Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Gwanwyn/Spring 2015 Dathlu ein Penblwydd Cyntaf Grŵp Cynefin Mwy na thai / More than housing Celebrating Our First Birthday Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300 111 2123 Tŷ Silyn, Penygroes Caernarfon LL54 6LY Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala LL23 7SP 54 Stryd y Dyffryn Dinbych LL16 3BW 33-35 Stryd Fawr Llangefni LL77 7NA
CYNNWYS / CONTENTS Cynnwys a Chroeso Contents and Welcome Cystadleuaeth Garddio Gardening Competition Penblwydd cyntaf Grŵp Cynefin Grŵp Cynefin s first birthday Penblwydd cyntaf Grŵp Cynefin Grŵp Cynefin s first birthday Cit i Siarcod Corwen!/Corwen Sharks kitted out! Cynllun Gofal y Groes Goch The Red Cross Gofal Service Gardd i fywyd gwyllt yn Nhrem yr Ysgol Wildlife Garden at Trem yr Ysgol Prosiect tai gwerth 1.6m yn Meirionnydd 1.6m housing project in Merionnydd Diddordeb mewn bod yn gyfranddaliwr? Interested in becoming a shareholder? Eich cylchlythyr chiyw CALON! CALON is your newsletter Tudalen Plant Children s Page 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 Gair o Groeso Croeso i rifyn y Gwanwyn o Calon, eich cylchlythyr tenantiaid chwarterol. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i Grŵp Cynefin gael ei sefydlu, rydym yn edrych yn ôl ar rhai o r uchafbwyntiau ar dudalennau 4 a 5. Dwi n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn, a dwi n falch o gyhoeddi ein bod wedi cael dechrau llwyddiannus iawn i n ail flwyddyn, gan ennill Gwobr Tai y DU am Hwb Dinbych. Dwi n credu fod y prosiect yn dangos beth mae Grŵp Cynefin yn ei wneud orau darparu cefnogaeth ymarferol i gymunedau sy n mynd tu hwnt i r angen am dai. Hefyd yn y rhifyn yma mae yna wybodaeth am sut i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Garddio cyntaf. Mae yna nifer o gategorïau i ddewis ohonynt, felly os ydych yn arddwr brwd, beth am fynd amdani? Walis George Word of Welcome Welcome to the Spring edition of Calon, your quarterly tenants newsletter. A year has passed since Grŵp Cynefin was formed, and we look back to some of the highlights on pages 4 and 5. I think you ll agree that it s been a very busy year, and I m pleased to announce that we ve had a successful start to our second year, winning a UK Housing Award for Hwb Dinbych. I believe the project showcases what Grŵp Cynefin does best - providing practical support within local communities that goes beyond housing needs. Also included in this issue is information about how to enter our first Gardening Competition. There are a number of categories for you to choose from, so if you re a keen gardener, why not give it a go? Walis George Rydym yn gallu darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill yn cynnwys print mawr, tâp sain a Braille. Cysylltwch â ni am gymorth pellach. We are able to provide information in other formats including large print, audio tape and Braille. Please contact us for further assistance. 2
Cystadleuaeth Garddio Gyda r haf ar y gorwel mae n amser unwaith eto i fynd allan a gwneud ychydig o waith garddio. Beth am gael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled yma drwy gystadlu yn ein cystadleuaeth garddio? Mae gwobrau ariannol ar gael i r enillwyr: Dyma r 5 categori: YR ARDD LYSIAU / RHANDIR ORAU Os ydych chi n cael hwyl ar dyfu eich llysiau eich hun, dyma ch cyfle i gael clod am ffrwyth eich llafur! YR ARDD ORAU I unrhyw denant sydd â gardd breifat. GARDD GYMUNEDOL ORAU Yn agored i drigolion sy'n cynnal gardd gymunedol POTIAU A BASGEDI Mae r categori hwn ar gyfer y rhai ohonoch sydd heb ardd ond wedi addurno y tu allan i ch cartref gyda basgedi crog, tybiau blodau a.y.b. gan wneud y mwyaf o r ychydig le sydd ar gael. GARDDWR IFANC Cystadlauaeth Blodyn Haul uchaf i blant ysgol cynradd. Gardening Competition As the summer approaches it will be time again to start mowing the lawns and watering the flower beds why not get recognition for all this hard work and enter our gardening competition? Cash prizes are available for winners. These are the 5 categories: BEST VEGETABLE PATCH / ALLOTMENT If your vegetable patch / allotment is growing the seeds of success and you are enjoying the fruits of labour, this is your chance to blossom! BEST KEPT GARDEN For anyone with a private garden. BEST COMMUNAL GARDEN Open to residents that maintain a communal garden. POTS AND BASKETS This category if for anyone who doesn t have a garden but has decorated the outside of their home with hanging baskets, flower tubs etc. and making the most of what little space you have. YOUNG GARDENER Tallest Sunflower competition for primary school children. Judges will be out and about on the estates in July and the winners will be announced later in the same month. Bydd y beirniaid yn dod o amgylch ym mis Gorffennaf a byddwn yn cyhoeddi r ennillwyr yn ddiweddarach yn yr un mis. I ymgeisio, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gystadlu sydd ar gael gan y Tîm Cymunedol ar 0300 111 2122 neu fe allwch lawr lwytho ffurflen oddi ar wefan Grŵp Cynefin. To enter you will need to complete an entry form which can be obtained from the Community Team on 0300 111 2122 or downloaded from the Grŵp Cynefin website. Dyddiad cau: 5 Mehefin 2015 / Closing date: June 5th 2015 3
Grŵp Cynefin yn dathlu ein pen blwydd cyntaf Ar 1 Ebrill, bu i ddwy o gymdeithasau tai mwyaf blaenllaw gogledd Cymru uno i ffurfio Grŵp Cynefin. 12 mis yn ddiweddarach, rydym yn dathlu ein pen blwydd cyntaf. Cyflawnwyd llawer ar draws ein hardal weithredol y gallwn ymfalchio ynddo, o gwrdd ag angheion tai penodol y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ar draws Gogledd Cymru i fentrau sydd wedi darparu mwy na thai. Wrth sefydlu r gymdeithas newydd, dewiswyd yr enw Cynefin am ei fod yn cynrychioli r union bethau y ceisiwn eu darparu cartrefi diogel, croesawgar mewn amgylchedd lle mae ymdeimlad o berthyn. Credwn mai dyma r union beth i ni lwyddo i w gynnig i n tenantiaid yn y 12 mis diwethaf. Grŵp Cynefin celebrating our first birthday On 1 April, two of North Wales leading housing associations merged to form Grŵp Cynefin. 12 months on we celebrate our first anniversary. From meeting the specific housing needs of the communities we serve across North Wales, to initiatives that provide more than just housing, there s plenty that s happened across the region that we can look back on with great pride. When we founded the new association, we chose Cynefin as a name that represents exactly what we re looking to provide safe, welcoming homes and environments where people feel they belong. We think that over the last 12 months we ve been successful in offering just that to our tenants. Lets look at some of the highlights: Gadewch i ni edrych yn ôl ar rhai o r uchafbwyntiau: EBRILL MEHEFIN APRIL Dathlu uno Tai Clwyd a Tai Eryri wrth lansio Grŵp Cynefin. Celebrating the merger of Tai Clwyd and Tai Eryri Work starts on site at Pant yr Eithin, Harlech Cychwyn gwaith ar safle yn Pant yr Eithin, Harlech. JUNE 4
GORFFENNAF MEDI JULY Gorffen ein cartrefi Passivhaus cyntaf yn Nwyran, Ynys Môn Completion of our first Passivhaus homes at Dwyran, Anglesey SEPTEMBER Buddsoddi 1.1m mewn 5 cartref newydd ym Mhenyffordd, Sir y Fflint Investing 1.1m in 5 new homes at Penyffordd, Flintshire HYDREF TACHWEDD OCTOBER Caniatâd Cynllunio ar gyfer Tai Gofal Ychwanegol yn Hafod y Gest, Porthmadog Planning permission granted for Extra Care Housing at Hafod y Gest, Porthmadog CHWEFROR 2015 MAWRTH 2015 Agoriad Swyddogol Hwb Dinbych Official opening of Hwb Dinbych NOVEMBER FEBRUARY 2015 Prosiect tai 1.6m yn trawsnewid bywydau teuluol ym Meirionydd 1.6m housing project transforms family life in Meirionydd MARCH 2015 Buddsoddi 4.5m mewn 40 o gartrefi newydd i bedair cymuned ar Ynys Môn 4.5m Investment in 40 new homes for four communities on Anglesey Am fwy o fanylion am weithgareddau r flwyddyn gyntaf, ewch i r adran Newyddion o n gwefan For more details on the highlights of our first year, please visit the News section of our website 5
Cit i Siarcod Corwen! Mae gan aelodau Clwb Nofio Siarcod Corwen cit newydd sbon diolch i grant datblygu cymunedol gan Grŵp Cynefin. Ddaru r clwb wneud cais am arian ym mis Rhagfyr, ac yn Ionawr eleni cawsant 466.20 i brynu cit o crys-t a siorts a all gael eu defnyddio gan y 50 aelod o r clwb mae hyn y golygu fod y plant yn cyrraedd cystadlaethau yn edrych fel tîm! Am fwy o fanylion am sut i geisio am grant, cysylltwch a n Tîm Cymunedol ar 0300 111 2122 neu e-bostiwch post@grwpcynefin.org. Gall grwpiau o fewn ein ardal weithredol wneud cais am grant ar gyfer gwneud gwahaniaeth yn yr ardal maent yn byw. Corwen Sharks get Kitted Out! Corwen Sharks Swimming Club members have a brand new kit thanks to a community development grant from Grŵp Cynefin. The club applied for funding last December, and this January they were awarded 466.20 to buy t-shirt and shorts kits that can be used by all 50 members of the club which means that the children now arrive at competitions looking like a team! For more details about how to apply for a grant call the Community Team on 0300 111 2122 or e-mail post@grwpcynefin.org. Community groups within our operational area can apply for a grant to make a difference in the area they live. Cynllun Gofal y Groes Goch Ydych chi wedi cael digon o gwmni r teledu, radio neu r bedair wal? Ydych chi n teimlo bod gennych chi lot i w ddweud ond does gan neb yr amser neu does neb ar gael i wrando? Ydych chi n ysu am y cyfle i roi r byd yn ei le a chlywed eich hun yn chwerthin unwaith eto? Mae Cynllun Gofal yn cynnig gwasanaeth cyfeillio byr dymor drwy ymweliadau a chyfeillio dros y ffôn i bobl dros 50 mlwydd oed yng Ngogledd Cymru a fyddai n elwa o gwmnïaeth, cefnogaeth a chlust i wrando ben arall i r ffôn. Efallai gallwch chi, cymydog, rhywun yn y gymuned neu aelod o ch teulu gymryd mantais o r gwasanaeth? Neu beth am fod yn rhan o r tîm o wirfoddolwyr brwd a gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall? Cysylltwch hefo r Groes Goch am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda. 01745 828360 / GofalNorthWales@redcross.org.uk The Red Cross Gofal Service Have you had enough of the television, radio or the four walls as company? Do you feel that you have a lot to say but no one has the time or no one is available to listen? Do you crave for the chance to put the world to rights and hear yourself laughing again? The Gofal Service offers both short term home visiting and telephone befriending for people over 50 years of age across North Wales, who would benefit from companionship, support and a listening ear. Perhaps you, a neighbour, someone in the community or a member of your family would benefit from the service? Or have you thought about joining their team of dedicated volunteers and be that person making a real difference to somebody else s life? Please get in touch with the Red Cross for more information. 01745 828360 / GofalNorthWales@redcross.org.uk 6
Gardd i fywyd gwyllt yn Nhrem yr Ysgol Mae Ms Davis yn byw yn Nhrem yr Ysgol, Llangollen, dros y blynyddoedd mae hi wedi bod yn edrych ar ôl yr ardd i annog bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Esboniodd Ms Davis: Ddaru ni ddechrau hefo pethau syml, fforddiadwy fel bwrdd adar, planhigion a fyddai n denu gwenyn a glöyn byw, a tyrru brigau coed marw at eu gilydd i greu cynefin i fywyd gwyllt. Mae pethau wedi altro ers hynny! Maent wedi plannu blodau gwyllt ym mhen pella r ardd, gosod bocsys nythu i adar a hogitat i ddraenog. Mae dros 30 o wahanol fathau o adar yn ymweld a r ardd, yn cynnwys aderyn y tô, sydd ar restr coch yr RSPB oherwydd dirywiad yn eu niferoedd. Mae ymwelwyr eraill yn cynnwys llyffantod, brogaod, ystlumod a chwistlod. Meddai Ms Davis Pan gafodd y tai yma eu hadeiladu yn 2002, roeddem yn gweld ambell i dderyn du. Ond ers i ni ddatblygu r ardd, mae r amrywiaeth o fywyd gwyllt sy n cael eu denu yma n anhygoel! Mae gweld yr holl rhywiogaethau gwahanol ar ein stepen drws yn rhoi boddhad mawr i ni! Gall unrhyw un annog bywyd gwyllt i w gardd does dim rhaid iddo fod yn ddrud na llafurus. Gall un peth bach wneud gwahaniaeth pel plannu gwrych neu flodau gwyllt. Am fwy o fanylion ewch i http://homes.rspb.org.uk/ i archebu taflen Rhoi Cartref i fywyd gwyllt am ddim. Wildlife Garden at Trem yr Ysgol Ms Davis lives at Trem yr Ysgol in Llangollen, and over the past few years she s been managing their garden to encourage wildlife and biodiversity. Ms Davis explained We started with simple, affordable things like a bird feeder, plants that would attract bees and butterflies, and piling up dead branches to make habitats for wildlife. Things have really taken off since then! They ve planted wildflowers at the top of their garden, installed nesting boxes for birds and a hogitat for hedgehogs. Over 30 species of birds are regular or occasional visitors, including house sparrows, which are currently on the RSPB red list because of declining numbers. Other visitors include toads, frogs, bats, and shrews. Ms Davis said When these houses were first built, in 2002, we d see the occasional blackbird. But since we ve been developing the garden, the variety of wildlife attracted into it is amazing! Watching all these different species on our doorstep is so rewarding! Anyone can encourage wildlife into their garden it doesn t have to be expensive or time-consuming. Just one thing can make a difference planting a flowering shrub or some wildflowers. For more information visit http://homes.rspb.org.uk/ where you can request a free Give Nature a Home guide. 7
Prosiect tai gwerth 1.6m yn trawsnewid bywydau teuluol ym Meirionnydd Mae tenantiaid mewn datblygiad stad o dai gwerth 1.6m newydd yn dweud bod eu bywydau wedi eu trawsnewid gan y tai newydd. Mae 17 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu yn Nhai Pendre, Tywyn, yn cynnwys pedwar fflat, naw tŷ a phedwar byngalo, gydag un o'r byngalos wedi ei ddylunio n bwrpasol ar gyfer teulu sydd ag anghenion arbennig. Mae Mr & Mrs Pitt, sy n byw yn y byngalo sydd wedi ei addasu n arbennig hefo u pedwar o blant, yn dweud fod "y byngalo wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i ni i gyd." Mae plant iau'r teulu yn dioddef o salwch sy'n cyfyngu ar eu bywydau. Nid oedd eu cartref blaenorol yn ddigon mawr ar gyfer eu hanghenion, yn enwedig gan bod un o'r plant mewn cadair olwyn. Yn ôl Mrs Jo-Anne Pitt: "Mae'n anodd egluro sut y mae mân newidiadau i'n cartref wedi trawsnewid ein bywyd teuluol yn llwyr, diolch i Grŵp Cynefin. "Mae ein plant ieuengaf, Anthony, 10 a Annalyse, 2, ag anghenion arbennig, gydag Anthony yn dioddef o barlys yr ymennydd difrifol ac epilepsi. Mae ei quadriplegia yn golygu bod gennym ddau o ofalwyr sy'n cynnig rhywfaint o gefnogaeth i ni yn ystod y dydd, gyda Mark, fy ngŵr, a minnau yn gofalu am Ant yn ystod y nos hefyd. "Mae'r ffaith bod ein hystafelloedd gwely drws nesa i n gilydd rŵan ac ar yr un lefel, yn golygu y gallaf godi i ofalu am anghenion Ant yn llawer haws yn ystod y nos. Mae wedi rhoi tawelwch meddwl i ni. "Gall Ant hefyd ymuno â ni fel teulu yn ystod prydau bwyd yn y gegin. O'r blaen, roedd yn anodd cael ei gadair olwyn i mewn i'r stafell fwyta gyda phawb arall yn eistedd wrth y bwrdd. Mae chwaer a brawd hŷn y teulu, Megan, 14 ac Elliot, 13 hefyd yn falch eu bod bellach yn cael stafell wely yr un yn eu cartref newydd. Meddai Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas, fu n ymweld a r stad diwedd Ionawr "Mae tenantiaid sydd wedi symud i i'w cartrefi newydd yn dweud bod y tai wedi trawsnewid ansawdd bywyd eu teuluoedd. Dwi n llongyfarch Grŵp Cynefin am fuddsoddi yn ne Meirionnydd, gan gynnig cartrefi o safon i bobl leol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng nghefn gwlad Gwynedd. 8
1.6m housing project transforms family life in Meirionnydd Tenants at a new 1.6m housing development say that their lives have been transformed by the new properties. 17 new homes have been built at Tai Pendre in Tywyn, including four flats, nine houses and four bungalows, with one of the bungalows custom built for a family with bespoke needs. Mr & Mrs Pitt, who live in the specially adapted bungalow with their who four children, say the bungalow has made an amazing difference to us all. Both the younger children of the family suffer from life limiting illnesses. Their previous home was not large enough for their needs, especially as one of the children is in a wheelchair. Mrs Jo-Anne Pitt explains: It s very difficult to explain how minor changes to our home have completely transformed our family life, thanks to Grŵp Cynefin. Our youngest children, Anthony, 10 and Annalyse, 2, both have special needs, with Anthony suffering from severe cerebral palsy and epilepsy. His quadriplegia means we have two carers that offer us some support during the day, with both myself and Mark, my husband, caring for Ant during the night. The fact that our bedrooms are now adjacent and on the same level, mean I can attend to Ant s needs much easier during the night. It s given us a great deal of peace of mind. Ant can also now join us as a family during meal times in the kitchen. Before, it was difficult getting his wheelchair into the dining room with everyone else sat at the table. Older siblings, Megan, 14 and Elliot, 13 are delighted that they also now have a bedroom each. Dwyfor Meirionnydd AM, Dafydd Elis-Thomas, who visited the new homes at the end of January, said Tenants who have moved into their new homes say the houses built have transformed the quality of their family s lives. I congratulate Grŵp Cynefin for investing in south Meirionnydd, offering quality homes for local people and making a real difference to people s lives in rural Gwynedd. 9
Diddordeb mewn bod yn gyfranddaliwr o r gymdeithas? Pam ymuno? Interested in becoming a shareholder of the association? Why join? Mae Grŵp Cynefin yn atebol i r gymuned leol drwy aelodau r Gymdeithas. Bydd Cyfarfod Blynyddol o r aelodau yn dewis rhai i wasanaethu ar y Bwrdd Rheoli. Rydym yn chwilio am unigolion a sefydliadau i ymuno â ni fel ein bod yn fwy atebol i r cymunedau lleol. PWY ALL YMUNO? Tenantiaid Unigolion Grwpiau, mudiadau a sefydliadau lleol megis Cynghorau Cymuned a Thref BETH YW R GOST? Am dâl aelodaeth o 1.00 yn unig gall unigolion a mudiadau lleol ymuno â Grŵp Cynefin. Bydd pob cyfranddaliwr yn: derbyn copi o Adroddiad Blynyddol a Rheolau Cofrestredig y Gymdeithas a gwahoddiad i'r Cyfarfod Blynyddol neu Gyfarfod Cyffredinol gweithredu, bob amser, er budd y gymdeithas ac er budd y gymuned, fel gwarcheidwaid amcanion y gymdeithas. SUT MAE YMUNO? Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â ni. Grŵp Cynefin is accountable to the local community through the Association s members. An Annual General Meeting of the members will elect those who serve on the Board of Management. We are looking for individuals and organisations to join us so that we are more accountable to our local community. WHO CAN JOIN? Tenants Individuals Groups and local organisations such as Community and Town Councils WHAT IS THE COST? For just 1.00 membership fee, individuals and local organisations can join Grŵp Cynefin. All shareholders shall: receive a copy of the Association s Annual Report and Registered Rules and an invitation to the Annual Meeting or a General Meeting act, at all times, in the interest of the association and for the benefit of the community, as guardians of the objectives of the association. HOW TO JOIN? For more information and an application form for membership, please contact us. 10
Eich cylchlythyr chi yw CALON! Calon Cylchlythyr Tenantiaid / Tenants Newsletter Grŵp Cynefin Gaeaf/Winter 2015 Mwy na thai / More than housing Mrs White o'r Hen Felin, Dolgellau yn dathlu ei phenblwydd yn 100 oed Mrs White from Hen Felin, Dolgellau celebrates her 100th birthday CALON is your newsletter Ydych chi gydag unrhyw newyddion neu syniadau yr hoffech eu rhannu gyda thenantiaid eraill? Oes unrhyw beth yr hoffech ei weld yn cael ei gynnwys yn Calon yn rheolaidd? Os oes, gadewch i ni wybod. Mae croeso mawr i chi gyfrannu tuag at gynnwys y cylchlythyr. Wedi r cwbl, ar eich cyfer chi y mae Calon. Cysylltwch â ni ar 0300 111 2122 neu post@grwpcynefin.org Grŵp Cynefin www.grwpcynefin.org post@grwpcynefin.org Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300 111 2123 Tŷ Silyn, Penygroes Caernarfon LL54 6LY Uned 8 Gweithdai Penllyn, Y Bala LL23 7SP 54 Stryd y Dyffryn Dinbych LL16 3BW 33-35 Stryd Fawr Llangefni LL77 7NA Have you got any news or ideas you would like to share with other tenants? Is there anything you would like to see included in Calon on a regular basis? If yes, please let us know. We would welcome your contributions towards the contents of the newsletter. After all, Calon is for you! Please contact us on 0300 111 2122 or post@grwpcynefin.org Perchnogaeth Cartref Cost Isel Oes gennych chi neu aelod o'ch teulu ddiddordeb mewn cyfleon perchnogaeth cartref fforddiadwy? Os oes, ewch i'n gwefan (www.grwpcynefin.org) am fanylion ein cynlluniau perchnogaeth cost isel, ac am fanylion sut i gofrestru diddordeb. Mae eiddo ar gael yn ardaloedd Bangor, Cyffordd Llandudno, Cei Connah, Oakenholt, Yr Hôb, Brychdyn, Bwcle a tref Wrecsam. Rhent Canolraddol Er yn opsiwn mwy costus na rhent cymdeithasol, efallai ei fod yn opsiwn os ydych chi'n gweithio ac yn derbyn incwm cartref net rhwng 15,000-30,000. Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Tîm Cartrefi Fforddiadwy ar 0300 111 2122 neu ewch i n gwefan www.grwpcynefin.org Low Cost Home Ownership Are you or member of your family interested in low cost home ownership opportunities?, if so, please visit our website (www.grwpcynefin.org) for details of low cost home ownership schemes and information on how to register an interest. Properties are available at Bangor, Llandudno Junction, Connah s Quay, Oakenholt, Hope, Broughton, Buckley and Wrexham town. Intermediate Rental Although a more expensive option than social rent, it may be an option if you are in employment with a net household income of between 15,000-30,000. For further information, please contact the Affordable Homes Team on 0300 111 2122 or visit our website www.grwpcynefin.org 11
Tudalen Plant / Childrens Page 1 Gwasgwch y llus hefo cefn fforc ar blat. Bydd rhain yn mynd i ganol eich fflapjac. 80g Llus neu ffrwythau meddal eraill 35g Blawd gwenith cyflawn 25g Siwgr mân 35g Ceirch 25g Menyn, a mwy i iro r tun 5 80g Blueberries or other soft fruit 35g Wholemeal flour 25g Caster sugar 35g Oats 25g Butter, plus extra for greasing the tin Squash the blueberries with the back of a fork on a plate. These are going to go in the middle of your flapjack. 2 Rhowch y ceirch, blawd, siwgr a menyn mewn powlen a u rwbio hefo u gilydd hefo ch bysedd. Cariwch ymlaen i wneud hyn nes fod y cymysgedd yn debyg i friwsion. Byddwch angen oedolyn ar gyfer hyn. Rhowch y fflapjac ar hambwrdd pobi, ac yna mewn popty sydd wedi i gynhesu i 160 Fan /180 / gas 4 am oddeutu 20 munud. You will need to ask a grown-up for help with this part. Put the flapjack on a baking tray, then into a pre-heated oven at 160ºC Fan/ 180ºC/ gas 4 for about 20 minutes. Put the oats, flour, sugar and butter in the bowl and rub them together with your fingers. Keep doing this until the mixture resembles breadcrumbs. 3 Irwch tun bara hefo menyn. Rhowch hanner y cymysgedd briwsion yn y tun a i wasgu lawr hefo ch llaw. Yna lledaenwch y llus ar ei ben. Grease a loaf tin with butter. Put half of the crumbly mixture into the loaf tin and press it down firmly with your hand. Now spread the blueberries on top. 4 Rhowch weddill y cymysgedd briwsion ar ben y llus a gwasgwch i lawr yn gadarn. Pour the remaining crumbly mixture on top of the blueberries and pat it down firmly. 12