Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Mercure Holland House, Caerdydd 19 a 20 Mehefin 2018
Cynhadledd Arweinyddiaeth 2018 Gwesty Mercure Holland House 19/20 Mehefin 2018 9.00am 9.45am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon Croeso Ystafelloedd Calon Laura McAllister, @LauraMcAllister Mae Laura McAllister yn academydd, cyn-beldroedwraig a gweinyddydd chwaraeon. Fel aelod o dîm pêl-droed menywod cenedlaethol Cymru, enillodd McAllister 24 cap ac bu n gapten y tîm. 9.55am Gosod y Llwyfan Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymunedol Cymru @stuart_chc Ystafell - Ystafelloedd Calon 1 Croeso cynnes i'r gynhadledd gan Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru. Bydd Stuart yn gosod y llwyfan ar gyfer y gynhadledd, edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf a'r hyn a gyflawnodd y sector a'r heriau a'i wynebodd. Bydd Stuart yn rhoi ei sylwadau ar arweinyddiaeth ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar yr heriau a'r cyfleoedd i ddod. 10.15am Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol
Rt.Hon Jim Murphy Ystafell - Ystafelloedd Calon 1 Mae'r Gwir Anrh Jim Murphy yn gyn Weinidog yng Nghabinet y Deyrnas Unedig a bu ganddo nifer o bortffolios fel gweinidog. Bu'n Aelod Seneddol rhwng 1997 a 2015. Yn un o enwau mawr gwleidyddiaeth yr Alban yn y 21ain ganrif mae Murphy yn wleidydd, awdur, siaradwr ac yn awr gyhoeddwr. Mae wedi cadeirio llu o gyrff cyhoeddus a llywodraethol. Fel Arweinydd Plaid Lafur yr Alban, roedd Murphy yn amlwg iawn yn ymgyrch proffil uchel 'Vote No Thanks' yn ystod ymgyrch y refferendwm, gan deithio'r Alban a chynnal 100 o gyfarfodydd stryd cyhoeddus byrfyfyr. Roedd hefyd yn aelod o dîm arweinyddiaeth ymgyrch drawsbleidiol Better Together. Yn ei ffordd unigryw ei hun, bydd Jim yn dynodi pa gamau y dylai arweinwyr yn y sector Tai Cymdeithasol yng Nghymru eu cymryd i gyflawni gweledigaeth Gorwelion Tai. Bydd yn rhannu ei sylwadau ei hun ar arweinyddiaeth o brofiad mewn amgylchedd wleidyddol ac economaidd gynhwysfawr. 11.15am 11.45am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Gweithdai Egin Arweinwyr Marchnata eich hun Mohammed Ahmed, Acorn @AcornSeniorJobs Ystafell Kidwelly Sut y gallwn ein gosod ein hunain ar wahân i eraill? Mae llunio eich brand personol yn allu hanfodol wrth drin a chynnal gyrfa lwyddiannus. Mae angen i ni gyd rymuso ein hunain drwy ddynodi 3 peth allweddol: 1) Beth sydd gennych i'w gynnig
2) Beth ydych ei eisiau, ac yn bwysicaf oll 3) Sut i ofyn am hynny. Mae eich gallu i farchnata eich talentau, eich llwyddiannau a'ch gwerth, o fewn eich sefydliad ac o fewn eich proffesiwn, yn rhan allweddol o hyrwyddo eich brand. Aiff Mohammed â chi drwy'r camau sydd angen i chi eu dilyn er mwyn bod yn llwyddiannus Gweithdai Egin Arweinwyr Datblygu eich Hunan - Stori Arweinydd Chris O Meara, Prif Weithredydd, Cymdeithas Tai Cadwyn @ChrisO CadwynHA Ystafell Aberrhoddu Mae'r Chris yn un o'r ffigurau uchaf ei pharch yn sector Tai Cymdeithasol Cymru. Yn ogystal â bod yn Brif Weithredydd Cymdeithas Tai Cadwyn, bu Chris hefyd yn gynghorydd rhan-amser i'r Gweinidog Tai yn Llywodraeth Cymru. Yn y sesiwn caiff arweinwyr newydd eu hysgogi gan angerdd Chris am ei gwaith a chael eu hysbrydoli gan ei chymhelliant sy'n deillio o ddeall a gwerthfawrogi'r gwahaniaeth y gall sicrwydd cartref ei wneud i fywydau pobl. Arweinyddiaeth 2025 Creu amrywiaeth mwy amrywiol Sioned Hughes a Mihir Shah, Altair @AltairLtd Ystafell Calon 1 Mae Arweinyddiaeth 2025 yn gynllun naw mis a lansiwyd yn 2016 gyda'r nod o ymyrryd mewn modd cadarnhaol ar y sector tai drwy herio canfyddiadau cyfredol a hyrwyddo'r ffaith fod amrywiaeth yn fwy na thicio blychau yn unig ond ei fod mewn gwirionedd yn dda i fusnes.
Bydd Sioned a Mihir yn rhoi enghreifftiau o'r cynllun yma ac yn dynodi sut y gallwn i gyd chwarae rhan wrth annog arallgyfeirio ledled ein sefydliadau a'n timau arweinyddiaeth Gweithdai Egin Arweinwyr - Sesiwn Bowlen Pysgodyn Aur Arweinyddiaeth Seiliedig ar Ddoethineb - gwybodaeth v doethineb Dr Barrie Kennard a Dave Thomas, Call of the Wild @callwildleader Ystafell Calon Suite 2 Gyda llawer iawn o wybodaeth ar gael ar flaenau'n bysedd, daeth y byd yn gae chwarae gwastad pan ddaw i gasglu gwybodaeth. Mae llawer iawn o wybodaeth yn awr ar gael yn rhwydd ac am ddim. Fodd bynnag, nid oes pris ar ddoethineb! Bydd Dr Barrie Kennard a Dave Thomas yn hwyluso'r sesiwn a gaiff ei chychwyn gan grŵp trafod bach o gyfranogwyr a wahoddwyd yn arbennig, gyda'r holl gynrychiolwyr sydd ar ôl yn ffurfio 'cynulleidfa'. Bydd lleoedd gwag yn y grŵp trafod ar gael a gall aelodau o'r gynulleidfa gymryd y lleoedd hyn pan deimlant fod ganddynt gyfaniad i'w wneud. Mae aelodau'r grŵp trafod yn gadael eu lleoedd ar ôl dweud eu dweud, gan wneud lle ar gyfer cyfranogwyr newydd. Bydd y sesiwn yn dynodi'r doniau sydd eu hangen i lwyddo mewn byd cystadleuol, sy'n newid yn gyflym. Gyda chwestiynau fel a ddylem fod yn cyflogi pobl yn seiliedig ar eu gwybodaeth ac addysg neu ystyried ffactorau fel profiad, effaith, ffactor ymwybyddiaeth ac agoredrwydd i dyfu, dysgu a chreu? Beth ydym ei angen i symud ein sefydliadau ymlaen. 12.45pm Egwyl Cinio Lobi Ystafelloedd Calon
1.45 pm Gwyddor Arweinyddiaeth Paul Chudleigh, RW Learning @rwlearning Ystafelloedd Calon 1 Yn dilyn ei brif sesiwn, bydd Paul yn helpu cynrychiolwyr i roi'r ddamcaniaeth ar waith! Ar adeg pan fo'n sefydliadau'n esblygu drwy'r amser ac yn newid yn gyson, mae byd gwaith yn dod yn fwyfwy cymhleth. Nod y sesiwn yw rhoi modelau a dulliau ymarferol i gynrychiolwyr fydd yn galluogi eu sefydliadau i weithredu'n fwy effeithlon! Gweithdai Egin Arweinwyr 2.45pm Datblygu eich Hunan - Taith Arweinydd Hannah Evans, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru @Welshambulance Ystafell Brecon Ymunodd Hannah â'r GIG ar Gynllun Rheoli i Raddedigion yn 2002 ac aeth ei gyrfa o nerth i nerth ers hynny. Bu'n gweithio i ddechrau mewn nifer o swyddi rheoli gweithredol cyn newid cyfeiriad a symud i gynllunio strategol. Ers mis Hydref 2016 bu Hannah yn Gyfarwyddydd Cynllunio a Pherfformiad yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru. Dewch i glywed am ei thaith, yr heriau a wynebodd a sut y gwnaethodd ei goresgyn ac, wrth gwrs, y llwyddiannau!
Gweithdai Egin Arweinwyr Sut i fod yn Arweinydd Tîm Rheoli Tai Bethan Gladwyn, Hugh James Cyfreithwyr @Hughjameslegal Ystafell Kidwelly Yn y sesiwn 60 munud yma bydd Bethan Gladwyn, Partner a Phennaeth tîm Rheoli Tai Hugh James, yn llywio arweinwyr tîm drwy agweddau allweddol eu rôl a sut i sylwi ar y camgymeriadwu cyffredin a allai fod â goblygiadau costus i ch sefydliad. Bydd hyn yn cynnwys: - Deall eich cytundebau tenantiaeth; - Dod yn gyfarwydd â pholisi a gweithdrefnau; - Egwyddorion y Ddeddf Cydraddoldeb; - Pwysigrwydd nodiadau ffeil; - Pwyntiau sbardun ar gyfer cael help; a - Beth i edrych amdano wrth oruchwylio eich tîm. Datblygu Cymunedau Yr Athro Ken Gibb -What Works Scotland @Gibb6781 Ystafell Calon 2 Mae Ken yn Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol ym maes pwnc Astudiaethau Trefol a bu'n gynghorydd i'r Comisiwn Tai a Llesiant. Yn ddiweddar bu'n gweithredu fel cynghorydd i Bwyllgor Seilwaith a Buddsoddiad Cyfalaf Senedd yr Alban ac mae wedi gweithio i Bwyllgor Diwygio Llesiant Senedd yr Alban. Dros y tair blynedd ddiwethaf bu tîm ymchwil 'What Works Scotland' yn gweithio'n ddygn i gychwyn, meithrin a chynnal ymchwil ar y cyd gydag ystod eang o gyrff gyhoeddus a thrydydd sector.
Aiff Ken â ni drwy'r hyn y gallwn ni fel sector ei ddysgu o'r ymchwil a sut y gallwn ganolbwyntio ar arfer cydweithredol i drin materion hir-sefydlog yn ymwneud â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol. Llesiant a Gwytnwch yn y Gwaith Paul Chudleigh, RW Learning a Georgina Gilbert @rwlearning Ystafell Calon 1 Bydd y sesiwn yma'n dechrau drwy gyflwyno'r canfyddiadau a gwybodaeth diweddaraf ar lesiant a gwytnwch yn y gwaith. Gan gymryd dull ymarferol, bydd yn cyflwyno rhai cynghorion ac arferion allweddol a all fod yn rhan o fywyd gwaith bob dydd er mwyn gwella gwytnwch personol. Bydd y sesiwn wedyn yn cynnig rhai profiadau personol yn ymwneud â sefyllfaoedd lle caiff gwytnwch ei brofi. Bydd yr enghreifftiau real a chofiadwy hyn yn ysgogi mwy o feddwl ac yn rhoi cynghorion pellach a dulliau ar gyfer hybu gwytnwch personol. Bydd Georgina Gilbert yn cefnogi Paul gyda'r gweithdy. Yn sefydlydd TH:ink your future ac yn ymladdwr tân llawn-amser, mae Georgina yn gyfarwydd gyda thrin realaeth lem iechyd meddwl a sut y gall effeithio ar lawer o bobl o wahanol broffesiynau a chefndiroedd. Mae Georgina yn cyflwyno darlun realistig ac onest o realaeth di-flewyn ar dafod yr hyn y gall iechyd meddwl ei olygu i'r unigolyn, cydweithwyr, cyfoedion ac arweinwyr busnes. Gan ddefnyddio iaith a delweddau syml, mae Georgina'n esbonio'r hyn y gallwn ei wneud i helpu adeiladu a chynnal gwytnwch drwy ddull gweithredu ymdeimlad cyffredin y gellir ei gyflawni a'i gynnal yn rhwydd. Byddant yn helpu'r grŵp i ddefnyddio technegau gwahanol, syml a hwyluso sgwrs ar bynciau a godwyd o'u prif sesiwn neu a ddynodwyd gan y sawl sy'n cymryd rhan. I wneud y defnydd gorau o'r gweithdy, caiff y sawl sy'n cymryd rhan eu gwahodd i gyflwyno eu cwestiynau i Ruth ac Eleanor cyn y toriad cinio i'w galluogi i gynllunio'r sesiwn. 3.45pm 4.15pm Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Gwyro o'r Cynllun
Tori James, Siaradwraig, Anturiaethwraig ac Ymgynghorydd @torijtweets Ystafell Calon Suite 1 Yn 25 oed, Tori James oedd y fenyw ieuengaf (bryd hynny) ym Mhrydain a'r fenyw gyntaf o Gymru i ddringo i gopa Everest. Ym mis Mai 2005, 'The Pink Lady Pole Cats' oedd y tîm cyntaf erioed o fenywod enfawr i gwblhau Her y Pegwn, ras 360 milltir galed i begwn magnetig y Gogledd. Yn ogystal â gorffen y ras yn y 6ed safle allan o'r 16 tîm, gan drechu timau dynion yn unig, aeth The Pink Lady Pole Cats hefyd drwy dir lle mae eirth y Gogledd yn byw, ar draws iâ môr sy'n symud yn gyson a brwydro yn erbyn tymheredd o -40 o C. Dewch i gael eich ysbrydoli gan stori Tori a sut nad oedd y tîm yn ofni gwyro o'r cynllun i sicrhau llwyddiant. 5.00pm Diwedd Diwrnod 1 5.30pm Bodlonrwydd Aelodau: Barn y Cadeirydd David Hedges, Cyngor Da @CyngorDa Ystafell Kidwelly Mae CHC yn cynnal arolwg o fodlonrwydd aelodau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod y gorau y gallwn fod ac yn darparu gwaasanaeth effeithlon sy n cynnig gwerth am arian. Rydym wedi comisiynu David Hedges, Cyngor Da, i gynnal y darn yma o waith drosom a bydd yn hwyluso r sesiwn gaeedig hon gyda Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion. 7.30pm Cinio'r Gynhadledd yn cael ei noddi trwy garedigrwydd WPA
8.45 am Cofrestru a Lluniaeth yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon 9.10 am Croeso Calon Suite Paula Kennedy, Prif Weithredydd, Cartref Melin @pjk68 Calon Suite 1 9.15am Arweinyddiaeth Arloesol Helen Goulden, Sefydliad Young @HelenGou Ystafelloedd Calon 1 Helen yw Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Young ar ôl bod yn Gyfarwyddydd Gweithredol Nesta. Treuliodd bum mlynedd yn ymgynghori yn Swyddfa'r Cabinet, Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ac yna'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn datblygu rhaglenni arloesedd cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol ac arwain ymchwil a datblygu cynnyrch ar gyfer gwasanaethau teledu cyhoeddus rhyngweithiol. Bydd Helen yn rhannu sut y mae, ar hyd ei gyrfa, wedi defnyddio dulliau arloesi cymdeithasol i dyfu gwytnwch a gwneud newid ystyrlon. Bydd yn ein helpu i ymchwilio sut ydym yn paratoi arweinwyr presennol a'r dyfodol i gyflwyno Gorwelion Tai.
10.15am Cymryd Rheolaeth yn Ôl Cynghorydd Matthew Brown - Cyngor Preston @prestoncouncil Ystafelloedd Calon 1 Yn 2011 roedd Preston ar ei hisaf. Yna cymerodd reolaeth yn ôl! Am fwy na degawd roedd y cyngor wedi canolbwyntio'n llwyr ar fuddsoddiad drwy ddatblygu canolfan siopa enfawr. Byddai'r Tithebarn yn ymestyn dros holl ganol y ddinas, yn costio 700m ac yn cael ei hadeiladu gan ddau o'r datblygwyr mwyaf ar y blaned. Bwriedid iddo gael Marks & Spencer, sinema aml-sgrin a stôr John Lewis enfawr. Yna daeth y chwalfa bancio ac roedd craeniau ym mhob rhan o'r wlad yn segur. Collodd busnesau ddiddordeb yn y Tithebarn a thynnodd John Lewis allan ym mis Tachwedd 2011. Canfu'r cyngor nad oedd yn gwneud synnwyr economaidd bellach a lladdodd yr holl gynllun. Lle bu unwaith gynllun meistr, roedd gan Preston yn awr wagle. Roeddent angen Cynllun B felly fe wnaethant fabwysiadu lleoliaeth guerrilla. Mae'n cadw ei arian mor agos adref ag sy'n bosibl fel bod, mewn toriadau enfawr yn hanesyddol, y swm a wariwyd yn lleol wedi cynyddu. Lle mae awdurdodau eraill yn preifateiddio, mae Preston yn tyfu ei busnesau ei hun. Mae hefyd wedi creu mentrau cydweithredol gweithwyr. Bydd y Cynghorydd Matthew Brown yn siarad am "Fodel Preston" ac am gymryd rheolaeth yn ôl. 10.45am 11.15am Lluniaeth a Rhwydweithio yn cael ei noddi trwy garedigrwydd Hugh James Cyfreithwyr Lobi Ystafelloedd Calon Closing the Gap Panel: Adele Baumgardt, Report Author
Alicja Zalesinska, Director Tai Pawb Debbie Green, Chief Executive, Coastal Housing Paul Dear, Head of Equality, Welsh Government Ystafelloedd Calon 1 Eleni daeth maint y gwahaniaeth tâl rhwng dynon a menywod i r amlwg. Rhoddodd mwy na 10,000 o gwmnïau sy n cyflogi 250 neu fwy o bobl fanylion y bwlch tâl rhwng dynon a menywod, gyda tri-chwarter ohonynt yn talu mwy i ddynion nag i fenywod. Lle mae cymdiethasau tai arni yn y mater yma? Bydd y sesiwn yn cynnwys trafodaeth panel i ymchwilio canfyddiadau adroddiad newydd gan Tai Pawb ar y bwlch tâl rhwng dynon a menywod mewn cymdeithasau tai yng Nghymru. 12.00pm Meddwl: Amser Rhwygo'r Rheolau ar Arweinyddiaeth Terence Mauri, Siaradwr Byd-eang ac Awdur @terencemauri Ystafelloedd Calon 1 Ai goroesi neu ffynnu ydych chi fel arweinydd? Mae newid seismig a hirddisgwyliedig mewn arweinyddiaeth. Mae bwlch cronig mewn arweinyddiaeth mewn llawer o sefydliadau: mae timau n cael eu gor-reoli a u tan-arwain. I symud ymlaen, mae n rhaid i ni gyd ddod yn arweinwyr ein hunain; mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni wneud i newid ddigwydd a dod yn ddysgwr gydol oes ar arweinyddieath. Nid teitl yw arweinyddiaeth. Mae n ffordd o feddwl ac yn set o fathau ymddygiad buddugol. Oes gennych chi Ffordd Arweinydd o Feddwl? 1.00pm 1.10pm Casgliadau'r Gynhadledd Cinio a Gadael