Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Calon. Celebrating Our First Birthday. Dathlu ein Penblwydd Cyntaf. Grŵp Cynefin. Cynefin

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Calon. Rhifyn Nadolig o Calon Calon Christmas Edition. Grw p Cynefin. Gwobrau i Llys Awelon a Awel y Coleg Awards for Llys Awelon and Awel y Coleg

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Holiadur Cyn y Diwrnod

W46 14/11/15-20/11/15

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Addysg Oxfam

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

Gwybodaeth am Hafan Cymru

Talu costau tai yng Nghymru

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

GWERS 90. yn lle - instead of neu - or gartref - at home pan - when fel - as. Daearyddiaeth - Geography Hanes - History

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

The Life of Freshwater Mussels

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.

W45 4/11/17-10/11/17. Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

E-fwletin, Mawrth 2016

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

offered a place at Cardiff Met

W39 22/09/18-28/09/18

W6 04/02/17-10/02/17. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

yr hosbis deuluol i fywydau ifanc. cwtsh Cylchlythyr:: gwanwyn/haf 2013 Y tu mewn... Ymweliad X Factor Cornel Cwtsh Yn eisiau uwcharwyr!

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Products and Services

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Swim Wales Long Course Championships 2018

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Week/Wythnos 41 October/Hydref Pages/Tudalennau:

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Blagurwn,Tyfwn Gyda n Gilydd. YSGOL GYNRADD EGLWYSWRW Pennaeth/Headteacher Mr Edryd Eynon Eglwyswrw, Crymych, Sir Benfro. SA41 3SN

NatWest Ein Polisi Iaith

y ganolfan ddata gyntaf yn Ewrop i ennill y wobr nodedig.

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Clybiau Chwaraeon a Gweithgareddau Ynys Môn Anglesey Sports and Activity Clubs

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017

W42 13/10/18-19/10/18

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Dachrau n Deg Flying Start

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Addewid Duw i Abraham

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

Student Senate Tuesday 2 May 2017, 4J at 6pm

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Datrys y dirgelwch.. tlodi. Y dirgelwch

Esbonio Cymodi Cynnar

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

W50 12/12/15-18/12/15. Pages/Tudalennau:

WALES. FIFA WOMEN s WORLD CUP QUALIFYING MATCH. v BOSNIA & HERZEGOVINA CYMRU GÊM RAGBROFOL CWPAN Y BYD FENYWOD. v BOSNIA & HERZEGOVINA

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Adviceguide Advice that makes a difference

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Transcription:

Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April 2016 Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300 111 2123 Tŷ Silyn, Penygroes Caernarfon LL54 6LY Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala LL23 7SP 54 Stryd y Dyffryn Dinbych LL16 3BW 33-35 Stryd Fawr Llangefni LL77 7NA

CYNNWYS / CONTENTS Cynnwys a Croeso Contents and Welcome Cystadleuaeth Garddio Gardening Competition Arolwg Cyflwr Eiddo Stock Condition Survey 2 3 4 5 Gair o Groeso Croeso i r rhifyn diweddaraf o Calon, gobeithio y byddwch yn gweld y cynnwys yn ddiddorol a ddefnyddiol. Word of Welcome Welcome to the latest edition of Calon, I hope that you find it to be an interesting and informative read. Pwynt Teulu Cymru Family Point Wales Diddordeb mewn bod yn gyfranddaliwr? Interested in becoming a shareholder? Diwrnod Pobl Hŷn Older People s Day Are you eligible to save up to 250 on your water bill? Ydych chi'n gymwys i arbed hyd at 250 ar eich bil dŵr? Camau i Gyflogaeth Steps to Employment Rhoi Microsglodyn ar eich ci Get your dog microchipped Calendr 2017 Calendar Tai â chefnogaeth arloesol i Harlech Innovative supported housing for Harlech Rali Cartrefi i Gymru Homes for Wales Rally 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 Mae r rhifyn yma yn cynnwys gwybodaeth am ein grant Camau i Gyflogaeth newydd. Pwrpas y grant yw cynnig cymorth i denantiaid sydd eisiau paratoi eu hunain ar gyfer cyflogaeth, ond yn cael trafferth gyda chostau tuag at wneud hyn. Hoffwn eich annog i ddarllen y gwybodaeth am sut y gallwn helpu unigolion sy n chwilio am waith, ac ymgeisio am grant os ydych yn meddwl y byddech yn manteisio ohono. Cofiwch, eich cylchlythyr chi ydi Calon. Oes ganddo chi awgrymiadau ar gyfer erthyglau i r dyfodol, neu fyddech chi yn hoffi bod yn rhan o r tîm sy n golygu r cylchgrawn? Cysylltwch â ni os fuasech chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! This issue includes information about our new Steps to Employment grant. The purpose of the grant is to offer support to tenants who want to prepare themselves towards employment but are having difficulty with costs towards doing this. The aim is for Grŵp Cynefin to be able to help as many tenants as possible towards employment. If this grant can help you or any other tenant you know, please contact us for an application form. Remember, Calon is your newsletter. Do you have suggestions for future articles, or would you like to part of the team that edits the magazine? Please contact us if you would, we d love to hear from you! Cyfarfod y Tîm: Y Tîm Lles Meet the Team: The Welfare Team Gwobrau Teimlo r Gwres 2016 Feel The Heat Awards 2016 Tudalen Plant Childrens Page 20 21 22 23 24 Walis George Rydym yn gallu darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill yn cynnwys print mawr, tâp sain a Braille. Cysylltwch â ni am gymorth pellach. Walis George We are able to provide information in other formats including large print, audio tape and Braille. Please contact us for further assistance. 2

Cystadleuaeth Garddio Gyda r haf ar y gorwel mae n amser unwaith eto i fynd allan a gwneud ychydig o waith garddio. Beth am gael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled yma drwy gystadlu yn ein cystadleuaeth garddio? Mae gwobrau ar gael i r enillwyr: Dyma r 5 categori: YR ARDD LYSIAU / RHANDIR ORAU Os ydych chi n cael hwylar dyfu eich llysiau eich hun, dyma ch cyfle i gael clod am ffrwyth eich llafur! YR ARDD ORAU I unrhyw denant sydd â gardd breifat. GARDD GYMUNEDOL ORAU Yn agored i grŵ o drigolion sy'n cynnal gardd gymunedol er budd pawb. POTIAU PATIO/FFENESTRI A BASGEDI Mae r categori hwn ar gyfer y rhai ohonoch sydd heb ardd ond wedi addurno y tu allan i ch cartref gyda basgedi crog, tybiau blodau a.y.b. gan wneud y mwyaf o r ychydig le sydd ar gael. GARDDWR IFANC Blodyn Haul mwyaf i blant ysgol cynradd. Byddwn yn cysylltu gyda chi i adael chi wybod pryd bydd y beirniaid yn dod o amgylch i feirniadu a byddwn yn cyhoeddi r ennillwyr yn fuan wedyn. I ymgeisio, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gystadlu sydd ar gael gan y Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122 neu fe allwch lawr lwytho ffurflen oddi ar wefan Grŵp Cynefin. Gardening Competition As the summer approaches it will be time again to start mowing the lawns and watering the flower beds why not get recognition for all this hard work and enter our gardening competition? Prizes are available for winners. These are the 5 categories: BEST VEGETABLE PATCH / ALLOTMENT If your vegetable patch / allotment is growing the seeds of success and you are enjoying the fruits of labour, this is your chance to blossom! BEST KEPT GARDEN For anyone with a private garden no matter how big or small. BEST KEPT ESTATE Do you feel your estate deserves some recognition for all the hard work you all put into your gardens? POTS AND BASKETS This category if for anyone who doesn t have a garden but has decorated the outside of their flat with hanging baskets, flower tubs etc. and making the most of what little space you have. YOUNG GARDENER Largest Sunflower competition for primary school children. We will notify you as to when the judges will be out and about on the estates and the winners will be announced soon after. To enter you will need to complete an entry form which can be obtained from the Community Initiatives Team on 0300 111 2122, or downloaded from the Grŵp Cynefin website. Dyddiad cau: 3 Mehefin 2016 / Closing date: June 3rd 2016 36

Arolwg Cyflwr Eiddo Fel rhan o'n strategaeth rheoli asedau bwriadwn ymgymryd ag arolwg cyflwr o bob eiddo dros gyfnod o amser, bob 5 mlynedd. Mae hyn yn ein galluogi i wella r wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd am gyflwr yr eiddo ac yn ein cynorthwyo i flaenoriaethu gwaith adnewyddu a gwelliannau i r dyfodol. Hyd yma mae cyfanswm o 564 o arolygon wedi ei cwbwlhau. Rydym yn ddiolchgar i r tenantiaid sydd eisoes wedi cysylltu a ni i drefnu arolwg yn dilyn derbyn ein llythyr. Pan fyddwch yn derbyn llythyr arolwg cyflwr stoc, buasem yn ddiolchgar petaech yn cysylltu i drefnu ymweliad. Bydd Swyddog Cynnal a Chadw yn cynnal arolwg o ch cartref ac yn cofnodi cyflwr yr adeilad ar ipad. Bydd angen mynediad i bob ystafell, yn cynnwys y groglofft a phob ardal allanol a byddwn yn tynnu lluniau o r eiddo ar gyfer ein cofnodion. Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 2 i 3 awr. Oherwydd y nifer o arolygon sy'n cael eu cynnal, ni fyddwn yn rhoi adborth i chi ar ôl yr arolwg. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw welliannau sydd ei angen i ch cartref fel rhan o'n rhaglenni i'r dyfodol. 4

Stock Condition Survey As part of our asset management strategy we plan to undertake a condition survey of every property over a period of time, every 5 years. This is to improve the information we currently hold on our properties and to help us prioritise future renovations and improvement works. To date, a total of 564 surveys have been conducted. We would like to thank the tenants who have already contacted us to arrange a survey following receiving our letter. When you receive the stock condition survey letter, we would be grateful if you could contact us to arrange a visit. During the survey a Maintenance Officer will be surveying your home and recording the condition of the building on an ipad. Access will be required to all rooms, including the loft and all external areas and photos will be taken for our records. The survey will take approximately 2 to 3 hours. Due to the volume of surveys being undertaken, we will not be providing you with feedback after the survey and you will be advised of any improvement works required to your home as part of our future programmes. 5

Peidiwch â dioddef eich hun, gallem eich cyfeirio at y bobl gywir. Don t struggle on your own, we can get you to the people you need. 07860 052 905 0300 222 57 57 07860 052 905 0300 222 57 57 6

7 Calon Diddordeb mewn bod yn gyfranddaliwr o r gymdeithas? Pam ymuno? Interested in becoming a shareholder of the association? Why join? Mae Grŵp Cynefin yn atebol i r gymuned leol drwy aelodau r Gymdeithas. Bydd Cyfarfod Blynyddol o r aelodau yn dewis rhai i wasanaethu ar y Bwrdd Rheoli. Rydym yn chwilio am unigolion a sefydliadau i ymuno â ni fel ein bod yn fwy atebol i r cymunedau lleol. PWY ALL YMUNO? Tenantiaid Unigolion Grwpiau, mudiadau a sefydliadau lleol megis Cynghorau Cymuned a Thref BETH YW R GOST? Am dâl aelodaeth o 1.00 yn unig gall unigolion a mudiadau lleol ymuno â Grŵp Cynefin. Bydd pob cyfranddaliwr yn: derbyn copi o Adroddiad Blynyddol a Rheolau Cofrestredig y Gymdeithas a gwahoddiad i'r Cyfarfod Blynyddol neu Gyfarfod Cyffredinol gweithredu, bob amser, er budd y gymdeithas ac er budd y gymuned, fel gwarcheidwaid amcanion y gymdeithas. SUT MAE YMUNO? Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â: Eleri Lloyd Jones Uwch Swyddog Llywodraethu eleri.jones@grwpcynefin.org 0300 111 2122 Grŵp Cynefin is accountable to the local community through the Association s members. An Annual General Meeting of the members will elect those who serve on the Board of Management. We are looking for individuals and organisations to join us so that we are more accountable to our local community. WHO CAN JOIN? Tenants Individuals Groups and local organisations such as Community and Town Councils WHAT IS THE COST? For just 1.00 membership fee, individuals and local organisations can join Grŵp Cynefin. All shareholders shall: receive a copy of the Association s Annual Report and Registered Rules and an invitation to the Annual Meeting or a General Meeting act, at all times, in the interest of the association and for the benefit of the community, as guardians of the objectives of the association. HOW TO JOIN? For more information and an application form for membership, please contact: Eleri Lloyd Jones Senior Governance Officer eleri.jones@grwpcynefin.org 0300 111 2122

Diwrnod Pobl Hŷn - 2/3/16 Roedd yn braf gweld 70 o denantiaid yn bresennol yn Diwrnod Pobl Hŷn cyntaf Grŵp Cynefin. Cafwyd diwrnod llawn hwyl gyda pawb yn cael y cyfle i fwynhau amryw o weithgareddau drwy gydol y diwrnod megis gweithdy ymarfer corff ysgafn, sesiwn cynhwysiad digidol, gweithdy gosod blodau a sesiwn crefftau. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn gyda phawb wedi mwynhau cymryd rhan. Yn y bore cafwyd cyflwyniad difyr iawn gan Cefyn Burgess, un o artistiaid tecstiliau mwyaf adnabyddus Cymru a dangoswyd llawer iawn oi waith tecstiliau a oedd yn werth eu gweld! Yn ystod y prynhawn cafwyd cyflwyniad gan Age Cymru Gwynedd a Môn a gofynnwyd am barn ein tenantiaid ar faterion a fydd yn bwydo fewn in Strategaeth Pobl Hŷn sydd wrthin cael ei lunio. Roedd cyfle i bawb grwydro o amgylch stondinau a siarad gyda gwahanol asiantaethau ac roedd hyn yn ffordd gwych i bawb dderbyn gwybodaeth â all fod yn fanteisiol iddyn nhw. Hefyd roedd tenantiaid yn medru nodi eu diddordeb mewn derbyn hyfforddiant digidol ac i gadw mewn cysylltiad digidol gyda thenantiaid eraill. Hoffwn longyfarch Mrs Barbara Hughes o Llangollen eto â enillodd y gystadleuaeth ar y diwrnod ar gwobr o ipad. Byddwn yn cynnig hyfforddiant digidol i Mrs Hughes iw ddefnyddior gan obeithio y bydd yn tyfu mewn hyder ac y bydd o fudd mawr iddi. 8

Older People s Day - 2/3/16 It was delightful seeing 70 tenants present at Grŵp Cynefin s first Older People s Day. A fun filled day was had with everyone getting the chance to enjoy several activities throughout the day such as a light excercise session, digital inclusion session, flower arranging workshop and a craft session. The feedback was very affirmative with everyone enjoying taking part. During the morning we received a very interesting presentation by Cefyn Burgess, one of Wales most recognisable textiles artists and he displayed many examples of his work which were very impressive! In the afternoon Age Cymru Gwynedd and Anglesey gave a presentation and tenants were also consulted with on different matters that will help to shape the Older People s Strategy which is currently being drawn up. There was a chance for everyone to wonder around the stalls and speak to the different agencies and this was a fantastic way for everyone to receive information that could be beneficial to them. Tenants were also encouraged to note their interest in receiving digital training and if they would like to keep in touch digitally with other tenants. Congratulations to Mrs Barbara Hughes from Llangollen who won the quiz on the day and the prize of an ipad. We will be offering digital training to Mrs Hughes to use it and follow her journey while hoping she will grow in confidence while using the device and it will be of great benefit to her. 9

Ydych chi'n gymwys i arbed hyd at 250 ar eich bil dŵr? Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn dweud y gallai miloedd o denantiaid fod yngymwys Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn dweud y gallai miloedd o denantiaid fod yngymwys Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn amcangyfrif y gallai llawer o bobl sy'n byw mewn cartrefi rhent fod yngymwys i wneud arbedion mawr trwy newid i'w dariff HelpU. Mae'r tariff ar gael i aelwydydd ag incwm blynyddol o 15,000 neu lai. Dywedodd Pennaeth Fforddadwyedd Dŵr Cymru, Sarah Falder, Rydyn ni'n gwybod y gallai nifer fawr o'n cwsmeriaid sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai elwa ar filiau is trwy ymuno â'n cynllun HelpU. Y cyfan sydd angen i gwsmeriaid sy'n meddwleu bod yn gymwys ei wneud yw cysylltu â ni, a byddwn ni'n darparu'r holl gyngor sydd ei hangen arnynt. Osyw hi'n rhatach newid - ni fydd yn gwneud yr holl waith - mae hi mor syml â hynny. Bydd hyn yn haneru biliau dŵr a charthffosiaeth ambell un neu hyd ynoed yn well na hynny. wneud ynsiŵr bod y cwsmeriaid hynny sy'n ei chael hi'n wirioneddol anodd talu, yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael iddynt. Gall HelpU fod o gymorth mawr i lawer o bobl - ac rydyn ni'n gofyn i bobl ledu'r gair am y tariff hefyd. Felly os oes gennych berthynas neu ffrind a allai fanteisio ar y peth, cofiwch sôn wrthynt. Mae hi'n broses syml iawn, a'r cyfan y mae angen i'r holl gwsmeriaid ei wneud yw mynd i www.dwrcymru.com neu roi galwad i niar 0800052 0145, acfe wnawn ni'r gweddill. Mae cynlluniau eraill gan y cwmni hefyd, ac mae'n annog cwsmeriaid i fynd i www.dwrcymru.com i gael rhagor o fanylion. Fel cwmni di-elw, mae ein helw yn cael ei ailfuddsoddi erbudd ein cwsmeriaid, ac rydyn niam 10

Are you eligible to save up to 250 on your water bill? Dŵr Cymru Welsh Water says thousands of tenants could qualify Dŵr Cymru Welsh Water says thousands of tenants could qualify Dŵr Cymru Welsh Water estimates that thousands of people living in rented homes could bein line for big savings by switching to its HelpU tariff. It s available to customers with annual household incomes of no more than 15,000. Welsh Water s Head of Affordability, Sarah Falder said, We know that a large number of our customers living in housing association homes could be benefitting from lower bills by joining our HelpU scheme. Customers who think they qualify only have to get in touch and we ll give them all the advice they need. If it s cheaper to switch - we ll do all the work - it s that simple. For some it will cut water and sewerage bills by more than half. sure that those customers who genuinely struggle to pay get the help that is available to them. HelpU can be a great help to many - and we re also asking people to spread the word about the tariff. So if you have a friend or relative you think could benefit, please make a point of mentioning it to them. It s a very simple process and all customers need to do is log on to www.dwrcymru.com or call us on 0800 052 0145 and we ll do the rest. The company also has other schemes available and urges customers to visit www.dwrcymru.com for more information. As a not for profit company, our profits are reinvested for the benefit of customers and we want to make 11

Gwneud gwahaniaeth i ch dyfodol (amodau) Mwyafswm 300 12

YOUR 300 maximum 13

14

Calendr 2017 Calendar Bydd Grŵp Cynefin yn gyrru calendr allan in holl denantiaid ar gyfer 2017. Ar y calendr hwn bydd gwybodaeth berthnasol a manylion cyswllt i chi, yn ogystal â dyddiadau pwysig iw cofio. Rydym eisiau cynnwys lluniau o olygfeydd, tirluniau ac adeiladau Gogledd Cymru a Gogledd Powys, os oes ganddo chi unrhyw luniau y byddech yn hoffi cynnwys yn y calendr, gofynnwn i chi eu gyrru i ni erbyn y 20fed o Fai. Bydd y Panel Cyhoeddiadau (syn cynnwys tenantiaid a staff) yn dewis y 12 gorau i gynnwys yn y Calendr. Gallwch yrru eich lluniau trwy ebost i post@grwpcynefin.org (rhowch lluniau Calendr fel pwnc os gwelwch yn dda), eu gyrru trwy neges ar ein tudalen Facebook neu Trydar, neu cysylltwch â r Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122. Grŵp Cynefin will be sending out a calendar to all tenants for 2017. On the calendar there will be relevant information and contact details for you, as well as important dates to remember. We want to include photos of scenery, landscapes and landmarks from across North Wales and North Powys, and if you have any photos that you would like to be included in the Calendar, please send them to us by the 20th of May. The Publication Panel (which includes tenants and staff) will then choose the best 12 images to be included in the Calendar. You can email your photos to post@grwpcynefin.org (please put Calendar images in the subject line), send them by direct message to our Facebook or Twitter page, or call the Community Initiatives Team on 0300 111 2122. 15

Tai â chefnogaeth arloesol i Harlech Mae cynllun tai â chefnogaeth newydd yn Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion ag anableddau dysgu sy'n darganfod eu hannibyniaeth am y tro cyntaf erioed. Mae cynllun Pant yr Eithin, Harlech, a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin ar hen safle cartref gofal, yn helpu tenantiaid fyw n annibynnol gyda chefnogaeth hyd braich wrth law. Datblygwyd chwe byngalo un ystafell wely, a adeiladwyd i ofynion 'Cartrefi am Oes' wedi eu haddasu'n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Mae byngalo dwy ystafell wely ar gyfer dau denant sydd ag anghenion mwy cymhleth hefyd ar y safle, gyda staff yn bresennol 24 awr. Mae'r un staff hefyd yn gyfrifol am gynnig cymorth i drigolion y 6 byngalo sengl. Mae hwn yn gysyniad arloesol, ac rydym yn hynod falch o weld tenantiaid yn ymgartrefu'n dda yn eu cartrefi a gynlluniwyd yn arbennig ar eu cyfer. Rydym wrth ein bodd i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu'r cynllun yma n Harlech, eglura Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin. Yn cydweithio â Grŵp Cynefin ar y safle 13 eiddo y mae Cyngor Gwynedd, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd a Chyngor Cymuned Harlech. Yn ychwanegol at y saith byngalo pwrpasol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, mae hefyd chwe chartref fforddiadwy newydd ar gyfer teuluoedd lleol. Dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts sy'n cynrychioli trigolion Harlech ar Gyngor Gwynedd: "Mae hwn yn fuddsoddiad gwych i Harlech ac mae wedi mynd i'r afael ag anghenion tai pobl ym Meirionnydd sydd ag anableddau dysgu ac sydd angen gwahanol fathau o gymorth. Mae hefyd yn gyfle gwych i bobl leol gael gafael ar dai fforddiadwy o safon uchel yn eu hardal wledig. 16

Innovative supported housing for Harlech A new supported housing scheme in Harlech is making a real difference to individuals with learning disabilities who are finding their independence for the very first time. Pant yr Eithin, Harlech, a new supported housing scheme developed by Grŵp Cynefin on a former care home site, is helping tenants live independently with arm s length support at hand. The development of 6 one bedroom bungalows, built to the requirements of Lifetime Homes are specially adapted for adults with a learning disability. There is also a two bedroom bungalow for two tenants with more complex needs to share, with staff present 24 hours. The same staff are also responsible for offering support to the residents of the 6 single bungalows. This is an innovative concept, and we re really pleased to see tenants are settling in well into their specially designed homes. We re delighted to be at the fore of developing this scheme in Harlech, explains Walis George, Chief Executive of Grŵp Cynefin. Working in collaboration with Grŵp Cynefin on the 13 property site are Gwynedd Council, the Gwynedd Rural Housing Enabler and Harlech Community Council. In addition to the seven purpose-built homes for adults with a learning disability, the new development also provides six affordable homes for local families. Councillor Caerwyn Roberts who represents Harlech residents on Gwynedd Council said: This is a fantastic investment for Harlech and addresses the housing needs of people in Meirionnydd with a learning disability that need different kinds of support. In addition it s a great opportunity for local people to access high standard affordable homes in this rural area as well. 17

Ar Dydd Gwener y 4ydd o Fawrth 2016 aeth rhai o denantiaid, staff ac aelodau Bwrdd Grŵp Cynefin i Gaerdydd i fynychu rali Cartrefi i Gymru. Mae ymgyrch Cartrefi i Gymru yn credu fod gan pawb yr hawl i gartref fforddiadwy, ac yn gofyn i r Llywodraeth nesaf gyhoeddi cynllun uchelgeisol i ddod a r argyfwng tai i ben yng Nghymru. Dyma hanes dau o n tenantiaid a fuodd yn y rali: Chloe Rali Cartrefi i Gymru oedd y rali cyntaf i mi fynychu, roeddwn yn edrych ymlaen! Ar ôl cyrraedd Caerdydd, ddaru ni ymgynnull hefo pobl eraill y tu allan i r Senedd, tra n aros i r rali gychwyn cefais gyfle i gael hun lun hefo ambell i fascot o gymdeithasau tai eraill, ac fe wnes i siarad ar gamera i ddweud pam fy mod i n cymryd rhan yn y rali. Roeddwn yn nerfus iawn, doeddwn i erioed wedi gwneud y math yma o beth o r blaen! Pan ddaru r rali gychwyn, oedden ni gyd yn sefyll mewn rhes yn barod i gychwyn ar ein gorymdaith o tu allan i r senedd yn Mae Caerdydd i ganol y Ddinas. Roeddwn wedi dylunio placard fy hun. Yng nghanol y ddinas, cawsom glywed straeon personol am yr argyfwng tai, oedd yn cael eu rhannu ar y sgrin fawr yn y sgwâr. Roedd rhai o r straeon yn drist iawn. Wrth edrych yn ôl ar y rali, dwi wedi dysgu fod angen mwy o dai yng Nghymru i daclo digartrefedd. Dwi n meddwl fod angen mwy o gartrefi fforddiadwy hefyd, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc. Roedd hi n wych cael cyfle i fynegi fy marn am y sefyllfa tai yng Nghymru. Dwi n falch mod i wedi cymryd rhan yn y rali, ac fe hoffwn gael cyfle i wneud eto. Roman Fuon ni n teithio mewn car am awr, cyn dal bws a teithio am 4 awr arall i gyrraedd Caerdydd. Roedd hi n tua 1:00 pan gyrhaeddon ni Gaerdydd, a cherdded i r Bae, lle mae adeilad y Senedd. Dyna lle roedd yr orymdaith yn cychwyn, fuon ni n siarad gyda r trefnwyr, roedd rhai wedi gwisgo fyny ac yn gwisgo stilts a chwarae r drymiau. Cawsom glywed ambell i araith cyn cychwyn ar ein gorymdaith. Roedd rhain yn cynnwys myfyriwr oedd wedi bod yn ddigartref ar ddechrau ei gwrs coleg, a nyrs o r GIG oedd yn siarad am effaith digartrefedd ar iechyd. Ddaru ni orymdeithio am filltir, yn cario arwyddion yn gofyn am adeiladu mwy o dai yng Nghymru. Yn ystod yr orymdaith, roedd pobl yn tynnu lluniau, a ceir yn canu eu cyrn wrth basio i n cefnogi. Doeddwn i erioed wedi bod i Caerdydd, roedd hi n braf cael gweld ein prifddinas, Stadiwm y Principality a Chastell Caerdydd. Am 5:00 ddaru ni fynd yn ôl ar y bws i deithio i r Gogledd, roeddwn yn ôl adref erbyn 10:00. Roeddwn wedi blino, ond wedi mwynhau fy niwrnod yn cael cyfle i ddweud fy marn a chyfarfod pobl newydd. 18

On Friday the 4th of March 2016 some of Grŵp Cynefin s tenants, staff and Board Members attended the Homes for Wales Rally in Cardiff. The Homes for Wales campaign believes everyone has a right to a decent affordable home, and asks that the next Welsh Government publishes an ambitious plan to end the housing crisis in Wales. Two of our tenants give their perspective on the day: Chloe The Homes for Wales rally was the first time I d attended a rally - I was really excited! When we all arrived we gathered with other people taking part at the Senedd, during the wait I had an opportunity to take selfies with mascots from different organisations. I even did a talk on a box to say why I was taking part in the march. I was really nervous and had not done anything like this. When the rally started we lined up ready to begin our march from the Senedd in Cardiff Bay to Cardiff city centre. I had designed my own rally placard. At the city centre, we got to hear personal stories about the housing crisis, that was shared on the big screen, some of the stories were really sad. Looking back at the march it has taught me that Wales needs more homes for the homeless. I also think we need more affordable homes especially for young people. It was cool to have an opportunity voice my opinion on housing in Wales. I felt very proud of myself for taking part in the rally and would like to do it again. Roman We travelled by car for an hour, before catching a bus and travelling for another four hours to Cardiff. It was about 1:00 when we arrived in Cardiff, and walked towards Cardiff Bay, where the Senedd building is. This was where the march began, and we spoke to some organisers, two of which were dressed in fancy dress, one on stilts and playing the drums. We listened to some individual speeches before embarking on our march. These included a student who had been made homeless when beginning a course of study and a nurse from the NHS who spoke of the health effects of being homeless. We marched for one mile, carrying placards stating our call for extra homes to be built in Wales. During the march, people were talking photographs, and cars were honking their horns to show their support. I d never been to Cardiff, so it was nice to visit the capital city, and to see the Principality Stadium and Cardiff Castle. At around 5:00 we boarded the bus back home and got back home at around 10pm. I was very tired, but had enjoyed my day voicing my opinion and meeting new people. 19

Cyfarfod y Tîm: Y Tîm Lles Mae Tîm Lles Grŵp Cynefin yna i gynnig cymorth ag arweiniad i denantiaid sydd yn cael hi n anodd i ymdopi gydar newidiadau sydd yn rhan o gynllun ddiwygio lles Llywodraeth y D.U. Maer tîm yn gallu eich helpu hefo ceisiadau am fudddaliadau fel Credyd Cynhwysol (UC), Credydau Treth a budddaliadau anabledd ag salwch megis Taliadau Annibynnol Personol (PIP) neu Lwfans Byw ir Anabl (DLA). Yn ogystal â delio hefo ceisiadau, gall y tîm eich helpu i ddelio hefo sefyllfaoedd cymhleth megis gordaliad o fudd-dal, sancsiynau ac apelio. Astudiaeth Achos Mae Dafydd yn byw mewn tŷ 2 lofft ag yn ddi-waith. Yn ddiweddar ddaru Dafydd dderbyn sancsiwn am fethu apwyntiad gyda i Job Coach yn y Canolfan Waith. Pan ddaru Dafydd ffonio ei Swyddog Tai i egluro na fyddain gallu talu ei ran or rhent oherwydd y sancsiwn, cyfeiriwyd Dafydd ir Tîm Lles er mwyn edrych ar ffyrdd o ddatrys y sefyllfa. Aeth y Swyddog Lles i gartref Dafydd iw gyfarfod a trafod ei sefyllfa. Bu i Dafydd egluro ei fod wedi methu'r apwyntiad yn y Canolfan Waith oherwydd salwch. Esboniodd Dafydd ei fod wedi ceisio am Employment Support Allowance (ESA), ond nid oedd ei gais yn llwyddiannus yn dilyn asesiad meddygol. Oherwydd fod Dafydd yn dioddef o Neuropathy, llid y cymalau a gyda chyflwr ar y galon, roedd y Swyddog Lles yn awgrymu ei bod yn ail geisio am ESA, a gwneud cais am PIP, ac roedd y Swyddog yn gallu helpu Dafydd i gwblhaur ceisiadau. Oherwydd gwaith y Swyddog Lles, mae Dafydd yn derbyn 142.11 ychwanegol pob wythnos. Cyfarfod y Tîm: Darren Thomas, Uwch Swyddog Lles. Mae Darren yn rheolir Tîm Lles ag yn gweithio yn agos gydar Adran Waith a Phensiynau a Cynghorau Lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig cymorth effeithiol i denantiaid mewn cyfnod o newidiadau mawr ir drefn budddaliadau. Cysylltwch â Darren ar 0300 111 2122 neu Darren.thomas@grwpcynefin.org Verity Smith, Swyddog Lles Penygroes. Mae Verity yn gwasanaethu tenantiaid ardaloedd Gwynedd a Môn. Mae Verity wedi gweithio fel Swyddog Cefnogi Tenantiad i Grwp Cynefin a Swyddog Cynghori i Shelter Cymru. Cysylltwch a Verity ar 0300 111 2122 neu verity.smith@grwpcynefin.org. Elin Jones, Swyddog Lles Dinbych. Mae Elin yn gwasanaethu tenantiaid yn ardaloedd De Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Sir Wrecsam a Chonwy. Mae Elin gyda phrofiad helaeth o ddarparu chyngor a cefnogaeth i hawlwyr budd-daliadau lles, a wedi bod yn gweithio gyda Macmillan ag adran budd-daliadau Cyngor Gwynedd. Cysylltwch ag Elin ar 0300 111 2122 neu elin.jones@grwpcynefin.org 20

Meet the team: The Welfare Team The Welfare Team at Grŵp Cynefin are here to offer advice and assistance to tenants who are finding it difficult to deal with the changes to welfare and benefits that are part of the UK Governments welfare reform programme. The team can help you with applications for benefits such as Universal Credit (UC), Tax Credits and disability and illness benefits such as Personal Independence Payments (PIP) or the Disability Living Allowance (DLA). In addition to assistance with applications, the team can also help you deal with more complicated situations such as overpayments, sanctions and appeals. Case Study Dafydd lives in a two bedroom house and is unemployed. Recently Dafydd received a sanction for missing an appointment with his Job Coach at the local Job Centre. When Dafydd phoned his Housing Officer to explain that he would not be able to pay his element of the rent because of the sanction, Dafydd was referred to the Welfare Team to see if they could help resolve the situation. The Welfare Officer visited Dafydd at his home to discuss the situation. Dafydd explained that he had missed his appointment at the Job Centre due to illness. He also explained that he had applied for Employment Support Allowance (ESA), but that his application was unsuccessful following a medical assessment. Because Dafydd suffers from Neuropathy, arthritis and has a heart condition, the Welfare Officer suggested that he should re-apply for ESA, and also make an application for PIP, and the Officer was able to help Dafydd to complete the applications. Due to the work of the Welfare Officer, Dafydd is now receiving an additional 142.11 per week. Meet the Team: Darren Thomas, Senior Welfare Officer Darren manages the Welfare Team and Works closely with the Department of Work and Pensions and Local Authorities to ensure that we can provide effective support to tenants in a period of significant change to the welfare system. Contact Darren on 0300 111 2122 or darren.thomas@grwpcynefin.org Verity Smith, Welfare Officer Verity works with tenants in Gwynedd and Môn. Verity has previously worked as a Tenant Support Officer for Grŵp Cynefin and as an Advisor at Shelter Cymru. Contact Verity on 0300 111 2122 or verity.smith@grwpcynefin.org Elin Jones, Welfare Officer Elin works with tenants in South Gwynedd, Denbighshire, Flintshire, Wrexham and Conwy counties. Elin has extensive experience of providing advice and support for benefit claimants, and has worked for Macmillan and in the Benefits Team at Gwynedd Council. Contact Elin on 0300 111 2122 or elin.jones@grwpcynefin.org 21

Wardeiniaid Ynni yn ennill Gwobrau Teimlo r Gwres 2016 Mae r Prosiect Wardeniaid Ynni Cymunedol sy n cael ei redeg gan Grŵp Cynefin wedi ennill Gwobrau Teimlo r Gwres 2016 mewn cystadleuaeth gref yn erbyn cyrff eraill ar draws Cymru i gipio r wobr bwysig. Mae r Gwobrau, sy n cael eu rhedeg gan yr elusen tlodi tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) mewn partneriaeth gydag SSE SWALEC yn cydnabod ac yn arddangos prosiectau sydd yn cefnogi ymdrechion lleol i hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy. Fel enillwyr y gwobrau derbyniodd Grwp Cynefin 2000 a ddefnyddir i ddatblygu r prosiect ymhellach. Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru: Roedd prosiect Grŵp Cynefin yn sefyll allan fel menter sydd yn dangos sut y gall delio gyda thlodi tanwydd greu manteision ehangach i r gymuned leol trwy well rhagolygon cyflogaeth a lleihau allyriadau carbon. Dywedodd Ieuan Davies, Swyddog Cyflogaeth a Hyfforddiant Grŵp Cynefin: Mae r Wardeniaid Ynni Cymunedol wedi helpu dros 1100 o drigolion yng Ngogledd Cymru i ddod yn fwy ynni effeithlon yn eu cartrefi ac arbed arian oherwydd hynny. Mae mwyafrif llethol y rhai sydd wedi derbyn hyfforddiant wedi cael cyflogaeth neu wedi symud i gfleoedd hyfforddi eraill. Hoffwn ddiolch i r holl bartneriaid yn y prosiect am eu cefnogaeth parhaus. Ydych chi'n meddwl y byddech yn elwa o gyngor ynni? Hoffech chi gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael cymorth gyda'ch biliau ynni? Cysylltwch â'r Tîm Lles ar 0300 111 2122. 22

Energy Wardens win Feel the Heat Awards 2016 The Community Energy Wardens Project run by Grŵp Cynefin beat off stiff competition from other organisations across Wales to take the coveted Feel the Heat Awards. The Awards, run by fuel poverty charity National Energy Action and supported by UK energy company SSE SWALEC, recognise and showcase projects which are actively championing local efforts to promote affordable warmth. As winners of the awards Grwp Cynefin were awarded 2000 which will be used to further develop the project that helps residents in North Wales save money on their energy bills as well as providing training and employment opportunities for local people. Carole Morgan-Jones, Director, NEA Cymru commented: The project stood out as an initiative that shows how tackling fuel poverty can bring wider benefits to the local community through improved employment prospects and reducing carbon emissions. Ieuan Davies, Employment and Training Officer at Grŵp Cynefin said: The Community Energy Wardens have helped over 1100 residents in North Wales become more energy efficient in their home and save money as a result. The vast majority of those trained have since gained employment or moved on to other training opportunities. Do you think you would benefit from energy advice? Would you like to find out if you re eligible for support with your energy bills? Please contact the Welfare Team on 0300 111 2122. SUDOKU 23

Tudalen Plant / Childrens Page Hoffech chi weld eich llun chi yng nghalendr 2017 Grŵp Cynefin Rydym yn edrych am lun lliwgar o dirwedd neu ddirnod yng ngogledd Cymru. Ydych chi wedi mynd i weld castell yn ddiweddar? Neu wedi mynd fyny mynydd? Mae r dewis o lun fyny i chi! Neu fe all y llun fod o gwmpas y thema o fis penodol e.e. Nadolig neu r haf. Os hoffech yrru ch llun i ni - gofynnwn yn garedig iddo fod yn faint A4 a gallwch ei yrru i unrhyw un o n swyddfeydd. Byddwn yn gadael i r enillydd wybod cyn gynted â phosib a bydd eich llun yn cael ei gynnwys yn ein calendr nesaf! Want to see your drawing in Grŵp Cynefin s 2017 calendar We are looking for a colorful drawing of a landscape or landmark in north Wales. Have you been to visit a castle recently? Or climbed a mountain? The choice of picture is yours! Or it may be a picture around the theme of a given month e.g. Christmas or summer. If you d like to send us a drawing - we kindly ask for it to be A4 size and you can send to any of our offices. We will notify the winner as soon as possible and your drawing will be included in our next calendar! Pob lwc! Good luck! EBRILL/APRIL RHAGFYR/DECEMBER AWST/AUGUST C H W I L A I R / W O R D S E A R C H Rhowch gynnig ar ddarganfod y 10 enw tref yng ngogledd Cymru yn ein chwilair! Aberdaron Abergele Harlech Bangor Rhuddlan Try to discover the 10 town names in north Wales in our word search! Pwllheli Llangollen Llanrwst Dolgellau Bala R H U D D L A N L M G A D F T S I M E L T O B D O L G E L L A U L E H A R L E C H N R L R S T C P F D E G S A G B A N G O R W O P N E A T M A S N F L E R L L P W L L H E L I W E A O F C T P A E H S A B E R D A R O N D T 24