YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS

Similar documents
Arolwg Teithwyr Bysiau Yr hydref 2017 Cryndoeb o r prif ganlyniadau yng Nghymru

Holiadur Cyn y Diwrnod

Dyfodol Llwyddiannus. Yn edrych ar y Cwricwlwm a r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Crynodeb o adroddiad yr Athro Graham Donaldson

Full-time career focused learning programmes for year olds. The new way to your future. In partnership with:

Dysgu gyda n gilydd: Cyflwyniad i Erasmus+ ar gyfer y DU

Committed workforce. DOUBLING SPORTS VOLUNTEER WORKFORCE The effect of meeting all interest in volunteering

Ysgol Dyffryn Conwy. Llyfryn Gwybodaeth. Arholiadau TGAU Blwyddyn 10 & 11

Regulating Qualifications for a Bilingual Nation Rheoleiddio Cymwysterau ar gyfer Gwlad Ddwyieithog. Emyr George 13 December 2016 / 13 Rhagfyr 2016

APIAU CYMRAEG. C.Phillips

PARTNERIAETH POBL CONWY CYDWEITHIO AR GYFER LLES

SUT YR YDYM YN DARPARU CEFNOGAETH A LLEOLIADAU WEDI EU TEILWRIO I FODLONI ANGHENION UNIGOL

STADIWM Y MILENIWM Caerdydd, CF10 1NS

Gwybodaeth i Rieni Parent Information

Helo, Ceri ydw i. Dw i n mwynhau mynd ar wyliau antur gyda fy nheulu achos mae n gyffrous.

Mae Cyfranogiad ym Mhobman! Canllaw i gael plant rhwng 5 a 7 oed i gyfranogi.

Cymorth i Fyfyrwyr â Chyfrifoldebau Gofalu:

Astudiaeth Achos 16. Hyfforddiant cludiant: wedi galluogi pobl gydag anableddau dysgu i barhau a u gweithgarwch. Rhaglen Mentro Allan

EMA EMA. The little book of EMA. All you need to know about EMA for academic year 2017/18. cyllid myfyrwyr cymru student finance wales

Cyfeiriadau a chwynion am y Gronfa Diogelu Pensiynau

Follow us on Twitter to keep up with all the latest news from BBC Cymru Wales

ARWEINLYFR I FYFYRWYR

Datblygiad a Dyfodol Dysgu Cymhwysol yng Nghymru

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Primary schools

Gwybodaeth am Hafan Cymru

SESIWN HYFFORDDI STAFF

Stori gefndirol. capten o Loegr, a hynny dros bellter o bedair milltir dros Gomin Hirwaun. Enillodd Guto yn rhwydd a chafodd wobr oedd yn werth 400.

A booklet for children and young people who are going to be witnesses in court

AMSERLEN TIMETABLE EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU 2016

Llyfr Croeso Dysgu Cymraeg

CANLLAWIAU ARFERION DA AR GYFRANOGAETH PLANT A PHOBL IFANC CYFLWYNIAD I GYFRANOGAETH

NetworkNEWS. Dementia Friendly Community. Welcome. Listening to our patients. Winter 2017

NatWest Ein Polisi Iaith

Newyddion Ansawdd. Y Ganolfan Ymchwil Cywerthedd Academaidd - Prifysgol Cymru

Beth Nawr Questionnaire for the Children s Commissioner for Wales: Information and instructions for schools and youth organisations

Rhondda Cynon Taf Learning Festival. Adult Learners Week May What s on

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

Pwyllgor Newydd ar gyfer LOLFA!

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Addysg Oxfam

SCHOOL SPORT SURVEY Participation questionnaire Secondary schools

Adroddiad yn dilyn monitro. Consortiwm GwE Bryn Eirias Ffordd Abergele Bae Colwyn Conwy LL29 8BY. Dyddiad yr ymweliad: Hydref 2017.

Briff Ymchwil Papur briffio ar y farchnad lafur

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu. Adroddiad Dros Dro r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia

YMWYBYDDIAETH AWTISTIAETH

Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16

Wales Outdoor Recreation Survey 2014: Final Report

CEFNOGI PLANT GWASANAETH MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU

Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy AJR Accountancy Solutions Ltd.

Rhif: WG Llywodraeth Cymru. Dogfen Ymgynghori. Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Be part of THE careers and skills events for Wales

Talu costau tai yng Nghymru

Hawliau Plant yng Nghymru

Adroddiad Blynyddol y Brifysgol Agored Dysgu sy n Newid Bywydau

Templed Polisi Iaith Gymraeg Welsh Language Policy. Marks & Spencer

Ysgol Gyfun Cymer Rhondda

Mesur o Lwyddiant Crynodeb o adroddiad sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg

Welsh: Give it a go! Using the Welsh language in sport

Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018/19

National Youth Orchestra of Wales Auditions Violin Audition Pack

ASTUDIAETH AR FYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG ADRODDIAD CRYNO. Hydref Rhagfyr 2005

offered a place at Cardiff Met

Cylchlythyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Summer Holiday Programme

The Life of Freshwater Mussels

Cynllun Strategol Cynllun Strategol Tudalen 1

National Youth Arts Wales Auditions 2019

Adolygiad o r Cynnwys i Blant. Gwahoddiad i gyfrannu

ciwb Beth ydych chi n feddwl o...?

CERDDED I R YSGOL. gyda Living Streets. Mae r daith yn dechrau nawr. Ymunwch a miliwn o blant ledled y wlad. MAE NEWID MAWR AR DROED.

Cylchlythyr CorCenCC Rhifyn 15, Ionawr Cynnwys. Cyfarchion gan y Prif Ymchwilydd. CorCenCC yn Ffrainc. T2: Newyddion a digwyddiadau

Dysgu gwersi o r Grant Amddifadedd Disgyblion

Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru

Cefnogaeth Busnes Gofal Plant Eich llwybr at lwyddiant!

GWOBR DUG CAEREDIN IMPACT. Dylanwad Gwobr Dug Caeredin ar ieuenctid Crynodeb o ganlyniadau ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid a dyfarnwyr lleol

Y BONT. Canllawiau i Fyfyrwyr. Phyl Brake

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG ABERYSTWYTH 2017 ADRODDIAD BLYNYDDOL LLAWN I RIENI / GWARCHEIDWAID

Llwybrau i Gyflogaeth Llyfr Gwaith i Gynghorwyr Fersiwn: 6.1 Cyhoeddwyd: Medi 2016

+ Digwyddiadau Ymweld â Phrifysgol Bangor

Cyfle i Aros chance to stay_welsh_02.indd 1 27/11/ :42

Cynllun Datblygu Unigol - Individual Development Plan. Cynllun Sion s Plan

GWERS 86. NOD: Looking again at the 'taswn i' forms. (Gweler Gwers 60)

Bwcabus. Newyddion ynghylch Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Rwyf i eisiau eistedd ar bwys y brechdanau. Tasg Arbennig: Cinio Ysgol Canfyddiadau

dysgucymraeg.cymru/gwent learnwelsh.cymru/gwent

Explore future skills and get work ready with THE careers, jobs, skills and apprenticeship events for Wales

Annual Report. PERIOD: 1 st March th February 2017

MAWR. with gyda. Your guide. primary sc involved. i gyfrannu

DIGIDOL I R DYFODOL. Adolygiad Sector o Gymwysterau a r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu CONTENTS

Y BONT. Canllawiau i Diwtoriaid. Phyl Brake

CYLCHLYTHYR IECHYD CYMRU

Canser yng Nghymru. Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales

Y Gorau o Brydain. Adnodd addysgu Daearyddiaeth

Enwch dair stori draddodiadol. Beth yw r gwahaniaeth rhwng Jac a r Goeden Ffa a Blwch Pandora?

Dachrau n Deg Flying Start

Bwcabus. Llythyr Newyddion Newsletter

Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel

Welcome to... Champions of Change CROESO I... BENCAMPWYR NEWID

VOICES FROM THE FACTORY FLOOR/ LLEISIAU O LAWR Y FFATRI. Nyrs yn ffatri Fisher & Ludlow, Llanelli rhwng (tua)

Darlun ystadegol o sefyllfa r Gymraeg. Hywel M. Jones

BI-LINGUAL LANGUAGE POLICY

Transcription:

YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS swansea.ac.uk/reaching-wider @ReachingWider

RHAGAIR Mae ymwneud Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru wedi bod o fudd i nifer sylweddol o fyfyrwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn hanesyddol, er bod cyfraddau cyfranogiad mewn addysg bellach yn yr ardal ymhlith yr uchaf yng Nghymru, bu gan Gastell-nedd Port Talbot gyfradd gyfranogiad isel iawn mewn addysg uwch. Drwy gydweithio â r Bartneriaeth, rydym wedi gallu gwella r sefyllfa honno. Mae Ymgyrraedd yn Ehangach wedi galluogi r Coleg i weithio gyda darparwyr addysg bellach a sefydliadau addysg uwch eraill yn y rhanbarth i gynnig cyfleoedd na fuasent yn bosib fel arall i w fyfyrwyr. Mae hyn wedi cynnwys y Brifysgol Haf flynyddol, lle mae r myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr o natur addysg uwch, yn ogystal â chwrdd ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr eraill ar draws y rhanbarth sydd â chefndir tebyg ac sy n rhannu diddordebau, pryderon ac ofnau cyffredin ynghylch symud ymlaen i addysg uwch. Mae llawer o n myfyrwyr a raddiodd trwy r Brifysgol Haf wedi disgrifio eu profiadau yno fel rhai a newidiodd eu bywydau ac mae cyfran uchel iawn wedi mynd ymlaen i addysg uwch. Mae n bleser mawr gen i gymeradwyo r llyfryn hwn sy n dathlu gwaith Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru a r rhai sydd wedi ymgysylltu â ni yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru yn ymroddedig i ehangu mynediad i addysg uwch trwy weithio ar y cyd. Ein nod yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o ystod eang o grwpiau a chymunedau a dangynrychiolir yn Ne-orllewin Cymru, gyda ffocws penodol ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, cwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a phlant sy n derbyn gofal a rhai sy n gadael gofal. Rydym yn cael ein hariannu gan Raglen Ymgyrraedd yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae ein partneriaeth yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Coleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion yn Ne-orllewin Cymru. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dysgu a chodi dyheadau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ar draws De-orllewin Cymru sy n cael eu targedu, gan greu llwybrau i addysg uwch ar gyfer rhai na fyddent o reidrwydd fel arall yn ystyried hynny n rhan o u disgwyliadau. Trwy gydweithio rhanbarthol rydym wedi gallu dangos i ni gael effaith uniongyrchol ar fywydau nifer sylweddol o ddysgwyr. Mae rhai enghreifftiau o waith partneriaid wedi cael eu cyfuno yn y cyhoeddiad hwn i ddangos yr amrywiaeth mawr o waith sy n digwydd ar draws De-orllewin Cymru. Nid yw r cyhoeddiad hwn ond yn darparu ciplun o r gwaith ar draws y rhanbarth, gan ddangos sut mae partneriaid yn helpu i annog dyheadau dysgu, yn cefnogi r pontio i ddysgu a thrwyddo, yn gwella sgiliau dysgu, yn hybu sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd, ac yn hybu cyfle cyfartal. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn annog darllenwyr i archwilio ffyrdd o ymgysylltu â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru er mwyn ehangu mynediad ymhellach a chyfrannu at gyfiawnder cymdeithasol, symudedd cymdeithasol, a sgiliau a ffyniant economaidd unigolion a chymunedau yn Ne-orllewin Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr y Coleg sy n cyrchu cyfleoedd trwy Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru yn dod o deuluoedd sydd heb fawr ddim profiad na disgwyliadau o ran cyfranogi mewn addysg uwch. Mae pobl ifanc eraill yn dioddef effaith andwyol yn sgîl eu sefyllfa gymdeithasol, ariannol ac economaidd, gan arwain at ddadrithio ym myd addysg a cholli cysylltiad. Mae r cyfleoedd y mae r bartneriaeth yn eu darparu wedi rhoi cyfle i r myfyrwyr hyn gael profiad uniongyrchol o natur addysg uwch iddyn nhw, yn ogystal ag i ddatblygu r sgiliau angenrheidiol i bontio n llwyddiannus. O ganlyniad, mae eu dyheadau wedi cael eu codi, ac maent wedi meithrin hyder a symbyliad wrth weithio tuag at sicrhau llefydd yn y sefydliad addysg uwch o u dewis. Keith Booker Pennaeth Grŵp Coleg CNPT Campysau Castell-nedd Port Talbot Mae gan Ysgol Gymunedol Dylan Thomas berthynas hirsefydlog gyda r tîm Ymgyrraedd yn Ehangach, perthynas sydd wedi cael ei meithrin trwy ein nod cyffredin o wella hyder disgyblion a chodi eu dyheadau trwy weithgareddau heriol sy n ennyn eu diddordeb. Mae effaith y digwyddiadau yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 yn cael ei mesur, nid trwy adborth rhagorol llais y disgybl yn unig, ond hefyd yn y lefelau amlwg uwch o ymgysylltu a chymhelliad a welwyd ymhlith y disgyblion wedi pob digwyddiad. Hyd yma, dim ond pethau cadarnhaol sydd gennym i w dweud, i r fath raddau fel bod y disgyblion a r staff fel ei gilydd yn methu cael digon o r digwyddiadau mae Ymgyrraedd yn Ehangach yn eu cynnig. Ym marn ein staff, mae n gwbl bendant na fyddai llawer o n disgyblion wedi cyflawni rhai o u canlyniadau nodedig heb Ymgyrraedd yn Ehangach.. Ni allaf ond argymell bod ysgolion yn dod i gysylltiad ag Ymgyrraedd yn Ehangach cyn gynted â phosibl, gan y bydd eu dysgwyr yn elwa n fawr o hynny! Yr Athro Martin Stringer Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe Paul Davies Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymunedol Dylan Thomas 2 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 3

I:Revise CYNNWYS Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru I:Revise Ymgysylltiad Teuluol a Chlybiau ar ôl Ysgol Cynradd STEM Diwrnodau ACE (Anelu at Addysg Coleg) Diwrnodau Motiv8 Diwrnodau STAR (Awgrymiadau Astudio i Gyflawni Canlyniadau) Mentora gydag Ysgol Gymunedol Dylan Thomas Clwb Sadwrn Cenedlaethol Celf a Dylunio a Pheirianneg Diwrnodau Rhagflas Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Haf Blwyddyn 12 Rhaglen Breswyl Gyrfaoedd mewn Meddygaeth STEM Ymgysylltu â Sipsiwn a Theithwyr Clybiau Astudio ar ôl Ysgol Mega Maths Ein Cymuned ac Ysgolion 5 6 8 10 11 12 14 16 18 20 22 23 24 26 27 Disgyblion Blwyddyn 11 Mae r cynllun I:Revise, sydd wedi i leoli ar Gampws Llanbedr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi i lunio i gymell disgybion sydd â r gallu i gyflawni gradd C yn y pynciau TGAU craidd, ond sydd mewn perygl o beidio â chyflawni hynny. Yn ystod y prosiect preswyl hwn, bydd pob disgybl yn derbyn 12 awr o sesiynau adolygu dwys mewn dau faes pwnc craidd, a hynny dan arweiniad athrawon ysgol uwchradd profiadol. Yn ogystal â r sesiynau adolygu, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn wybodaeth am addysg uwch a sesiwn sgiliau astudio, a gyflwynir gan y tîm Cyswllt Ysgolion ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Gyda r hwyr mae gweithgareddau cymdeithasol sy n cael eu trefnu a u harwain gan fyfyrwyr y brifysgol sy n gweithredu fel llysgenhadon. Mae cwrs I:Revise yn cyfuno cefnogaeth academaidd a rhaglen gymdeithasol, a i nod yw nid yn unig paratoi r disgyblion ar gyfer eu harholiadau TGAU, ond hefyd darparu rhagflas o fywyd prifysgol iddyn nhw. Dywedodd y disgyblion eu bod nhw n hoffi cael cyfle i: Gwrdd â phobl newydd Dysgu pethau newydd Darganfod gwahanol ffyrdd o ateb cwestiynau TGAU Fy hoff ran o r cwrs oedd cael cyfle i gwrdd â phobl newydd, a chael profiad o fywyd prifysgol. Fe wnes i fwynhau pob munud o r cwrs! Ar ddiwedd y cwrs: Dywedodd 98% o r disgyblion eu bod wedi mwynhau rhaglen I:Revise. Dywedodd 84% fod y sesiwn sgiliau astudio yn ddefnyddiol. 4 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 5

Ymgysylltiad Teuluol a Chlybiau ar ôl Ysgol Cynradd STEM Disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Nod y diwrnodau dysgu i r teulu a r clybiau ar ôl ysgol dilynol oedd cyflwyno oedolion i weithgareddau dysgu ar lefel addysg uwch ac ysbrydoli pobl ifanc i ddewis pynciau STEM wrth ddewis opsiynau astudio at y dyfodol. Nod arall oedd darparu gwybodaeth a chefnogaeth i r oedolion dan sylw i edrych ar y posibilrwydd o symud ymlaen i astudiaethau AU wedi u hachredu ar ddiwedd y rhaglen anffurfiol. Cyflwynwyd dau ddigwyddiad dysgu i r teulu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yn ysgolion cynradd Cymer Afan a Blaenymaes. Yn y digwyddiad cyntaf, bu rhieni/gwarcheidwaid a u plant yn cymryd rhan mewn gweithdai Pwy Ddwgodd y Car? Darganfod Darwin a Gwyddor Fforensig. Roedd yr ail ddigwyddiad yn cynnwys gweithdai rhagflas Gwyddoniaeth Amgylcheddol; ar ddiwedd y digwyddiad, cyflwynwyd yr oedolion i r amrywiaeth o ddarpariaeth Prifysgol Agored sydd ar gael, a gwahoddwyd y plant i ymuno â Chlwb STEM ar ôl ysgol oedd yn cael ei gynnal yn eu hysgolion. Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Prifysgol Abertawe, Ysgolion Cynradd Blaenymaes a Cymer Afan Cynhaliwyd y clybiau STEM ar ôl ysgol am chwe wythnos yn y ddwy ysgol, a bu cyfanswm o 27 o ddisgyblion yn eu mynychu. Bu r disgyblion yn cymryd rhan mewn arbrofion gwyddonol ymarferol cyffrous, oedd yn cynnwys adeiladu roced, gwyddoniaeth slwtsh, creu llosgfynydd a rasio ceir llusgiad model. Fe wnaethon ni gynnwys athrawon yn y sesiynau ar ôl ysgol gymaint â phosib, a u hannog i aros yn yr ysgol i gymryd rhan. Cynhaliwyd digwyddiadau dathlu i ddisgyblion a u teuluoedd yn y ddwy ysgol, yn arddangos yr hyn oedd wedi i gyflawni. Yn y digwyddiad dathlu, roedd elfen o gyngor ac arweiniad hefyd i rieni a allai fod â diddordeb mewn symud ymlaen i astudiaethau pellach, a chawsant gyfle i roi eu henwau i lawr ar gyfer gweithdy rhagflas dilynol gyda r Brifysgol Agored yng Nghymru. Dywedodd 100% o r disgyblion eu bod wedi dysgu pethau newydd. Dywedodd 73% eu bod am fynd i r brifysgol i astudio gwyddoniaeth. Roedd yn hwyl, doeddwn i ddim yn hoffi gwyddoniaeth o r blaen, ond rwy yn ei hoffi nawr. Pan ddechreuais i fynd i r clwb doeddwn i ddim yn rhy hoff o wyddoniaeth. Ond mae r bobl yma wedi newid fy meddwl, ac fe wnes i fwynhau r clybiau n fawr :) Sylwadau athrawon Ymatebodd yr holl blant yn dda iawn i bob un o r sesiynau. Roedd y ffaith bod rhai o r sesiynau yn cynnwys pynciau digon heriol yn ennyn diddordeb yr unigolion mwy galluog, ond roedd gweddill y grŵp yn gallu dilyn beth oedd yn digwydd hefyd. Mae hon wedi bod yn fenter foddhaol iawn, ac mae n bendant yn werth chweil. Roedd y plant yn eithriadol o awyddus i fynychu bob wythnos, ac roedd yr amrywiaeth o weithgareddau n rhagorol. Sylw rhiant Mae fy mhlentyn wedi dysgu sgiliau newydd, hyder a diddordeb mewn gwyddoniaeth. 6 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 7

Diwrnodau ACE (Anelu am Addysg Coleg) Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru Sylwadau disgybl Rydw i eisiau mynd i r brifysgol nawr, ond doeddwn i ddim o gwbl o r blaen. Rydw i n deall beth sy n digwydd yn y brifysgol nawr, roedd y cyfan yn fy nrysu o r blaen. Doeddwn i ddim yn meddwl byddai r brifysgol fel hyn, roedd yn llawer mwy o hwyl nag oeddwn i n disgwyl. Fe ges i lwyth o hwyl, ac mae wedi gwneud i mi eisiau mynd i addysg uwch. Diolch! Disgyblion Blwyddyn 9 Nod Diwrnod ACE yw rhoi cipolwg i r disgyblion ar fywyd myfyriwr, a u hysbrydoli i anelu at addysg uwch. Trwy gydweithio â myfyrwyr sydd wedi u hyfforddi i fod yn arweinyddion, y bwriad yw dangos i r disgyblion bod addysg uwch yn opsiwn hygyrch, a bod llawer o lwybrau dilyniant posib iddyn nhw. Mae r grwpiau n cwblhau cyfres o weithgareddau a luniwyd i ddysgu mwy am fywyd myfyrwyr, gan gynnwys gêmau, cwisiau, a llunio poster i gymdeithas myfyrwyr. Mae r myfyrwyr sy n arwain hefyd yn mynd â r disgyblion ar daith o amgylch y campws, gan ddangos y darlithfeydd, y labordai, y cyfleusterau chwaraeon, y siopau, lleoliadau Undeb y Myfyrwyr a r cyfleusterau TG a Llyfrgell iddyn nhw. Anogir yr arweinyddion i bersonoli r daith a dangos ble maen nhw n astudio a beth maen nhw n ei wneud yn eu hamser rhydd, yn ogystal ag ychwanegu unrhyw elfennau mwy anghyffredin ar fywyd y campws (er enghraifft, ble mae cyrff marw n cael eu dyrannu gan fyfyrwyr meddygol, ble mae r efelychwr hedfan, a ble mae r labordy cwsg). Bydd y disgyblion yn bwyta u cinio yn y brif ffreutur gyda r myfyrwyr sy n eu harwain, er mwyn gweld sut beth yw bywyd prysur y campws. Mae r myfyrwyr sy n arwain yn caffael sgiliau cyflogadwyedd, ac mae llawer yn mynd ymlaen i wneud cais am TAR. Y geiriau mwyaf cyffredin mae disgyblion yn eu defnyddio i ddisgrifio r digwyddiad yw: Hwyl Difyr Diddorol Addysgiadol Sylwadau athrawon Mae r disgyblion yn wir yn credu eu bod nhw n gallu mynd i r brifysgol nawr! Mae n symbylu disgyblion i gredu eu bod nhw n gallu mynd i r brifysgol. Dywedodd 100% fod y digwyddiad yn cynyddu hunan-barch disgyblion. Dywedodd 100% fod y digwyddiad yn ychwanegu gwerth at gwricwlwm yr ysgol. Dywedodd 75% fod y digwyddiad yn gwella cyrhaeddiad disgyblion. Yn 2014-2015, bu 1108 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn Diwrnod ACE, a dangosodd eu ffurflenni adborth fod: 94% yn dweud eu bod eisiau mynd i r brifysgol, o i gymharu â 50% yn unig cyn y digwyddiad. 95% yn dweud eu bod yn awr yn teimlo n hyderus y gallen nhw fynd i r brifysgol petaen nhw n dymuno. 91% yn dweud eu bod yn gwybod mwy am addysg uwch o ganlyniad i r Diwrnod ACE. 94% yn dweud eu bod yn gwybod sut brofiad yw bod yn fyfyriwr prifysgol o ganlyniad i ddod i Ddiwrnod ACE, o i gymharu â 6% yn unig ar ddechrau r diwrnod. 96% yn dweud eu bod yn gwybod sut mae myfyrwyr prifysgol yn treulio u hamser o ganlyniad i Ddiwrnod ACE, lle nad oedd ond 9% yn dweud eu bod yn gwybod llawer am hynny ar y dechrau. 91% yn dweud eu bod yn gwybod mwy am y mathau o bynciau y gellir eu hastudio yn y brifysgol yn sgîl y Diwrnod ACE. 8 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 9

GRWPIAU TARGED Disgyblion Blwyddyn 8 Lluniwyd y diwrnod i sbarduno disgyblion Blwyddyn 8 i ystyried Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) a gyrfaoedd at y dyfodol. Cyflwynir y disgyblion i lwybrau addysgol sy n arwain i yrfaoedd, a chânt gyfle i siarad am eu cryfderau ªddysgol a phersonol, yn ogystal ag unrhyw uchelgeisiau neu ddyheadau sydd ganddynt. Mae r diwrnod yn cwmpasu elfennau o Addysg Bersonol, Cymdeithasol a Iechyd, ac yn cynnwys cyfres o weithdai lle mae r grwpiau n trafod byd gwaith. Ymhlith y sgiliau sy n cael eu hybu yn ystod y diwrnod mae gwaith tîm, creadigwydd, cyflwyno a sgiliau llafaredd. Disgrifir y gweithgareddau gweithdy isod: A Gyrfaoedd o amgylch y swydd Mae r disgyblion yn trafod gyrfaoedd yng nghyd-destun y swydd, pa yrfaoedd oedd gan sêr cyn dod yn enwog a pha lwybrau gyrfa a dysgu sydd eu hangen ar gyfer pob rôl. Mae r disgyblion yn creu rhestr A-Z o yrfaoedd ac yn trafod ar gyfer pa yrfaoedd mae angen cymhwyster AU. B Hwyaid gyrfa Mae r disgyblion yn edrych ar wahanol yrfaoedd ar lechi, gan ddefnyddio r hwyaid i w hysbrydoli. C Byd gwaith ac addysg Mae r gweithdy hwn yn edrych ar eiriau allweddol a chymwysterau, gan nodi r gwahaniaethau rhwng Safon Uwch, BTEC a Phrentisiaethau. Hefyd trafodir y llwybrau i AU, yn ogystal â r gwahaniaeth rhwng cyflog a gwerth. Mae r disgyblion yn archwilio u syniadau eu hunain, gan drafod eu sgiliau a u priodweddau, yn ogystal â u syniadau o ran gyrfa. Teitl y Prosiect Diwrnodau Motiv8 Prifysgol Abertawe, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru Erbyn diwedd y diwrnod: Roedd 96% yn gwybod mwy am y cyfleoedd am swyddi oedd ar gael iddyn nhw ar ôl gadael yr ysgol. Roedd 94% yn teimlo y gallen nhw fynd ymlaen i addysg uwch petaen nhw n dymuno, o ganlyniad i r diwrnod Motiv8. Dywedodd 94% fod y Diwrnod Motiv8 wedi u helpu i ddeall mwy am y math o gyrsiau sydd ar gael ym myd AU. Dywedodd 96% fod y Diwrnod Motiv8 wedi gwneud iddyn nhw eisiau parhau â u hastudiaethau ar ôl ysgol. Y geiriau mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd gan y disgyblion i ddisgrifio r digwyddiad oedd: Rhyfeddol Hwyl Difyr Fe wnes i fwynhau edrych ar y swyddi a r pynciau gallwn i astudio. Mae wedi gwneud i mi feddwl llawer mwy am y dyfodol. Sylw Athro Dangosodd sawl disgybl ochr wahanol i w personoliaeth. Cyfrannodd llawer at y drafodaeth er y buasent fel arfer yn amharod iawn i gyfathrebu ag eraill. Roedd arweinwyr y grwpiau yn rhagorol gyda r disgyblion. Disgyblion Blwyddyn 11 Mae Diwrnodau STAR yn canolbwyntio n bennaf ar ddysgu technegau i r disgyblion a fydd yn eu helpu i baratoi n llwyddiannus ar gyfer eu harholiadau TGAU, ac maent fel arfer yn digwydd ar gampws prifysgol. Dan gyfarwyddyd myfyriwr sy n eu harwain, bydd y disgyblion yn edrych ar destunau mewn grwpiau bychain, testunau megis rheoli amser a chynllunio adolygu, deall cwestiynau arholiad, technegau ar gyfer ymdopi ag amodau arholiad, ac amrywiaeth o dechnegau adolygu megis mapiau meddwl a chymhorthion cofio. Bydd y disgyblion yn cael cyfle hefyd i drafod opsiynau llwybr ar ôl eu harholiadau TGAU gyda r myfyriwr sy n eu harwain. Dengys adborth o Ddiwrnodau STAR 2014-2015, o ganlyniad i w mynychu: Fod 86% o r disgyblion yn dweud eu bod nhw n gwybod sut brofiad yw bod yn fyfyriwr prifysgol, er nad oedd ond 3% yn dweud eu bod yn gwybod llawer am fywyd myfyriwr ar ddechrau r diwrnod. Fod 89% yn dweud eu bod yn gwybod am y sgiliau a r wybodaeth angenrheidiol i astudio yn y brifysgol. Fod 85% yn teimlo n hyderus ynghylch adolygu ar ddiwedd y Diwrnod STAR. Fod 89% yn dweud eu bod yn gwybod sut i baratoi ar gyfer arholiadau. Fod 93% yn dweud iddynt gael bod y Diwrnod STAR yn ddefnyddiol. Teitl y Prosiect Diwrnodau STAR (Awgrymiadau Astudio i Gyflawni Canlyniadau) Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru Y 3 pheth mwyaf defnyddiol mae myfyrwyr yn dweud eu bod yn eu dysgu ar Ddiwrnodau STAR yw: Technegau adolygu Rheoli Amser Sylw Athro Llwybrau Fe wnes i ddysgu sut mae adolygu a thechnegau newydd. Fe wnaeth fy helpu i gael hyd i ffyrdd haws o adolygu ac ateb cwestiynau mewn arholiadau. Rydw i n fwy hyderus ynghylch adolygu. Roedd y disgyblion Blwyddyn 11 yn wir yn gwerthfawrogi r cwrs. Roedd yn ymdrin yn benodol â llyfrau roedden nhw n eu hastudio ar lefel TGAU ac yn rhoi iddynt y llwybr, y sgiliau a r help i chwilio am ofynion yr arholwr, er mwyn creu atebion da i gwestiynau penodol, yn ogystal â r ffaith ei fod yn dod o ffynhonnell heblaw eu hathrawon. 10 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 11

Disgrifiad o r Prosiect Bu r rhaglen fentora hon yn gweithio gyda charfan fechan o ddisgyblion o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas dros gyfnod o dair blynedd, o Flynyddoedd 9-11. Roedd y disgyblion y buon ni n gweithio gyda nhw wedi cael eu nodi gan yr athrawon fel rhai oedd â photensial, ond bod angen peth ymyrraeth os oeddent i lwyddo, yn arbennig yng nghyswllt cyflawni Gradd C neu uwch yn eu TGAU Mathemateg a Saesneg. Mae 47% o ddisgyblion yr ysgol yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, ac mae 78% o r disgyblion yn dod o r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gan fod cyflawniad ar drothwy Lefel 2 20% yn is na chyfartaledd cenedlaethol Cymru, nod y rhaglen oedd helpu r disgyblion i: godi eu dyheadau a u cymhelliad i lwyddo yn yr ysgol codi eu cyrhaeddiad 12 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 13

Clwb Sadwrn Cenedlaethol Celf a Dylunio a Pheirianneg Coleg Sir Gâr, Ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Sefydliad Sorrell Roeddwn i n swil ar y cychwyn, ond fe ddes i n fwy hyderus wrth weithio ochr yn ochr ag aelodau eraill y clwb. Fyddwn i ddim am newid unrhyw beth; mae wedi bod yn brofiad gwych. Rydw i wedi dod yn fwy hyderus, a nawr rwy n ystyried astudio Dylunio Technegol a Phensaernïaeth. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan bobl eraill. Rydw i wedi dod yn ymwybodol o lawer mwy o ddewisiadau gyrfa posibl, ac wedi sylweddoli faint o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol. Disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 Rhaglen genedlaethol yw hon ac mae cyllid Ymgyrraedd yn Ehangach wedi galluogi Coleg Sir Gâr i gynnal yr unig Glwb Celf a Dylunio Sefydliad Sorrell yng Nghymru. Bu r coleg hefyd yn peilota r rhaglen gyntaf ar thema Peirianneg ar gyfer y Sefydliad. Y nod yw meithrin doniau r disgyblion, eu hyder a u hunan-barch, a rhoi iddynt y sgiliau a r wybodaeth i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch. Mae r disgyblion hefyd yn dysgu am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Cynhelir 30 wythnos o ddosbarthiadau sy n ysbrydoli yn y coleg ar fore Sadwrn ar gyfer hyd at 60 o ddysgwyr. O dan arweiniad dylunwyr a darlithwyr amlwg, bydd y disgyblion yn creu gwaith animeiddio, nwyddau marchnata gweledol, arddangosfeydd ffenestr enghreifftiol, dyluniadau theatr a dyluniadau 2D a 3D eu hunain. Byddant yn dysgu sgiliau dylunio cynnyrch, peirianneg a weldio, ac yn casglu awgrymiadau o fyd busnes ac entrepreneuriaeth. Byddant hefyd yn gwella u sgiliau cyfathrebu, ac yn darganfod pa sgiliau mae eu hangen ar gyfer gwahanol yrfaoedd. Mae myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn gweithredu fel gwirfoddolwyr i gefnogi r clwb, a gall eu horiau gyfrannu at Wobrau Dug Caeredin. Yn ystod y tymor cyntaf, bydd aelodau r Clwb yn teithio i Lundain i ddangos eu gwaith mewn arddangosfa dros dro, yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr dan arweiniad rhai o ddylunwyr mwyaf blaenllaw r Deyrnas Unedig, ac yn mynd ar daith o gwmpas oriel yn Llundain. Ddiwedd tymor yr haf, bydd y myfyrwyr yn arddangos eu gwaith yn eu sioe haf eu hunain yn Somerset House, Llundain. Yn 2015, bu r myfyrwyr yn ymweld â studios Arup yn Llundain ac yn dylunio ac yn adeiladu strwythurau cydweithredol oedd yn profi egwyddorion Peirianneg. Sylwadau Athrawon Gan fod nwyddau marchnata gweledol a manwerthu creadigol yn elfennau allweddol i lwyddo n fasnachol ar y stryd fawr, ni fu adeg well erioed i bobl ifanc brofi byd manwerthu o safbwynt creadigol. Rydym ni n credu bod y dosbarthiadau wedi cael effaith gadarnhaol ar aelodau r Clwb. Maen nhw bellach yn fwy ymwybodol o r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. 14 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 15

Diwrnodau Rhagflas Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru Sylwadau Athrawon Roedd y diwrnod wedi i strwythuro n dda iawn. Roedd y sesiynau n rhagorol ac yn ennyn diddordeb y disgyblion. Hefyd, roedd y sesiynau n ardderchog o ran blaenoriaethu dysgu newydd, cysylltiedig â u harholiadau. Mae r diwrnod yma wedi bod yn eithriadol o fuddiol i n disgyblion. Bydd o gymorth i w dysgu yn yr ysgol ac yn hwyluso u haddysg. Roedd y disgyblion yn ymddiddori ym mhopeth, yn enwedig y dasg olaf... rwy n falch bod y disgyblion wedi cael gwybod am yr amrywiol yrfaoedd ym myd ysgrifennu. Disgyblion Blwyddyn 10 Mae ein Diwrnod Ysgrifennu Creadigol wedi i lunio n weithgaredd i ychwanegu at y cwricwlwm ar gyfer pobl ifanc ym Mlwyddyn 10. Mae disgyblion yn creu ac yn rhannu eu storïau eu hunain trwy gyfuno genres, a chymysgu elfennau o Chwedlau Tylwyth Teg a hanesion Archarwyr, gan nodi themâu allweddol a throsiadau mewn amrywiaeth o adluniadau ac addasiadau. Yn y sesiwn olaf, bydd y disgyblion yn creu eu stori eu hunain mewn grwpiau bach, gan ddefnyddio detholiad o gardiau mynegai, a chyfuno elfennau o hanesion Tylwyth Teg ac Archarwyr. Byddan nhw n dewis lleoliad, arwr, cymeriad cas, rhestr o eitemau, argyfwng y bydd yr arwr yn ei wynebu, ac yn creu cymeriadau sydd â setiau unigryw o sgiliau, gan nodi eu targedau a u symbyliad. Bydd y myfyrwyr sy n eu harwain yn helpu r disgyblion i ysgrifennu stori fer, gyda dechrau, canol a diwedd clir; bydd y grwpiau n rhannu eu storïau â i gilydd. Ymhlith yr adnoddau i dywys y disgyblion mae diagram Venn i gofnodi nodweddion tebyg a gwahanol rhwng hanesion Tylwyth Teg ac Archarwyr, a thempled bwrdd stori i gofnodi plot eu stori eu hunain. Yn olaf, bydd y disgyblion yn dysgu am yrfaoedd cysylltiedig ag Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg. Fe wnes i ddysgu llawer o r profiad, ac fe ddangosodd lawer i mi am ysgrifennu ar lefel uwch. Fe wnes i fwynhau creu storïau a r gwahanol weithgareddau. At ei gilydd, roeddwn i n teimlo bod heddiw yn help mawr, a bydd yn gwella fy ysgrifennu ar gyfer gwaith ysgol. Dangosodd yr adborth gan ddisgyblion: Y byddai 62% o r disgyblion yn hoffi astudio Llenyddiaeth Saesneg / Ysgrifennu Creadigol yn y brifysgol, o i gymharu â 46% ar ddechrau r diwrnod. Bod 68% yn teimlo n fwy hyderus yn esbonio strwythur stori. Y pethau mwyaf cyffredin mae r disgyblion yn dweud eu bod wedi u dysgu yw sut mae stori n cael ei strwythuro, a pha yrfaoedd sy n deillio o astudio Ysgrifennu Creadigol a/neu Lenyddiaeth Saesneg. 16 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 17

Prifysgol Haf Blwyddyn 12 Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ysgolion Chweched Dosbarth yn Ne-orllewin Cymru, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot GRWPIAU TARGED Myfyrwyr Blwyddyn 12 sy n astudio Safon Uwch neu BTEC yn Ne-orllewin Cymru. Ers 2004, mae dros 600 o fyfyrwyr wedi cwblhau Rhaglen Prifysgol Haf Blwyddyn 12. Nod y cwrs preswyl hwn yw rhoi i r myfyrwyr sy n cael eu targedu y dyhead a r hyder i wneud cais am AU, yn ogystal â r sgiliau i lwyddo ar lefel AU. Mae r myfyrwyr rydyn ni n gweithio gyda nhw yn dod o grwpiau sy n cael eu tangynrychioli mewn AU; rydym yn arbennig yn targedu myfyrwyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, plant sy n derbyn gofal a rhai sy n gadael gofal, myfyrwyr ag anableddau, a myfyrwyr y mae eu rhieni heb brofiad o AU. Mae r Brifysgol Haf bellach yn rhaglen 3 wythnos, ac mae r myfyrwyr yn treulio un wythnos ar gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a r ail wythnos ar gampws Caerfyrddin. Yna bydd y drydedd wythnos yn cael ei threulio ar gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe. Mae r model hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi amrywiaeth o leoliadau AU, a r agwedd breswyl ar fywyd myfyrwyr. Bydd tîm o arweinyddion sy n fyfyrwyr yn aros gyda r myfyrwyr yn ystod y tair wythnos, gan eu helpu gyda r gwaith academaidd, yn ogystal â helpu i drefnu r gweithgareddau cymdeithasol. Ar hyd y tair wythnos, bydd y myfyrwyr yn astudio modiwl pwnc yn ogystal â chwrs Sgiliau ar gyfer AU. Mae r modiwlau pwnc yn amrywio bob blwyddyn, ond maent wedi cynnwys pynciau megis Peirianneg, Cyfrifiadureg, Mae olrhain cyrchfannau myfyrwyr yn dangos bod 81% o r myfyrwyr sy n mynd i r Brifysgol Haf yn mynd ymlaen i gofrestru ar gyfer addysg uwch. Gofal Iechyd, Seicoleg a r Gyfraith. Yn y sesiynau Sgiliau ar gyfer AU mae r myfyrwyr yn dysgu sgiliau hanfodol fel sut mae llunio traethawd a sgiliau cyflwyno, meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyfeiriadol. Byddant hefyd yn mynychu sgyrsiau ar y broses o gyflwyno cais UCAS, cyllid i fyfyrwyr a r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael yn y brifysgol. Gyda r hwyr, gall y myfyrwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a gweithio ar eu haseiniadau, gyda chyfarwyddyd gan y myfyrwyr sy n eu harwain. Mae r rhaglen fugeiliol a chymdeithasol yn rhan bwysig o roi hwb i hyder y myfyrwyr a chodi lefel eu dyheadau, ochr yn ochr â gwella u gallu i reoli amser, gan fod rhaid i r myfyrwyr gadw cydbwysedd rhwng gweithgareddau cymdeithasol a therfynau amser aseiniadau. Mae myfyrwyr sy n derbyn marc o 40% neu fwy yn yr holl waith cwrs yn cael gostyngiad yn y graddau Safon Uwch sy n ofynnol neu r pwyntiau UCAS cyfatebol gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Wedyn cynhelir seremoni raddio yn yr hydref, er mwyn i r myfyrwyr ddathlu eu cyflawniad gyda u teuluoedd. Rhoddir tystysgrifau i r myfyrwyr, ac mae r rhai sydd wedi cyflawni ar y lefel uchaf yn cael gwobrau a roddwyd gan noddwyr lleol. Hyd yma, mae 97% o r myfyrwyr a fu n rhan o raglen y brifysgol haf wedi llwyddo. Mae r adborth o Brifysgol Haf 2015 yn dangos, erbyn diwedd y tair wythnos: Bod 95% o r myfyrwyr yn teimlo n fwy hyderus ynghylch mynd i r brifysgol. Bod 91% yn gwybod mwy am lefel y gwaith a ddisgwylir gan fyfyrwyr prifysgol. Bod 96% yn gwybod mwy am gyllid myfyrwyr a gwneud cais am fenthyciadau myfyrwyr. Bod 89% yn gwybod mwy am yrfaoedd cysylltiedig â modiwl y pwnc a ddewiswyd ganddynt. Sylwadau myfyrwyr Mae r Brifysgol Haf yn hwyl, yn llawn boddhad, ac yn brofiad amhrisiadwy o fywyd myfyriwr. Byddwn i n ei argymell i unrhyw un. Neilltuol. Roedd yn brofiad mor ddefnyddiol, ac mae gen i bellach ddealltwriaeth well o lwythi gwaith, terfynau amser, bywyd myfyriwr a sut mae cadw cydbwysedd rhwng y ddwy elfen. Mae wedi bod yn brofiad rhyfeddol, ac mae fy hyder wedi cynyddu n aruthrol. Fyddwn i byth wedi mynd i r coleg i wneud Safon Uwch tasen i ddim yn benderfynol o fynd i r brifysgol ar ôl fy mhrofiad rhyfeddol yn y Brifysgol Haf. Fe wnaeth wahaniaeth mawr i mi. Ar ôl mynd i r Brifysgol Haf fe fues i n gweithio n galetach yn y coleg. Fe roddodd y Brifysgol Haf fwy o hyder i mi o ran gwaith ysgrifenedig a sgiliau cyflwyno, a bu hynny n fantais aruthrol i mi ym mlwyddyn olaf fy nghwrs. Rwy n wir yn credu, taswn i heb gael cyfle r Brifysgol Haf, na fyddwn i wedi mynd ymlaen i addysg uwch. Sylw Athro Eithriadol o lwyddiannus. Mae r myfyrwyr yn dychwelyd i r ysgol yn llawn symbyliad a brwdfrydedd, gydag uchelgais o fynd i addysg uwch. Mae fel petaen nhw wedi tyfu i fyny ac yn llawn awydd i gyflawni. Maent hefyd yn mwynhau r agweddau allgyrsiol a r digwyddiadau cymdeithasol yn fawr, ac mae hynny n bwysig o safbwynt eu hunan-hyder. 18 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 19

Myfyrwyr Blwyddyn 12 sy n astudio Safon Uwch neu BTEC yn Ne-orllewin Cymru. Mae r rhaglen breswyl 3 diwrnod hon yn cyflwyno r myfyrwyr i amrywiaeth o yrfaoedd meddygol, gan eu gwneud yn ymwybodol o gyfleoedd ym maes meddygaeth y tu hwnt i fod yn feddyg neu n nyrs. Nod y rhaglen yw cynyddu hyder myfyrwyr yng nghyswllt astudio pynciau STEM ar lefel AU a u hannog i anelu at yrfa cysylltiedig â STEM. Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i brofi bywyd myfyriwr trwy aros yn y neuaddau preswyl. Yn ystod y 3 diwrnod, bydd y Coleg Meddygaeth, y Coleg Peirianneg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai ar bynciau megis Amddiffyn rhag Ymbelydredd, echdynnu DNA, Moeseg Feddygol a Chyflwyniad i Beirianneg Meddygol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn mynychu sgyrsiau ar y broses o wneud cais UCAS a chyllid i fyfyrwyr, a chyda r hwyr mae rhaglen gymdeithasol. Bydd y myfyrwyr sy n eu harwain yn aros gyda r cyfranogwyr ar hyd y rhaglen, gan rannu eu profiadau o addysg uwch a chwalu unrhyw syniadau camarweiniol sydd gan y myfyrwyr. Yn ogystal â bod o fudd i r myfyrwyr, mae r rhaglen yn DPP i r staff addysgu, ac yn cynyddu eu hymwybyddiaeth o lwybrau i yrfaoedd meddygol. Teitl y Prosiect Rhaglen Breswyl Gyrfaoedd mewn Meddygaeth STEM Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Gyrfa Cymru, Coleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, Grŵp Coleg CNPT, Coleg Sir Benfro, Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru. Y PUM PRIF BETH MAE R MYFYRWYR YN DWEUD EU BOD WEDI U DYSGU YW: 1 2 3 4 5 Bod amrywiaeth eang o swyddi ym maes meddygaeth. Y gwahanol fathau o gymwysterau a phrofiad gwaith sydd eu hangen i wneud cais ym maes meddygaeth. Nad gwneud gradd mewn meddygaeth yw r unig lwybr i astudio meddygaeth. Sut brofiad yw bod yn fyfyriwr prifysgol a byw n annibynnol. Sut mae benthyciadau myfyrwyr yn gweithio. Sylwadau myfyrwyr Mae gen i lwybr gyrfa mewn golwg, ond mae r rhaglen wedi rhoi cyfle i mi ystyried y posibilrwydd o ddilyn llwybr gyrfa gwahanol. Mae wedi fy helpu i ddeall y cyrsiau y byddai n well gen i eu hastudio, a datrys fy mhryderon ynghylch sefyllfaoedd ariannol. Mae wedi dysgu llawer i mi am fy ngallu i wneud ffrindiau newydd a dysgu mwy am wyddoniaeth. Dyw r Brifysgol ddim i weld mor frawychus ar ôl cael rhagflas. Galla i addasu n rhwydd. Sylwadau Athrawon Mae n bwysig bod y myfyrwyr yn gwybod nad meddyg yw r unig yrfa ym maes iechyd, ac rwy n credu bod y pwynt hwnnw wedi cael ei gyfleu n dda iawn. Cyfle gwych i athrawon. Yn bendant yn ddefnyddiol o ran rhoi gwybodaeth i ni er mwyn gallu trafod gwahanol gyfleoedd gyrfa yn ein dosbarthiadau. Roedd hefyd yn ddiddorol o safbwynt personol gweld yr holl wahanol adrannau. Rydw i wedi dysgu gwybodaeth ddiweddar ynghylch ffiseg feddygol y gallaf ei defnyddio wrth addysgu i wneud y pwnc yn fwy perthnasol i r disgyblion. Bu 50 o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen, a dengys eu hadborth y canlynol: Roedd 100% yn dweud eu bod yn fwy ymwybodol o sut brofiad yw bod yn fyfyriwr prifysgol. Roedd 94% yn dweud eu bod yn gwybod mwy am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael ym maes meddygaeth. Roedd 98% yn dweud eu bod yn fwy ymwybodol o r gwahanol gyrsiau gradd sydd ar gael yn y brifysgol ar gyfer gyrfaoedd ym maes meddygaeth. Roedd 81% yn adrodd eu bod yn gwybod mwy am y sgiliau a r profiad angenrheidiol i gael gyrfa ym maes meddygaeth. Roedd 73% yn dweud eu bod yn fwy ymwybodol o r cymwysterau sydd eu hangen i gael gyrfa ym maes meddygaeth. 20 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 21

Ymgysylltu â Sipsiwn a Theithwyr Teitl y Prosiect Clybiau Astudio ar ôl Ysgol Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Gwasanaeth Addysg Sipsiwn a Theithwyr Sir Benfro ac Ysgol Monkton Priory Grŵp Coleg CNPT a Gwasanaethau Cymdeithasol CNPT, Coleg Gŵyr Abertawe, Ysgolion Uwchradd yn Abertawe GRWPIAU TARGED Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr Mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Addysg Sipsiwn a Theithwyr Sir Benfro, rydym wedi gweithio gydag grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Monkton Priory. Bu r disgyblion yn mynychu pedwar digwyddiad oedd wedi u teilwra yn ôl diddordebau r grŵp. Nod y digwyddiadau oedd cyflwyno r disgyblion i r syniad o addysg uwch fel llwybr posibl yn y dyfodol, a chodi lefel eu dyheadau. Roedd y digwyddiadau hefyd yn ceisio cyfrannu at y cwricwlwm ysgol a sicrhau bod y cyfranogwyr yn dysgu sgiliau newydd ac yn ehangu eu profiad o addysg. Dau ddiwrnod o weithdai Celf a Dylunio ar gampws Dinefwr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant oedd y ddau ddigwyddiad cyntaf. Ochr yn ochr â hynny roedd rhaglen gymdeithasol a chyfle i rai o r grŵp aros dros nos yn neuaddau preswyl Prifysgol Abertawe. Roedd y ddau ddigwyddiad arall ar thema STEM ac yn golygu bod y myfyrwyr yn treulio r diwrnod yn labordai Prifysgol Abertawe yn edrych ar echdynnu DNA, peirianneg ar gyfer ceir trydan ac echdoriadau cemegol folcanig. Cafodd y disgyblion amrywiaeth o brofiadau Cafodd y disgyblion amrywiaeth o brofiadau dysgu newydd yn sgîl cael mynediad i gyfarpar a chyfleusterau r brifysgol fel hyn. Ar ôl y digwyddiad: Dywedodd 100% o r disgyblion eu bod wedi dysgu sgiliau newydd. Dywedodd 62% eu bod am barhau â u hastudiaethau ar ôl ysgol. Dywedodd 81% eu bod yn gwybod mwy am AU. Rydw i wedi dysgu llwyth o bethau. Roeddwn i n meddwl bod e n ddiddorol, ac fe wnes i fwynhau. Sylw Athro Roedd y cysyniad o brifysgol yn gwbl anghyfarwydd i lawer o r disgyblion, ac nid oedd gan neb o r disgyblion a fu n mynychu r sesiynau aelodau o u teulu oedd wedi cofrestru ar gyfer addysg prifysgol erioed... Mae r ffaith bod y plant wedi aros yn y neuaddau preswyl ar gampws y brifysgol yn dangos pa mor bwysig yw r ymweliadau hyn ym marn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr... Cafodd y disgyblion eu hysbrydoli gan frwdfrydedd y darlithwyr a chwrdd â myfyrwyr oedd yn mynychu r brifysgol a mynd ar daith o amgylch y campws. Cafodd y cwricwlwm ei gyfoethogi, ac roedd staff Prosiect y Priordy hefyd yn llawn brwdfrydedd yn sgîl cynnwys y sesiynau, gan drefnu gweithgareddau dilynol yn y dosbarth. GRWPIAU TARGED Plant sy n Derbyn Gofal a Rhai sy n Gadael Gofal Mae r Clybiau Astudio ar ôl Ysgol ar gyfer plant sy n derbyn gofal a rhai sy n gadael gofal wedi cael eu cynnal ers 6 blynedd, a u nod yw helpu disgyblion i adolygu ar gyfer eu harholiadau TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Datblygwyd y rhaglen yn y lle cyntaf gan Gydlynydd Addysg Plant sy n Derbyn Gofal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mewn ymateb i r diffyg darpariaeth a chymorth TGAU ychwanegol ar gyfer PDG yn 2009, ac yn dilyn llwyddiant y rhaglen, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi sefydlu eu clwb eu hunain. Cynhelir y clybiau astudio ar gampws coleg, ac maent yn cael eu cynnal am 2 awr ar ôl ysgol. Yn ogystal â chanolbwyntio ar adolygu ar gyfer TGAU, cyflwynir y disgyblion i r coleg a r cyrsiau a r cyfleusterau sydd ar gael ar wahanol gampysau, er mwyn eu helpu i deimlo n gyfforddus mewn amgylchedd coleg. Mae r disgyblion yn cael cyngor gan y gwasanaethau i ddysgwyr ynghylch y Lwfans Cynnal Addysg, ac mae myfyrwyr AU o gefndir gofal yn rhannu eu profiadau gyda r disgyblion. Mae r disgyblion hefyd yn cael cardiau Adnabod i w helpu i deimlo n rhan o r coleg, ac maent yn cael achrediad RhCA. Cynhelir digwyddiad Dathlu i bobl ifanc a u gofalwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, er mwyn cydnabod cyflawniadau r disgyblion. Mae r clwb astudio wedi rhoi hyder i mi wrth ddod i r coleg. O ganlyniad i r clybiau astudio: Mae 58% o r disgyblion yn deall mwy am y mathau o opsiynau sydd ar gael ar ôl Blwyddyn 11. Doedd 33% erioed wedi ystyried mynd i r coleg o r blaen. Mae 67% yn teimlo y gallen nhw fynd i AU petaen nhw n dymuno. Roedd 58% yn cytuno bod pobl fel fi yn mynd i r brifysgol. Dywedodd y disgyblion eu bod wedi mwynhau r sesiynau ac yn teimlo mwy o gymhelliad i anelu at radd C o leiaf. Maen nhw hefyd yn teimlo eu bod yn fwy hyderus ac wedi u hysbrydoli n fwy i ganolbwyntio ar eu harholiadau TGAU. Sylwadau Cydlynwyr Cydlynydd Addysg PDG CNPT: Fe wnaeth agor y cyfleoedd sydd ar gael i rai o r myfyrwyr a helpu hefyd i rannu gwybodaeth rhyngom ni a r gweithwyr proffesiynol sy n gweithio gyda nhw a u gofalwyr. Cydlynydd AB/AU Ymgyrraedd yn Ehangach: Ar ddechrau r ail sesiwn, fe wnes i aros yn y dderbynfa i fynd â r myfyrwyr i r ystafell. Pan na ddaeth neb i r golwg, fe es i lan i r ystafell i weld bod y grŵp wedi ymgartrefu n barod, sy n profi eu bod eisoes yn teimlo n hyderus ac yn gyfforddus ar y campws! 22 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 23

Mega Maths Ymgynghorydd Mathemateg AALl Dinas a Sir Abertawe, Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru, Prifysgol Abertawe, Ysgolion Uwchradd yn Ne-orllewin Cymru Disgyblion Blwyddyn 7 Lluniwyd y prosiect hwn i gynyddu sgiliau rhifedd y disgyblion a rhoi iddynt yr hyder i barhau i astudio Mathemateg fel opsiwn yn y dyfodol. Ar hyd y flwyddyn, mae arweinwyr sy n fyfyrwyr yn ymweld â r ysgolion sy n cymryd rhan ac yn gweithio gyda r disgyblion ar amrywiaeth o weithgareddau. Nod y gweithgareddau hyn yw helpu r disgyblion i baratoi ar gyfer y Cwis Mega Maths ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Bu dros 120 o ddisgyblion o 12 ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn y cwis diweddaraf ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae r disgyblion yn cystadlu â thimau o ysgolion eraill. Mae cynnwys y cwis yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach ac ymgynghorwyr mathemateg AALl, a r nod yw gwella r cwricwlwm Mathemateg CA3 ym Mlwyddyn 7, a galluogi disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu potensial trwy roi iddynt sgiliau rhifedd sylfaenol. Cynhelir y cwis mewn darlithfa gyda botymau sŵn i w gwasgu i ateb, ac mae r timau n ymateb i gwestiynau sy n seiliedig ar fathemateg gweithdrefnol, llythrennedd ariannol ac arsylwi. Yn ystod y cwis, mae r athrawon yn mynychu sesiwn datblygu staff ar lwybrau gyrfaoedd STEM ac adnoddau Mathemateg. Y pedair prif sgil mae r disgyblion yn dweud eu bod wedi u gwella yw: Eu cyflymdra wrth ateb cwestiynau Algebra Mathemateg pen Tablau lluosi Roeddwn i n hoffi r rownd arsylwi, achos bod rhaid i chi ddibynnu ar aelodau eraill y tîm, ac arnoch chi eich hun, felly roedd llawer o waith tîm. Fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn fawr achos roedd yn llawer o hwyl, ac fe helpodd fi i ddysgu mwy. Roeddwn i n dwlu ar y Cwis Mega Maths. Sylwadau Athrawon Roedd yr holl athrawon yn cytuno bod cymryd rhan yn y Cwis Mega Maths yn cyfoethogi r cwricwlwm ac yn helpu r disgyblion i deimlo n fwy hyderus wrth ddefnyddio sgiliau rhifedd. Fe ddwedson nhw: Y diwrnod gorau allan yn yr 20 mlynedd i mi fod yn gweithio fel athro Mathemateg. Diwrnod gwych. Roedd y cwis ar y lefel gywir. Roedd y myfyrwyr oedd yn arwain yn wych gyda r disgyblion. Diolch yn fawr i chi am ddiwrnod arbennig arall! Fe wnaeth y disgyblion fwynhau mas draw. Adborth disgyblion Dywedodd 90% o r disgyblion fod y Cwis Mega Maths wedi rhoi mwy o hyder iddyn nhw yn eu sgiliau rhifedd. Dywedodd 92% fod cymryd rhan wedi eu helpu i wella u sgiliau rhifedd. Dywedodd 72% eu bod yn gwybod mwy am lwybrau dilyniant i STEM. 24 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 25

Ein Cymuned Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cymunedau yn Gyntaf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Menter Iaith Abertawe, Ysgolion Cynradd yn Ne-orllewin Cymru PARTNERIAID Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Y Brifysgol Agored yng Nghymru Coleg Sir Gâr Coleg Gŵyr Abertawe Coleg Castell-nedd Port Talbot Coleg Sir Benfro Gyrfa Cymru YSGOLION A WEITHIOM GYDA NHW Disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 Mae Prosiect Ein Cymuned yn fenter ar y cyd rhwng Ymgyrraedd yn Ehangach a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Gofynnwyd i fwy na 500 o ddisgyblion gyflawni r dasg o greu rhaglen ddogfen fer oedd yn canolbwyntio ar faterion yn eu cymunedau unigol. Prif ffocws y prosiect oedd rhoi cipolwg ar fywydau beunyddiol disgyblion Bl. 5 a 6 mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a r heriau maen nhw n eu hwynebu. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar wella sgiliau ymchwil, meithrin hyder, cynyddu sgiliau cymdeithasol y disgyblion, a hefyd roi hwb i w sgiliau TGCh, gan i r disgyblion gael eu cyflwyno i adrodd storïau yn ddigidol, gan ddefnyddio camerâu a meddalwedd golygu ffilmiau. Yn ystod tair sesiwn dros gyfnod o dair wythnos, nod y prosiect oedd cynyddu ymwybyddiaeth o faterion lleol fel yr amgylchedd, cynaliadwyedd a iechyd. Roedd hynny n golygu bod y disgyblion yn cael cyfle gwych i drafod y materion o ddydd i ddydd yn eu hardal leol, a chipolwg ar y pethau bydden nhw n hoffi eu gweld yn cael eu gwneud yn y dyfodol i wella u cymuned. Adborth disgyblion Dywedodd 95% o r disgyblion eu bod wedi mwynhau gweithio ar Brosiect Ein Cymuned. Dywedodd 95% o r disgyblion y bydden nhw n hoffi cymryd rhan mewn prosiectau tebyg yn y dyfodol. Teimlai 95% o r disgyblion yn fwy hyderus yn defnyddio technoleg creu ffilmiau. Roedd 90% o r disgyblion wedi mwynhau gweithio gyda r Myfyrwyr oedd yn Llysgenhadon. Roedd yn llawer o hwyl dysgu gyda r llysgenhadon. Rydw i wedi mwynhau n fawr. Byddwn i n hoffi gwneud hyn eto achos roeddwn i wrth fy modd... Rydw i wedi mwynhau r prosiect yn fawr, mae wedi bod yn wych! Fe wnes i fwynhau r ffaith mod i wedi dysgu pethau newydd. Rwy n gobeithio n fawr y byddan nhw n dod eto. Birchgrove Comprehensive School Bishop Gore School Bishop Vaughan Catholic School Bishopston Comprehensive School Blaendulais Primary School Blaenymaes Primary School Brynsierfel Community Primary Cadle Primary School Cefn Hengoed Community School Cefn Saeson Comprehensive School Christchurch Primary School Coedcae School Croeserw Primary School Crwys Primary School Cwmnedd Primary School Cwmtawe Community School Cwrt Sart Community Comprehensive School Cymer Afan Comprehensive School Cymer Afan Primary School Dyffryn School Dylan Thomas Community School Gendros Primary School Glan Afan Comprehensive School Glyncorrwg Primary School Godrergraig Primary School Gors Community Primary School Gowerton Sixth Form School Knelston Primary School Llangatwg Community School Maesmarchog Primary School Maes y Morfa Primary Community School Milford Haven School Monkton Priory Community Primary Morriston Comprehensive School Olchfa Comprehensive School Oystermouth Primary School, Pembroke Dock Community School Pembroke School Pen Afan Primary School Pentrehafod School Pentre r Graig Primary School Pontarddulais Comprehensive School Portmead Primary School Queen Elizabeth High School Sandfields Comprehensive School Seaview Community Primary School Sir Thomas Picton School St Helen s Primary School St Illtyd s R C Primary School St John Lloyd Catholic Comprehensive School St Joseph s R C Junior School St Joseph s School and Sixth Form Tasker Milward V C School Terrace Road Primary School Townhill Community School Trallwn Primary School Trimsaran Community Primary School Waun Wen Primary School Waunceirch Primary School Ysgol Bro Gwaun Ysgol Bryn Teg Community Primary School Ysgol Bryngwyn School Ysgol Dewi Sant Ysgol Dyffryn Aman Ysgol Gellionnen Ysgol Glan-y-Môr School Ysgol Gyfun Emlyn Ysgol Gyfun Gŵyr Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe Ysgol Gyfun y Strade Ysgol Gyfun Ystalyfera Ysgol Maes y Gwendraeth Ysgol Maesydderwen Ysgol Parcyrhun Ysgol y Felin Primary School Ysgol y Preseli 26 YMGYRRAEDD YN EHANGACH PARTNERIAETH DE-ORLLEWIN CYMRU ASTUDIAETHAU ACHOS 27

01792 602 128 ymgyrraedd.yn.ehangach@abertawe.ac.uk swansea.ac.uk/cy/ymgyrraedd-yn-ehangach @ReachingWider www.facebook.com/reaching.widerswwp