Gollyngiadau. Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

DŴr cymru COD YMARFER WWM 0151 AR GYFER CWSMERIAID Â MESURYDDION

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Adviceguide Advice that makes a difference

Holiadur Cyn y Diwrnod

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Polisi Cwynion CCAUC. Os hoffech chi gael y ddogfen hon mewn fformat hygyrch arall, e-bostiwch

Roedd yr holl wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir yn Awst 2015.

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

The Life of Freshwater Mussels

Addysg Oxfam

Gwen 30 Medi. Maw 4 Hyd. Maw 18 Hyd. Maw 8 Tach. Maw 22 Tach

offered a place at Cardiff Met

Bondiau Premiwm Dyddiau difyr!

Gwaith Trwsio Ymatebol / Responsive Repairs Work

Esbonio Cymodi Cynnar

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Summer Holiday Programme

The. A rough guide to setting up a new campsite. Produced by and with support from

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

W46 14/11/15-20/11/15

Samplo cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus i w hadolygu

Peripherally Inserted Central Catheter (PICC Line)

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Canllaw Diogelu Data. Swyddfa r Comisiynydd Gwybodaeth [Tachwedd 2009]

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

W49 05/12/15-11/12/15. Pages/Tudalennau: 2 Casualty 3 The Real Mike Phillips 4 Wales in the Eighties 5 Coming Home: Jeremy Bowen 6 Pobol y Cwm

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

Canllaw ymarferol i fyw gyda chanser ac ar ei ôl. Y canllaw canser. The Cancer Guide

YSGOL DYFFRYN CONWY. Arholiadau TGAU Allanol Cyfnodau Arholiadau:

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

Diweddariad Credyd Cynhwysol Ionawr 2018

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Talu costau tai yng Nghymru

Proses ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol

NatWest Ein Polisi Iaith

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwch wedi'ch effeithio gan ganser. Y canllaw canser. canllaw. The cancer guide

W39 22/09/18-28/09/18

Canllaw cyflogwyr i ailddilysu

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

PECYN ADNODDAU I ATHRAWON

Adolygu r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Cymorth yn y Cartref Mae r ddogfen hon yn disgrifio rhai o r ffyrdd y gallwch helpu plentyn dyslecsig yn y cartref. Crynodeb

Pwyllgor Neuadd Bentref Dyffryn Ardudwy A Talybont 22/08/16 Dyffryn and Talybont Village Hall Committee 22/08/16

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

Os hoffech wybod rhagor, ewch i bhf.org.uk

Diweddariad monitro blynyddol ar y farchnad bost. Y flwyddyn ariannol

TWYLL MAWR. Jane Howard Rheolwr-Gyfarwyddwr, Bancio Personol

Canllaw ar gyfer llunio Datganiad o Ddiben. o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

SIOE FRENHINOL CYMRU / ROYAL WELSH SHOW

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

Os byddwch yn colli r rhain, byddwch. Miss these, miss out! Swansea Bay this Easter. Bae Abertawe y Pasg hwn. yn colli r hwyl!

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Pecyn Cyngor ar Ynni i Gartrefi nad ydynt ar y Prif Gyflenwad Nwy

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Products and Services

Perchnogaeth ar dai lesddaliad: prynu eich rhydd-ddaliad neu ymestyn eich les Papur ymgynghori Crynodeb

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Annual report to the Welsh Language Board on implementation of LSB Welsh Language Scheme

Gwneud y Rheilffyrdd yn Hygyrch: Cynorthwyo Teithwyr Hŷn ac Anabl Yn ddilys o 1 Hydref 2016

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

1. Cywair and although I am no expert on antiquities, I am always pleased to meet a standing stone or some ancient circle...

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Technoleg Cerddoriaeth

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Summer Open Meet 2018 Incorporating British Swimming Home Nation Summer Events

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

TGAU Busnes 4. Cyllid

Swim Wales Long Course Championships 2018

Beth amdani? Give it a go! Cystadlaethau i Ddysgwyr Competitions for Welsh learners

October Half Term. Holiday Club Activities.

Wales Rally GB Competition for Schools Further Information & Entry Form

TROSEDDAU CASINEB: YR ACHOS DROS YMESTYN Y TROSEDDAU PRESENNOL

EAS Papur Ymarferol 1 Yn seiliedig ar Bapurau CBAC 2015

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

Calon. Grŵp Cynefin. Cynefin. Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Ebrill/April

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Canllaw Rhieni. Popeth mae angen ichi ei wybod ynghylch taith eich plentyn i r brifysgol neu r goleg. Ewch i ucas.com/parents am ragor o wybodaeth

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

W40 1/10/16 7/10/16. Pages/Tudalennau: Places of interest / Llefydd o ddiddordeb:

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

Dydd Llun 14 Tachwedd 2017 Ystafell 4J, 4ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr 5yh

Transcription:

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl PRE 0068

Dŵr Cymru Welsh Water 2 Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae sicrhau ein bod yn ei ddefnyddio n ddoeth o fudd i bob un ohonom. Rydym yn ymroddedig i sicrhau y defnyddir dŵr yn effeithlon a lleihau gollyngiadau. Mae lleihau faint o ddŵr a gollir, atgyweirio gollyngiadau ar ein prif bibellau a u hatal rhag byrstio n flaenoriaeth fawr i ni. Mae gennym dimau arbenigol sy n gweithio ddydd a nos er mwyn chwilio am ollyngiadau cudd yn ein pibellau tanddaearol. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i leihau faint o ddŵr a gollir drwy ollyngiadau 50%. Fodd bynnag, collir rhywfaint o ddŵr o bibellau cwsmeriaid eu hunain ac, os oes dŵr yn gollwng o bibellau cwsmeriaid a u bod yn defnyddio mesurydd, gallent fod yn talu am ddŵr nad ydynt wedi i ddefnyddio. Mae manteision eraill i atgyweirio gollyngiadau; gall dŵr sy n gollwng o bibellau ddifrodi ffyrdd a sylfeini adeiladau, felly mae n fanteisiol i bawb atal ac atgyweirio gollyngiadau n fuan. Mae defnyddio dŵr yn effeithlon hefyd yn helpu i ddiogelu r amgylchedd a chadw biliau n isel. Os ydych yn gweld neu n amau bod dŵr yn gollwng, rhowch wybod i ni drwy ffonio 0800 052 0130; mae n rhad ac am ddim ac ar agor 24 awr y dydd. Mae r daflen hon i chi os yw eich eiddo n aelwyd neu n safle defnydd cymysg (aelwyd/busnes). Mae n esbonio beth i w wneud os bydd dŵr yn gollwng yn eich eiddo, pwy sy n gyfrifol am ei atgyweirio ac, os oes gennych fesurydd, pryd y gallai fod gennych hawl i lwfans am ddŵr a gollir drwy ollyngiadau.

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl 3 Cyfrifoldeb am bibellau dŵr Ein prif bibellau dŵr a phibellau eraill Fel arfer, ni sy n gyfrifol am yr holl bibellau i ffin y stryd lle mae ein prif bibell ddŵr wedi i gosod. Mae hyn yn cynnwys: Prif bibellau dŵr; Tapiau stop yn y ffordd neu r palmant; Pibellau rhwng y brif bibell a ffin y stryd, a elwir yn bibell gyswllt. Fel arfer, dangosir y rhain ar fapiau o n pibellau y gallwch eu gweld am ddim yn Swyddfeydd Linea, Heol Fortran, Llaneirwg, Caerdydd CF3 0LT. Rydym yn gofalu am ein prif bibellau dŵr a n pibellau cyswllt, gan wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio n rheolaidd. Hefyd, mae gennym raglen helaeth i newid hen bibellau dŵr sydd mewn cyflwr gwael er mwyn lleihau nifer y gollyngiadau ac achosion o bibellau yn byrstio. Mae n bwysig gwybod pa bibellau rydych yn gyfrifol amdanynt a pha rai rydym yn gofalu amdanynt. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich cyfrifoldeb am bibellau, ffoniwch ni ar 0800 052 0130. Tap stop allanol Ffin y stryd Tap stop mewnol Prif bibell ddŵr Pibell gyswllt Pibell gyflenwi breifat Pibellau a gosodion mewnol Ni sy'n berchen arnynt ac yn eu hatgyweirio Rydym yn eu cynnal ac yn atgyweirio gollyngiadau cyn gynted ag y gallwn. Eich pibellau cyflenwi preifat Chi sy n berchen arnynt ond, yn ddarostyngedig i amodau penodol, efallai y byddwn yn cynnig eu hatgyweirio am ddim. Eich pibellau a gosodion mewnol Chi sy'n berchen arnynt ac yn eu hatgyweirio.

Dŵr Cymru Welsh Water 4 Eich cyflenwad dŵr a phibellau mewnol Chi sy n gyfrifol am y canlynol: Eich pibell gyflenwi breifat, sef y bibell sy n cysylltu â n pibell gyswllt ac yn mynd i mewn i ch cartref; Eich holl bibellau a gosodion mewnol. Os ydych yn byw mewn tŷ sy n gryn bellter o n prif bibell ddŵr, mae n debygol y bydd gennych bibell gyflenwi hir iawn. Cofiwch chi sy n gyfrifol am hyd cyfan y bibell gyflenwi o ch tŷ i ymyl y stryd lle mae ein prif bibell wedi i gosod (neu i r brif bibell ei hun os nad yw ein prif bibell wedi i gosod yn y stryd), er ei bod yn bosibl ei bod yn mynd drwy eiddo pobl eraill. Rydym yn argymell eich bod yn cadarnhau bod eich polisi yswiriant aelwyd yn cwmpasu ch holl bibellau a gosodion. PALMANT EIN PRIF BIBELL DDŴR Ein cyfrifoldeb Prif bibell ddŵr Pibell gyswllt Cyfrifoldeb y cwsmer Pibell gyflenwi breifat Pibell gyflenwi breifat a rennir Ffin yr eiddo Tap stop/mesurydd Ffin y stryd

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl 5 Dod o hyd i ollyngiadau Ar ein prif bibellau dŵr a phibellau eraill Mae gennym raglen helaeth 24 awr ar waith i ganfod gollyngiadau ar ein prif bibellau dŵr a phibellau. Rydym hefyd yn dibynnu arnoch i roi gwybod i ni os gwelwch ddŵr yn gollwng ar y ffordd, ar balmant neu unrhyw le arall. Ar eich pibell gyflenwi dŵr a ch pibellau mewnol Wrth chwilio am ollyngiadau, efallai y byddwn yn dod o hyd i ollyngiad ar un o ch pibellau allanol. Os byddwn yn dod o hyd i ollyngiad, byddwn yn dweud wrthych amdano ac efallai y byddwn yn gallu helpu i w atgyweirio er mwyn atal dŵr rhag cael ei wastraffu. Os bydd pwysedd neu lif dŵr is i ch tap oer yn y gegin, os byddwch yn gweld mannau damp neu ddwrlawn yn eich gardd hyd yn oed yn ystod cyfnodau o dywydd sych, os byddwch yn clywed pibellau swnllyd, neu os byddwch yn cael bil mesurydd anarferol o uchel, efallai fod dŵr yn gollwng. Os oes gan eich eiddo fesurydd dŵr, darllenwch y mesurydd yn rheolaidd (os yw n ddiogel gwneud hynny) ac edrychwch am unrhyw gynnydd sylweddol ac annisgwyl yn eich defnydd o ddŵr sy n awgrymu, o bosibl, fod dŵr yn gollwng. Os yw eich mesurydd y tu allan i ch eiddo, gallwch hefyd gynnal prawf syml i chwilio am ollyngiadau drwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn: Diffoddwch y tap stop yn y cartref (fel arfer o dan sinc y gegin) Sicrhewch nad oes tanciau dŵr yn llenwi ac nad oes tapiau n cael eu defnyddio Sicrhewch fod llif y dŵr o dap oer y gegin wedi stopio Darllenwch y mesurydd Gadewch y tap stop ar gau ac yna ei ddarllen eto ym mhen hanner awr. Ni ddylai deial y mesurydd fod wedi symud gan nad ydych wedi bod yn defnyddio dŵr. Os yw wedi symud, mae n bosibl bod dŵr yn gollwng rhwng y mesurydd a r tap stop yn eich tŷ. Os credwch fod gollyngiad ar bibell gyflenwi eich aelwyd, eich pibellau mewnol neu os yw eich mesurydd y tu mewn i ch eiddo, ffoniwch ni ar 0800 052 0130. Byddwn yn trefnu ymweliad ac yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y gallwn ei wneud i ch helpu i atgyweirio r gollyngiad. Mae n bwysig atgyweirio pob gollyngiad cyn gynted ag y bo modd. Cofiwch chi sy n gyfrifol am sicrhau bod y bibell gyflenwi n cael ei chynnal a i chadw a i hatgyweirio os bydd dŵr yn gollwng.

Dŵr Cymru Welsh Water 6 Atgyweirio gollyngiadau Ar ein prif bibellau dŵr a phibellau eraill Rydym yn atgyweirio gollyngiadau ar y prif bibellau dŵr a phibellau eraill sy n eiddo i ni cyn gynted ag y gallwn, gan newid pibellau sydd mewn cyflwr gwael, fel rhan o n rhaglen fuddsoddi barhaus. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i atgyweirio gollyngiadau n gyflym, mae n rhaid i ni sicrhau ein bod bob amser yn gweithio n ddiogel ac efallai y bydd angen i ni gael caniatâd yr Awdurdod Priffyrdd cyn gwneud gwaith cloddio ar lwybr troed neu ffordd. Gallwch fynd i dwrcymru.com 24 awr y dydd i gael gwybod am ddigwyddiadau presennol ac unrhyw beth a all fod yn digwydd yn eich ardal. Ar eich pibellau cyflenwi dŵr Er mai chi sy n gyfrifol am atgyweirio pibell gyflenwi dŵr sy n gollwng, rydym weithiau n cynnig newid eich pibell gyflenwi am ddim fel y gallwn atal dŵr rhag cael ei wastraffu. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw berchennog eiddo preswyl ac eiddo preswyl â phibell gyflenwi gyffredin/a rennir (nid blociau o fflatiau). Mae n cynnwys pibellau cyflenwi allanol sy n gwasanaethu mwy nag un aelwyd ac yn gyffredinol efallai y byddwn yn gallu helpu os bodlonir yr amodau canlynol: Mae r gollyngiad ar eich pibell gyflenwi allanol. Nid yw eich pibell gyflenwi n fwy na 100 metr o hyd a 32mm ar ei thraws. Nid yw r bibell gyflenwi sy n gollwng yn fwy nag 1.35 metr o ddyfnder. Nid yw r gollyngiad o dan unrhyw ffurf ar strwythur neu adeilad. Os na allwn newid y bibell, efallai y byddwn yn gallu ei hatgyweirio yn lle hynny. Mae n bwysig i chi wybod y canlynol: Os na allwn ddod o hyd i r gollyngiad ar ôl ein hail ymweliad, bydd yn rhaid i chi benodi plymer neu gontractiwr o ch dewis i ymchwilio ymhellach. Cynigiwn un bibell newydd neu waith atgyweirio am ddim bob tair blynedd. Mae ein gwaith dan warant am hyd at flwyddyn ac mae n annhebygol o fethu. Os bydd y gwaith atgyweirio n methu, byddwn yn gwneud y gwaith eto yn y rhan fwyaf o achosion. Os bydd y bibell yn gollwng mewn man gwahanol, mae n debygol y byddwn yn argymell eich bod yn newid y bibell ar eich traul eich hun.

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl 7 Os bydd yn rhaid i ni gloddio o dan eich llwybr troed neu ch tramwyfa, byddwn yn ailosod yr wyneb fel ei fod yn ddiogel i chi ei ddefnyddio. Mae n rhaid i chi ddeall na allwn wneud gwaith arbenigol, er enghraifft pafin clytiog. Yn yr achosion hyn, bydd yn rhaid i chi wneud eich trefniadau ei hunan i adfer yr wyneb i w gyflwr gwreiddiol ar eich traul eich hun. Os byddwch yn penderfynu peidio â derbyn ein cynnig i wneud gwaith atgyweirio neu newid pibellau am ddim a ch bod yn gwneud eich trefniadau eich hun, chi fydd yn gyfrifol am dalu r holl gostau. Os byddwch yn trefnu i ch contractiwr eich hun wneud y gwaith, mae n rhaid ei wneud o fewn 28 diwrnod calendr i r dyddiad y gwnaethom gadarnhau bod dŵr yn gollwng. Os na wneir hyn, byddwn yn cyfeirio r achos at ein tîm Cyfreithiol a fydd yn cysylltu â chi i amlinellu eich cyfrifoldebau cyfreithiol a chymryd camau pellach er mwyn ymdrin â r dŵr sy n cael ei wastraffu. Cofiwch gymryd amser i ddarllen yr hysbysiad cyfreithiol ar dudalen 11. Ar osodion y tu mewn i ch cartref Os mai chi yw perchennog yr eiddo, chi sy n gyfrifol am atgyweirio unrhyw ollyngiad neu wastraff o r pibellau neu r gosodion sydd y tu mewn i ch eiddo. Dan Adran 73 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991, mae gwastraffu dŵr yn drosedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw achos bwriadol neu esgeulustod sy n peri i ddŵr a gyflenwir gennym gael ei wastraffu neu ei gamddefnyddio. Os byddwn yn nodi gwastraff dŵr o ch pibellau neu osodion mewnol, byddwn yn rhoi cyngor i chi ar atgyweirio r gollyngiad. Byddwn hefyd yn anfon pecyn gollyngiadau atoch sy n amlinellu eich cyfrifoldebau cyfreithiol ac yn gofyn i chi gwblhau r gwaith atgyweirio o fewn 28 diwrnod calendr. Wrth gwrs, byddai n well gennym petai pob gollyngiad yn cael ei atgyweirio er mwyn osgoi camau cyfreithiol, felly mae n bwysig eich bod yn deall eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel y u hamlinellir ar dudalen 11. Er mwyn dod o hyd i ch contractiwr/ plymer agosaf, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu ag un o r canlynol: WaterSafe Gwefan: watersafe.org.uk Ffôn: 0333 207 9030 Cynllun Plymeriaid Cymeradwy r Diwydiant Dŵr Gwefan: wras.co.uk Ffôn: 01495 248 540

Dŵr Cymru Welsh Water 8 Lwfansau Os nad oes gennych fesurydd dŵr Gan eich bod yn talu tâl blynyddol penodol am yr holl ddŵr a ddefnyddir gennych, nid oes angen i ni addasu eich taliadau ar gyfer dŵr a gaiff ei golli drwy bibell gyflenwi sy n gollwng, gan fod eich bil blynyddol yn parhau i fod yr un peth. Fodd bynnag, mae n bwysig iawn atgyweirio r gollyngiad fel na fydd angen i ni gymryd camau pellach. Os oes gennych fesurydd dŵr Bydd eich biliau n seiliedig ar faint o ddŵr y mae r mesurydd yn ei gofnodi, gan gynnwys unrhyw ddŵr a gaiff ei wastraffu neu ei golli drwy ollyngiadau o ch pibellau. Os mai ni sy n gyfrifol am y gollyngiad, byddwn yn diddymu unrhyw daliadau am y dŵr a gollwyd, yn ogystal ag unrhyw daliadau carthffosiaeth cysylltiedig. Os mai chi sy n gyfrifol am y gollyngiad, byddwn yn rhoi r un lwfans gollyngiad i r sawl sy n talu r bil. Gall fod amodau penodol sy n berthnasol a byddwn yn trafod y rhain â thalwr y bil. Os achoswyd y gollyngiad gan esgeuluster, ni chaiff lwfans ei roi. Gosod mesurydd Pan gaiff mesurydd ei osod am y tro cyntaf, mae n bosibl y caiff gollyngiadau nas canfuwyd eu nodi. Os ceir bod dŵr yn gollwng ar y bibell gyflenwi wrth osod y mesurydd, ac y gellir ei atgyweirio heb waith cloddio ychwanegol, byddwn yn ei atgyweirio ar unwaith. Os na ellir atgyweirio r gollyngiad heb waith cloddio ychwanegol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr opsiynau sydd ar gael i chi. Ni fydd taliadau mesuredig yn dechrau nes i r gollyngiad gael ei atgyweirio. Cywirdeb mesuryddion Caiff ein mesuryddion dŵr eu gweithgynhyrchu a u profi yn unol â manyleb Safon Brydeinig. Fodd bynnag, os ydych yn credu nad yw eich mesurydd dŵr yn gywir, ewch i dwrcymru.com i roi gwybod i ni. Byddwn yn ymchwilio ac yn newid y mesurydd os bydd angen. Yna, caiff y mesurydd newydd ei ddefnyddio i godi tâl arnoch am y dŵr rydych yn ei ddefnyddio o r dyddiad y cafodd ei osod. Byddwn yn trafod addasiadau bil â chi fel y bo n briodol. Gallwn drefnu i gwmni annibynnol brofi eich hen fesurydd a chodir 70 am hyn. Os ceir bod y mesurydd yn anghywir, byddwn yn ad-dalu r gost hon. Fodd bynnag, argymhellwn eich bod yn cyfeirio at ein dogfen Ble mae ch dŵr yn mynd? yn gyntaf.

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl 9 Hawlio lwfansau gollyngiadau Os oes gennych fesurydd dŵr ac os mai chi yw r perchennog/meddiannydd, y landlord neu r tenant sy n talu r bil, byddwch yn gymwys i gael lwfans gollyngiad ar ôl i ch pibell gyflenwi gael ei hatgyweirio neu ei newid, os bodlonir yr amodau canlynol: Caiff ei hatgyweirio o fewn 28 diwrnod calendr i r gollyngiad gael ei gadarnhau. Rydych yn hawlio lwfans o fewn 6 mis i r dyddiad y gwnaed y gwaith atgyweirio. Nid esgeuluster oedd achos y gollyngiad. Ni roddwyd lwfans i chi yn yr un eiddo yn y 3 blynedd diwethaf. Nid ydym wedi cyfeirio r mater at ein tîm Cyfreithiol gan na chafodd y gollyngiad ei atgyweirio o fewn 28 diwrnod calendr. Roedd y dŵr yn gollwng o ch pibell gyflenwi allanol, nid gosodion mewnol. Cymhwysir y lwfans fesul cwsmer fesul eiddo mewn cyfnod o dair blynedd. Mae hyn yn golygu, os rhoddir lwfans i chi yn eich cyfeiriad presennol, nad yw n eich atal rhag hawlio lwfans ar gyfer eich eiddo newydd os byddwch yn symud cartref. Yn yr un modd, os ydym wedi atgyweirio eich pibell gyflenwi neu ei newid a i bod yn gollwng yn ystod cyfnod y warant, byddwn yn rhoi lwfans ychwanegol os byddwch yn cyflwyno hawliad. Os nad ydych yn bodloni r meini prawf uchod i gael lwfans, ond eich bod yn teimlo bod amgylchiadau eithriadol, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried eich hawliad ar ei deilyngdod ei hun. Cyfrifo lwfansau gollyngiadau Os byddwn yn cytuno i roi lwfans i chi, byddwn yn ailasesu eich taliadau dŵr ar sail eich defnydd arferol o ddŵr. Dim ond i gwsmeriaid preswyl y mae hyn yn berthnasol. Os ydych hefyd yn talu taliadau carthffosiaeth a n bod yn addasu eich taliadau dŵr oherwydd gollyngiad, byddwn yn gwneud addasiad tebyg i ch taliadau carthffosiaeth. Os ydym yn cyflenwi eich dŵr a bod cwmni arall yn darparu eich gwasanaethau carthffosiaeth, byddwn yn rhoi gwybod iddo fel y gall gymhwyso lwfans at eich cyfrif carthffosiaeth. Os oes gan eich eiddo ei gyflenwad dŵr a i fesurydd dŵr ei hun, mae cyfrifo lwfans yn syml. Bydd yr addasiad o ch taliadau dŵr a charthffosiaeth yn seiliedig ar gymharu faint o ddŵr a ddefnyddiwyd gennych yn y gorffennol â faint o ddŵr a gofnodwyd gan y mesurydd yn ystod y cyfnod roedd dŵr yn gollwng. Y lwfans a gaiff ei gymhwyso at eich taliadau fydd y gwahaniaeth rhwng y ddau swm. Os nad oes cofnod o ddefnydd blaenorol, caiff addasiad ei wneud yn seiliedig ar y defnydd arferol o ddŵr ar gyfer eiddo preswyl tebyg. Caiff hyn ei gyfrifo n seiliedig ar faint eich eiddo a nifer y meddianwyr. Os oes dŵr yn gollwng o ch pibell gyflenwi sy n cyflenwi dŵr i rannau masnachol a domestig o ch eiddo, er enghraifft siop gyda fflat uwchben, dyfernir lwfans dŵr ar elfen ddomestig (preswyl) y bil yn unig. Caiff unrhyw lwfans ei ôl-ddyddio am hyd at 12 mis cyn y dyddiad y cafodd y gollyngiad ei atgyweirio. Ar ôl i ni addasu eich bil, os nad ydych yn credu bod y lwfans yn adlewyrchiad cywir o r gwahaniaeth rhwng y dŵr rydych yn ei ddefnyddio fel arfer a r hyn a gofnodwyd oherwydd y gollyngiad, rhowch wybod i ni. Byddwn yn cynnal adolygiad arall ac yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad.

Dŵr Cymru Welsh Water 10 Defnyddio dŵr yn ddoeth Ar gyfartaledd, byddwch yn defnyddio mwy na 1,000 litr o ddŵr bob wythnos, ond mae rhai ffyrdd syml iawn o leihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. Dyma rai ffyrdd hawdd o sicrhau eich bod yn defnyddio cyn lleied o ddŵr â phosibl. Pibellau dŵr Gosodwch wn sbarduno ar eich pibell ddŵr er mwyn rheoli r llif. Fel arall, gallwch ddefnyddio cymaint o ddŵr mewn awr ag y mae teulu n ei ddefnyddio mewn diwrnod cyfan. Dŵr glaw Casglwch ef mewn casgen ddŵr a i ddefnyddio i roi dŵr i blanhigion yr ardd neu i olchi r car. Tapiau yn diferu Gosodwch wasieri newydd cyn gynted â phosibl. Cawodydd a baddonau Cymerwch gawod yn lle bath, gan y bydd hyn yn defnyddio llawer llai o ddŵr (oni bai bod gennych gawod pŵer). Teclynnau aelwyd Arhoswch nes bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio peiriant golchi neu beiriant golchi llestri ac os ydych yn chwilio am un newydd, dewiswch fodel dŵr-effeithlon gan y byddwch yn arbed dŵr ac ynni. Ewch i n tudalen Effeithlonrwydd Dŵr am ragor o awgrymiadau i ch helpu i leihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. Byddwch hefyd yn gallu dewis o n detholiad o gynhyrchion arbed dŵr o ansawdd uchel i ch helpu i leihau faint o ddŵr a ddefnyddir gan eich aelwyd.

Gollyngiadau Cod Ymarfer i Gwsmeriaid Preswyl 11 Y darn cyfreithiol Efallai na fyddwch yn ymwybodol bod gollyngiad dŵr yn cael ei ddosbarthu n drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Mae hyn yn golygu y gallwn eich erlyn am adael i ch gosodion dŵr fod, neu barhau i fod, mewn cyflwr diffygiol os na fyddwch yn atgyweirio r gollyngiad. Yr uchafswm dirwy yw 1,000. Rhoddir manylion am Adran 73 isod os ydych am eu darllen: if any person who is the owner or occupier of any premises to which a supply of water is provided by a water undertaker intentionally or negligently causes or suffers any water fitting for which he is responsible to be or remain so out of order, so in need of repair or so constructed or adapted, or to be so used that water so supplied is or is likely to be wasted or, having regard to the purposes for which it is supplied, misused or unduly consumed that person shall be guilty of an offence and liable, on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale. Mae gollyngiadau n gwneud mwy na gwastraffu dŵr; gallant hefyd ddifrodi eiddo a gerddi. Dyna pam ei bod yn bwysig atgyweirio r gollyngiad cyn gynted â phosibl a pham mae n rhaid i ni bennu terfyn amser ar gael trefn ar bopeth, sef 28 o ddiwrnodau calendr o r dyddiad y daethoch i wybod am y gollyngiad. Mae Adran 75(2)(b) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn rhoi r awdurdod i ni wneud hyn. Os na chaiff y gollyngiad ei atgyweirio o fewn 28 o ddiwrnodau calendr, byddwn yn cyfeirio r mater at ein tîm Cyfreithiol a fydd yn cymryd camau pellach i fynd i r afael â r dŵr sy n cael ei wastraffu. Gallai hyn gynnwys: cyflwyno hysbysiad cyfreithiol i atgyweirio gollyngiadau lle y bo n bosibl ac ailgodi r tâl arnoch chi; erlyn am wastraffu dŵr neu unrhyw osodion dŵr diffygiol; ac, yn achos cyflenwad a rennir, gyflwyno hysbysiad cyfreithiol sy n mynnu bod yr eiddo n gosod pibellau cyflenwi ar wahân o fewn 3 mis. Mewn argyfyngau, er enghraifft lle mae r dŵr sy n gollwng yn rhewi dros briffordd gyhoeddus neu n achosi difrod i eiddo, efallai y bydd angen i ni ddatgysylltu eich pibell gyflenwi. Dim ond pan fo n hollol angenrheidiol ac fel dewis olaf y byddwn yn gwneud hyn. Mae hyn yn unol ag Adran 75(2)(a) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Mae n bwysig i ni roi gwybod i chi, yn ogystal â bod yn drosedd o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fod unrhyw osodion dŵr sy n gadael i ddŵr gael ei wastraffu hefyd yn torri Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Gosodion Dŵr) 1999 ac y gallwch gael hyd at 1,000 o ddirwy. Weithiau efallai y bydd angen i ni gael mynediad i ch eiddo er mwyn archwilio r pibellau a r gosodion. Gobeithio na fydd hyn yn broblem, ond os na chaniateir mynediad i r eiddo, efallai y bydd angen i ni wneud cais am Warant Mynediad gan Lys Ynadon. Os ceir bod unrhyw un o r gosodion dŵr yn ddiffygiol, byddwn yn cyflwyno hysbysiad tor-rheolau i chi, gan roi cyfnod penodol i chi atgyweirio r gosodion neu eu newid. Os na wnewch hynny o fewn y terfyn amser, gellir eich erlyn. Gobeithio n fawr na fydd yn rhaid i ni ddefnyddio unrhyw un o r pethau uchod. Fodd bynnag, credwn ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi gwybod i chi am y darnau cyfreithiol a r hyn a allai ddigwydd os na fyddwch yn trefnu i ollyngiad yn eich eiddo gael ei atgyweirio.

Dŵr Cymru Welsh Water 12 Cysylltu â ni dwrcymru.com Mae n haws gwneud y rhan fwyaf o bethau ar-lein, megis talu eich bil, cofrestru ar gyfer bilio ar-lein, newid eich manylion neu edrych ar yr hyn sy n digwydd yn eich ardal chi. Dŵr glân 0800 052 0130 (24 awr) Pibell yn gollwng dŵr? 0800 281 432 Dŵr gwastraff 0800 085 3968 (24 awr) Arian Talu eich bil 0800 028 5209 (llinell dalu awtomataidd 24 awr) Cwestiwn ynglŷn â ch cyfrif? 0800 052 0145 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm, ar ddydd Sadwrn rhwng 8.30am a 1.30pm) Anawsterau clywed neu leferydd Ffoniwch ni ar 18001 cyn y rhif perthnasol I gael y newyddion diweddaraf: @dwrcymru /dwrcymruwelshwater A ydych yn landlord? Os ydych yn rhoi eiddo ar osod lle y caiff gwasanaethau eu darparu gennym ni, mae gan Lywodraeth Cymru reoliadau newydd sy n gymwys i chi. Mae n rhaid i chi: ddweud wrthym pan fydd newid yn nhenantiaeth unrhyw eiddo sydd gennych o fewn 21 diwrnod i r newid. rhoi manylion llawn y denantiaeth, gan gynnwys enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni (os bydd y wybodaeth gennych) a r dyddiadau y mae unrhyw denantiaid newydd wedi meddiannu r eiddo. Gallwch roi r wybodaeth hon i ni drwy r dulliau canlynol: mynd i n gwefan dwrcymru.com ar-lein yn landlordtap.com ein ffonio ar 0800 052 5842 Os na fyddwch yn rhoi r manylion hyn i ni, gallwch fod yn gyfrifol am daliadau a godir. Galwyr ffug Mae pob aelod o n staff yn cario cerdyn adnabod. Os byddwch yn amheus am unrhyw unigolyn sy n dod i ch cartref, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 281 141. Os yw r unigolyn yn dechrau ymddwyn yn ymwthgar, ffoniwch yr heddlu ar unwaith.