Mae help ar gael Teimlo bod pethau n ormod helpu i ch cadw n ddiogel The Royal College of Psychiatrists 1
Am y daflen hon Mae nifer o bobl wedi helpu i lunio r daflen hon. Mae rhai ohonom â chymhwyster proffesiynol ac eraill wedi byw trwy gyfnodau o drallod mawr ein hunain. Rydym i gyd eisiau sicrhau eich bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi i gadw n ddiogel a sut i gael ato. Rydym yn gwybod eich bod efallai yn teimlo n hollol ddiymadferth rydym yn falch eich bod wedi cymryd amser i ddarllen hwn. Er gwaethaf teimlo nad oes gennych unrhyw reolaeth dros eich bywyd, efallai bod rhai pethau y gallwch chi ac eraill eu gwneud i wella r sefyllfa. Bydd pobl sydd wirioneddol eisiau eich helpu. Efallai eich bod yn eu hadnabod yn barod, fel eich teulu neu eich ffrindiau, neu efallai eu bod yn weithwyr proffesiynol nad ydych wedi u cyfarfod eto. Pan fydd pethau n mynd o chwith Mae pethau drwg yn digwydd i ni i gyd ond gall fod yn anodd siarad amdanyn nhw. Gall pobl eraill deimlo ei bod yn anodd helpu. Maent yn ei gweld hi n anodd gwybod beth i w ddweud wrth rywun sy n ei chael hi n anodd. Pan fydd pethau n mynd o chwith, mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol. Mae n bosibl i chi deimlo n gynhyrfus, mewn sioc neu n ddideimlad. Gallwch deimlo eich bod wedi 2
eich gorlethu â ch teimladau neu wedi ch datgysylltu ohonynt. Gallwch deimlo n unig iawn pan fyddwch mewn trallod. Rydym yn gobeithio y gall y daflen hon eich helpu i deimlo n llai unig, er gwaethaf eich gofidiau. Bywyd gwerth ei fyw Mae n hawdd teimlo fod pethau n ormod pan fo rhywbeth drwg yn digwydd. Efallai nad oes ateb syml neu bod y boen yn ormod i w dygymod. Efallai y byddwch yn teimlo nad yw eich bywyd werth ei fyw. Efallai mai dyma r amser i gael cymorth. Mae meddyliau hunan-laddol yn eithaf cyffredin, ond rydym yn tueddu i beidio â siarad amdanynt. Gall fod yn chwithig neu n frawychus dweud wrth rywun am feddyliau preifat o r fath. Ac mae r rhan fwyaf o bobl sydd â meddyliau hunan-laddol yn llwyddo i gadw eu hunain yn ddiogel. Bod yn onest â ch hunan yw r cam cyntaf i gadw ch hunan yn ddiogel. Os ydych yn darllen y daflen hon, gall fod yn ddefnyddiol rhannu eich pryderon a ch trallod â pherson arall. Nid yw byth yn rhy hwyr i weithredu, hyd yn oed os yw r sefyllfa n ymddangos yn anobeithiol. 3
All rhywun fy neall? Gall fod yn anodd rhannu meddyliau a theimladau preifat. Ond os rhannwch, gall helpu a gall fod yn fodd real o oresgyn cyfnod drwg. Sut bynnag y byddwch yn teimlo, a waeth pa mor bersonol mae n ymddangos, bydd eraill wedi mynd trwy brofiadau tebyg ac felly yn deall rhywfaint o r hyn yr ydych yn ei brofi. Dod o hyd i help Y cam cyntaf yw dod o hyd i rywun y gallwch ymddiried ynddo/ynddi. Efallai bod gennych rywun mewn sylw yn barod. Gall siarad a chael rhywun i wrando helpu i weld pethau n gliriach yn eich meddwl a theimlo n fwy gobeithiol. Weithiau mae n haws siarad am bethau gyda rhywun sydd ddim yn eich adnabod. Efallai y bydd yn anodd credu bod rhywun nad ydych wedi eu cyfarfod o r blaen yn pryderu amdanoch chi a ch sefyllfa, ond mae na bobl sydd yn pryderu amdanoch ac sydd eisiau gwrando. Os ydych chi n meddwl am niweidio eich hun mewn unrhyw ffordd, byddwn ni n eich annog i: ddweud wrth berthynas neu ffrind y gallwch ymddiried ynddo/ynddi trefnu apwyntiad i weld eich Meddyg Teulu cysylltu ag un o r sefydliadau a restrir yn y daflen hon 4
mynd i Adran Achosion Brys (D a AB gynt) yn eich ysbyty lleol. Helpu ch hun Gallwch helpu ch hun mewn sawl ffordd. Gallwch ddechrau trwy wneud cynllun diogelwch ar eich cyfer. Cynllun yw hwn i ch cadw n ddiogel bydd yn gweithio orau os byddwch chi wedi ei lunio eich hun, a dewis y math o gefnogaeth yr ydych yn meddwl fydd yn fuddiol. Dim ond chi all ddod o hyd i ch rhesymau personol dros fyw. Os ydych yn ei gweld hi n anodd meddwl am unrhyw ddyfodol, gall hyn fod yn amser i chi feddwl am adael i rywun arall eich helpu i ymdopi yn y cyfnod anodd. Gwneud Cynllun Diogelwch Gall cynllun diogelwch helpu i drefnu eich meddyliau, fel eich bod yn cael y gefnogaeth gywir ar adeg pan fyddwch ei hangen. Gwnewch restr syml o r pethau y gallwch eu gwneud dros eich hun a r bobl yr hoffech iddyn nhw eich cefnogi. Mae n haws os ydych yn gwybod efo pwy y byddwch yn gallu siarad cyn eich bod eu hangen. Efallai y byddwch eisiau gofyn i rywun eich helpu i lunio r cynllun. Efallai y bydd yn ddefnyddiol cynnwys nodiadau i ch atgoffa o bethau da mewn bywyd, a r pethau i edrych ymlaen atynt yn y dyfodol. 5
Gall cynllun diogelwch gynnwys: Gweithgareddau: cymryd rhan mewn chwaraeon neu fynd am dro gwrando ar gerddoriaeth sy n eich gwneud i deimlo n hapus chwarae offeryn neu hyd yn oed ddrymiau dychmygol cofnodi eich teimladau ar bapur edrych ar ôl anifail anwes neu fynd â chi ffrind am dro gwneud rhywbeth i helpu rhywun arall does dim byd gwell na gwybod bod gennych bwrpas mewn bywyd Enwau ffrindiau a theulu cefnogol Nodyn ar eich ffôn symudol neu yn eich poced, waled neu bwrs o r bobl a r pethau yr ydych yn eu caru; mae rhai pobl yn cario llun o rywun neu anifail sy n bwysig iddyn nhw Cefnogaeth broffesiynol Sefydliadau cefnogaeth gwirfoddol (gweler isod) Pethau i w gwneud os bydd y meddyliau hunan-laddol yn cryfhau neu eich bod yn methu eu hanwybyddu. Cadwch y daflen hon mewn man diogel. Does wybod pryd y byddwch chi neu rywun pwysig i chi ei hangen. 6
FY NGHYNLLUN DIOGELWCH 1. 2. 3. 4. 5. 7
Awgrymiadau defnyddiol i w hystyried Mae miloedd o bobl bob dydd yn ei chael hi n anodd ymdopi... ond maent yn darganfod ffyrdd i ddod dros y teimladau cryf fel nhw, gallwch chi ddod trwy hyn Rhaid i chi ymdopi ag un diwrnod ar y tro. Gall eich trallod fod yn arwydd eich bod angen newid rhywbeth yn eich bywyd. Sefydliadau cefnogi i bobl sy n drallodus, yn cael meddyliau hunan-laddol neu sy n hunan-niweidio, a u teuluoedd Bydd popeth y byddwch yn ei ddweud yn gwbl gyfrinachol. Mae r gwirfoddolwyr yn bobl gyffredin ac ni fyddant yn eich barnu. Rhestrir rhai o r prif sefydliadau isod. Cewch gysylltu â faint fynnoch chi mae i fyny i chi ac mae n iawn cysylltu â mwy nag un. Samariad: Tel: 08457 90 90 90 (24/7); e-bost: jo@samaritans.org Gwasanaeth llinell gymorth 24/7 sy n darparu lle diogel i chi siarad am beth sy n digwydd, sut ydych yn teimlo a sut i ddod o hyd i ch ffordd ymlaen. Mae gwirfoddolwyr y Samariaid yn bobl gyffredin o bob lliw a llun sy n deall bod rhai pethau weithiau na allwch eu trafod gyda phobl sydd o ch cwmpas. Maent yn gwybod, yn aml gydag amser a lle, bod pobl yn gallu dod o hyd i w hatebion eu hunain. 8
PAPYRUS HOPELineUK Ffôn: 0880 068 41 41 ( Llun Gwener 10am 5pm a 7pm -10pm ac ar benwythnos 2pm 5pm). Nod PAPYRUS yw rhwystro pobl ifanc rhag lladd eu hunain. Mae r llinell gymorth â staff proffesiynol yn darparu cefnogaeth, cyngor ymarferol a gwybodaeth i bobl ifanc sy n poeni am eu hunain, ac i unrhyw un sy n poeni am berson ifanc a all hunan-niweido. Mae gan PAPYRUS nifer o adnoddau defnyddiol yn cynnwys cardiau cyswllt HOPELine UK. Ffoniwch 01925 572444 neu Ffacsiwch 01925 240502 am becyn sampl. Cymorth arbenigol i bobl sy n hunan-niweidio Get Connected: Ffôn: 080 8808 4994 (1pm 11pm) Yn cynnig help dros y ffôn a thrwy e-bost i bobl ifanc (dan 25 oed) sy n hunan-niweidio. TheSite.org Mae TheSite.org yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bob unigolyn 16-25 oed yn y DU. Mae n cynnwys cefnogaeth a chyngor penodol am hunan-niweidio. RecoverYourLife: Cymuned Gefnogi Hunan-Niwed y Rhyngrwyd. Mae hefyd yn darparu cefnogaeth ar gyfer unrhyw broblem emosiynol, yn cynnwys hunan-niwed. 9
Cefnogaeth benodol ar gyfer plant a phobl ifanc Beatbullying: www.beatbullying.org Mae Beatbullying yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws y DU i atal bwlio ac mae n helpu pobl ifanc i gefnogi ei gilydd. ChildLine: Ffôn: 08000 111 Os wyt ti n poeni am unrhyw beth, gall fod yn rhywbeth mawr neu fach, paid â i gadw i ti dy hun. Gall siarad â rhywun wir helpu. Os oes rhywbeth ar dy feddwl, mae ChildLine yno i ti. Selfharm.co.uk: Gwefan ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed a affeithir gan hunanniwed. E-bost: info@selfharm.co.uk Mae YoungMinds: www.youngminds.org.uk wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ganddynt lawer o wybodaeth Ffynonellau cefnogaeth eraill Big White Wall: www.bigwhitewall.com Gwasanaeth dienw, diogel, ar lein i bobl dros 16 oed. Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth eraill sy n teimlo fel chi, 24/7, a dysgu ffyrdd i deimlo n well a sut i ymdopi â ch problemau 10
eich hun. Cadwch yn ddiogel trwy gefnogaeth 24/7 Tywysyddion Wal (Wall Guides) hyfforddedig. Breathing Space: Ffôn: 0800 83 85 87 (diwrnod gwaith: Llun Iau: 6pm -2am; Penwythnos: Gwener 6pm Llun 6am). Mae Breathing Space yn wasanaeth cyfrinachol ar y ffôn ac ar lein ac am ddim i bobl yr Alban sy n profi ysbryd isel, iselder neu bryder. Llinell gymorth CALL (Cymru): Ffôn: 0800 132 737 Gwasanaeth am ddim 24/7 yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion perthynol i bobl Cymru. Tecstiwch help i 81066. CALM: Campaign Against Living Miserably: Ffôn: 0800 585858 Yn cynnig cymorth trwy r wefan a llinell gymorth i ddynion rhwng 15-35 oed sy n isel eu hysbryd. Cynigir cefnogaeth a gwybodaeth i r sawl sy n ffonio. Mae r galwadau yn gyfrinachol, dienw ac am ddim. Mae r llinell gymorth ar agor o 5pm hanner nos, ddydd Sadwrn, Sul, Llun a Mawrth, bob 11
wythnos o r flwyddyn. Rhif Testun 07537, dechreuwch eich neges testun cyntaf gyda CALM1. Consumer Counselling Credit Services: Gwasanaeth cefnogi ar lein am ddim yn darparu cyngor ymarferol a dienw am faterion ariannol a dyled. CRUSE Bereavement Care: Linell gymorth: 0944 477 9400, e-bost: helpline@cruse.org.uk Depression Alliance: Ffôn: 0845 123 23 20 Gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth i bobl sy n dioddef gan iselder, ac i deuluoedd sy n dymuno helpu. Grwpiau hunangymorth, gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o iselder. E-bost: information@depressionalliance.org.uk Depression UK: Grŵp cyd-gymorth cenedlaethol i bobl sy n dioddef gan iselder. E-bost: info@depressionuk.org Drinksmarter: Linell gymorth: 0800 7 314 314 Ffoniwch yn rhad ac am ddim unrhyw bryd i siarad â rhywun yn gyfrinachol am alcohol. 12
Mind: Llinell wybodaeth: 0300 123 3393 (Llun Gwener 9am-6pm) Darparu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys mathau o drallod meddyliol, lle i gael help ac eiriolaeth. Maent yn gallu darparu manylion cymorth a chefnogaeth i bobl yn eu hardal eu hunain. E-bost: info@mind.org.uk National Debtline: Ffôn: 0808 808 4000 Cyngor cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim ar sut i ddelio â phroblemau dyled. Galw Iechyd Cymru: Ffôn: 0845 46 47 Am gyngor iechyd ac i dawelu meddwl, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. SANE: SANEline: 0845 767 8000 6pm (11pm); e-bost: sanemail@sane.org.uk Cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth arbenigol i unrhyw un mae iechyd meddwl wedi eu haffeithio, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr. Mae SANE yn cynnig cefnogaeth 1:1 trwy linell gymorth ac e-bost a chefnogaeth cyfoedion trwy Fforwm Cefnogaeth ar-lein lle mae pobl yn rhannu eu teimladau a u profiadau o iechyd meddwl, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth am opsiynau cefnogaeth a thriniaeth. Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS): Llinell gymorth: 0844 561 6855 (9am 9pm bob dydd). 13
UK National Drugs helpline: Ffôn: 0800 77 66 00 Gwasanaeth 24/7 yn cynnig cyngor a gwybodaeth dros y ffôn yn gyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sy n pryderu, neu sydd â chwestiynau, am gyffuriau. Grwpiau Cefnogi Manylion am sefydliadau cefnogi cleifion y DU, grwpiau hunangymorth, darparwyr gwybodaeth iechyd a chlefyd, ayyb... Mae pob cofnod yn cael ei groesgyfeirio a i wirio yn flynyddol. This leaflet has been endorsed by the College of Emergency Medicine and the Royal College of Nursing. 14
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cynhyrchu: ystod eang o wybodaeth iechyd meddwl i gleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol daflenni gwybodaeth ar driniaeth yn seiciatreg, megis gwrthiselyddion a Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) llawer o'n taflenni a thaflenni ffeithiau wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill gan gynnwys Arabeg, Wrdw, Pwyleg a Ffrangeg. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer gofalwyr pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl hefyd wedi cael ei gynhyrchu gan y 'Partneriaid mewn Gofal' ymgyrch. Gellir eu llwytho i lawr o www.partnersincare.co.uk. I gael catalog o'n deunyddiau, cysylltwch â'r Adran Taflenni, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 17 Belgrave Square, Llundain SW1X 8PG. Ffôn 44 (0) 20 7235 2351 est. 6259, Ffacs 44 (0) 20 7 235 1935; E-bost leaflets@rcpsych.ac.uk. Lluniwyd y daflen gan Fwrdd Golygyddol Addysg Cyhoeddus Goleg Brenhinol Seiciatryddion. Golygydd y Gyfres: Dr Philip Timms Prif Awduron: Dr Alys Cole-King, Seiciatrydd Cyswllt Ymgynghorol/Open Minds Alliance CIC gyda sylwadau gan yr Athro Stephen Platt, Dr Gill Green (STORM), Dr Chris Manning, Martin Seager o Fwrdd Ymgynghorol Iechyd Meddwl y Coleg Meddygaeth, Joe Ferns o r Samariaid, a Dr Philip Timms gyda chyfraniadau gan Fforwm Iechyd Meddwl RCGP/RCPsych. Illustration by Lo Cole: www.locole.co.uk Mae r daflen yn adlewyrchu r dystiolaeth orau oedd ar gael adeg ei hysgrifennu. Cefnogir y daflen gan Goleg Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol Nyrsio. Awst 2012. I w hadolygu: Awst 2014. Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gellir lawr-lwytho r daflen, ei phrintio, ei llungopïo a i dosbarthu yn rhad ac am ddim cyn belled ag y cydnabyddir Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac na fydd unrhyw elw i w gael o i defnyddio. Rhaid cael caniatâd i atgynhyrchu r daflen maen unrhyw ffurf arall gan y Pennaeth Cyhoeddiadau. mailto:djago@rcpsych.ac.uk Nid yw r Coleg yn caniatáu ail-bostio ei daflenni ar unrhyw safle arall, ond caniateir cyswllt uniongyrchol iddynt. DIM IECHYD HEB IECHYD MEDDWL www.rcpsych.ac.uk/info The Royal College of Psychiatrists is a charity registered in England (228636) and in Scotland (SC038369).