddai r Cynghorydd Gardiner: Rwyf wedi fy syfrdanu gan y gefnogaeth i r apêl elusen hon ac, fel cefnogwr Tŷ Hafan ers blynyddoedd lawer, roeddwn wrth fy modd o godi cymaint o arian yn ystod fy mlwyddyn o fod yn Faer. 20

hydref/gaeaf 2016 plant yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau ar gyfer tîm tŷhafan Mae Ffion-Wyn Davies, merch wyth oed o Bontyberem, wedi bod yn benderfynol o helpu pobl sy n llai ffodus na hi ei hun am y tair blynedd diwethaf. Ar ôl gwylio fideos YouTube o bobl a oedd wedi torri eu gwallt ar gyfer elusennau, penderfynodd roi ei gwallt hi i r Little Princess Trust a chodi arian i Tŷ Hafan. Mae gan teulu Ffion-Wyn hanes o godi arian i Tŷ Hafan ers pan fu farw ffrind i r teulu, Nia-Wyn, yn 31 mlwydd oed. Gwnaeth ei hoffter hi o blant eu hysgogi i godi arian ar ran elusen yr oedden nhw n gwybod oedd yn agos iawn at ei chalon. Gyda chymorth y gymuned leol ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar overdrive, llwyddodd Ffion-Wyn a i mam, Sioned, i godi 1,500 i w rannu rhwng y ddwy elusen drwy dorri 11 modfedd o wallt er mwyn creu wigiau i blant yn dioddef o ganser. Mae Ruby Bloomfield, merch naw mlwydd oed o Benarth, yn bobydd cacenni arbenigol! Roedd hi eisiau gwneud defnydd da o i sgiliau a gwerthu ei chacennau er mwyn codi arian i Tŷ Hafan. Ar 23 Gorffennaf, gosododd y ferch fach fentrus stondin grefft yng Nghanolfan Arddio Pugh, ei reoli ei hun, a chwalu ei tharged 20. Yn sgil llawer o waith caled a chacennau blasus dros ben, cododd Ruby y swm anhygoel o 138. Cipiodd Ruby galon Laura Thomas o r tîm codi arian pan roddodd hi gerdyn busnes a fflapjac iddi. Dylem rybuddio Mary Berry bod gennym ni well pobydd sydd â r dalent i lwyddo. 21

cwtsh ein newyddion a straeon o tŷ hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org mynd â r f en y s ar y ffordd Pa un a ydym ni n addurno r hosbis â fflagiau r gwledydd Olympaidd neu n chwistrellu galwyni o baent ar ffurf powdr ar gannoedd o redwyr y ras enfys, mae Tŷ Hafan bob amser yn lle lliwgar. Eleni, penderfynodd y bobl wych yn Fast Parts Wales fynd â r enfys ar y ffordd. 22 Syniad Nathan Travis a i dîm yn Fast Parts Wales garej annibynnol yng Nghwmcarn oedd Fast Parts Family Rainbow Rally. Ar ôl cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau codi arian i Tŷ Hafan yn amrywio o berfformio mewn pantomeim i nenblymio n fentrus gan godi 6,000 yn 2015, daeth Nathan i ddeall ei bod yn costio 10,958 bob dydd i ddarparu gofal a chymorth i deuluoedd sy n defnyddio ein gwasanaethau, a gwnaeth addewid y byddai n codi digon o arian i dalu am un diwrnod. Meddai Nathan: Roeddem ni n awyddus i drefnu digwyddiad a fyddai n galluogi pawb, yn oedolion ac yn blant, i gymryd rhan. Ar ôl cwrdd â Natalie, ein Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol yn Tŷ Hafan, fe wnaethom ni ddechrau cynllunio er mwyn sicrhau bod popeth mewn trefn i gynnal y digwyddiad mawr hwn. Mae r amgylchedd golau, lliwgar a theimladwy a ddarperir ar gyfer y plant yn sicr o fod wedi cyffwrdd â chalonnau unrhyw un sydd wedi ymweld â r hosbis. Roeddem ni n teimlo n gryf y dylid cydnabod y bywiogrwydd hwn yn ein digwyddiad codi arian a dyna pam yr ydym wedi ychwanegu r thema enfys i r rali. Penderfynwyd y byddai pawb yn cael cyllideb o 300 i brynu car a i baentio yn lliwiau r enfys, gan fod mor greadigol â phosibl. Cychwynnodd y ceir enfys Fast Parts o Abercarn ddydd Sul 1 Mai i gyfeiriad y gorllewin, gan ymgymryd â heriau mewn mannau penodol ar eu ffordd i Barc Antur Oakwood, cyn cyrraedd Clwb Pêl-droed Dinbych-y-pysgod a gwersylla yno am y noson. Yn ystod rhan olaf y daith y diwrnod wedyn, aethpwyd ati i godi arian ar Ynys y Barri, ar eu ffordd i ddiwedd y daith yn yr hosbis yn Sili. Meddai Nathan: Rydym ni wedi cael ymateb aruthrol i r digwyddiad hwn ac rydym wrth ein boddau bod ein diwydiant wedi cefnogi r elusen. Bydd pob punt a roddir i Tŷ Hafan yn helpu i ddatblygu a darparu amgylchedd cynnes a meithringar, sy n newid bywydau ac yn galluogi plant i ymlacio a chael pleser. Mae Tŷ Hafan yn achos teilwng iawn ac rydym ni n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu neu sydd wedi cymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn y digwyddiad hwn. Roedd gweld rhes o gerbydau wedi u lliwio n llachar yn cyrraedd y tu allan i r hosbis yn olygfa i w thrysori, a hynny ymhlith dwsinau o wynebau hapus wrth i deuluoedd ac aelodau staff Tŷ Hafan eu cyfarch. Cipiodd y digwyddiad yn nychymyg y cyhoedd yng Nghymru, yn ogystal â r cystadleuwyr, a chwalwyd y targed o dalu am un diwrnod, wrth i Rali r Enfys lwyddo i godi r swm rhyfeddol o 21,928, sy n ddigon i dalu am ddau ddiwrnod! Llongyfarchiadau i Nathan ac i bawb a gymerodd ran yn Rali r Enfys.

helpwch ni i wneud bywyd byr yn fywyd llawn... 1. Eich rhodd i deuluoedd yng Nghymru Hoffwn roi un rhodd o: neu Hoffwn roi cyfraniad rheolaidd o: 15 25 50 Arall 5 10 15 Arall Defnydd swyddfa yn unig: CWTS16 Hoffwn roi fy rhodd ar: y 5ed o bob mis y 23ain o bob mis 2. Eich Taliad Rwyf wedi cynnwys arian parod / siec / taleb CAF (dilëwch fel sy n briodol) yn daladwy i Tŷ Hafan.) Hoffwn dalu gyda cherdyn credyd / debyd Tynnwch arian o m cerdyn Mastercard / Visa / Debyd Gorchymyn i'ch banc neu gymdethas adeiladu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rhowch enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu gymdethas adeiladu. Llenwch y ffurflen hon a'i hanfon i: Tŷ Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Enw ar y Cerdyn Cyfeiriad Deiliad y Cerdyn (os yw n wahanol i r isod) Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth 2 4 9 5 0 0 I r Rheolwr Banc/Cymdeithas Adeiladu Cyfeiriad Rhif y Cerdyn Dyddiad Terfyn Rhif Diogelwch (3 rhif olaf ar gefn y cerdyn) / Dyddiad Cyflwyno Cardiau debyd yn unig Rhif cyflwyno / Llofnod(ion) Dyddiad Enw(au) deiliad y cyfrif Rhif cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu Reference Cod Post Cod Didoli r Gangen Cyfarwyddyd i ch banc neu gymdeithas adeiladu A fyddech cystal â thalu i TŷHafan o r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesurau a sicrheir gan y Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda TŷHafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i m banc/cymdeithas adeiladu. Llofnod(ion) Dyddiad Efallai na fydd banciau/cymdeithasau adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon. 3. Eich manylion Eich manylion Teitl Enw cyntaf Cyfenw Cyfeiriad Cod Post Rhif ffôn Cyfeiriad e-bost Dyddiad geni 4. Cynyddwch eich cyfraniad Rwy'n dalwr trethi yn y DU ac yn deall os ydwyf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y cymorth rhodd a gaiff ei hawlio ar bob un o'm rhoddion, fy nghyfrifoldeb i yw hi i dalu'r gwahaniaeth. Mae r datganiad hwn yn berthnasol hefyd i bob rhodd a wnaed gennyf i Tŷ Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu n wahanol. Dychwelwch y ffurflen hon i Tŷ Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Gallwch hefyd roi rhodd yn www.tyhafan.org neu drwy ffonio 029 2053 2255

tadau'n diosg eu dillad tadau n bod yn ddireidus ar gyfer calendr 2017 Mae tadau Tŷ Hafan wedi diosg eu dillad ar gyfer ein calendr swyddogol 2017 i godi ymwybyddiaeth a chodi arian hanfodol i r elusen sy n golygu cymaint iddyn nhw a u teuluoedd Mae r calendr ar gael ar-lein neu o unrhyw un o siopau Tŷ Hafan. Ewch i tyhafanshop.org i brynu r anrheg anhepgor hwn i w roi yn yr hosan Nadolig Heb ein cefnogwyr gwych fel chi, ni fyddem yn gallu parhau i ddarparu r gofal lliniarol cyfannol o r radd flaenaf ar gyfer yr holl blant a u teuluoedd yng Nghymru sydd ein hangen ni #DadsBareAll