Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch Rhaglen Mentro Allan Cefndir y prosiect Mae r astudiaeth achos a ganlyn yn seiliedig ar brofiad rhaglen ymchwil gweithredol o r enw Mentro Allan, a oedd yn weithredol am bum mlynedd ac yn ceisio canfod ffyrdd o annog grwpiau segur, anodd eu cyrraedd i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Roedd y prosiectau lleol i gyd yn cael eu harwain gan y cyfranogwyr a datblygiad y prosiect yn cael ei arwain gan adborth a syniadau r cyfranogwyr. Casglwyd y nodiadau gwerthuso yn ffurfiol, drwy gyfrwng achlysuron gwerthuso rheolaidd yn defnyddio proses drafod gyda r grŵp cyfranogi, ac yn anffurfiol, drwy sgwrsio â phobl yn ystod y sesiynau gweithgarwch. Enw r prosiect Mentro Allan (MA) a oedd wedii i leoli yng Nghaerdydd gyda r Ymddiriedolaeth Arloesi oedd Mentro Allan. Ei grŵp targed oedd pobl gydag anableddau, a oedd yn cynnwys pobl gydag anableddau corfforol, pobl gydag anawsterau dysgu a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Mae r Ymddiriedolaeth Arloesi yn fudiad yn y sector gwirfoddol sy n darparu ystod o wasanaethau amrywiol, tai gyda chefnogaeth yn bennaf, ar gyfer pobl gydag anableddau sy n byw yn Ne Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth Arloesi wedi treialu prosiect canŵio ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu flwyddyn cyn i MA gael ei sefydlu, ac roedd yn awyddus i gynnal prosiect gyda sgôp ehangach ac ar raddfa fwy. Y gweithgareddau a gynhaliwyd fel rhan o r prosiect oedd: ffurfiau amrywiol ar gerdded, beicio, marchogaeth ceffylau, chwaraeon dŵr, dringo, garddio, cadwraeth a gwaith amgylcheddol. Profodd cludiant yn rhwystr wrth gynnwys rhai pobl. Nid oedd gan y prosiect ddigon o arian i ddarparu bws mini nac i dalu am dacsis. Ystyriwyd sawl opsiwn ac un ohonynt oedd darparu hyfforddiant cludiant i rai o r bobl gydag anawsterau dysgu a oedd eisiau mynychu r gweithgareddau. Galluogodd yr hyfforddiant hwn iddynt fynychu r gweithgareddau hyd yn oed pan nad oedd cefnogaeth bersonol yn bresennol, a hefyd i gynyddu r ystod o weithgareddau roeddent yn cymryd rhan ynddynt. Bydd yr astudiaeth achos hon yn edrych ar sut cafodd y bobl eu dewis i dderbyn yr hyfforddiant, beth oedd yr hyfforddiant yn ei gynnwys, pa her a wynebwyd a beth a gyflawnwyd. 1 /5
Case Study 26 Astudiaeth Achos 16 Beth ddigwyddodd? Profi r syniad cychwynnol: Cyflwynwyd y syniad o hyfforddiant cludiant gan weithiwr cymdeithasol a oedd eisiau cyfeirio un o i chleientiaid gydag anawsterau dysgu i r gweithgareddau. Gwyddai am brosiectau ymroddedig i hyfforddi pobl gydag anawsterau dysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, prosiect a oedd wedi i gynnal mewn rhannau eraill o r DU. Roedd ei chleient wedi i ynysu n gymdeithasol ac nid oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol o drafnidiaeth gyhoeddus. Nid oedd unrhyw gefnogaeth ar gael gan deulu na ffrindiau i fynd gydag ef i weithgareddau, ond credai r gweithiwr cymdeithasol y gallai gyrraedd yno n annibynnol pe bai n cael cymorth i ddechrau. Trefnwyd bod therapydd galwedigaethol yn teithio gydag ef am y troeon cyntaf, i ddangos iddo sut i ddelio ag ymarferoldeb y siwrnai ac i adnabod tirnodau penodol.. Roedd y gŵr ifanc yn teithio o Ddwyrain Caerdydd ar draws canol y ddinas i leoliad y sesiynau beicio. Roedd yn lle da iddo ddysgu ei gyrraedd, gan fod dau o weithgareddau eraill y prosiect, cerdded a marchogaeth ceffylau, yn cael eu cynnal rai munudau ar droed oddi yno. Roedd y siwrnai n cynnwys teithio ar ddau fws, un yn yr orsaf fysus ganolog o r dwyrain ac un allan i r gorllewin. Wedi i r therapydd galwedigaethol deithio ar y siwrnai gydag o unwaith neu ddwy, roedd yn barod ac yn abl i deithio n annibynnol. Roedd yn gallu mynychu r gweithgareddau ddwywaith yr wythnos o ganlyniad i hyn. Fel yr aeth amser heibio, roedd eisiau mynychu gweithgareddau mewn gwahanol leoliadau ac felly cafodd un neu ddau o sesiynau hyfforddi ychwanegol, i w alluogi i wneud y siwrnai o r orsaf fysus ganolog i Fae Caerdydd, fel ei fod yn gallu ymuno â r chwaraeon dŵr. Y glaw yn atal y chwarae: Yr her fwyaf iddo oedd y tywydd. Nid oedd ganddo ddillad yn dal dŵr ac felly os oedd y tywydd braidd yn ansefydlog, ni fyddai n mynychu r gweithgareddau. Roedd yn byw gyda i dad mewn oed ac roedd ef yn dweud wrtho am beidio mynd allan mewn tywydd drwg oherwydd gallai wlychu wrth gerdded i r arosfan bws. Prynodd y prosiect gôt yn dal dŵr iddo ac roedd yn bresennol yn amlach wedi hyn. Am weddill y prosiect, llwyddodd i fynychu r gweithgareddau deirgwaith yr wythnos. Cyflwyno hyfforddiant cludiant: Gan fod yr hyfforddiant cludiant wedi gweithio n dda i un cyfranogwr, penderfynwyd ystyried y posibilrwydd o hyfforddiant cludiant ar gyfer cyfranogwyr eraill gydag anawsterau dysgu. Roedd yr hyfforddiant gwreiddiol wedi cael ei ddarparu gan therapydd galwedigaethol, ond cynhaliwyd yr holl sesiynau dilynol gan staff y prosiect. Dim ond cyfnod cyfyngedig o amser oedd ganddynt ar gael i w dreulio ar yr hyfforddiant teithio ac felly dim ond i r bobl a oedd â photensial clir i reoli eu teithio n annibynnol y cafodd ei gynnig, er nad oeddent yn gwneud hynny eisoes. Roedd rhai cyfranogwyr eisoes yn teithio n annibynnol heb broblemau ac roedd eraill yn cael cwmni gweithwyr cefnogi i gyrraedd eu gweithgareddau, ac ni fyddent yn gallu cymryd rhan heb y gefnogaeth honno. Yn ystod y prosiect, dewiswyd chwe chyfranogwr yr oedd eu gweithwyr cefnogi yn credu y gallent drin arian ac adnabod llwybr ar eu pen eu hunain. Cawsant hyfforddiant teithio ac roeddent yn gallu gwneud defnydd ohono i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ninas Caerdydd. Amrywiodd yr hyfforddiant yn unol ag anghenion pob unigolyn. Nid oedd staff MA yn mynd i gartrefi r cyfranogwyr; yn hytrach, roeddent yn cyfarfod â hwy yn yr orsaf fysus neu drenau ganolog. Os oedd angen teithio ar ddau fws, roedd rhaid i r cyfranogwr allu dal y bws o i gartref i r orsaf ganolog, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chymorth teulu neu weithiwr cefnogi. Yna, byddai aelod o staff y prosiect yn teithio gydag ef ar gymal nesaf y siwrnai ac yn asesu r dull gorau iddo ddysgu r wybodaeth roedd ei hangen. Gyda rhai pobl, roedd teithio gyda hwy ryw ddwy neu dair gwaith yn ddigon, gan dynnu eu sylw at dirnodau ac arosfannau i ddechrau ac yna gadael iddyn nhw ddweud ble ddylent ddod oddi ar y bws, nes eu bod yn hyderus ynghylch beth i w wneud. Canfod atebion: Roedd rhai o r hyfforddeion angen mwy o gymorth i fagu hyder. Er enghraifft, roedd un o r hyfforddeion wedi symud gyda i deulu yn ddiweddar, o Awstralia, ac nid oedd yn gyfarwydd â r ddinas o gwbl. Roedd ei deulu yn byw yn Y Barri a gallai deithio o r Barri i orsaf canol y ddinas ond roedd angen cefnogaeth ar gyfer gweddill y siwrnai. Hyfforddodd un o staff Mentro Allan yr unigolyn yma, gan ei gyfarfod yn yr orsaf a theithio gydag ef ar fws i r gweithgareddau pellach, a cherdded i r rhai gerllaw. Roedd y cerdded yn ddidrafferth iddo ond roedd yn cael anhawster gyda r teithiau bws oherwydd roedd yn mynd yn nerfus 2 /5
ac yn adnabod tirnodau yr oedd wedi u gweld o r blaen ac yn dod oddi ar y bws yn rhy fuan. Yr ateb i hyn oedd gwneud llyfryn o luniau iddo. Cerddodd ef ac aelodau staff MA ar hyd y llwybr bws a thynnu lluniau r tirnodau gydag ef yn sefyll o u blaen, er mwyn dangos iddo pa ffordd i fynd, gan droi i r chwith neu i r dde. Rhoddwyd y rhain at ei gilydd yn llyfryn yr oedd yn ei gario gydag ef ar ei siwrneiau. Gweithiodd hyn yn dda iddo, llwyddodd i gyrraedd ble roedd angen bod bob tro ac, o ganlyniad, daeth yn ddigon hyderus i ymestyn ei siwrneiau. Erbyn diwedd y prosiect, roedd yn adnabod y siwrneiau bws i gyd a gellid dweud amser a rhif y bws wrtho ar gyfer teithio i weithgaredd, a byddai n cyrraedd yno. Ar gyfer un taith diwrnod i Lynnoedd Cosmeston, llwyddodd i ddewis llwybr arall a theithio n uniongyrchol i r cyrchfan. Dysgodd hyfforddai arall i deithio n annibynnol yn fuan iawn os oedd y siwrnai n dilyn yr un llwybr. Roedd wedi dysgu r llwybrau i gyd a gallai fynychu r holl weithgareddau roedd eisiau. Ond os oedd problem, roedd yn cynhyrfu n lân. Er enghraifft, ar un adeg, rhoddodd y gorau i fynychu r gweithgareddau. Pan gysylltodd staff y prosiect ag ef fel rhan o gyswllt dilynol arferol, cawsant wybod bod gwaith ar y ffordd ar ei siwrnai, a oedd yn golygu bod y bws wedi newid llwybr ac yn aros mewn mannau gwahanol. Llwyddodd y staff i gael gwybod am faint fyddai r gwaith yn mynd rhagddo ar y ffordd a chafodd hyfforddiant teithio newydd ar gyfer y siwrnai newydd. Cyrhaeddir rhai o weithgareddau r prosiect ar drên, er enghraifft, y gwaith garddio a chadwraeth yn Fferm Fforest. Yn yr achos hwnnw, roedd yr hyfforddiant yn ymwneud â dod i ddeall ble mae cael gwybodaeth am drenau, sut i brynu tocynnau trên a beth i w wneud gyda nhw. Gall y llwybrau mynediad i mewn ac allan o orsaf canol Caerdydd fod yn gymhleth ac roedd yr hyfforddeion teithio angen cefnogaeth hefyd i ddysgu sut i ganfod eu ffordd o amgylch tu mewn yr orsaf a hefyd dysgu am sut i fynd i mewn ac allan o r orsaf i gyrraedd eu man cyfarfod. Lle r oedd modd, roedd y siwrneiau n cael eu trefnu fel bod y cyfranogwyr a oedd yn teithio n annibynnol yn gallu cyfarfod ag eraill yn yr orsaf fysus neu drenau, er mwyn teithio gyda i gilydd i gael cefnogaeth. Roedd y broses hyfforddiant teithio n un eithaf dwys ar y dechrau, gydag aelod o staff yn cyflwyno sawl sesiwn un-i-un. Byddai r prosiect wedi cael anhawster yn cael hyd i adnoddau i ddarparu r hyfforddiant hwn i gymaint o gyfranogwyr. Gweithiodd y broses yn yr un ffordd â model cynllun gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda i ffocws ar yr unigolyn, gyda chefnogaeth cam wrth gam a defnyddwyr y gwasanaeth yn derbyn cyfrifoldeb cam wrth gam. Roedd hon yn cael ei chydnabod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol fel cefnogaeth werthfawr i fyw n annibynnol. Yn yr achos hwn, galluogodd y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol heb gostau r gefnogaeth tymor hir. 3 /5
Lead Organisation for this project: South East Wales Racial Equality Council Project Location: Project Name: Target Group: Website: Email: City of Cardiff Venture Out Cardiff Children and Adults with Disabilities www.innovate-trust.org.uk jonathon.lee@innovate-trust.org.uk Effeithiau cyfranogwyr I r cyfranogwyr a dderbyniodd hyfforddiant cludiant, y nod yn gyntaf oedd sicrhau mynediad iddynt i weithgareddau r prosiect a chynyddu eu lefelau ymarfer. Roedd hyn yn llwyddiannus iawn, gyda r hyfforddeion yn mynychu r sesiynau n rheolaidd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cynyddu nifer y sesiynau a fynychwyd ganddynt bob wythnos. Ymhlith yr effeithiau eraill roedd cynnydd amlwg mewn hunanhyder ymhlith y rhai a oedd wedi u hyfforddi. Roeddent yn hapus gyda hwy eu hunain am allu teithio heb gefnogaeth ac wedi mwynhau dysgu sgil newydd. Unwaith roeddent wedi dysgu defnyddio r bysus neu r trenau, daeth yn haws iddynt ddysgu siwrneiau newydd a golygai hyn eu bod yn dod yn fwy annibynnol a hefyd bod eu mynediad at weithgarwch corfforol yn fwy cynaliadwy. Wrth ryngweithio n gymdeithasol drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus, a ffurfio cyswllt â chyfranogwyr eraill wrth gyfarfod a theithio gyda i gilydd, cynyddodd hyder y cyfranogwyr yn eu gallu i weithredu yn y byd mawr eang. Er bod y broses hyfforddi ei hun yn un ddwys, unwaith roedd wedi i chwblhau, roedd y cyfranogwr yn mynychu r sesiynau n annibynnol. Yn y tymor hir, roedd hyn yn arbed llawer o amser y staff a hefyd yn galluogi pobl i fynychu sesiynau n rheolaidd; pobl a fyddai wedi i chael yn anodd i wneud hynny fel arall, heb gefnogaeth. Bu r hyfforddiant o gymorth i wella gwaith partneriaeth, gan helpu r prosiect i feithrin perthnasoedd gyda r Gwasanaethau Cymdeithasol roedd cyswllt agos â r swyddogion proffesiynol, drwy rannu gwybodaeth a gweithio tuag at nodau cyffredin. Arweiniwyd Mentro Allan gan Bartneriaeth Genedlaethol yn cynnwys y sefydliadau canlynol: Cyngor Cefn Gwlad Cymru: www.ccgc.gov.uk Iechyd Cyhoeddus Cymru: www.publichealthwales.gov.uk Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: www.wcva.org.uk Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk 4 /5
Y gwersi a ddysgwyd Wrth ddarparu hyfforddiant cludiant i bobl gydag anawsterau dysgu, rhaid cofio r canlynol: Gall yr amser a dreulir ar hyfforddiant cludiant fod yn fuddsoddiad da: Bydd gallu teithio n annibynnol yn creu cyfranogwyr rheolaidd, a fydd yn gallu mynychu heb ddibynnu ar weithwyr cefnogi neu ofalwyr teuluol. asesu gyda r gweithwyr cefnogi proffesiynol pwy sy n gallu sicrhau: annibyniaeth drwy hyfforddiant. Nid yw hyfforddiant cludiant yn addas i bawb; mae rhai pobl angen gofalwr teuluol neu weithiwr cefnogi i w cefnogi mewn gweithgaredd. gweithio cam wrth gam: yn yr un ffordd â model cynllun gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol sy n rhoi lle canolog i r unigolyn a lle ceir cefnogaeth cam wrth gam, gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn derbyn cyfrifoldeb cam wrth gam. Byddwch yn hyblyg ac yn ymatebol wrth ddarparu r hyfforddiant: Bydd gwahanol ddulliau n gweithio gyda gwahanol bobl a bydd rhai pobl angen cymorth neu gyngor ychwanegol ynghylch dillad priodol ar gyfer tywydd cyfnewidiol. defnyddiwch hyfforddiant cludiant i gefnogi gweithgareddau: sy n cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd. Mae teithio n annibynnol gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn annog defnydd o gludiant mwy cynaliadwy: ar gyfer siwrneiau eraill. gweithiwch gyda gweithwyr cymdeithasol a staff cefnogi i wneud i r hyfforddiant weithio: Cyflawnir nodau pawb drwy gyfrwng hyfforddiant llwyddiannus. Rhaglen Mentro Allan Cynhaliwyd pedwar prosiect ar ddeg dan faner Mentro Allan (MA) ledled Cymru rhwng 2006 a 2011. Yr amcan oedd dysgu am y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi pobl segur i ddatblygu r arfer o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn yr hamgylchedd naturiol. Roedd gan y prosiectau amrywiaeth o grwpiau targed: pobl ifanc, pobl hŷn, merched, cymunedau DLlE (Duon a Lleiafrifoedd Ethnig), pobl ag anableddau corfforol, defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, gofalwyr, pobl mewn perygl o gael eu hynysu mewn ardaloedd gwledig a phobl ar incwm isel. Roedd y dull o ddatblygu r prosiectau n cael ei arwain gan y cyfranogwyr, gan ddefnyddio model Ymchwil Gweithredol Cyfranogol o werthuso. Mae copi o r nodiadau cyfarwyddyd a roddwyd i gydlynwyr y prosiect ar gael drwy r wefan. Anogwyd y prosiectau i ganolbwyntio ar weithgareddau ar garreg y drws, gan eu bod yn fwy cynaliadwy. www.mentroallan.co.uk 5 /5